Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

SARAH WILLIAMS, Etifeddes…

News
Cite
Share

SARAH WILLIAMS, Etifeddes y Gelli. ITUG-CHWEDL AIL OREU EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEREUDIR CYMRU, 1879. PENOD XXVII. Y FRADWRIAETH YN DYFOD I'R AMLWG-YR YSGLYFAETH YN CAEL EI ACHITB. Gwendolen, ni oddefaf i chwi chwareu rhagor a mi Y mae pob peth yn awr yn barod. Dychwek Syr John prydnawn yfory, ac mewn tri diwrnod ar ol hyny, cyirer v briorlas le," meddai Arglwydd y Dyffrvn wrth Gwendolen, ei ferch. Wei, bydd heb yr un briodferch- hyny vw, os na all ddyfod o hyd i un yn yr amser byr hyna," atebai Gwendolen yn araf. Yn sier i chwi, ni ddeuaf fi byth yn wraig iddo." OD i addawsoch hyny ?" ebai" ei ar- elwvddiaeth. Gwyr Syr John yn dda yr amgylch- iadau o dan ba rai y rhoddwyd yr addewid, ac v nitie yn rhaid fod ei gydwybod yn adamantaidd i wasgu am ei chyflawniad. Y IDoe fy ngwefusau wedi eu selio hyd nes y byddaf wedi cael fy rhyddhau oddiwrth fy adduned ond ai ni ellwch fynghredui, eich plentyn, pan y dywedaf wrthych, pe buasech ddim ond yn gwybod y cwbl, y byddai yn well genych weled fy ngladdu na bod yn wraig i Syr John Gwyn byth ?" Ffolineb, blectyn! Gwnaf i chwi ufuddhau, neu cewch oddef y canlyniad, a Gwilym hefyd. Ni chewch eich cefnogi ganddo ef, sicrhaf hyny i chwi. Mynaf eich gwahanu ar unwaith, a bydd i chwi gael eich gosod mewn caethiwed unig hyd nes y dychwelwch at eich dyledswydd." Yr wyf yn gwneyd fy nyledswydd yn awr, ac nid oes un gallu ar y ddaear a all fy symud oddiwrtho," ebai y foneddiges ieuane yn gadarn. Allan o'm golwg a chwi, y ddyhiren!" Uefai ei arglwyddiaeth. "Yn awr, ewch —ewcb, neu"—, ac yn nghyffro ei lid, cododd ei law yn fygythiol at y bender- fynol Gwendolen. Ai nid ydych yn fy nghlywed ?" gwaeddai drachefn wrth ei gweled yn sefyll yn ddiysgog. "Paham mad ewch ?" "Fy arglwydd, larll Conwy a Mr. "Williams!" ebai gwas wrth agor y drws, yr hwn a ddeallodd ar unwaith, wrth olwg gynhyrfus ei feistr, fod rhyw annealltwr- iaeth rhyngddo ef a'i ferch. Pa beth a ddywedaist, y gwalch ? Pa fodd yr wyt yn beiddio fy rhwystro i?" gwaeddai ei arglwyddiaeth a'i lais bron yn cael ei dagu gan ddigofaint. Ond cyn i'r gwas allu cael amser i ateb, cerddodd dau ddyn arall i mewn i'r ystafell gydag araf- wch a godai yn naturiol oddiwrth wendid yr ieuengaf o'r d Jau, yr hwn a ymgynaliai ar fraich ei gydymaith, William! William! diolch i'r Nef- oedd!" llefai Gweudolen wedi manwl syllu ar ei wyneb, ac yna ymdaflodd i'w freichiau. Tarawodd y weitbred olaf hon Arglwydd y Dyffryn a syndod-edrychodd ar y par ieuanc am enyd, ac yna gwaeddodd allan, « Y filain y filain haerllug, gollwng hi! Ffwrdd a chwi, Gwendolen Ar hyn neidiodd Iarll Conwy yn mlaen Thyngddynt. Ust, fy arglwydd!" meddai ef. Ymataliwch rhag llefaru ymadrodd- ion na wnant ddim ond eich sarhau chwi eich hun wrth eu defnyddio at foneddwr o deulu mor uchel ae henafol a chwithau. Prin y mae eisieu i mi gyflwyno fy hun i chwi, oblegyd cyfarfyddasom a'n gilydd aagor nag unwaith yn amser fy nhad; ond gwnewch fy ngoddef i gyflwyno i chwi Mr. William Williams, perchenog y Gelli, un o'r etifeddiaethau mwyaf ardderchog yn sir Forganwg, a'r hwn, y mae yn ddiamheu genyf, a faddeua bob camwedd a niwed a wnawd i William Parry, yr athraw.' "Twyll ydyw-dichell gythreulig yw y cwbl!" llefai Arglwydd y Dyffryn. Na, fy arglwydd ond y mae hyn yn pasio amynedd," rhwystrai yr iarll yn ddigllawn. "Braidd y gellwch ddysgwyl am ragor o oddefgarwch, hyd yn nod ar gyfer eich oedran a'ch sefyllfa, nag yr ydym ni wedi ei ddangos. Oe ydych yn ddoeth, gwnewch daflu ymaith bob malais a digter allan o'ch mynwes, a rhoddwch dderbyniad gwresog a chalonog i ymofynydd am law eich merch, yr hwn sydd, o ran sefyllfa a chyfoeth, yn gyfuwch a hi, ac, yn mhellach, sydd wedi llwyddo i enill ei ohalon o'r blaen." Y mae yn anmhosibl oedd atebiad ei arglwyddiaeth. "Peidiwch ymyraeth yn amgylchiadau fy nheulu, yr wyf yn dy- mnnn arnoch. Y mae llaw Gwendolen wedi ei rhwymo yn barod, ac nis gallaf dori fy ngair." "Ai dyna eich penderfyniad ?w gofynai ajrr iarll, gan wneyd arwydd ar i William fod yn ddystaw. Ie." Yna, y mae arnaf ofn y cewch eich slomi, trwy y bydd i'ch darpar fab-yn- nghyfraith wrthod yr anrhydedd yr ydych yn ei fwriadu iddo ebai yr Iarll. A allaf ddymuno arnoch am wrando ar ad- loddiad byr a syml, cyn y bydd i chwi ein hanfon i dymer anmhriodol? Cafodd y boneddwr hwn, Mr. William Williams, trwy ryw amgylchiadau teuluaidd anffodus, ei ddwyn i fyny yn hollol anwybodus am ei iawnderau, ac oni buasai ymdrechion canmoladwy ei gyfnither, Miss Sarah Williams (am law yr hon y bu Syr Jonn Gwyn yn ymgeisydd gynt), digon tebyg y buasai iddo aros mewn anwybodaeth am ei hawliau hyd ei fedd. Fodd bynag, y mae yn awr eich cydradd o ran bonedd, os nad o ran sefyllfa, ac yn feddianol ar ddigon o gyfoeth i gynal yr Arglwyddes Gwendolen yn y sefyllfa a'i ganwyd." Ond y mae fy ngair wedi ei roddi. Efallai y gallasai yr hyn a ddywedweh effeithio arnaf oddeutu chwe' mis yn ol, ond yn awr"— Ond yn awr y mae Arglwydd. y Dyffryn yn dewis yn hytrach cael filain yn fab-yn-nghyfraith iddo na dyn o anrhyd- edd, ac o berchen calon ardderchog," ebai yr iarll yn ddigofus. Gwrandewch! os ydych yn ddoeth, ni wnewch anturio dat- guddio cynlluniau a bradwriaethau a gy- ffyrddant a materion sydd yn mhell o fod yn anrhydeddus i nebâ llawynddynt. Yr unig un dieuog yn y chwareufa yw eich etifedd dyoddefgar, ac o'r braidd y byddai yn gyfiawnder ag ef i gysylltu yr enw y mae yn ei gario a gweithredoedd gwarthus ac uchelgeisiol, yn mha rai y cytunai tad, ac y cynllunai car, y ffordd i'w gael yn ddeiliad anamserol o'r feddgell deuluaidd Cywilydd i'ch arglwyddiaeth ydyw Nid amser i siarad am roddi fy ngair' ydyw pryd y mae y fath ddatguddiedigaethau gwarthus yn hongian ar eich atebiad." Fy nhad," ebai Gwendolen yn sydyn, gan neidio idd ei ochr, "ai ni wnewch eich plant yn hapus, ac enill eu dwbl gariad, wrth ganiatau eu dymuniadau iddynt? Hyd yn nod Gwilym"— Y mae Gwilym yma i siarad drosto ei hun," ebai llais o'r tucefn i'r cynulliad bychan, a daeth etifedd y Dyffryn yn mlaen yn dawel, gan bwyso ar ei ,ffyn. Esgus- odwch fi, fy arglwydd," meddai gan droi at yr iarll, "ond cymeraf fi y mater i'm dwylaw fy hun. Fy nhad, y mae tynged Gwendolen wedi ei benderfynu. Caiff briodi yr unig ddyn erioed a gredais y gallwn ei oddef yn agos ataf, neu ynte rhoddaf y gyfraith ar war eich car mileiDig a chythreulig ar unwaith, am gymysgu gwenwyn yn yr ymborth a osodid o'm blaen, a hyny er mwyn cael fy ngwared. Cafodd Morgan ei ddwyn i mewn er's awr yn ol, wedi derbyn clwyf marwol gan un o'r ceirw yn y pare, ac y mae wedi gwneyd mynwes lan ohoni trwy gyffesu yr oil. Maddeuais y cwbl iddo ef, ond y mae genyf rywbeth yn wahanol i Syr John. Gwen- dolen, y mae y pwne wedi ei benderfynu. Parry, yr wyf yn ei haddaw i chwi yn enw fy nhad." Yna dilynodd dystawrwydd am ychydig eiliadau-pob un o'r cwmni yn edrych i gyfeiriad ei arglwyddiaeth o'r Dyffryn, ac yn dysgwyl yn bryderus am beth oedd ganddo i'w ddweyd yn awr yn ngwyneb y cyhuddiad pwysig oedd Gwilym wedi ei ddwyn yn erbyn Syr John Gwyn. "Wel," meddai ef o'r diwedd yn lied sychlyd, os nad all Syr John glirio ei hun, ac os yw yn barod i roddi fyny bob hawl i law yr Ar- glwyddes Gwendolen, yr wyf yn dywedyd fy mod yn foddlon rhoddi fyny i'w dymun- iad hi, yn nghyd ag hoffder rhyfedd Gwilym at ei gyn-athraw." Bydd i hyny gael ei benderfynu ar fyr o dro," atebai Iarll Conwy. "Nid yw Mr. Williams wedi ei lwyr adferu oddiwrth yr archollion a dderbyniodd mewn ysgarmes gydag ysbeilwyr yn Itali, yn mha un yr achubodd fy mywyd i, oud y bu yn agos a cholli ei eiddo ei hun. Chwi wnewch, yr wyf yn sicr, ei dderbyn i'ch gofal, fy ar- glwyddes, cyhyd ag y byddaf fi yn gwneyd fy neges i'r Neuadd, ac yr wyf yn rhoddi fy ngair i chwi y dychwelaf a sicrwydd ysgrifenedig oddiwrth Syr John Gwyn o'i foddlonrwydd i roddi fyny bob hawl i'ch llaw, a hyny cyn pen pedair awr ar ugain. Fy Arglwydd Gwilym, o'r braidd y mae cisieu i mi ofyn i chwi am fynu gweled Mr. Williams yn cael cymeryd y gofal priodol am dano." Yna, gydag ymgfymiad ymadawodd yr iarll a'r ystafell, tea y safai Arglwydd y Dyffryn o hyd, yn berwi gan ddigofaint wrth weled eu holl gynlluniau yn cael eu diddymu, a'i ewyllys yn cael ei hanmbarchu. (I'tv barhau.)

[No title]

Lloffion Difyrus.

Nodiadau Ystadegawl.

Llith Hednogyn o Ynysmeudwy.

Meddyginiaeth rhag y Gynddaredd.

[No title]