Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

DYH.

News
Cite
Share

DYH. ( P arh ad). TREIGLA dagrau o'r llygaid pan byddo y meddwl o dan ryw ddylanwad cynhyrfiol, gan ryw allu o gydymdeimlad, pan fyddo y giau cydymdeimlad yn gweifchredu. Y mae cylchrediad y j>waed yn yr ymenydd, trwy hyny, yn cael ei gynhyrfu yn fwy na'r cyff- redin felly, derbyisia y llygaid ragor o waed, a'r canlyriiad yw, bod y rhan ddyfrol o'r gwaed yn dyfod allan drwyddynt, pan y byddo y llanw hyn yn dyfod iddynt drwy gyffroad y meddwl. a chydweithrediad y giau cydymdeimlad. Y mae hyny yn cael ei achosi hefyd, nid yn unig er mvvyri dangos teimlad, ond y mae yn cadw y llygaid yn oer, tra y mae yr ymemdd o dan gyffroad. O'r ymenydd, a drwy asgwrn y cefn, y mae y nerves sydd yn per; symudiad, a'r rhai sydd yn cynyrchu teimlad (touch), yn myned i bob rhan o'r corff-y maent fel math o edau fain yn myned drwy gauol y rner. Gelwir y nerves weithiau wrth yr enw giau hyiifol (nervous fluid). Yr un fath y gelwir hylif trydanol (electric fluid) ond nid oes y fath beth mewn bodolaeth, ac nid ydynt ond term au yn unig, er mwyn dangos cvflymdra y naill fel y Hall. Mae y giau svnwyrol fel cenadon buan, ac yn llawer mwy buan na'r trydan ei hun. Y maent yn rhoddi gwybodaeth ar amrantiad i'r ymenydd fod y giau symudol wedi cyf- lawni eu gwaith. Y mae giau y teimlad (touch) yn cyrhaedd i flaen y bysedd, y dwy- law, a'r traed, ac i bob rhan o'r corff ond yn mysedd y dwylaw v maent gryfaf. am eu bod yn cael rhagor o ymarferiad yno nag mewn un rhan arall. Dyn wedi colli ei olygon, gosoder o'i flaen ar fwrdd len o bapyr, ac ar hwnw lain o freth- yn, ar hyny lain o sidan, yn nesaf, ddarn o liain, ac arnynt oil yn olaf ddarn o ledr gadawer haner modfedd o'r papyr tuallan i'r brethyn, ac yr un fel a'r gweddill, a gosoder y dall i'w teiinlo, y naill ar ol y Hall, ac efe a'u henwa yn olynol. Y mae y giau sydd o dan ddylanwad yr ewyllys neu y meddwl yn ddau ddosbarth—un yw y rhai sydd yn cyfleu y synwyr o deimlad neu gyffyrddiad, ac ereill yw y rhai sydd yn eu gosod ar waith yn ol gorchymyn yr ewyllys, ac yn cario y wybod- aeth yn ol iddi o ufudd-dod giau y teimlad. Y mae y fath gyd-dealltwriaeth rhwng y giau crybwylledig a'r ewyllys neu y meddwl, fel y mae yr oil yn cydweithredu ar yr un foment. Edrycher ar y dyn yn cerdded-y mae'r meddwl yn ewyllysio, a chyda fod hyny yn cymeryd lie, wele yr holl gyhyrau sydd yn perthyn i'r cluniau ar waith hefyd, y mae y dyn yn ymsymud braidd heb yn wybod iddo ei hun, a'r meddwl, ar yr un pryd, wedi bod yn brif achosydd o'i symudiad. Y dyn yn cerdded rhag ei flaen, cymer lyfr o'i logell, gan ei ddarllen—y mae giau y synwyr wedi gosod gi iu y teimlad neu gyffyrddiad ar waith, yn nghyd a'r holl gyhyrau er peri symudiad hefyd, y mae yn peri giau y llygaid i edrych ar y llyfr, a'r giau (nerves) y peirian- au llafur wrth eu gwaith yn peri iddynt ddar- llen, a'r giau sydd yn perthyn i'r synwyr yn cario y darlleniad yn ol i'r meddwl er iddo gael rhoddi barn arno. Yn y darlleniad bydd rhyw hanes torcalonus yna, daw y giau cydymdeimlad at eu gwaith ar amrantiad, gan dosturio- wrth ryw wrthddrych a fo yn yr hanes, yn annibynol ar allu y meddwl, ond effeithiant arno nes peri i'r dagrau dreiglo dros y gruddiau, a chura y galon yn gyflym- ach, am mai dyma y giau sydd yn ei rheol- eiddio. Y mae y peiriant dynol erbyn hyn mown llawn waith. Cyrhaedda y dyn ben ei daith, ac y mae wedi blino—eistedda i lawr, a. daw blinder a chwsg i mewn. Y pen, sef y neuadd lie triga y meddwl, yw y rhan sydd yn ymollwng gyntaf o dan ddylanwad cwsg, a gwna. ogwyddo i ryw gyfeiriad neu gilydd. Pryd hyn, bydd y meddwl fel yn gollwng llinynau y nerves o'i afael am foment; ond ni fydd y cwsg wedi cymeryd meddiant yn drwyadl eto o'r corff. Ychydig aflonyddwch, ac wele y pen i fyny, a'r holl ewynion yn barod ar amrantiad i wneuthur arch y meddwl; ond y rhai sydd yn peri cydymdeimlad, "nid oes ganddo lywodraeth ar y rhai hyny." Cymer y cwsg feddiant hollol o'r corif-goll- ynga y meddwl ei lywodraeth oddiar y giau, ac wele hwythau wedi llacio, yn debyg i danau telyn, ar ol i'r telynwr ddefnyddio allwedd tuag atynt ond y mae y giau yn aros yn eu lie yr un fath a'r tanau, yn barod i'w hail- dynhau gan ddylanwad y meddwl, ar ol i'r corff ddadebru. Ond y mae y galon yn curo, y cylla yn treulio, a'r ysgyfaint yn anadlu yn hollol an- .Y nibynol ar y meddwl yn oriau cwsg, fel y cawn sylwi eto ohorwydd nid yw y rhanau a nodwyd o'r corff byth yn cysgu. CWSG. Cwsc; yw yr enw a roddir ar y sefyllfa hono y niae y corff yn myned iddi pan fyddo y berthynas sydd rhwng yr ymenydd a gwahan- ol ranau o'r corff yn rhanol ddarfod dros amser anrohenodol. Y rhanau sydd o dan ddy- lanwad y meddwl sydd hefyd o dan ddy- lanwad cwsg ond bydd y rhanau hyny nad ydynt o dan ei ddylanwad fel yn gwylio dros eu cvmdeithion pan y byddont o dan ei ddy- lanwad. (Fa) barhciu).

[No title]

YE ETHOLIAD CYFFREDINOL,I

Etholiad Ceredigion.

-Buddugoliaeth Arglwydd Hartington.

Yr Etholiadau.

Llith o Ddyfed.

Ymgom rhyngwyf a Modryb Catws…

[No title]

Llofruddiaet'- Henffbrdd.

ABERDAR.

TREOROI.