Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Effaith y Buddugoliaethau…
Effaith y Buddugoliaethau Rhydd- frydol yn Twrci. Y mae canlyniad yr etholiadau yn Mhry- dain wedi creu y cyffro mwyaf yn mysg pob dosbarth yn Twrci. Dysgwyliai y swyddogion Tyrcaidd, y Groegiaid, a'r Armeniaid am y pellebrau yn itysbysu am yr etholiadau gyda chyffro mawr. Y mae buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr wedi achosi boddlonrwydd dimysg yn mhlith y boblogaeth Gristionogol. Gwelai gohebydd y Daily News nifer o Roegiaid yn liongyfarch eu gilydd gyda'r llawenydd mwyaf pan gaent y newyddion am lwyddiant y Rhyddfrydwyr. Nid yw yn ormod dweyd, yn mysg yr hoH boblogaeth Roegaidd a'r llwythau gorthrym- edig, yn cynwys Tyrciaid answyddogol, y mae z, y newyddion am y buddugoliaethau Rhydd- frydig wedi eu derbyn, fel y derbyniai Lloegr y newydd am fuddugoliaeth fawr wedi, ei henill gan ei byddin. Y mae cyffro a phryder mawr wedi ym- aflyd yn y Llywodraeth Dyrcaidd gyda golwg ar yr hyn a wna Lloegr yn awr. Adroddir fod y Sultan wedi gyru am ei gynghoriaid ymddiriedol, ac yn eu plith Hobart Pasha, gan ofyn cynghor pa fodd y gellid cymodi a Lloegr. Dywedir ei fod wedi datgan yn gryf yn ffafr yr arsgenrheidrwydd am ddiwygiadau, ond gofidiai nad oedd ganddo weinidogion yn y rhai y gallasai roddi unrhyw ymddiriad.
Yr Etholiadau.
Yr Etholiadau. Yn y gwahanol etholiadau a gymerasant le yn Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon, dydd Llun diweddaf, ni enillodd un o'r pleidiau sedd newydd, ond llwyddodd y ddwy ochr i ddal eu tir a diogelu eu seddau fel cynt. Yn yr etholiad a gymerth le dydd Iau di- weddaf, dros Ddeheubarth swydd Durham, taflwyd Syr George Elliott allan. Yr oedd ar waelod y poll. Ymwelwyd ac, ABERTEIFI, dydd Llun diweddaf, gan Mr. L. P. Pugh, A.S., er anerch a diolch i'r etholwyr am ei ddychwelyd mor anrhydeddus i'r Senedd. Ar awr foreu o'r dydd, chwyfiai y baneri yn yr heolydd, ac arnynt yr arwyddeiriau, "Croesaw i Mr. Pugh, A.S. "Pugh am byth," &c. Yn fuan wedi pump o'r gloch, daeth y cerbyd yn cynwys Mr. a Mrs. Pugh at ochr ogleddol y dref, pan y cymerwyd y ceffylau allan o'r cerbyd ac y Uusgwyd ef i'r dref. Tu blaen i'r orymdaith yr oedd baner ddu gyda'r geiriau, "In Memory of Poor Ben." Ni raid dweyd i Mr. Pugh gael der- byniad tywysogaidd, a thraddododd araeth i'r dyrfa fawr o flaen Neuadd y Dref.
Y Croesawiad bwriadedigi Mr.…
Y Croesawiad bwriadedigi Mr. Glad- ZD stone yn Llundain. Yr oedd pwyllgor wedi ei ffurfio yn Llun- dain, cadeirydd yr hwn oedd Mr. Samuel Plimsoll, A.S., gyda'r bwriad o gael gorym- daith fawr o Aelodau Seneddol, boneddwyr, gweithwyr, ac ereill, i'r dyben o groesawi Mr. Gladstone ar ei ddyfodiad i'r brif-ddinas cyn agoriad y Senedd ar ol yr etholiadau. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Gladstone at Mr. Plim- soll, dywed ei fod yn sicr yn ngolwg llawer, ac uid yn unig yn ngolwg ei wrthwynebwyr politicaidd, yr ystyrid hyny fel ymgais am y tro cyntaf i sefydlu arferiad o orfoleddu cy- hoeddus dros drychineb Gweinyddiaeth a phlaid boliticaidd, a gwnai hyny glwyfo teim- ladau ddylpm barchu yn gystal ag arbed. Felly gwrthododd Mr. Gladstone yr anrhyd- edd ond dywedai y byddai iddo byth gofio y cynygiad gyda yr un diolch a phleser a phe bai yr orymdaith roesawol wedi cymeryd lie yn weithredol Nid oes dadl nad yw Mr. Gladstone wedi cymeryd yr olwg iawn ar y pwnc.
Sefyllfa y Pleidiau.
Sefyllfa y Pleidiau. Y mae yn awr 636 o aelodau wedi eu dychwelyd i'r Parliament newydd. Cyfanrif y seddau yn Nhy y Cyffredin yw 650, ac felly nid oes ond 14 o aelodau i gael eu hethol eto. Saif y pleidiau fel y canlyn Rhyddfrydwyr 350 Ceidwadwyr 229 Home Rulers 57 Cyfanrif 636 Y mae y Rhyddfryddwyr wedi enill 135 o seddau oddiar y Ceidwadwyr, tra nad ydyw y blaid olaf wedi llwyddo i enill ond 23 o seddau Rhyddfrydig. Felly, gwelir fod enillion clir y Rhyddfrydwyr yn 111.
Buddugoliaeth Rhyddfrydig…
Buddugoliaeth Rhyddfrydig yn Nwyreinbarth Swydd Worcester. A Pan ar fyned i'r wasg, derbyniasom bell- ebryn yn ein hysbysu fod y Rhyddfrydwyr wedi enill buddugoliaeth ogoneddus arall, sef yn Nwyreinbarth swydd Worcester, ond nid ydyw y ffigyrau wedi dyfod i law eto. Yr ymgeiswyr oeddynt:—W. H. Gladstone (R.), G. W. Hastings (R.), H. Allsopp (C.), a Syr Richard Temple (C.), diweddar Lywydd Bombay. Y mae y Rhyddfrydwyr wedi enill dwy sedd arall drwy y fuddugoliaeth hon. Un peth hynod yn nglyn a'r etholiad cyffred- inol presenol oedd gweled dau dad a phob o ddau o'u meibion ar y maes fel ymgeiswyr, sef Mr. Gladstone a'i ddau fab, a Mr. Allsopp (y darllawydd enwog o Burton-on-Trent) a'i ddau fab. Etholwyd yr hen wron Rhydd- frydig ac un o'i feibion, ond y mae y tri Allsopp wedi eu gadael allan yn yr oerfel. Gelwid y Senedd diweddaf gan rai pobl yn H Bible and Beer Parliament," ond ymddengys i ni y bydd llai o Burton yn y Parliament newydd beth bynag.
[No title]
YSTYRIR fod rhyfel rhwng Rwsia a China yn awr yn dra thebygol.
Gorymdaith Gyfarchiadol i…
Gorymdaith Gyfarchiadol i Mr. B. T. Williams yn Llanelli. Megys ag y darluniwyd drwy gyfrwng eich colofnau yr wythnos ddiweddaf am y fuddug- ) oliaeth Ryddfrydig a enillwyd yn ein bwr- deisdrefi, yn nychwediad ein hen aelod parchus, dymunwn gofnodi yr wythnos hon ychydig o'r gymeradwyaeth a'r llongyfarch- 11 cl iadau a gafodd yn Llanelli nos Fercher di- weddaf, sef y noson gyntaf yr ymwelodd a'r dref hon ar ol enill ei sedd. Yn fuan ar ol pump o'r gloch, gwelwvd tyrfa ar ol tyrfa o bobl yn tyru tua Mcriah, ac erbyn chwech o'r gloch yr oedd y lie yn orlawn, a'r heolydd i fyny ac i waered wedi eu lIen wi, ac hawdd oedd darllen teimlad calon y dyrfa oddiwrth sirioldeb eu gwynebau. Yr oedd pob un a chnotyn tlws o ribagi glaa yn binedig ar fyn- wes ei hugan, fel math o arwyddlun o ".Ti-ite blue for ever Tra yr oedd pawb yn prysur ymbarotoi, dyma gerbyd, yn cael ei lusgo gan ddau farch gwyn, yn dyfod yn mlaen o gyfeir- iad y dref, ac ynddo yr oedd cyn-gadeirydd y Gymdeithas Ryddfrydol, ac hefyd gwrth- ddrych dysgwyliad canoedd lawer o bobl, sef Mr. B. T. Williams, yr aelod etholedig, ac ar ei ddyfodiad i fewn rhoddwyd bloeddiadau uchel o gydymdeimlad calonog ag ef yn ei gyflwr buddugoliaethus, pa rai a adseiniwyd yn llawen gan filoedd ar filoedd drwy y dref, a chreodd y brwdfrydedd hwn deimlad angerddol gynes yn mynwesau y Llanelliaid yn gyffredinol, nes y daethant yn nghyd yn dyrau a thyrau o bob cyfeiriad. Gwnaeth Mr. Williams anerchiad galluog, yr hwn a dderbyniwyd gyda boddhad mawr. Yna ffurfiwyd yn orymdaith, pedwar yn cyd- gerdded gyda'u gilydd trwy ganol yr heol, a llu mawr bob ochr yn dilyn. Dywed un o'r newyddiaduron lleol yma fod yr orymdaith yn rhifo o wyth i ddeg mil, a thystiai yr henafwyr na welsant y fath ardderchogrwydd a gwarogaeth yn cael ei dalu i'r un aelod Seneddol erioed o'r blaen. Cerddai Mr. Williams rhwng dau lowr tlawd-dau weith- iwr caled,-ac ar ol teithio trwy y prif heol- ydd, rhoddodd anerchiad o ffenestr y Commit- tee Boom, yn yr hwn y dywedai na chafodd y fath anrhydedd erioed o'r blaen, ond ei fod trwy yr anrhydedd hwn yn credu ei fod yn cynrychioli teimlad y dosbarth gweithiol, ac addawodd wneyd ei oreu drostynt yn y dyfod- ol. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r gwein- idogion am eu gwroldeb yn yr ymdrech hwn. Yr un dydd hefyd enillwyd y fuddugoliaeth gyda mwyafrif anrhydeddns gan Powell, Maesgwyn, fel cynrychiolydd dros y sir. lOAN GWYLLT.
Dyrchafiad Syr Ifor Guest.
Dyrchafiad Syr Ifor Guest. Hysbysir, ar awdurdod dda, fod Syr Ifor Guest, ar ol colli gynifer o weithiau mewn ymdrechion etholiadol, i gael ei wneyd yn Arglwydd. Mynegir hefyd y ca Syr George Elliot yr un anrhydedd.
Y Ddamwain ar Gledrffordd…
Y Ddamwain ar Gledrffordd y Mumbles. Cynaliwyd trengholiad ar gorff John Ed- wards, yr hwn a laddwyd ar y rheilffordd uchod, dydd Llun, a dychwelwyd rheithfarn iddo gyfarfod a'i angeu yn ddamweiniol.
Damwain Erchyll yn Nowlais.
Damwain Erchyll yn Nowlais. CHWECH 0 DDYNION WEDI EU HANAFU YN DRWM. Cymerth damwain ddychrynllyd le mewn adeilad sydd yn awr yn cael ei gyfodi, yr hwn sydd yn helaethiad o weithfeydd dur Dowlais. Niweidiwyd chwech o ddynion yn druenus, ac y mae dau ohonynt mewn cyflwr peryglus. Yr oedd gwregys-drawst haiarn ysgafn yn cael ei gyfodi er ffarfio y nenfwd, pan y torodd dolen yn y gadwen wrth yr hon y crogai, a syrthiodd i'r llawr ar dwr o weithwyr. Tyn- wyd hwy allan mor fuan ag oedd modd, a gorfuwyd cludo amryw ohonynt i'w cartrefi ar estyll. Parodd yr amgylchiad deimlad dwys yn y lie, gan fod yr oil o'r rhai a anaf- wyd yn weithwyr rheolaidd yn Nowlais. Y tri gwaethaf a anafwyd oedd John Evans, 113, High-street, Pendarren Thos. Walker, 250, High-street, Dowlais; David Griffiths, 47, North-street, a gweinyddwyd arnynt gan Dr. Stuart a Mr. Davies. Y tri ereill a niw- eidiwyd oeddynt David Griffiths, saer, Merth- yr David Creesley, Gellifaelog a Thomas Barlow, Dowlais ond nid mor drwm a'r tri cyntaf.
[No title]
NID yw strike sidan-liw-wyr Coventry yn erbyn cyflogi llafur benywaidd wedi terfynu eto. Y MAE y mudiad i gael tafarndai coffee yn Merthyr yn myned yn mlaen yn llwyddianus. Dysgwylir y bydd rhai ohonynt yn barod i'w hagor yn fuan. GOLYGIR cynal arddangosiad yn y Celfau Cain yn Merthyr, yn Mehefin nesaf, a thebyg mai hwn fydd y cyntaf o'r cyffelyb a gynal- iwyd erioed yn Neheudir Cymru. DALIWYD morfil, y mwyaf erioed a gafwyd ar dueddau Prydain yn ddiweddar, ger In- verness. Yr oedd yn 70 troediedd o hyd, a 33 troedfedd o amgylchedd, a phwysa rhwng 50 a 60 tunell. Cludwyd ef ar chwech o trucks y rheilffordd i Birmingam. TYSTEB I MR. CORDES.-Hysbysir fod yn mryd cyfeillion ac edmygwyr Mr. Cordes, yr aelod aflwyddianus dros fwrdeisdrefi Mynwy yn yr etholiad diweddaf, i gyflwyno tysteb iddo-er ei gysuro yn ngwyneb ei siomedig- aeth feddyliem. TYSTEB I MR. W. T. LEWIS.—Bwriada rhai o gefnogwyr Mr. Lewis yn mwrdeisdrefi Merthyr ac Aberdar, gyflwyno ei lun ac anerchiad iddo-lac mewn atebiad i'w cais y mae wedi penderfynu gadael y mater yn eu Haw.
NEWYDDION DIWEDDARAF 1
NEWYDDION DIWEDDARAF 1 (GYDA'R PELLEBYR). I Nos FAWRTH. CYFLAFAREDDIAD Y GWEHYDDION. Y mae Mr. Hugh Mason, A.S., a Mr. Coulthard, y cyflafareddwyr yn nghwestiwn cyflogau y gwehyddion yn Nosbarth Ashton, wedi barnu dros roddi codiad o ddau a haner y cant, yr hyn sydd yn gwneyd (a chyfrif fyr hyn a roddwyd iddynt yn flaen- orol gan eu meistri) y pump yn y cant ych- wanegiad oeddynt yn sefyll allan am dano. ETHQLIAp EAST WORCESTERSHIRE. Cyhoeddwyd sefyllfa y poll yn y sir uchod prydnawn heddyw. Y mae y ddau ymgeis- ydd Ceidwadol wedi cael eu gorchfygu, a dau Rhyddfrydwr wedi eu gosod yn eu lie. Y mae hyn yn chwyddo yr enill Rhydd- frydol i fyny i 111. CODIAD CYFLOGAU YN WIGAN. Y mae cyflogau y gweithwyr yn mhob z;1 cangen o fasnach cotwm Wigan wedi cael codiad o bump yn y cant.
Ffrwydriad Dychrynllyd yn…
Ffrwydriad Dychrynllyd yn Silver- town. Prydnawn dydd Llun diweddaf, cymerodd ffrwydriad echrydus le yn ngweithfeydd eang Mri. Burt, Boulton, a Haywood, pa rai sydd yn y Victoria Docks, Silvertown. Ar wahan i beth oedd yno, yr oedd stoc fawr o goed, a gwlybyrau ffrwydriadwy, megys creosote, tar, pitch, nap- tha, benzoline, &c., gan wneyd y lie yn dueddol i ddamwain. Yr oedd rhwng tri a phedwar cant ddynion a bechgynos yn gweithio yn yno. Cuddia y premises yn agos i dri chan' erw o dir. Cymerodd y ffrwydriad le ychydig cyn tri o'r gloch. Yr oedd swn y ffrwydriad yn gyfryw ag y gellid ei glywed am filltiroedd o fforcld. Mae'r premises ya cuddio dros yn agos | i dri chan' erw o dir. Y mae amryw o'r gweith- ) wyr wedi llosgi yn druenus, ac ereill ar goll, na wyddis yn y byd, hyd yn hyn, beth sydd wedi dyfod ohonynt. Tebyg mai llestr ag oedd yn cynwys tua 2,000 o alwyni o olew ffrwydrodd ond nid ydys yn gwybod, ar hyn o bryd, yr achos 0 hyny. Mae'r amgylchiad gresynus wedi creu anesmwythder annghyffredin yn y lie. Gwragedd yn chwilio yn ofer am eu gwyr, a mamau am eu plant. Tybir fod rhai o'r truein- iaid wedi cael eu chwythu i'r afon sydd gerllaw, ac ereill, mwy na thebyg, wedi eu llosgi yn an- nabodadwy o ddrwg.
ABEROWMBOY.
ABEROWMBOY. DAMWAIN A NGEUOL. Bu Walter Jones, 16 oed, 32, Canal Houses, Aberaman, farw dydd Sul oddiwrth effeithiau syrthiad careg arno pan wrth ei waith yn nglofa Abercwmboy ar y 9fed.
PENRHIWFER.
PENRHIWFER. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd *"}Wener, fel yr oedd Watkin Evans, brodor o Faesteg, wrth ei waith yn nglofa Penrhiwfer, syrthiodd careg o'r nenfwd arno, gan ei anafu mor ddrwg fel y bu farw prydnawn dydd Sul. Gadawodd weddw a theulu mawr.
COED-DUON.
COED-DUON. BODDIAD.-Dydd Mercher, wythnos i'r di- weddaf, taenwyd y newydd fod dynes o'r enw Evans, gwraig llafurwr, wedi boddi ei hun mewn llyn fechan ger Foundry Treharn. Cod- odd ei gwr fel arfer i fyned at ei waith, a gwel- odd eisieu ei wraig. Wrth droi at y bwrdd, cafodd nodyn yn hysbysu lle yr oedd i gael gafael arni, ac yn ei gynghori i ofalu am y plant.
GLYN EBWY.
GLYN EBWY. Y MAE Eglwys Gynulleidfaol Saron, yn y He hwn, yn unfryd calon wedi rhoddi galwad i'r Parch. D. S. Evans, Moriah, Rhymni, i ddyfod i'w bugeilij yn yr Arglwydd, ac y mae yntau, wedi dwys a manwl ystyriaeth. wedi cydsynio a'u cais, ac wedi ateb yn gadarnhaol er's mis bellach, ac yn bwriadu dechreu ar ei faes newydd tua diwedd Mai nesaf. Yn nghyd a choelbren yr eglwys, hyderwn fod mantell y diweddar wlithog a duwiol Barchedig Mr. Jeffreys wedi disgyn arno, ac Vsbryd yr Arglwydd fyddo yn gweithio ya amlwg yn eu plith yn y dyfodol.
GLYNCORWG.
GLYNCORWG. Y MAE Cwmni Gwaith Glo Clyncorwg wedi newid dwylaw, a dysgwylir y bydd i welliant mawr gymeryd lie yn fuan, trwy gynyddu y dygiad allan o 250 o dunelli y dydd i 500. Da genym gael ar ddeall fod Mr. E. Plummer, ein goruchwyliwr presenol, i ddal yr un swydd o dan y cwmni newydd, yr hyn sydd yn gysur i'r holl Ie, yn gymaint a bod teimlad mor dda wedi bod- oli rhwng Mr. Plummer a'r gweithwyr yn ystod y deuddeg mlynedd y mae yn y lie. Y MAE hen wraig o'r enw Mrs. Hancock yn y lie hwn wedi bod yn ddall am bedair blynedd, ond trwy operation a gafodd ei gyflawni gan ein medrus feddyg, Mr. Enoch Davies, y mae yn awr yn gallu gweled, ac hefyd yn medru darllen, yr hyn sydd yn fraint fawr i'r hen wraig, yn gymaint a'i bod yn 61 mlwydd oed.
Crefyddau yn Rwsia.
Crefyddau yn Rwsia. Y mae llawer o wahanol grefyddau. Dywedir bod eu rhifedi yn lleng. Y mae allorau aberth- au a gwaed wedi bod ac yn gwneyd i fyny rhan fawr o bob gwasanaeth crefyddol yn mhob oes, ac yn mhob gwlad, heb wahaniaeth pa wrth- ddrych a addolir. Y mae llawer o grefyddau newydclion wedi eu dwyn i'r amlwg yn Rwsia yn y flwyddyn 1878, er pan orphenwyd y rhyfel sanctaidd (?) a Thwrci. Mewn papyr sanctaidd yn perthyn i Eglwys sanctaidd (oblegyd sanct- aidd yw pob peth yn Rwsia—rhyfel sanctaidd a sanctaidd hefyd yw'r meirch a'r magnelau— gwaith sanctaidd hefyd oedd lladd ac alltudio y ) Poliaid—llosgi a thrywanu y Tyrciaid, a myned a'u gwlad,) ceir hysbysiad fod pedair-ar-ddeg o wahanol grefyddau neu sectau wedi ymddangos yr Ymerodraeth, a'r oil ohonynt yn rhai hollol newydd, na bu eu bath yn y byd erioed o'r blaen er pan aeth Cain i chwilio am wraig i dir Nod ac ymddengys mai y fwyaf llwyddianus, y fwyaf hynod, a'r fwyaf ffiaidd ohonynt yw yr hon a adnabyddir wrth yr enw "Piawotschnaga enw digon rhesymol, — ac y mae bron holl drig- olion Grinzowsk, yn Llywodraeth Wologda, yn ei phroffesu. Mae ei rhif yn rhai miliynau. Un o reolau y grefydd newydd hon yw, fod pob baban, a phob un mewn oed hefyd pan yn cael ei dderbyn yn aelod, i gael ei fedyddio a gwaed yn lie dwfr. Gelod (leeches) sydd i sugno y gwaed o fronau benywod. Eheol arall atgas a ffiaidd yw, fod pob baban i gael ei borthi à gwaed twym, yr hwn hefyd a sugnir gan gelod o fronau y fam, ac wedi hyny a roddir i'r plen- tyn. Y caulyniad yw, fod marwolaethau ar- swydus yn mhlith y mamau a'r plant. Y mae pob dyfais o eiddo y llywodraeth sanctaidd yn Rwsia yn hollol aneffeithiol i'w diwreiddio. Mor fawr yw gwallgofrwydd dyn Tanyrallt, Ystalyfera. D. H. LEWIS.
[No title]
DEDFRYBWYD cyn-weinidog Methodistaidd yn Llandilo, dydd Gwener diweddaf, i dri mis o garchar a chaledwaith, am godi arian trwy dwyll-honiadau. MAE llawer o ddyfalu a speculato gan bapyrau Llundain a'r deyrnas gyda golwg ar pwy fydd y Prif-weinidog nesaf. Ond fe dorir y ddadl cyn hir. Credwn ni y bydd yn rhaid i Mr. Gladstone neidio at y llyw. NEWYDDION 0 Westport a'n hysbysant i derfysg mawr fod yno ychydig ddyddiau yn ol. Darfu i haid o greaduriaid meddw arfogi eu hunain a chyllill, morthwylion, a phast- wyni, gan gyflawni ymosodiadau difrifol a chreulon. Y mae hysbysrwydd wedi ei roddi yn erbyn offeiriad Pabaidd.
Advertising
CERDDORIAETH Cyhoeddedig gan D. L. JONES (Cynalaw), B R I TON FER R Y. "MOLWCH YII ARGLWYDD Anthem I newydd, pri-i 4c., Sol-ffa, 2g. Gan JOHN THOMAP I (Blaenanerch), Llanwrtyd. Dywedai y diweddar Ieuan Gwyllt wythnos cyn ei farwolaeth. Yr wyf yn meddwl y dylech ddwyn allan yr anthem Mol- wch yr Arglwydd' ar un waith, fel y galler ei chael i fewn i waith ein Cymanfaoedd Cerddorol y flwyddyn nesaf." "LLAWENYDD Y GWANWYN:" Rlum- gan i T.T. B B Pris 4c., Sol-ffa, 2g. Gan Proff. W. A. WILLIAMS (Gwilym Gwent), America. Y mae y dernvn newydd hwn yn un rhagorol iawn at wasanaeth Oyngherddau ac Eisteddfodau. "Y CYMRO DEWR:" Can wladg-arol i lais baritone, o gwmpas hawdd. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Ga,n J vMES PETERS (Afan Alaw). "DEWRfON FILWYR IESU:" Tdn i gdrau plant. Yn V Sol-ffa, pris lg. Gan JAMES PETERS (Afan Alaw); y farddoniaeth gan CYNALAW. CYMRU. GWLAD EIN TAD AU Can a Chydgan. Yn v ddau nodiant, pris 6c Gan D. L. JONES (Cvnalaw); gyda geiiiau i iymraeg a Saesonaeg gan CREIDIOL. Derbynia y gau hon ganmoliaeth uchaf ein prif gerddorion. HEN WALIA, GWLAD Y GAN Cân a Chydaran, p is 4c. Gan D. L. JONES (Cynalaw); y farddnniaeth gan D. JOSEPHUS DAVIES. Dy wedai un bardd gerddor am lion, Pa le bynag y clywaf ei chanu, mae yn swyno fynghalon yn lan DOWLAIS ART UNION PRIZE DRAWING, IN aid of the Building of the Tabernacle Baptist Chapyl. Ivor.street, will take place at the ODDFELLOWS' HALL, on THURSDAY, JULY 8th, 1880. under the distinguished patronage and supervision of the following ladies and gentle- men :—H Richard, Esq., M.P., and Mrs. Richard; 0. H James, Esq., and Mrs. James; D. Williams, Esq., High Constable; J. Evans, Esq., Surgeon John Jenkins. Esq. D. Davies, Esq. and W. Harris, Esq. The following valu- able Prizes will be drawn for FIRST PRIZE, any Article or Articles, to be selected by the successful winner, to the value of £ 50 PRIZE. £ S. c. 2 Brilliant-toned pianoforte 25 0 0 3 Handsome drawing-room suite. 12 0 0 4 Handsome harmonium 8 8 0 5 Silver lever watch. 6 6 0 6 Beautiful chest of drawers 6 0 0 7 Washing machine. 5 0 0 8 Lady's gold watch 5 0 0 9 Superior suit of clothes 4 4 0 10 Ma! ogany couch 3 3 0 11 Electro-plated tea-service 3 3 0 12 Galvanic machine. 2 2 0 13 Pair of blankets 1 10 0 14 Welsh flannel dress 1 5 0 15 Rosewood writing-desk 1 1 0 16 Lady's writing-desk 1 1 0 17 Seven pounds of best tea. 1 1 0 18 Lady's beautiful work-box 1 1 o 19 Handsome cruet stand 1 1 0 20 Beautiful set of trays 1 1 0 21 Silk umbrella 1 1 0 22 Waterproof overcoat 1 j 0 23 Elegant swing looking-glass 1 1 0 24 Rich table-cover 110 25 Beautiful timepiece 1 1 0 26 Beautiful engraving 1 1 0 27 Lady's dressing-case 1 1 0 28 Handsome picture. 1 1 0 29 Gentleman's travelling-bag 1 1 0 30 Beautiful set of fire-irons 1 1 0 31 Beautiful accordion 1 1 0 In addition to the above, there will be given away about Two Hundred Prizes, consisting of Useful Articles, Hams, Cheeses, Knives, &c., &c. Tickets, Gd. each, or a book of 12 for 5s. The Drawing will be on the principle of the Art Union, and the successful numbers will be published in the "South Wales Daily News," "Western Mail," "Seren Cymru," "Merthyr tele- graph," Merthyr Express," Tarian y Gweith- iwr," GWLADGARWR, and "Baner ac Amserau Cymru." A list of the winning numbers will be forwarded to any person -who will send a stamped addressed envelope for the same. Treasurers. WILKINS & Co., Brecon Old Bank; Auditors, Messrs. WOODMAN & D. S. POWELL; Hon. Sec., JOHN EVANS, 37, Union-street, at the Committee Rooms, Tabernacle Vestry, Ivor- street, Dowlais Corresponding Secs., Tabernacle Vestry, Ivor-street, Dowlais. LLANFAXR'f&UALLT (Builth Wells), pYiVELIP EISTEDDFOD yn y lie uchod C GORPHEKAF 28ain, 1880. PRIF DESTYNAU (AGO RED I B AWB) I'r c6r heb fod dros 50 mewn nifer, a gano yn. or, ii When winds breathe soft;" gwobr, £ 12. Ail wobr, £ 5. Marwnad (In Memoriam) yn Gymraeg neu Saesneg, heb fod dros 200 llinell, i'r diweddar Mr. D. Buallt. Jones gwobr, £5 5s. Chwaren Olychau Aberrlyfi" ar y Delyn Deir-rhes (Triple Harp); gwobr, £ 1 Is. Rhestr gvflawn o'r testynau (ar dderbyniad daw. stamp. ceinioo; oddiwrth yr Y sgrifenydd- JOSgPh LEWIS, 2252 Cwmbach, Near Builth. Established 19 Years, G. IVEY, HAD WE a BL OlJA U-AMAETUYDD,. 26, Canon-street, Aberdare. MA.E G IVEY yn cymeryd y cyfleusdra presenol i hysby-m trk'olion Aberdar. Merthyr, Mountain Ash, a'u cymydogaethau, ei fod newydd dderbyn oddiwrth un o'r Cynyrchwyr Hadau mwyaf yn Essex, ei Stoo newydd c Hadau Gardd, Ffarm, a Blodau ac er i'r tymor di- wed,laf fod yn un o'r rhai mw v af dinystriol i g nauafu h»dan, y mae yn ei feddiant siamplau ? toadau na ra^orir arnynt gan un Tt yn y grefft. Hefyd, amrywiaeth ardderchog o Harlau Cloron. (yn tididwyl! i enw) hyn yn neillduol dymunaG. 1. wasgu try y cyfryw ag sydd yn bwr- iadu pianu Cloron, fod ffaeledd mewn enwd yn fwy (.iri'idoladwy i hyn nag i unrhyw achos arall, ac fe] hy¡,y mae'r egwyddor "PenLY wise and Pound foolish yn cael ei chario allan nid yn unig nnwn planu Clorcn, ond mewn Hadau Gardd a Ffarm, with brynu "Hadau Rhad," yr hyn a feddylia yn Seisnig Doctored Seeds," neu hadau w 'iiieu 11athuh oddiwrth gnydau llwm. Hefyd, sisimpl o'r radd fiaanaf o Potatoe Onions a Shallots, ".ye ilrass (had mordrosol Italai Id), Spring Vetches, Hed & White Clover (siampiau gwych). Swede a Field Turnips ereill, Mangel Wurtzel (had o'r un stoc a sicrhaodd brif wobrau oddiwrth amr,"w' r mdeithasau Amaetbyddol yn Lloegr y tiwyddyn ddiweddaf), ->uano, Superphosphate, Nîtritte of Soda & Crushed Bones, wrth y pwys, y can' PWY", neu y cwd. Phospho Guano mewn tins, 6c. v rides' Chemical Manure mewn tins h (gwttaith rhagorol i redyn) Summer Cloud (parotoad sydd newydd ei ddyfei-io at gysgodi, yn hawdd i'w osod ai symud) mewn canisters Is. 6c. Mae'r effaLh yr; foddhaus. Gwnai Cynyrchwyr Cucumbers yn dda i wneyd prawf ohono. Silver Sand, ¡'eat, Cocoa Fibre, a phob peth angen- rheidiol at y '4reen house a Window Gardening. Flower Pots, Rhubarb Pots, Terra dotta, a nwy- ddau ereill. Bbaffea, Japan Flax & Virgin Cork Cucumber, Vegetable, Marrow, a, PlllIlkill Hants y Mammoth Pumpkin wedi tyfu i'r trymder o 108 pwys. Mushroom pawn, Ever- lasting Flowers, Grasses a Moss. Wreaths- Crosses, ac felly yn y blaen. CO FIE K YR ADDRESS- 26, GA SON-STREET, ABEBDAM. 2243 (Gyferbyn a'r Temperanc Hall). GWAED, CMC EN, NERVES!! YMAE GWAED PUR, CROEN IA-CH, a JL NERVES CADARN, yn anhebgorol angen- rheidiol tuag at sicrhau Iechyd. Tiwy y gwaed y mae pob drwg a da yn gweithreclu ar y corff; felly, cymerer ii T 00 'j (:&.EGJ:STE:R.ED.) y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o Buro a Chryfhau y Gwaed. Tuag at y J? X Xj IS S, ..J:: -L-I >) Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, yn achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., y maent yn hynod o effeithiol GrWELLIIAD HYNOD! SYR, Yr wyf yn teimlo yn ddy.ied;s%vydd arnaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael bndd mawr drwv gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef "HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oeddwn yn methu ceidded cam braidd, ac yn methu eis- tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhaa iselaf o'r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wan yn awr, yr wyf yn holliach, ac yn bur ddiolchgar. Cwmbran, Awst 20fed, 1876. MARY JAMES. RHYBUDD.—Mae llwyddi^nt y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, felly gofaler cael y Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar bob blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r enw Jacob Hughes" ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARE "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad, Ar werth dnvy yr holl deyrnas am Is. l\c.t 2s. 9c., 4s. 6c. Gyda'r post Is. 3c., 2s. 11c. a 4s. 9c,, oddiwrth y Perchenog- Jacob Httghes, Apothecarie's Hall, Llanelly.