Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

SARAH WILLIAMS/

News
Cite
Share

SARAH WILLIAMS/ Etifeddes y Gelli. FFUG-CHWEDL AIL OREG EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEHEUDIR CYMRU. PENOD YI.—(Parhad). UN BYWYD YN CAEL EI ACHUB, A'R LLALL YN CAEL EI GOLLI. Ymgrymodd Parry i lawr uwchben Syr John, a chwiliod ef yn fanwl, er cael allan a oedd arwyddion bywyd ynddo; ond nid oedd dim. Pan yn gwneuthur hyn, teimlai law yn ei gyffwrdd ar ei ysgwydd. Trodd i edrych, a chanfyddodd wyneb gwelw Gwendolen yn sefyll yn ei ymyl. 0, Parry, pa fodd y bu hyn ?" gofynai yn dawel. Ond ni allai yr athraw ei hateb-yr oedd y geiriau yn marw ar ei wefusau. A oedd efe i ddywedyd wrthi mai hi oedd yr achos o'r gyflafan, a thrwy hyny i gymylu ei dedwyddwch gan yr adgof o farwolaeth cyd-greadur er ei mwyn. ac hefyd i hawlio yr anrhydedd o arbed ei bywyd ar y fath draul ? "Gadewch fi, ac ewch i geisio cymhorth ar unwaith," meddai o'r diwedd, wrth ei gweled yn syllu yn brudd uwch ei ben. Eich gadael pan yr ydych wedi anturio bywyd eich hun er fy mwyn i; 'ie, ac feallai fwy na'ch bywyd. Parry, nid ydych yn meddwl mor isel am un ag yr ydych wedi mentro cymeint er ei mwyn. Clywais .eich geiriau-ni ellwch fy nhwyllo." Er mwyn y Nefoedd, Gwendolen, ewch, a cheisiwch gymhorth. Feallai ei fod o fewn terfynau gobaith eto." Ar ei waith yn siarad, penliniodd Gwen- dolen i lawr yn ymyl y dyn clwyfedig, gan gynorthwyo William Parry i chwilio am y clwyf o ba un y ffrydiai y gwaed i'r llawr. Yr oedd wedi ei glwyfo mewn dau fan-ar ei ben ac yn ei fynwes. Rhwym- odd Gwendolen ei neisied am ei ben er atal y gwaed, tra y gwrandawai ar Parry yn ymbil arni am fyned i ymofyn cymhorth. Ddim hyd nes y dywedwch y gwirion- edd wrthyf pa fodd y bu. Ddim hyd nes y credaf eich bod yn ddiogel, William," meddai gan osod ei Haw ar ei eiddo ef, ac edrych yn dosturiol yn ei wyneb. Peidiwch a fy nhemtio tuhwnt i'r hyn 11 allaf ei oddef, Gwendolen." Ond atal- iwyd y siarad gan swn cerddediad pwysig yn neshau atynt, a phan drodd Gwendolen ei gwyneb, gwelodd was ei brawd yn sefyll yn ei hymyl. Pa beth sydd yn bod ?" gofynai Jones "A oes yma lofruddiaeth wedi ei gyflawni, fy arglwyddes." Tawelodd Gwendolen ei ofnau mewn eiliad, a meddianodd ei hun i'r fath raddau, nes y synodd v gwas at ei dull oeraidd pan yr atebai, Y mae ychydig o ddamwain wedi dygwydd i Syr John. Ewch ar un- waith i dv Koberts, yr hel-geidwad, i ymofyn help. Gwnaiff Mr. Parry aros gyda mi hyd nes y dychwelwch." Ys- gydwad o'i llaw a wnaeth i Jones wneyd pob brys mewn ufudd dod iddi. Yn awr," meddai Gwendolen wrth yr athraw mor gynted ag y tybiai fod Jones allan o glyw, "os ydych yn gofalu rhyw- faint am fy hapusrwydd i, ffowch ar UD- waith Ai nid ydych yn clywed ? Y mae pervgl yn eich amgylchynu os aroswch yma yn ngwyneb pob tystiolaeth a allaf fi ei ddwyn o'ch ochr •' A gwarth os ufuddhaf i chwi," atebai yntau. A hotfech i mi gael fy ngwarth- nodi fel drwg-weithredwr, Gwendolen ?" Wn i ddim-allaf fi ddim dweyd-ni allaf deimlo dim ond ofn am danoch chwi," sisialai yn bruddaidd. "Parry, os ydych yn fy ngaru, arbedwch y fath ond i mi." Os ydwyf yn eich caru ?" bwrlymiai o galon orlawn Parry anffodus. "O! Gwen- dolen. Gwendolen, y mae yn ormod. Arbedwch fy anrhydedd, neu o'r hyn leiaf eynoithwywch fi idd ei arbed, ond y mae fy nedwyddwch wedi ei ddinystrio am byth Yna, nid wyf yn camsynied-yr ydych yn fy ngharu ?" Yn fwy na fy mywyd-yn fwy na phob peth arall ar y ddaear." Ymdaflodd yr eneth ei hun i'w freichiau ar hyn, a bu yno gofleidio a chusanu gwresog, er yn nghanol dagrau. Yn fuan clywent swn rhywrai yn neshau atynt, a sisialai Gwendolen yn nghlust Parry, "Beth bynag a ddygwydd, ymddiriedwch yn fy nghariad a'm ffyddlondeb. Gwnaf obeithio hyd y diwedd. Ni wnaf gyfnewid byth bythoedd ?" Dycoa ni wedi dychwelyd, fy ar- glwyddes. Ni allaswn ddyfod o hyd i fwy na dau o'r ceidwaid, a dyma ddarn o liain i rwymo yr archollion." Dychwelodd dewrder Gwendolen ar ddyfodiad Jones a'r ceidwaid, a liwyddodd i gadw ei hunan-fedd'a it gystal fel na ddarfu i un drwgdybiaeth godi yn eu mynwes, oblegyd sylwent ar bob edryehiad a phob ysgogiad o'i he'.ddo. "Rhoddwch y brandy i mi," meddai. "Gwnaiff Mr. Parry godi ei ben." Gwell i chwi beidio rod,1i brandy iddo yn awr, neu gwna hyny y gwaed i ffrydio eto," meddai y gwas gan edrych gyda drwgdybiaeth ar Parry. "Gadewch i mi gynorthwyo fy arglwyddes." Ni wnaeth Gwendolen un atebiad, ond penliniodd yn ymyl y clwyfedig, gan gyfodi ei ben a un Haw, tra y eymhwysai ychydig o frandy at ei wefusau a'r Hall. Ond yr oedd y ewbl yn ofer. Nid oedd un arwydd o fywyd yn ymddangos-dim un cyffroad yn ganfyddadwy er rhoddi lie i obeithio am dano. Y mae yn eithaf marw y mae yn sicr," sisialai un o'r dynion ar ei gwaith yn parotoi y elwyfedig er mwyn ei gludo adref ar astell. Bydd rhywbeth i'w dalu am waith y boreu hwn." "A oes rhai o'r ceffylau wedi eu cyf- rwyo ?" gofynai Gwendolen yn frysiog, James, y mae-yma ddigon hebddoch chwi i gludo y corff adref. Yn awr, i ffwrdd a chwi ar unwaith tua'r ystablau, a dywed- [ wch wrthynt am anfon y ceffyl cyfiymaf a feddant tua Chaer i ymofyn Dr. Griffiths. Dywedwch wrthynt am yru am fywyd ac angeu. Yr ydych yn deall." Un dawel iawn ydyw," sisialai y gwas wrtho ei hun. "Gall dyn feddwl gyda phriodoldeb ei bod yn dri-ugain, ac nid yn ddeunaw oed. Yr wyf yn credu y byddai yn dda i'r dyn Parry hyna gymeryd y traed can gynted ag y gallo, neu yr wyf yn cam- synied yn fawr. Ataliai hyny rhagor o ddrwg a gofid. Ond rhaid i mi frysio." Brysiodd James nerth ei draed, a chyn hir cyrhaeddodd yr ystablau. Yn araf a thrwm y dychwelai y ewmni bychan ar hyd y llwybr a gerddwyd gan Gwendolen a'r hwn a garient fel corff marw er's ychydig eyn hyny. Cariai Jones (y gwas) a Parry yr astell, yr hon a ym- ddangosai i Gwendolen fel elor. Yr oeld Parry wedi hunan-feddianu ei hun yn I weddol, mewn ufudd-dod i ddymuniadau taer Gwendolen. Deallai yr hyn ag oedd ganddi mewn llaw, a gwyddai y byddai sefyll draw neu ar ol yn brawf o'i euog- rwvdd, yr hyn beth oedd iddo ef yn hollol ddyeithr, ond eto teimlai rhyw aeth ofn- adwy yn rhedeg trwyddo pan yn sylwi ar yr hwn a osodwyd mor isel gan ei law ef. 0 na allwn gymeryd ei le," meddyliai. Pa beth sydd genyf fi i fyw am dano ond gwarth a darostyngiad." Cariwch ef tuag at y cefn, er mwyn myned ag efi mewn y ffordd hono," meddai Gwendolen wedi iddynt gyrhaedd yn agos i'r Castell. "Y mae fy nhad yn hollol anmharod i dderbvn y newydd. Gwnaf y peth yn hysbys iddo ty hun, a gall Mrs. Williams ofalu am Syr John hyd nes y daw Dr. Griffiths." Trodd wedi llefaru yr uchod, ac aeth i mewn i'r Castell trwy y brif fynedfa. Ni wyddai yn y byd pa fodd i hysbysu ei thad, ae er pob ymdrech i fod yn ddyfal cyn cyrhaedd ei ystafell, yr oedd yno yn rhy gynar i'w boddio. Yr oedd ei thad yn ei lyfrgell, fel y meddyliai hi, ac ar ei gwaith yn tiesu at y drws, agorwyd ef gan ei arglwyddiaeth, yr hwn, er ei syndod a'i ddychryn, oedd yn gwybod yr oIL Yr oedd un o'r gwasmaeth-ddynion wedi ei hysbysu, ac wedi llwyddo i enyn ei diigllonedd i'r graddau eithaf yn erbyn William Parry. Gwendolen, fy mhlentyn, diolch i'r Nefoedd am eich diogelwch yn nghanol y cythrwfi. Pe y costiai fy mywyd, mynaf weled cyfiawnder yn cael ei wneyd. Yr adyn-yr adyn dyhirol fel ag yw, i lof- ruddio ymwelydd a pherthynas yn fy nhy. Yr wyf wedi gorchymyn ar i'r filain gael ei gymeryd i fyny, a gellwch fod yn sier y mynaf weled llofruddiaeth eich cyferdder yn cael ei dial i'r man eithaf. Edrychai Gwendolen gyda gwyneb erfyn- iol yn llygaid ei thad, a gwnaeth ymdrech i lefaru, ond methodd y tafod gyflawni ei wasanaeth. Ni aliasd ei natur oddef rhagor, a syrthiodd yn ddinerth i freichiau ei thad. (DIWEDD Y CHWECHED BENOD).

GWIBDAITH PATTY.

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Ebyrth Dynol yn Burmah.

!Etholiad Bwrdd Iechyd Mountain…

[No title]

Advertising