Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

LLUSERN Y LLAN. Cyhoeddedig gan Furrant a Frost, Merthyr TydSl. Cyhoeddiad Eglwysig misol ydyw y Llusern, ac feallai mai cyntaf-anedig y meddyiddrych hwnw yr ymdriniwyd ag ef yn y Gydgyng- horfa fawr yn Abertawe yn ddiweddar ydyw. Dadleuwyd y pryd hwnw gan rai o'n cenedl- garwyr Eglwysig yn nghylch y priodoldeb o gychwyn cyhoeddiad, yn yr hwn y gellid dadblygu, dadleu, a t'aaenu egwyddorion Episcopaliaeth yn fwy effeithiol nag oeddis wedi gwneyd hyd yma. Meddylial rhai mai diwedau a wnai yr hoil siarad mewn siarad yn unig ond y mae yn dda genym allu 11 tn dwyn tysfciolaeth nad yw y meddylddrych wedi myned yn hollol ofer. Mae y rhifynau am lonawr a Chwefror yn am ger ein bron, a gallwn dystio ein bod wedi cael ein bodd- hau yn fawr yn eu llenyddiaeth. Cynwysa y ddau erthyglau, a ilithiau ereill, adeiladol, addysgiadol, a dyddorol iawn i bob meddwl haelfrydig a dira,giarn-meddwl ag a all fesur a phwyso llenyddiaeth yn ol ei theilvagdod hanfodol ei hun, yn hollol anaibynol ar eism- roundings enwadol. Y mae peniadau y Llusern yn cynwys a ganlyn Traethodau'— Adolygiad y Wasg—Barddoniaeth— Cylch- .9, drem y Mis—Hanesion Crefyddol a Gwladol —Crybwyliion Llenyddol—Amry wiaethau, a Newyddion Diweddaraf. Ymdrinir a'r pen- iadau hyn i raddau m wy neu lai yn y rhan fwyaf o'r cyfnodolion Cymreig ereill ond nid wyf yn raeddwl fod un ohonynt yn dangos chwaeth hapusach mewn detholiad teatynau, na'u trin gyda mwy o feistroledd, na. Llusern y Llan. Cynwysa hefyd "Am- rywiaethau" yn llawn o ffresai, bywyd, ac argraff. Ond erthygl goronol y rhifyn arn lonawr yw y bregeth ar loan i. 14 A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni." Awdwr y bregeth hon yw y Parch. W. Cynog Davies, B.A., Ficer L, Aberteifi, ac, yn wir, y mae yn gredyd mawr i'w ben ac i'w galon. Y mae yn bregeth am- gyffredfawr, athronyddol, hysbyddol, a gwir alluog, ac yn fwy na gwerth y rhifyn gan- waith drosodd. Y mae y rhifyn am Chwefror yn llawn o'r amrywiaeth mwyaf newydd, gwreiddiol, a dyddorol ond ei ddarn coronol yw yr awdl ar Uaigedd," gan y diweddar Tydfylyn. Y mae hon yn awdl dlos, felus, a pherthynasol iawn. Y mae yr erthygl ar "Agweddau Meddyliol yr Oes yn un gref a gafaelgar. Nid yw yr awdwr yn athronyddu rhyw lawer, ond y mae yn ymresymu yn oleu, grymus, ac argyhoeddiadol. Mae erthygl o fath hen yn un brydlawn a gwir angenrheidiol, ac nis gall darlleniad pwyllog ac ystyriol ohoni lai na bod yn gyfnerthiad i'r uniongred, yn help i chwalu y niwl oddiar feddwl yr amheus, ac yn ddrych lied eglur i'r anffyddiwr i ganfod ei ynfydrwydd. Y mae hon yn ysgrif gyfaddas iawn i amgylchiadau ac angenion meddyliol yr oes. "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn" yw testyn pregeth gan y Parch. Lewis Jones, Ficer Taf- fechan, yn y rhifyn hwn, ac y mae yn bre- geth rhagorol a gwerthfawr-hysbyddol ac analytical i'r pen, ac nis gall lai na bod o fendith fawr i'r Cristion hwnw a'i darlleno gyda meddwl difrifol a hunan-ymholiadol. Os yw yr hwn sydd yn arfer anerch gorsedd gras am ddiwyllio ei hun, a gwybod pwy yw "gwir addolwr y Tad," dalied ei hun yn nrych y bregeth olrheingar hon. Yr ydym yn llongyfarch Llusern y Llan. Boed iddo gylchrediad helaeth, a gwnaed ddaioni. Y mae ei olygyddion yn ddynion goleuedig a Y" theilwng o'u swydd, ac mae ei lenyddiaeth yn cynwys amrywiaeth iachus, hyfforddiadol, a thra dyddorol. A yw yr iaith Gymraeg yn marw a hithau yn epilio cyhoeddiadau newyddion fel hyn yn ddiseibiant 1 Ai ar- wydd fod gwraidd y pren yn bwdr yw ei fod yn saethu allan geinciau newyddion yn ddirifedi ?

DAU FR i WD YN TAELTJ EU GILYDD…

Ystafell y Cerddor.

TAN DIN-Y8TRIOL, 1 G SOL LI…

Ymgom rhyngwyf a Modryb Catws…

NODION 0 GWMBACH.