Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
" M OBI EN" A " B.B.D."
M OBI EN" A B.B.D." SYR, Aroswch, gyfaill, nes terfynaf fy llithiau ar yr "Orsedd a'i Hynodion," ac yna, os boddlon gan y Cyhoeddwr, dadleuaf a chwi ar destyn eich llythyr. Da genyf ddeall wrth eich llythyr eich bod chwi yn honi bod yn ddysgedig, ac o ganlyniad fod lie i obeithio y cawn drin y pwnc yn dawel a boneddigaidd. Nid wyf am fod yn ddog- matic," oud crefu yr wyf am fwy o oleuni, os ydyw i'w gael, a byddaf ddiolchgar am dano. Dywedaf hyn—y mae yn amlwg eich bod yn camddeall y Gyfrol Sanctaidd, gan y dywed- wch, "Nid oedd un flaenoriaeth yn cael ei rhoddi i Lwyth Judah. Yr oedd Zabulon ac Issachar yn cael yr un rhagoriaeth ag oedd Judah yn ei gael. Trowch, gyfaill, i Lyfr Numeri, yr ail benod, a'r drydedd adnod, a gwelwch a ganlyn A'r rhai a wersyllant o clu y dwgrain tua chodiad haul, fydd gwyr Human gwersyll Judah, yn ol eu llnoedd: a chapten meibion Judah fydd Nahson mab Aminadab." Yna gwelwch, yn ol adnodau y pumed a'r seithfed, fod Llwyth Issachar a Llwyth Zabulon un bob ochr iddo. Judah freninol ac offeiriadol (ond nid yn offeiriad- aeth ymarferol yn Israel) oedd yn y man cysegredig, sef ar gyfer codiad haul yn y gwanwyn, pan y mae yr yni yn melltenu trwyddo. Hefyd, cynghorwn chwi i fyned yn mhell- ach yn ol na Plato cyn ymgymeryd yn y dyfodol a'r gorchwyl o'm beirniadu i, canys gwelaf mai yn ysgrifeniadau'r Groegwr y cawsoch y drychfeddwl mai dyn oedd Tlioth, Logos yr Aifft. Yr oedd y Groegwyr yn per- sonoli pob peth braidd-yn cael, mae yn debyg, eu gwthio i hyny gan y reddf gelfydd- ydol oedd ynddynt.—Yd wyf, &c., MORIEN.
GAIB AT Y OYMBO GWYLLT.
GAIB AT Y OYMBO GWYLLT. ANWYL GYFAILL,—Yr wyf wedi arfer dar- llen eich llithiau o Le'rpwl yn y GVVLADGARWR trwy'r blynyddau gyda dyddordeb, gan eich bod yn cymeryd brasolwg ohelyntion gwleid- yddol y dydd, yn enwedig pan fyddo pynciau pwysig yn troi i fyny ag a fyddont yn debyg o effeithio ar y wlad yn gyffredinol, ac yr wyf yn credu fod y mwyafrif o ddarllenwyr y GWLAD JARWR yn cydolygu 4 chwi fynychaf ond rhaid i mi addef fy mod i, a llawer ereill yn y gymydogaeth hon, wedi cael ein siomi yn fawr yn eich ysgrifau diweddaf ar etholiad Le'rpwl. Credaf fod sefyllfa y wlad ar yr adeg bresenol yn galw am i ni ddangos ein hegwyddorion, ac i sefyll yn wrol o'u plaid, ac i edrych ai les cymdeithas yn gyffredinol, ac nid lies rhyw un dosbarth. Gallem feddwl wrth eich ysgrifau fod yr ymgeisydd Torïaidd yn bob peth ag y gallech ddymuno—yn ddyn caredig, hael, a chymwynasgar. Nid wyf yn gwybod i ba gyfeiriad y mae ei gymwynasau n 11 yn rhedeg, ond gallaf ddyfalu hefyd, gan fod tafarnwyr Le'rpwl yn ddieithriad o'i blaid. Yr ydych, o'r ochr arall, yn cyhuddo yr ym- geisydd Rhyddfrydig o fod wedi ymgymodi &'r Gwyddelod, pan nad ydyw ond yn unig wedi addaw gwneyd ymchwiliad i'w hachos ac yr wyf yn credu fod hyny yn eithaf teg a rhesymol yn awr, gan mai brwydr rhwng egwyddorion caethiwed a rhyddid ydyw hi yn bresenol, ac nid brwydr rhwng personau.- Dylai pob un ag sydd yn bleidiol i ryddid, a heddwch, a llwyddiant y wlad, ddyfod allan i wneyd yr hyn a allo er cael hyny oddiam- gylch. Yr wyf yn credu fod genych chwi ddigon o ddylanwad yn Le'rpwl i wneyd llawer iawn o dda neu lawer iawn o ddrwg, ac os ydych yn proffesu eich bod yn Rhyddfryd- wr, fel yr oeddwn i wedi arfer meddwl eich bod, dylech roddi eich holl ddylanwad o blaid egwyddorion Rhyddfrydig, ac nid sefyll fel Meros gynt a dwayd, Na waeth genych pa ochr a garia y dydd." Ond, o'r ochr arall, os ydych yn pleidio egwyddorion Toriaidd, myn- egwch hyny yn eglur, fel y gallo y wlad wybod eich barn. Yr wyf yn credu fod cyfiawnder yn gofyn hyn oddiar eich llaw fel dyn cy- hoeddus.—Yr eiddoch yn barchus, Aberdar. DEWI AB IAGO.
NEWYDDION PELLEBREDIG
NEWYDDION PELLEBREDIG I'R GWLADGARWR." DYDD MAWRTH, Chwef. 10. DAM WAIN I FILWfR TfRCAIDD. Y ddoe, pan bu nifer o filwyr Tyrcaidd yn gwledda yn Beykoi, ger Constantinople, cwymp- odd y barracks i mewn. Dywedir fod 200 o'r milwyr wedi eu lladd, a 300 eu clwyfo. COLLI AD AGERLONG FFRTNGIG. Cyrhaeddodd yr agerlong Campanil Ealraoath heddyw, a chanddi ar fwrdd morwr o'r enw Rousel, yr hwn, credir, ydyw unig gorfucheddwr yr agerlong Valentine, yr hon a adawodd Caer- dydd ddydd Sul. Torodd y dwfr i mewn i'r engine-room, a dechreuodd y llong suddo. Cil- iodd y dwylaw-17 mewn rhif-mewn dau gweh. Dymchwelodd un ohonynt, a boddodd pawb oedd ynddi, ond lly wddodd Rousel i gadw afael ar y cwch. Mae y eweh arall wedi suddo. Oherwydd y tywydd annghyffredin o arw a fu, o-orfodwyd i'r agerlong Chimborazo, rhwym am Awstralia a 462 o deithwyr, ddychwelyd yn ol i Plymouth. Golchwyd tri o'r dwylaw ymaith, niweidiwyd 17, ac y mae un wedi marw mewn ^a,nlyniad i'r niweidiau a derbyniodd.
AGORIAD Y SENEDD.
AGORIAD Y SENEDD. Agorwyd y Senedd dydd Iau, y 5fed cyfisol, gyda rhwysgfawredd, gan y Frenines yn bersonol. Am chwarter wedi pump o'r gloch, cododd yr Arglwydd Ganghellydd i ddarllen ARAETH Y FRENINES, sylwedd yr hon oedd fel y canlyn Fy ARGLWYDDX A BONEDDIGION,- Gyda llawer o foddhad yr wyf eto yn ymofyn eich cynghor a'ch gwasanaeth yn fy l Mharliament. Pery fy mherthynasau a'r holl alluoedd yn gyfeillgar. Y mae cwrs dygwyddiadau, er toriad i fyny y Senedd, wedi gogwyddo i gynysgaethu diogelwch ychwanegol at gad- wraeth heddwch Ewropaidd, ar yr egwyddor- ion osodwyd i lawr gan Gytundeb Berlin. Fodd bynag, y mae llawer eto yn aros i gael ei wneyd i adgyweirio yr annhrefn a effeith- iodd y rhyfel diweddar mewn amryw ranau o'r Ymerodraeth Dyrcaidd. Y mae cytundeb er gosod i lawr v gaeth- fasnach wedi ei derfynu rhwng fy Llywodr- aeth ag eiddo ei Fawrhydi Ymerodrol y Sultan. Ar derfyn eich Sesiwn ddiweddaf, dat- genais fy ngobaith fod Cytundeb Gundamak, yn ffodus, wedi terfynu y rhyfel yn Affghan- istan. Mewn cydffurfiad ai ddarbodion, derbyniwyd fy nghenadwr a'i osgordd yn anrhydeddus gan yr Ameer yn Cabul. Tra yn yr ymarferiad o'i ddyledswydd, fodd bynag, ymosodwyd yn fradwrus gan lu mawr ar y Genadaeth, ac, wedi amddiffyniad gwrol, cigyddiwyd hwy bron i gyd. Yr oedd ys- gelerwaith mor anoddefadwy yn galw am gerydd dyladwy a'm catrodau, yn unol a darbodaethau y cytundeb oeddynt wedi ol- gilio, neu yn ol-gilio, o'r tiriogaethau a lywodraethid gan yr Ameer, a orchymynwyd i gyfeirio eu camrau yn ol. Yr oedd y medr a ymddangoswyd yn yr ymdeithiad cyflym tua Cabul, ac yn y blaen-ddynesiadau ar linellau yr ymgyrch, yn adlewyrchu y credyd uwchaf ar swyddogion a gwyr fy ngalluoedd Prydeinig a brodorol, gwroldeb y rhai a ddysgleiriai yn ei danbeidrwydd arferol yn mhob gwrthdarawiad a'r gelyn. Y mae ymddiswyddiad yr Ameer a chyflwr ansefydlog y wlad yn ei gwneyd yn anmhosibl i alw ymaith fy nghatrodau yn bresenol; ond erys yr egwyddor ar ba un y gweithredodd fy Llywodraeth yn flaenorol yn ddigyfnewidiad, a thra yn benderfynol i wneyd tueddan fy Ymerodraeth Indiaidd yn gadarn, yr wyf yn awyddus i fod ar delerau cyfeillgar a'r rhai fyddont yn llywodraethu yn Affghanistan, yn gystal ag a phobl y wlad hono. Oyflawnwyd fy rhagdybiaethan gyda golwg ar sefydliad cynarol heddwch yn Neheubarth Affrica. Darfu i gymeriad a darostyngiad Brenin Zulu, a thoriad i fyny y trefniant milwrol ar ba un y gorphwysai ei freniniaeth, ryddhau fy meddianau yn y parth hwnw o'r byd oddiwrth berygl a rwystrai yn ddifrifol eu blaen-fynediad a'u cydgorfforiad. Yn Basutoland, gosodwyd i lawr derfysg brodor- ol o gryn bwys gan fy ngalluoedd trefedig- aethol, tra y mae y Transvaal wedi ei rhydd- hau oddiwrth anrheithiau penaeth nerthol, yr hwn, ar ol gwrthsefyll yn llwyddianus lywodraeth flaenorol y wlad, oedd wedi ys- tyfnig wrthod ein cynygion am gymod. Y mae genyf reswm dros obeithio fod yr amser yn awr yn agoshau pan y gellir gwneyd ysgogiad pwysig tuag at sefydlu Undeb neu Gynghrair, o dan ba un y gall pwerau hunan- lywodraethiad a fwynheir yn barod gan breswylwyr Trefedigaeth y Penrhyn, gael eu helaethu i'n deiliaid mewn rhanau ereill o Ddeheubarth Affrica. Gosodir papyrau ar hyn a materion ereill ger eich bron rhag blaen. FONEDDIGION TY Y CYFFREDIN,— Yr wyf wedi cyfarwyddo i amcan-gyfrifon y flwyddyn hon i gael eu parotoi a'u cyflwyno i chwi yn ddioed. FY ARGLWYDDI A BONEDDIGIOJT,— Y mae y Ddirprwyaeth, yr hon, ar derfyn y Sesiwn, yr hysbysais chwi oeddwn wedi benodi i ymchwilio i achosion y dirwasgiad amaethyddol trwy y Deyrnas Gyfunol, yn myned yn mlaen a'u gwaith. Yn y cyfamser, y mae y diffyg difrifol yn y cnydau arferol yn rhai rhanau o'r Iwerddon wedi gwneyd rhag- ddarpariad arbenig yn angenrheidiol ar ran fy Llywodraeth er gochelyd rhag y trychin- ebau a pha rai y bygythir y dosbeirth hyny. Gyda'r amcan hwn, yr wyf wedi galw ar yr awdurdodau, ar y rhai y gorphwys y dyled- swydd o weinyddu ym wared, i wneyd darbod- ion digonol i ddosbarthu ymborth a defnydd tan, os daw hyny yn angenrheidiol, ac y maent hefyd wedi anog cyflogiad llafur trwy fenthyciadau ar delerau mwy haelionus na'r rhai a ddarbodir gan y ddeddf a fodola. Teimlwyf yn sicr y gwnewch roddi eich cydsyniad i'r cwrs a fabwysiadwyd, lie y byddo wedi myned tuhwnt i'r gallu a ymddir- iedwyd i'r Parliament gan y Llywodraeth. Gosodir o'ch blaen gynyg i ddarparu trysor- feydd gofynol i'r benthyciadau eithriadol hyn ar ddiogelwch yr eiddo gweinyddedig gan ddirprwywyr y Tymorolion Eglwysig. Gobeithiwyf y byddweh yn alluog i adymgy- meryd ag ystyriaeth Cyfraith y Drwg-weith- redwyr, a gwelliant Cyfraith Methdaliad. Gosodir ysgrifaú o'ch blaen er eangu pwer- au perchenogion tiroedd setledig, ac er cyd- sylweddoli a gwella y Cyfreithiau Lloerigol, a symleiddio ymarferiad Trosglwyddiadaeth. Yr wyf yn cyflwyno y rhai hyn, a mesurau ereill a ddichon gael eu gosod o'ch blaen, i'ch hyatyriaeth, a hyderwyf y bydd bendith yr Hollalluog yn gydfynedol a, ac yn cyfarwyddo eich llafurwaith.
[No title]
Y RHYFEL AFFGHANAIDD.—Newyddion di- weddaf o Cabul a'n hysbysant fod yr Affghan- iaid yn dra phenierfynol, ac yn casglu eu holl nerth am ymosodiad arall ar y Prydeinwyr.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. Y FRWYDR ETHOLIADOL. Bellach mae yr ymdrech drosodd, a'r gwa- hanol bleidiau wedi gweithio gydag egni nad annghofir yn fuan, yr hyn a brawf fod sel wleidyddol mewn pawb dynion, o bob dos- barth a "sefyllfa. Collodd y Rhyddfrydwyr un cam pwysig trwy wneyd cydymuniad a'r blaid Wyddelig a elwir Elome Bulers. Pell wyf o gredu fod cysondeb rhwng y blaid An- nghydffurfiol a'r blaid Babyddol. Tebyg fod y byd yn edrych ar L'erpwl yn yr ymgyrch bresenol. Sier ydyw fod y diffyg, i raddau pell, i'w briodoli i'r ieuad annghydmarus rhwng Annghydffurfiaeth a Phabyddiaeth. Hwyrach fy mod yn taro yn erbyn syniadau rhai unigolion, ond eto nid yw hyny yn brawf digonol nad yw fy syniadaeth yn uniongred. Pe cynhyrfwn y mor, ni waeth genyf ac nis gall un dyn byw bedyddiol fy argyhoeddi y gall Pabyddiaeth ac Annghydffurfiaeth gyd- I redeg law yn llaw. Yn annibynol ar Geid- wadaeth a Rhyddfrydiaeth, rhaid i ni fel Cymry beidio ymostwng i gael ein llywodr- aethu gan yr elfen Wyddelig. Nid wyf yn meddwl gwneyd un math o feirniadacth, ond gallaf ddweyd hyn, na bydd i mi byth ymos- twng i bleidio y Babaeth, er cael ychwaneg o ferthyru a llosgi wrth yr ystanciau. Nid oes dim mwy na llai yn yr Home Bxde na dy- chwelyd yn ol o dan lywodraeth a dylanwad y Babaeth. Blin genyf ddeall fod gweinidog- ion Ymneillduol wedi myned i'r fath rysedd gorwyllt nes ydynt braidd wedi annghofio cartref. Gwyddom yn dda am gysylltiad yr Eglwys a'r Llywodraeth, ond nid ydym yn gwybod beth fydd y canlyniad o adgyfnerthu a dal i fyny freichiau y Babaeth. Os na fydd i Ymneillduwyr Prydain ymgroesi, mae lie i ofni fod drwg yn darllaw, a pherygl yn ym- ddangos yn awyrgylch ein gwlad. Beth bynag ydyw cysylltiadau yr Eglwys a'r Llyw- odraeth, ni wna hyny gyfyngu ar ryddid Ym- neillduaeth ond os gadewch i'r hen John Babydd gael bys i mewn, nid oes wybod pa beth fydd y terfyn. Mae gan bob dyn ei farn ar bynciau cyhoeddus ond yn fy myw, nis gallaf ymdoddi i mewn ac ymostwng i lyw- odraeth Home Rnle. Rhag i mi dynu gwg neb, ymfoddlonaf ar dewi a bod yn dawel. Saif y pleidleisiau fel y caniyn Arglwydd Ramsay 23,885 Mr. Whitley. 26,106 Mwyafrif i'r olaf 2,221 Fe ddywedir fod Cymry Everton -y mwy- afrif ohonynt-wedi pleidio Mr. Whitley, er mwyn darostwng, wrth bob tebyg, ddylanwad y blaid sydd yn ymgais am Home Rule. Odid na fydd llawer iawn o feirniadu a gorfeirniadu ar etholiad Le'rpwl ond, bid a fyno, mae y gwladwr caredig, y trefwr hynaws, a'r athraw yn yr Ysgol Sabothol wedi cario barn i fudd- ugoliaeth drwy bleidlais gyfiawn ac anrhyd- eddus. Ceisiodd rhai Cymry o ddylanwad yn y dref brofi fod dau gymeriad yn cydgyfarfod yn mherson Mr. Whitley ond nid oedd dim yn tycio, a pheth gwrthun iawn oedd ceisio gan neb gredu y gallasai Cristion gwladgar a chythraul fodoli yn yr un person. Gwyddom yn dda am ddiffygion a rhagoriaethau yr Eglwys Sefydledig, fel mae yn hawddach i ni gydymddwyn a hi nag ymostwng o dan iau orthrymus y Babaeth, a chael ein llusgo yn ol i gyfnod y merthyru. Trawsarglwyddiaeth a gorfaeliaeth ydyw galluoedd dirgeledig y Bab- aeth, a bydd i'r neb a bleidio Home Bide brofi ar unwaith ei fod am werthu ei ryddid a myned yn gaeth. Mae hawl gan bob dyn i feddwl a barnu fel y myno ond gwareded y Drefn fa.wr ni rhag ymollwng a gwneyd ein hunain yn gaethion gwirfoddol o dan draed cenedl neu blaid nad ydynt yn gallu gwerth- fawrogi heddwch a chymydogaeth dda. Os edrycha y darllenydd ar y pwnc yn ngoleuni gwirionedd, fe wel nad oes gan y Gwyddel Pabyddol un teimlad da at neb ond ei blaid ei hun. Gan fod yr amser wedi rhedeg yn mhell, rhaid i mi droi pen arni yn y fan yma ond goddefer i mi awgrymu fod perygl y bydd cynhwrf a thywallt gwaed yn yr Iwerddon cyn dyfod o'r llinellau hyn o flaen llygaid y dar- llenydd.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Gweithfeydd Haiarn Hirwain.
Gweithfeydd Haiarn Hirwain. Dywedir y bydd i'r gweithfeydd hyn gael eu cychwyn heb fod yn hir gan gwmni cyf- rifol. Y mae y gwaith o'u hadgyweirio wedi ei ddechreu eisoes.
DAMWAIN ANGEUOL YN Y MAINDY,…
DAMWAIN ANGEUOL YN Y MAINDY, CAERDYDD. Dydd Iau, yn y Star Patent Fuel Works. Maindy, cymerodd dam wain le i dri dyn a bachgenyn, y rhai oeddynt yn llwytho patent fuel i f&d ar y gamlas. Yr oedd yno amryw ganoedd o dunelli o'r patent fuel wedi crugio ar eu gilydd, pa rai a roddasant ffordd, a syrthiodd carnedd i lawr, gan gladdu dyn o'r enw Williams dani. Collodd ef ei fywyd, a niweidiwyd y tri ereill, ond nid yn beryglus. Dywedir nad oes bai yn gorwedd wrth ddrws neb.
[No title]
Y mae trysorfa y Duges Marlborough at roddi ymwared i'r Gwyddelod yn awr wedi cyrhaedd y swm o 32,472p. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd cyhoeddus yn Germani i wrthdystio yn erbyn cynyddu y fyddin, yr hyn sydd wedi peri cryn an- esmwythder yn y lly-s ymerodrol. Dywed Count Moltke nas gall fod lleihad cyffredinol mewn arfogaeth hyd nes yr argy- hoeddir pob cenedl fod pob rhyfel, hyd yn nod os bydd yn fuddugoliaethus, yn anffawd cenedlaethol. GWEITHFEYDD GLENGARNOCK.—Chwef. 2, cyrhaeddodd nifer o weithwyr haiarn o Dde- heudir Cymru i'r gweithfeydd hyn yn Scot- land, er gymeryd lie nifer o'r Sandies ag sydd yn ffaelu gytuno a'u meistri.
Advertising
Eisteddfod Gadeiriol Mountain Ash. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod Gadeir- JD iol Fawreddog mewn PABELL eang a chyfleus, yn y lie uchod, dydd LLUN y SUL- GWYN, Mai 17eg, 1880. Beirniad y canu yw EOS MORLAIS. Beirniad y traethodau a'r farddoniaeth, &c., NATHAN DYFED, Merthyr. Llywydd am y dydd C. H. JAMES YSW., Merthyr. PRIF DDARNAU CORAWL. I'r c6r, heb fod dan 80 mewn rhif, a gano yn oreu "Hallelujah Chorus" (Beethoven's Mount of Olives) gwobr, 25p., a medal aur i'r arwein- ydd, gwerth 2p. I gor perthynol i'r un gynulleidfa, dim dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Molwch yr Ar- glwydd" (gan Mr. John Thomas, Llanwrtyd); gwobr, 10p., a medal arian i'r arweinydd- lp. Is. I'r c6r o blant a gano yn oreu Storm the fort of Sin (gan Mr. J. Samuel) gwobr, 2p. 10s., ac opera Blodwen wedi ei rhwymo yn hardd i'r arweinydd. BABDDONIAETH. Testyn y gadair, awdl "Y Wawr," dim dros 300 o linellau gwobr, 5p. 5s., a chadair hardd gwerth 2p. 2p. Prydclest Goffawdwriaethol i'r diweddar Mr. Evan Griffiths, overman, Navigation Colliery; gwobr, 2p. 2s. TRAETHODAU. Am y casgliad goreu o Ddiarebion Cymraeg, yn nghyd a'r cyfieitliiad goreu o'r cyfryw i'r Saesneg. lihoddir y wobr hon gan y Llywydd, C. H. James, Ysw., Merthyr. Gwobr o 5p. Traethawd, Dychymyg "—Cymraeg neu Saes- Deg-gwobr, 2p. Am y gweddill o'r testynau, yr amodau, &c., gwel y programme, yr hwn fydd yn barod yn fuan, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd, DAVID THOMAS, 2231 Primrose Hill, Mountain Ash. Eisteddfod Gadeiriol Pontypridd. CYNELIR YR AIL EISTEDDFOD FLYN- CYNELIR YR AIL EISTEDDFOD FLYN- YDDOL ar DDVDD MAWRTH Y SULGWYN, 1880. Cadeirydd GWILYM WILLIAMS, Ysw., Miskin Manor. Arweinydd :—LLEW LLWYFO. Beirniaid LLEW LLWYFO ac Eos MORLAIS. PRIF DESTYNAU 1'r c6r, dim dan 50 mown rhif, a gano yn oreu Teyrnasoedd y ddaear," gwobr 20p., h.y., 17p. i'r c6r, 2p. i'r arweinydd, a lp. i'r soloist goreu. I'r cor plant a gano yn oreu There's a light in the valley (Sankey a Moody), gwobr dau gini, a baton i'r arweinydd. Am yr Awdl oreu ar Yr Enaid," dim dros 500 o linellau, gwobr pum' gini, a chadair fudd ugol yr Eisteddfod gwerth dau gini. Am y traethawd goreu yn y Gymraeg neu y Saesonaeg, Hawliau Cymru i addysg uwch- radaol gwobr tri gini a medal arian. 1'r Drum & Fife Band a cbwareuo yn oreu tair alaw Gymreig (dewisedig gan y Pwyllgor, ac i'w gweled ar y programme); gwobr, 3p. 3s. Am y Glee goreu (yr awdwr i ddewis y geiriau) gwobr, lp. Is. Rhoddir gwobrau pwysig hefyd i'r ymgeiswyr llwyddianus fel telynwyr, pardonegwyr, areith- wyr, adroddwyr, llawysgrifenwyr, &c. Bydd y programmes yn barod ar fyr, ac i'w cael am lie. gan yr Ysgrifenydd. 2 CYNELIR CYNGHERDD ARDDERCHOG YN YR HWYR. D. LEYSHOST, Cadeirydd. JOSEPH DAVIES, Ysg., Graig Board Schools, 2237 Pontypridd. Beulah, Pontnewydd, Mynwy. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod C LLUN Y PASC, Mawrth 29th, 1880, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn rhyddiaeth, barddoniaeth, a chaniadaeth, &c. PRIF DDARN CORAWL. Save us, Lord," o'r Congregational Anthems, No. 18, i'w cael y Tonic Solfa Agency, 8, Warwick Lane, London, E. C. gwobr, 4p. 4s., a lp. Is. i'r arweinydd. TRAETHAWD. Am y traethawd goreu ar "Anrhydedd;" gwobr, 15s. BARDDONIAETH. Am y chwech penill goreu ar Danchwa Aber- carn, Medi, 1878 (wyth llinell yn mhob penill); gwobr, 10s. Ceir yr holl fanylion pellach yn y programme, pris, trwy'r Post, 1tc., i'w gael gan yr Ysgrifen- 2 ydd MR. M. HUGHES, Cloth Hall, Newbridge, 2223 Near Newport, Mon. Tabernacle, Porth. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod C dydd LLUN, Mai 17eg, 1880 (Gwyl y Sul- gwyn). Y PRIF DDARNAU. I'r cSr heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu, Teyrnasoedd y ddaear gwobr, 20p. (18p. 'r c6r, a cbadair hardd gwerth 2p. i'r arweinydd). 1'r c6r, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu Mendelssohn's Hunting Song;" gwobr, 3p. I'r c6r o blant, heb fod dan 30 mewn rhif, na thros 15 oed, a gano yn oreu "We're marching to Zion (o'r Sacred Songs and Solos); gwobr, lp. Am y gan oreu yn Saesonaeg, er cof am y Parch. D. Thomas (Dewi Ogwy), cynweinidogy Tabernacle, Porth clim dan 60 o linellau- gwobr, lp. Is. Am y gweddill o'r testynau, yn nghyd a'r manylion a'r amodau, gwel y programmes, y rhai sydd yn awr yn barod, ac i'w cael gan yr Ysgrif- enyddion am y pris arferol-Ceiniog a Dimai. Enwau y beirniaid i ymddangos yr wythnos nesaf. MEDAD LEWIS, Ysg. Goh., Dinas, Pontypridd. REES R. PRICE, Ysgrifenydd, Primrose Cottage, Cymer, near Pontypridd. 2230 Eisteddfod Nantgaredig. CYNELIR yr uchod dydd Iau Dyrchafael— C Mai 6ed, 1880. Bydd y programmes allan yn fuan, ac i'w cael am y pris arferol gan yr Ysgrifenyddion— JOHN JAMES (Feiingwmiad), a WM. EVANS, Monachdy, Nantgaredig, near Carmarthen. 2235 Money. ONEY. -Various Sums to Lend on Leasehold MONEY.—Various Sums to Lend on Leasehold Security. Apply to W. and J. Beddoe, Solicitors, Merthyr, Aberdare, and Pentre Ystrad. Led. 408 Established 19 Years. G. IYEY, SABWRa BLODAU-AMAETHYDI>, 26, Canon-street, Aberdare. MAE G. IVEY yn cymeryd y cvfleusdra presenol i hysby-su trillion Aberdar, Merthyr, Mountain Ash, a'u cymydugaethau, ei fod newydd dderbyn oddiwrth un o'r Cynyrchwyr Hadau mwyaf yn Essex, ei Stoc newydd c Hadau Gardd, Ffarm, a Biodau ac er i'r tymor di- weddaf fod yn un o'r rhai mwyaf dinystriol i gynauafu hadau, y mae yn ei feddknt siamplau o hadau na ragorir arnynt gan un Ty yn y grefft. Hefyd, amrywideth ardderchog o Ha iau Cloron (yn ddidwyll i enw) hyn yn neillduoi dvmunaG. J. wasgu ar feddylLu y cyfryw ag sydd yn bwr- iadu planu Cloron, fod ifaeledd mewn cnwd yn fwy priodoladwy i hyn nag i unrhyw achos arall, ac fel hyny mae'r egwyddor "PenD y wise and Pound foolish yn cael ei chario allan nid yn unig, mewn planu Cloron, ond mewn Hadau Gardd a Ffarm, wrth brynu Hadau Hhad," yr hyn a feddylia yn Seisnig Doctored Seeds," neu hadau wedi eu hachub oddiwrth gnydau llwm. Hefyd, siampl o'r radd flaenaf o Potatoe Oni ajs a Shallots, Rye Grass (had mordrosol Ita,lai Id), Spring Vetches, Red & White Clover (wiamplau gwych), Swede a Field Turnips ereill, Mangel Wurtzel (had o'r un stoc a ticrhaodd brif wobrau oddiwrth amryw o'r Cy mdeitliasau AmaetLyddol yn Lloegr y flwycldyn ddiweddaf), iuano, Superphosphate, Nitrate of Soda J: Crushed Bones, wrth y pniys, y can' pwys, neu y cwd. Phospho Guano mewn tins, 6c. Amies' Chemical Manure mewn tins Is. (gwrtaith rhagorol i redyn). Summer Cloud (parotoad sydd uewydd ei ddyfeMo at gysgodi, yn hawdd i'w osod a i symud) mewn canisters Is. 6c. Mae'r elfaith yr; foddhaus. Gwnai Cynyrchwyr Cucumbers yn dda i wneyd prawf ohuno. Silver Sand, Peat, Cocoa Fibre, a phob peth angen- rheidiol at y Green house a Window Gardening. Flowe.;Pots, Rhubarb Pots, Terra Cotta, a nwy- ddau ffansïol ereill. lthaffea, Japan Flax & Virgin Cork. Cucumber, Vegetable, Marrow, a, Pumkin Plants y Mammoth Pumpkin wedi tyfu i'r trymder o 108 pwys. Mushroom Spawn, Ever- lasting Flowers, Grasses a Moss. Wreaths- Crosses, ac felly yn y blaen. COFIER YR ADDRESS- 26, GA N() Ar-STIIEET, ABEBDAB. (Gyferbyn a'r Teinperanc Hall). -> RHYBUDD. TAYMUNA R. H. MILES, Cigydd, hys- bysu i'w gyfelllion a'r cyhoedd ei fod wedi SYMUD o Canon-street i 27, COMMERCIAL PLACE, ABERDARE, Lie y gobeithia y ca yr un gefnogaeth ag a, dderbyniodd yn flaenorol. Y czgoedd goreu am y prisoedd iselaf t COFIWCH Y CYFEIRIAD— R. H. MILES, CIGYDD, &c., 27, COMMERCIAL PLACE, ABERDARE*. GWAED, CROEN, NERVES! YMAE GWAED PUR, CROEN IACH, & JL NERVES CADARN, yn anhebgorol angen- rheidiol tuag at sicrhau lechyd. Trwy y gwaed y mae pob drwg a da yn gweithredu ar y corff y felly, cymerer T 141? (REGISTEBED.) y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o Buro a Chryfhau y Gwaed. Tuag at y PILES, Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, yn achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., y maent yn hynod o effeithiol. GWELLHAD HYNOD! SYR,—Yr wyf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef "HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oeddwn yn methu ceidded cam braidd, ac yn methu eis- tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhan iselaf o'r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wan yn awr, yr wyf yn holliach, ac yn Lur ddiolchgar. Cwmbran, Awst 20fed, 1876. MARY JAMES. RHYBUDD.—Mae llwyddiant y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, felly gofaler cael y Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar bob blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r enw Jacob Hughes" ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad. Ar werth drwy yr holl deyrnas am ls. lic., 2s. 9c., 4s. 6c. Gyda'r post Is. 3c., 2s. llc. a 4s. 9c,, oddiiorth y Perchenog- Jacob Hughes, Apothecarie's Hall, Llanelly.
ETIIOLIAD AGOSIIAOL Y BYBDDAU…
apelio am yclrwanegu ei gyflog i .i)Op. a sicr yw, os oedd yn werth hyny y ^ryd hwnw, ei bod yn werth hyny y? awr p?^ y mae y gwaith wedi ychwanegu cymaint. Gyda'ch cania.oad, Mr. Gol., dychwelaf at y mater hwn eto mewn rhifyn dyfodol, gan ddan- gos y priodoldeb o gadw yn mlaen yr attendance officer trwy ategu fy ngolygiadau a thystiolaeth- au personau o safle ac awdurdod. A.c er gwelecl a oes rhyw ychwanegiad yn effeithiolrwydcl yr addysg a gyfrenir yn ysgolion Bwrdd Llanwono er pan neillduwyd arolygwr, gwnaf gymharu results arholiadau yr ysgolion am y tair blynedcl diweddaf a'r flwyddyn 1876, sef y flwyddyn flaenorol i'w neillduad i'r swydd arolygol.- Yr eiddoch, UARWR ADDYSG,