Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TANCHWA DDYCHRYNLLYD MEWN…

News
Cite
Share

TANCHWA DDYCHRYNLLYD MEWN GLOFA. 60 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI! (Jymerodd tanchwa ddychrynllyd le yn air Stafford foreu dydd Mercher, wytbnos i'r 'diweddaf, am 8 o'r gloch, yn y Fair Lady Pit, perthynol i'r Crewe Coal & Iron Company (Limited) Y11 Leyeett-pentref tuag wyth milldir o Hanley, a'r un faint o bellder o Crewe. Trwy yr elFeithiau trychinebus, y slao ° 60 i 70 o fywydan wedi eu colli, ae «eill wedi en hanafu, amryw ohonynt tuhwnt i bob gobaith am adferiad. Ar yr awr a nodwyd, "cymerodd ffrwydriad ofnadwy Ie, yr hwn a glywid mewn pellder o 6 i 8 milldir. Ttwy enau y pwll esgynai colofnau mawrion ♦ fwg a llwch yn uniongyrehol ar ol y ffrwydr- iad. Yr oedd 77 o lampiau wedi eu rhoddi allan y boreu hwnw, ac ofnid yn gyffredinol -fod yr oil wedi trengn. Daeth yn nghyd oifer o ddynion o'r glofeydd cymydogaethol, yn nghyd & Mr. Hill, arolygydd heddgeid- wald y Stafford shirs Potteries, yr hwn a gtywsai y ffrwydriad rai milldiroedd o'r lie. Oidiwrth ymddangosiad y mwg, yr oedd yn «giur fod y pwll ar d&n. Ni chliriodd y mwg iyd tua phedair awr ar ol y ffrwydriad, fel ag i alluogi neb i fyned i lawr i'r pwll i wneyd ymchwiliad. Wedi myned i lawr, cafwyd i'r ttanchwa gymeryd lie yn y wytbïen saith ttoedfedd Banbury, yn yr hon wythïen y cymerth tanchwa Talke of the Hill le 15 talynedd yn ol, pan y collwyd 90 o fywydau as, yn Apedale 2 flynedd yn ol, pan y collwyd 23 o fywydau. Pan lwyddwyd i gyrhaedd rhanau y pwll He yr oedd y glowyr wrth eu gwaith, cafwyd fod deuddeg o honynt yn fyw. Un o'r enw Burgess, manager dan y ddaer, dau o feibion yr hwn oeddynt yn y pwll, ond wedi en lladd. Djygwyd y deuddeg dyn oedd yn fyw i fyny i ban y pwll can gynted ag oedd bosibl ac yn fuan, daeth meddygon i'r lie. Cludwyd hwy i-'w cartrefi mown menau ac ar gyfrif y rhew, yr oedd y ffyrdd yn gelyd iawn, fel yr oedd- ynt yn cael eu hysgwyd yn druenus. Bu un ohonynt farw cyn cyrhaedd adref. Wedi i'r parti ymchwiliadol weled nas gollid gwaredu rhagor yn fyw, gwnawd pob ymdrech i ddiffod y tan. Dygid yn awr ac yn y man gyrff meirw i'r gwyneb, ond wedi 411 dryllio a'u llosgi i'r fath raddau fel yr oedd yn anmhosibl eu hadnabod. Ymddengys fod y dynion wedi cyttawn ddechreu ar eu gwaith pan gymerth y ffrwydriad Ie, gan eu bod wedi stripio i'w canol, a dim am danynt ond eu llodrau a'u clocs. Felly, yr oedd y niweidiau yn fwy gweladwy, a rhai o'r cyrff wedi eu dryllio yn ddychrynllyd. Yr oedd aelodau rhai ohonynt wedi eu chwythu ymaith, a darnau o benau ereill yr un modd, nes oedd yr olygfa arnynt yn frawychus i'r eithaf. Nid yw ond ofer cynyg desgrifio yr helynt ar ben y pwll, pan oedd perthynasau y trancedigion yn ymdyrll. yno—gwragedd yn holi am eu gwyr, a phlant am eu tadau- a phawb yn haner gwallgof mewn galar. Fel y nodwyd, perthyna y lofa hon i'r Crewe Coal & Iron Company (Limited) a dydd Llun blaenorol, yr oedd y manager Mr. Bnrgess, un o'r trencedigion, wedi ei wysio -getbron ynadon Newcastle am esgeuluso darbodi digon o wyntylliad, trwy ba achos y bu tanchwa angeuol yn yr un pwli. Gohiriwyd yr achos hwnw am wythnos. Yn mysg y lladdedigion y mae Mr. Greener, yr hwn a ymgymerodd a'r management ar ol y ffrwydriad diweddaf, yn nghyd &'i fab, yr hwn oedd dan ugain oed. Yn ol hysbysrwydd sydd wedi ei gyhoeddi, credir mai achos y danchwa oedd i un o'r dynion saethu ergyd o bylor, yr hyn oedd yn groes i'r rheolau yn y rhan hono o'r lofa. Erbyn nos Iau, yr oedd 60 o gyrff wedi eu cael i fyny. Allan o'r 10 oedd yn fyw boreu <1ydd Iau, dywedai y meddygon mai gobaith gwan oedd y byddai i ragor na dau ohonynt fyw. Agorwyd trengoliad ar y cyrff, ond gohir- wyd ef hyd Chwefror 18fed.

Masnach Lo Deheudir Cymru.

OYMANFA Y WESLEYAID YN MERTHYR.

NODIADAU 0 LANELLI.

TREHERBERT.

RHYDYFRO.

TONYREFAIL.

Advertising

POB BLYCHAID GWERTH GINI!

Advertising

To America.

Advertising