Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

EMRYS.

News
Cite
Share

IILOFFIOK Y BEIRDD. Wedi ei gu¡lu &'i olygu gan y Parch. T. Cunllo Griffiths. Cyhoeddedig gan Hughes & Son, Wrexham. Pris swilt. Cynwysa y llyfryn hwn ddarnau detholedig 9 weithiau awenyddol oddeutu tri-ar-ugain o teirdd Deheudir Cymru, ac, mewn gwirion- m, ni ddarllenaaom ni yn yr iaith Gymraeg frioed well na chystal casgliad gyd a'i gilydd. Darllenasom y cyfan gyda boddhad a hyfryd- weh calon mawr. Y mae y darnau oil yn tlawn o j'sbryd y peth byw," ac yn gynyrch- toll athrylith wreiddiol; y mae ynddynt rai d fflachiadau tanbeidiaf a dysgleiriaf yr Awen Gymreig, a rhai o'i blodau mwyaf telaid, per- Awr, a pharadwysaidd mewn gair, germ a brilliants ydynt. Y maent oil mor dda, fel y Inae yn anhawdd iawn, pe byddai angen, dywedyd pa un ohonynt aydd yn rhagori. Y mae yn wir fod arddull rhai ohonynt yn fwy boddhaol na'u gilydd, a thestynau ereill yn .fwy dyddorol, dyrchafedig, neu sylweddol, na'u gilydd, ac oblegyd hyny yn hawlio mwy rhagoriaeth. Y mae y cwbl, fodd bynag, yn gfredyd mawr i awdwr a chasglwr. Wrth 4.darllen cynyrchion Awen mor genuine, yr Oeddem yn gresynn na buasai yn cael ei noddi ei hymgeleddu mewn modd mwy teilwng, ac i helaethach graddau, gan ddosbarth o'n cyd- wladwyr ag sydd yn ddigon galluog a hael- ftydig yn mhob peth ond mewn cenedlgarwch 6 chydymdeimlad. Nid oes dim yn eisieu ar y Cymro idd ei wneuthur yn un o'r beirdd an- thydeddusaf a galluocaf ag a welodd unrhyw genedl ond yn unig manteision yr addysg qwchafol a chlasurol, er coethi ei arddull ac <&ngu terfyngylchoedd ei ddarfelydd a'i wy- fcodaeth. Y mae yr Awen Gymreig, o ran ei hinsawdd a'i natur, y peth real-medda bob 8elod yn gyflawn a dianaf. Y mae ei chlust yn deneu, ei llygad yn glir, a'i theimlad yn fyw ond yn y pant y mae hi yn gorfod thodio, a'r canlyniad yw fod ei golygfeydd yn gyfyng, a'i chyfoeth darfelyddol yn brmach aa phe byddai yn gallu edrych o'i chylch o;ldiar fynyddoedd dyrchafedig yr addysg awchraddol. Er mwyn i'n darllenwyr gael barnu drostynt eu hunain o barthed teilyng- dod y casgliad barddonol hwn, dyfynwn ychydig o weithiau y beirdd mwyaf adna- byddus i ni ohono, ac na thybied y rhai hyny nad ydym yn dyfynu dim ohonynt mai gwael- der eu cynyrchion yw yr achos. Dim o'r fath beth, canys mae y cwbl, fel ag y dywedasom Vr blaen, yn rhagorol; ond ni chaniata gofod zae amser i wneyd hyny & phob un ohonynt. Dechreuwn gyda'r dechreu, sef gydag Islwyn, bardd na welodd Cymru erioed ei well, os gwelodd ei fwy. Yr oedd efe yn un ag a fedrai fyned i fewn i Santaidd Santeiddiolaf satur, ac yno i gymundeb agos â,'r ysbrydol a'r dwyfol. EMRYS. IS feddwl oedd fel rhOd &'i chronder rhyfedd, Beb unrhyw fwlch na diffyg yn ei hagwedd Llaw gadarn Barn wnai ffrwyno 'i Awen rymus, Fel nad ymgollai yn y pell rhamantus, Yn niwlfyd gor.ddychymyg, a'r cysgodau %'n duo darlunfaoedd rhai Awenaa. 1 Ymgadwai oddifewn i'r gwir a'r dilys— Lit safai y gwirionedd y safai Emrys. | Ond pur bregethau Emrys Barhiient yn eu sylweddolrwydd dilys I'n dilyn tua'n cartref o'ent yn aros, Fel gwledd Nadolig, ar y bwrdd am wythnos, A'r tad yn tori llawer tafell lydan I'r t £ i gyd, a'r dorth o hyd yn gyfan. Aruchel ydoedd n6d ei weinidogaeth, Nid creu ymdoniad byr ar fOr teimladaeth- ithyw arwynebol gynhwrf yn myn'd heibio, Tra caed dyfnderau'r deall heb eu plymio— lJron heb eu cyffwrdd. Os cyfoaai dyfroedd Y teimlad dano ef, gwirionedd ydoedd Y ddtvufol loer a'i chwyddai tua'r nefoedd. Yn nesaf daw Carnelian, un o feddylwyr gloewaf, grymusaf, a phrydferthaf y Deheu- ijir. Nid yr ymddangosiadol a'r tlws sydd ganddo ef, ond y mewnol, yr egwyddorol, a'r prydfertli. Y mae efe bob amser yn symud .,gydag arafwch a solemnity yr elor-gerbyd y Hong farsiandiol yn croesi'r cefnforoedd llydain yw efe, ac nid y pleasure-boat ar y liynoedd cartrefol. GOBAITH. It weddw eilwaith gyda'i phlant amddifaid Tydi yw y ffyddlonaf o'r ffyddloniaid Yn y cynhebrwng pruddaidd—yn y gladdfa., 1)-di yw'r cyntaf yno, ti yw'r ola' Ar ol i'r dyrfa fyn'd 'rwyt ti yn sefyll, A'th hisern di oleua'r beddrod tywyll; I sychu'r deigryn sydd yn llenwi'r llygad Estyni gadach gwyn yr "Adgyfodiad." Yn nesaf daw Teilo, un o'r beirdd hapusaf ei iaith, a thlysaf ei ddelweddiad (imagery), o feirdd Cymru a phe byddai Teilo heb wneyd dim arall ond Coed y Benlan Fawr," I y mae yn ddigon i anfarwoli ei enw fel bardd J am byth. COED Y BENLAN FAWR. Y tymor hwnw aeth O'm gafael, 0 mor chwim, A chyfnod arall ddaeth A bywyd arall im' Meddyliais buasai'r byd Ac heulog foreu oes Yn para'r un o hyd, Heb ofid, poen, na gloes Ac felly treuliais lawer av/r I ch-vvareu'n Nghocd y Benlan Fawr. 0 dyma fwyniant gwir Oedd cwel'd, cyn dwndwr tref, Y boreu n tori'n bur Tros le-stg-i aur y nef! j A tlionau claer o wawl J A ddoent o'i fynwes ef, Yn llanw pur, didawl, Hyd dTUClh Y drylas nef, Tra'r gwlith o aur gostrelau'r wawr A berlient -Goed y Benlan Fawr. Ac O pan ai y dydd I'w wely rwr/as aar, Pan taflai i' fontyll rhadd A'i 'aoarlad witgoedd claer Ar filamllyd, danllyd, gaer Y gorllewinfyd pell, A'r ue-f fel nidr o ow Fai'n perthyn ifyd gwell I Rhyw olch o aaffrwm, porphor vatrr, A wwgai Goed y Benlan Fawr. Yn nesaf y daw Brynfab. Y mae gan y bardd hwn Nant" o laeth a mel, ac y mae yn bleser drachtio ohoni. Mae yn feddianol ar ddarfelydd hoenns a bywiog iawn. Mae ei ddelweddiad yn y Nant," ac yn mhob cerdd delynegol arall, yn dlws rhyfeddol. Medda feddwl gwreiddiol, a'i ffigyraeth fyn- ychaf yn hyf ac yn newydd, a'i farddoniaeth bob amser yn swynol; ond anaml y mae yn disgyn gyda'r plummet i waelod dyfnderoedd y Werydd, nac yn cegyn gyda'r eryr i Alpau uchelaf yr wybren. Os ca efe ddim ond pysgota yn ymyl Nentydd," y mae o flaen ei frawd Carn. o ddigon ond os ftnt hwy eu dau i fwrw eu rhwydau i'r moroedd, bydd Cam. yn sicr yn mron o ddod A'r llwyth trymaf adref. Y NANT. Risiaidd nant, hardd gadwen yw 0 arian byw drwy'r dolydd, Neu ddrych mjmudol anian gun I weled llun y coedydd, A'u cangau fel orielau heirdd Yn nhemlau heirdd y wawrddydd. O hyfryd nant, mae duwies hedd Yn cynal gwledd drag'wyddol fwyniant ar ei cheulan hardd, I loni'r bardd ystyriol; A dyna'r hoffaf fan o hyd I tcel'd y byd ysbrydol. Y nant, 0 na bawn ni trwy'r byd Fel hon o hyd yn teithio, Trwy anhawsderau o bob rhyw Hyd lwybrau Duw heb &yro, > Nee cyrhaedd bedd ac enw sant, A glan y nant i huno. Wel, gyda'r deisyfiadau hyn y dymunem ninau ddweyd "Amen." Gobeitbiwn fod y bardd o ddifrif. CARIAD BRAWDOL. Ti, gariad brawdol, mae dy wedd yn hardd- Dymunol wyt fel rhoayn yn yr ardd Wyt ti yn gwneyd anialwch gwyllt y byd Yn Eden forth o fywyd tawel, olyd Egwyddor dyner, esmwyth, fel y sidan, Y n gwneyd calouau'n heirdd fel perlau arian Rhyw fantell hardd wyt ti sy'n cuddio pechod, A met o'r nef i ddifa chwerwedd trallod. Asaph GLÅN AFAU. Y CYFARFOD GWEDDI CENADOL. Mae rnyrdd o glych yn ngkrog yn nen Ystafell harddaf Salem wen, A llinyn aur i'w siglo sydd 0 galou gynes teulu'r ffydd Chwareuant oil drwy'r nefol lf-a Y now Lun cyntaf yn y mis Pob calon newydd yma'n un D^n wrth ei lliuyn aur ei hun. 9 # • » Sectyddiaeth dawdd fel eira gwyn Dan wenau'r huan ar y bryn Pan gydweddia teulu'n on Am lwyddiant teyrnas Crist nos Lea j Un pwnc i'r eglwys yn mhob man, Un amcan mawr, un llaii i'r lan At orsedd lOr ar ran ei waith Yn mhlith pob cenedl, llwyth, ae iaitlt. Fe wylir dagrau heli'n llyn Dan wSnau'r cyfarfodydd hyn, Dylanwad nefol ynddynt sydd Yn IIoni'r fron yn hwyr y dydd Y weddi daer a A. i'w hynt I'r nef fel llong o flaen y gwynt, A dychwel 4 thrysorau gwell I druenusion gwledydd pell RHYDBKECH AP MORGAH. Byddai yn drueni ceisio pigo man-frychau mewn barddoniaeth mor lawn o'r bea;ttifqtl-- j mewn barddoniaeth mor lawn o yabrydol- iaeth crefydd. !J.{YDDEST Y DILUW. T fellten ar odreu y cwmwl dywynodd, A'i llachar oleuni oleuodd y nef Ar am rant i'w chanlyn y daran yagydwodd Barwydydd pedryfan yn echrys ei lief A I udgora yw'r daran i alw'r byddinoedd Rhyfelgar i ddechreu'r alanaa yn awr Y cwmwl a holltwyd-gollynga. 'i ffrydlifoedd Hyd danllyd lechweddau y nefoedd i lawr. NODWYDD CLEOPATRA. Hi welodd yr Aifft mewn rhwysg ac anrhydedd A'r byd adnabyddus yn plygu i'w gorsedd Hi wel eto'r oesoedd fel Hem'n myn'd heibio- Gorseddau yn chwilfriw, teyrnasoedd yn syrthio; Bydd yn aros heb wargrymu er mor hened yw yn awr, Pan fydd amser yn aberu yn y trag'wyddoldeb mawr. PARCH. T. CUNLLO GRIFFITHS. ANFARWOEDEB YR YSBRYD. Fe lyncir hot! dyrddain y gwledydd, A berw'r dinasoedd i gyd, I ganol dystawrwydd trag'wyddol 11 Yn adeg nos Sadwrn y byd A chwelir pob gorsedd freninol Yn deilchion rhwng daear a nen, Ond ysbryd y dyn a fodola Yn rhywle tu arall i'r lien. Nid oes yr un angel, na seraph, Na cherub, yn ngoror y nef, I weled cynhebrwng yr ysbryd— y Anfarwol fel Duw ydyw ef Draw, draw, yn mhen oesoedd diderfyn, Myrdd amlacli na thywod y mor— JBlodeua pryd hyny yn rhywle Yn eang lywodraeth y mOr. ERYR GLYS COTHI. Mae y penillion yn farddonol iawn ond nid yw yr athrawiaeth a ddysgir yn nghylch an- farwoldeb yr ysbryd yn un gywir. SBREN BETHLEHEM. Seren BethkJiem Seren loew Pylai ei chwaer-ser i gyd Ya y galea tanbaid hwnw Daflai ar dy wyllvrch byd I ] Treiddiai 'i gloewder drwy y gwylloedi I dir pell paganiaeth gerth; Ynddo gwelai y cenedloedd Iachaw4wriaeth Duw a'i aerth. Seren agos-yr agosaf At ein daear o'r holl air Daeth mor agos fel y oanodd Bethl'em yn ei goleu ter; Daeth mor agoll-argyhoeddodd Galon oer y cenedl-ddyn Hi a'i cododd, hi a'i dygodd I addoli'r Ceidwad cun. Siriol seren, hawddgar wenai Ar fythynod Canaan wlad Canai'r engyl, gwenai hithau Uwch troellog Iwybrau'r wlad; Pa ryfeddod-cryd Messiah Roddai oleu iddi hi Canol bwynt ei thaith o Wynfa Ydoedd Ceidwad dyn a'i fri. Seren ddynol, seren nefol, Seren ddwyfol, ydoedd hon Hi ddangosai'r Ilawr a'r nefoedd- Duw a dyn mewn undeb lion Seren gofir wedi syrthio Ser y nen i'r eigion mawr, j Seren fydd yn ymddysgleirio Yn ngoleuni'r ddwyfol wawr. HOMO DDU. Wel, Homo Ddu, pe byddet heb ganu sillyn byth mwy, yr wyt wedi anfarwoli dy enw fel bardd yn y Ilinellau anfeidrol brydferth uchod. Y mae dy iaith dyner a hapus—y d6n subdued, y prudd-hawddgarwch, y seiriander tawel, a'r gafaelgarwch awenyddol, eydd yn rhedeg drwy dy ddarnau, yn peri i ni gofio yn fynych am y bardd Blackwell Beu Alun. Y mae y delyneg uchod yn efelychiad per- ffaith o arddull Alun. Yr wyt wedi llyncu ei ysbryd a'i Awen. O! mae yr uchod yn fendigedig GOLEUNI. Ar awel bore'r cread,—agorwyd Bru gwawr y dechreuad, A Ión a roes yn ei rad I oleuni ei luniad. Haul anian yw craidd goleuni,—e'r haul Daw'n ffrwd-bawdd dywyllni; Yn ughaoa nos, dengys i ni Aur fydoedd yn ddirifedL • • I • Ar aden gwawr eheda,—a'r awyr Eang, hardd, oleua; 0 blaned hyd blaned a, A gwyneb pob un gàna. A'i bwyntil fe gellydd baentia—wyneb Anian—ei gwisg fritha; Ei rhosydd brydferth drwaia, A dwyn urdd i'w blodau wna. DAFTPD MOBGAWWS. Dengys D. Morganwg precision mawr mewn iaith a syniad. Bydd yr ansoddair priodol ganddo ef bob amser, a'r meddwl yn rymus a gafaelgar. Y mae ynddo ef gryn dipyn o'r athronydd hefyd, ac y mae yn fardd stamuh yn mhob ystyr. YMSON. O! Tom bach, taw am y bedd,—a dilya Cordelia i'r llygredd; Cofia di mae hi mewn hedd A'i golwg ar ymgelcdd. T fAM YN SIARAD. Dy golli! fu 'rioed dy gallach,—na'r aa Yn yr oes brydferthach; Troaist di dy fami fach I nychu, a thi'n iachach. Ni all>»"n er dy golli-yn burlon Gofio, fcpreu'r codi Y doll 11(11, a CH j*da ni I weled anfarwoli. Y peswch fydd wedi pasio,-dim nwÿd. Dim anadl byr yno Ar werdd ddol y freiniol fro Hyd anadl y Brawd yno. MODRWY AUR FY MAM. Pan oeddwn lances wridgoch Yn myn'd yn llaw fy main Ar hyd y ddol feillionog, Mawr oedd ei gofal am Roi i mi'n fwyn foeswersi, O'r bwthyn hyd y llya, Yn mlilitli y rhai dangos Ei modrwy ar ei bys. Ac yn ei dull caruaidd Esboniai i mi'n iach Y rhinwedd anwadaidwy Oedd yn y fodrwy fach; Rhyw rwymyn priodasol Yn ol cyfreithiau'r wlad, Mae'n arwydd o'r cyfamod Sydd rhyngwyf a dy dad. Ac mae'r cyfamod hwnw Yn gysg<td un sydd fwy, Jbhwng Crist a'r rhai a bryuodd- Ymg'lymodd yn ei glwy' Yn nglianol byd trafferthus, Myn fyn'd i'r enfaws fawr Sy' â'i phen yn Nghraig yr Oesoedd, A r llail yn cwrdd y llawr. • • Y wen a wnaeth wrth farw, Rhyw arwydd yw i mi Fod modrwy y Cyfamod 0 gylch fy enaid byw; A minau wir ofalaf 1 gadw yn ddinam Y fodrwy aur a roddwyd I'm gan fy anwyl fam. DEWI HARHAN. Y mae iaith Dewi yn bur hapus bob amser, er nad yw feallai yn bur. Y ma-e yn delyn- egwr swynol, yn gymaint a'i fod bob amser yn medru taflu cymaint o deimlad i'w gerddi; y mae ei syniadau yn ei delynogion Ileddf- deimladol yn rhai hynod o dyner a thoddedig, ac odid fyth y maent yn methu, pan genir hwynt gan gantor expressive, a chyfodi y deigryn i lygad y gwrandawydd. Y mae Awen Dewi yn meddu y prif elfenau hyny ag sydd wir angenrheidiol er cyfansoddi telyneg effeithiol. Y mae Dewi hefyd yn englynwr campus, ac yn sicr o fod yn un o feib yr Awen wir. YR EFENGYL FEL DATGUDDIAD 0 DDUW. Ynot cawn ddatguddiad perffaith 0 fwriadau grasol I6r— Cyn i ameer fel diferyn Gychwyn o'r trag'wyddol for; Cyn i Bydded lOn anadlu Santa-idd fydoedd, keuliau byw; Cyn i angel claerwyn ygwyd Aim heibi-o gorsedd Duw. Hen fwriadau Cariad Dwyfol, Hen gynlluniau Tri yn Un, I roi ar Galfaria aylfaen Gadarn iachawdwriaeth dyn; Megys tonau m6r cynhyrfuI Chwyddent yn y gwely llaith, Yn ymwthio am y cyntaf I guaanu min y tra.eth. Bardd godidog yw Oallwyn Brace. Gyda'r filth yni ac arucheledd awenyddol y mae yn canu yr uchod, ac mor gyson, cysylltiedig, a chydweddol, yw ei ffigyraeth. Y mae cre- bwyll ffigyrol hynod o ffrwythlawn a hapus gan Brace, ac mae ei farwnadau bob amser yn bictwrau byw. CREULONDERAU TYRCAIDD. Ond ambell fam a'i baban yn ei ch61, A'i gwallt yn Uoegivrn tanllyd ar ei hoi, A ffoa'n hurt, ond dyry'r fam ei chusan- Ei chusan tanllyd ar wefusau'r baban, Ae yn ei chusan sugna 'i enaid ef I freichiau un o engyl pur y nef; Ond wedi diarc ar grafangau'r fflamiau, A chorff ei phlentjni anwyl yn ei breichian, Y fam dderbynir gan y milwr creulon, A'r cledd aychedig yfa waed ei chalon. Y FAM I'W BABAN. Cwsg 'nawr fy mach, tra'th fam Yn siglo'th newydd gryd Tydi yw pwynt fy serch, A theyrn fy mynwes dderch, Etifedd clyd. Dy lygad sydd yn nghau— Paham y gwenu 'nawr A ydyw'r angel cu Yn ceisio'th ddenu di Oddiar y llawr ? Paid myn'd, yn wir—mae'r nef Yn Uawn o rai fel ti, Tra nad oes gan dy fam Ond ti, y pert dinam, Fy angel cu. Cwsg bellach, buan doi I waeddi Dat yn glir; A sibrwd Mam yn lion, Gan wenu ar fy mron Fel rhosyn pur. T. CYNPELYN BENJAMIS. Penillion hynod o naturiol a thlws, ac yn profi uwch pob amheuaeth fod eu hawdwr yn wir fardd. YR ENETH DDAL. Ni welais i yr edn a gan I'm clust mor ber ei swyn, Na'r amwisg eira'r gaua' wna 'Nghylch marwol flwyddyn fwyn; Se'iedig lyfr yw natur oil, Dadgloi fy llaw nid all, Ei ddarllen ni fwriadwyd im'— Yr wyf yn ddall-yn ddall, Ond 0 dywedant mai draw yn mhell, Yn nhrag'wyddoldeb gwyo, Fod tir a'i flodau Mg ar daen- Pob llygad i weFdhyn Wybren fythol leddf a glaa, Arianaidd lif heb ball; O pan gyrhaeddwyf y pur draeth, Ni chaf fod mwy yn ddalL ENIS DDU. Gresyndod y ferch-ddall, yn nghyd a'i ffydd yn cael y fnddugoliaeth arno, yn cael eu des- grifio yn ddwys ac effeithiol iawn. EMYN. 'Rwy'n teithio'n gyflym tua glan Yr hen Iorddonen ddu, A thybied weithiau clywai swn Ei dyfroedd dyfnion hi; O Dduw, pan fyddwy'n myn'd i gOl Y dpfnder mwyii1,rioed, Gad i mi deimlo ar y pryd c Fod "Craig yr Oesoedd" dan fy nliroed. Earn CXLTN CCTHI, Y mae eiddo Carw Cyaon, Dafydd o Went, lorwerth, Dewi Afan, Lewis Hopkins, lor. werth Llandeilo, a Crynwydd, yn wir rag- orol, ond ni oddef ein terfynau i ni ddyfynu rhagor. Gall ein darllenwyr gymeryd ein gair ni na ddaeth erioed well gwerth swllt o farddoniaeth drwy y Wasg Gymreig, a chaiff y Parch. 0. Griffiths fyn'd i loffa eilwaith. Y mae digon o feusydd newyddion ar ol eto, ac yn frith o'r tywysenau mwyaf breision ac addfed. Mae ychydig wallau cyaodyddol yn y gwaith ag a allant ddyrysu ychydig ar yr annghyfarwydd ond medr pob bardd eu hunioni. Wel, cylchrediad helaeth a ddy- munwn ni i'r casgliad y mae yn gwir haeddu hyny.

Perfformiad o " Plant y Tlotdy,"…

Llith y Postman.

[No title]