Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
gosodiad; ac yn ei ystyr briodolaf, anfenthyciol, golyga ryw osodiad, gorchymyn, neu reol gyffred- inol, yn gyfeiriedig at ryw bersonau y rhai a elwir i gydymffurfio â hyny. Dyna olygir wrth lit Gyfraith Moses," "Cyfraith y Tir," neu lit Gyfrai th Loegr." GURNOS.
€ YMDEI Til A S DEEEUDIB GYMBU…
€ YMDEI Til A S DEEEUDIB GYMBU JSB GAU Y TAWABNDAI AB DDYDD YB ABGLWYDD. MR. GOL.,—A fyddwch chwi morgaredig a chaniatau i mi hysbysu swyddogion cynull- eidfaoedd crefyddol Deheudir Cymru fod y gymdeithas uchod, yr hon a ffurfiwyd yn Nghynadledd Abertawe, yn awyddus iawn i roddi pob eefnogaeth i ymdrech clodwiw ein cydwladwr enwog, Mr. John Roberts, A.S., i sicrhau i Gymru fesur er can y tafarndai ar Ddydd yr Arglwydd. Hwn ydyw y cyfle cyntaf ydym wedi gael fel cenedl i gefnogi mesur i Gymru. Yr ydym wedi deisebu o'r blaen dros yr holl deyrnas ond eleni mao genym gyfle i argy- hoeddi y Senedd ein bod nid yn unig yn barod, ond yn awyddus i gael mesnr o'r fath jma. Mae Ysgotland a'r Iwerddon wedi llwyddo, a'r dystiolaeth gyffredinol ydyw fod effeithiau da wedi canlyn. Mae pawb yn dweyd fod y wlad yn barod. Anhawdd iawn yn wir ydyw cyfarfod & neb sydd yn erbyn y mesur yma. Os felly, bydd- ed i ni fel cenedl gyfodi at ein gwaith fel un gwr, ac am unwaith, i osod ein bars ar gof a chadw, er argyhoeddi y Senedd ein bod yn trnfarn ac yn unfrydol ar y cwestiwn hwn. m wrandawa' y Senedd ar haeriadau yn y newyddiaduron. Rhaid iddynt weled y deiseb- au yn dyfod i mewn dydd ar ol dydd wrth yr ugeiniau a'r canoedd. Rhaid iddynt weled y gellir cyfrif yr enwau a arwyddir wrthynt wrth y miloedd, ac yna, byddant yn foddlon i gyfaddef ein bod fel gwlad yn barod. Mae y gymdeithas uchod wedi anfon allan yr wythnos hon rai canoedd o ddeisebau drwy yr oil o Ddeheudir Cymru, i bob tref a phen- tref y gellir meddwl am danynt, ac y maent wedi eu hymddiried i'r personau mwyaf ffydd- lawn ac adnabyddus. Er hyny, fe ddichon fod rhai manau pwysig wedi eu gadael allan os felly, teimlaf yn ddiolchgar i gyfeillion o unrhyw le sydd wedi ei esgeuluso neu ei annghofio, os byddant mor garedig ag ysgrifenu ataf, ac yna, anfonaf ddeiseb ysgrifenedig, yn nghyd ag extra sheet, yn ddidraul iddynt gyda throad y Post. Gan fod y Sened'd i gyfarfod ar y 5ed o Chwefror, nid oes dim amser i'w golli.' Gall pawb sydd gormoch 1 Ceg oed arwyddo y deiseb- au, yn wryiv a benyw.—Yr eiddoch yn ffydd- lawn, W. L. DANIEL, Ysg. 64, High street, Merthyr, Ion. 24ain, 1880.
BWBDD YSGOL LLANWONO.
BWBDD YSGOL LLANWONO. MR. GOL.Gwn y rhoddwch le i mi siarad gair a Trethdalwr ar y pwnc uchod. Yr oedd yn cydnabod yn ei lythyr fod Bwrdd Ysgol Llanwono wedi gomedd Ysgoldy Ynysybwl i cifeiriad Llanwono i gynal gwasanaeth cre- fyddol, &c. Dylai y cyhoedd wybod fod yr ofFeiriad wedi bod yn cynal gwasanaeth yn yr ysgoldy am dipyn o amser. Rhoddwyd can- iatad i hyn can y rhai a fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu yr ysgoldy, ac yr oedd y mwyafrif o'r trigolion yn llawenhau oherwydd hyny. Yn fuan iawn llanwyd yr ysgokty si gwran- dawyr, ac ar un amgylchiad neillduol, gwel- som an llygaid ein hunain yr ysgoldy lawer yn rhy fach i ddal y dorf a ddaethai yn nghyd i'r gwasanaeth prydnawn Sul. Yn fuan wedi iyny, aeth anesmwythdra yn meddyliau rhai pobl, ac awydd mawr am wrthod yr ysgoldy i'r offeiriad. Mae hyn yn ffaith ac y mae yn ffaith hefyd fod y trigolion yn gofidio yn fawr oherwydd penderfyniad y Bwrdd. Bu y Methodistiaid Calfinaidd yn cynalen hysgol Sabbothol yn yr ysgoldy am gryn amser. Yr r vcviden? oil yn foddlon i hyny. Dywed Treth- dalwr fod y peudertymau a wnawd yn 1876 yn cael ei gynal yn ngwaithy Bwrdd yn gwrthod yr ysgoldy- at wasanaeth crefydd. Nid wyf yn meddwl fod y penderfyniad yn werth dim. Yn y lie cyntaf, yr oedd yn un annheg i'r eithaf, oblegyd yr oedd yn benderfyniad croes i ewyllys a dymuniad mwyafrif trigolion y plwyf, ac yn ddiau cofir hyn pan ddaw adeg yr etholiad nesaf. Yr oedd hefyd yn bender- fyniad annheg oherwydd fod enwadaeth yn cael uwch sylw na chrefydd. Dewisodd y Bwrdd edrych ar y gwahanol enwadau fel cydymgei3wyr (rivals) peryglus, yn awyddus am orchfygu y naill y llall, neu, yn wir, ddrygu eu gilydd yn ddirfawr ac felly, er eu 9 cadw°rhag rhuthro ar-ea gilydd mewn modd creulon ac annhrugarog, dyma y Bwrdd Ysgol hwn yn dyfod yn mlaen, fel y byddai y police- men yn arfer dyfod at rings yr ymladdwyr, gan wrthod lie iddynt dreio eu nerth a'u ysgil ymladdgar. Ond ai felly y dylid edrych ar y cydymgais enwadol a chrefyddol ? Ai felly yr edrych trigolion plwyf LIanwono ar y peth ? Nage, yn sicr. Nid yw, o'r hyn lleiaf ni ddylai fod, yn ddim amgen nag ysbryd cenadol yr EfengyI-llosgfa awyddus am fyned allan i wneyd daioni, am gyfranu lies, am ledaenu gwirionedd yr Efengyl; ac ni waeth pwy a wna hyn, pa un ai Eglwyswr, neu Fedyddiwr, neu Galfin, neu Annibynwr, neu Wesley,-ei wneyd yw y pwnc; ac ni ddylai corff o bobl fel y Bwrdd dafln rhwystr ar y ffordd, na gomedd help i'w gyflawni, na gwrthod rhoddi cyfleusdra tuag at ei wneyd, neu tuag at hyrwyddo y gwaith da. Ond yn He edrych ar y pwnc oddiar safle eang crefydd, wele y Bwrdd yn sefyll ar gyfyngfan enwad- ol, ac yn hytrach na rhoddi mantais i un fyned o flaen y llall mewn set a gwaith, penderfyn- ant rhwystro y cwbl—rhoddi atalfa ar y gwaith. Gwell ganddynt geisio boddio emvad- aeth na bod yn gyfrifol am y posiblrwydd i un blaid wneyd mwy o waith dros Dduw mewncymydogaeth lie y mae ganddynt hwy .ysgoldy wedi ei fenthyca, oblegyd mewn gwir- 0 ionedd, yr ardalwyr ydynt wir berchenogion yr y3gold^ hwn. Dywed Trethdalwr fel hyn Ond dylent gofio fod ganddynt i ddewis rhwng y gwahan- ol enwadau ar y mater." Felly yn wir Pa anhawsder sydd yn hyn ? A golygu fod yr holl enwadau fyddent yn debyg o deimlo dyddordeb yn nghanolbarth plwyf LIanwono yn dyfod o flaen y Bwrdd i ofyn am gael cy- nal gwasanaeth crefyddol yn yr ysgoldy, bydd- ai yn ddigon hawdd roddi caniatad iddynt rhaner yr amser ya rheolaidd, ac os na fuasai yr amser yn ateb i un o'rpleidiau, nis gallasai neb ddal y Bwrdd yn gyfrifol am hyny. Trueni mawr i nn tad wrthod rhanu'r dorth rhag i un o'r plant dybied fod y naill yn cael mwy na'r llall. Ond, mewn gwirionedd, a ddaeth yr aahawsdra hwn i gyfarfod a'r Bwrdd ? A fu yr holl enwadau yn gofyn am yr un peth 1. Neu ynte a ffurfiwyd y penderfyniad gan y Bwrdd rhag i'r fath beth ddygwydd 1 Buasai yn llawer mwy rhesymol gweithredu ar egwyddor "y cyntaf i'r felin gaiff falu." Felly, os Bedyddiwr a ofynai gyntaf, efe galfai ganiatad gyntaf, ac nid yw yn debyg y gofynai y lleill am y lie, oblegyd nid yw y cydymgais enwadol wedi dyfod i hyny etoybydd i'r naill geisio dwyn lle y llall yn ddirgel. Yr ydym yn bur sicr y buasai Mr. Edwards, Gilfach- glyd, a phawb ereill ohonom, yn eithaf bodd- Ion i'r Bwrdd Bedyddiol hwn roddi yr ysgoldy i'r Bedyddwyr,| os mai hwynt-hwy fuasai gyntaf yn gofyn am dano. Ond dywed Trethdalwr fod mwyafrif y Bwrdd yn Fed- yddwyr. Hwyraeh, gan eu bod felly, fod y Bwrdd yn teimlo yswildod wrth feddwl am roddi yr ysgoldy i Fedyddwyr, neu feallai yn teimlo, gan na byddai yn edrych yn dda iddynt hwy, fel Bedyddwyr, roddi Ynysybwl dan ddylanwad tipyn fwy o'r elfen Fedyddiol, y buasent yn atal pawb ereill. Yr ydych yn cofio yr hen stori-y ci yn gorwedd yn y preseb, ar dusw ma.wr o wair. Daeth yr ych yn mlaen, gan feddwl cael tamaid. Na chai fawr Ni chai ddod yn agos Safed yn ol, onide !— Nis gallai y ci fwyta y gwair, ac nis gadawai i'r ^eh gael blewyn ohono Wel, swm y cwbl a glybuwyd yw hyn :— 1. Mae y Bwrdd hwn, sydd yn cymeryd arno i gefnogi a chyfeirio addysg yn y lie pwysig hwn, wedi bradychu anwybodaeth, rhagfarn, a chulni mawr. Mae eu gwaith yn atal gwasanaeth crefyddol yn y lie, pan yn clywed ei fod yn llwyddo, yn peri i ni feddwl fod eu rhagfarn wedi eu hannghelfyddoli a'u hanaddasu i fod yn flaenoriaid y werin. 2. Yn ol tystiolaeth Trethdalwr, y mae mwyafrif y Bwrdd yn Fedyddwyr. Pa fodd y mae felly ? Nid ydyw mwyafrif y plwyf felly, ac, wrth bob rheswm, ni chynrychiolir y plwyf ganddynt. Mae y trigolion yn dechreu edrych o'u cylch, ac yn dweyd, Ni wna hyn y tro, oblegyd yn fuan iawn bydd pob peth a wna y Bwrdd hwn yn codi oddiar ofn rhoddi mantais i ryw blaid fyned o flaen y Bedyddwyr." Y GLOG.
EISTEDDFOD GADEIBTOL DEHEU-DIB…
EISTEDDFOD GADEIBTOL DEHEU- DIB GYMBU. Mr. Gol.—Y mae rhagweithrediadau yr Eisteddfod hon yn cael eu parotoi yn egniol, ac mor bell ag y mae addewidion arianol yn rhagarwvddo ei llwyddiant, gellir dywedyd ei bod llawn cvstal a gellir ddisgwyl. fr ydym eisoes wedi derbyn uwchlaw Cant Punt yn addewidion mewn gwobrau a thanysgrif- iadau tuag ati. At y testynau Traethodol sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, yr ydym wedi derbyn cynifer a phump ereill, a'r oil a'u gwobrau rhoddedig o 5p. i fynu. Yr ydym yn dra hyderus y gellir gorphen y programme. yn y cyfarfod nesaf, pa un a gynelir yn y Guild Hall, Abertawe, am 2 o'r gloch pryd- nawn dydd Ian, Ohwefror 5ed. Yr wyf yn dymuno ar y rhai hyny sydd wedi, ac yn parhau i alw am y programmex, i fod yn amyneddgar dros ychydig, a mi a'u z, hanfonaf i bawb fydd wedi gyru am dano, mor fuan ag y daw o'r Wasg.—Yr eiddoch, RHYS T. WILLIAMS, Ysg.
PEBFFOBMIAD YB OPERA" BLODWEN"…
PEBFFOBMIAD YB OPERA" BLOD- WEN" YN ABEBTA WE, OAER- DYDD, A GIIASNE WYDI). MR. GOL.Crefaf am rhan fechan o'ch gofod er mwyn ateb y lluaws sydd yn ymholi a fydd. Special Trains yn rhedeg ar ol y perfformiadau yn y gwahanol leoedd, er mwyn cyfleusdra y gwrandawyr. Mewn atebiad, dymunaf hysbysu fod ein pwyllgor mewn gohebiaeth &'r gwahanol gwmpeini rheilffyrdd er cael y cyfryw drains. Gall trigolion Llanelli ddychwelyd ar ol y cyn- gherdd gyda'r Express Train. Dymunaf hysbysu y ceir pob gwybodaeth yn nghylch hyn yn brydlawn. Gan hyderu y bydd pob eefnogaeth yn cael ei rhoddi i'r anturiaeth (a gallwn feddwl wrth yr amryw lythyrau yr ydym wedi ei dderbyn y ceir hyny),-Ydwyf, yr eiddoch, D. P. DA VIES, Ysg.
Cynydd Mawr Ymfadiaeth.
Cynydd Mawr Ymfadiaeth. Y mae dychweliadau ymfudol am 1879 yn dangos fod tyrfa fawr o ymfudwyr wedi gadael porthladd L'erpwl y. flwyddyn ddi- weddaf. Aeth dim llai na 117,904 allan o'r Mersey yn ystod y flwyddyn. O'r nifer hwnw yr oedd 61,861 yn Saeson, a 13,004 yn W yddelod, a'r gweddill yn benaf yn dramor- wyr. Y mae y ddychweleb yn dangos cynydd o 4,676 a'i gymharn a'r flwyddyn flaenorol, a 24,922 o Saeson yn fwy nag yn 1878, a 5,027 yn fwy o Wyddelod.
Y Rhew Caled.
Y Rhew Caled. Y mae y rhew wedi bod yn anarferol o galed yn New Milford, yr wythnos diweddaf, fel y rhewodd gwddf Bar Lake, yr hyn na chymerodd le o'r blaen er's 24 mlynedd.
[No title]
Bu farw crydd o'r enw Curkiewits, Bron- bery, yn ddiweddar, yn 112 mlwydd oed.
BYR I315SOM 4) L'SEFWL,
BYR I315SOM 4) L'SEFWL, YR ETHOLIAD. Nid oes dim i'w glywed yn awr ond twrw I etholiadol. Y catrodau yn ymfyddino i'r gad, a phob plaid yn sicrhau iddynt eu hunain fuddugoliaeth, heb wneyd y defnydd lleiaf o'r gair "Os y llwyddwn." Yr ym- geisydd Rhyddfrydig ydyw Arglwydd Ram- say, yr hwn sydd frodor o Ucheldir yr Alban, a lied ychydig ydyw yr adnabyddiaeth ohono yn y dref. Mae braidd yn syndod nad allasai y 3)Taw Cant" daro ar ryw drefwr teilwng ac adnabyddus. Adwaenwyf rai Rhydd- frydwyr selog sydd wedi cael eu siomi yn y dewisiad, am y gallesid taro ar ddyn cartrefol a fuasai yn debyg o gario y bel i bared, a barn i fuddugoliaeth. Mae y dewisiad wedi ei wneyd,. a'r ymgeisydd yn bob peth dy- munol, os nad yw yn addaw gormod o deg- enau. Mae rhywbeth yn ei anerchiad sydd yn ymylu ar fod yn rhy eithafol ar adeg pan y mae y wlad yn berwi fel crochan o dan ddylanwad cynhyrfiadau o bob math. Dy- wedir fod y boneddwr yn hanu o deulu hyn- afol a pharchus yn yr Ucheldir, ac os y dychwelir ef, ni gawn gyfle yn y dyfodol i wybod rhywbeth pellach am dano, a gweled i ba. argraffiad y perthyna. Dywedir fod ei dad yn Geid wad wr selog, a'i fod yntau yn llawenhau mewn bod yn Rhyddfrydwr eith- afol. Amser a ddengys i ba ddosbarth ar yr esgynlawr y perthyna iddo, oblegyd y mae dynion ar y goreu yn greaduriaid eyfnewidiol, yn ol fel y byddo amgylchiadau yn eu cylch- ynu. Yr ymgeisydd Ceidwadol ydyw Mr. Edward Whitley, trefwr adnabyddus i bawb. Yn annibynol ar ei olygiadau gwleidyddol, mae iddo enw da gan bawb, fel y teimla ei gefnogwyr braidd yn sicr am ei Iwyddiant. Eglwyswr ydyw ond fe'i gwelir yn anil mewn cyfarfodydd enwadol yn y dref, a bydd yn llanw y swydd o gadeirydd mewn amry- fal gynulleidfaoedd. Mae iddo fantaia ar ei wrthwynebydd trwy ei fod yn ddyn adna- byddus a gwladgar iawn, heb ddim o'r culni crebachlyd hyny sydd yn nodweddu llawer o ddynion galluog a da. Bydd cadfridogion y ddwy blaid i ymddangos yn y dref o fewn corff yr wythnos, ac odid na ddangosir tipyn mwy o bybyrwch a brwdfrydedd nag a wneir yn Morgan wg. Mae y baneri coch a glas yn cyhwfanu yn yr awelon, a'r pleidiau ar y maes wedi cychwyn y rhyfel, fel nad oes dim yn awr ond aros yr amser er gweled y canlyn- iad. Mae y "Naw Cant" yn sicrhau llwyddiant, a'r ochr arall yr un mor bender- fynol yn y pwnc, fel nas gellir yn hawdd ffurfio barn ar hyn o bryd pa ffordd y try y fantol. Dywedir fod Mr. Gladstone yn or- selog dros Arglwydd Ramsay, a'r Ysgrifenydd Cartrefol, gydag Arglwydd Sandon, yn frwd iawn o blaid Mr. Whitley. Bid a fyno am y frwydr, rhaid aros ychydig, gan gymeryd safle ar d,h canolog, er gwylied symudiadau y byddinoedd rhyfelgir. Aed y goreu i mewn, pwy bynag ydyw, er na charwn i ddim penderfynu rhyngddynt. YR AGERLONG "SAMARITAN" ydoedd nod sylw y Iluaws dydd Ian di- weddaf, yn gymaint ag mai dyma yr agerlong ddewisedig i gario Ardalyddes Lorne yn ol i'w chartref yn Canada. Gwnawd cryn dipyn o dwrw gan y trefwyr, fel arwydd o barch i'r teulu breninol. Hebryngwyd hi i'r porth- ladd ac i fwrdd y llong gan ei brodyr, Tywys- og Cymru a Due Edinburgh, gydag ereill o uchelwyr mewn awdurdod. Dychwelodd y Tywysog i'r Brif-ddinas yn dra brysiog, a gwnawd y daith yn yr amser byr o bedair awr. Arosodd y Due yn y dref, ac ymwel- odd ag amryw fanau, heblaw arolygu y mor- filwyr ar fwrdd yr Eagle, yn un o'r dociau. Ymadawodd o gylch un-ar-ddeg o'r gloch, nos Sadwrn, tua Llundain, wedi cael cryn fodd- had yn y milwyr a'r gwahanol bethau ereill a ddaethant dan ei sylw. Mae trigolion y dref, sef y cyfangorff ohonynt, yn hynod o deyrngarol, gydag ychydig o eithriadau Gwyddelig. Y CYNGHOR TREFOL. Nifer o seddau wedi eu gwneyd yn wAY, trwy fod yr etholiadau wedi eu dirymu oherwydd rhyw gamwri a wnawd gyda'r papyrau etholiadol. Bydd ymdrech arall un o'r dyddiau nesaf am fuddugoliaeth, ac mae yn amheus a ddychwelir Mr. D. Hughes eto, gan iddo bleidleisio dros godiad yn nghyflogau swyddogion yn y dref. Cynildeb oedd yr arwyddair cyn yr etholiad ond fe newid- iodd ei farn wedi cael mynediad i'r Cynghor. Nid efe yn unig a wnaeth hyn, ond ereill hefyd, yr hyn a fydd yn sicr o fod ar gof a chadw gan y trethdalwyr.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Y Llofruddiaeth yn Manchester.
Y Llofruddiaeth yn Manchester. Y TBENGHOLIAD. Ail-agorwyd y trengholiad gohiriedig ar y ferch Sarah Jane Roberts, yr hon a lofrudd- iwyd yn Harpurey, Manchester, ar y 7fed cyfisol, dydd Gwener; ac wrth agor y gweithrediadau, sylwodd y trengholydd y byddai yn iawn i Mr. a Mrs. Greenwood, Mr. Cooper, a James Partington, y llaethwr, i gael eyfle i roddi eu tystiolaethau ar Iw o flaen y rheithwyr, fel yr oeddynt wedi gwneyd yn barod o flaen yr awdurdodau heddgeidwad- ol. Wedi i Mr. Greenwood roddi ei dystiolaeth, sylwedd yr hon a gyhoeddasom yn barod, gofynwyd iddo gan y barnwr:—A oes unrhyw fath o seiliau, fodd bynag, dros y dybiaeth eich bod ar delerau adnabyddus anmhriodol a'r drengedig 1 Tyst Gallwn feddwl nac oes. Y Crwner: Gallwn inau feddwl hyny hefyd. Ond a oedd dim 1 Tyst Dim yn y mesur lleiaf. Wedi cael tystiolaeth Mrs. Greenwood, gofynodd y Crwner iddi hithau :— Nid oeddych yn eiddigeddus o Mr. I Greenwood? Tyst Beth Na dim o gwbl. Y Crwner Nid oes genych un dybiaeth o gyfathrach anmrhiodol rhyngddo ef a hithau ? Tyst Ni chefais achos i hyny. Wedi cael tystiolaeth Mr. Cooper a'r llaethwr, dychwelwyd y rheithfarn o "lof- ruddiaeth wirfoddol yn erbyn rhyw berson anhysbys. Er fod yr heddgeidwaid ar eu hegni eithaf, y maent wedi bod yn analluog hyd yn hyn i dd'od o hyd i ddim i'w cynorthwyo i ddar- ganfod y llofrudd; ac ofnir yn awr y dianga yr adyn rhag dyfod i afael cosb. (DIWEDDARACH.) DAU BERSON MEWN DALFA. Ychydig eyn caüol nos nos Sul, derbyniwyd pellebryn yn Nghaerdydd yn hysbysu fod dau ddyn wedi eu cymeryd mewn dalfa yn Ply- mouth, y rhai a tybir eu bod a llaw yn y llofruddiaeth uchod. Y mddengys fod hedd- geidwaid Manchester a Plymouth wedi bod :1 mewn gohebiaeth ar bwnc llofruddiaeth Jane Roberts, a'r canlyniad o hyn oedd cymeryd y ddau ddyn y cyfeiriwyd attynt mewn dalfa. Enw un ohonynt yw Robert Hild (alias Wait) ac y mae yn ddealledig mai ato ef y mae drwgdybiaethau y police yn gyfeiriedig, gan na ddywedir dim am gysylltiad y dyn arall a'r llofruddiaeth. Hild (neu Wait) a ddes- grifir fal glo-werthydd bychan yn Manchester, a dywed ei fod wedi cerdded yr holl ffordd o Manchester i Plymouth gyda'r amcan o ymfudo, a fod ef a'i gydymaith wedi bod 11 diwrnod ar y ffordd. Ymddengys fod Wait wedi rhoddi enw anwireddus arno ei hun i'r awdurdodau ymfudol yn Plymouth, gan alw ei hun yn Hild pan mae y ffaith ydyw mai Wait yw ei enw gwirioneddol. Felly, y mae tvarrant wedi ei chael allan yn ei erbyn am anudoniaeth. Yn mhellach, dywedir fod tebygolrwydd rhwng llawysgrif Wait a'r llythyr a ddanfon- wyd at Mr. Greenwood i'w hudo oddicartref ar brydnawn y llofruddiaeth. Os gwir hyn, y mae yn debyg y ceir datguddiedigaethau pwysig yn fuan. Ymddangosodd yr hyn a ganlyn yn yr Evening Standard dydd Llun diweddaf :— Y boreu hwn, cyrhaeddodd Sergeant Wallace (perthynol i heddgeidwaid Manchester), i Manchester gyda'r ddau ddyn Hild a Laycock —y rhai a gymerwyd mewn dalfa yn Ply- mouth am lofruddiaeth y ferch Roberts. Y mae Laycock wedi gwneyd cyffes lawn o'r llofruddiaeth, a hysbysodd yr heddgeidwaid pa fodd y dechreuwyd ef, ac mai yr amcan oedd lladrad. Y mae Hild yn ddyn priod. Yr oedd y ddau yn byw yn agos i'r tJ lie y cyflawnwyd y llofruddiaeth. Y mae llythyrau Hild, y rhai a rhoddwyd i fyny gan ei wraig, yn debyg i'r llythyr a anfonwyd at Mr. Greenwood. Y mae pob tebygolrwydd fod yr adyn euog wedi ei ddal o'r diwedd.
ABERAFON.
ABERAFON. Nos Iau, yr 22ain o'r mis hwn, rhoddodd cor Bethel, Briton Ferry, ddatganiad o'r gsntawd dlos yr Eaymakers. Gwnaeth y cor ei ran yn rhagorol, yn nghyd a'r artistes oedd yn cynorthwyo, sef Llinos y De, Miss H. L. Harries, Aberdar, Eos Dyfed, a'r Band dan arweiniad Proffessor Cooke. Gwnaeth Mri. Parker, W. Williams, ac S. Williams eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Derbyniodd y perfformiad gymeradwyaeth uchel. Cyfeill- iwyd gan Mr. T. Aurelius, ac arweiniwyd gan Mr. S. Jones. Deallwyf fod y cor uchod yn bwriadu dysgu "Jeremiah," oratorio newydd Owain Alaw. Gobeithio y gwnant, yn nghyd a manau ereill. Y mae yr oratorio rhagorol hon yn werth ei dysgu, ac y mae Owain yn haeddu ein cefnogaeth yn gyffredinol. Y mae yn dda genyf fod cor yn cael ei ffurfio yn Aber- ystwyth i'w dysgu. Gobeithio y gwna Aber- dar ac Abertawe ei dilyn. Meddyliwch am hyn, gyfeillion cerddorol !—Gerddor.
ABERDAR.
ABERDAR. DYRCHAFIAD I GYMRO.—Da genym weled enw Mr. William Williams, o St. Thomas's Hospital, Llundain, mab i Mr. D. Williams, Llwydcoed Farm, yn mhlith y rhai a basiodd yn llwyddianus yn y Royal College of Sur- geons. Deallwn iddo basio dwy arholiad yn ddiweddar o fewn chwech wythnos i'w gilydd, a'r ddwy yn llwyddianus. Mae wedi graddio yn M.R.C.S., E. L. S., a L.A.P.S. Hyderwn y bydd iddo yn awr ddychwelyd i ryw ran o'i wlad enedigol i ymarferyd fel meddyg, a di- amheu y bydd yn gaffaeliad i'r dref neu'r gymydogaeth a fydd mor ffodus a'i gael. Llwydd iddo. Amicus.
BRTTuN FERRY.
BRTTuN FERRY. GWEITHRED rhagorol o eiddo Arglwydd Jersey eto Yn ychwanegol at yr holl ddaioni y mae y larll haelionus wedi wneyd yn y lie hwn, y mae wedi rhoddi ei denantiaid yn rhydd o haner blwyddyn o rent, oherwydd caledi yr amseroedd. Rhagorol onidej Bydded iddo hir oes i wneyd daioni. v REHOBOTH.—Ymwelodd Asaph Glyn Ebwy a'r gymydogaeth yr wythnos diweddaf, a rhoddodd ei ddarlith ar "Gerddoriaeth" yn y capel uchod. Deallwyf mai teneu oedd y cynulliad. CoR BETHEL.—Rhoddodd y cor hwn ber- ftormiad rhagorol o'r Eaymakers yn Aberafon yr un noswaith ag oedd Asaph yma. MASNACH.—Yn gwella ychydig.—Llanydd.
[No title]
MYNYDD CYNFFIG A'R PIL.-Y mae pres- wylwyr y lie uchod yn edrych yn mlaen gyda chryn foddhad at gychwyniad buan haiarn- weithfeydd y Cefn. Adgyweirir y ffwrnesi gyda'r amcan hwnw. Sonir hefyd am ffurfio wmni er sefydlu gwaith alcan newydd.
Advertising
Cynaliwyd eisteddiad o'r Cyfrin ynghoiv dydd Mawrth, yn Downing-street, Llundain. Boreu dydd Mawrth, cafodd gunboat er rhedeg i lawr yn Portsmouth gan yr ager-fad Princess Alice. Boddwyd tri o bersonau. Nos Lun, yn adran Claremorris. Iwerddon, saethwyd at ddan ddyn pan oeddynt yn eu gwelyau, oherwydd rhyw gweryl yn nghylch y tir. Ni niweidiwyd un ohonynt. AT Y BEIRDD. Swobt-aa! ? GWEL Y GLORIAN GnmEIG" yn y Iftath Yjr Times ac yn y Bridgend Chronicle, neu din- oner stamp at y Golygydd, BERIAH GWYNPE EVANs, 2220. Gwynfe, LUngadock. CAN—" TEIMLAD SSROH YN Y DDAU NOD I ANT. Y geiriau C^ra- raeg pan Watcyn Wva a'r geiriau Seiifiig gaii W. L. Gardner. Y gerddoriaeth gan T. D. Willi arris (Eos DylTryn), E.A.M. Pris, 6c. Yr elw arferol i lyfrwerthwyr. I'w chael gan yr awdwr :-1.\ Pulross-road, Brixton, London, S.W. Bydd Eos DYFFRYN yn agored i dclerbyn en- gagements i ganu mewn cyngherddau, ac i feirnIaâu mewn Eisteddfodau. 218SI GERDDORIAETH GyhoeddecUq gan D. L. JONES (Gynalaw), B R I TON FER R Y. "MOLWCH YB. ARGi,WYDT) Anthem newydd, pris 4c., Sol ifa, 2g. Gan JOHN THOMAS (Blaenanerch), Llanwrtyd. Dywed&i y dhveddar Ieuan Gwyllt wythnos cyn ei farwola-vfch, Yr wyf yp meddwl y dylech ddwyn allan yr anthem Mol- wch yr Arglwydd' ar umvaith, fel y galler ei chael i fewn i waith ein Cymanfaoedd Oerddorol y flwyddyn nesaf." "LLAWENYDD Y GWANWYN:" Rhitn- gan i T.T.B.B. Pris 4c., Sol-ffa, 2g. Gan Proff. W. A. WILLIAMS (Gwilym Gwent), America. Y mae y dernyn newydd hwn yn un rhagorol iawn at wasanaeth Cyngherddau ac Eisteddfodau. "Y CYMRO DEWR Can wladgarol i lais baritone, o gwmpas hawdd. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan JAMES PETERS (Afan Alaw). I plant. Yu y Sol-Sa, pria Ig. Gan JAMES PETERS (Afan Alaw); y farddoniaeth gan CYNALAW. CYMRU, GWLAD EIN TADAU Can a Chydgan. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan D. L. JONES (Cynalaw) gyda geiiiau Ovmraeg a Saesonaeg gan CRETDIOL. Derbynia y gan hon ganmoliaeth uchaf ein prif gerddorion. HEN WALIA, GWLAD Y GAN » Can a Chydgan, ppis 4c. Gan D. L. JONES (Cynalaw); y farddoniaeth gan D. JOSEPHUS DAVIRS. Dy- wedai un bardd'gerddor am hon, "Pa le bynag y clywaf ei chanu, mae yn swyno fynghalon yn lan." GWAED PUR CROEN IACH! NERVES CADARN! Y rhai a sicrheir trwy gyraeryd y Feddyginiaeth fwyaf lwyddianu3 yr oes at BURO A CHRYEHAU Y GWAED, sef- H T + L lzeo 01,, (SsaxsTSBaB.) GWAED DliVVG Yw'r achos o'r Scurvy, Clefyd y Brenin neuV Manwyniau, Blast, Piles, Gwynegon, Penddynod,, Cornwydon, Hen Glwyfau, a phob Tarddiant ar- y Cnawd, Chwydd y Glands, Inflammatio* y Llygaid, Stitches yr Ochrau, Poen Pen, Diffyg Traul, Danodd, Spleen neu Rheums, Gout, Fits. Clefyd JHelyu, Nerves EgwMi, a llawer o'r Clefydau Benywaidd, Hen Ddystemper. <L-c. Y mae y Pills Effeithiol hyn yn DADWREIDDIO POB AFIECHYD O'R • GWAED! Y mae yn deihvng o sylw fod y Pills Hyhed: hyn yn cryfhau ac nid yn gwanhau y Gwaed, oblegyd. eu bod yn cynwys yr essence, neu'r rhan weithredol o'r Llysiau mwyaf effeithiol a welodd byd tuag at BUBO A CHRYFAU Y GWAED, a thrwy hyny yn dwyn yr Afu, y Cylla, y Galon, yr Arenau, y Croen, y Nerves, a'r Ymenydd i'w naturiol at pherffaith weithrediad. Y maent yn safe ac yn hawdd eu cymeryd, ac nid oes eisieu cadw mwii. yn yr amser, Pan bydd y Clefyd o hir barBfd, dilyner arnynt am beth amser. TYSTIOLAETH BWYSIG. SYB,—Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu or gwellhad gwyrthiol a wnaeth eich Pills, sef Hughes Patent Blood Pills i mi. Yr oeddwa wedi bod mewn blinder mawr gan Darddiant drea yr holl gnawd, ac wedi cymeryd llawer o foddien Doctor am flwyddyn a chwaneg, eto dim lies, hyij: i mi gael eich Pills chwi. y rhai yn bur fuan a'm gwellhasant. Yn awr, yr wyf yn holl iach. Mi, allaf hefyd dystio eu bod yn anffaeledig rbag y Lumbago. Hefyd, yr wyf yn brofiadol eu bod 'yn. dda neillduol rhag y Gwynegon. Yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd. WM. JAMES. 4. Pontypridd Road, Ferndale. Llawer ereill y gellir eu dodi yma wedi eu Ilwyr wellhau oddiwrth Fits, Inflammation y Llygaid,, Rheumatism, Blast,'Piles, Hen Glwyfau, Diffyg Traul, &c., &c. RHTBUDD.—Mae llwyddiant y Peleni hyn wedi achosi Ilawer i'w dynwared, feily gofaler cael y Trade Mark uchod (sef llun Calen) ar beD blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r enw Jacob Hughes" ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad, Ar werth drwy yr holl deyrnas am Is. lm.t 2s. 9c., 4s. 6c. Gyda'r post Is. So., 2s. lie. a 4s. 9c,, oddiwrth y Perchenog— Jacob Hughes, Apothecarie's Eall, Llanelly.