Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
COLEG Y GWKITHIWB.
COLEG Y GWKITHIWB. CAN AP COEWtlTT. Beringapatam Jones.—Dyma'r flwyddyn Hewydd wedi agor arnom, ac yn y mis cyntaf ynddi ddamwain fawr yn air Stafford, trwy JT hon yr hyrddiwyd o dri-ugain i dri-ugain deg o'n cyd-ddynion i'r eilfyd mawr Mae -^yfrifoldeb ofnadwy yn gorwedd wrth ddrws TOywrai am yr anffodion a'r trychinebau farhaus hyn. Ar ol yr holl ddeddfu yn y enedd, a chael cyfraith rheoleiddiad y glo- feydd mewn grym, ac wedi yr holl ragochel- 3adau, syrthia bywydau byth a hefyd yn <byrth i danchwaoedd dinystriol. Y mae %yn yn resynol i'r eithaf, pan ystyriom ei %od yn ddichonadwy i osgoi y fath alanastra. Dylid gwneyd cwympiadau a thanchwäoedd yn bethau anmhosibl yn ein pyllau glo canys -mid oes dim yn fwy eglur na bod naw o bob ..qeg ohonynt yn olrheinadwy i esgeulusdod -,Ac anocheliad o du rhywrai neu gilydd. Y tnae y Perydd Dwyfol wedi darparu digon o ■fcwyr at wasanaeth dyn ac anifail; ac y mae <5yfryngau effeithiol wrth law gan ddyn, pe .<ilewisai wneyd defaydd ohonynt, i gael cyf- lawnder o awyr i Bob congl. a chilfach o'n pyllau glo, a dylid ei gwneyd yn ddeddfol a 2"hwymedig ar awdurdodau ein glofeydd i 'fynu gweled hyn yn cael ei gario allan. Y Caae y ffrwydriadau tanddaearol hyn yn fath -o ddaeargrynfaau ar scale fechan ond peth- au ydynt ellid yn hawdd eu hatal. John Abergorei Evans.-Digon gwir ond <to y mae y damweiniau hyn, rywfodd neu gilydd, yn dyfod ar ein gwarthaf yn ddiddys- gwyliad, a hyny pan na fydd digon o ragofal -wedi bod. Gan i ti son am ddaeargrynfaau, fi garwn i gael clywed gan Agrippa dicyn o lianes y daeargrynfiiau ydym wedi gael yn y ..lad hon. Agrippa.-Y ddaeargryn ddiweddaf o un pwys a ddygwyddodd yn Mhrydain a gymerth le ar yr 8fed o Chwefror, 1750. Yn sir Perth, -Yisgotland, yn ngauaf 1839 a 1840, bu cant a -deugain o ddaeargrynfaau Yn ol hanes a ysgrifenwyd gan un Mrs. Sometville, yn 1858, Oyfrifa hi fod 255 o ddaeargrynfaau wedi bod yn Mhrydain Yn y flwyddyn 1101 dychryn- Wyd yr holl wlad gan ddaeargryn, yr hon a -igododd y tai i fyny, medd yr hanes, gan eu igosod i lawr eilwaith. Yn 1133 dymchwel- Wyd amryw dpi, a uaethai fflamiau allan o fcgenaa yn y ddaear, y rhai a herient bob ym- gain i'w diffodd. Ar y Llun yn yr wythnos cyn y Pasc yn 1185, bu daeargryn na theiml- Wyd ei chyffelyb o'r blaen yn Lloegr er <Jeehreu y byd, meddir canys taflwyd i fyny .geryg mawrion o'r ddaear, dymchwelwyd tai, a holltiwyd Eglir/s fawr Lincoln. Cynerodd S ddaeargryn nesaf le prydnawn cyn dydd Valentine, 1247, gan wneyd cryn ddifrod yn Llundain. Rhagflaenwyd hon gan arwydd 4ra hynod canys am dri mis cyn yr ysgyd- tJad, nid oedd na thrai na llanw gan y mor -4r ftrFordir Prydain, a dilynwyd y ddaeargryn sgan dywydd mor arw, nes oedd y gwanwyn ,n ail-auaf. Ar y 12fed o Fedi, 1275, di- ajyairiwyd Eglwys St. Michael, Glastonbury, I ijgaa ddaeargryn. Yn mhen ugain mlynedd 4T ol hyny, cafwyd daeargryn arall, ac un Wedi hyny, yn 1382, ar yr 21ain o Fai, pan liyrddid y llongau yn y porthladdoedd am 4iraws eu gilydd. Am 6 o'r gloch, prydnawn $I7eg o Chwefror, 1571, agorodd y ddaear ter Kinaston., Henffordd, a gwnaeth bryn o'r «nw Marclay Hill, fath o swn rhuthriadol, yr Jawn a glywid o bell; ac ymddyrchafodd i 9 jjehder mawr, gan symud oddiar ei sylfeini, chludodd gydag ef y coedydd a'r defaid arno ar y pryd. Gadawodd wagle ar ei ol o 40 troedfedd o led, a thua 300 troedfedd A hyd. Ar ei daith chwyrnellol, taflodd gymerth le yn Llundain, dydd Mercht?* 7 Pasc, Ebrill 6fed, 1580. Parodd hyn i gloeu fawr Westminster, a chlychau ereill yn y Brif-ddinas, i ganu-rhedai y bobl allan o'r ^hwareudai mewn dychryn, a gadawai bon- <4ddigion y Temple eu swper, gan redeg allan •§f'r lisnadd a'r cyllyll yn eu dwylaw. Taflwyd ►rhan o Eglwys Temple i lawr, a syrthiodd rhai o geryg St. Paul's, a lladdwyd dau •^wyddorwas yn Eglwys Crist ar awr y bre- geth. Teimlwyd y ddaeargryn hon yn gyff- sr^dinol trwy y deyrnas, a gwnaeth gryn lawer «o, ddifrod yn Kent, gan ddryllio cestyll ac adeiladau ereill; ac yn Dover, syrthiodd darn -<y glogwyn, gan gario gydag ef ran o fur y castell. Mor ddychrynedig oedd pob dos- •S)arth yn y wlad., fel y barnodd y frenines Elizabeth yn ddeeth i gael fFurf o weddi wedi .et pharotoi er ei defnyddio gan bob teulu cyn myned i orphwya yn yr hwyr. Yn mhen tua -chan mlynedd wedi hyny, bu agos i Lyme JRegis gael ei dinystrio gan ddaeargryn. Ar yf 8fed o Fedi, 1692, fiodd y masnachwvr o'r Change, yn Llundain, a rhuthrai y bobl o'n xtai i lieolydd y Brif-ddinas, a liuoedd yn llewygu gan ofn oherwydd y ddaeargryn. Yr oedd y ddaeargryn hon yn gyffredinol trwy y ■siroedd. Fodd bynag, y flwyddyn 1750 ydy w ,.yr enwocaf am ddaeargrynfiiau. Dechreuodd y flwyddyn gyda thywydd poeth iawn, a'r gWrea, meddai Walpole, tuhwnt i ddim a gafwyd yn y wlad hon, ac ar yr 8fed o Chwef- ror, cafwyd ysgydwad certhol ac yn mhen Tnis ar ol hyny, un arall rymusach, nes peri i glychau yr Eglwysi ganu, a chwn i gyfarth, a physgod yn neidio i fyny o'r dwfr. Pryd- liawn cyn y 5ed o Ebrili, yr oedd yr heolydd vtpallan i Lundain yn llawn o gerbydau. Eis- teddai llawer o bobl yn eu cerbydau yn Hyde Park trwy y nos, gan basio yr amser wrth chwareu cardiau yn ngoleu canvvyllau, a igofynai Walpole, « Pa beth a feddyllwch am Lady Catherine Pelham, Lady Frances Ar- undel, ac Arglwydd a Lady Galway, y rhai ydynt yn myned y prydnawn hwn i w»std £ ddeng milldir o'r ddinas, lie y maent yn chwareu hyd bedwar o'r gloch y boreu ac yna, yn dychwelyd, debygwn, i edrych am esgyrn en gwtr a'u teuluoedd dan y garnedd." Ar y 18fed o Fawrth, yn yr un flwyddyn, teimlwyd ysgydwad o ddaeargryn yn Ports- mouth, Southampton, ac yn yr Isle of Wight. Yn Ebrill, yagydwyd Cheshire, Flintshire, a Yorkshire. Y ddaeargryn fawr a ddinystri- odd Lisbon yn 1755, a gythryblodd hefyd y mor o gylch yr Ynysoedd Prydeinig. Oddiar hyny, cafwyd amryw ysgydwadau o bryd i bryd, a'r un olaf o ddim pwys oedd yn 1852, yr hon a deimlwyd yn benaf yn siroedd Gog- ledd Lloegr. John Mathew Sambo.-Wel, dyna gronicl- ad pur dda. Ni chredais i o'r blaen fod cynifer o ddaeargrynfaau wedi cymeryd lie yn yr Ynysoodd Prydeinig. Y mae yn dda genyf fi daflu golwg yn ol weithiau ar helynt- ion oesau aethant heibio. Moes eto rywbeth dyddorol erbyn wythnos i heno.
Yr Orsedd a'i Hynodion.
Yr Orsedd a'i Hynodion. GAN MORIEIT. MAE rhai ohonom ag sydd yn meddu'r fraint oruchel o eistedd ger meini gwynion hen orsedd henafol ac urddasol beirdd Ynys-y- Mel yn gofldio wrth ganfod y fath dwrw ac ysbryd rhyfelgar yn mhlith plant Hu Gadarn a Ceridwen ag a welir y dyddiau hyn. Y prif-fardd Dewi Wyn o Essyllt, yn cario'r bidog ar ei ysgwydd, ambell dro yn rhuthro i'r gad, a'r offeryn yn cael ei ddal ganddo at the charge; Brythonfryn, rhyfelwr o'i febyd, a Gurnos, oruchel ei ddawn, yn gwylio ysgog- iadau eu gilydd fel llew a theiger Brynfab, o ben y mynydd, yn taflu pelenau t&n i'r gwersyll terfysglyd; Carnelian yn curo ei dwmpan er boddi lleisiau y clwyfedigion Dewi Harran yn ysgwyd ei farf wen oherwydd llusgo ei enw i mewn i'r ymrafael; Asaph Cynon yn dal un o blu yr #ydd yn agos i'w fawd, gan erfyn gwaith yn y man, ac yn dywedyd, It's an ill wind that blows nobody good j" Rhys yn dianc i Beopych rhag bidog llym y prif-fardd Mabonwyson yn ymlusgo i'r ogof rhag ofn ei daro yn ddygwyddiadol gan stray shot o Fynydd yr A—wen. Dyma sydd o godi gorsedd bengoll Y canlyniad yw fod Afagddu, ac Annhras ei wraig, wedi ymwthio i'ch plith, ac yn eich haddasu yn heinyf i gylchau dyfnion Abred. Ffeglir pob gorsedd bengoll yn y man, a chlywir eto blant ein Barddas bur ac henafol yn canu fel cynt ar eu taith i Fryn Gwyddon. Addfwyn Gaer ar glawr gweilgi, Bydd lawen yn nghalan ei rhi, Amser pan wna maw wrhydri. Addfwyn Gaer y sydd ar lydan lyn, Dinas diachor m6r &'i cylchyn— Gogyfarch tfr Prydain. Addfwyn Gaer y Rydd ar dbn nawfed, Addfwyn ei gwerin yn ymwared. Dyna ddarn o hen gan oedd gan ein henaf- iaid, pan yn llwythi, yn treulio eu gwylVi ar Fryn Gwyddon gynt. Mewn gwirionedd, i ddyn yn ymhyfrydu yn henafiaethau y genedl Gymreig, a thrwy gyfrinion Barddas yn gwybod rhywbeth am ogoniant cyntefig yr orsedd farddol, mae edrych ar ymrafaelion plant Cymreig yr oes hon yn mhlith y meini yn gwneyd iddo deimlo fel y gwnaeth Byron pan welodd, ar ei ymweliad a. Groeg, ddisgynyddion anian- yddwyrlae areithwyr hyawdi y byd-enwog Athen wedi annghofio eu gogoniant gynt:— 'Tis something, in the dearth of fame, Though link'd among a fettered race, To feel at least a patriot's shame, Even as I sing, suffuse my face; For what is left the poet here ? For Greeks a blush-for Greece a tear. Hark rising to the ignoble call, How answers each bold Bacchanol Cyn lleied on cenedl sydd yn deall fod yr orsedd farddol ag y mae y beirdd mor hoff o'i chysgod, canys nid yw y gorseddau a gynelir heddyw yn y De a'r Gogledd ond cysgodau- cyn lleied, dyvvedaf, a ddeallant ei bod wrth wraidcl holl gyfrin-ddysg gre^ddo1 7 byd Dyma ryw gipdrem ar y sylwedd mawr. I Y dwyraiii yw cyfeiriad mawr crefyddo; pob cenedl henafol. Beth achosodd hyn ? Beth a oiygid wrth hyn ? Fod hyn yn bod, nid oes genyf ond eyfeirio at ddefod Eglwysi Rhufain a Lloegr o ymgrymu tua'r dwyrain er profi y flaith. Wel, yr hyn a roddodd gychwyniad i'r ddefod oedd y canlyn :—Yn :I hen oesoedd y byd, cyn bod neb wedi dy- wedyd fod y Crewr wedi siarad a dyn trwy ddull goruwch-naturiol, yr oedd yr henafiaid yn edrych o amgylch ogylch y cread am Awdwr mawr y greadigaeth ardderchog yr oeddynt yn byw ynddi. Yr oeddynt am ei glodfori am ei ddaioni, a'i addoli fel eu Tad. Mae lie i feddwl mai y Derwyddon oeddynt y cyntaf i alw Duw yn Dad, ac mai llygriad o'r enw Duw Dad y Derwyddon yw l'eu Tates y Phoenisiaid a Thoth yr Aifft. Gallwn ddilyn y pethau hyn trwy ganolbarth Asia i India, ac mae olion Derwyddol yr holl ftbrdd ond cymerai hyny ormod o'ch gofod. Wrth chwilio am y Crewr yn y greadigaeth, a gawsant ef ? Naddo ond credasant yn ddi- ysgog eu bod wedi cael allan ffynonell ei yni. Ymresyment fel y canlyn :—Pan fydd yr haul yn codi tua'r de, yn y gauaf, mae anian fel yn marw-y dail wedi syrthio, ac anian fel yn myned.i drengu. Ond pan gyrhaedd yr haul i godi yn y dwyrain, fel y gwna yn union yn y gwanwyn, mae bywyd -adnewyddol yn ymarllwys trwy'r haul, ac yn dadebru anian o'i chwsg gauafol. "Dyma borth y nef," meddent. Dyma'r man cysegredig ag y mae ein Tad yn gosod allan ei nerth creol Gwyl fawr oedd gwyl dydd cyntaf y gwanwyn (Alban Eilir) gyda'r Derwyddon 1 Safai yr Archdderwydd ar y maen-canol yr orsedd, ya llygad y goleuni, &'i wyneb tua'r dwyrain, 1 tua ffynonell y cread. Ar ei chwith, ochr y cledd, yr oedd y go-gledd, ac ar ei dde y dehau ac y mae y prif gyfeiriadau (cardinal points), de a gogledd, yn y Gymraeg, yn ol pob tebyg, wedi cael yr enwau uchod oddi- wrth y modd y safai yr Archdderwydd yn ngwyl y gwanwyn. Yr oedd yn ardderchog yn ei wisg y pryd hwnw-gwisg wen, a'r goron aur a phigiadau arni yn arwyddo ei fod yn fab yr yni santaidd oedd yn melltenu trwy'r pelydrau. Nid mab yr haul, cofier ond mab Duw, sef yr yni o Dduw wedi gwisgo cnawd. Nid yr Archdderwydd yn unig a olygid yn fab yr yni, ond pawb, ac nid oedd efe, yn ei swydd, ond yn cynrychioli dynol- iaeth yn gyffredinol. Fel yr oedd yr haul yn myned uwch "ystlysau'r gogledd-mynydd y gynulleidfa," yr oedd yr yni yn myned yn gryfach, y dydd yn myaed yn hwy, ac anian yn ymdrwsio mewn gwyrddni a blodau. O'r dwyrain i'r de yr oedd marwolaeth yn teyrn- asu, ond o'r dwyrain i'r gogledd bywyd. Ystlysau y gogledd o ganlyniad oedd myn- ydd y gynulleidfa," a dinas Duw mawr. Yr oedd gwahaniaeth rhwng crefydd yr Aifft a chrefydd Prydain, yn gymaint ag mai taith ddiwrnodol yr haul oedd yr Aifftiaid yn sylwi arno yn benaf, ac wrth gladdu, aethent &'r marw i'w fedd yn ol cyfeiriad mynediad yr haul i'r gorllewin, a'r gorllewin o ganlyniad oedd eu pwnc marwoldeb hwy. Ond taith flynyddol yr haul y sylwai y Derwyddon arno, a'u pwnc marwoldeb hwy o ganlyniad oedd y de. Yn awr, gadewch i ni fyned at yr orsedd. Yr oedd canol hon naill ai yn un gareg chwyfiog {rocking-stone), yr hon a eilw dysg- edigion yn logan-stone (maen-y-logos), neu y Gair neu gromlech-tair careg yn agos yn cyfarfod &'u gilydd ar y top, fel tair troed stol, a chareg flat ar y top iddynt. 0 am- gylch maen y gair," yr hon a elwid hefyd (i maen y IIw," ac hefyd o amgyich y grom- lech, pan cromlech fuasai yn y canol, yr oedd deuddeg o geryg, pa rai a gynrychiolent ddeuddeg arwydd y sidydd. Ar Fryn Gwyddon, yr oedd hefyd 100 o geryg mawr. ion, yn gylch mawr allanol, ac, yn ol harn Myfyr Morganwg, D.C.L., hyn yw'r achos fod cylch yn cael ei alw hyd heddyw yn "gant." Mae y rhan fwyaf yn gwybod fod y mil crochau yn cael ei alw yn gant y crocnau. Yn awr, maen y gair," neu gromlech, oedd arwyddlun bru Anian, a gelwid hi yn faen y gair am fod y gair creawl, arwydd- lun pa un oedd y I I (nod cyfrin), yn cael ei bortreadu fel yn ymgyfarfod yn dair priodol- edd yn y bru, a gelwid yr hyn oedd yn hanu o'r tair priodoledd ymgyfarfyddol yn llygad goleuni," wrth ba un y golygid y presenoldeb dwyfol, ac hwn oedd y Shechinah Derwyddol. Gelwid un briodoledd yn Gwron, un arall yn Alawn, a'r llall yn Plenydd, pa rai a gynrych- iolid gan dri bardd eyfrin o fewn y cyleh-un, sef Gwron, yn nghyfeiriad pwnc yr haul ar y dydd byraf y llall, sef Alawn, yn nghyfeir- iad codiad haul ar ddydd cyntaf y gwanwyn a'r llall, sef Plenydd, yn nghyfeiriad codiad yr haul ar y dydd hwyaf. Mae llawer iawn yn rhagor i'w ddywedyd ar y pethau hyn, yn jlangos crefydd ein henafcud clodwiw; ond 1? .0, am wybodaetli pfeliacll, darllener llyfrau hynod Myfyr Morganwg, D.C.L. Ond cyn terfynu, dymunef alw sylw y dar- llenydd yn fyr at y Tabernacl Iuddewig. Yr oedd yr Arch yn y canol; yr oedd deuddeg llwyth o'i hamgylch hi; yr oedd yno Shech- inah dwyfol yn canol-byncio ar y drugaredd- fa yr oedd dwy offeiriadaeth yn cael eu cynrychioli yn mhiith y llwythau, sef offeir- iadaeth Aaron gan Lwyth Lefi, ac offeiriad- aeth Melchizedec gan Lwyth Judah. Judah oedd y llwyth breninol. Paham ? Am ei fod yn cynrychioli offeiriadaeth mwy urddasol na Le6, yr hon oedd wedi hanu o Abraham, yr hwn, yn ol awdwr yr Epistol at yr Hebre- aid, a gydnabyddodd uwchafiaeth offeiriad- aeth Melchizeued. ?drvch, ddarllenydd, pa le yr oedd Judah yn gw'ersyllu oauiwTt)1 yr Arch, yn yr anialwch, yn yr ail benod o Numeri, a'r ail adnod. Yno cawn fod Judah, cynrychiolydd hen offeiriadaeth fendigedig Melchizedec, yn cael ei orchymyn i wergvllu o du y dwyrain, tua chodiad haul," lie y I mae'q codi y £ wat)wj>rt. Ai Derwyddiaeth oedd offeiriadaeth Me!ch!zedec ? A dderbyn- iodd y Cymry gyfundrefn mwy perf)>^ c'Hyagodau o Gristionogaeth na r luddewon ? Cailfi lesu a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragVWyddol yil 01 urcivl Melchizedec." Gofyna'r ajpoStd yii eithaf teg, Os yaoC:]d, I o) gan hyny, be^ffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi (oblegyd dati hoaoyrhoddwydygyfraith i'r bobl), pa raid oedd mwyach codi offeiriad arall yn ol urdd Melchizedec, as nas gelwid ef yn ol urdd Aaron V' Dyma destyn gwerth sylw Brythonfryn a Gurnos, onite ? Dyma'r testyn mawr a rydd ¡ y byd gwareiddiedig ar d&n gwyllt rhyw ddydd Mae'r ysgrifenydd Germanaidd enwog, Delitzsch, wedi cyffwrdd dg ef. Pe yn ngoleuni hen grefydd y meini, cawsai lawer mwy o oleuni ar y testyn.
[No title]
GWLEDD RYDDFRYDOL YN BIRMINGHAM.— Cynaliwyd gwledd fawreddogyn Birmingham dydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, ar yr achlysur o agor Cymdeithas Ryddfrydol newydd yn y dref, a thraddodwyd anerch- iadau gan Syr W. V. Harcourt, a Mr. John Bright. Dywedodd y cyntaf fod y blaid Ryddfrydol yn gydunol yn nghondemniad y Llywodraeth bresenol; a chymharodd Mr. Bright y diwygiadau gwerthfawr a wnaeth y blaid Ryddfrydol a sefyllfa pethau cartrefol, a'r gwastraff arianol mewn rhyfeloedd a achosir gan Lywodraeth Arglwydd Beacons- field. o ORIAWR Y DIWEDDAR TYWYSOG YMERODROL NAPOLEON.—Bu ymchwiliad ana^oriawr y ty- wysog anffodus hwn yn ddiweddar, ond caf- wyd allan fod y Zuluiaid wedi ei dori yn yfflon, gan gredu fod arian wedi ei ddiogelti ynddo.
0 Lanau'r Rhondda,
0 Lanau'r Rhondda, Gall gwtr Ferndale a'r Ocean fod yn dawel, oanys dyna nhw wedi cael eu tynu drwy'r purdan! Mae'r cwbl ag oedd yn cinders ynddynt wedi toddi ymaith, ac wele glAn ydynt-yn aur pur bathedig mwyach A gwyn eu byd Goruchwyliaeth arw a gawsant ond yr oedd eu pechodau y fath, fel ag i alw am hyny, am iddynt fyned at orsedd gallu eu hunain heibio i'r "Ni" fendigaid, hunan-gyfiawn, a breninol. Bell- j ach, frodyr, byddweh dawel, canys daethoch drwyddi yn hynod dda ag ystyried eich tros- eddau. Gellid meddwl, wrth glywed y rhai a fuont yn Nghaerdydd yn adrodd yr helynt, iddi fod yn dywydd garw ac ofnadwy yno O! y fath orchest a wnawd. O! chwi feistri gormeslyd a chalon-galed, bu gwaith tynu ofuadwy arnoch tua'r lan o for caeth- iwed drwy donau cynhyrfus deufor-cyfarfod gormes a dialedd Ond bu gorfod arnoch i ddyfod, onide ? Dyna Hwlbri Onid oedd grym y gwaith wedi ei wneyd trosoch gan weithwyr call, a meistri dynol a charedig Ferndale a'r Ocean ? Ys dywed y barfog o Dreherbert, y mae llawer o'r clod am yr amod ddiweddaf yn perthyn i Blaenllechau a Chwmparc, am fod yr hyn a wnawd yn y lleoedd hyn yn digaregu'r ffordd i'r hyn a wnawd yn Nghaerdydd, yr hyn a addefir gan bawb ond-. Y mae dyddiau gwell yn dyfod arnom fel glowyr, ond i ni fod yn ddoeth. Yr oeddwn yn siarad â. gwr cyfrifol, yn ddiweddar, am y dyfodol yn nglyn a'i ragobeithion a'i beryglon. Dywedai fod elfenau llwyddiant, erbyn hyn, yn hollol ganfyddadwy, ond nid yn fwy felly nag elfenau peryglus gormes, annghydfod, a phen- ryddid. 0 ran hyny, y mae cymaint o hyn ar amser da ag sydd ar amser drwg, ond yn unig eu bod yn newid rhandir a dwylaw. Ar amser tlawd, y mae'r ffon yn llaw'r meistri, a chernodiant yn ofnadwy a hi, lawer ohonynt; ond ar amser da, y mae yn myned i law'r gweithwyr, a cha'r meistri eu newid yn ol gyda Hog. Ai fel hyn y bydd hi y waith hon I Ie, meddai'r gwr profiadol hyn wrthyf, a chredai ef y bydd y gweithwyr yn ffolach nag y buont erioed yn y dyfodol. Caiff amser ddweyd ond credwyf y dylem fod yn gallach bellach. Oni b'ai fod rhywun fel Hugh'r Northman yn tapio rhai dynion yn awr ac eilwaith, cawsem cin trethu i fwy na'n henill, y dyddiau hyn, i gynal y gogan- wyr sy'n byw ar ein cefnau ni, y gwirioniaid fel ag ydym. Gan fy mod wedi dyfod i awyrgylch y trethi yma, a ydym oil fel treth- dalwyr yn y cwm yn foddlon i'r hyn a delir genym y dyddiau hyn 1 Ai nid yw'r byrdd- au bron wedi myned a'r cwbl oddiar fyrddau llawer ohom ni ? Y mae yma ganoedd yn cael eu gorfodi i dalu tal y tlawd (poor rate) ag sydd mor wir dlawd-os nad yn dlotach na'r sawl sydd yn derbyn eu tai wythnosol. Er gwneyd hyn, sef talu'r taloedd, y mae yma rai o'r gweithwyr mwyai diwyd a sobr yn suddo i ddyledion anferth ac andwyol, er eu bod yn gwasgu ar gysuron eu hunain a'u rhai bach wrth ymdrechu talu'r trethi. Gyd- weithwyr yn y cwm, codwch ati, ac agorweh eich Ilygaid. Y mae Bwrdd ar ol Bwrdd yn cael ei godi, a Bwyddi ar ol swyddi yn cael eu creu a'u llenwi, a hyny er difa ein cysuron teuluaidd ni. A oes rhyw reswm yn hyn ? Dynion yn cael mwy am gerdded o fan i fan i ddybenion gwaeth na gwneyd dim, a chael am hyny gymaint ag a enilla rhyw haner dwsin ohonom ni! Ai nid vdych yn gweled talu ac ail dalu am yr un gwaith wrth fyned heibio, a hyny o achos diffyg trefn a medr swyddogol1 TRETHDALWR CLWYFEDIG.
[No title]
Dylem ddeall ystyr prif dermau y ddadt wrth gychwyn. Y mae Brythonfryn yn arfer y gair "cyfraith" mewn mwy nag un ystyr. Felly hefyd y gwna a'r gair deddf"; ac arfera y ddau air—daddf a chyfraith-yn gyfyetyr. Ni ddylasai wneyd hyny mewn dadl pan fyddo y ddadl yn dibynu llawer ar yr ystyron a roldir i eiriau. Os nad wyr y gwahaniaeth sydd rhyng- ddynt, a bod mwy nag un ystyr i'r gair cyf- raith, dylasai wybod hyny, cyn rhuthro i ddadl ar bwnc mor bwysig a Gair Duw. Deddf natur aehyfraith foesol :—Y mie deddf natur yn eyrhaedd pob peth a phob cread ur ond nid yw cyfraith yn cyrhaedd onl bod rhesymol yn unig-nid A ddim oam yn is im o £ d> dy £ °ea fyQ° CyfraIth' 7 laith deddf: Brythonfryn, rhaid i chwi wneyd fel yr wyf yn ceieio. laith cyfraith Brythonfryn, dylech wneyA fel yr wyf yn ceisio. J laith cariad :—Nis gelhsch lai na gwnevd Mt yr wyf yn ceisio. Perthynas achos ac effaith yw deddf natur u gorchymyn yn dwyn i'w ganlyn wobr a. chosb foesol yw cyfraith. laith deddf:—Dim diolch gwneyd yn ol fr ngair. laith cyfraith:—^wna hyn; na wna hwna. Yr wyt at dy ryddid-at dy dde wis. Cosb deddf sydd uniongyrchol; cosb eyfraitb,, weithiau, a oedir i dragywyddoldeb. Y mae rhai o orchymynion cyfraith yn foesol. R ya J>endant = Na ladd —moes^ Abraham, lladd Isaac yn aberth "—pendaofe. Perthyna gorchymyn moesol i bawb, yn mhob oes. a byth, ac yn mhob man, ac nis gellir ei J ne a r ddaear » &nt heibio, ond, •'iij i yna g°rchymyn pendant i nn neu rat neillduol, ac am dymor arbenig ac ni fuasai ya drosedd gwneyd yn wahanol iddo, pe nas gorchymynasid ef: nid felly y moesoL Ni ddylai Brythonfryn ladd yr nn o'i blant va aberth, ac ni ddylasai Abraham wneuthur hyny ar ol clywed y gair Atal dy law." Rhald i orchymyn pendant yn ami droi o ffordd y moes- ol, fel y goods train o ffordd y passenger tram i r siding.