Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

SARAH WILLIAMS, Etifeddea…

News
Cite
Share

SARAH WILLIAMS, Etifeddea y Gelli JIFUG-CHWEDL AIL OREU EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEHKXTDIK CYMHU. PENOD I. Yr Ymddiriedaeth o'r Adduned. Yr oedd yn ganol nos. Nid oedd dim -end tawelwch a dystawrwydd y bedd yn Swdoi y wlad o amgylch. Eto, er ei bod yB haner nos, nid oedd yn dywyll, gan fod y lloer arianaidd yn taflu ei Uewyrchiadau oerilyd a dysglaer ar y byd, gan roddi lliw- iau amrywiol a bywyd i ambell wrth- Adrych, tra y rhoddai ei goleuni agwedd hollol wahanol ac annaearol i wrthddrychau <MeiU, golwg ar ba rai a drywanant y galon ddynol. ielly yr oedd gyda Sarah Wil- liams pryd y gadawai erchwyn y gwely, ar ba un y gorweddai ei thad yn mhang- feydd marwolaeth. Symudodd ychydig ar Jeni y ffenestr, er mwyn syllu allan trwy y ffenestr ar y coed talion a amgylchent ei chartref hardd ac enwog. Eto, er mor brydferth oedd yr olygfa, ac er mor llawn o farddoniaeth fyw yr edrycbai y maesydd yn nhawelwch dwfn haner nos, nid oeddynt yn cael yr un effaith ami hi—yr oedd ei Hygaid yn gauedig rhag gweled dim pryd- ferth ynddynt. Yr oedd ei sylw hi wedi cael ei lyncu yn gyfangwbl gan yr ystyr- iaeth y buasai, cyn pen yehydig oriau, yn blentyn amddifad. Yr oedd ei mam yn tawel huno yn mhriddellau oerion Mynwent yr hen Lan oedd a'i ehloehdy yn ganfydd- adwy iddi trwy frigau y coed, ac yr oedd yn amlwg fod ei thad ar ei dilyn a phen- 4erfynai hi aros yn ffyddlawn i weini arno yn ei oriau diweddaf. Yn sydyn, elywid ef yn llefaru gyda'r nerth a'r gallu hyny ag sydd yn noiweddu y llais pan yn ymyl augeu. U Gellwch fy ngadael yn awr," medddi vrth ei weinyddion yr wyf am gael yr ystafell i mi a fy merch am ychydig.— Sarah, deuwch yma." Ufuddhaodd yr eneth ar unwaith, er i lyw ias oer a dychryn i redeg; drwy ei holl gyfaDSoddiad ar waith y gorchymyn yn cael ei lefaru. A allaf wneuthur rhywbeth i chwi, fy anwyl dad? A allaf esmwythau eich poen yn rhywfodd ?" gofynai yn dawel. Y chwi yw'r unig fod daearol a all," ebai'r Yawain Williams, tra ar yr un pryd y syllai a'i lygaid pwl ar amlinellau pryd- ferth gwynebpryd ei ferch. "Sarah, a ydyw y drws yn nghlo, ac a ydym yn ddiogel o glyw pawb ?" Ydym; yr ydym wrthom ein hunara. Y mae William a John yn y gegio, ac y mae y drws wedi ei gloi." Yn awr, ynte, gwrandewch arnaf mor llawel ag y gellwch. Y mae genyf lawer idd ei ddweyd mewn ychydig eiriau. Gosodwch y goleu allan yn y llusern. Y mae goleuni gwan y Iloer yn rhy ddysglaer i fod yn dyst o'r fath hanes ddu ag sydd genyf ei adrodd. Y mae yn fwy cydnaws a thywyllwch. Gwnewch faddeu i mi. 1n chadwaf chwi yn hir, pe byddai nerth genyf." Yr wyf yn barod, fy anwyl dad. De- -chreuwch." « Sarah," meddai, "a ydych yn fy iigliaru ? A wnewch esmwythau un baich a» sydd yn pwyso yn drwm ar fy meddwl ? 0°!'r fath amgylchiad difrifol ac ofnadwy yw marw 1" i. Am ychydig, teyrnasodd dystawrwydd pruddaidd dros yr holl ystafell. Taflai y lloer ei phelydrau trwy y fienestr, a dis- gynai y rhai hyny ar wyneb gwelw yr llwn oedd ar roddi y naid ofnadwy i'r byd anweledig. Yr oedd yr ystafell wedi cael ei dodrefnu yn y modd mwyaf costus. Nid oedd na thraul na thrafferth wedi ei arbed creihaddurno yn y modd gwychaf. Yr oedd y dodrefn gwych a'r addurniadau costus yn eglur brofi fod eu perchenog yn feddianol ar gyfoeth helaeth. Eto, nid oedd eu perchenog yn ddyn dedwydd. Na, yr oedd yn mhell o fod yn ddedwydd—yr oedd -wedi treuHo 009 gyfan o anoedwyddwch. Ond yr oedd edaf wan ei einioes ar gael .,ei thori. Yr oedd yr enaid ar ffarwelio a'r o glai," ac ehedeg i'w fro ei hun, ac C, fel y mae lie i ofni, i wlad na wyr neb o'i phreswylwyr am ddedwyddwch. Nid oedd ei ferch-ei unig blentyn a'i etifeddes- wedi cvrhaedd ei deunaw mlwydd oed eto. Yr oedd hi yn arlun byw o'r prydferth, ac yr oedd diniweidrwydd Eden wedi ei daenu fel gorchud-1 dros ei gwyneb hardd. Hong- iai ei gwallt aur-felyn dros ei hysgwyddau; 4awcsiai iechyd yn ngwrid ei bochau; a phrofai y llvgaid mawr gleision a thyner aynwyr a threiddgarwch y tuhwnt i'r hyn a ellidddysgwyl mewn un o'i hoed. Nid oedd yn rhyfedd fod ei thad yn gofidio pan yn medd-sl am adael y fath drysor ar ei ol yn myd y gofidiau. Y cyntaf i dori ar y dystawrwydd pruddaidd ac angeuol ydoedd "Sarah," meddai, meddienwch eich liun tra yn gwrando arnaf, a pheidiwch meddwl am foment mai ffrwyth ymenydd wedi ei boethi gan dwymyn yr wyf yn ei siarad wrthych. O! na fuasai yn hyny. 0! Sarah, gwnewch faddeu i'ch tad, a rhoddwch eich cynorthwy i mi yn fy ing- oedd olaf?" Gwnaf; ac O! fy nhad, eglurwch ar unwaith, yn lie gwastraffu eich nerth yn mhellach. Yr wyf yn barod i aberthu pob cysur er eich mwyn." Yr wyf yn rhwym o adrodd fy nhyf addefiad i chwi, ac y mae yn well ei ddweyd ar unwaith. Yr ydych yn blentyn i lofrudd ysgeler." Edrychodd ar ei thad gyda braw. Tyb- iai mai mewn breuddwyd yr oedd, ond adgofiodd gwedd welw ei thad iddi ar un- waith yn mha le yr oedd, ac mai nid breuddwyd oedd. "Peidiwch fy aflonyddu; yr wyf yn rhwym o adrodd y cwbl o'r dechreu. Yr oedd fy nhad yn fab henaf i wr cyfoethog iawn, ond nid oedd gan ei dad fawr hoffder tuag ato. Ychydig o diroedd oedd gan fy nhaid; ac am hyny, yr oedd ei gyfoeth yn gynwysedig irewn aur ao arian. Bu farw fy nhad, a fy ewythr o flaen fy nhaid. Gadawsant hwythau ddau fab ar eu holau, a chawsom ein cydgodi, a derbyniasom yr un chwarea teg un a'r llall; ond yr oedd rhyw gasineb greddfol yn fy mynwes oddiar pan yn blentyn at Oscar, fy nghefoder, a thyfodd y casineb fel ag yr oeddwn inau yn tyfu. Pasiodd blynyddoedd heibio. Priodais; ac yr oedd gwaddol eich mam, yn nghyd &'r swm wythnosol a ganiateid i mi gan fy nhadcu, yn ddigon i ddiwallu ein haogenion, a llawer rhagor. Dysgwyl- iwn yn bryderus am farwolaeth fy nhaid, fel y gallwn gymeryd meddiant o ystâd y Gelli, pa un oedd yn dyfod i mi yn gyf- reithlon wrth etifeddiaeth. Yr oedd Oscar wedi ei fwriadu yn gyfreithiwr, a gallesid tybied fod ei holl fryd wedi ei lyncu gan ei alwedigaeth, fel, yn oi pob ymaaangosiaa, nad oedd a fynai A'r rhyw fenywaidd ac oherwydd hyny, nid oedd ond yn annhebyg y buasai byth yn priodi. Eto, yr oedd rhyw bethau hynod ynddo. Yr oedd yn fvnych iawn yn absenol, ac nid oedd yn foddlon i roddi un cyfrif am ei absenoldeb ond prioiolai fy nhaid hyny idd ei astud- iaeth galed a manwl o'i alwedigaeth; ac yr oedd fy holl awgrymiadau inau tuag at godi drwgdybiaeth ynddo am ei 1vyr yn ofer, fel, os llwyddwn yn hyny, y buasai y rhan fwyaf o'r cyfoeth yn dyfod i fy Haw, ac na fuasai Oscar ond yn gorfod byw wrth fy Haw i yn unig ac eto, yr oeddwn yn sicr fod gan Oscar ryw gyfrinach yn llechu yn ei galon na feiddiai ei datguddio. O'r diwedd, rhoddwyd terfyn ar fy holl bryder -bu fy nhaid farw, gan adael y cwbl ond ychydig filoedd i Oscar, a gosod swm pen- odol arno ef bob blwyddyn idd ei dalu i mi, yr iawn etifedd. Gwelwn ar unwaith nad oedd genyf yr un gobaith am ddyfod i feddiant o'r ystad, os da fyddai Oscar farw yn ddiblant; ac os buasai yn dygwydd fel hyny, y fi fuasai yn ei pherchenogi. Ar y pryd hwnw, meddianwyd fi gan ysbryd cythreulig, a phenderfyuais i fynu dial, a thori yr ewyllys annghyfiawn. 0 fy Nuw nid oes genyf nerth nac ewyllys i adrodd yr holl gynlluniau a'r dyfeisiau dieflig a ddefnyddiais yn fy nialedd gwallgofus yr amser hwnw. Digon yw dweyd i Oscar fyned ar goll yn mhen tair wythnos wedi hyny; ac er dyfal chwilio, nid oedd dim o'i hanes idd ei gael. Yn mhen tair wyth- nos, darganfyddwyd ei gorff marw yn yr afon, ar hyd lanau yr hon yr ydych mor hoff o rodio ag oeddych yn rhyfeddu paham nad ymunwn a chwi weithiau. Sarah, yr oedd yn cael ei gredu gan bawb yn gyffred- inol iddo syrthio a boddi ar brydnawn niwlog yn mis Tachwedd, pan yn cymeryd tro ar hyd ei glanau. Yr ydych, erbyn hyn, yn deal! Dirgryniad iasol o'r holl gyfansoddiad oedd yr holl atebiad. Yr oedd ei phen wedi ei gladdu yn nillad y gwely. Aeth Mr. Williams yn mlaen Yr wyf yn canfod eich bod yn deall, ac wrth hyny, wedi arbed i mi y poen o fyned i mewn i'r hanes yn fwy manwl. Ond y mae un peth yn aros eto heb ei ad- rodd, ac er mwyn hyny yr wyf yn dweyd yr hanes wrthych. Yr oedd un person wedi ymwisgo yn ei du yn anladd Oscar nad oeddwn yn dychymygu am dani. Y mae yr adgof am dani wedi fy bela ar hyd fy oes, hyd yn nghanol pob rhialtwch a llawenydd. Y persqn hwn oedd ei wraig, neu, o'r hyn lleiaf, yr hon a hawliai ei bod yn wraig iddo, yn nghyd a'i baban bychan." Crynai Sarah yn awr bob modfe ld ohoni, gan erfyn am ddatguddiad mwy arswyd- lawn fyth, a thorodd allan i lefain Na, na; ni ellwch fod yn euog o ladd-" "O'i lladd hwy yr ydycb yn ei feddwl Na, diolcb, ddim cynddrwg a hyny hefyd. Ond gwrandewch, Sarah, waeth yr wyf yn teimlo fy nerth yn pallu, ac nid yw y dirgelwch mwyaf pwysig eto wedi ei amlygu. Yr oedd y wraig ieuanc wedi cael ei phriodi ag Oscar mewn modd dir- gelaidd, ond nid oedd ganddi yr un tyst- ysgrif o'i phriodas yn ei meddiant; ac yr oeddwn i, erbyn hyn, wedi d'od yn ddigon o gythraul i allu ei throi hi a'i phlentyn allan o'r Gelli fel ffug-ymhonwyr twyll- odrus i'r ysted. Ac eto, os ydyw y plentyn hwnw yn fyw, efe yw iawn etifedd y Gelli, a'r cwbl oil ag sydd yn perthyn iddi, pa rai yr ydym ni wedi eu mwynhau mown modd annghyfiawn am gynifer o flynydd- oedd. Yn awr, a ellwch chwi amgyffred yr hyn ag wyf yoei ofyn oddiar eich llaw, fy merch anwyl ?" Gwneuthur iawn am y weithred," atebai Sarah mewn modd tawel, wedi ei tharo & syndod. Yr wyf yn foddlawn. Ond pa le y mae ef ? A pha fodd yr wyf i wneyd yr iawn ?" Ni wn i ddim pa le y mae ef, ond yn unig ei fod yn cael ei adnabod wrth enw gwahanol i'w dad, sef enw ei fam, ac wrth yr enw hwnw yr adnabyddid ef yn yr ysgolion. Sarah, aid oeddwn wedi an- nghofio gwneuthur cyfiawnder i ryw radd- au, waeth bob chwarter yn gyaon yr oedd ei fam yn derbyn swm o arian tuag at ei gynal yn yr ysgol oddiwrth rywua anad- nabyddus iddi, a mvfi, trwy fy nghyfreith- iwr, ydoedd y person hwnw. Cedwais fy ngolwg arni hi a'r bachgen hyd nes iddi hi farw oddeutu tair blynedd yn ol, a chollais bob gwybodaeth am dano ef wedi y pryd hwnw. Yn awr, ni wn i ddim pa le y mae ef, ond gellwch chwi-y chwi-ei gael allan, os ymosodwch ar y gwaith o ddifrif '0 ddifrif' meddai, mewn ton ger- yddol. "A. ellwch chwi fy amheu, fy nhad ?" Y mae'r aberth yn fawr i eneth mor ieuanc ac anwyl. A beth am Syr Tohn- P) "Ust! Gadewch bethau fel hyna, ar hyn o bryd. Dywedwch y cwbl i mi, ac yr wyf yn addaw ar y fy 11w y bydd i mi wneuthur y cwbl a geisiwch, er gwneyd iawn am y gorphenol." (Tvo larhm).

Eisteddfod Tonypandy, Ion.…

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Ffoedigaeth Honedig gydag…

Y Rhyfel Affghanaidd.

[No title]