Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y BARDD. : -I

News
Cite
Share

Y BARDD. LLITH XXVII. Llethir anian a'r llythyrenau, Maeddir medclylddrycliau. Ehen Fardel. f MAE y Groegwr i barhau yn esiampl o Eeddylgarwch i oesau'r byd. Rhaid i'r medd- wl fod yn holl-bwysig. Y mae ei hawliau i Irechu ar bob ymyriadau israddol ac an- aheilwng. Rhaid y w cydymffurfio a'i reddfau naturiol a phendant, ac y mae ei lafar i fod yn rhydd a dirwystr oddiwrth bob tram- gwyddiadau ieithyddol. 0 gymharu y meddylgarwch Cymreig a'r Groegaidd, yr ydym yn eu cael yn gwahan- iaethu yn hanfodol. Y mae y Groegwr yn angerddol feddyliol y Cymro yn angerddol lythyrengar. Meddwl yw prif hyfrydv c'i y naill; iaith y Hall. Holl olud meddwl a theimlad yw testyn y naill; trefn, taclus- rwydd, a dadymchwel llythyrenau, yw prif fyfyrdod ac ymarfer y llall. I'r naill nid yw iaith ond eyfrwng datganiad i'r llall gwrth- ddrych addoliad. A'r naill drwy iaith erys ac ymorphwys y llall ynddi. Ystyria Shak- speare gelfyddyd yn gyfystyr a natur, ac amlwg yw nad yw celfyddyd ond defnyddiad o ddoniau natur i'w pherffeithio a'i gogon- eddu. Y gwaharriaeth pwysig rhwng cel- fyddyd a gau-gelfyddyd yw fod y naill yn detbol y cyfryngau cymhwysaf i hyrwyddo dybeaion natur, gan lwyr ymgynghori a'i hangenion y llall yn eymeryd ati, yn hunan- fodd, hawliau i fympwyol weithredu i'w throion ei hun, ac yn amlwg yn nanedd pro- testiadau natur Dirgelwch llwyddiant cel- fyddyd yw ei bod yn cymeryd ei haddysg- iadau oddiwrth natur, ac nid gosod iddi ei 1 hun reolau seiliedig ar gyndynrwydd a beidd- garweh meddyliol, acyna ceisio yn anobeithiol i ryngu bodd natur. Y mae y naill yn ar- dderchogi y llall yn anffurfio. Y mae hyn yn wirionedd amlwg mewn arluniaeth. Cen- fydd yr arlunydd olygfa yn "llygad ei feddwl," neu gerbron ei lygad naturiol-pob llinell yn gadarn ac annhreisiadwy, pob ym- ddangosiad yn safadwy dim cyfnewid na gwyrdroi i fod ei ddyledswydd gynil yw codi yr holl ymddangosiadau yn eu cyfan- rwydd i'w liain; ac efelychu yn ymostyngar ac ufudd bob gwedd a nodwedd. Ond tybier fod rheolau gan yr arlunydd yn gosod llinellau dan lywodraeth neillduol, a thriniaeth y lli w- iau yn ol cyfartaledd a threfn fympwyol er engraifft, fod pob llinell ar ddarlun i groesi y Hall at right angles, fel y dywedir fod llin- ell, ar ol dechreu troi, fod yn rhaid iddi gadw ei thro am ryw hyd gosodedig fod y lliwiau i gadw trefn gosodedig fod yn rhaid i wyrdcl bob amser gael ei ddilyn ft choch; a dau gochni i ymddangoa heb wyrddni rhyng- ddynt yn drosedd anfaddeuol—pa fodd y gallasai un enaid o arlunydd Iwyddo yn ei gelfyddyd ? Tybier fod natur yn gofyn gwyrddni, a'r arluniaeth grybwylledig, oherwydd ei rheolau ystyfnig, yn cyndynu mai tro y coch ydyw—beth a ddywedai rheswm ? A ellid dyoddef y fath ddirdrais ar urddas natur ? Mewn gwirionedd, nis gallasai arluniaeth o'r fath mewn unrhyw fodd gynyrehu ond gwatwariadau. Felly, yr ydym yn cael yr arlunydd llwyddianus yn hollol ufudd ac ymostyngar i natur, ac yn ffyddlon efelychu natur. Pa hyd bynag fyddo llinell, pa dro bynag fyddo iddi, pa liw bynag fyddo ar beth, y mae efe yn troi lie byddo natur yn troi, yn sefyll lie byddo natur yn sefyll, a'r canlyniad naturiol yw y mae ei ymgais yn llwyddianus, ac y mae yr impression a wneir gan y darlun yn gyffelyb i'r hyn y mae yn ddarlun ohono. Y mae natur bob amser yn trosglwyddo ei dylanvvad i'r hyn sydd yn efelychiad ohoni, ac y mae yn amlwg nad yw unrhyw gymaint o lafur celfyddydol yn llwyddianus os na fydd gwarogaeth ufudd wedi ei dalu i natur, a'i lledneisrwydd eiddig- eddus hi wedi ei barchu. Art is the use of means to produce similar effects. Y mae rhyw dro o eiddo natur yn boddhau neu an- nghyfleu. Amcan celfyddyd yw defnyddio cyfryngau i gynyrchu yr un ymdeimladau, ac yr un mor effeithiol. Y mae natur yn cyf- iawnhau y cyfryngau os bydd yr effeithiau yn llwyddianus. Felly, rhaid i'r cyfrwng fod "most like truth," ys dywed Syr Phylip Sydney, er mwyn i'r effaith fod yn gyfatebol. Y tebygolrwydd hwn sydd yn eyfansoddi y gwreiddiolder hwnw sydd mor llawn o allu a dylanwad. Un o gampweithiau celfyddyd yw ymdebygoli mor drwyadl i natur, a sicrhau iddi ei hun holl effeithiau natur mor lwyr, drwy ei hefelychiad manwl a ffyddlon, nes gwneyd ei hun yn ogymaint a natur. Ond i'r dyben mawr hwn rhaid i gyfryngau cel- fyddyd fod yn ystwyth, parod, ac awyddus i wasanaethu natur yn ei holl droion amrywiol. Rhaid yw i geifyddyd eto fod yn syml a di- ymhoniaeth, a chyflawni ei dyledswydd mor ddiyrnddangos, fel y byddo hi ei hun allan o olwg. Y mae yn berffaith i'r graddau y byddo ei chynyrehion yn ymddangos yn wir- ioneddol yn hytrach na ffuantus. Dyna gerf- lun Pygmalion-rhaid oedd ei gyffwrdd a'r 11aw i'r dyben o gael allan pa un ai corff dynol oedd eu gerflun. -an sit Corpus, an illud ebur Ovid Mclh., Lib. cc., S. Goreu i gyd pe gallesid, trwy ddeheurwydd, achosi i gelfyddyd ymddifianu yn hollol. Y mae hynyma yn amI wg yn y ddrama. Pan fyddo y syniad neu yr ymwybyddiaeth mai chwareuaeth yw, trwy gyfagosrwydd yr efel- yehiad i wirionedd, wedi ei ddileu, y mae y boddhad yn gyflawn a'r hudoliaeth yn gadarn ond yn union y claw yr ymdeimlad diflas ac andwyol i'r meddwl mai chwareuaeth yw, ac i'r ystyriaethau mai lliain lliwiedig yw'r olygfa, ac mai peirianwaith ffugiol yw y llwyfan a'i holl ddodrefn (yr hyn y mae dernyn annaturiol, neu chwareuad anfedrus ac aunghaboledig, bob amser yn ei ddiffael achosi), cyll yr oil ei awdurdod. Y mae yr ymwybyddiaeth mai cynyrch celfyddyd yw J pn dyfod yn fwy amIwg, ond y mae yn colli si swyn a'i hudoliaeth i'r un .graddau. Felly, y mae celfyddyd yn llwyddianus i'r graddau ag y gallo hi ymgadw allan o olwg, ac y gallo hi berswadio yr edmygydd i gydnabod mai nid ei heiddo hi yw. Nid yw celfyddyd ond megys Agar yn planta i Sarai, sef natur. Rhaid iddi blanta i'w meistres ond os y dygwydd hi osod i fyny ei hawliau ei hun yn ngwyneb natur, a'i hystyried yn wael a di- gyfrif, amddifadir hi o'i pharch a'i hawdur- dod, a phrofir iddi yn fuan mai ar fodd natur y mae ei galwedigaeth yn orphwysedig. Gwir y gall celfyddyd fyw arni ei hunan wedi ymadael a gwasanaeth natur, ond gellir dweyd am da,ni, megys y dywedodd yr angel am gynyrch croth y lawforwyn ffroenuchel ac anufudd, Bydd yn wyllt, a bydd llaw pawb yn ei herbyn." Cyhuddir ni gan rai am gyf- arfod a'r geifyddyd annaturiol hon ar faes y GWLADGARWR, ac ymdrechu ei chynghori i "ddychwelyd at ei meistres, ac ymddaros- twng tan ei Haw hi." CATO.

Perxformiad o " Plant y Tlotdy,"…

Ymgom rhyngwyf a Modryb Catws…

[No title]

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,…

[No title]