Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Samuel Armagedon Jones.-Fechgyn di- seibiant, dyma'r eira gwyn wedi gwneyd ei ymddangosiad ar ein gwlad unwaith eto. Da iawn ei fod yn dyfod yn ei amser,—na fuasai yn oedi hyd ddiwedd Mawrth neu Ebrill, fel ag i droi ein gwanwyn yn auaf. Ond pa newyddion sydd ar hyd a lied y wlad y dyddiau hyn ? ^gupjjd,.—myn greadrau poreiwpemoa a hippopotamusod, mae newydd da disprad. ar y papyrau heddyw, fechgyn. Oes, yn enw danedd ffwlbartod ac adar, mae yn dda, fflam- goch gen i eich hysbysu fod* y meistri a'r gweithwyr yn Nghaerdydd, dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, wedi setlo a/u gilydd ar Sliding Scale; a mwy na hyny, mae y glo- wyr i gael codiad o 5 y cant yn y mis nesaf. Oni ddywedais wrthych fod pob peth yn cyd- argoeli y deuai cyffroad gwirioneddol o hyn i fis Mawrth, a dyma fy 11 ngeiriau wedi dod i ben, fel pe bawn yn broffwyd mewn gwirion- -edd. Ond heb achos treulio amser ar hyn, Mi wnaf ddim yn mhellach na chrybwyll y ffaith gysurlawn cauys, yn ddiau, chwi gewch bob rnanylion -gan fechgyn y GWLAD- GARWR yn y rhifyn nesaf, gyda golwg ar y Scale a'r codiad, ac felly, awn yn mlaen at bynciau ereill. Pwy sydd i aiarad ? Ap Corwynt.—Y mac genyf fi air bach ar fy meddwl o barthed i'r hyn a welais mewn newyddiadur Llundeinig yr wythnoa ddi- weddaf. Gwyddoch yn ddigon da fod y Yankees yn hynod hoff o frolio eu gwlad— gwiaa y rnydmd—gwiad heb clrethi-gwlad heb ddegwm, &c., &o. Nid wyf am warafun iddynt fwynhau eu gwlad a'u rhyddid ond yn sicr i chwi, mae rhyw bethau yn bodoli yn America, neu yn cael eu goddef yno, sydd yn warth oesol i'r Weriniaeth fawr gref a chynyddol. Os oes yno ryddid rhagorol mewn un ystyr, mae yno ryddid uffernol mewn ystyr avail, sef rhyddid i ladd ac an- rheithio eu gilydd gyda'r barbareiddiwch a'r creulonder mwyaf. Cofia llawer ohonoch i'r gonest Abraham Lincoln ryddhau y caethion negroaidd yn yr holl Dalaethau yn 1804 ond druain ohonynt, tlawd a helbulua fu byd llawer ohonynt oddiar hyny hyd heddyw. Ychydig heddwoh, ac ychydig neu ddim chwareuteg a gaiit i ddilyn eu gorchwylion, ac enill eu bara yn ddierlyd, fel y prawf y ddau hanesyn c«,nlynol :-Aeth celfyddyd- wr o negro i Kansas yn ddiweddar, He y gweithiodd yn ddiwyd, ac y cynilodd ddigon o avian i brynu darn o dir, ar ba un yr adeiJ- adodd gaban ac yna, dychwelodd i,w ardal frodorol, yn Nhalaeth Mississipi, i gyrchu ei wraig a'i deuIn. Ni wnaeth prin ond cyr- naedd ei gartref blaenorol, pan yr ymosodwyd arno gan mob o ddynion gwynion, y rhai a'i llusgasaut o'i dy, gan ei drin yn ofnadwy greulawn. Torwyd ymaith ei ddwy law wrth .yr arddwrn, ac yna, cymhellid ef, gyda rheg- feydd dychrynllyd, i fyned i Kansas yn awr i wneyd ei ffovtiwn !—Orybwyllir amgylchiad arall am lafurwr ieuanc o negro, yr hwn a ymfudasai yn agos i flwyddyn yn ol ac wedi gweithio yn galed yn Kansas am amryw fis- oedd, gosododd o'r neilldu rai cauoedd o ddoleri, a dygodd hwynt gydag ef i'w hen urdal mewn trefn i briodi ei ddyweddiedig, a myned a hi gydag ef i'w gartref newydd. Ar nos ei bnoaas, torwya i w ay, a uiorwyd ei ddwy fraich ymaith uwchlaw ei benelin, gan ei adael i waedu i farwolaeth yn mhresenol- deb ei wraig ieuanc, yr hon oedd ar dori ei chalon, fel y gellid dysgwyl. Dywedir nad yw Llywodraeth yr Unol Dalaethau, yr hyn a adlewyrcha arni warth tragywyddol, yn mabwysiadu unrhyw fesurau digonol i ddodi 1 lawr yr ysgelerderau hyn. Ond yn amser y Barnwyr (Pen. xx. a xxi.), darfu i Dduw orchymyn hyddin o 400,000 o wyr i fyned i Tyfel, er dial am un lofruddiaeth gyflelyb i'r rhai uchod a lladdwyd dim llai na 75,000 yn mhen ychydig, a hyny oil yn ebyrth am -fywyd un A dyma y fath ddiogelwch sydd i fywydau yn ngwlad fawr America, pan y mae yr Yankees yn bostio ac yn chwythu yn eu hudgyrn alawon clodforus i'w gwlad. Yn sigwyneb pethau fel hyn, nis gallaf ymatal rliag dweyd mewn perthynas i Frydain, fel y dywedwyd ar amgylchiad arall, With all thy faults, I love thee still." Yn wir, y mae hanesion fel yr uchod yn ddigon i fflamio gwaed dyn i'r boiling pitch, pan feddyliom am y fath hyllwaith ysgeler a dieflig. Pa le mae hedd-swyddwyr yr Unol Dcdaethau ? Pa le mae ei milwyr 1 Ai nid oes un cynyg i gael -ei wneyd i gael cyflawnwyr yr anfadwaith hwn i afael cosb ? Pa le mae Mr. Bennett, o'r New York Herald, yr hwn sydd wedi myned i'r fath draul i anfon Stanley at far- bariaid canolbarthol Affrica ] Beth pe gyrai ei law yn ddyfnach i'w logell i anfon haner dwsin neu ychwaneg o Stanleys at arch- lof- ruddion Mississipi^ Yn sicr, y mae darllen hanes y fath erchyllwaith yn ddigon i yru oer iasau trwy holl waed-lestri y corff dynol. Pa le mae y Drych a'r Wasg, papyrau Oymreig America, na fyddent hwy yn dyrchafu eu lief yn erbyn y fath ellyllwaith ofnadwy ? Hyd nes y gwelaf fi fwy o nawdd ac amddifFyn ar fywydau deitiaid gweriniaeth fawr America, rhaid i mi eto roi fy mhleidlais dros frenin- iaeth Prydain Fawr, gyda'i holl golliadau a'i threuliau enrawr. T r-wi P L nn -t i tionn rucoru —waaocu Cill beth! ma hanasion wel na'n ddychrynllyd; a phan wela i lanci eto yn spouto am 'i wlad a'i ryddid, fi ro i welten xddo fo—nid o'm nwrn, ond a geiriau lladctiadol. Fi^ giwes i lawer Ianci yn Iffrostio 'n llydan budir am y 'Merica; ond os dyna wel y ma It; yno, fi ga'n gadw'u 'Meriea gyda fi,—ond pwy hanas sy' odd'no am fasnach yno 'nawr? Ap Cadfwch.—Gwelaist ti y llythyr yn y GVVLADGAKWR diweddaf yn dweyd fod mas- nach wedi ysgogi tuag i fyny yno 1 Yn Hyde Park y mae yr ysgrifenydd yn by w, ond dy- "wedai efe nad oedd y pyllau yn gweithio yu gyson ac yn mhellach, fod yn rhaid i'r glo- wyr a ant yno o'r wlad hon i weithio yno am hir dymor fel labrwyr. Pa beth yw yr achos o hyny, nis gwn ond gwyddorn nad yw y gweithwyr presenol sydd yno yn caru gweled rhyw lawer yn myned yno o'r wlad hon, ac y mae yn eglur fod ton Ilythyr "J oab" i'r cyfeiriad hwnw, canys y mae tuedd mewn gorlawnder o ddwylaw i ddarostwng y farch- nad lafur. Fi glywes genyt ti, Ap Corwynt, am ryw amgylchiad rhyfedd a gymerodd le yn Kansas yn ddiweddar. Adrodd hi i'r Oolegwyr. Ap Corwynt.—Wel, gwr a gwraig, a dau neu dri o blant, o ardal Llangadog, ddarfu ymfudo i Kanas, ac wedi cyrhaedd rhyw dref yn y dalaeth hono, nad wyf yn cofio ei henw, aethant i letya mewn hotel yno. Yr oedd gan y par yma gryn dipyn o arian, gan olygu prynu darn o dir i'w ffarmio yn y dalaeth bell hono. Aeth y brawd o Langadog allan gyda gwr y ty i weled y dref, a dychwelasant, gan gysgu yno y noson hono. Dranoeth, aeth i lawr i'r station i edrych am ei luggage, gan adael ei wraig a'i blant yn yr hotel, mewn ystafell ar y Ilofft. Aeth y landlord gydag ef. Syn yw adrodd na ddychwelodd y poor fellow mwy Yn yr ystafell y bu y wraig hyd dranoeth, os wyf yn cofio yn dda, ac nid oedd ond ceiniog yn ei iiogell. Erbyn treio drws yr ystafell, cafodd fod hwnw wedi ei sicrhau. Yna, aeth i'r ffenestr, a chododd hono, gan waeddu ar rywrai o'r heol yn Gymraeg (canys ni fedrai air o Saesonaeg). Yn ffodus, dy- gwyddodd fod Oymro yn pasio ar yr heol, yr hwn a glywodd eu liefau, ac aeth i fewn i'r ty i yrnofyn pwy oedd yn galw arno. Aed i 11 fyny y grisiau, a dyna lie cafwyd y druanes wedi ei bwylltio yn yr ystafell, ac mewn pryder dirfawr am dynged ei phriod. Di- wedd y stori yw na ddaeth y Cymro i glawr, a'r casgliad naturiol ydyw fod rhai o sharpers America wedi crafangu ei arian, a'i hyrddio yntau i dragywyddoldeb, gan ddirgelu ei gorff yn rhywle. Darfu i'r Cymro twymgalon, yr hwn a atebodd lefau y wraig o'r heol, ac a aeth ati i'r hotel, fyned i fysg ei gyfeillion, a chasglwyd iddi yn ei hadfyd y swm o haner can' doler (tua £ 10 o'n harian ni); ac y mae LIywydd y Dalaeth wedi cynyg rhyw 500 o ddoleri am gael hyd i'r dyhiryn neu y dyhir- od a ysbeiliasant, ac wrth bob tebyg, a ladd- asant y Cymro o Langadog. Ond chwi ellwch benderfynu na ddeuir byth o hyd iddynt, gan mor llac yw cyfraith America, ac mor ddiegni yw ei swyddogion. Dyna'r peryglon ag y mae ymfudwyr yn agored iddynt. PERSONOL. Ond nid mor bersonol a "Nos Dawch." Gwelwyd gan rai o wýr y Coleg, yr wythnos ddiweddaf, y bechgyn byd-adnabyddus, Bryn- fab a Cilgwynog, yr olaf o ba rai sydd wedi bod yn nadu mor llwyddianus tua'r Nadolig hyna; agwelwydhefyd yr henbatriarch-athraw barddol, Nathan Dyfed, yr hwn, fel y clyw- som, sydd wedi ei ddewia yn feirniad yn Eis- teddfod fawreddog Mountain Ash y Sulgwyn dyfodol. Yr oedd y tri mewn gwedd iachus a chalonog.

ETKOLIAD AGOSHAOL Y BYRDDA…

BRYTHONFRYN A GURNOS.

ICOR ERYEI A'R EISTEDDFOD…

ADDEWID CERDDORION LLANELLI…

Nodion Personol.