Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

EISTEDDFOD GADEIRIOL FFESTINIOG.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GADEIRIOL FFESTINIOG. Saif Ffestiniog yn mynwes Meirionydd, ar dueddau gwlad Arfon. Mae Dyffryn Festin- iog yn un o'r tlysaf yn Nghyn-irti-yinddengys fel darn o baradwys yn nghanol yr haf. Mae yn y gymydogaeth chwarelau llechi (slate quarries) mawrion yn perthyn i Arglwydd Palmerston, Samuel Holland, Ysw., _S.¡ yn nghyd a boneddigion ereill, ac y mae yn perthyn i'r lIe cyflym-gynyddol filoedd o weithwyr goleuedig a daionus eu moesau. Ddydd Nadolig, cynaliwyd yr wyl hir-ddys- gwyliedig yn y lie, yr hwn oedd yn llawn o ferw a hwyl gerddgar a llenorol. Beirniad y farddoniaeth a'r traethodau oedd athrylith- fawr fardd y pum' cadair—y Parch. R. Wil- liams (Hwfa Môn), Llundain. Y gerddoriaeth a bwysid yn y clorianau gan Mr. D. Emlyn Evans, 12, Holywell Terrace, Shrewsbury. Beirniedid yr "amrywiaeth" gan y Parchn. T. R. Davies (Crugwyson), Rhiwbryfdir P. Howell, Fourcrosses; LI. B. Roberts, Tany- grisiau a'r Parch. J. B. Parry, Bethania, Ffestiniog. Arweinyddion — Mr. Roberts (LIew Glas), contractor, Criccieth, a Gutyn Ebrill. Enillwyd ar y prif ddarnau cerddorol gan Gor Tanygrisiau. Cipiwyd y wobr am ganu yr unawd (bass), "Gwlad yr hen geninen "werdd" (D. Emlyn Evans), gan Mr. Hugh Evans, 12, Station Road, LI an, Ffestiniog, nai i Mr. Owen Davies, Leigh House, Caer- dydd, yr hwn a fedda ar dalent uchel fel cerddor, ac a fawr berchir fel masnachydd gonest a llwyddianus. TESTYN Y GADAIR ydoedd Awdl-Bryddest er Coffadwriaeth am y diweddar Barch. D. Griffith, Bethel, Sir Gaernarfon," gwobr 5p. 5s., a chadair dderw ) E5 gerfiedig, o gelfyddydwaith ysblenydd, a'r hon a gabolwyd gan Mr. E. Roberts, Tany- grisiau, a chafodd y gwr gannioliaeth fawr am wneyd dodrefnyn mor hardd. Gahvodd yr ar- weinydd ffraethbert, Gutyn Ebrill, ar yr arch. gadeirfardd Hwfa Mon i ddarllen ei feirniad- aeth ar yr awdl-bryddestau. Dywedai Hwfa, mewn llais clir, udgornaidd, fod saith wedi dyfod i law, a chanmolid tair ohonynt yn fawr iawn, ond yr oedd yno ryw ond hyd nes y daeth at eiddo yr awdwr a ymgyfenwai ei hun yn Llifon,"—yr oedd ei gyfansoddiad ef yn Ilawn o athrylith ac awen. yn gywir ddarlun a phortread byw o ddiweddar gerub tanllyd Bethel. Pan alwyd ar Llifon," sef y Parch. D. C. Harris (Caeronwy), yn mlaen, dyna Gor Tanygrisiau yn canu See, the conquering hero comes," nes ysgwyd y lie, a'r adsain i'w glywed yn nghreigiau daneddog Ffestin. Can- ent yn dda ac effeithiol mewn gwirionedd. Rhoddodd y gynulleidfa enfawr Hwre" daranllyd i Caeronwy felllongyfarchiad, nes oedd y lie yn crynu. Arwisgwyd "Llifon" a phleth goronedig, fodrwyog, dlos iawn, wedi ei gwneyd o sidan glas a phorphor (yn rhagori o ddigon, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag eiddo Tracy Turnerelli i Iarll Beacons- field); gan Miss Williams, Tanygrisiau (di- weddar o Colwyn, Arfon). Yr oedd y fodrwy hon yn rhagori ar ddim a welsom er arwisgo unrhyw fardd erioed. Dywedai Gutyn Ebrill nad oedd rhaid i neb o'r ymgeiswyr galluog gywilyddio oherwydd colli ar dustyn y gadair-mai hen gawr ar y maes er's blyn- yddoedd, er dyddiau ei fachgendod, ydoedd Caeronwy, ac wedi enill tlysau aur ac arian lawer yn yr Eisteddfodau mawrion Cenedl- aethol er 1865, ac yn agos iawn enill y Gadair Genedlaethol a'r Gadair Daleithiol droion bellach, a'i fod yn ail ar yr Awdl- Bryddest i'r anfarwol gadeirfardd a gweinidog, y Parch. W. Ambrose (Emrys), o Borthinadog, gwobr 20p. a thlws aur, pan yr ymgeisiai rhai o brif feirdd Cymru. Deallwn fod Caeronwy wedi bod yn wael iawn ei iechyd yn ystod y tri mis olaf o'r flwyddyn 1879, ac yn aros yn y Mum- bles, ger Abertawe-" Mentonè Cymru"—o dan ofal meddyg da, a ymddygai tuag ato fel tuag at frawd, a'i fod erbyn hyn yn adnew- yddu ei nerth fel yr eryr. Drwg genym fod iddo frawd serchog-yr ieuengaf—yn gorwedd yn wael iawn yn ei wely yn y Felinwen, ger Taliaris, Llandeilo Fawr,—cartref ei rieni; a chollodd chwaer anwyl, a gyfrifai fel 11 can- wyll ei lygad "-y fwynaidd Jane-yn 16eg mlwydd oed, yn Ebrill, 1876, ychydig wyth- nosau cyn ei urddiad yn Colwyn, Arfon, a'r hyn a effeithiodd yn ddwfn ar ei deimlad. Nid yw Caeronwy eto ond ieuanc, a phro- ffwydwn fod yn aros o'i flaen oes heulog, a llawer cadair eto yn ngwahanol barthau Cymru. Anogai Hwfa Mon y pwyllgor i gy- lioeddi yr Awdl-Bryddest fuddugol, a rhai o'r prif draethodau, ar bob cyfrif. Yr oedd y diweddar Barch. D. Griffith, Bethel, yn dad i'r pen-traethodwr Cymreig, y Parch. D. Grif- fith, Dolgellau, a'r Parch. R. W. Griffith, Bethel. Geuedigol o Sir Gaerfyrddin ydoedd, ac un o gewri y pwlpud Cymreig yn Ngwyn- edd. Cawsom fantais i weled cyfansoddiad buddugol Caeronwy am ychydig amser, a dy- fynwn ychydig linellau ohoni. Hwyrach yr hoffai rhai o'i gydnabyddion a'i gyfeillion yn y Deheubarth eu gweled. Egyr yr awdl gyda- Gruffydd, Bethel! Angel oedd—yn ei swydd, 0 dan sel y nefoedd Ei felus glod gan filoedd-ddyrchefir, A'i rin arbedir pan renir bydoedd. # # Aeth yn fud a machludodd—ei huan, Awyr Nef anadlodd I fyd fydd byth wrth ei fodd- Ar wib—cerub a'i cariodd. « # Ei arwain a ga'dd drwy orwel-angau, Ninau'n yngan "Efarwel 0 Wynedd y gwr yn ddi gel A ddringodd i ardd yr angel. Ni ddaw lienaint i'r ardd hono, —na blin Oer bla fyth i'w flino A dydd trag'wyddol sy'n dd— uwcli y fan, Awdwr anian rvdd ei belvdr yno. Sonia'r bardd am ei enedigaeth yn Ngwlad Myrddin,— Rhydd Gwyllt Walia, gyda gwen, Air o fawl i'r Rhiwfelen. ■};• eJ: Y tad oedd un o blant lor, Ac angel am roi cynghor. Yno'r fam dyner a fu—yn siriol Seren hawdd i'w charu Mor o gan wnai Mary gu,—noSo'n lion, A daeth awelon bro Duw i'w theulu. 'A- v'J O'r Rhiwfelen ar ol ei hir foli Cawn y cadarn deulu cu'n codi I Tan-y-lan—yn nglioi tewion lwyni: Ei hudol lanerch a gaed i'w loni; Yn dawel mudodd Dewi- i'r ardd hon, Yn bur ei galon o Abergwiii., Cyfeirir at ei urddiad Yn ddifetli Esgob Bethel "-a godir, Y dyn a urddir-mae Duw'n arddel. n- a- Yr eglwys facli aroglai--dan ei law, Dwyn y wlad a wnelai A'i ddawn, o'i fodd, i wyn Fai Y gu oror a garai. Troi i'r ddawn wnai'r tri-ar-ddeg Aelodau,—nefol adeg !— Dros air Ion, a drws yr arch A gafodd ei ami gyfarch Troi agoriad trugaredd Wnaed yn y clo,—nid dwyn eledd Yn erbyn Duw,—ar ben y daith, Ha nid adnebid anobaith. Erbyn heddyw, mae yno ganoedd o aelodau, ac hefyd yn Moriah a Siloh, Porth-Dinorwig, ceir blodau crefydd yn gwenu yn yr ardd nefol ;-ac u'r bardd rhag ei flaen :— Gweitliio a wnai'r pregethwr,—ni fynai Fwyniant y segurwr; Dringai'n ddyfal i dal dwr Angelaidd Efengylwr. Lloer emog allor Hymen—a'i cododd Yn wr cadarn, llawen Iddo'n gydmar war dan wen, lor a alwodd ar Elen. Elen oedd ei anwylyd A wiwian berl yn y byd Elen wen, Ion, o Wynedd, Iddo ro'i barch hyd ddor bedd ;— Ac ar aelwyd ceir Elen, Ei addien haul, hoddyw'n hen. a- Tyfa wnaeth ei etifedd— yn gawraidd Gerub llawn rinwedd Gweinidog o iawn nodwedd Yw, a gloew haul gwyliau hedd. Un o brif gewri yr Annibynwyr, yn hen dref anwyl Dolgellau, yw efe a da genym weled gwyneb glan y GWLADGARWR yno yn siop Mr. Owen Rees, yn cynwys cynyrchion ymenydd- iau Brythonfryn, Isaac Thomas, y "coffinwr" gwladgarol "0 war Llandeilo "-dyn bob modfedd ohono,-yr enwog gadeirfardd Dewi Wyn o Essyllt, ac ereill. Ei arabaidd fab Robert— Y dyn pur, a'r doniau pert — A wnaed yn sant o dan sel, A byw weithiivr yn Bethel; .Ac urddwyd y pencerddor Yma yn was mwyn i'w lor. Gemau gras llawn o draserch I Dduw a fu ei ddwy fercli I'r nef fan ai'r ddwy anwyl, Uwch byd drwg i gadw gwyl; Hiraeth o'u hol wnai aros Yn don erch dan aden nos. Gruffydd anwyl argraffodd ei enw Ar aur ddalen, a cheir ei wir ddelw A'i waith i aros pob rhuthr a thwrw Diwedd ei hanes fydd y Dydd Hwnw;" Ei alar droai'n elw ;-idd ei ran Deuai haf eirian wedi ei farw. Ond, rhaid rhoddi heibio dyfynu diau y ceir ei gweled oil yn argraffedig cyn hir. Bl wyddyn newydd dda i olygydd, staff, a holl ddarllenwyr y GWLADGARWR, ac i'r gol- ygydd barddonol, Dewi Wyn o Essyllt, a'i briod, "y mab givyn," a'r "ferch wen." OWAlN GLYNDWR. Ar Odrau Cadair Idris.

MYNWENT Y CRYNWYR.

SCETTY.

AT Y BEIEPP.

ENGLYN

ENGLYNION COFFA

Y GOEDWIG

"NADOLIG,"

ANERCHIAD PRIODASOL

[No title]

Advertising

POB BLYOnAID CrW £ ET!

[No title]

[No title]

[No title]

Advertising

To America.

[No title]

Advertising

LLANDEBIE.