Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. Dylid an/on co,),*Ca z,, liysbysiaclau a fyddant am gael eu neivid i ni erbyn dydd Sadwrn o bellaf, yn gymaint a'n bod yn gorfod myned i'r tvasg lawer yn ngynt nag oeddem. Yr wythnos how, y mae ar y bwrdd ddigon o Hanesion Dosba.itha.wl i lanw ein papyr ddwywaith drosodd o'i ddechreu i'w ddiwedd, pe gallem fforddio y gofod hyny ac oblegyd eu lluosogrwydd annghyffredin, a'u meithder afresymol a digyffelyb, gwelir fod y cynifer ag sydd o dan y penawd "Hanesion Diweddaraf" yn ein rhifyn presenol wedi eu cwtogi yn dda, ac amryw yn gorfod bod allan yn gyfangwbl. Er sicrhau cyhoeddusrwydd i hanesion o'r natur hyn yn ein papyr, bydded yn hysbys i'n lluosog a charedig ohebwyr y bydd yn rhaid iddynt eu hysgrifenu mor gymedrol fyr ag sydd bosibl. YJST MYSG amryw lithiau ereill a gant ym- ddangos yn ein rhifyn nesaf, y mae" Taith o Lundain i Ffrainc," gan Llwydwedd.
YR HEN "FLWYDDYN A'R NEWYDD.
YR HEN "FLWYDDYN A'R NEWYDD. Y MAE hanes y flwyddyn a aeth heibio yn frith o'r tyngedfenau mwyaf cyn- hyrfus o'r dygwyddiadau mwyaf tor- calonus, a'r gwasgfeuon mwyaf adfydus. Byddai yn ormod gorchwyl i ni fyned drostynt oil yn y fan hon gan hyny, ni wnawn ond cyfeiriad byr at y trychineb olaf, yr hwn, o ran sydynrwydd ei ddy- gwyddiad, echryslonrwydd ei ffurf, a llwyredd ei ddinystr, sydd yn mron yn ddigyffelyb yn hanes damweiniau e'n gwlad. Yr ydym yn eyfeirio at y ddam- wain ofnadwy a gymerodd le ar bont rheilffordd y Tay yn Ysgotland y Sul diweddaf, drwy yr hon yr hyrddiwyd oddeutu cant o fodau dynol i'r dinystr mwyaf llwyr-ddifrodol mewn eiliad. Y mae yn anhawdd meddwl am ddull di- rybudd, ac agwedd dychrynllyd y dy- gwyddiad heb deimlo iasau oerion yn rhedeg trwy ein gwaed. Y mae y syniad a'r delweddiad o'r ddamwain yn ein meddwl yn rhwygo ein teimlad, ac yn dymchwelyd ein natur drwyddi. Meddyl- ier fynud am dren yn myned i'w ymdaith, teithwyr pa un, fe ddichon, oeddynt eithaf difeddwl a diddysgwyliad am ddim ag oedd annymunol i ddyfod i'w cyfarfod, yn cael eu gollwng mewn winciad llygaid o'r uchder o 135 troedfedd i lifeiriant xhuthrol o ddwfr o ddeunaw neu ugain llath o ddyfnder, ac yno mewn syndod, braw, a dychryn, heb wybod yn y byd beth oedd wedi dygwydd, na pha le yr oeddynt, na pha fodd oedd cynyg ym- ryddhau oddiyno ond yn gorfod boddi gan ddwfr, a mogi gan ddiifyg awyr, Slant a rhieni, cyfeillion a pherthynasau, yn ngwyddfod eu gilydd, yn swn tor- calonus eu gilydd, g<l yn ngol a'u gilydd -ereill yn ceisio yn ofer ddianc, a phawb ar wallgofi gan alar, anobaith, a dychryn, a myrdd o associations mwyaf anwyl bywyd yn ymgrynhoi ar y pryd i'w meddyliau prudd a galarus, yn nghyd a'r syniad ^iruthrol eu bod wedi darfod a'r ewbl am byth 0 pwy a all fesur galar, ing, ac artaith y trueiniad yn y fath sefyllfa o gyfyngder, caledi, ac anobaith ? Y mae yn dyfod i'n meddwl yn awr, wrtli fyfyr- io ar y trychineb alaethus hwn, syniadau neu deimladau y rhai hyny na fynant addef mai "Oyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a santaidd yn ei holl weith- redoedd." Synant yn fawr, gan fod Duw yn Dduw'r cariad-ei fod yn caniatau neu yn goddef adfydau a thrychinebau i ddyfod am draws plant dynion—na bydd- ai yn eu gwrandaw mewn peryglon a chyfyngderau, a threfnu iddynt ymwared; canys, meddent, gwnelai dyn hyny a chyd-ddyn, pe byddai yn ei allu; ac meddynt yn mhellach, pa fodd y gall Duw ddysgwyl wrth ddyn i ymarfer eymwynasgarwch, cydymdeimlad, a thos- turi tuag at ei gyd-ddynion mewn angen- ion a chyfyngderau, tra yr ymddengys nad yw efe ei hun yn ymarfer y cyfryw. mewn amgylchiadau o fath trychineb rheilffordd y Tay, ac ereill cyffelyb ? Wei, y mae rhywbeth yn hyn ar yr olwg gyntaf, ac yn neillduol feily i'r sylwed- ydd arwynebol ag sydd i raddau yn ddyryslyd ond yn arwynebolrwydd ath- roniaeth dduwinyddol yr efrydyddamheu- gar y mae y gwall yn aros, ac nid yn y trefniant Dwyfol. Y mae Duw wedi gosod natur o dan lywodraeth nifer o ddeddfau neillduol, oddiwrth ba rai nis geill hi wyro trweh blewyn byth, ac nis geill Duw (gyda pharch y dymunwn ddweyd) wyro oddiwrthynt heb fyned yn groes i'w briodoliaethau hanfodol ei hun; canys mewn gair, nid yw deddfau natur yn ddim ond priodoliaethau Duw yn gweithredu mewn modd cyson a digyf- newid. Yn awr, gwrthdarawiad dyn yn erbyn, neu ei droseddiad o'r naill neu y llall o'r deddfau hyn yw yr achos o'n holl ddrygau anianyddol, ac feallai moes- ol hefyd a phe byddai i ni ond gallu deall y deddfau hyn yn drwyadl, a gweithredu mewn ufudd-dod iddynt, byddai i ni osgoi yn mron yr holl dry- chinebau ag sydd yn cyfarfod a'r teulu dynol yn y byd hwn. Y mae deddfau natur yn rhai hollol anmhleidiol hefyd— yr un fath yr ymddygant hwy tuag at yr hen wr fel y baban, y cyfoethog fel y tlawd, a'r duwiol fel yr annuwiol, pan ddygwyddo i'r naill fel y llall o'r pleidiau hyn i fyned ar draws eu hawliau. Nid fel hyna y mae llawer o'r deddfau a wneir gan ddynion, neu yn fwy priodol feallai, nid fel hyna y gweinyddir hwy. Y mae y rhai hyn yn esgusodi, condemn- io-llliniaru, gerwino, ysgafnhau, neu drymhau, yn fynych, fel ag y byddo am- gylchiadau yn presenoli eu hunain o flaen llygad, syniad, neu deimlad y gweinydd- wyr. Y mae deddfau natur hefyd yn ddigyfnewid; ac er cymaint, ac er echrys- loned yw llawer o'r damweiniau sydd yn cwrdd a'r iroseddwyr ohonynt, y mae yn fil gwell eu bod felly, na phe buasent fel arall, yn ansefydlog a chyfnewidiol. Oni b'ai fod natur yr un ddoe, heddyw, ac yfory, pa rhyw ddrych a fuasai arnom ? Pa les fuasai gweithredu fel hyn heddyw, a'r ewbl yn cael eu dymchwelyd yfory ? Pa ddyben fuasai bwriadu a chynllunio yn mlaenllaw, gan nas gallesid gwybod pa ryw ffurf ac agwedd a fuasai ar beth- au yn y dyfodol agosaf atom ? Beth pe byddai i ddeddfau atdyniadol, canol- ffoawl, dysgyrchol, cydlyniadol, &c., natur annghofio eu dyledswyddau rhyw nnwaith; faint fyddai yr annghyfleusder, yr annhrefn, a'r difrod ? Beth pe byddai i'r mor, y graig, y pren, y llysieuyn, &c., annghofio eu cydlyniad ? Beth pe byddai i'r haul, y ddaear, y lloer, &c., annghofio eu hatdyniad? Beth pe annghofiai y tan losgi, a'r dwfr wlychu, a phob peth symudol annghofio ei ddysgyrchiad ? A beth pe byddai i'r haul annghofio ei allu gwrthyrol ? Pa beth a ddelai o greadig- aeth a fyddai wedi cael ei gollwng i ys- gogiadau dygwyddiadol, ac i ryddicl di- reol yr hit or miss fel hyn ? 0 na, mae deddfau amser a thragwyddoldeb mor ddigyfnewicl a Duw ei hun ac onid yw yn gysur mawr i ni eu bod felly ? Un- ffurfiaeth phenomena natur, ac annghyf- newiclioldeb ei deddfau, ydynt rai o gymhellyddion cryfaf ein ffydd, ein go- baith, ein hyder, a'n hymddiriedaeth, yn nglyn a'n galwedigaethan beunyddiol. Beth pe buasai natur yn amddifad o'r sefydlogrwydd deddfol hwn, pa faint fuasai ein siom, ein pryder, ein dyryswch, a'n hannghysur ? Ni chymerai damwain na dygwyddiad annymunol Ie fyth oni bai rhyw "pe neu gilydd; ac nid yw y "pe" hwnw yn un o briodoleddau deddf, ond y maa yn un o'i thelerau, ac os na chydymffurfiwn a'r telerau hyny, ni waeth pa un ai drwy anwybodaeth, esgeulusdod, neu wirfoddolrwydd y cymer ein methiant Ie, fe wna deddf actio yn yr un modd yn ngwyneb y cwbl—yn anmhleidiol, yn un- ffurf, yn gyson, ac yn annghyfnewidiol. Beth yw dylanwad gweddi yn ei chy- sylltiad a deddf, sydd bwne nas gellir myned ar ei ol yn bresenol; nis gellir ychwaith fyned ar ol achosion moesol y drygau sydd i'w eyfarfod yn y bywyd yma canys y mae in holl brofedigaeth- au, croesau, gorthrymderau, a dyoddef- iadau eu hachosion moesol; ond gadewir y rhai hyny yn bresenol i ofal ac ymchwil y duwinydd; ac wrth ddiweddu, gobeith- iwn a dymunwn ar fod terfyniad y flwyddyn sydd newydd derfynu, yn der- fyniad hefyd i holl ymrysonau gwaedlyd a chreulawn Prydain Fawr, ac y bydd adfent y flwyddyn newydd yii adfent i heddwch, llwyddiant, a dedwyddwch i'w deiliaid yn gyffredinol. tn
Nodion Personol.
Nodion Personol. DYMA ni, fel daearolion, wedi llamu dros derfynau yr hen flwyddyD, a glanio, lawer ohonom, yn y newydd, tra mae llawer o hen gyfeillion mynwesol a pherthynasau anwyl wedi gadael y Hawr, a chyrhaedd i draeth- ellau y terfyngylch mawr, lie nad oes dim ond trag'wyddoldeb yn ymledu o flaen y llygaid ysbrydol. Blwyddyn arw fu y di- weddaf i lawer, ond y mae genym obeithion gwell am y presenol, ac hyderwn y sylwedd- olir ein gobeithion gan beroriaeth miwsig amser gwell. Un mil wyth cant saith deg a naw Ymunodd â'i chwiorydd ca, A llanwyd llawer bron & braw Dan leni trwch y cwmwl du Daw haf ar ol y corwynt certh, Ac amser gwell mewn cyflawn nerth. Y Nadolig wedi myned heibio, ac odid nad oes amI un wedi cael siomedigaeth mewn ymgyrchoedd llenyddol, tra y mae ereill yn cael y mwynhad, o wisgo llawryfau ac arian dlysau buddugoliaeth. Dyna y cyfaill Emlyn Fardd wedi medru trin y ddaear yn well nag un o'i gydymgeiswyr yn Nhreher!sert. Honddu, yntau wedi cael ychydig o floneg mewn ychwaneg nag un Eisteddfod. Hawddamor, frawd, o frid hen, A llewyrch Nadolig llawen. Paid a meddwl am fynud dy fod yn cael dy gyfarch gan fardd, am nad yw yr ysgrifenydd yn perthyn o gwbl i'r frawdoliaeth, nac ychwaith yn gwybod dim am urdduniant barddoniaeth. Gweled fod y dyn hyna o Goleg y Corwynt wedi bod yn cystadlu a cholli hefyd yn un o'r cyfarfodydd llenyddol lleol. Graddeb lithr- edig iawn ydyw colli ar dipyn o gan ddigrif wedi newydd eaiil gogoniant Eryraidd rhwng Mynyddoedd Eryri. Braidd na chredwn fod teilyngdod y cyfansoddiad gwobrwyedig yn amheus, a galluoedd beirniadol y mantolwyr yn ddiffygiol. Paid a chodi dy wrychyn, frawd, os byddis yn sangu ar fan tyner. Rhaid dyoddef llawer cyn y cyrhaeddot uwchafiaeth yn nheml gogoniant. Llawer trychineb alaethus drwy gorff yr hen flwyddyn wedi gwaedu llawer calon, a thaenu mantell bruddaidd dros lawer aelwyd ddedwydd. Gobeithion llewyrchus llawer teulu dedwydd a thangnefeddus wedi eu cy- mylu yn nyffryn adfyd. Y bachgen dewr wedi ei golli ar y mor, a chydymaith iddo wedi syrthio yn y rhengau milwrol, tra mae y trydydd wedi dianc o fyd o amser i'r tra- g'wyddol fyd yn nghrombil y ddaear ddu, o dan wadnau y mynydd draw. Mae flyrdd y dinystrydd yn y mor fel yn yr wybrenau, ac ar wyneb y tir yn gystal a than wadnau y mynydd. Cyfrolau o ddirgelwcli creadigol, Eu deall i ni nid ydyw yn hanfodol; Mae cysur dyn dan leui anwybodaeth Fel dirgel droion dyrys creadigaeth Rhyw chwilio byddwn am y cudd ddirgelion, Ac yn y diwedd ddim ond gwag ynfydion. Mae y gohebydd Glan Teifi yn dywedyd llawer mewn ychydig Ie, a dylai fyned rhag- ddo, gan roddi i ni ragor o bethau da fel yr hyn a geir yn ei lith cyntaf. Ceir lltiaws yn siarad ac yn ysgrifenu llawer, ond ychydig maent yn ddweyd yn y diwedd. Cawn brof- ion yn ein cyfarfodydd mawrion o'r gwairder hwn, fel y sylweddolir yr hen ddywediad, "Mwyaf y twrw llestri gweigion." Braidd na thybiwn fod y dyn o Aberdar yn digaloni, gan dynu yn ol o'r ornest a ddechreuodd rhyngddo a 'surnos. Gall ei fod yn gwneyd tro call yn hyn o beth, oblegyd un garw ydyw llew wedi ei gynhyrfu i ryfel. Pawb ei botes ei hun, meddaf, wrth fyned trwy y byd yma, a chyda llaw ni ddylem fod yn falch iawn nad yw llawer o ddynsodion dinod gwlad y ddaear yn eistedd ar seddau ymerawdwyr y byd. Mae rhai yn treulio bywyd i bigo crach, a diwedd y cyfryw ydyw myned yn grach eu hunain. Myn rhai fwyta anwiredd fel bara, ac yfed drygioni fel gwin. "Ond aros," medd y darllenydd, "mae efe yn gapelwr." Gwaeth fyth ei fod yn gwisgo mantell crefydd er cyrhaedd amcanion bydol. Priodol dweyd fel y dywedodd George Washington ar bwnc tebyg, Gwared ti, Dad y trugar- eddau, rhag y fath gyfeillion, oblegyd os ydynt yn ceisio twyllo Duw, beth na wnant i ddyn 1" Maent, fel y mor-ladron, yn chwilio pob cilfadi a glan am ysglyfaeth, ac nid oes dim yn rhy lwynogaidd iddynt ei gyflawni i foddloni trachwant a rhaib y creadur, yr hwn sydd yn bla mewn cymdeithas, ac yn felldith ar y teulu dynol. "Ceisiai fwy pe cawsai fyd. Gan gofio, mae pwyllgor Eisteddfod Gadeir- iol y De yn cynyg gwobr am rywbeth i Dduc Wellington. Gwarchod pawb, fod Cymry call a thangnefeddus am wobrwyo coffadwr- iaeth dyn nad oes iddo un cysylltiad o gwbl a'r Cymry. Ynfydrwydd eithafol, dallbleid- iol, mympwyol, a herfeiddiol. Diddymer y fath destyn oddiar rhestr testynau yr Eis- teddfod Genedlaethol. Cynrychiolir parth o Forganwg yn y Senedd gan un o ffyddloniaid y Gymdeithas Heddwch, a thyma y bobl a gynrychiola yn cynyg gwobr o ddeg gini a thlws am arwrgerdd i'r Pen cigydd Prydeinig. Cysondeb, frodyr, gartref ac oddicartref, fel na byddo i'r naill beth daro yn erbyn y llall. Rhyfedd y twrw a gedwir gan y dyn hyna yn y Gogledd, a elwir Pencerdd Clementi Eifion, am ryw gadair a gollodd yn rhywle tua Dyffryn Conwy draw. Tebyg mai tramor- ddyn ydy' o, wedi disgyn ar fynyddoedd Arfon, a'i fod yn cael cymhorth rhyw Gymro i ymfllamychu yn Gymraeg. Fy reswm dros feddwl mai tramorwr ydy' o yw ei fod yn cadw masnaclids, cerddorol yn nhref Arfon, ac fel y gwyddost, ddarllenydd, mai nhw, y tramorwyr, sydd ar y blaen yn y pethau hyn, ac nad mynych y gwelwch nemawr i genedl- ddyn yn cael bara wrth werthu offerynau cerddorol. Cymaint a hyna ar y mater, a mwynhaed y cyfaill Alaw Ddu y pleser o eistedd yn y gadair a enillodd yn ol barn hybwyll cerdd-feirniaid dysgedig, fel na waeth beth a ddywed neb o'r un argraffiad a Cle- menti, sydd beunydd a byth yn cwyno os na fyddant hwy yn cael bod y blaenaf wrth y bwrdd. Wedi dysgwyl yn bryderus am ymddangoa- iad y Myfyriivr, ond liyd yma nid yw wedi dangos ei wyneb ond hwyrach, er hyny, ei fod yn yr esgoreddfa, ac y daw allan mewn ychydig ddyddiau yn hoewlane braf yr olwg arno. Mae un o'r brodyr sydd a llaw yn ei ddwyn i fodolaeth yn fachgen byd-adna- byddus, fel nad oes achos ond ei nodi fel bardd a lienor yn gwisgo y llen-enw Cymreig Watcyn Wyn. Gwelais yn ddiweddar nodiad gan ryw ysgogyn o Sais Ianciiaidd, yn dweyd nad yw Gwilym Gwent yn ddim ond glowr eyffredin yn swydd Luzerne (Unol Dalaethau). Y truau bach diwybodaeth am ein cerddoriaeth Gymreig. Gwr eyffredin o lowr, a Chymro diddysg, yn atvdwr canigau fel "Yr Haf," Y Gwanwyn," Y ClyShau," a lluaws ereill o gyfansoddiadau cerddorol na raid i Sais gywilyddio bod yn awdwr iddynt. Dyma y pinacl uchaf y gallasai ynfytyn o Sais ym- gyrhaedd ato, sef beirniadu ein cerddorion Cymreig heb wybod dim am eu cyfansodd- iadau. Mae yn llawer hawddach i Gwilym Gwent i faddeu i'r coegyn crach-feirniadol nag iddo ef, fel Sais ffroen uchel, weled dim byd teilwng mewn pethau Cymreig. Fe fydd canigau Gwent yn fyw ar gof a chadw gan gerddorion Cymreig pan bydd esgyrn y crach-fretyn hwn wedi pydru yn iseldiroedd ebargofiant, a'r tipyn enw sydd arno wedi ei chwalu o flaen y corwynt i gyfeiriad y Pegwn Gogleddol. Tra Dyfed, Gwent, a Gwynedd, Enw mawr Gwilym a'i medd." Mae yn well tewi, rhag i mi fyned fel y teuluoedd ereill sydd yn eich blino yn wyth- nosol. Nos DAWCH.
Byr Ebion o L'erpwl.
Byr Ebion o L'erpwl. RHAID i mi ymfoddloni ar wneyd ebion byrion i'r < iWLADGAITWft, am nas gallaf ymgyrhaedd at y mawreddog a'r dyrchafedig, fel y medr rhai o'r dynolion hyny sydd yn anfon eu cynyrchion i'r wythnosolion hyny ag sydd yn ymwneyd a llenyddiaeth ddyrchafedig—yn uwch, yn eu tyb hwy, na newyddiaduron wythnosol ereill. Wel, boed felly gadawn iddynt ymfoddhau dan y dybiaeth fod cibau yn ymborth iachus i'r dar- llenydd Cymreig. Mae yn llawn bryd i lawer ohonom ddechreu ymgroesi, gan wneyd cais at godi safon ein llenyddiaeth newyddiadurol, er dangos i'r byd fod y cyffredinolion o'r werin Gymreig yn symud gyda'r byd mewn cyfeiriad dyrchafol. Mae y cyfnodolion Seisnig a gy- hoeddir yn wythnosol yn llawn llygredigaeth a malldod, er y mynant haeru fod y Saeson ar y blaen i bawb cenedloedd ereill ar wyneb y byd. Sut bynag, y mae yn ddigon amlwg fod cyfan- gorff y genedl Gymreig yn mhell yn mlaen ar y cyffredinolion o'r bobl Seisnig, y rhai a gyfrifant en hunain yn rhagorach na phawb ereill. Mae y miri diweddar gan Mr. Shaw a'i gyfoedion yn brawf amlwg nad oes achos i'r Cymry ddiolch am ddim i'r Saeson. Cyn siarad dim am anfon cenadon i wledydd paganaidd, bydded iddynt droi sylw i swydd Caerhirfryn, lie mae dynion yn ymylu ar fod yn gauibaliaid gwallgof a gwaedlyd. O'r parthau yma y daw yrathrawon i ddysgu gweithwyr Morganwg, Mynwy, a Gwlad Myrddin, sut i fyw a pha fodd i weith- redu yn weithfaol. MOR Y WERYDD. Nid oes dim i'w glywed ond alarwm clychau prudd-der, yn cael ei gludo ar adenydd yr awelon tyner, yn cynwys adroddiadau am goll- edion ar fywyd a meddianau. Palasau mawr- eddog, ar y ffurf o gastelli nofiadwy, wedi ymgolli yn y traflwnc, a clwmeryd ynddynt y llwythi gwerthfawr o fywydau dynol, heb gy- maint a inynud awr o rybudd. Ugeiuiau, ie, canoedd, os nad miloedd, o dadau ffyddlon, brodyr anwyl, a pherthynasau mynwesol, wedi myned trwy yr adwy, o fyd o amser i'r tra- g'wyddol fyd, yn swn caniad y corwynt. Mae bywyd y morwr a bywyd y glowr yn hynod debyg i'w gilydd ar lawer ystyr. Y blaenaf, fel yr olaf, yn gwneyd llawer mwy na ddyiai am y gydnabyddiaeth a dderhynia am ei lafur. Mae y naill, fel y llall, yn cario ei fywyd megys ar gledr ei law, pan y mae y miloedd annystyriol yn mwynhau brasder y byd, mewn bwydydd a diodydd o bob math. Y r eiddoeh, CYMRO GWYLLT.
Y Rhyfel Afighanaidd.
Y Rhyfel Afighanaidd. TAIIl MIL OTt AFFGHANIAID WEDI EU LLADD. Oddiwrth Raglaw India, Ionawr laf, daw y newydd fod Roberts yn hysbysu dychwel- iad Baker o Kohistan, ar ol dinystrio am- ddiffynfa Mir Batchas yn ddiwrthwynebiad. Darfu i arnryw o brif ddynion Kohistan a Logar anfon i ofyn os gallent dd'od i mewn. Cyfrifir fod colled y gelyn yn agos i 3,000. Yr oedd y tywydd yn deg, ond oer iawn. YR YMOSODIAD AR Y PRYDEIIs WYIt. Rhydd gohebydd y Daily jSTeivs hanes mwy dyddorol nag a ymddaugosodd eto o'r ymosodiad ar y Cadfridog Roberts a'i wvr yn Sherpur :— Am 6 o'r gloch yn y boreu, ar y 23ain cynfisol, gwnawd yr ymosodiad. Gwnawd twyll-ymos- odiad ar y mur delieuol, tra yr oedd corff mawr yr Affghaniaid yn ymdrechu cymeryd pentref Betnaru, a llinell ddwyreiniol yr amddiffyniad. Diffynid y pwynt hwn gan y 67th a'r Guides. Derbyniwyd y gelyn gyda than ofnadwy o'r rhychddrylliau. Oeisient ruthro ar gongl Uchelfeydd Bemaru, ond chwalwyd hwy gan y tauiadau a gyfarfyddasant. Mewn chwarter awr, ciliasant yn ol. Gorchuddid y maes gan eu meirw. Gyda'r wawr, gwelid sefyllfa y gelyn, yn y pentrefydd, y perllanau, a'r amddi- ffynfeydd, a thaniwyd arnynt. Saethai yr Affghaniaid trwy y boreu, ond anfynych yr atebai ein gwyr ni. Gwnawd prawf ar ymosod- iad arall am 10 o'r gloch. Ni fedrai y gelyn, fodd bynag, ddyfod o fewn 700 llath i'r trenches. Ymosododd y 5ed o Feirch-filwyr Punjab ar nifer a gynygient am y pwynt gogleddol, a ltaddwyd 30 ohonynt. Daeth corfflu y Cadfridog Gough i Buthak ganol dydd. Wedi i'r gelyn weled y drych-arwyddion, ofnasant, a dechreuasant ym- wasgaru. Ffodd 5,COO o'r Kohistaniaid ar y ffordd i Charikar, ac erlynwyd hwy gan ein meirch-filwyr.
Damwain Pont Tay.
Damwain Pont Tay. Y mae y tywydd wedi bod mor arw, fel y mae y suddwyr a'r swyddogion ereill yn bron methu cario yn mlaen eu hymchwiliad. Mae Mr. Walker, manager y North British Railway, wedi cynyg 5p. am bob borff a ddygir i fyny. Y mae tua wyth o ddivers wrth y gwaith o ar- chwilio yn awr. Darganfyddasant rai o'r car- riages, ond ofnir fod y gweddill wedi eu tori yn yfflon, ac y mae y nifer mawr o goed drylliog a geir ar lanau'r afon yn cadarnhau y crediad hwnw. Y mae y Board of Trade wedi agor eu harchwiliad o gylch achos y ddamwain oddiar dydd Sadwrn, ond nid ydynt wedi cael dim o bwys hyd eto. Dywed pellebryn o Dundee, dydd Mawrth :—Adroddodd y divers, heddyw, ganlyniadau eu hymchwiliadau o flaen y Board of Trade. Y mae dau gorff arall wedi eu had- feryd heddyw eu henwau ydynt Wm. Jaunk, grocer, a James Leslie, cleric. Gwnant y cyfan- swm o gyrff a gafwyd yn bedwar.
[No title]
Yn Shenandoah, Pennsylvania, y mae Dr. D. W. Williams (Creunant), Aberdar, wedi ymsefydlu, a da genyai glywed ei foi yn gwneyd jn dda yno.
aUIMIIfi BITTERS "..J.. '",.&.,L;:"J.D;:,-t,.",:';'1J:''),…
aUIMIIfi BITTERS "J.. .&. ,L; :"J .D -t, ,1 J: '), GWILYM EVANS. Y mae hwn yn gymysg gelfyddydgar a ffodus drw; ben. Cynwysa QUININE, SARSAP AR- ILLA, SAFFRON, LAVENDER DANDE- LION, GENTIAN, a BURDOCK, sef yr holl o'r darpariadan a liodasom, yn y fath gymodedd, fel ag i sn'r' au cydweifchrediad Hwyddianus yr HOLL o elkenau gwjeithgar y cyffeiriau, er cyr- haedd a diogelu y dybenion.daionus mewn golwg wrth ei gyfansoddi, Gyfaddefir gan brif feddygon y dydd fod QUININE BITTERS Mr. Gwdym Evans y cydgymysgiad mwyaf hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneyd o'r cyffeiriau uchod. AMCANION. Aincan mawr y BITTERS hyn yw gosod mewn trefn brif ffynonellau (fel pe tae) peirianwaith y corff. a symud i ffwrdd y gwahanol achosion, y rha,i a gynyrchaat effeithiau poenus yn y cyfan- soddiad. EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorlhwyo traul yr ymborth, yn gwellau a hwyluso y cylchrediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyrsu, ac yn puro a ffrwythloni y gwaed. Y mae y cymysglyn hwn yn gryfbair cytfredinol, yn lanhiiydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansoddiad, ac oherwydd hyny y rhai mwyaf agored i anwydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adn wiocau y cyfan- soddiad a'r tymerau, ac ar gyfrif hyuy y maent wedi enill iddynt et; hunain y gvmeradwyaeth uchelaf ar gyfer pob math o wendidau, a sefyllfa isel, nyelilyd, a marwaidd y corff. Y DOLURIAU. Mewn trefn i fod yn eglur ac mor ddealladwy ag y gallwn i'n miloedd darllenwyr, gosodwn o'u blaen ddosraniad cryno «'r doluriau ag y mae QUININE BITTERS MR. GWILYM EVANS yn hynod o gyfaddas ar tu cyfer, megys. ANHWYLDERAU GIEUO G :—Nervous Diseases. I Dychlamiadau y galon, cryniadau, rhediad y gwaed i'w wyneb a'r pen, annhretiliad gieuog, poen yn yr ochr aswy, iselder ysbryd, pryderion, llewygoB, pall yn y cof, yn nghyd a phoenau yn y gïau yn gyffredin. Cynhyrfir rhai personau gan y swn ileiaf, a dygwyddiadau sydyn bychain annysgwyliaelwy, tra. y mae eraill yn dyebymygu eu bod yn euog o ryw weithredoedd drwg anfaddeuol, neu eu bod bob dydd yn agored i wneyd hyny, eraill a dybiant fod pawb yn ddig wrthynt, ac yn dychymygu pethau gwrthan iawn. Y mae rhai cyn hyn wedi credu eu bod .wedi marw, ac eraill a heriant fod pryfed gwen'wyn'g a chreaduriaid aflan yn magu o'u raewn, &c. Y mae yr oil o'r pethau hyn a'u cyifelyb yn codi oddiar sefyllfa y gïau (nerves) yn y cyfansoddiad, I wella ansawdd y gïau yn y cyfansoddiad, ac i darfu y lledrishod dychymvgol hyn o'r meddwl, ni cheir dim yn rhagorach na QUININE BITTERS MB. GWILVSI EVANS. ANNHREULIAD. Y mae hwn yn dad i lawer o anhwylderau blin a phoenus, yn dangos eu hunain mewn amryw ffurilau,-peswch sych, pen clafaidd, arogl an- hyfryd ar yr anadl, tafod brwnt, bias chwerw yn y genau, llosg cylla, dwfr poeth, cramp, poenau yn yr ystumog, gwyntogrwydd, pall, yn y golwg, mynych och' neidio, teimlad o lawnder a gwasgfa ar ol prydiau bwyd, marweidd dra, a phoenau hedegog o gwmpas y galon, yn nghyd a, lluaws o deimladau poenus eraill o'r un nodwedd. Achos uniongyrchol y pethau hyn i gyd yw sefyllfa afreolaidd y cylla i symud ymaitli yr annhrefn hwn, ac i adnewyddu nerth a hwylusdod y peirian- au treuliol, y mae Physigwyr enwog wedi profi y QUININE BITTERS yn feddyginiaeth lwyddianus, ar ol i bob darparia,eth arall fethu yn eu dwylaw. CLEFYDAU Y DDWYFRON. Y mae y rhai hyn ar y cyfan yn rhai peryglus, a goreu po gyntaf i arfer modaion add as' i'w symud—anwydon cyffredin. bronchitus, mogianfc, peswch boer, crygni, poeri gwaed, yn nshyd ft phob tueddiad etifeddol i'r darfodeddyaeth. Tuag at yr anhwylderau peryglus hyn, a'u eymdeithfon, y mae effsithiau daionus diamheuol y QDININE BITTERS gan Mr. GWILYM EVAYS yn cael eu cy- faddef a'u gwerthfawrogi gan bawb sydd wedi eu profi RHAGORIAETH QUININE BITTERS. Physigwriaeth lysieuol hollol yw Bitters Mr. Gwilym Evans, yn cynwys elfenau gweithgar y llysiau a gydnabyddir yn gyffredin, y mwyaf rhin- v/eddol. Ni all neb ag sydd wedi cael mantaisi brofi eu ihinwedd beidio eu cymeradwyo; ac yn wir, peth hollol annheg a'r cyhoe leI fyddai peidio dwyn tystiolaeth gyhoeddus o'r daioni a dclerbyn- iwyd trwyddynt ac o dan ba amgylchiadau. Dylai y darllenydd gofio, bob amser, ei bod yn annichonadwy i osod yr holl gyffeiriau ag sydd yn y meddyglyn hwn mewn PILLS, hebiaw fod dar- pariaethau llysieuol yn f vvy rhinweddol mewn GWLYBVVR nag mewn PILLS. Y mae llawer o'r PILLS yn gelyd ac yn niweidio cylla gwan. Nid ydyw y Qukine Bitters yn achosi un an- ghyfleusdra wrth eu cymeryd. Gellir dilyn yr al. wedigaeth fel arfer. heb fod yn agored i anwyd, a'i ganlyniadiii, ond yn hytrach y mae yn diogelu rhag anwyd, trwy nerthu rhanau gweimon y corff, yn hwylusi y didoliadau, ac yn awchu y cylla at f wyd, yr hyn a nertlia i weithio yn well, Gall plant o bob oedran ei gymeryd trwy gyfar talu y ddogn yn 01 yr ced. Y mae hefyd yn hynod gyfaddas i ferched a gwragedd ar bfydiau neillduol. Os bydd y claf yn ewyllysio cymeryd Cod Liver Oil, gall ei gymeryd yn y Bitters hyn, tfyda mwy o fudd. Gofaled Pawb ill Hyn. Gan fod amrywiol ddarpariacau o QUININE i'w cael, megis Tincture of Quinine, Quinine Wine, Quinine Mixture, efce., etc., y mae ymofyiiwyr am QUININE BITTERS Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y modd mwyaf dideimlad a diarj wilydd. Wrth geisio hwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn iddo fel hyn, "Potelaid o Bitters," neu "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith, Y Quinine yna." OND, gofaler i ofyn am "QUI- NINE BITTERS Mr. GWILYM EvANS, ac os na fydd 'yr enw Mr. GWíLBr EYANS, E.C.S., M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt, Pris y Potelaujyw 2s. 9c. a 4s. 6c., mewn blychau 12s, 6c. yr un. Cynwysa Potelau 4s. 6c. ddau cymaint a rhai 2s. 9c., ac felly y gall y prynwr arbed swllt wrth gymeryd y rhai mwyaf. AC FEL HYN HEFYD :-NId yw y perchen- og yn proffesu y gwnant weithredu yn wyrthioV ar neb, neu y gwna y dogn cyntaf gyfnewid, neu y symudir poen mewn deg mynyd," nac y bydd un boteliad yn llwyr iachau," &c. Ond y gwnant trwy ymbrawf teg a pharhaus o'r llysiau a nodwyd, ddangos ei dylanwad daionus, os cymer- ir hwynt mewn pryd. Ffynon yw o saith ffynonell, O'i glwy' a wna glaf yn well. 163