Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

MR. ISAAC THOMAS, UNDERTAKER,I…

News
Cite
Share

MR. ISAAC THOMAS, UNDERTAKER, I ABERDAR. MR. GOL. ,—Gwelais gan rywun yn eich GWLADGARWR, am yr wythnos ddiweddaf, wahoddiad ar y cyhoedd i gyduno ag ef i wneuthur tysteb i'r boneddwr uchod. Rhaid i mi gyfaddef nad ydwyf yn un pleidiol i neb i gael tystebau a gwn fod llawer un wedi eu cael na wnaethant ddim i'w haeddu yn fwy na'r hyrddod sydd ar y mynyddau. Ond credwyf fod rhai i'w cael yn y byd sydd yn haeddu cael eu cydnabod am eu llafur dir- fawr a'u hymdrechion difefl yn eu hoes i lesoli eu cyd-ddynion. Credwyf hefyd fod Mr. Thomas yn haeddu ei gydnabod am y daioni mawr y mae wedi ei wneyd i ni, y dosbarth gweithgar, yn neilld-uol yn yr ugain mlynedd diweddaf. Dyn a chalon haelgar dan ei fron ydyw, ac un yw a'i law yn naturiol barod bob amser i gyfranu at bob achos neu symudiad teilwng yn y lie, a'r cymydogaethau amgylch- ynol. Yr wyf yn adwaen Mr. Thomas er's blynyddau a gwn nad yw ef yn cymeradwyo rhoddi tystebau i neb, er ei fod wedi cyfranu tuag at lawer ohonynt. Ei farn onest yw, pa faint bynag o dda a wna dyn ar y ddaear, nad yw, wrth wneyd hyny, ond cyflawni ei ddyledswydd tuag at ei gyd-ddyn, a thuag at ei Greawdydd ac oherwydd hyn, credwyf na chymer ef un math o dysteb genym. Ond hyn yr ydwyf yn sicr ohono, fod canoedd yn y lie yn barod i gyfranu ati-nid oes dim ond eisieu i rywrai ddechreu, a chyflawnir yr amcan gyda'r brwdfrydedd mwyaf, a hyny yn anrhydeddus. Gan hyny, dymunaf ar Un o'r Hen Blwyfolion i alw Pwyllgor yn nghyd i'r y I perwyl, a hyny heb oedi. Rhwydd hynt iddo gyda'r gwaith da. Buddiol fyddai gair oddi- wrtho y tro nesaf. GLOWR PENLLWYD.

AT MR. SAMUEL LEWIS, ALLTWEN,…

AT QQR BETHLEHEM, TREORCI.…

" Y PLU BENTHYG."

EISTEDDFOD GTIT AENOAEGURTif-EN,

EISTEDDFOD PENBRYN.

[No title]

Yr Eisteddfod Genedlaethol,…

Eisteddfod Gadeiriol Deheudir…

ABERDAR.

PENDERYN.

ODYDDIAETH YN ADRAN ABERAFON.

LLUNDAIN.

BRYNFFERWS, LLANEDI.

[No title]

MARWOLAETH.

Advertising