Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Ap Corwynt.—Wei, gyfeillion tirion teg, dyma ni wedi cael y fraint o gyfarfod eto ar ol dydd angladd yr hen flwyddyn 1879. Gyda'ch caniatad, yr wyf yn bwriadu cymeryd i fyny holl amser y cyfarfod heno i ymdrin tipyn ar helyntion y flwyddyn sydd newydd ..el chladdu. Blwyddyn erchyll mewn amryw .agweddau fu hi. Biwyddya o ryfel—biwydd- yn o iselder masnachol-blwyddyn o humbug Seneddol, a blwyddyn o wlaw llifeiriolfwy nag a welsom er's pedwar ugain mlynedd oedd yr hen flwyddyn '79. Er mwyn gosod ar gof, a. chadw rhai o helyntion y flwyddyn ddiweddaf, efallai mai nid annyddorol fyddai i mi osod o'ch blaen fyr-grybwylliad am danynt. Wel, dechreuodd y flwyddyn, fel y gwyddoch, yn nghanol rhew ac eira gerwinol yn ddigon i rewi'r gwaed oedd yn cylchffryd- io yn iachus drwy ein gwythienau. Deuai hen Boreas i lawr o'r Gogledd a'i feginau di- yoncro gydag ef ac anadJai ar y llynoedd a'r afonydd, a throent yn balmant gwydrog i'r Ilithrellyddioii. Mis Ionawr, blaenawr y blaid fu yn fis agoriadol i gyfres o drychinebau a t, hir gofir yn nghroniclau'r ddaear. Yn y mis hwnw, os ydych yn cofio, y dygwyddodd ffrwydriad ar fwrdcl y Thunderer, an o longau rhyfel Prydain, pryd y syrthiodd deg o fywyd- au yn ebyrth iddo, ac yr anafwyd deuddeg- ar-ugain Ar y 13eg o'r un mis, fel y cofia rhai ohonoch, y bu tanchwa ofnadwy y Dinas, Cwm Rhondda, pan yr hyrddiwyd tri-ugain 0 eneidiau i fyd mawr yr ysbrydoedd, ac y mae eu cvrff yn gorwedd yn y tanddaearol fedd- hyd y dydd hwn Wedi hyny, dyna gyflafan ofnadwy Isandula, pan y lladdwyd '600 o'n milwvr dewrfrydig, a thros 600 arall o'r milwyr Affricanaidd a ymladdent drosom Bydd gwaed rheiny yn dorthau ar bea Ben Beaconsfield a Sam Salisbury a'u Cyf. ac y mae ganddynt lawer count a chyfrif arall i'w roddi, os na chant faddeuant llwyr a llawn -cyn croesi gwahanfor angeu. Ar y 12fed o fis Mawrth, dinystriwyd dinas Szgedin, yn Hungary, gan orlifiad digyffelyb, trwy yr hyn y collwyd canoedd o fywydau a phe gellid cael darlun o'r ddinas hono, dan yr ymweliad dychrynllyd, byddai yn un o'r rhai mwyaf torcalonus a chyffrous ag a baentiwyd erioed Yn yr un mis, llynciwyd yr agerlong Michel 1 waelodion neiflon, a thri-ugain o fywydau gyda hi; a'r Arrogante, llong ryfel berthynol i Ffrainc, gyda saith a deugain o fywydau Ac os yclych yn cofio, ar yr 31ain o'r un mis, boddodd nifer o'r 10th Huasars wrth groesi ,yr afon Cabul. Dyna gyfrifoldeb arall ar Ben Israel a'i blaid. Hysbysir ni fod mewn rhanbarth o'r Aifft ddeng mil o'n cyd-ddynion wedi marw o newyn Y mae hyny yn ofn- ;adwy i feddwl, pan yr oedd tomenau o aur yn y banciau, ac ystordai llawnion o ymborth yn ngwahanol ranau ereill y byd. Wel, am haf "79 cystal peidio galw hM arno, canys cafwyd lawer gwaith, yn nghanol gauaf, ddiwrnod tecach nag amryw ddyddiau a gaf- wyd yr haf diweddaf. Bu y gwlaw bron di- atal fa yn llifeirio dros y wlad yn foddion i foeri i'n cynhauaf fod y fath fel y bydd yn srhaid i ni gael miliynau ar filiynau o chwar- teri o wenith o'r America, a bendith fawr i'r byd yw fod yno gyflawnder ohono i'w gael. Wel, Gorphenaf 26ain, collwyd 26 o fywydau trwy danchwa yn nghlofa Blantyre ac yn anis Hydref, ysgubwyd ymaith dros fil o iywydau yn y gorlifiadau echrys yn Ysbaen. Y mae hyn yn beth tra hynod, canys yr oedd Ysbaen, trwy yr haf a'r cynhauaf diweddaf, wedi bod yn dyoddef cymaint oddiwrth sych- -der ag yr oeddem ni yn y wlad hon oddiwrth wlybaniaeth. Ond i goroni dygwyddiadau echryslon '79, yn y mis olaf ohoni, ac o fewn ychydig ddyddiau i'w therfyn, dyma ddam- wain ofnadwy Pont Tay yn Ysgotland, yr hon a daflodd bob damwain arall ar y rheilffyrdd yn y wlad hon i'r cysgodion. Bu damwain gyffelyb iddi yn America, dair blynedd yn ol, ar bont oedd yn croesi yr afon Hudson, os ydym yn iawn gofio, pan y darfu i'r bont hono dori, a'r gerbydres syrthio i'r afon, a rhai o'r cerbydau ar dan. Clywsom fod ein diweddar gyfaill Mynyddog yn y tren di- weddaf aeth dros y bont hona cyn iddi dori. Wel, rhyw ddamwain o'r fath fwyaf aruthr oedd damwain y Tay Bridge a phe chwiliem am yr ansoddeiriau mwyaf cyrhaeddfa.wr a desgrifiadol, byddai yn anmhosibl i ni gael 'dim a ddeuai o fewn i fili wnfed ran i roi meddylddrych i ni am erchyllder yr amgylch- iad ofnadwy. Mae iaith yn llwyr hesb a di- allu i roi i ni ddim dirnadaeth am y fath drychineb. Cerbydres o tua chant neu fwy o'n cyd-ddynion yn disgvn am tua 130 troed- fedd i'r mor, a hyny heb ond mynud neu ddwy o rybudd Nid oes amheuaeth nad oedd y disgyniad ofnadwy yn ddigon i daro y personau oeddynt yn y tren ag ergyd angeu cyn eu bod wedi disgyn i'r gwaolod ac os oedd rhai ohonynt yn fadfyw ar y pryd y cyr- haeddasant y dwfr, dyma yr elfen hono yn ymlifo i fewn, ac yn selio eu tynged yn y fan 0 y mae y newyddion calon-rwygol a'n cyr- haeddant yn ddigon i fferu ein gwaed. Rhai ar fin priodi, ereill yn ymweled a'u ffryndiau ar adeg y gwyliau, ac ereill ar deiihiau mas- nachol. a'r oil ohonynt yn llawn nwyf a rhagfeddwl am y dyfodol, fel pawb o blant Adda—f el y gellir dweyd yn ngeiriau y bardd :— A dynn. lechres o oboithion lieulog A gladdwyd yn nghilfachau'r mor afrywiog. 0 erch ystorm agoraist, do, archollion Na welir mwy yn iach nes croesi'r afon A waliaiire,la rhyngom a thiviogaeth Y Wynfa hoff, lie na thramwya alaeth. Fe wiychir llawer aelwyd a brwd-ddagrau Am yr anwyliaid lynewyd i'r dyfnclmau- Kwinedd gofid fydd yn dybryd naddu Mynwesau fyrdd nes bydd y wedd yn gwaelu Awch danedd liiraeth a lym gnoa,'r ddwyfron, Nes llwyr alltudio ymaith pob cysuron. Am waith Seneddol y flwyddyn ddiweddaf, nid oes fawr i'w ddywedyd. Y mae y Toriaid fel pe wedi ymdyngedu i beidio gwneyd fawr o ddim ar derfyn tymor eu swyddogaeth. Ond os nad wyf yn mawr gamsynied, o hyn i ben blwyddyn, neu lai, neu ychwaneg, bydd criw y Toriaid wedi eu taflu i ben yr heol, ac i fwynhau eu myfyrdodau adgoflol am felus- derau y swyddau a fwynhasant am y fath gyf- nod. Rhaid i ni addef fod diwedd y flwyddyn wedi rhoddi i ni amlygiadau fod masnach yn ymfywiocau, yr hyn sydd yn ragarwydd sicr a diymwad y daw pethau yn well o hyn i ganol 1880. Gwych y byddoch, fechgyn, a maddeuwch i mi am gymeryd amser y cwrdd heno ond caiff faint a fynoch ohonoch siarad wythnos i heuo. Blwyddyn ardderchog i chwi oil.
Llith y Postman.
Llith y Postman. BLWYDDYN NEWYDD DDA i bawb-yn mhell ac agos, ac o bob gradd a sefyllfa, o'r berlgar croenllwm i'r lan hyd yr upper ten coronog. Dyna yr hen flwyddyn a'i hamgylchiadau wedi ein gadael, ac wedi ymgladdu yn medd- rod y gorphenol. Cychwynodd yr hen flwyddyn yn rhyfedd, parhaodd yn rhyfedd, a bu ei holl amgylchiadau yr un mor rhyfedd o'i dechreu i'w diwedd. Ar ddechreu y flwyddyn, hynododd ei hun mewn tan, trwy hyrddio ugeiniau o lowyr y Dinas, OW111 Rhondda, i drag'wyddoldeb, y rhai, lawer- oedd ohonynt, sydd heb eu cael hyd heddyw. Eto, ar ddiwedd y flwyddyn, dibenodd ei hun mewn dwfr, trwy i drain, yn llawn o deith- wyr, syrthio dros Bont fawr y Tay, ger Dun- dee, i'r dyfnder. Rhyfedd, onide 1 Dechreu trwy dan, dibenu mewn dwfr—ilosgi un dosbarth, boddi ereill. Cofir yn hir am yr hen flwyddyn, a bydd o ran ei chymeriad yn dyrchafu uwch blynyddoedd y byd, fel y gwna y Wyddfa yn y Gogledd ar y mynydd- oedd oddiamgylch. Nid gwiw i ni ddechreu ar ei hanes, oblegyd ni wyddis lie y terfynwn. Gan hyny, symudwn yn mlaen gyda rhyw- beth arall. Y dydd o'r blaen, fel yr oeddwn yn dyfod a llythyr at dý neillduol, nid can' milldir o Arwydd Caerdydd, yn Nhreorci, clywn swn dolefus ac ysgrechfeydd annaearol. Pan y daethum at y ty, deallais mai rhywun yn fyr o ddynoliaeth oedd yno yn curo plentyn yn ddidrugaredd, ac yr oedd llefau yr un bach anwyl yn rhwygo'r awyr uwchben. Wel, brain gaffo 'i," meddwn wrthyf fy hun, mynaf weled beth sydd hyna 'nawr. Yr wyf yn dad plant, a chenyf gymaint golwg ar fy mhlant a neb pwy bynag ar y ddaear fawr, a phe tagid fi fel tegan ar drothwy'r drws, mynaf weled yr eithaf, hyd yn nod pe costiai hyny i mi i ddigio'r Government ei hun." Aethum at y drws a churais—nid fel Post- man, ond megys cenad o fyd arall, ac aethum yn mlaen trwy'r passage i'r gegin, ac yno yr oedd y gyflafan yn cymeryd lie. Yr oedd hen feiden fawr, hwchaidd, yn curo yn sledg- aidd ar un o'i phlaut bychain, ac yr oedd hwnw, druan bach, wedi llefain nes oedd yr awelon uwchben y tý yn barod i gydym- deimlo ag ef ac yn gosb ddyfnach na'i hen law ddyrnol ar gnawd ei phlentyn, yr oedd yn rhwbio vinegar ar groan darniog yr un bach, nes y codai ei ddolefau truenus i'r awelon fry am gydymdeimlad o rywle. Pan ganfyddais yr olygfa, taniodd fy ysbryd drwyddo, a rhoddais gystal pryd o dafod i'r hen gnoben felen a gafodd erioed ond y brenin mawr, cefais inau dafod na fuasai ci yn caru ei gael. Fodd bynag, dywedais wirionedd wrthi nad ymadawodd a'i thý wed'yn, ac yn mhlith pethau ereill dywedais wrthi y buasai barn yn debyg o ymweled a'i thy hi. Yn mhen wythnos neu ddwy wedi hyn, darfu i'r hen hwch fagu ddyfod a deg o foch braf, ac wrth gwrs parodd hyn lawenydd mawr yn y teulu ond ymwelodd barn a'r tý trwy i rai ugeiniau o lygod Ffrengig mawr a daneddog wneyd ymosodiad gwancyddol ar y twlc un noson, pryd y lladdwyd a bwytawyd y deg mochyn bach, a dim ond ar drot o'r fynwent oedd yr hen hwch fagu hefyd. Diangodd am ei hoedl, gan adael ei rhai bach yn swper i'r ymwel- wyr ysglyfaethus. Ond nid oedd hyn ond dechreuad gofidiau lawer. Gadawn y gwedd- ill o'r hanes yn awr, er fod genym stwff penod wlithog eto, a gall y darllenydd ddys- gwyl am hono un o'r wythnosau cyntaf a ddaw, ac, yn wir dclwywaith i chi, bydd v benocl hono yn ddoniolwch i gyd. Clywais fy meistr sydd yn y 1 ost Omee yma (y mae meistr arnaf finau fel pob dyn gwan arall) yn dywedyd neithiwr wrth un o'r upper ten oedd ar neges neillduol yn y Post, ddarfod iddo fyned am dro lawr i'r Cwm prydnawn Saboth diweddaf, ac iddo dalu ym- weliad a'r eglwys y noson hono er clywed yr offeiriad. Wedi iddo osocl ei hun yn gysnrus mewn man neillduol yno, ymunodd a'r dorf yn y gwasanaeth, a chafodd ei foddloni yn dda iawn yn yr offeiriad. Ond yn nghwrs y gwasanaeth daeth yno wraig fach yn mlaoll a'i baban i'w fedyddio. Oymerodd yr offeir- iad y baban rhwng ei freichiau, a clian edrych yn hamddenol yn ngwyneb yr un bach, gwnaeth rhai sylwadau ar ei ddyfodol. Pwy a wyr," meddai, na fydd. yr un bach hwn eto yu mhlygion y dyfodol poll yn llanw cymeriad Dr. Livingston, ac yn genadwr enwog yn mhellafoedd Affrica neu yn Stan- ley ddewr i edrych am Livingston tybiedig golledig neu yn genad hedd dros ferch y nefoedd, gan lorio cynulleidfaoedd Seion i droi eu gwynebau tua ffordd y Brenin Mawr neu vn farsiandwr enwog yn teithio dros wledydd cred y byd, gan wneuthur daioni i bob gradd a sefyllfa neu yn Golumbus an- turiaethus i chwilio am wledydd annghysbell y ddaear, fol y gall miloedd pobi y gweith- feydd ymfudo iddynt." Ac fel hyn ac fel arall, aeth dros dir, a mor, a mynydd ond o'r diwedd gofynodd i'r fam beth oedd enw y plentyn, pryd yr atebodd y fam yn ddiniwed iawn mai merch ydoedd, ac mai ei henw oedd "Mary Anne." "Püham na fuasech yn dweyd yn gynt, fenyw ?•" meddai'r offeiriad siomedig. POSTMAN.
Llith o'r Pobdy.
Llith o'r Pobdy. MR. GOL.Pan wrth fy ngorchwyl caled yr wythnos ddiweddaf (fel y gwyddoch ei bod yn wythnos brysur cyn y Nadolig gyda'r bara brith, a'r pwdinau, a'r gwyddau, ac yn wir, yr oedd fy chwys yn gollwng i waered fy ngwyneb fel pys, gan fod y cwbl yn cael ei dyru i'r pobdy, am nad oes fawr o amser gan y gwragedd i'w gwneyd gartref ar amser fel hyn), daeth dwy wraig i mewn a chan nad oeddwn yn barod i roi eu cacenau i mewn ar unwaith, dechreuasant ymgomio a'u gilydd fel y canlyn Bety.—Pwy gor ydych yn feddwl gain y wobr yn Jerusalem y Nadolig ? Mari.—Wei, rhyngoch chwi a mi, Bety, dywedaf wrthych yn ddystaw; ond cofiwch na ddywedwch wrth neb, gan fod Die ni mewn cysylltiad agos a'r Eisteddfod hon, fel y gwyddoch. Bety,-Wel, addawaf ar fy anrhydedd, Mari, a gwyddoch fod hwnw yn fawr, na ddywedaf ddim, er eich mwyn chwi, a Die, a llwyddiant yr Eisteddfod. Mari.-Dyma fe, Bety. Maent yn ben- derfvnol o gadw yr arian yn nhre' eto. Fe gaiff y b d ryw swm yn nghii ei ddwrn am hyny, a gwyddoch beth wnaiff arian y dyddiau hyn. Rhagor na hynyna—maent wedi ordro swper dda yn y D--n Hotel, nos Nadolig, neu y noson ganlynol, a'r draul i gael ei dalu o'r arian a enilla y cor y Nadolig, ac y maent yn meddwl treio estyn oriau y stop tap iddynt hwy y noson hono hyd ddau neu dri o'r gloch boreu dranoeth. Bety.—Yr oedd Dafydd ni yn dweyd ei fod wedi bod yn gwrando ar y ddau gor yn canu nos Sul, a'i fod yn gwybod y byddai Cor B-a yn siwr o faeddu, ac, fel y gwyddoch, mae ef yn judge lied dda mewn canu. Mari.—Waith yn y byd am hyny, ni cha nhw mo'r arian, oblegyd os na rodda y beirniad y wobr i'r cor sydd i fod i enill, tynant ef yn ddarnau cyn aiff ef adref, a thyna ddigon. Bety.-Wel, gallaf fentro dweyd wrth Dai am beidio betio dim gyda Chor B—■——a, oblegyd clywais ef yn dweyd y betiai efe zly nnrhyw arian gyda'r cor hwn, am eu bod yn canu mor dda. Mari.—Stopiwch ef, stopiweh ef, yn wir, Bety, on' te fe fydd yn siwr o golli ei arian i gyd. Dyna y gwir i chwi. I Bety.-Cymeraf eich gair, Mari, a chawn weled, dydd Nadolig, sut y try pethau allan. Time will tell," ys dywed y Sais. Wel, ar ol clywed yr ymddyddan hyna, a'r Nadolig wedi pasio, nid wyf finau heb goelio Mari yn awr, oblegyd cafodd Cor J-m y wobr, a bu gwledd ardderchog yn y D--n Hotel, ac fel yr oeddwn yn dychwelyd nos Wener, neu boreu Sadwrn yn hytrach, rhwng dau neu dri o'r gloch, o'r pobd £ i'm llety, clywais y canu, a'r clapio ar ol hyny, yn y lie apwyntiedig. Gofynais i forwyn oedd wrth y drws beth oedd y mater, a chefais ar ddeall mai Cor J m oedd yno yn cynal eu gwledd orchestol ar ol y fath fuddugoliaeth. Clywais hefyd fod rhywun yn Ll--ia wedi enill dwy neu dair punt, oddiwrth y fftith fod hynay fath barotoadau mawreddog wedi eu gwneyd. Trueni fod ein corau, ein Heis- teddfodau, a'n pwyllgorau, yn rhoddi lie i gamblers y Cwm i fetio ar ddarnau cysegredig y cysegr, megys "Lift up your heads, "Ar lan Iorddonen," &c. Yr wyf yn credu, os mai yn y dull presenol mae yr Eisteddfodau i gael eu cario yn mlaen, y byddai choruses ereill llai eu pwysigrwydd yn ateb y dyben yn well, gan fod gamblers yn cymeryd yr eofndra i fetio arnynt, ac hefyd y corau yn gwneyd gwleddoedd mewn tafarndai hyd ddau neu dri o'r gloch y boreu. Yn smoking-room y D-n Hotel y mae rhai o ddynion y cor byth oddiar hyny. Cywilydd yw eu gweled, a gallem eu henwi pe byddai galw am hyny. Os ydym i gynal Eisteddfodau, gadewch i ni eu cynal yn weddus. Bydded i'r beirniaid wneyd eu gwaith yn deg, fel y caffo pawb gyflawnder, ac yna bydd iddynt gadw eu henwau yn ddilychwyn. Clywais fod Eos Cynlais wedi gwneyd ei waith yn gampus yn y Porth, a'r cyfaill Gurnos yr un modd. Mae y ddau frawd hyn yn uchel eu bri, a dangoswyd hyny yn amlwg yn y cyfarfodydd llongyfarchiadol a gawsant yn Nhonypandy a Threorci wedi eu buddugoliaethau yn Eis- teddfod Caerdydd. Yn awr wrth derfynu, dymunaf ar i feirdd, cerddorion, a llenorion ein gwlad, ofalu gwneyd cyfiawnder pan fydd- ont yn beirniadu, a gofalu am gadw i fyny urddas ein Heisteddfodau, ein hiaith, a'n cenedl, tra pery y byd. Terfynaf y tro yma. Cewch ragor o hel- yntion y pobdy- eto, oblegyd mac Ilawer o bethau wedi eu cofnodi ar ddrws y ffwrn hyd ein nesaf. LI ia. POBWR.
GURNOS A BRYTHONFRYN.
GURNOS A BRYTHONFRYN. MR. &CL.,—Ymdrech.us yn mhob modd, braidd, i ga,31 enw neis ar Brythonfryn yn fy llythyr. Gelwais ef yn Esgob Penderyn, ac wrth enwau urddasol ereill, ac wedi y cwbl nid yw foddion. Wn i ddim yn iawn pa fodd y mae ei anereh ef mwyach. Ond gwrandewch ef ei hun yn llefarn-ymgrymed y mynyddoedd a chlust- feinied y bryniau, canys nid dyn cyffredin sydd ya myned i whlia Rhaid i chwi, frawd, rc-i credit fod rhywrai yn darllcn eu Beiblau heblaw cadeirfardd Caerdydd, ac o bosibl yn eu deall lawn cystal ag awdwr '-Beibi' a.' Greddf.' Cyn yr uchod dywed fel hyn Gellid meddwl eich bod yn tybied, gan i chwi ddygwydd enill y wobr am awdl ar y Beibl' yn Mangor yn 1874, nad oedd neb mor gymhwys a'ch urdda.solaf self i es- bonio'r Beibl; ond gallai fod yn bosibl y ceid rhai manau cymh wysach at hyny na llwyfan Eis- teddfod." Wrth gwrs hyny—yn Penderyn. Dim amheuaeth ar y pwnc. A fu neb erioed yn rhyfygu meddwl yn wahanol? Ac a fu neb erioed yn beiddio dweyd ei farn wrth esbonio y Beibl mewn pwt o araeth fach heb ymgynghori 11 ag un "cymhwysach" at y gorchwyl ? Huw Ffradach, y mae yn debyg, neu Dai Bredych. Yn ei lythyr galluog a chlasurol diweddaf, dywed Brythonfryn ei fod yn d'od allan ag es- boniad yn erbyn y "cyfeiliornad damniol" yn mhen wythnos. Os oedd mor ddamniol," dyl- asai dd'od tig esboniad allan heb oedi un wyth- nos. Wel, wythnos ati ynte. Yn awr, ni a allwn fod yn dawel: ni a gawn esboniad o'r di- wedd ag a rydd atalfa bythol ar gyfeiliornad damniol," canys y mae Brythonfryn yn myned i roi wythnos gyfan ati i astudio y Beibl. Taw Gurnos, 'dyw e ddim yn meddwl studio y Beibl am wythnos gyfan, 'does bosib ? V dyw ac os gwna, dyna ddiwedd ar angen prynu esboniadau wed'yn. Tatler Matthew Henry, a Barnes, a James Hughes, a Peter Williams i'r tan, a chloed y Germaniaid eu Prif-ysgolion i fyny, canys y mae Brythonfryn yn myned i roi wythnos gyfan ati i astudio y Beibl. Ni a gawn esboniad bell- ach "cymhwysach" na dim ddarllenais i erioed, oherwydd fod gwr cymhwysach at y gwaith yn bwriadu rhoi wythnos i astudio y Beibl a duwinyddiaeth, er mwyn dwyn yr esboniad allan yn deilwng o'r oes, ac o'r myrddiynau derbyn- wyr, ac o'r esboniwr "cymhwys." Ddywedais i yr un gair yn fach am y deryn— am ei ben na'i gynffon nid oeddwn yn meddwl yr aethech maes o natur ataf. Beth allaf fi help na byddai y deryn oil yn cich meddiant. Mae pen deryn yn well aa, dim fel 6, y truan tlawd. Sonia' i byth ar ol y tro hwn am ben na chynlroa eieh deryn. Y mae cysylltiad agos rhwng fy awdl i yn Mangor yn '74 a fy araeth yn Nghaerdydd yn '79. "Dim Toddaid yn fy awdl ar "Reddf!" Mi a gyfrifais fwy nag wyth ynddi. Ond dyna, nis gwn i sut i wneyd dim heb gael fy nghywiro gan wr "cymhwysach" na mi. Faint fyddai eich tal am ddysgu i mi y mesurau caethion, Brythonfryn? Y mae Emiyn Evans, a Dafydd Dyfed, a Prosser yn son am dd'od atoch i ymber- ffeithio mewn cerddoriaeth, fel y gallant fyned i feirniadu i Gwmgarw. O Dreorci gotfadwriaeth." Ie, yn wir! Nid anngholiaf byth y tro y cyfeirir ato, sef y tro pan y rhoddais gyfaill (?) i feirniadu canu ac englynion, ac yntau heb fod yn deall dim mwy na cheffyl am feirniadu canu ac englynion. Nid annghofiaf byth yr helynt flin hono. Tebyg yd- oedd i helynt Cwiiigprw-ail argrafiiad oedd Cwmgarw o un Treorci. 0 Dreorci goffadwr- iaeth Ni welais i y fath wadnu erioed Rhaid llefaru ar ddameg, am fod y dyddiau yn ddrwg :—Aeth hirglustyn mewn croen Hew (llew oedd wedi marw o he iaint) i fod yn frenin y goedwig. Ar ei ymddangosiad, wele y bwyst- filod, fychain a mawrion, yn rhedeg am eu byw- yclan o'r fforclcl mewn dychryn acofn-ffoai y seirff, y crocodilod, hipopotamusod, elephantod, teigrod, llewpardod, bleiddiaid, porciwpeinod, meTrch, arthod, dywalgwn, giraffod, epiiod, mwnciod, owranotangod, cadnoaid, dwrgwn, teirw, buffalod, ceirw, buchod, ffwlbartod, wen- ciod, draenogod, adar—o'r eryr i'r dryw-oll yn ffvi-rhai i'w llochesau, rhai i benau coed, a rhai i'r awyr rhag brenin y goedwig—y How tybied- ig. A dyma frenin y coed a'r anialwch yn rhoi rhuad (?) Wfft y fath broclamasiwn o orsedd llew Dyma y bwysttilod oil yn dychwelycl ar garlam gwyllt. Deallasant mai nid y Hew oedd yno, ond mai efe-hir ei glust—oedd yn gwneyd ei nadau, ac ni buont ond byr amser cyn ei dynu trwy ei boenau am ryfygu cymeryd arno swydd nad allai ei llanw. Brythonfryn yn cywiro llinellau gwallus yn awdl Gurnos ar y Beibl." Peth rhyfedd fod yr awdl mor wael a Brythonfryn wedi bod yn cy- wiro llinellau gwallus ynddi. Pe dywedasech fod Gurnos wedi yfed gormod o gwrw, buasai rhai yn barotacli i'ch credu. Ond 'does dim amheu- aeth nad eich "cywiriadau" chwi a barodd i'r awdl ddygwydd" enill. Y rhai y synech ar y prycl nad oeddech wedi eu gweled cyn hyny." Do, mi a synais, oblegyd y pryd hwnw y cefais ar ddeall yn iawn mor eang oedd eich gwybod- aeth am y cynghaneddiou, a chwithau yn pro- ffesu gwybod can lleied yn eu cylch. Dywedwch —" Ond byddwn yn foddlon i'm gwybodaeth am y Pedwar Mesur ar Ugain gael ei chladdu yn ngheudwll Vesuvius, os na fedrwn gyfansoddi rhywbeth yn well na rhai o'r awdlau cadeiriol diweddar." Vesuvius i gladdu eich gwybodaeth am y Pedwar Mesur ar Ugain Bedd rhy fach o lawer! Dim llai na'r "Pllodiarclall tragwydd- ol" a wna y tro i gucldio y fath wybodieth gwmpasogfawr. Buasai mor hawdd gwthio yr VVyddfa o'r golwg i ganister te a chuddio a chladdu eich gwybodaeth chwi yn y cyngh;tn- eddion yn "ngheudwll Vesuvius." Y mae eich cymhariaethau yn llawer rhy weinion i ddangos tywysogeicldiweh a mawrgampusedigrwydd eich gwybodaeth. "Yr wyf wedi clywed barn rhai o brif feirdd Cymrll ar eich awdl fawreddog ar Greddf' yn Nghaerdydd, ac wedi darllen barn rhai o feirdd goren America ami." Pa raid i chwi wrth farn neb Chwi, gwr y rhaid cael Vesuvius, ïe, "ceudwll Vesuvius," cyn y gellir cuddio eich gwybodaeth-pa raid i chwi wrth help barn neb o Gymru nac o America, i farnu fy mymryn awdl i ar Reddf ? Paham y beiwch fi yn nghylch yr awdi. ? Beiweh y beirniaid. A phaham na wnaethech ei gwell eich hun, a chwithau mor alluog ? Yr oedd y testyn yn rhydd i chwi fel i finau. Peth rhyfedd i mi allu eystal heb eich help chwi i "gywirolliu.eHau gwallus." Dywedwch fy mod yn synu na wel- swii y llinellau gwallus yn awdl y Beibl cyn i chwi en cywiro. Gwrandewch, Brythonfryn, ytndrechsvch ddeall y gwahaniacth rhwng sctr- casm a difrifoldeb. Yr osdd yr^awdl yn barod genyf dair wythnos cyn i chwi dd'od i'r Gogledd: dim ond ei chopio oedd genyf. Yr ydych chwi yn ddyn mawr, ac yn fardd mawr iawn gellwch roi ysgyfarnogod i siarad, ie, i siarad fel ele- phantod, yr hyn na fedr dyn ion cyffredin. Ond dylasech fod yn ddigon mawr y pryd hwnw yn Bala-deulyn i wybod mai "synu" at cich dwli a'ch hongarwch oeddwn, ac i mi ddwcyd mewu gwawdiaetii mAt ehwi oedd yn iawn, pan, mewn gwirionedd, eich bod mor bell o fod yn iawn ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Pa. un NLINNNM Ir beircld. tvbed? Cyn y bydd yn bosibl i ni allu eich credu y medrwch wneyd awdlau gwell na'r rhai cadeir- iol diweddaf, rhaid i chwi naill ai gwneyd an o ryw fath, neu gael gair oddiwrth Gwilym ab loan, Dafydd Bowen, neu Dafydd Murgànwg, y medrweh wneyd awdl o gwbl. Diddadl y gell- Vch un o'r ddau beth uchod yn hawdd—gwneyd un, neu gael gair bardd y medrwch. Y mae rhyw Scepticiaid yn amheu eich gallu, fel y mae rhai yn barod i amheu pob peth bron. Gwyddom y saif y bechgyn hyn at y Gwir, yr hwn sydd yn I erbyn y byd a'i dwyll, ac y mynant iawnder i bob bardd diledryw, yr hwn sydd felly yn ol Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain. A ydych, anwyl Brythonfryn, yn foddlon sefyM ar- holiad a flaen y tri wyr hyn ? Nid wyf fi yn alluog i'ch holi, am fy mod yn gwneyd llinellaa gwallus, a chwithau yn gweled y gwallau ac yrt eu gwella mewn winciad. Y mae y byd yn rhyfedd iawn-y mae am brawf o hyd i ategix pob honiad. Y mae yn rhaid hyd y nod i shoe- black dclwyn prawf yn awr ci fod yn shoe black iawn a rheolaidd. Gwyddoch i chwi fod yn. euog o fod yn beirniadu ar y mesurau caethion, a chystadleuwyr wedi bod wrthi am fisoedd meithion yn llafurio i ysgrifenu i'r gystadleu- aeth. Yn awr, y mae o bwys cael sicrwydd a. ydych i fyny a'ch proffes n yr awdlau neu y mesurau caethion cj'n y cewch feirniadu mwy- ach. Boed ihwng y cantorion a chwi—caiff pobl Cwmgarw fod ar jury y prawf cantorol. Enwch gynifer ag un awdl a wnaethoch, cyrt son am wneyd gwell ila'r awdlau diweddar. GURNOS.
ARAETH GUBNOS YN NGHAERDYDD.
ARAETH GUBNOS YN NGHAER- DYDD. At MR. GOL.Caniatewch ychydig ofod i mi gyfeirio un cais at Brythonfryn, gyda dymuniad iddo wne) d syI W ohono. Pan welais i ac ereill yn y lie hwn ei ofyniad i Gurnos yn nghylch y frawddeg a lefarodd ar lwyfan Eisteddfod Caer- dydd, daethotn i'r penderfyniad y buasera yn cael ychydig godymu rhv/ng datI gawr ar faes y GWLADGAEWR,—y naill yn proii mai "Book of Principles," a'r llall mai Code of Laws yw y Beibl. dofyniad teg oedd eiddo Brythonfryn i Gurnos, a thegweh, ie, boneddigeiddrwydd yn Gurnos fuasai dyfod allan i amddiffyn y frawdd- eg, er rhoddi mantais i Brythonfryn i ddyfod allan i brofi i'r gwrthwyueb, yn unol a'i addewid. Ond, er syndod i'r byd a Hanrwst, pa beth a wuaeth y bardd cadeiriol-Gurnos—ie, pen bardd y De am un dydd a blwyddyn, os nad wyf yn camsynied, oblegycl gwetaf fad yr Eistcddfcd i gael ei chynal eto yn mhen y flwyddyn yn Aber- tawe ddidaleiit, ddifarddoniaeth, ddigerddor- iaeth, a dibobpeth, yn ol fel y harno. rhai, ac yr ysgrifenant hefyd. Ow! drueni. Pa fodd y syrthiodd Abertawe, yr hon a fu unwaith va jretropolis Cymru, yn gyrchfan y beirdd, ac ya nythle d hon fa unwaith yn famaeth dda i'r anfarwol Gomer, yr hwn & wnaeth gymaint dros feirdd a llenorion, yn nghyd a hen iaith anwyl Uwyllt Walia. Ond at y pwnc. Pa beth oedd ateb Gurnos ? Gan ei fod wedi llorio prif feirdd y genedl yn ei awdl ar y "Bcibl," dysgwylid, a chredwn y buasai yn hawdd iddo ysgrifenu ychydig mewn iaith agos i'r werin anwybodus, ond sychedig ar bwnc mor bwysig a'r Beibl. Ond ni chawsora air o eglurhad nac amddifTyniad dros ddilys- rwydd ei haeriad yn yr Eisteddfod o'r ochr arall, darostyngodd ei hun o'i safle dyechafedi^ ac urddasol i v/aelodion ffosydd y craehfeirdd^ gan fyrlymu allan gellweiriaeth ac edliwiaeth plentynaidd, yn uiiig er mwyn osgoi atebiad i ofyniad mor deg. Vr ydym ni, fel dosbarth o weithwyr yn y lie hwn, yn awydclus iawn bob wythnos am weled y GWLADOARWR, ac yn ymfoddloni tra fyddo y dosbarth hwnw o'r ddynoliaeth Gymreig a alw- ant eu hunain yn feirdd yn cicio a blagardio eu. gilydd, gan ddanod met! ac anair y naill i'r Hall ar ei wyueb llaahar; ond credwn ei bod yn Hawn bryd diwygio bellaeh, ac os ydyw y beirdciioa ag sydd yn byw yn awyr y Pedwar Mesur ar Ugain yn dewis parhau i ymogoneddu mewa cablu bonedd yr awen wir, cymerent faes iddynt eu hunain, a brolient a fynont am eu crebwyl] eu darfelydd, a'u dychymyg, yn lie ein gorfodi ni i dalu am hen sothach y dylai pob Cyrara wrido o'u herwydd. Buasai ychydig o ymdriniaeth deg. mewn dal pen rheswm ar bwnc fel y Beibl, yn grya amheuthyn i lawer ohonom ni fechgyn bOn y clawdd, gan ein bod yn gorfod ymfoddloni ar wirioneddau. syml, wedi eu gwisgo mewn iaith syml. Ond hwyrach, wedi'r cyfan, mai brawdd- eg wedi ei beathycio o'r awdl fuddugol ar y Beibl," a'i chyfieithu i'r Saesonaeg, yw y frawddeg a lefarodd Gurnos yn Nghaerdydd!, sef, "The Bible is not a code of laws, but a book of principles," a'i fod yntau yn hofran gymaint yn. awyr dychymyg barddonol, fel mai ofer dysgwyl gan geiliog y gwynt un eglurhad neu amddilfyn- iad i ddim byd a ddywedir gauddo, a'i bod ya fwy cydnaws a'i feddwl gwamal a clychymygol i ddwrdio yn gellweirus nag ateb yn foneddig- aidd. Gallem yn hawdd edrych heibio iddo tra yn difyrn ei han ac yn ymogoneddu yn ei ateb- iad wotdd-be sarcastic, a maddeuem iddo yr un mor rhwydd tra yn credu ei fod wedi llwyddo i roddi brathiadau ysgoipioniiydd i Frythonfryn j ond, atolwg, paham y ilarfu iddo osgoi ateb y gofyniad ? Hyd nes yr atebo, bydd ei gellweir- iaeth fel clindarddach drain dan grochau, Mae lie i ofni mai brawddeg wedi cael ei bodolaeth yn nghymydogaeth ei ddychymyg dilywodraeth ydyw, ac, ysywaeth, mae lie i ofni fod gormod o'r ysfa ddychymygol yma yn ffynu yn yr oes oleu lion. Ond gormod o beth ydyw gadael i ddychymyg beirddion i geisio gwneyd gair DllW yn syifaeii iddynt i adeiladu en ohwedlau clychymygol. i r hyn sydd yn ein poeni fwyaf ydyw fod yma ddwy blaid—y naill yn dadleu mai "code ot laws, a'r llall mai book of prin- ciples," yw y Beibl, a'n cais at Frythonfryn ydyw, a fydd ef cystal ag ysgrifenu rhyw benod neu ddwy i'r GWIADUARWH mewn ffordd o feirn- iadaeth neu ddadansoddiad ar y frawddeg, yr hyn a rydd foddlonrwydd i lawer yma. ¡:" TRAIIAERN. Craigcefiiyparc, ion. laf, 1889.
AWGRYM AT BTVYLLGOR EISTEDDFOD…
AWGRYM AT BTVYLLGOR EISTEDD- FOD DEHEUDIR GYMRU. Dichon y meddyliwch osod cystadleuaeth i seindyrf prt-s yn yr Eisteddfod ddyfodol yn Abertawe. fel y gwnaetkoch yn Nghaerdydd, felly camatewcli i mi awgrymu y priodoldeb o ddewis professional bandmaster enwog ya feirniad ar y cyfryw. Feallai y byddai enwi y rhai canlynol ya ranteiaiol i chwi i wneyd. detholiad, set y Meistriaid Winterbottom, o'r Royal Artillery; Sidney Jones, Leeds; Glad- ney, Manchester; Godfrey, o'r Grenadiers; yn nghyd a dau frawd yr olaf-y naiil a ar- weinia seindorf v Golddream Guards, a'r llall seindorf un o'r Life Guard*. Credir gan. lawer y byddai cael gwasanaeth uu o'r rhai uchod, neu eu tebyg, yn sicr o ddwyn a.mryw I s eindyrf i'r gystadleuaetli. REX.