Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Eisteddfod Flynyddol Gwaencae-I…

News
Cite
Share

Eisteddfod Flynyddol Gwaencae- I gurwen. Cynaliwyd yr Eisteddfod uchod ar ddydd Nadolig fel arfer. Beirniad y canu, y fardd- oniaeth, &c., Mr. Rowlands (Asaph Glan Dyfi). Wedi etbol J. Hay, Ysw., i'r gadair, a chael araeth ffraeth ar ddaioni Eisteddfod- au, &c., awd yn mlaen yn y drefn a ganlyn -Canu "Fy Mlodwen;" goreu, R. Williams. Beirniadaeth 11 Englyn Beddargraff i Eben Morris goreu, Gwydderig. Deuawd, Stop ar mixio Saesnaeg goreu, J. Jones a W. Evans, Brynaman. Beirniadaeth y ddau Englyn i argraffwasg D. L. Moses; goreu, Gwilym Curwen. Canu Mai (J. Thomas); goreu, Cor Moriah, dan arweiniad J. Wil- liams. Beirniadaeth y "Crynodeb o Hanes OdyddionDosbarth Curweu;" goreu, Jonah Evans. Chwareu Ap Siencyn," gan Fife and Drum Bands; goren, Band y Wain, dan ar- weiniad Mr. John Evans. Beirniadaeth "Can o glod i'r Parch. John Jones, Carmel, am ei ffyddlondeb gyda'r Bible Class;" goreu o saith Watcyn Wyn. Mae delw Mr. Jones i'w gweled yn y gan. Canu darn ar y pryd yn y Tonic Solfa goreu o lawer, John Evans a'i gyf. Beirniadaeth y Traethawd ar y Proffwyd Jonah wyth yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Ninefead ac Adolphns. Beirniadaeth y 60 llinell i'r Goedwig 11 yn y gystadi- euaeth, ond y goreu oedd Gwydderig. Adrodd Eisteddfod Nadolig," o Ganiadau D. Mor- ganwg rhanwyd y wobr rhwng Wm. Evans, Thos. Evans, a Billy Evans. Cystadleuaeth gan rai dan 15 oed mewn ysgrifenu Englyn ar y pryd naw yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Un o Gwmllynfell, Camber Evans, a M. Williams. Cofied y blaenaf am y charge. Cystadleuaeth y solo bass "Cymro" (Emlyn Evans) goreu, John Evans. Beirniadaeth y Llythyr caru gan ferch at fab saith yn tynu am y clod. Elizabeth Davies, Baili Glas, ddaeth yn mlaen i dderbyn y cwd, yn cyn- rychioli un Miss J. Jones, nis gwyddom o ba Ie. Canu Comrades in arms;" un parti yn tynu am y dorch, sef Parti o Gibeah, dan ar- weiniad Mr. T. Howells, yn wir deilwng o'r wobr. Cystadleuaeth y prif destyn cerddorol; un cor yn cynyg am y gadair, sef Cor Siloam, Brynaman, dan arweiniad Mr. Wm. Hopkin. Cafwyd datganiad bendigedig ganddynt, yn llawn werth yr aur a'r gadair, y rhai a dder- byniwyd gan Mr. Hopkin gydag uchel gymer- adwyaeth. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderch- og, dan lywyddiaeth Mr. Edmund. Gwasan- aethwyd gan Asaph Glan Dyfi, Miss Smith, Mr. LI. Thomas a Mr. P. Thomas (Ystaly- fera), Mr. Daniel Howells, Mr. John Evans, a'r Drum and Fife Band o Wauncaegurwen. Yr ydym ni, fel ardalwyr y Waun, yn teimlo yn ddiolchgar i J. Hay, Ysw., am gyf- ranu punt tuag at dreuliau yr Eisteddfod.— Boil o'i- fVaun.

[No title]

Eisteddfod Libanus, Dowlais.

PIGO LLOGELLAU XN NGHAERDYDD.

CYNYG AM HUNANLADDIAD YN FFOREST-OF-DEAN.

CICIO DYN I FARWOLAETH.

Y DIAFL-BYSQODYN.

MAEWOLAETH MR. HEPWORTH DIXON.

[No title]

"AT Y BEIRDD.

ER COF AM

Llofruddiaeth Dynes yn L'erpwl.

Y Rhyfel yn Neheudir America.

Advertising

POB BLYCHAID GWERTH GINI!\

Advertising

IEisteddfod Flynyddol Treherbert.