Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Ap Corwynt.—Yn gyntaf oil, dymunaf gyf arch beirdd allenorion Morganwg a Mynwy, ac oddiyno i lawr i Lanelli, at Deheufardd, Calfin, Ifor Wyn, ac Eryr Glan Lliedi. Daeth i Aberdar, ddydd Nadolig a thranoeth, hufen beirdd y wlad, neb arogen na'r brawd fardd hyfedr o'r Groeswen, sef Gwilym Elian, yr hwn, am dalent a serchlonedd, sydd yn addas i'w resu yn mysg beirdd goreu Gwalia. Y mae ei ddyn oddiallan yn treulio yn noble iawn. Yn mhen ychydig wedi ei gyfarfod ef, daethom i gyffyrddiad a'r tad barddol, Dewi Wyn o Essyllt, yn edrych mor hoew ag -erioed, ar ol y brwydrau diweddar. Ni welsom 61 yr un assegai ar ei gyfansoddiad, ac yr ydym yn credu ei fod ef yn shot-proof. Daeth i Aberdar hefyd lu mawr o feirdd a llenorion i wrando Blodwen, sef Dyfnwal Dyfed, o Rymni Hywel Morganwg, o Heol- geryg, ac amryw ereill. Dysgwyliem weled y bardd cyhyrog Mabonwyson, ac yn ol y rhag- ddysgwyliad, mai efe fuasai yn fuddugol ar y g&n ddigrif i "Glicy Bont" yn Eisteddfod Cymrodorion y Goron ond mae'n debyg na chafodd hwyl ar ei awen. Deallwn mai Emlvnfardd gurodd ar y Ddaear yn Nhre- herbert, a'r brawd Gwrhyd Lewis enillodd ar Anfarwoldeb yn Eisteddfod Calfaria. Cor Cap Coch enillodd y brif wobr yn yr un Eis- teddfod. Y mae y cor hwn yn dyfod yn allu peryglus mewn cystadleuaeth, a rhaid i'r cantorion ymroi ati pan yn ei gyfarfod. Can- wyd gan amryw feirddion ar Glic y Bont," ac efallai y cawn weled y ddwy gerdd fudd- ugol cyn hir ond clywsom y penillion can- lynol, ac efallai na fyddant yn annerbyniol gan ddarllenwyr y GWLADGARWR tuag adeg y gwyliau yma:- Mae Senedd Clic y Bont o hyd Yn eistedd haf a gauaf- .Gwell lot o fecligyn yn y byd Na'r lloer ni cheir mi w'rantaf; Arwerthwyr, siopwyr, Derwydd mawr, A phob rhyw gawr a chorach, .Sydd ar y cysegredig lawr Yn 'sgwrsio am draws fantach. Bu Mabonwyson gyda'r Clic Yn gwledda ar gawl a phancos, Ond trow'd ef allan !—dyna dric, A rhedodd fel yr andros Ac yn y Bwthyn Barddol 'nawr Mae'n trefnu ei fawr gyflegrfa, -Gan fygwth chwythu'n garn i lawr Y Clic a'u dinas noddfa. Mi glywais i fod awdwr Greddf," Yr hon fu'n ddeddf Eisteddfod, Dro yn eu mysg heb gywair lleddf Yn perthyn idd ei hanfod; Myfyriaid hefyd yma gawn Yn 11awn o dan bardd oni, .A bron mewn hwyl ar ambell 'nawn I herio unrhyw Ddewi. Daw achos beirddion Aberdar 0 flaen y Bwrdd Clicyddol; Ond ni cheir yno wyllt na gwar Yn meddu ar Awen farddol; Pob Bryn, pob loan, yn y lie, Nid ydynt ond ebillion, Ac heb eu salach is y ne' 'Nghy wreinwe'r cynghaneddion. Daw beirdd cerubaidd Gilfach Goch 0 flaen y Bwrdd dieisor, Ond ni fydd rheiny a'u rhwysg a'u rhoch Yn hir cyn cael eu hepgor, 0 A phenderfynir yn ddilai Nad ydyw rhai ohonynt A'u Hawen dawdd yn fwy na llai Nag As o flaen y corwynt. I Glic y Bont mi dynaf fi Fy het un dydd a blwyddyn, Can's credu 'rydwyf fod ei fri Yn fwy na hyd abwydyn Gwareder fi rhag myn'd i'w safn, Neu lafn eu cledd i'm taro Os felly, rheda'm gwaed bob dafn, A cnwympaf gan y bendro. Er maint eich awydd, nid wyf fi Yn emvi'r prif-weinidog, Na'r man ringylliaid yno sy', O'r cawr i'r corach swyddog Ond gochel di, y prydydd caib, J Rhag nesu i'w cyfrinach, Neu pair eu llym feirniadol raib It' rygu'n dost a grwgnach. Mae'n debyg mai rhyw David Garrick ydoedd yr awdwr. John Cobler Jones.-Wel, dyna ddigon o farddoniaeth am un haner blwyddyn. Dewch a rhywbeth mwy sylweddol tuag at fara a chaws. A oes rhyw newydd gwerth ei gry- bwyll 1 Tomos Bedyddiwr Jones.-Oes. Mae y brawd Gurnos Jones wedi troi yn Fedyddiwr, ac yn nghyswllt a'r hysbysiad am y ffaith yn Seven Cymru, y mae hefyd grvbwylliad ei fod yn barod i draddodi ei ddarlithiau yn unrhyw le y gelwir am ei wasanaeth. Y mae ganddo ddarlith enwog ar y "Corn Laws," yr hori a draddododd yn Nhreorei tua thair blynedd yn ol, a byddai yn gaffaeliad i'r wlad i glywed hono. Ni chafwyd esboniad mor effeithiol a chlir o'r "Corn Laws" oddiar ddyddiau Cobden ag a gafwyd y noson hono, ac yr ydym yn gobeithio y ca wahoddiad i'w thraddodi eto yn mhob tref a phentref trwy Gymru. John Clebryn Jones.-O, mae Gurnos yn un o ddoniolaf blant gwragedd, ac y mae wedi llwyddo i gael allan nad yw y Beibl yn code of laws. Tebyg fod yn rhaid iddo gyfan- soddi awdl newydd ar y Beibl" eto, gan fod ei farn ar rai ranau ynddo wedi newid oddiar 1874. Lewis Percyn.-Nid wyf fi yn prisio dim whithryn am bethe fel hyna. Dewch i ni, yn enw pob peth, gael rhyw hanes am fasnach, ac am helynt y byd, yn wleidyddol, breninol, a chymdeithasol. A oes rhyw newydd dda o Affghanistan a'r lleoedd hyny ? John Scelffyn.-Nac oes. Dim ond fod ein pobl ni mewn dwfr poeth yno, a wyddis dim ar wyneb daear las ffordd y try pethau. Mae'r Tories wedi cael tamaid yn Sheffield trwy etholiad Mr. Waddy, ac nid yw hyny yn ddim ond rhagarwydd o'r hyn a gant eto pan ddaw yr etholiad cytfredinol. Y gwir am dani yw hyn—ni fu y fath high-handed policy yn bodoli yn y wlad hon er dyddiau Harri yr VIII. Y mae Beaconsfisld wedi bod yn gwneyd fel y mynai efe, a hyny hyd yn nod heb ymgynghori a'i gydswyddogion. Ond mae tro ar fyd i fod, ac fe ddaw'r tro hwnw cyn pen blwyddyn mwy fi goeliaf. Evan Labrwr. — Wel, mae'r amser yn gwella, a phob argoelion fod y gweithfeydd haiarn a glo yn cychwyn tuag i fyny. Pobl Rhymni yn gweithio yn gyson iawn, a Chwm- tawe yn llawn bywyd. Cwm Rhondda hefyd, meddir, yn well nag y bu. Rhaid terfynu'r cwrdd gyda dymuno i holl aelodau y Coleg, a holl staff a darllenwyr y GWLAD- GARWR, flwyddyn newydd dda, yn ddisebon a dilol.

Llith y Postman.

Y BARDD."

Y PLU BEN THY a ETO.

J\1IR. ISAAC THOMAS, UNDERTAKER.

ARAETH MR. GURNOS JONES YN…

GLOFEYDl) YR OCEAN.

AT BWYLLGOR Y OOB MAWR.

AT YSGRIFENYDB EISTEDDFOD…

NODIADAU 0 L'ERPWL.

Masnach yr Haiarn a'r Glo.,