Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GWEN OR FELIN,

News
Cite
Share

GWEN OR FELIN, Neu Y Golledig wedi ei chael." WOFEL FUDDTJflOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DEHEUDIR CTMBTT, 1879. PENOD V I. (Parhad). Aeth Mari i newid ei dillad, ac y mae 1 Gwen yn ei haros i fyny y grisiau. 0 Mari anwyl! y mae rhyw hen ddyn a golwg gas iawn wodi d'od yma-y mae yn eistedd yn y parlwr. Yr wyf bron yn sicr mai yr offeiriad sydd i'n priodi ydyw. 0! beth a wnaf ? Mi a'i gwelais ef yma o'r blaen, ond ni welais ef o'r blaen yn ei wisg swyddogol megys offeiriad fel y mae yn awr. Oeh fi! 0 Owen anwyl! pa le yr wyt ti ? 0 nefoedd fawr, tru- garba wrthyf, a danfon Owen yma "Y mae y nefoedd yn ei hamser a'i ffordd ei hun yn sicr o dd'od ag ymwared, anwyl Gwen." Meddyliodd Gwen am ffoi i rywle, ond darbwyllodd Mari hi beidio, ac am ym- ddiried yn Nuw, ac y buasai mwy o berygl mewn ceisio ffoi nag wrth aros yn y ty. u Yr wyf wedi llwyddo, anwyl Gwen, i daflu y briodas yn barod yn mhellach o dipyn na'r pryd y bwriadasant hwy iddi gymeryd lie. Ymdrechwch chwi ym- ddangos yn foddlon hollol i briodi, oblegyd thai hi ddim yn y byd i ni ein dwy ddangos un gwrthwynebiad i'r fath ddyn- ion ag sydd genym i ymdrin a hwy; ac yn mhellaeb,- Atolwg, foneddigesau, maddeuwch i mi; mi a gamsyniais yr ystafell. Gofalaf na wnaf y camsyniad eto. Myned i ys- tafell arall a fwriadwn, i newid dillac*. Y mae yn ddrwg iawn genyf am y camsyn- iad." Galwodd Trefor ar Gwen ddyfod i'w ystafell ef. Wedi ei myned yno, anerch- odd Trefor hi "Gwen, tybiaf y gwyddoch beth yw dyben yr offeiriad yma y tro hwn." Ni ddywedodd hi yr un gair. "Gwyddoch fy mwriad gyda golwg ar Sam a chwithau. Dywedais wrthych o'r blaen; Did oes eisieu siarad llawer yn awr, ond gweithredu. Y mae yr offeiriad wedi d'od yma i'ch priodi chwi a Sam, ac yr wyf yn eich cynghori i ymddwyn yn ddoeth a gweddus. Gwnewch eich hun yn barod mor gynted ag y medroch. Gwisg- weh yn bert 'nawr, 'ngeneth anwyl i." Mi a wn fod eich ewyllys chwi yn gyfraitb, ond nis gallaf fi garu Sam byth. A gymer ef y fath un yn wraig-un nas gall byth ei garu ?" 11 0 1 chwi a ddeuwch i'w garu wedi dechre' byw gyda'ch gilydd." "Gadewch i fi gael amser i wisgo yn brydferth, ynte, yn lle'm bod i yn edrych yn hyllach na mi fy hun." Nid oes amser lawer yn eisieu i wisgo, gallwn feddwl." Gadewch i mi gael amser hyd y pryd- nawn neu yr hwyr?" Cewch hyd bedwar o'r gloeb, ynte- byddwch yn barod erbyn pedwar. Cewch weled y bydd Sam yn wr tyner a charedig i chwi, a byddwch y foneddiges harddaf a mwyaf anrhydeddus yn y wlad yma." Yr oedd einio i fod yn barod am dri. Ond daeth tri, eithr yr oedd y cig heb haner digoni. Yr oedd yn bump o'r gloch cyn gorphen ciniawa. Yr oedd Trefor yn rhegu diweddarwch y cinio, a Sam yn mellditbio gyrwr y cerbyd a'i dygodd adref, ac yn cyhoeddi anathema ei ddig ar holl geffylau y wlad, oherwydd yr hyn a wnaeth ceffylau gwestdy Caernarfon i oedi ei briodas. B'le mae Gwen ? Yn awr, brysiwch, Gweuo fach; y mae yr amser drosodd er's meityn!" Daw yn y mynud yma," ebai Mari. O'r diwedd, daeth. Y mae yr offeiriad ar ei draed, a llyfr y gwasanaeth yn agored yn ei law. Ar waith yr offeiriad yn agor ei enau, dyna swn carnau ceffylau yn y buarth tuallan i'r drws. Os mai dyn ar neges Bydd hyna," ebai Trefor, "dywedwch wrtho am aros, Mari. Ewch chwi, Jerome, yn mlaen a'ch gwaith." Ond nid ai yr offeiriad ddim gair yn mlaen. Syrthiodd y llyfr o'i law i'r llawr, ac haner syrthiodd yntau yn ol ar y faine oedd y tu cefn iddo, a mwngialodd with ei hun ryw eiriau Lladin nad oedd neb yn y ty ond ei hun yn ei deall. Gwelodd trwy y ffenestr wr yn disgyn oddiar ei anifail— gwr a'i wisg a wnaeth iddo ddychrynu, a'i dafod i lynu wrth daflod ei enau. Y foment nesaf, agorwyd y drws yn ddi- seremoni gan ddyn mawr o edrychiad awdurdodol a ffrom-dyn tua thri-ugain oed. ".Memento Mori," ebai y gwr dyeithr, gan daflu edrychiad treiddgar o amgylch ar bawb yn y ty. Ar hyn, yr oedd Jerome yr offeiriad bron methu anadlu gan ddychryn yn y cornel, ac yn chwysu gan fraw. Yr oedd pawb ereill yn methu deall y peth. Dy- chrynai Sam a Trefor wrth weled Jerome yn dychrynu. Anerchodd y gwr dyeithr Jerome fel hyn:- Darllenwch y llythyr hwn oddiwrth yr esgob, a thynwch eich gwisg offeiriadol oddi am danoch, a rhoddwch hi i fyny i mi. Amos Crispin, yr hwn a elwir weith- ian yn Jerome yr offeiriad, yr ydych wedi troseddu trosedd mawr-y fath fel na ellwch fod mwy yn offeiriad." Pan dd&rllenodd Jerome y llythyr, a gweled yr enw oedd ar ei waelod, llefodd allan :— Oh, Miserabilis Y mae fy swydd wedi ei chymeryd oddiarnaf. Gwae fi Yna, tynodd ei wisg swyddogol oddi am dano; ac yna, yn mhen pum' mynud, yr oedd swn carnau march y gwr dyeithr yn diflanu yn y pellder. Effeithiodd geiriau y gwr dyeithr a'r llythyr oddiwrth yr esgob ar Jerome fel pe buasai wedi derbyn o cenadwri o'r bedd neu o fyd arall. Jerome," ebai Trefor, beth ydyw pethau fel hyn ? Beth y mae hyn yn dda ? Pwy oedd y dyn rhyfedd hyna? Ai ysbryd o fyd arall ydoedd? Pa'm nad ewch chwi yn mlaen a'r priodi ?" Nis gallaf yn awr. Dewch o't neilldu am fynud, i ni gael siarad wrthym ein hunain. Dyna, cauwch y drws! Yn awr, Trefor, yr ydych wedi magu gwiber yn eich mynwes. Y mae genych fradwres dan eich cronglwyd. Nis gallaf fi mwy gyflawni y seremoni o briodi neb. Y mae yr esgob wedi cymeryd fy swydd oddiarnaf." Oni ellwch ddweyd ychydig o eiriau a'u gwnant yn wr a gwraig ?" Byddai hyny i mi yn waeth na marw ei hun, Trefor! Na, nis gallaf; nid wyf mwyach yn offeiriad. Yn awr am y frad- wres. A ydyw eich morwyn yn adnab- yddusa rhyw offeiriad yn y parthau hyn ?" Ydyw a Jones, offeiriad Llanllyfui." Ha! dyna hi. Y mae Jones a'r esgob yn gyfeillion mawrion. Yr oeddent yn y Brif-ysgol yr un pryd. A wyddai y fenyw yma-y forwyn-fy mod i yn d'od yma ?" Gwyddai. Dywedais wrthi, ac ym- ddiriedais ynddi yn nghylch y cwbl, a dywedais adeg y briodas." "A fa hi yn Llanllyfni wedi i chwi dlweyd wrthi am adeg y briodas, a fy amcan inau yma ? Do, ac yr oedd mewn awydd mawr am fyned hefyd." Oedd, y mae yn debyg. Mi a glywais y ddwy yn siarad a'u gilydd yn union wedi i Sam dd'od adre' bore' heddyw, a mi a aethum yn ddystaw at ddrws yr ystafell. Mi a glywais lawer o bethau ac yn mysg pethau ereill, penderfynent achosi oedi y seremoni hyd y gallent. A chlywais Mari yn dweyd ei bod yn dysgwyl cyn nos rywun a allai atal y briodas." Neidiodd Trefor ar ei draed mewn llid- iogrwydd gwallgof, a dechreuodd ei ffordd allan o'r ystafell i gael ymosod ar Mari, ond rhybuddiodd Jerome ef: — Byddoch yn ddoeth, ffrwynwch eich natur, onide bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Mi a drefnaf eto ffordd i chwi, a'u priodi mewn llai na phedair awr ar ugain. Peidiwch dongos i Mari eich bod yn drwgdybio dim ei bod hi yn fradwres; ond gofalweh beidio ym- ddiried ynddi eto. Os rhoddwch chwi haner cant o ddarnau aur i mi i'w rhoddi i wr ag awdurdod ganddo, bydd pob peth yn iawn." "Gwnaf yn rhwydd-gant, os bydd angen." Cofiwch roi ar ddeall i'r merched eich bod wedi rhoddi i fyny y bwriad-am ryw gymaint o amser, beth bynag. Daw y g, r arall yma mewn ffug-wisg, ond gwr o urddau Eglwysig a fydd, cofiwch. Bydd yma yn fore' yfory." A i dwyf i dalu i chwi hefyd y swm a soniais ?" Wel, wrth gwrs Oni welwch fy mod wedi colli fy swydd wrth geisio eich helpu!" "Eithaf da; chwi a gewch yr arian. Daliwch eich llaw, a rhifwch. Dyna nhw, on'te?" Ie, a diolch yn fawr. Bydd yr offeir- iad arall yma mewn nug-wisg—gwisg ffirmwr-yn mhen pedair awr ar ugain. Dydd da." "Dydd da." (Pw barhau).

Beth a ddywed Astrea am Dewi…

[No title]

Masnach yr Haiarn a'r Glo.,