Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Fy Ymweliad a'r Gogledd.
Fy Ymweliad a'r Gogledd. Y mae rhyw bump pone odditanom yn cael eu gweithio, yr hyn sydd yn gwneyd y rhai sydd yn gweithio ar y pone isaf tua chan' Hath islaw yr arwynebedd lie Bafwn. Y mae edrych i lawr i'r dyfnder eangfawr hwn yn creu arswyd yn ein mynwes, ac yn dwyn i'n cof yr englynion hyny o eiddo'r bardd :— Mewn peryglon union &nt Oil i'w gwythi lie gweithiant. Rhywrai sydd ar seddau,-ac ereill Tra gwrol wrth raffau; Y bywion hyn, heb wanhau, Y'nt hollol i wneyd tyllau. Pob pen awr, rhwydd gawr ddig61,—a adgan Rybudd udgorn uchel; A'r gv/fr sionc, drwy gywir 8&1, A fyn iach fan i ochel. Ar chwaliad, o'r uchelion,-y lluchir Llechau i'r gwaelodion; Ac fel ffrwydrau brwydrau bron Yw'r godwrf o'r ergydion. Tuag at godi y llechau a'r ysbwriel o'r ponciau yma islaw yr arwynebedd, y maent wedi suddo pyllau ychydig bellder oddiwrth y chwarel, a gwneyd ffyrdd tanddaearol i gludo y cwbl at waelodion y pyllau yma. Credwyf i mi gyfrif tua haner dwsin o'r pyllau yma, megys un at bob pone, pa rai a weithiant gyda gorbwysiad dwfr (balance pits). Tybed fod y darllenydd yn barod i ofyn ynte, pa le mae y dwfr yma yn myned ar ol ei ollwng allan ar y gwaelod ? Wel, y mae yma yn nghrombil y ddaear beiriant aruthrol o faint- ioli, a elwir ganddynt yn. hydrolic-engine, yn gweithio yn barhaus i godi pob dwfr allan o'r chwarel. Saif y peiriant hwn i lawr yn y dyfnder o tua 80 Hath, ac y mae yn codi allan naw tunell o ddwfr bob mynud, yr hwn sydd yn rhedeg allan am yn agos ddwy filldir o ffordd, gan arllwys i Afon Ogwen, ger y lie a alwant Y Scrafell." Y mae yma amryw beirianau ereill yn gweithio ganddynt, megys peirianau tyllu, peirianau at naddu y llechau, ac ager beirianau i gludo y ceryg o'r chwarel i'r Felin Fawr, lie maent yn eu naddu a'u trin, &c. Wrth ddychwelyd yn ol o'r chwarel, yr ydym yn teimlo yn dra llawen, wedi cael y fath dreat a gweled un o brif rvfeadodau y byd. Gormod fyddai darlunio y cwbl. Am hyny ni a'i gadawn yn bre- senol, mewn hyder cael cyfleusdra rhyw dro eto i sylwi ar rai pethau ag yr hoffem gael rhagor o amser i fanylu arnynt y tro hwn. Y peth nesaf a dynodd fy sylw ydoedd y mynyddoedd uchel sydd gerllaw. Oddeutu pedair milldir i'r de-ddwyrain i Bethssda saif y mynydd enwog hwnw a elwir CARNEDD LLEWELYN, yr hwn yw y nesaf am uchder i'r Wyddfa yn Ngogledd Cymru. Yn ol "Cliffe's Book of North Wales," saif 3,469 o droedfeddi uwch- law gwastad-linell y mor. Teimlem awydd mawr i fyned i'w ben, ond yn gymaint a bod y tywydd yn dra anffafriol, penderfynasom mai gwell peidio, ac ymfoddloni yn unig ar gael golwg ar ei gopa yn awr ac eilwaith yn dyfod i'r golwg drwy gliriad y niwl. Adrodd- wyd i mi lawer o chwedleuon am y peth hwn a'r peth arall, a fyddent yn bur ddyddorol pe medrwn eu cofio a'u hysgrifenu yn y fan yma. Ond rhaid gadael y ewbl ar ol, a brysio yn mlaen gyda dweyd ein bod wedi cael mwyn- had anarferol y ffordd yma o Gymru. Y mae yn Methesda ddynion mor garedig a pharod 1 wneyd ymwelydd dyeithr mor gysurus a -chartrefol, fel nad oes modd gollwng eu caredigrwydd dros gof. Nid oedd dim yn ormod ganddynt i'w wneyd er daugos yr holl ryfeddodau o amgylch ond er yr holl roesaw caredig, rhaid oedd eu gadael gyda diolch yn unig am y cwbl a dderbyniais. Ie, dylaswn grybwyll fod y Parch. Mr. Rowlands, gynt o Lansamlet, yn byw mewn tf prydferth a hardd yr olwg, ynffinio braidd A'r ty lie yr oeddwn i yn aros. Clywais eu bod, fel teulu, oddicartref y dyddiau hyny. Yr oedd yn llawenydd calon genyf glywed y fath ganmoliaeth uchel i Mr. Rowlands, fel cymydog a phregethwr, gan bobl Bethesda. Wel, dyma foreu dydd Iau wedi gwawrio. Rhaid parotoi yn awr i gychwyn am Borth- aethwy, er bod yn Eisteddfod Mon heddyw. Wedi cael boreufwyd blasus, cychwynasom o Bodlondeb am Bethesda, er cael cerbyd i'n cludo i Bangor yr un ffordd ag y daethom, pellder o bum' neu chwech milldir. Erbyn cyrhaedd Bethesda, yr oedd yno ugeiniau yn aros am gerbydau er myned i'r un cyfeiriad a minau, ac yn gymaint ag fod genym amser i aros ychydig i'r cerbydau ddychwelyd o'u siwrnau gyntaf, aethom i gael hamdden i ar- grandy Mr. W. Mark Owen. Cawsom yma bob sirioldeb gan Mr. Owen, ac ymgom ddifyr am Bethesda a'i hamrywiaeth ryfedd- odau. O'r diwedd daeth y cerbyd, ac wedi esgyn iddo nid hir y buom cyn cyrhaedd henafol ddinas Bangor. Dim amser isyiwi fawr ar ddim yn awr ond ar ein cyfer i'r orsaf. Saif Gorsaf Bangor mewn lie tra rhyfedd ar y cyfan, sef rhwng dau durmd. Nid oes o'r naill ben na'r Hall o'r esgynlawr ond ychydig latheni cyn bod yn anturio i'r tywyllwch tanddaearol. Wedi aros ychydig, daeth y gerbydres, fel earff o'r ddaear, i'r orsaf. Ninau a eugynasom i'r cerbyd ond cyn cychwyn o'r fan, adroddodd rhyw fardd a eisteddodd yn fy ymyl yr englyn a pnlyn Ffordd chwithig, ffyrnig, uffernawl-i deithio Yw'r hen gledrffordd swynawl; Rhedeg y mae'n anrhydawl— Offery* du fel ffroen a 1. Gallasem feddwl, wrth ei iaith yn siarad, nad oedd yn hoffi teithio y ffordd hono, am fod cynifer o dwnelau ganddo i fyned trwyddynt. Modd bynag, chwibanodd y peiriant, a ffwrdd â. mi, "trwy fol fy mam" (chwedl Nathan), am Monai Bridge, sef yr orsaf ttesaf. Disgyn jraia, a chyfeirio ein camraa tua oir Fon, drow Boat Menai. (Tvi hmrkmtLj
Adolygiad ar Oratorio " Joseph…
Adolygiad ar Oratorio Joseph (Dr. Macfarren). GAN EEES EVANS, ABERDAR. Unwaith eto yr wyf yn ymdrechu gwneyd math o adolygiad ar y dreithgan uchod o eiddo Dr. Macfarren, gan obeithio y bydd o ryw les i'r cyfryw a deimlant ar eu calon i ddyfod i wrando y perfformiad ohoni y Nad- olig nesaf yn Aberdar. Yr wyf yn gwneyd hyn ar gais amryw, gan y dywedant iddynt dderbyn lies oddiwrth fy ymdrech y llynedd yn adolygu yr Elijah." Diau fod y gwran- dawr yn gallu mwynhau y perfformiad yn well wedi cyfarwyddo ychydig yn y gwaith yn flaenorol; o'r hyn leiaf, dyna fel y byddaf yn teimlo fy hun. Cydnabyddir Dr. Macfarren y prif ddysg- awdwr ag sydd yn fyw yn y deyrnas hon, ac y mae y dreithgan hon y drydedd o eiddo yr awdwr galluog. Gellir dweyd fod y cyfan- soddiad hwn wedi ei^eithio allan ar gynllun hollol wreiddiol, ac yn un o'r cyfansoddiadau mwyaf celfyddydol ag sydd eto wedi ymddang- os; yn wir, y mae mor glasurol nes y bydd yn rhaid cael clust a gwybodaeth y gwir gerddor cyn y gellir ei werthfawrogi yn iawn, er fod rhanau ohono yn hynod ddestlus a hyfryd i'r*glust, fel y gall yr anwybodus gael pleser wrth wrando. Dr. E. G. Monk, o York, sydd wedi casglu y libretto. Gellir dweyd fod y geiriau bron yn hollol fel y maent yn yr Hen Destament a'r Newydd. Cyfansoddwyd y dreithgan erbyn y Leeds Musical Festival, yr hon a gynaliwyd yn mis Medi, 1877 a chafodd ei pherfformio wedi hyny yn Llundain a Norwich y flwyddyn hon; ac am y tro cyntaf yn Nghymru per- 'fformir hi yn Neuadd Ddirwestol, Aberdar, y Nadolig nesaf, gyda cherddorfa broffesedig gyflawn, dan arweiniad galluog Mr. E. G. Woodward, Gloucester. Y gwahanol gymer- iadau a bersonolir ydynt:—Jacob (bass) Reuben (tenor); Joseph, y prif gymeriad (baritone); Benjamin (soprano); y naw brawd (semi.chorus--lleisiau gwrywod) Pharaoh (tenor), yn nghyda soprano, contralto, a chorus; chorus o'r Bugeiliaid, Ismaeliaid, Aifftiaid, a Dewiniaid yr Aifft. Rhan bwysig yn y dreitHgan ydyw y rhan hono a gynrychiolir gan Joseph a'r naw brawd. Y mae yma stirring passages, a bydd yn an- hawdd annghofio yr effaith, os y ceir caniad da. Y mae mor ddramayddol ag y gall fod y mae y brodyr yn cael eu darlunio yn eu heiddigedd oherwydd fod Joseph yn cael ffafr yn ngwydd ei dad—yn cynllunio i'w ladd; Reuben yn eiriol am beidio ei ladd, ond y maent yn y diwedd yn rhoddi ffordd i gynghor Reuben ac yn ei daflu i'r pydew. Y mae Joseph yn y fan yma yn tori allan mewn geiriau fel nad yw yn bosibl a dal heb golli dagrau, gan mor doddedig ydyw y gerddor- iaeth i'r geiriau "ye are not enemies that reproach me then I could have borne it but it is ye men, mine equals, my guides and familiar friends. We have taken sweet coun- sel together, and have walked in the house of God as companions;" ond nid oes dim yn tycio, gwaeddant allan take him and cast him into the pit." Yn y fan yma, wedi gweled nad oedd dim trugaredd iddo i gael oddiwrth ei frodyr, dyma Joseph yn troi at Dduw mewn gweddi. Y mae y gerddoriaeth i'r geiriau "My heart is sore pained within me, and the terrors of defith are fallen upon me give ear to my prayer, 0 God," &o., yn fwy nag y gall un teimlad ystyriol ddal heb golli dagrau. Gwneled y gwrandawr ddal sylw neillduol y fan yma. Gwnawn yn. awr ddechreu ar y Ilyfr. Y mae y rhan gyntaf yn dechreu ac yn diweddu yn ngwlad Canaan. Yr overture yn B aUegro tranquillo yn rhagarweiniad, ac y mae y testyn yn cael ei ailadrodd drwy yr holl dreithgan. Bydd raniad o weithredoedd Joseph yn fanteisiol er mwyn dilyn y score. Mae darlun o fywyd bugeiliaid yn cael ei gyflwyno yn y chorus cyntaf gan y Bugeiliaid, yn y cywair A fwyaf, amser 6.8—corawd ystwyth a phrydferth, yn llawn o felody ar y geiriau "O praise our God ye people, &c." Yn nesaf, rhif 3, y mae Jacob (bass) yn gwneyd ei ymddangosiad mewn c&n cyweirnod o naturiol, ar y geiriau I dwell in the land wherin my father was a stranger," &e. solo syml a naturiol. Rhif 4ydd, deuawd yn ar- ddangos y cariad a'r hoffder oedd rhwng Jacob a Joseph, yn A flat, mewn amser tri- phlyg dechreua Jacob gyda y geiriau:- J OIeph, I love thee more than all my children, for thou art the son of mine old age and I have made thee a coat ol many colours." Y mae Joseph yn Ilawenhau yn yr arwydd o hoffder anianol ei dad, ac yn ateb u My father, I rejoice in thy loving favour all that see me shall count me happy." Y mae hyn yn diweddu yr olygfa gyntaf. Dechreuir yr ail olygfa trwy gynadleuaeth (dialogue) rhwng Reuben a'i frodyr-dyfais sydd yn cymeryd lle-recitative trwy yr holl dreithgan. Y mae eiddigedd y brodyr yn cael ei ddangos yn y semi-chorus pan y mae Joseph yn adrodd ei freuddwydion wrthynt; y mae Jacob yn gweinyddu cerydd i Joseph yn y geiriau What is this dream that thou hast dreamed Shall I and thy mother and thy brethren indeed come to bow down our- selves to the earth ? Take thou thy parent's rebuke." Yna y brodyr yn tori allan mewn eiddigedd ac yn gwaeddi :•—" We hate thee for thy dreams and for thy words;" Jacob yn uno a hwy ac yn dweyd I observe his uying-the sun and the moon and the eleven stars made obeisance to him." Dyma ddull • newydd eto, sef arwain i fewn unawdau an- mhersenol er mwyn llanw i fyny y rhanau yn He dwyn i fewn y cymeriadau rhodda le iddau gymeriad anmhersonol, sef soprano a chonbralto, y rhai a weinyddant fel athronwyr dygwyddiadau cyffredinol; heblaw y ddau organ of public cpMMOtt hyn, oawn hefyd y corawd yn oael ei ddefnyddio i'r un pwrpas. Felly, caws «hon*s rhif 6ed, yn Jr fwyaf (large), atnser cyfOwdin, jm hyfford&ad n*u addysgiad, hefyd yn fugal; y geiriau ydynt y gorchymyn "Honour thy father and thy mother "-corawd mawreddog ac yn gofyn llawer o fedrusrwydd mewn cor er gwneyd eyfiawnder ag ef, yn cael ei olygu fel cerydd i Joseph gyda y public opinion. Rhif 7fed, soprano song, yn y cywair D, yn cael ei olygu yn gerydd i'r brodyr am eu heiddigedd at Joseph, ac yn ddarluniadol neu gymhelliad o frawdgarweh. Ystyria rhai critics y gan hon yr oreu yn yr holl lyfr "Love is strong as death. Jealousy is cruel as the grave. Let us love one another, for love is of God he that loveth not, knoweth not God, for God is love, whosoever hateth his brother is a murderer. Let brotherly love prevail." (Tic barhau.
ABERDAR.j
ABERDAR. DAMWAIN ANGEUOii.— Nos Lun, y 18fed cyfisol, cymerodd damwain druenus le ar reilffordd y Taff Vale yn Aberaman. Yn agos i'r gas works yn Aberaman, y mae pont yn croesi y rheilffordd, ac fel yr oedd un Rees Phillips yn myned adref o Gwmbach i Aberaman, tua 11 o'r gloch, yn lie myned yn groes i'r bont, a groesodd y rheilffordd o dan y bont, ac ar ei waith yn croesi, daeth cer- bydres yn mlaen a'i tarawodd odditani, gan ei ladd yn y man. Saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, a thua 22ain oed. MARWOLAETH DDISYMWTH.—Er's rhai mis- oedd, bellach, y mae lluaws o ddynion yn Aberd&r wedi ffurfio eu hunain yn Christian Mission, fel y galwant eu hunain, pa rai sydd wedi bod ac yn tynu sylw mawr yn y lie, ac yn cael cynulleidfaoedd mawrion i'w gwrando, ac y maent wedi cymeryd adeilad eang at eu gwasanaeth yn Gloucester-street. Boreu dydd Sul diweddaf, cynalient wasanaeth crefyddol yn yr adeilad crybwylledig, ac yn mhlith llawer ereill a aethant i'w gwrando, oedd un Henry Mason, 54 oed, ac wedi iddo aros yno am ychydig amser, canfyddwyd fod rhywbeth allan o le arno, ac wedi myned ato, cafwyd ei fod wedi marw. Bernir mai clefyd y galon oedd arno. NEUADD DDIRWESTOL.—Mewn colofn arall gwelir hysbysiad am gyfarfod a gynelir yn y lie hwn, nos Iau, yr 28ain cyfisol, pryd y tra- ddodir areithiau gan T. B. Fox, Ysw., Y.H., Bryste, a'r Parch. William Mottram, Melk- sham, ar ataliad gwerthiant gwirodydd meddw- 01 ar y Saboth. Cymerir y gadair am haner awr wedi saith, gan y Parch. J. W. Wynne Jones, M.A., ficer y plwyf. Gwahoddir pawb i fod yn bresenol.
CWMBACH.
CWMBACH. Y mae y gweithiau yma yn hynod o araf, a'r swyddogion yn cael eu cyfnewid o dan y P.D.'s yn ami iawn, yr hyn sydd yn golled mawr i rai ac yn enill i ereill. Peth ag yr achwynir arno yn barhaus yn Nghwmbach ydyw diffyg goleu, yr hyn sydd i'w briodoli i ddifaterwch aelodau ein Bwrdd Iechyd. Paham, yn enw pob rheawm, nad ellir cael tipyn o oleu ar hyd yr heolydd rhyngom ag Aberdar, yn lIe ein bod yn gor- fod peryglu ein bywydau wrth ddyfod i fyny wedi'r nos? CYFARFOD LLENYDDOT^.—Nos Sadwrn di- weddaf, cynaliwyd cyfarfod llenyddol gan gyfrinfa Blodeuyn Glan Cynon," o Urdd yr Hen Frytaniaid, dan lywyddiaeth Mr. W. James. Beirniad y rhyddiaeth, Mr. T. Evans, contractor; y canu, Mr. Daniel Owens; arweinydd, Mr. Lewis James. Enillwyd y gwahanol ittobrwyon gan Miss Marian Davies, Mri. Roger Rosser, David Harries, T. David, Daniel Jones, a phartiet dan arweiniaid J. Jones, Carmel, a W. Morgan, Aberaman. Cafwyd cyfarfod difyrus dros ben.-Oohebydd.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. MARWOLAETH MR. EDWARD THOMAS.—Y mae genym yr wythnos hon y gorchwyl gofid- us o gofnodi marwolaeth Mr. Edward Thomas, timber merchant, o'r lie hwn, pa un a gymer- odd le ar y 15eg cyfisol, ar ol ychydig ddydd- iau o gystudd o'r parlys, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn hen fynwent Eglwys Llanwonno. Yr oedd wedi bod yn aelod o'r Bwrdd Iechyd oddiar ei sefydliad, ac hefyd yn warcheidwad dros blwyf Llanwono.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. Dydd Sul, y 17eg cyfisol, ffurfiwyd yn orymdaith oddiwrth Neuadd y Dref, er myned a'r Maer (Mr. Charles, cyfreithwr) i'r Eglwys, yn cael ei flaenori gan y seindorf pres, y gwirfoddolwyr, yr heddgeidwaid, y Cynghor Trefol, a maanachwyr y dref; ac yn eu plith yr oedd yr Anrhydeddus Mr. Gwyn, Dyffryn. Barn pawb oedd mai hon yw y goreu eto. Yr hwn a weinyddwyd yn yr Eglwys oedd Mr. Buckley. Yn y prydnawn, rhoddodd y Maer deisen i bob un oedd yn yr Ysgolion Sabothol y dydd uchod drwy y dref a'r ardaloedd. Llwyddiant iddo medd —Mem/rig.
RESOLVEN.
RESOLVEN. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn nghapel Jerusalem nos Fercher, y 13eg oyfisol, pryd y cymerwyd y gadair gan y boneddwr ieuanc talentog, Wm. Sims, Ysw., cyfreithiwr, yr hwn a lywyddodd mewn modd deheuig. Wedi cael anerchiad gan y llywydd, awd at y rhaglen, yr hwu oedd yn cynwys tri-ar-ugain o ddarnau pwrpasol mewn adrodd a chanu. Cafwyd tair gystadleuaeth yn ystod y oyfar- fod. 1. Adrodd "Pwsi fach," a'r goreu allan o bump ydoedd R. Jones a Wm. Hop- kins. 2. Adrodd Croeaaw gwraig y ty," o Drydydd Cynyg Mynyddog," saith yn cynyg, a D. Evans yn oreu. 3. Araeth ddi. fyfyr ar Bytaten," a'r H bytaten" oreu ydoadd yr un a gafvyd gan D. Duncan a D. Evans. Cafwyd cyfarfod dyddorol iawm yn mkob yatyr. Beirniad yr adroddi&daa oedd Mr. J. K. JQMBJ yr hwn a gyftawnodd ei waith i foddlonrwydd. Bwriada y cyfeillion ieuainc gynal cyfres o gyfarfodydd o'r natur hyn yn, ystod y gauaf hwn. Wedi talu y diolchgarwch arferol i'r llywydd ac i'r beirn- iad, ymadawodd pawb wrth eu bodd. MASNACH.—Araf a difywyd iawn yw y gweithfeydd yn y lie. Nid yw y gweithwyr, druain, yn cael gweithio ond rhyw dri diwr- nod yr wythnos ac yn yr amser hyna, nid ydynt yn enill ond prin digon o fara i gadw corff ac enaid mewn undeb a'u gilydd. Gobeithio y tyr y wawr yn fuan, fel y gallo y tlawd ddweyd ei fod yn cael digon o ymborth a dillad.-E. o. Nedd.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. DARLITH.— Nos Iau, y 14eg cyfisol, cawsom yr hyfrydwch o wrandaw ar y foneddiges enwog hon yn traddodi darlith hyawdl yn nghapel Penuel ar yr Ysgol Sul." Siarad- odd lawer ar gymhwysderau athrawon ac athrawesau fel y cyfryw, ac yn wir deliodd yn dra llym a hwy. Mae yn arw o beth fod yr hen sefydliad anwyl hwn yn colli yn hytrach nag enill tir yn ein plith. Pe cymer- id rhif ysgolheigion Ysgolion Sul ein gwlad am y flwyddyn ddiweddaf a'u rhif driugain mlynedd yn ol, a chymeryd i ystyriaeth gynydd y boblogaeth, gwelid fod tir lawer wedi ei golli. A oes dim modd cael diwygiad ? Credwn pe mabwysiedid cynlluniau ein cyd- wleidyddes abl Cranogwen y ceid diwygiad trwyadl a buan, ac y blodeuai yr hen sefydl- iad bendigedig fel cynt. Y SIGNALMAN ROBERTS.—Y mae yn debyg y bydd enw y dyn hwn ar gael tra pery hanes am ddamwain fawr Pontypridd. Fel y mae yn hysbys y mae i sefyll ei brawf yn Mhrawf- lys nesaf Morganwg, ar y cyhuddiad o Ddyn- laddiad. Y mae ei ami gyfeillion yma mewn pryder mawr yn nghylch ei achos. Y mae yn ddyn diwyd, sobr, a chrefyddol, ac yn un a fawr hoffir gan bawb o'i gydnabod. Y mae yn amlwg ei fod mewn sefyllfa beryglus, ac y mae ei gyfeillion yn gweled hyny, ac yn penderfynu gwneyd yr hyn oil a allont i'w amddiffyn. Cynaliodd ei gyfeillion gyfarfod yn Tabernacl yn ddiweddar i ystyried y modd- ion effeithiolaf er gwneyd hyny. Penderfyn- wyd dewis dadleuwr (counsel) ac y mae yn lied debyg y cyrhaedda y treuliau tua chan' punt. Casglwyd noson y cyfarfod yn agos i chwech punt ar ugain, ac yr ydym yn deall fod arian yn parhau i ddylifo i mewn. Pe dymunai rhyw gyfeillion gynorthwyo y brawd yn ei gyfyngder, derbynir eu cyfraniadau yn ddiolchgar gan y Parch. Mr. Roberts, Taber- nacl, Pontypridd. Wrth gwrs, gwneir yn hysbys pan ddeallir fod swm digonol i gyfar- fod yr amgylchiadau wedi dyfod i fewn. Miss GERTRUDE LEWIS, CAERDYDD.—Y mae yn dda gan ein calon ddeall fod y fon- eddiges ieuanc hon yn cyflym esgyn yn yr awyrgylch gerddorol. Talodd ymweliad yn ddiweddar a'r Brifddinas, a chafodd sylw neillduol yne. Nis gwyddom yn iawn ar ba lwyfan y gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yno ond gan nad beth am hyny, buan y deallodd pwyllgor y Covent Garden Concerts mai goreu po gynted y sicrhaent ei gwasan- aeth, a gwnaethant hyny ar frys. Yr oedd yn argraffedig wedi hyny ar hysbysleni y cyngherddau uchod mewn llythyrenau digon breiaion i un yn rhedeg ei darllen yn rhwydd "Miss Gertrude Lewis, the noted Welsh Soprano will appear to-night." Mae ei gwas- anaeth cyson wedi ei sicrhau yn y Brifddinas o'r laf o Ionawr yn mlaen. Bydd deall hyn yn ddiddadl yn symbyliad i luaws bentyru i Tabernacl yn y dref hon i'w gwrando yn cymeryd rhan yn mherfformiad y chwareugan 11 Navity," ar y 5ed o'r mis nesaf, gan y bydd hwn yn un o'i lacit apperances in Wales.- Oenin.
PORTH.
PORTH. Nos Iau, y 14eg, cynaliwyd cyngherdd er cynorthwyo trysorfa y Porth Drum and Fife Band. Llywydd y cyngherdd y Parch. M. Lewis, Cymer. Gwasanaethwyd gan y per- sonau canlynol:—Mri. T. A. Limbrick, D. Powell, J. E. Jones, P. Grace, T. Foster, W. Griffiths, W. Morley, M. Richards, a'r Porth Harmonic Society, dan arweiniad Mr. Limbrick. Cyfeilliwyd ar y perdoneg yn ei modd arferol gan Mrs. Lewis. Yr oedd yr adeilad yn orlawn. Prif ddifyrwch y pryd- nawn oedd gwasanaeth Mri. Beaumont a Leonard fel dau negro. Canwyd The death of Nelson" gan Mr. D. Powell yn ardderchog, y drum yn taro i arddangos ruad y gynau mawrion. Canwyd canigion digrif mown character gan Mri. Limbrick, Jones, Griffiths, a Richards, yn ddifyrus iawn. Yr oedd y band, y nos hon, yn ei hwyl oreu. Ni fyddai allan o le gael cyfarfod o'r fath eto heb fod yn hir, ac at yr un amcan, oherwydd fod llafur Mr. W. L. Hughes mewn cysylltiad a'r band yn deilwng o'n cefnogaeth gwresog yn nghyd A hyny, mae cyfarfod o'r fath uchod yn werth myned iddo. Gellir dweyd mai dyma yr ail dro i Mr. a Mrs. Lewis yn garedig, a chyda phob parodrwydd, rhoddi eu cynorthwy er lies y hand. Pob llwydd iddynt, a'r boneddigesau a boneddigion uchod, gan ddymuno yn wresog iddynt oil A merry Christmas pan ddaw. Un o'r lie.
PENYGRAIG.
PENYGRAIG. PISGAH.-Nos Fercher, 13eg cyfisol, tra. ddododd y Parch. E. Gurnos Jones, ddarlith ar "Ddirwest," yn y capel uchod R. Row- lands, Ysw., yn y gadair. Yr oedd ei araeth odidog, nos Fercher, yn ddigon i'w brofi yn un o areithwyr penaf ei wlad. Dylai y cym- deithasau dirwestol a themlyddol wneyd yn fawr o'r areithiwr; gall Gurnos fod yn fodd- ion i droi miloedd o feddwon Cymru yn sobr; a da genym ddeall fod amryw o'r cymdeithaa- au dirwestol a themlyddol yn parotoi ar gfrfer gwahodd yr areithiwr i'w hanerch. Y mae ei ddarlithiau yn benaf yn tueddu at oleuo, argyhoeddi, a darbwyllo; ao ni flinwn wrando amo am bedair awr o'r bron. Deall- wn y derbynir gwahoddiadau i Mr. Jones i ddarlithio gan y Parch. Mr. Davies, Town, Penygraig, Pontypridd. Trafoda Mtj J ones y fasnach feddwol, y meddwi, a'r yn eu cysylltiadau teuluaidd, cymdeithasw, anianyddol, &c. Ni chlywaom neb yn tralod y cwestiwn yn fwy meistrolgar a theg, ac afi gyhoeddiadol, didramgwydd, a dyddorol erioed. Clywsom fwy o chwedlau lugrlf. a storlau i wneyd i bobl ddichwaeth i chwerthiD lawer gwaith, ond ni chlywsom gadarnacb ymresymu a thecach dadleu dro3 y pwnc dir- westol. —Dirwestwr.
NODIADAU O'R BWTHYN BARDDOT
NODIADAU O'R BWTHYN BARDDOT TRE-HARRIS.—Y mao y lie hwn YIlIJgod. reu plwyf Merthyr, ac yn ymyl Mynwent y Crynwyr, ac y mae Harris a'i Gyf. yn ddivryd er's blynyddoedd yma yn suddo i'r glo ag. Y maent, bellach, amryw ganoedd o lathed1 lawr. Mr. David C. Jones, brodor o Fryob" einiog, yw y prif ddyn o dan y Cwmni nglyn &'r gwaith. Y mae, hefyd, yn adeilad^ un o'r peiriandai m wyaf yn y De yn bresenol; a chan fod ugeiniau o dai wedi cael hadeiladu yn ymyl y gwaith, a'r lie yn ar gynydd parhaus, y mae hefyd wedi adeiladu un o'r gwestdai mwyaf a harddaf y11 y wlad, yn werth amryw filoedd. Nos Sad- wrn wythnos i'r diweddaf yr agorwyd y? Hotel, a chafodd eich gohebydd awgrym i ganu iddi a chan fod y fath ddaioni wedi ac yn deilliaw i'r lie yn bresenol oddiwrth yr anturiaeth glodfawr hon, a'r rhagolygon aIJ1 y dyfodol mor addawol, cafwyd y canlynol 0 gynyrch yr awen, ar y don Llwyn Onn :'I- Hawddamor, Tre-Harria, a'i gwerthfawr adDoddiU Sy'n denu rhyw luaws o ddynion i'r lie Prif westdy ardderchog fydd enwog am oesau Fel paias sy'n gywrain, addurniant i'r dre'; A Jones, ei berchenog, sy'n Uenwi derch gyIch- oedd, A'i lwyddiant ar gyhoedd ymestyn yn mla'n, Ac er ei addurniant, fe waria rai miloedd. Ei glod ef a'r gweat-dy a ddyrchwn ar gan Ei d6 a'i wych furiau a ddengys gelfyddyd, Ffenestri a drysau a brofa r un peth. Ceir hefyd addurnol, ffasiynol simneiau, A'r mwg a wnant dynu i fyny 'n ddifeth. Tufewn mae y glodfawr, gelfyddgar saerniaetb) A'r gof mewn rhagoriaeth ar gyfer y sydd Mewn arddull ardderchog mae cywrain baenty" iaeth, Yr Aa'r rcchyandleluiln adyyn dd odyiaw et'h n DAraavwieisa, ddodl yin r dmywdydn.loO' Daw bri iddo, weithian, fydd hir ei barhad, A gweithwyr celfyddgar, gwjr enwog o anian, Orphenant y cyfan er clod yn ddiwad. 0 Gymru a Lloegr, daw llawer yn union I wel'd yr hardd fangre-Tre- Harris a'r gwaatP* Bydd gweatdy ardderchog a thlws Navigation Yn lie gwir gysurlon i'r rhai 'n ar eu taith. Gwir lwydd i'r anturiaeth ddymunem ni weitbΰJ), I Ac Harris, ein gwron, prif noddwr y lie, Caed lo mewn mawr lawnder i loni ei galon, A chvsur pawb dynion o dano drwy 'r dre'. 'N ol llnrur a lludded y dydd yn hamddenol. Dltw bnnedd hawddgarpl a. gweithwyr yn ff-cl At J ones, i'w longyfarch am gwrw ragorol, A g-wirod swynhudol tufewn i'r HoteL Mawr lwyddiant i anturiaeth y Cwmni a 1ft. Jones yw dymuniad pawb trwy y life. Mabonwyton.
ABERYSTWYTH. 1
ABERYSTWYTH. 1 "AUCH Y CYFAMOD."—Nos Fawrth, T&#: 12fed, cawsom y fraint o wrando "Arch y Cyfamod," o dan arweiniad f awdwr, Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Mae 1 rhan fwyaf o ddarllenwyr y GWLADGARWR bur gyfarwydd erbyn hyn A'f cyfansoddiM' fel nad ydyw yn fuddiol yn bresenol i wney" sylw ond yn unig ar y perfformiad. Y 00 Aberystwyth wedi ei breintio gymaint chyngherddau o'r radd flaenaf, fel mai øJ gorchwyl hawdd ydvw cael programme dig^ deniadol i dynu "if llawn," fel y dyweflf' Gan fod Mr. Jenkins wedi bod mor bryaur flwyddyn ddiweddaf gyda y eymonfaoe canu, &c., methodd a chael hamdden i dd gyblu cor at hyn o orchwyl hyd yn bremen Fel yr oedd yn naturiol, yr oedd yma tid gwyliad mawr, ac efallai pryder hafyd, f mynwesau lhai, am y canlyniad. Ond I mae yn hyfrydwch genym hysbysu i'r ant iaeth droi allan yn llwyddiant perffaith me^ mwy nag un ystyr. Yn oedd y NeufKjj Ddirwestol wedi ei llanw & chynullei hardd, yr hyn a sicrha i Mr. Jenkins ow pur dda, yr hyn a deilynga. Awd drwy] gwaith yn y drefn ganlynol -.—Picmofor duet, Mri. Griffiths a Price deuawd, Wheatly a Mr. Charles Davies; can, 51 Lucas Williams; cAn a chydgan, 10 Hannah Williams; deuawd, Mri. Lu Williams a D. Jenkina; c&a, Mr. Lu Williams. Yna awd yn mlaen gyda'r canta# Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss Jones. Cymerwyd rhan y Broffurydes ga Miss Hattie Davies; Dafydd, Mr. WiIlia Davies; Offeiriad, Mr. Lucas WilliaIJIS chorus, Cor Undebol Aberystwyth, yn caeM gynorthwyo gan efrydwyr cerddorol y Bri' ysgol. Rhaid i ni gyfaddef yn y fan p? mai dyma y canu cdrawl goreu ydym wedi glywed hyd yn hyn at Aberystwyth. oedd yn hawdd canfod fod y cor wedi myfle: o dan ddysgyblaeth dda. Derbyniwyd -j choruses gyda y brwdfrydedd mwyaf. Y enwau Miss Hattie Davies a Mr. J. Williams yn hollol adnabyddus, fel na bydd"| enwau Miss Hattie Davies a Mr. J. LUO Williams yn hollol adnabyddus, fel na bylads ond afreidiol ynom eu canmol.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGABTI…
MARWOLAETH A CHLADDEDIGABTI MR. WM. MORGAN, CASTLE I FFYNON TAF. Am bedwar o'r gloch, boreu dydd Sadwrj Tachwedd y 9fed, bu farw y cyfaill tawel-p^ Mr. William Morgan, Castle Inu, Ffynon Gallasai dyn dyeithr weled, wrth dyfod trwy Jj ardal, fod peth o bwys wedi dygwydd, gan. rhan o gauadleni ffenestri y masnachdai A cael arcs i'r lan, heb ei tynu i lawr. A dyd«, hir gofir ydoodd Iau y 14eg, dydd yr Yr oedd yr holl ardal yn dwyn tystiolaeth. |( rhywuu mawr, rhywnn a deimlid colled a»" Jn cael ei gludo i dy ei hir gartvof. Cauw/'1^ oil faso^chdai, a'r lleai wedi eu tynu i 1* {jL bob ty o bwys yn Ffynon Taf a ThongWj^j Yr oedd y fath Sort fawr wedi dyfod i'r >■ rwug, pa rai eeddynt yn cyrhaedd yn *1- filltir, toa devgaia o gerbydau, heblaw