Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
FY LLYTHYR OLAF AT Y DIWEDDAR…
FY LLYTHYR OLAF AT Y DIWEDD- AR ANWYLFARDD ISLWYN. CEWRI CYMRU YN SYRTHIO! MR. GOL.Dyma wythnos ddu i feirdd, llenorion, a gweinidogion Cymru. Dydd LInn, bu farw un o lenorion dysgleiriaf y ganrif bresenol, y galluog Mathetes, yn nghanol ei ddefnyddioldeb, cyn cyrhaedd ei oed. Dydd Mercher, hunodd y swynol gadeirfardd Ialwyn, yn ddyn ieuanc mewn cymhariaeth, cyn ei fod yn 46ain oed. A noa '*vener, yn lied annysgwyiiadwy, ar ol cystndd o bum' niwrnod, bu farw y Parch. John Reynolds, Cydweli, mewn gwth o oedran, yn tynu ar ei bedwar ugain ac un ml wyàd oed, wedi gweinidogaethu gyda'r Bedyddwyr am yn agos i driugainemlynedd. Ow fy ngwlad, fy ngwlad Cefaist dy glwyfo yn ddofn yr wythnos ddiweddaf. Wadi darllen sylwadau Islwyn yn y Car- diff Times, ar gyfarfod y beirdd yn Mhont- pridd, danfonais lith fechan ato ar y mater dechreu yr wythnos ddiweddaf. Ymddengys y liith yn ngholofn Gymreig y Cardiff Times, dydd Sadwrn diweddaf—y golofn Gymreig olaf a ymddengya dan olygiaeth Islwyn. Gan mai fy llythyr diweddaf at y bardd ymadaw- edig ydoedd, ac y bydd ei gynwysiad o gryn ddyddordeb i'ch darllenwyr, dichon y cania- tewch iddo gael ymddangos yn eich colofnau. Wele ef yn canlyn LLYTHYR AT ISLWYN. Yr oedd yn dda genyf ddarllen eich syl- wadau galluog ar y cyfarfod uchod yn y Car- diff Times. Ynfy marn ostyngedigi gwnaeth y eyfeillion yn Mhontypridd yn rhagorol. Y gost fawr o adeiladu pavilion sydd wedi llethw braidd bob Eisteddfod a drodd allan yn feth- iant. Gwnaeth Dafydd Morganwg wasanaeth i'r genedl wrth alw sylw at y mater, ac ym- ddygodd y pwyllgor yn ddoeth wrth bender- fynu cynal Eisteddfod 1879 yn y Drill Hall, Caerdydd. Oni fyddai yn well cyfenwi yr Eisteddfod yn Eisteddfod Genedlaethol y Deheudir" (South Wales National Eistedd- fod), yn lie "Eisteddfod Gwent a Morgan- wg 1" Beth mae llenorion a beirdd Dyfed wedi wneyd allan o Ie, fel na chant gyfran yn Eisteddfod 18791 Gobeithio nad ymddyga y pwyllgor mor hunanol a chau y Dyfedwyr allan. Credwyf gyda Mr. Rosser, nad oes angen am gyflogi talent Seisnig ond byddai yn flin iawn genyf i'r pwyllgor gyfyngu eu hunain i'r dalent sydd ar ddwy ochr afon Rymni." Gwir y gwnai Gwent a Morgan- wg Eisteddfod ysblenydd." Ond oni fyddai yn alluadwy, Islwyn, i eangu ei chylch fel ag i gynwys yr oil o'r Deheudir? Gan ddy- muno llwyddiant i Eisteddfod 1879, gor- phwysaf yr eiddoch yn gywir, DEHEUFARDD." Llanelli, Tach. 19, 1878. Da genyf fod y prif-fardd, Dewi Wyn o Essyllt, wedi rhoddi rhybudd am gynygiad i gyfnewid enw yr Eisteddfod. Hyderwyf y bydd i'r pwyllgor, pan gyfarfyddant nesaf, weled y priodoldeb o wneuthur hyny.—Yr eiddoch yn gywir, DEHETJFAEDD. Llanelli, Tach. 25, 1878.
MARWOLAETH ISLWYN.
MARWOLAETH ISLWYN. MR. GOL.Yr oeddem ar haner y daith i'r Ynysddu Tachwedd 21ain, yn myned i ymweled a'r gwr enwog uchod, pan hysbys- wyd ni ei fod wedi marw oddiar deg o'r gloch y nos flaenorol. Dygem iddo osteg o englynion i'r Anrhydeddus Arglwyddes Llan- over, i'w gosod yn y Cardiff Times, y rhai yr anfonwn gopi i chwi eto. Yn anmharod i dderbyn y fath newydd trist, a braidd yn methu credu y gallai fod yn wirionedd, aeth- om rhag ein blaen tua'r Ynys. Wrth ddisgyn trwy y dyffryn coediog tua'r lie, ymddangosai pob peth o'n hamgylch fel yn myned yn fwy prudd, difrifol, a dystaw nid oedd na llais na lief yn un man Vm glywed, ac er fod yr hin ya ddymuixol, a llawer o adar yn ehedeg o gwmpas, ni chlywsom gymaint ag un yn canu. Rhyfeddem am hyn, ond nid ydym yn sicr pa un a'i ein dychymyg ni oedd yn bwrw prudd-der dros y greadigaeth, neu natur oedd yn gwneyd hyny a ni. Beth bynag, cofiem ar y pryd i fwyalchen ddisgyn ar arch un o feirdd Cymru ar lan ei fedd, yr hwn y dywedid a ganasai lawer i'r adar yn ei oes. Yr arwydd cyntaf a gawsom i sylweddoli ein hofnau ydoedd gweled y blinds ar ffenestr t, y Parch. Daniel Jenkyns, brawd-yn-nghy- fraith y bardd. Yn y fan hon daeth gwraig oedranua o 70, feddyliwyf, i'm eyfarfod dan wylo yn hidl; holais, gan gyfeirio at y blinds, pwy oedd wedi marw ? Atebodd, Poor Mr. Thomas, poor Mr. Thomas, indeed sir." "Great loss, great loss for us, indeed sir." Sylwais yn fanylach ar ei gwisg a'i gwedd, a gwraig dlawd oedd hi; holais os oedd yn byw yn y lie, Close by, sir," meddai, gan gyfeir- io i fyny y bryn ac fel esboniad ar ei genau, great loss," great loss," cofiwn i mi yn y gauaf o'r blaen, ddwyn llythyr oddiwrth yr ymadawedig at foneddwr yn y Coed-duon ar ran tlodion yr Ynys. Yr oeddem yn awr yn ymyl y Glyn, a'r wraig a gymerai ofal y corff, feddyliwn, yn sefyll wrth y fynedfa; wedi siarad am ei ymadawiad, a'i ddywediadau yn ystod y dydd, gofynais am gael yr olwg ddiweddaf arno, ac arweiniodd fi yn garedig i'r llofft, a chan dynu yr amdo oddiar ei wyneb, dywedodd Dyma'r anfarwol Ialwyn pe buasai rhywun arall wedi marw, buasai Islwyn yn gwneyd coffadwriaeth dda am dano." Atebais y buasai Ilawer coffadwriaeth am Islwyn. Nid oedd ei wedd wedi cyfnewid ond ychydig, fel yr oedd yn ddigon hawdd ei adnabod. U dwch, ffunydwydd, canys syrthiodd y cedr- wydd." 0 Gymru anwylaf gwlad y delyn a'r awen, uda dithau, canys y mae dy ogoniant yn cael ei fathru yn y llwch, a'th fri yn brysur ymado. Islwyn fawr isel yn ei fedd-heddyw Y cuddir ei fawredd; Bwrw ei ddawn i bridd anedd, I mi mwy fydd fel clwy' cledd. Rhiw Sir Dafydd. ITHEL VYCHAN.
^PENCLAWDD.
PENCLAWDD. ETHOLIAD Y BWRDD YsGOL. —Y mae hwn, bellach, yn agoshau, a sibrydir fod amryw ymgeiswyr newyddion yn golygu dod i'r maes eleni. Nis gwyddom eto eu henwau nes y byddo'r nomination drosodd; ond yr ydym yn deall fod rhai o'r hen aelodau yn bwriadu sefyll am ail-etholiad, ac yn eu plith y brawd gweithgar a phenderfynol Mr. Brasydog Roberts. Gallem feddwl fod ei ddychweliad ef yn sicr. Dywedir hefyd, fod y Parch. J. LI. Jones allan. Nid oes, o'r hyn leiaf ni ddylai fod, un amheuaeth am ei gymhwysder ef. Gan nad pwy fydd allan, yr ydym yn dra hyderus y bydd y brodyr uchod yn fuddugol ddydd y frwydr.
TREHERBERT.
TREHERBERT. PBIODAS.—Y mae yn bleser genym, yr wythnos hon, i gofnodi hanes priodas y chwareuyddes benigamp ar y berdoneg, Miss Bell Morgan, R.A.M. Enw ei chydmar yw J. Hullet, Ysw., C.E. Cymerodd hyn le dydd Mawrth, y 19eg cyfisol, yn Eglwys henafol y Ton, Pentre Yatrad. Wedi myned trwy y gwasanaeth arferol, ymadaw- odd y p&r ieuanc am Lundain a manau ereill, i dreulio eu mis mel. Merch i D. Morgan, Ysw., traffic inspector, T.Y.R., a'i barchus briod, Mrs. Morgan, yw y briodferch ao fel y g*yr y cyfarwydd, ei bod yn hanu o deulu hynod o ddiwyd a pharchus. Gellir dweyd yr un peth, mor bell ag y gwyddom, am berthynasau y priodfab. Modd bynag, gall- wn ddweyd nn peth oddiar sicrwydd personol, ei fod yn foneddwr ymdrechgar a pharchus ond yn annibynol ar ein tystiolaeth unigol, y mae y cylch y mae yn ei lanw, a'r gradd a nodwyd y mae wedi ei gyrhaedd, yn siarad digon drosto ei hun, heb i ni orfanylu trwy ddweyd rhagor. Clywsom, oddiar awdurdod, fod anrheg anrhydeddus i gael ei chyflwyno iddynt gan swyddwyr, a gweithwyr llinell y Rhondda, ar ea dychweliad. Profa hyn eto yn fwy na fedrwn ddesgrifio mewn iaith, y parch a deimlir tuag at y briodferch a'i rhieni gan y gweision a grybwyllwyd. Nid oes genym ond gobeithio y cant hir einioes i gyd-dreulio bywyd o ddedwyddwch, ac na ddaw aflwyddiant i wgu arnynt mewn un modd a chredwn na wna yr un ohonynt annghofio y dull tyner a gofalus eu codwyd i sefyllfa mor ddedwydd gan eu rhieni ffyddlon a chyfrifol. Un ar daith yn nhir y De.
ADGOF UWCH ANNGHOF.
ADGOF UWCH ANNGHOF. Rhyw adgof pruddaidd i'r byw ydyw ad- gofio am y marw ond er hyny daw yn mlaen yn fynych. Mae yr adgof presenol am Dafydd Jones, o Westdy y Pedair Pedol, yn hen dref hynafol Llanymddyfri. Bu farw ar y 5ed dydd o Dachwedd. Ei glefyd oedd y dolur blin a eilw y meddygon yn diptheria. Cystudd byr, ond caled anarferol. Gadaw- odd weddw a phlant i alaru ar ei ol. Cladd- wyd ef ar y 7fed yn Monwent Llandingad. Daeth canoedd yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w ran farwol. Cor y Tabernacl yn gweinyddu fel cantorion, a'r Parchn. Thomas a Howells yn gwasanaethu wrth y tf. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn tra adnabyddus oherwydd ei gysylltiad a ffeiriau Cymreig, yn y swyddogaeth o brynu a gwerthu ceffylau. Nid oedd wedi cyrhaedd oedran mawr, am nad oedd ond chwech deg a saith. Hen ac ieuanc, y gwr canol oed, a'r plentyn byehan o fynwes y fam, i gyd yn gorfod gwynebu ar y glyn, a rhydio trwy gulfor marwolaeth. Ymdori wna cymylau prudd Trwy dywyll nos-dew goleu dydd, Pelydrau Haul Cyfiawnder pur Dywyna. dros yr anial dir; Y glyn yn glir a bryniau'r wlad" A gorsedd wen y Dwyfol Dad- I'w gweled yn y pellder draw, Lie nad oes neb mewn poen a braw. Er trai a llanw'r cystudd mawr, Wrth angor mae y cwch yn awr, Mewn cilfach glyd ar afon hedd, Uwch cyrhaedd poen tudraw i'r bedd; Yn nghwmni'r genedigol lu, Yn adrodd am yr hyn a fu. DINGAD.
CWRDD BLYNYDDOL Y TAFARNWYR.
CWRDD BLYNYDDOL Y TAFARNWYR. Mae'n arferiad gan y rhan fwyaf o dafarn- wyr gwahanol drefydd y deyrnas i ymuno yn gymdeithasau i amddiffyn eu buddianau fel masnachwyr yn ngwyneb ymosodiadau eu gelynion (y cyhoedd), ac yn mhlith llefydd ereill mae gan .dafarnwyr ein tref ni gym- deithas, a chwrdd blynyddol hon sydd genym dan sylw. Cynaliwyd ef prydnawn dydd Mercher. Ni chawsai neb fyned i fewn ond y gwahoddedigion, a gofalent pwy a wahodd- ent; ond er hyny nid oes eisieu iddynt ofalu, oblegyd ychydig iawn o'r rhai sydd yn aberfchu ychydig o'u hamser, eu llafur, a'u harian er gwella amgylchiadau, codi chwaeth, a phuro moesau rhan lygredig cymdeithas, a wna ymgyfathrachu &'r tafarnwyr er amddi- ffyn eu masnach a gellir cyfrif bron bob amser y paham mae pob un sydd y tuallan i'r fasnach" yn rhoddi eu presenoldeb yn y cyfryw gyfarfodydd—cysylltiadau masnachol neu etholiadol. Nid yw y dyngarol a'r cre- fyddol yn eu tynu iddynt. Mae eithriadau yn bod i hyn, ac yr oedd yr eithriad yma yn mhresenoldeb Dr. Walters, Rector Llan- samlet, ynddo. Yr oedd yno rai o aelodau y Cynghor, ond dim cynifer ag a arferai fod. Ychydig o nifer o rai a gynrychiolent fas- nachau ereill oeddynt yn bresenol. Nid yw yn debyg fod y gymdeithas yn enill llawer yn marn y cyhoedd. Gan mai cymdeithas i amddiffyn gwerthu pethau corfforol yw, yr oedd dechreu gyda phryd da o fwyd, ar ar ol hyny y llwne-destynau, a phob galwedigaeth i gael ei hateb gan un o'r frawdoliaeth (os byddai un yn bresenol). Nid oes un o'r Teulu Breninol yn bresenol mewn llefydd o'r fath, ac felly rhaid ymdaro goreu ellir, gyda rhyw hip hiore, neu rhywbeth cyffelyb. Mae y llwnc-destynau yn taro i'r dim i dafarnwyr; ond chwerthinid yn iachus am ben cynulliad fyddai yn nghyd mewn coffee house, ac yn yfed iechyd a llwyddiant y naill beth a'r llall mewn coffee. Byddai hyny yn drosedd ar wareiddiad a pharchusrwydd llywodraethwyr ac arweinwyr y wlad yn mhob cylch ond boed a fyno am hyna, u cyfeddach y gwin" a fynir yn ngwleddoedd y byd, ac am hyny, rhaid plygu i'r ddelw hon. Er hyny mae hawl- gan y cyhoedd i ddysgwyl cydgordiad rhwng proffes ac arferion; a thra mae y tafarnwyr yn dadleu ei bod yn gas ganddynt am feddwdod, a'u bod gymaint a neb am ei osod i lawr-pe byddem yn gofyn iddynt am brawf, a fyddai rhywbeth annheg yn hyny ? A all un o'r tafarnwyr oedd yn bresenol ddweyd yn gydwybodol, &'i law ar ei fynwes, ei fod wedi gwrthod rhoddi diod i un a'i ceisiodd, os buasai tebygolrwydd fod arian ganddo i dalu am dano, a golwg am ddiangfa o afael y policeman ? Ai nid ofn i'r license gael ei endorsio sydd yn symbylu pob un i wrthod cwrw i ddyn meddw ? Hefyd, y mae y tafarnwyr am wella sefyllfa y gweithwyr A yw y tafarnwyr yn fwy hunan-ymwadol na rhyw ddosbarth arall o faanachwyr, fel eu bod yn gwrthod gwerthu eu nwyddau pan fydd prynwr yn eu ceisio ag arian ganddo i dalu am danynt ? Na, nid oes un pryder i fod am hyny. Derbyniodd tafarnwyr pob tref drwy y deyrnas hon arian o law gwfr a thadau yr wythnosau diweddaf, pan y gwyddent hwy cystal a neb bod eu heisieu ar y pryd i brynu ymborth a dillad i wragedd a phlant y cyfryw. Ac eto, dyma fasnach sydd yn rhaid i weinidog yr Efengyl rhoddi ei bresenoldeb yn ei gwledd flynyddol. Pwy rhyfedd fod yr Efengyl yn rhoddi mor lleied o oleu i'r byd, pan y mae y goleuadau sydd yn ei dal mor dywyll eu hunain a pha rhyfedd fod ei heffaith ar lygredigaeth mor ddieffaith, pan mae'r halen wedi colli eymaint ar ei flas nes myned yn gydstad a thafarn- wyr, yn herwydd pa rai y clywir griddfanau ac ocheneidiau o un cwr i'r llall o'r deyrnas, os nad o un cwr i'r llall o'r ddaear, gan gre- fyddwyr, dyngarwyr, a gwleidyddwyr goreu'r byd. Yr oedd Doctor Duwinyddol-neb amgen na Dr. Walters, Rector Llansamlet, yn y cyfarfod uchod, ac efe a ddadleuai yr hyn sydd yn gyfystyr a bod masnach diodydd meddwol yn gynorthwy i ledaeniad yr Efengyl. Dadleuai ei bod yn un o angenion cymdeithas, ei bod yn well na chartref i'r gweithiwr, a'i bod yn foddion i dynu talent allan. O'r braidd y gellir credu y posibl- rwydd fod crefyddwr gwael yn gallu amddi- ffyn y fasnach hon ar y tir uchod, heb son am athraw crefyddol, a hwnw yn offeiriad i blwyf poblogaidd. Dywedodd, gan gyfeirio at y tafarnwyr oedd o'i gylch, fod tafarnau yn un o angenrheidiau gwlad lie oedd cymaint o deithio. Nid yw yn debyg ei fod wedi croesi meddwl y Dr. erioed y gall llety- dai fodoli heb fod yn dafarndai, yn ol y deallwn ni hwynt. Nid yw tafarndai o un mantais i drafaelwyr. Mae canoedd yn teithio bob dydd heb wneyd dim a hwy, a gall pawb wneyd hyny a ddewisa a phe byddai rhagor yn dewis, byddai llai o ofyn am danynt fel diddosfa i ddynion ar daith, a cheid digon o dai ereill i lanw eu lie yn well na hwy. Nid ydynt, Dr. bach, yn un o angenrheidiau'r wlad na'r oes. Wedi'r cwbl, gall fod cysgod gwanaidd p sail i'r angen am danynt, am fod angen Llety i'r fforddol- ion yn y wlad yma. Ond, nid yn unig nid oes sail i'r ail sylw, ond y mae yn gam- arweiniol iawn, sef fod cysuron i'r gweithiwr yn y dafarn na chaiff dditn ohonynt gartref. A chaniatau'r cwbl a ddywed y Dr. am an. nghysuron cartref y gweithiwr yn achos gwraig fudr, anedd oer a, thlawd, &c., nid yw mynychu tafarn yn gwella dim arnynt. Os caiff ychydig gysur am ddwy neu dair awr yno, ymddangosiadol yn unig fydd, am mai y fynwes yw eisteddle'r gofid, a bydd hono gydag ef yn y dafarn, oddieithr iddo yfed fel yr annghofia ei ofid," ac os gwnaiff hyn, byr-barhaol fydd wed'yn, oherwydd dychwel gyda. nerth dauddyblyg, os na ddychwel â saith cythraul arall gwaeth nag ef ei hun, pan ga y dyn ei bwyll yn ei ol. A oedd y Dr. o ddifrif pan yn dweyd hyn ? O'r braidd y credwyf hyny, am fod y peth mor hunan-amlwg mai ychwanegu annghyaur at annghysur, a thynu annghysur allan o gysur mae y dafarn yn wneyd i gartref y gweithiwr, oblegyd y mae yn myned a'r peth sydd a mwyaf o'i angen yn y teulu i'w wneyd yn gysurus oddiyno — presenoldeb y pen, dylanwad ei serch, ac arian ei logell. Am y sylw arall, sef y dadblygu talent, mae hwn braidd yn rhy ddirmygus i ddweyd gair arno, am nad ofes un fasnach arall yn dyrysu y synwyr fel y fasnach feddwol. Tynu allan dalent ymresymiadol! Pwy glywodd am hyn? Clywodd llawer am ei gallu i dynu allan dalent ymladdgar. Mae yn fedrus iawn hefyd ar dynu allan y gallu ymrysongar, ac nid oes un fasnach arall yn y wlad ac y mae ei chwsmeriaid yn myned allan i'r heol i'w hymladd hi allan, yn unig am eu bod wedi ymwneyd a. hi nes colli eu hiawn bwyll. Oni bai fod y pwnc yn rhy ddifrif ol, ni fu erioed well cyfle i watwareg nag yn y sylw hwn o eiddo'r Dr. Rhaid ei fod yn annghredwr yn ei weinidogaeth ei hun, neu ni fuasai yn gweyd i'r dafarn i ateb lie cartref, ac i dynu allan dalent wrth ddyrysu synwyrau'r meddw- on. Iddo ei hun y rhaid i'r Dr. ddiolch, os cymer rhai o'i wrandawyr at y dafarn yn lie at yr Eglwys, ac os y gwelir hwynt yn eistedd yn eisteddfa'r gwatwarwyr yn lie yn nghynulleidfa'r saint. Os na wnant hyn, dangosant fwy o ffydd yn nylanwad yr Efengyl nag a ddengys eu hathraw ac os na wnant hyn, bydd "Cyfarfod Blynyddol" tafarnwyr y lie yma wedi colli ei amcan, ac araeth Dr. Walters wedi ei chyfrif yn aalach nag islaw sylw.—Jonadab.
NODIADAU 0 L'ERPWL.
NODIADAU 0 L'ERPWL. WYTHNOS rhyfedd ar yr afon fu yr wythnos ddiweddaf, gan y niwl tew oedd yn gordoi y dref a'r porthladd. Er cymaint y gofal a gy- merwyd wrth fordwyo i mewn ac allan, fe sudd- wyd pedair o longau o fewn cylch yr wythnos. Heblaw y Ilongau a'r meddianau a gollwyd, fe aeth amryw fywydau yn aberth ar fynwes neifion. Er bod yn ymyl y lan, nid oedd modd dianc o grafanc angeu a'r bedd. Yr oedd yn mhlith y rhai a gollwyd Gymro oedd wedi bod yn morio i wahanol wledydd, a phan ar gych- wyn allan, dyma atalfa ar gamrau bywyd. Mynych y sylweddolir barddoniaeth y Llew ar ddryIliad y Royal Charter Y bachgen a, foddwyd yn ymyl y lan. Nid oes dim newyddion o bwya am anffodion ar FÔr y W erydd ond cyfyngir y colledion yn fwyaf neillduol i gylchoedd y glanau a'r afonydd, a thebyg nad yw yr Afon Mersey yn ol i afonydd ereill mewn dygwyddiadan helbulus. Ataliwyd amryw agerlongau i ddyfod i mewn am dridiau, a bu raid i ereill orfod aros dros yr amser cyn hwylio allan. Gall y darllenydd ddychymygu am y niwl, pan ddywedwyf fod yr agerlong a gludai y llythyr-godau Prydeinig i'r Amerig wedi gorfod aros o ddydd Iau hyd foreu dydd Gwener. Nid yw yn debyg y cliria y niwl nes cael ohonom y gwynt i chwythu o r gogledd- ddwyrain, ac yna fe ellir gobeithio yr ysgubir ef ymaith i'w le er hun. Mae yr allforiadau yn dal yn lied dda rhyng- om &'r gorllewin, a da iawn hyny er lies trigol- ion y wlad hon, oblegyd heb y cynyrchion gor- llewinol byddai yn llwm iawn yn y wlad hon. Byddai yn hawdd llenwi tudalenau y GWLAD- GARWR gyda nodiadau a chyfrifon o'r gwahanol nwyddau a ddygir i'r farchnad Brydeinig, yr hyn a brawf fod adnoddau y gorllewin, mewn ystyr amaethyddol, braidd yn annherfynol. Mae yr aur a'r arian a drawsgludir o fynydd- oedd y wlad yn cadarnhau y ffaith fod y cyfoeth hwnw megys yn anhysbyddadwy. Cawn y rhagorfreintiau hyn o fewn taith ychydig ddyddiau, a miloedd trigolion y wlad hon yn ymdrabaeddu mewn tlodi a newyn, heb wybod yn ami pa le i droi am damaid o fara, chwaeth- ach dim arall. Er pan yn trigo yn mhentref y llongau, yr wyf wedi cael mantais i ddeall a gwybod llawer o bethau trwy ddyfod i gyffyrdd- iad a dynion profiadol sydd wedi teithio gwa- hanol wledydd y byd, ac y maent braidd o'r bron yn unfryd unfarn fod yr Unol Dalaethau a'r Tiriogaethau Prydeinig yn fwy cynyrchiol nag unrhyw wledydd ereill lie y preswylia meibion a merched dynion. Un o brif ddiffyg- ion y genedl Gymreig ydyw diffyg ymddiried y naill yn y llall, a byddwn drwy hyny yn colli cyfleusderau i gyrhaedd ■ safleoedd yn y byd yr un fath a chenedloedd ereill. Mae y Cymry, fel cenedl, yn cael eu cydnabod ar y blaen i gen- edloedd ereill mewn amryfal bethau celfyddydol a gweithfaol, heb son am y cymdeithasol. Er y cyfan, i lawr y mynwn aros o dan draed gorth- rymus y gorthrymwr. Prydeinwyr ydym ar wyneb y byd; ond ni fynwn sefyll i fyny a dangos i'r byd fod ynom allu, a bod y galla hwnw yn ddigon cryf yn ei ddylanwad i wneyd Uywodraethau y gwledydd i deimlo fod gwrol- deb yr h6n Omeriaid heb gwbl ddiflanu, a'r fflam genedlaethol heb ei diffodd. Er colli ohonom ein gwlad mewn mwy nag un ystyr, mae yn ddigon posibl y gwelir y genedl yn ym- ddyrchafu eto trwy gydymuniad a ffyddlondeb penderfynol. Mae genym ddigon o enghreifft- iau wrth law am lawer o bethau wedi eu cyf- lawni gan genedloedd gwledydd ereill, heb fod yn feddianol ar y cymhwysderau ag sydd yn y Cymry mewn 'ystyr weithyddol. Eto, maent wedi llwyddo i wneyd yr anialwch i flodeuo fel y rhosyn, a'r gwastadeddau yn y dyffrynoedd i fwrw allan ffrwyth er iechydwriaeth ,dymhorol dyn ac anifail. Pan oedd haulwen llwyddiant yn gwenu ar y byd, fe dybiodd y bobl nad oedd dim cyfnewidiad i fod ond fe drodd yr olwyn, a'r lie a fu gynt yn llawn yn dynodi prinder. A raid aros fel hyn ? medd y darllenydd. Na raid, meddllaispenderfyniad. Am hyny, deff- roed pob perchen anadi sydd o dan iau y gorth- rymwr, i wneyd y goreu o'r byd sydd yr- awr hon. Ofer meddwl y gwna Rhagluniaetb ddim tuag at gynorthwyo neb, os na fydd y cyfryw yn teimlo awydd cydweithio. Yna fe ellir dys* gwyl i Awdwr Natur fendithio llafur y llafurWT, a gwneyd i haulwen llwyddiant belydru eto fel yn y blynyddoedd diweddaf. Gadawodd yr etholiad trefol diweddaf yn S dref lawer o fudreddi ar ol, fel y lle^wir y papyrau dyddiol & llawer o chwerwder a drWg* deimlad. Y bleidlais ddirgelaidd, o dan nawdd cyfraith y Tugel, wedi ei gwneyd yn sarn <>• lygredigaeth gan ymddygiadau gwaradwyddus dynion yn sathru rhagorfreintiau gornchel 0, estynwyd iddynt gan gyfraith y wlad. Mae- dichellion y gwahanol bleidiau gwleidyddol yn hollol annheilwng, a'r ymgais i lwgrwobrwyo mor ddrwg yn awr a than yr hen oruchwyliaeth. Gwnawd y Tugel yn gyfraith er mwyn diogel- wch a chysur y werin weithgar, ac o'r dyddiad hwnw hyd heddyw ni gawn yr edmygwyr mwyaf selog dros y Tugel yn flaenaf o bawb i boeri ar y brethyn. Lie myno llygredigaeth a drygioni osod traed i lawr, mae iddynt ddigon o gefnogaeth ac amddiffynwyr. Ceir profion digonol o hyn yn nhrefydd a dinasoedd y wlad yn llawn mor gyhoeddus ag yn L'erpwl. Mae gwerth y bleidlais ddirgelaidd wedi ei gwbl golli a'i sathru o dan draed. Ceisiaf yn y fan yma ateb Dafydd Jones, Rhondda Fach, mor gryno ag y gallaf 1. Mae hinsawdd Talaeth Texas yn amrywiol fel amryw o'r talaethau ereill, megys California, n ar a pharthau ereill, hyd lanau y Tawelf6r. 2. Mae iechyd y trigolion a breswyliant yno yn awr yn rhagorol; a chan fod dyn yn greadur symudol, wedi ei gren i fyw mewn gwahanol hinsoddau, y mae yn ddigon posibl y byddai tanddaearolion Cymru yn llawer iachach yno na than wadnau Mynyddoedd Morganwg. 3. Amaethu ydyw prif waith y dalaeth, ond fel y bydd y boblogaeth yn cynyddu, daw gwaith i wahanol fathau o gelfyddydwyr. Codir yno lawer o anifeiliaid corniog, y rhai a drawsgludir i'r marchnadoedd dwyreiniol, a thros y Werydd i'r marchnadoedd Prydeinig. Mae llawer yn gwneyd yn dda wrth godi cotwm, siwgr, ac amryfal bethau ereill, ag sydd yn talu yn dda. 4. Nid wyf yn gwybod fod yno weithfeydd haiarn hyd yma; ond mae yno ddigon o fwn haiarn a glo, a gwahanol feteloedd ereill, yn aros am gael eu dwyn i oleuni, a chyn y gwneir hyny, bydd yn rhaid cael cyfalaf o rywle. Gellir ystyried y wlad yn newydd mewn llawer ystyr, am nad oedd y trigolion cyntefig a drig- ent yn y dalaeth ond pobl ddiog a diwaith. 5. Y prif fanteision a geir yn y dalaeth yn awr ydyw troi yn amaethwyr ond sicr yw y bydd yno bob math o waith yn fuan, wedi dechreuo ffrwd ymfudiaeth ddylifo i'r wlad. Mae y draul o fyned yno braidd yn ddrud, ac yn rhy ddrud i gyfateb amgylchiadau tlodion Cymreig. Costia y daith i New York yn yr agerlongau rhataf chwech punt. 0 New York i Gaveston bedair punt, a rhywbeth fel deg swllt ar ugain oddiyno i'r wlad He y gellir cael gwaith. Dylid codi minteioedd o gant nen ychwaneg mewn rhifedi, ac yna ni allem, fel Cymry, gael yr un manteision a'r Mormoniaid, a chenedloedd ereill, sydd yn myned yn gwmni- oedd gyda'u gilydd. Mae yn bwysig i chwi geisio pob gwybodaeth pa fodd i weithredu cyn tori qartrefleoedd i fyny yn y' wlad. Cyn y gellir gwneyd dim yn effeithiol, rhaid cael cyd- weithrediad, a phawb i dalu yn rheolaidd. Heb wneyd hyny, ofer meddwl am un math o sefydliad llewyrchus. Y Talaethau gorllewinol a deheuol ydynt y parthau goreu, yn ol fy marn i. Ceir pob manylion dim ond anfon i'r Swyddfa Daleithiol, yn mhrifddinas pob talaeth. Mae perygl i mi fyned a gormod o Ie. 0 gan- lyniad, rhaid i mi addaw i mi fy hun y pleser o gael ymgom pellach &'r cyfaill Dafydd Jones, os byw fyddwn. Iach fyddoch.—V r eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Marwolaeth y Parch. John Jones…
Marwolaeth y Parch. John Jones (Mathetes). Prydnawn dydd Llun, y 18fed cyfisol, bu farw y lienor bydenwog Mathetes, yn Llan- sawel. Yr oedd yn glaf er's cryn amser, ac yn ddiweddar yn analluog i ddyfod o'i ystafell. Yr oedd yn awdwr cyfrolau lawer ar destynau dyddorol a buddfawr, ac yn eu plith Geiriadur Duwinyddol yn dair cyfrol, yr olaf o ba rai sydd heb ei gorphen. Yr oedd wedi ysgrifenu ugeiniau o draethodau ar wahanol destynau cymdeithasol, gwladol, moesol, a chrefyddol, ac wedi bod yn fuddugol ugeiniau o weithiau yn ein prif eisteddfodau. Enillodd iddo Cei hun enw da, a safle gymdeithasol barchusJac urddasol. Cymerodd rhan flaenllaw yn iyr achos addysgiadol; a gwasanaethodd am flyn- yddau ar Fwrdd Addysg Bedwellty. Cladd- wyd ef y dydd Gwener canlynol yn Nghladdfa y Pant, ger Merthyr Tydfil.
Mr. H. Richard A.S., gyda'i…
Mr. H. Richard A.S., gyda'i Etholwyr. Y maa Mr. EI. Richard, yr aelod poblog- aidd dros fwrdeiadref Merthyr, eleni eto wedi bod yn talu ymweliad a'i etholwyr. Noajlau diweddaf, anerchodd gyfarfod yn y Work- man's Hall, Mountain Ash, pryd y rhoddodd hanes y drafodaeth rhwng Lloegr ac Affghan- istan mor bell yn ol ag 1836. Deliodd Mr. Richard yn faith a'r pwnc pwysig syddi dan sylw yn ein gwlad yn bresenol, sef y rhyfel Affghanistaidd, a chondemniodd weithrediad- au y Llywodraeth Brydeinig yn nglyn £ a'r mater hwnw. Llywyddwyd y eyfarfod gan Mr. D. Daves, Maesyffynon. Hefyd, ,an- erchodd Mr. Richard gyfarfod yn Nghwm- aman nos Wener, ac ar Hirwain nos Sadwrn.
Newydd Dda i Bontypridd.'
Newydd Dda i Bontypridd. Mae yn ilawen genym hysbysu fod! y Fowler's Pontypridd Company's Marine Rhondda Steam Coal Collieries, wedi ftaro ar wythien werthfawr o 16. Yr wythien'dra adnabyddus y 4 troedfedd, fel ei gelwir yn Aberdar a Rhondda, ydyw, ac a orwedd yn y dyfnder o rhyw 310 o latheni. Y maely glo yn 6 troedfedd o drwch, ac o natur glir, galed, a chryf. Ymddengys fod caffaeliadjy glo, ac eangiady gweithiau 0, bwys dirfawr i'r ardal, gan fod y perchenogion wedi. cymeryd at wely-glo o yn agos i 1,000 o erwi o dir..
LLYTHYR 0 TEXAS, AMERICA.
lleied o ddrygau yn cael eu cyflawni yma (y llidoG dynioji yn gadael cu dry?J»Ti a'u flfenestri yn agored trwy y noa). Y mae y He hwn mor dawel a diberygl ag un man yn Nghymru. Yn awr, yr wyf yn troi atat ti i ofyn am J bWY30 y llythyr diweddaf yn dy feddwl, ac edrych ar y ddwy ochr. Paid ofni dim, y pwnc yw dy gael di yma. Gwnawn yn hyfryd, ti elli fentro fy nghredu. Y mae yma ganoedd o bobl yn dyfod bob dydd, ac y mae yu bryd i ni agor ein llygaid. Yn awr. yr wyf am gael gwybodaeth can gynted ag y gellir, fel y gallwyf drefna i'ch cael drosodd mor fuan ag y gallaf. Yr wyf yn credu y bydd i ti gael 11awer o gydymdeimlad a chynorthwy hyna gofyn iddynt yn gar- edig HI A gydymdeimlo â. thi, ac yr wyf yn credu y gwnant. Y mae James Pears a finau yn rlymnno arnoch chwi eich dwy i ymdrechu cydymddwyn A'ch gilydd yr ydym ni yma, ein dau, megys un. Yr ydym yn danfon ein cofion atoch yn y modd mwyaf caredig. Yr ydym yn meddwl dechreu pigo cotwm yn fuan. Nia gwn pa fath weithwyr fyddwn. Y mae rhai yn pigo tua thri chan' pwys mewn diwmod. ac y maent yn cael doler am bob cant. yr hyn sydd gyfartal i 12s. 6c. y dydd. Yr wyf yn fachgen go lew yma, oblegyd nid wyf wedi gweled neb eto a allai fyned heibio i mi. Felly, chwi welwch pa fath bobl sydd yma. Y pethau yr oeddwn i yn ofni oeddynt lladd gwair a thori llafur cyn i mi ddechreu arnynt ond wedi i mi ddechreu, yr oeddynt yn dwevd fy mod wedi arfer lladd gwair a phsn yr oeddwn yn sefyll y das gyntaf, dywedent fy mod yn well na nemawr neb sydd yma. Felly, chwi welwch fy mod yn dyfod yn ffjrmwr iawn yn Texas. Yr wyf yn danfon fv nghofion atoch yn y modd mwyaf caredig. Cofi weh fi at mam a'r teulu oil, ac at h;>wb o'm perthynasau a'm eyfeillion.—Yr eiddoch yn ffyddlawn, eich priod, EVAN EVANS.