Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
DYLAWAD Y WASG AR I "FASNACH…
DYLAWAD Y WASG AR I "FASNACH A MOESAU. ] (TRAETHA WD). I. DYLANWAD T wasg AR pasxach.— 4. Y Wasg yn ei gwasanaeth gwerthfawr i fasnach rydd yn gyffredinol, SfO., fyc.— Heb fyued i olrhain yn ormodol ar ol pethau fel yma yn y rhifyn diweddaf, ni a frysiwn yn mlaen yn awri sylwi ychydig ar fasutieh y Wasg ynddi ei hun, ar ba un y mae cynifer o filoedd o ddynion yn ym- ddibynu am eu bywioliaeth iddynt hwy a'u teuiuoedd. Fel prawf o hyn, sylwn ar y statistics a gaolyn allan o'r Printers' Regis- ter am 1872 Berlin possesses, at the present time, 150 printing offices, from which issue 280 periodical papers of all kinds; 2j capper-plate offices, 272 litho- graphic offices, 176 paper dealers' establish- ments. 391 booksellers, aod 1,111 book- Th-re are in Denmark 127 printing offices divided in 62 towns; the number of compositors is 540, and of apprentices 233; Printers, 132; appren- tices, 41 Tiie steam presses amount to 108. atii Llie hand presses t > 180. Ac- cording to O. P. Powell and Co., of New Yo' k there are now pùhlishrd, in Ontario, 196 Quebec 64 Nova Scotia, 27 New Eru: s,ick 22; Ne vfoandlar. j, 11; Prince "E'war i'y island, 9; British Columbia, 4; making up a total of 333 British American newspapers. Toe total annual circulation of noffsp ipers printed in the state of New York is 492 770,868 copies, being more than twice the number issued in any other st ate. The next greatest number of issues | is in Pennsylvania, where 233,380,532 copies are annuail y printed. Massachus- setts prints 107,691,953 copies; Illinois, 102 686,204; Ohio, 93,592,448; and Cali- fornia, 45 869,408 newspaper sheets per annnm. A Portuguese .New York paper, O Novo Mundo, gives a tolerable complete staiislioal account of journalism of the Uruted States. At the beginning of 1872, tLeie -ve.e 6,432 periodicals published in America, being an increase of 449 on the last year. Of thfise 507 are dailies, 105 tri-weekly, 110 bi-weekly. 4,750 weekly, XlZ come out once a fortnight, 685 once a month, 4 everv t-io months, and 55 every 3 months. More than 300 of the above publications are in German, 23 in French, 11 m vSpamsh, 1 in Portuguese, 12 in Danish or Swedish, 5 in Dutch, 5 in Italian, 6 in Czech, 3 in Erse, and I in Inquois From 80 to 90 are dedicated to the instructions of Iufaner, over 100 to P"i.'ti<itil agricultural, from 90 to 100 to popular education, and 75 to business. Of the principal dailies of New York, the Herald prints 90,000; the Tribune and Times, 45,000; and the World, 26,000. A little evening paper called the Daily News sells over 100,000 daily, and the bun, a similar morning paper, about the same number. One of the German papers, the Staats Zeitung, prints 55,000; the Tages Nachriohten, about 40,000; and the Devbokrat. 7,500. The most widely ex- tended of the weeklies is Harpers' Weekly, wHJ} sdls about 100,000. Frank Leslie throws off 77,000 of the English edition of his Illustrated Newspaper, and 49,000 of the German; Harper's Bazaar, a journal of &*hiun, prints 90,000; the semi-religious Christian Union, 105,080; the Boston Herald circulates 92,000; the Journal, 30,000, and the Public Ledger, 82,000. Saturday Night, a periodical of short stories, reaches the respectable figure of 220 000; Petersons Ladies Magazines, 140,000; Godey's Ladies Book, 96,000; of the principal American reviews, Harper's Slag izine prints 130,000; the Atlantic Monthly, 35,000; Scribure's Monthly, 55,- 000 and the Galaxy, 35,000, &c., &c." Difynwn a gaalyn eto o'r The Paper and Printing Trades' Journal am Mawrth, 1877 At the beginning of the present year, the total number of periodicals pub- lished in Paris was 836. This includes newspapers of all kinds. The proportion in regard to subjects were-religious, 49 jurisprudence, 66 political and commercial economy, 85 geography.and history, 20; amusement, 74; education, 20; literature, philology, and biography, 52; fine arts, 16; photography, 3; architecture, 9; archaeology, 4; music, 8; the drama, 7 fashions, 68 (3 hair-dressing) technology, 77 medicine and pharmacy, 74 science, 43 military and marine, 22; agriculture, 31 sporting and racing, 16; and miscel- laneous, 17. The daily political papers number 51; the political reviews, 14." Eto, o'r un cyhoeddiad, cawn a ganlyn am y deyrnas hon :—" We learn that there are 1,783 newspapers issued in the United .Kingdom, which are distributed as follows: —London, 460; England, 946; Wales, 50; Scotland, 164; Ireland, 142; and the British Isles, 21. Of daily newspapers, we learn thlt the metropolis has 14 England, 43; Wales, 2; Scotland, 11; Ireland, 16; and the British Isles, 1; making a total of 37; while of the daily evening papers, London has 7; England, 25; but Wales, Scotland, and the British Isles, have not an evening journal to boast of. There now | being no less than 95 publications issued in connection with specific trade. As | curiosities, of periodical literature may be mentioned three magazines containing arti- cles by patients of the asylums for the insane. We also learn that 89 periodicals are devoted to the juvenile portion of the community, nearly every one being illus- trated. Out of 272 illustrated periodicals, 17 contain coloured plates, and 9 contain photographs." Yn y Scottish Typographical Circular am Ragfyr yr 2il, 1872, cawn y daflen a ganlyn:—" At the annual trade meeting in the second week of November, Mr. Murray received the following orders for his various publications :-4,000 of the second volume of The Speaker's Commentary on the Bible; 1,800 Dr. William Smith's Dictionaries of the Bible; 6,200 Mr. Dar- win's new work on the Expression of the Emotions in Man and Animals; 1,000 Earl Stanhopes' Cabinet History of England; 9,500 Mrs. Markham's Histories of Eng- land and France; 1,400 Dean Stanley's works; 12,000 Murray's Student Manuals (or Historical Clas8 Booh J; 4,700 Dr. William Smith's Greek Course; 16, 200 Dr. William Smith's Latin Course 8,000 Mr. Smith's Industrial Biographies and 11,500 Little Arthur's History of EnglandEto, o fewn yr un cyhoeddiad, cawn a ganlyn —" Mr. John Bellows, of Gloucester, prints for the Government the blank forms for electric telegraph messages, and has to issue weekly 300,000 copies-that is, 1,300,000 monthly, and 15,600,000 in the year and the order involves the use of 42 tons of paper in 12 months." Yn Rwsia, yr ydym yn cael fod—"Three hundred and seventy seven different periodicals, in- cluding memoirs and proceedings of learned societies, now published. Of these, 286 are in Russian (109 of them issued at St. Petersburg and 40 at Moscow); 41 in Polish (nearly all in Warsaw); 6 in French; 30 in German 4 in Lettish; 5 in Esthon- ian; 2 in Finish, and 3 in Hebrew. In 1861, there were 25 mission presses in India. The number is still about the same. Dr. Mullins estimated that, during the decade ending in 1861, there had been circulated 1,634,940 copies of the Scrip- tures, and 8,604,033 tracts and books; total, 10,238,793--about 1,000,000 a year. The statistics for the last decades are some- thing as follow, as estimate of the circula- tion during 1870 :-Scriptures, total cop- ies, 140,000; tracts and books, 1,500,000; and Ohristian school books, 360,000." Y mae y brawddegau a ganlyn yn cynwys ffaith fach ddyddorol iawn mewn cysyllt- iad a chylchrediad y cyhoeddiadau :One of the most successful of periodicals is the Gartenlaube, now published about 25 years ago. It started in 1852 with 5,000 sub- scribers, and has now about 400,000. It has 18 printing machines and 9 rolling machines in its service." Wel, tybed fod menywod yn ymwneyd rhywbeth yn gys- ylltiedig &'r gelfyddyd yma ? meddai'r darllenwyr. Oes; ac fel prawf o hyn, dyfynwn a ganlyn o'r Women's Advocate am 1871:—" 741 women and girls are employed in England as compositors; in Firmin-Didots' office, there are more than 250 employed; that, in Sweden, one fifth of the total number of compositors belong to the sex which the trades union consider unfair; and similarey in Denmark and Holland. In Prague and Vienna, women are at work in several offices. The first time they were employed in Germany was 1865, by Payne, of Leipzig, who set up a school for girl apprentices, and still has it. The Lette-Verein in Berlin trains women for printers, of which it employs about 30, and sends out its members to found similar institutions elsewhere." Dyna fraslun o hanes y Wasg i'r darllen- ydd mewn rhai o wledydd y byd. Buasai yn hawdd olrhain llawer yn ychwaneg, pe angen am hyny, ond credwn fod hynyna yn llawn digon i arddangos fod masnach y Wasg ynddi ei hun yn fawr ac eang. Ym- ddengys fod pob gwlad wareiddiedig ar wyneb y ddaear ag argraffwasg o'i mewn yn bresenol, ac yn troi allan lyfrau a newyddiaduron yn iaith y bOblogaeth (fel cawn sylwi eto cyn diwedd ein traethawd): I ond y penaf o'r cwbl ydyw America, fel ag y gwelir wrth y cyfrifiad sydd wedi ei gofnodi yma genym. Onid ydyw y dyfyn- iadau yma yn ddifyr ac addysgiadol i'r darllenydd ? Pwy fedr gyfrif y nifer sydd yn cael bara beunyddiol" tavy offerynol- iaeth yr argraffwasg a'i chysylltiadau ? A phwy fedr symio fyny y lies eyffredinol sydd wedi deilliaw i'r byd, a hyny yn y cyfeiriad masnachol ohoni ? Bellach, ter- fynwn y rhan yma o'n traethawd gyda dweyd mai i'r gelfyddyd hon, yn benaf, yr ydym yn ddyledus am ein gwaredigaeth o anwybodaeth a chyfeiliornad, ac am y rhan fwyaf o'r darganfyddiadau a gwelliadau gwyddonol hyny yn y celfyddydau sydd yn enwogi y eyfnod yn yr hwn yr ydym yn byw. (l'w ba/rhau).
Beirniadaeth Cyfansoddiadau…
Beirniadaeth Cyfansoddiadau Eis- teddfod y Draenenwen. GAN BRYNFAB. Englyn yr Hogbren." Derbyniwyd 17 o englynion ar y testyn hwn. Rhenir hwy yn dri dosbarth. Yn y 3ydd dosbarth saif Ropart Ty Pedrs, Wyr Mabonwyson, Pladurwr d\ a Phladurwr (2). w Mae pob un o'r englynion sydd yn y dosbarth hwn yn wallus. Gwastraff ar amser fyddai nodi holl feiau y dosbarth hwn. Fel enghraifft o farddas y dosbarth hwn, dyfynir englyn Ropart Ty Pedra. Dyma fe:— Offeryn gaiff ei iro—yw'r hogbren A chig brâs neu dalo; Yna'r sywud, o yes, just so 'Nawr Ropyn, dechreu ripo. Yn yr ail ddosbarth, mae eiddo Hen Weiriwr (1), Hen Weiriwr (2), Ond y fi, Gweiriwr Glas, a Gwas y Gwlawnant. Cynwysa llinell gyntaf englyn Hen Weir- iwr (1), y bai rhy debyg- Cymwys offeryn cymeu. Yn y drydedd linell dywed :— Dyry awch i'r bladur hen. Oni ddyry awch i'r bladur newydd hefyd ? Mae eiddo Gweiriwr (2) yn gywir o ran cynghanedd; ond cynwysa ddau neu dri o eiriau anarferedig, sef trecyn, m'braid, a dywodyr. Heblaw hyn, y mae twyll odl yn y llinell olaf. Nid yw englyn Ond y Fi yn cyrchu yn gywir, ac nid yw y lusg yn ei ffurf gywir- af yn y trydydd linell. Mae ail linell englyn y Gweiriwr Glas yn rhy fyr o sill, a hyny trwy fwnglerwch yr awdwr yn sillgolli y gair cynhauaf heb achos. Mae Gwas y Gwlawnantyn gwybod beth yw lladd gwair heb awch, debygwit. Dyma fel y dywed :— Heb y Rip gellir chwipan-i'r awyr, A rhuo a thuchan Heb don clawr i lawr yn lan Yn oes oesoedd ar Waen Susan. Yn y dosbarth laf saif Gwas Glyntaf, Y Dwrn, Yr hen pladur pwdr, Gweiriwr, Draenog, a Medylwr yn myd alaeth. Mae yr englynion hyn oil yn rhai cywir a phert ddigon. Mae eiddo Gwas Glyntaf, Y Dwrn, Gweiriwr, a'r Hen pladur pwdr wedi eu cynghaneddu yn rymus a chywrain, ond yn colli ychydig mewn desgrifiad a barddon- iaeth. Os nad wyf yn camsynied yn fawr, mae y pedwar awdwr hwn yn gwisgo'r un het. Mae englyn pert gan Draenog, ond nid yw y ddwy linell gyntaf gystal ag y dymunasid. Nid priodol dweyd colyn am fin- y bladur. Mae Medylwr yn myd alaeth wedi esgyn amryw raddau uwchlaw ei holl gydymgeis- wyr, ond mae dwrn condemniad yn disgyn arno yntau am estroneiddiwch y "gair cyrch." Ond er hyn, mae hwn yn englyn desgrifiadol a barddonol, ae yn ilawn deil- wng o'r wobr. Dyma fe:— Rhodd enwog derw rhiddynau,-ac enfyg Hanfod awch pladuriau Yw yr hogbren, pen ein pau .9 I greu min ar grymanau. Chwech Englyn i Mr. J. T. Jenkins, Adeil- adydd. Mae saith o feirdd wedi canu ar y tes- tyn hwn, o dan y ffugenwau Fairfield, Celfyddydwr, Edmygydd Rhinwedd, Ab Elian, Gomerydd, Syr Christopher Wren, a Zorobabel. Englynion gwael ydyw eiddo Fairfield, ac ynddynt wyth o linellau gwallus mewn cynghanedd. Heblaw hyn, maent yn holl- ol amddifad o farddoniaeth. Gwael hefyd ydynt eiddo Celfyddydwr. Maent yn weddol o gywir mewn cynghan- edd, ond gwisg gyfan am gorff salw ydynt. Cana yr awdwr fwy ar Ysgoldy y Ddraen- enwen nae ar yr adeiladydd. A dylasai yr awdwr anfon esboniad ar bob englyn gyda'i gyfansoddiad—mae y meddyliau yn hynod dywyllion, os nad yn ddiystyr, lawer ohonvnt. lawer ohonvnt. Cynghaneddiad cywir ydyw prif ragor- iaeth englynion Edmygydd Rhinwedd ond mae proest lefarog yn nghylchrsdiad ei bedwarydd englyn yn gwneyd twll yn y rhagoriaeth hwnw. Ei brif ddiffyg yw prinder barddoniaeth. Canodd hefyd fel un heb fod yn adwaen gwrthddrych ei destyn. Hefyd, mae ei arddull dipyn yn henaidd; ac mae ganddo ambell dine lied adnabyddus, megys- Gemau'r Awen Gymroaidd. a Mynwesol gymwynaswr. Canodd Gomerydd englynion o gynghan- eddiad cywir a llithrig. Prif fai y rhai hyn eto yw amddifadrwydd o farddoniaetb. Nid ydyw wedi canu digon ar y gwrth- ddrych fel adeiladydd; a rhaid fed yr Awen wedi myned i fwch" arno cyn y buasai yn gwneyd defnydd o'r hen linell fyd-adnabyddus hono- Dyna son am dano sydd. Yn enw'r duwiau, gadawer i'r hen chwaer gynddiluwiaidd hon huno bellach. Ceir englynion ddesgrifiadol ddigon gan Ab Elian. Rhedeg gormod ar ol cynghan- edd a yrodd ei Awen allan o wynt. Dywed amryw bethau na ddywedasai oni bai y gynghanedd. Y mae ganddo hefyd dair llinell heb fod yn gywir mewn hyd. Ceir yn englynion Syr Christopher Wren gynghaneddion grymus ac ystwyth, a meddyliau eglur. Cana yr awdwr hwn i Mr. Jenkins fel adeiladydd Ysgoldv y Ddraenenwen yn unig, heb son dim am dano mewn un cyfeiriad arall. Yn awr, cyn belled ag yr wyf fi yn deall, nid yw geiriad y testyn yn gofyn y cyfyngdra hwn. Mae cynghanedd y linell olaf o'r trydydd englyn yn amheus iawn, sef- Syr Wren yw mewn saerniaeth. Mae y glust yn dweyd ei bod yn iawn, ond dywed y llygad ei bod yn wallus. Englyn ysgafn ydyw y pedwerydd:- Yma'n wych at rym a nerth,-fe unwyd Yr elfenol prydferth; Hoffi a wnai y trafferth O'i wneyd oil yn df o werth. Y pumed englyn eto:- Ystyriodd gyfleusdernu,-a. chadwodd A iechydol ddeddfau A llanwodd bob cynlluniau, Heb un gwyn na dyben gau. I'm tyb i, ychydig o glod i Mr. Jenkins sydd yn yrl'englyn hwn, oherwydd nid efe ystyriodd gyfleusderau, a chadw at iechyd- ol ddeddfau. Ni wnaeth ef ond gweithio allan y cynlluniau a osodwyd o'i flaen gan yr architect, wrth adeiladu yr ysgoldy hwn- ac am y ddwy linell:- A llanwodd bob gynlluniau Heb un gwyn na dyben gau, rhaid oedd iddo wneyd hyny, onide buasai yn brudd esgus i'r bwrdd ysgol i dynu yn hawdd bunt yn ol o'r contract. Eto, yr enilyn olaf J Cadarnsail adail orphenedig-fydd Yn fawl a chlod bythig- Tra fo'r Ddraenenwen neu'r Wis I w harddwr anffaeledig. O'r braidd nad ydyw yr awdwr yn gwneyd gormod o ddefnydd o'r poetical licence yn y llinell olaf, oblegyd, er cystal adeiladydd yw Mr. Jenkins, diau ei fod wedi gwneyd ambell gamsynied yn ei oes, fel ag i'w annghymwyso i wisgo teitl y diweddar dad o Rufain. Yn ddiddadl, unig fai yr englynion hyn ydyw eu bod wedi eu cyfyngu i Mr. Jenkins fel adeiladydd Ysgoldy y Ddraenenwen, yn He bod ychyd- ig yn fwy cyffredinol. Mae Zorobabel wedi cymeryd golwg fwy fr?!? ,ar de8tyn' ac we(** canu yn gryf a llithng. Dechreua yn wych, ac enilla nerth wrth fyned rhag ei flaen. Cyfeiria ato fel adeiladydd ysgoldai fel hyn Ha J Aber-pwy dry heibio—na wel ef 01 ei lafur vno ? A'r Ddraenenwen, yn hono Gwelir ei chwaeth glaerwech, O Tai adail Bedwas wed'yn—yn binacl Ban i enw Jenkyn; A'i fawl ef a fydd fel hyn Yn nysg ei wlad yn esgyn. Yn wir, mae yn bleser darllen yr englynion hyn. Yr unig fai sydd ynddynt ydyw eu bod yn terfynu gyda'r llinell waelaf yn. ddynt. J Wedi manwl bwyso a mesur yr englyn- ion ar y testyn hwn, yr wyf yn dyfarnu Zorobabel yn oreu, ac yn wir deilwng o'r pres. °
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. Nid oes ond achwyniadau yn ymdaen- edig dros fasnach yn gyffredinol, yn enw- edig masnach y glo a'r haiarn; ac yn ngwyneb y caledfyd masnachol, deallwn fod y screw yn cael ei ddefnyddio gan rai cwmniau rheilffyrdd ar gludiad glo o wahanol ranau y deyrnas i'r Brifddinas. Ond nid t yw o un dyben siarad am y tylwyth hwn, dios eich bod chwi hyna yn Aberdar, yn gystal a ninau sydd yn teithio yn fynych, yn gwybod fod codiad pris wedi cynieryd lie ar deithwyr er's rhai blynydd- oedd gan gwmni rheilffordd yn amser I llwyddiant masnachol, a'r glo yn uchelbris, ond nad ydynt wedi dyfod at yr hen bris hyd yn hyn. Y mae arwyddion gorfael- iaeth yn y pethau hyn. Wrth daflu golwg ar amgylchiadau habtlepool, ymddengys nad yw masnach yn adfywio y mymryn lleiaf yn yr adran. Dysgwylid yma yn obeithiol am adfywiad masnachol, ond ymddengys hyny yn awr mor bell ag erioed. Y mae ffwrnesi blast mawrion perthynol i West Hartlepool Iron Company Limited, a'i felinau rowlio, yn aros yn segur. Nid oes dim da i'w adrodd am adeiladu llongau haiarn yma. Du, heb ymylau gwynion, yw y cwmwl masnachol yma' Yn MIDDLESBBO', nid oes fawr llewyrch ar faanach yr haiarn yma, nac yr un ymddiried gan y naill yn y llall yno. Yr oedd prisoedd haiarn bwrw yn debyg yr un fath a'r wythnos flaenorol. Yr oedd yno gynulliad gweddol dda ar y Gyfnewidfa dydd Mawrth, ond ni wnaeth- pwyd yno nemawr o fasnach. Yr oedd gan Mr. Connal a'i Gwmni yn eu warrant stores, yn Middlesbro', 65,300 o dunelli o haiarn bwrw, ac yn eu hystorfeydd yn Glasgow, 199,778 0 dunelli. Y pris am Rif 3 yvr 27s. 6c. y dunell. Pris iselaf y gwneuthur- wyr, lesg 1 per centum,, yw 37s. y dunell am Rif 3 G.M.B. Ni phrynwyd dim ond yr hyn ag oedd angen dioed am dano. Y mae masnach y platiau haiarn yn fwy marwaidd; y prisoedd yn amrywio o 5p. 17s. 6e. i 6p. 2s. 6c. am blatiau llongau, a 6p. 17s. 6e. i 7p. 2s. 6c. y dunell am blat- iau berwedyddion. Haiarn onglau 5p. 7s. 6e. i 5p. 12s. 6e. y dunell, a bariau haiarn oyffredin 5p. 5s. i 5p. 7s. 6e. y dunell..t Y mae llwytho llongau i'r Baltic yn tynu at derfyn eleni eto, ac wedi terfyna gyda golwg ar hwyl-Iongau. Y mae masnach y coed yn weddol fywiog, yn neillduol coed pyllau, a thuedd codi yn y prisoedd. Yn yr un eyffelyb fodd y mae y prisoedd yn Darlington, Newcastle, Workington, a Bar- row-in-Furness. Malldod a marweidd-dra sydd yn gordoi masnach y mwn yn gystal a r haiarn yma. Yn ngwahanol ranau sir GAEBWEKTDD, Did oes dim newydd neillduol i'w adrodd gj^da golwg ar famaoh y glo. Tipvn gwell ™ 10 »4 wnaeth glo tai; oid y mae gorgyflaweder wrth law i ateb y ceisiadau. Y prisoedd, ar gyfartaledd, sydd fel y oanlyn ond tuedd y farohnad yw gostyng- j T Wlgan Arley goreu, 9S. 60. i 10s. y dunell; ail fath oreu, 8s. 6c. i 9s v dunell, Glo. cyffredin, 7s. y dunell; Pem- berton, y pedair troedfedd, 6s. 6e. i 7s. y dunell; y glo cyffredin, 5s. i 6s. y dunell; Burgie da, 4s. i 4s. 6c. y dunell; a glo man, 2s. 6c. i 3s. 6c. y dunell, yn ol ei ansawdd. Yn ngogleddbarth sir I STAFFORD, yn amryw o'r glofeydd, rhoddwyd rhybudd- i°n 0 ostyngiad cyflogau o bum' punt v cant; ac mewn rhai pyllau ychwaneg na hyny. Rhoddir awgrym mewn rhai pyllau am godi llai o lo. Yn ngwyneb sefyllfa weithiol rhai o'r llaw-weithfeydd oymydog- aethol, y mae y cais am lo llaw^weithfaol wedi lleihau yn fawr, er fod rhai, megys V *8-' meddwl myned yn mlaen heb fod y cynyrchiad yn llai. Nid gwiw gwastraffu amser y darllenyd'a, nid oes ond dudew dvwyllwch yn gordoi mas- nach glo a haiarn holl ranau Lloegr. Ac wrth daflu golwg i'r UNOL DAXAETHAU, gwelwn fod y fasnach lo yno hytrach yn fwy bywiog, sef glo teuluol. Nid yw agerio braidd mor fywiog. Nid oes vr un eyfhewidiad neillduol yn marchnad /dur sef rheiliau dur yn Philadelphia. Cryn °Ui E6mawr 0 fargenion o bwys neillduol. Y prisoedd yn amry wio o 43 i 45 doler y dunell wrth y melinau. Y mae marchnad y rheiliau haiarn yn parhau yn sefydlog yno. Tipyn gwell # cais am haiarn bwrw. Yn adran merthyk TYDFIL, y mae masnach y glo wedi bod ychydig yn fwy bywiog yn ddiweddar, a rhesi hL feithwn o wageni yn Hawn o lo wedi cychwyn o Plymouth, Cyfarthfa. a Dow- lais. Y mae yr arddrych auafol yn clirio ychydig, ond fod y prisoedd yn ddiarebol o isel, yn enwedig glo ager. Bu y glowyr yma yn cynal un neu ddau o gyfarfodydd yr wythnos ddiweddaf, gydf golwg aI ffurfio y Miners Permanent Fund, ond nid y? ]>en1derf^01 wedi cael ei wneyd Dywedir fod glowyr yr adran hon hytrach yn wrthwynebus i'r syniad am hyny, ac ni I i -h^' eu hargyhSdi bod unrhyw ddaioni i ddeilhaw trwy iddynt uno ar cyfryw. Yn Nowlais, nid oes dim yn neillduol yn cael ei wneyd yn bresenol. Y mae rhyw si eto y gwneir rhywbeth yn Mhendarren, ond hwyrach mai si heb sylwedd yw, ac na welir tanau yma mwv- ach fel yn nyddiau Thompson; coffa da am ei enw. Trwy holl gylchoedd RHYMNI, nid oes golwg obeithiol ar fasnach y glo, a'r cais a r pris yn nyfhderoedd cors anoba'ith. Ymddengys fod masnach agerio yr adran mewn ychydig gwell sefyllfa; ond er hyny, eithnad yw gweithio wythnos lawn yn y glofeydd. Yn liancaiach, He y mae niferi o lofeydd bychain yn gweitnio glo at wasanaeth tai, nid ywyr ychydig welliant a gymerodd le o un pwys ac o nodwedd dymorol. Dim ond rhyw dri neu bedwar diwrnod mewn wythnos a weithir. Yr unig welliant sylweddol sydd i w weled ydyw yn nglofeydd Mr. Beddoe, ac yehydig adfywiad yn eiddo y Powell, GeJligaer, a phwll y Top Hill. Yn NHREDEGAR, cefais aHan fod y sibrwd am sefydlu gweithfeydd dur yma wedi adgyffroi y dyddiau diweddaf eto. Buasai hyn yn fendith i r ardal, lie nad oes fawr o wejthio haiarn er's blynyddoedd bellach. y 8l° yma yn yr un gyffelyb fodd a r cylchoedd yn gyffredinol yn ansefydlog. Yn gynreainoi, NGHABNEWYDD- AR- WYSG a'r cylchoedd, digon marwaidd ydyw hi mewn cysylltiad a phob peth llesiol.* All- foriwyd dim ond 12,240 o dunelli yr wyth- nos ddiweddaf o lo. M asna chdeithiwe.