Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
TMAE Miss LIZZIE WILLIAMS, R A M (Llinos y De) YPJ agored i dderbyn Engagements i gaim mewn Eisteddfodau, Cyngherddau, Oratorios, &c. Cyfeiriad- MISS L. WILLIAMS, Care of Thomas Brandon, E-q., Regent Villa, Stonehouse, Glon. cester. 1756
RIVBDD Y GOLYGYDD.
RIVBDD Y GOLYGYDD. WEDI methu gwneyd defnydd ohonynt yr wyth. nos hon :-Manion o Ogledd Cymru, Ap Dewi (Pontyberem), Llwydlanc, Morthwyhwr, L. Lewis (Rhymni), yr Wolf, Shon o'r Wern, Bachgen o'r Dref (bydd yn dda genym glywed yn ami oddiwrthych), Pryderus, Glantor- wenydd. LLWYDWEDD.—Ymddengys eich erthygl ar Y diweddar T. Wedros Evans" yn ein nesaf yn ddiffael. SYLWEDYDD.—Diolch. Bydd gohebiaeth ach- lysurol yn dderbyniol iawn. ARTISAN.—Methwyd cael lie i'ch nodiad ar ym- ddygiad y pen swyddog yn y rhifyn hwn. DEHEUFAIIDD A HOMO DDU. — Lion genym glywed oddiwrth y cyfeillion hyn. CaifF eu cynyrchion le yn ein rhifyn nesaf.
PWNC MAWR Y DYDD.I
PWNC MAWR Y DYDD. Y MAE yn debyg ddarfod i amodau terfynol yr heddwch gael eu llawnodi y Saboth diweddaf yn St. Petersburg; a bydd hyn yn ddiwedd ar yr achos can belled" ag y mae yn gorwedd rhwng Rwsia a Twrci. Ond y mae Ewrop heb gael ei llais eto, ac heb ei llais hi bydd yn anmhosibi Fr cwestiwn gael ei ddwyn i derfyniad. Nid cwestiwn rhwng Rwsia a Twrei yn unig yw y Cwestiwn mawr Dwyreiniol: y mae buddianau pwysig perthynol i deyrnasoedd ereill yn gylyin- edig a'r aehos ac yn hyn y gorwedda y perygl. Y mae Twrci dan draed Rwsia ar hyn o bryd, ond nid yw Rwsia yn holl- alluog. Y mae ei gallu ar y tir, yn ddi- amheu, yn Tfawr, ond y mae yn rhaid iddi hi barchu ein gallu ni ar y mÔr-ac y mae hi yn ei barchu, neu, yn hytrach, yn ei ofni. Y mae ein llynges aruthrol ni yn abl i gwrdd a llyngesoedd y byd yn nghyd, a gorchwyl cwbl hawdd a fyddai eauad i fyny a chloiy Dardanelles vn erbyn holl fasnach Rwsia yn y Mor I)u, a'i darostwng hi drwy hyny i dlodi. Y mae y AVeinyddiaeth Brydeinig, yn holl ystod yr ymdrafodaeth flaenorol i'r xhyfel, ac yn ystod y rhyfel ei huu, wedi dilyn cwrs ag sydd, ar y cyfan, wedi peri anfoddhad mawr i'r wlad hon, ac i hoff- wyr rhyddhad Cristionogion y Dwyrain yn gyffredinol. Ond y mae un cynvgiad o'u heiddynt wedi enill cydymdcimlad mawr, ac wedi haner guddio eu holl g-amweddau yn y pwnc hwn. Yr ydym yn cyfeirio at cynygiad ar fod i Groeg gael" ei chynrychioli yn y Gynadledd ddyfodol yn Berlin, os bydd Cynadledd o gwbl hefyd. Yn ystod y rhyfol ofnadwy ag sydd newydd derfynu, darfu i ni- hyny yw, ein Llywodraeth ni—gynghori teyrnas feclian Glroeg i beidio mewn un modd ag ymyraeth yn y cweryl. Darfu i'n Llywodraeth ni, mewn gwirioriedd, arosod math o pressure ar Groog i aros yn llonydd, o dan yr addewid y byddai i ni ofalu am ei buddianau hi pan y delai yr achos dan farn Gynadledd Ewropaidd. Fe ufuddhaodd Groeg i'n cais, er y gallasai ill yn ddiamheu gymeryd rhan effeithiol yn y rhyfel, a phrysuro dym- chweliad Twrci. Gwir yw fod gwrth- ryfel yn erbyn. awdurdod Twrci wedi tori allan mewn parthau o Groeg, ond fe gymerodd y mudiad hwn le yn rhy ddiweddar, ac nis meiddiai y Llywodr- aeth Roegaidd ei gefnogi yn gyhoeddus. Y mae Rwsia, fe ddywedir, yn gwrthodi Groeg gael ei chynrychioli yn y Gynadl- edd ddyfodol yn Berlin. Y mae Rwsia yn eiddigeddus o'r genedl Roegaidd, oblegyd ei bod hi yn fwy advanced na'r bobloedd cylchynol—yn fwy ym- roddgar i'r celfau, gwyddorau, heddwch, a masnach—ac yn fwy tebygol nag un bobl ereill, pe cei hi ei dadblygiad naturiol ei hun, o etifeddu a chael medd- iant o Gaercystenyn. Ond y mae yn anmhosibl i Loegr dori ei haddewid i deyrnas fach Groeg. Yr ydym wedi rhoi ein gair iddi, ac y mae yn sicr y bydd i "Arglwydd DERBY lynu yn ddi- ysgog wrth ei amod ar fod iddi gael ei chynrychioli yn y Gynadledd. Y mae hi wedi ufuddhau i'n cynghor ni, rhaid i ninau lynu, doed a ddelo, wrth ein Jiaddewid ninau. F.e allasai Prydain fod yn "champion" achos Bulgaria, Bosnia, a'r Taleithiau cylchynol, ond hi a gollodd y cyfleusder ac a'i roddes i fyny i Rwsia: eithr nid ydyw yn rhy ddiweddar iddi fod yn champion" i achos teyrnas Groeg, ac adenill felly i raidau helaeth ei dylanwad yn y Dwyrain.
LLOEGR A'R RHYFEL.
LLOEGR A'R RHYFEL. YCYMYLAU YN YMGASGLU. Yr ydym o bryd i bryd yn y colofnau hyn wedi datgan ein gobeithion y cliria yr awyr, ond ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, yr oedd pob awel yn sisial fod y ffurfafen eto yn duo a chwmwl rhyfel megys yn prysur ymdaenu. Nos Ian, wythnos i'r diweddaf, yr oedd ton araeth Canghellydd y Trysorlys (Syr S. North- cote) yn y Senedd yn rhyfelgar. Dylai pob talaeth, meddai ef, ddiogelu ei rhyddid i ymddeol o'r gynadledd, pan fyddai ystyriaeth o'i anrhydedd neu ei buddianau yn dysgu hyny. Rhaid addef fod symudiadau diwedd- ar Rwsia yn llechwraidd a drwgdybus. Credwn y bydd yn fuddiol yma i ni roddi aylwedd ar hyn a ddywedodd Ymerawdwr Rwsia wrth Arglwydd Loftus, yn Tachwedd, 1876. Dyraa eiriau Arglwydd Loftus Darfu i'w Fawrhydi wystlo gair cysegredig ei anrhydedd yn y dull mwyaf dwys a difrifol, nad oedd ganddo wn bwriad i feddianu Caercystenyn, ac os gorfodid ef gan angen- rheidrwydd i feddianli rhan o Bulgaria, ni fyddai hyny yn unig ond yn ddarbodol; ac hyd nes y byddai hcddwch a diogelwch y boblogaeth Gristionogol wedi ei sicrhau. Cyfeiriodd ei Fawrhydi yma at y cynyg a gyfeiriwyd at Lywodraeth ei Mawrhydi am feddianiad Bosnia gan Awstria, Bulgaria gan Rwsia, ac arddangosiad llyngesol yn Nghaer- cystenyn, yn mha un y byddai Llywodraeth ei Mawrhydi y Gallu blaenaf. Meddyliai ei Fawrhydi y dylai hyn fod yn brawf digonol nad oedd Rwsia yn coleddu un bwriad i feddianu y brifddinas. Nis gallai ei Fawrhydi ddeall, pan yr oedd nod neu amcan eyffredin gan y ddwy wlad, sef cadwraeth heddwch a gwelliant yn nghyflwr y Cristionogion, a phan yr oedd efe wedi rhoddi pob prawf nad oedd ganddo un dymuniad am goncwest neu ym- ddyrchiad, paham na fyddai dealltwriaeth bersonol rhwng Lloegr a Rwsia—dealltwr- iaeth sylfaenedig ar policy o heddwch yr hyn fyddai yn gydfuddiol i'w buddianau ac i Ewrop yn gyffredinol." Y mae y syniadau uchod o eiddo yr Ymer- awdwr yn ardderchog, ond y mae pob lie i ofni nad ydynt yn cael eu cario allan gan swyddogion a gwladweinwyr Rwsia, y dyddiau diweddaf hyn. Os mai ar y sylfeini uchod yr aeth Rwsia i ryfel, paham y gofyna yn awr am iawn o ddeuddeg miliwn, yn nghyd a threfydd a thiriogaethau yn Ewrop ac Armenia 1 A phaham' hefyd y dynesa ei byddinoedd at Gaercystenyn ? Gallwn ddy- wedid yn hyf fod dirfawr wahaniaeth rhwng faith yr Ymerawdwr, a symudiadau y fyddin Rwsiaidd yn y cyfwng presenol, yn nghyd a gofynion Llywodraeth y Czar. Ddechreu yr wythnos hon nid oedd dim i'w fganfod yn y ffurfafen wleidyddol ond arwyddion ei bod yn pruddhau ac yn tywyllu fwy fwy. Nid yw Prydain yn llaesu dim yn ein darpariadau milwrol, ac y mae y gwahan- ol grefftwyr yn Nocyard Woolwich yn gweithio hyd wyth a naw o'r gloch y nos, yn lie hyd pump fel arfer. Y mae tua un cant ar ddeg o dunelli o gig preserved yn awr yn cael ei ddwyn i Woolwich, yn nghyd a dau cant o dunelli o gig eidion. Y mae y lie wedi ei lanw gan ystorfeydd ac ymborth o. bob math. Y mae Prydain hefyd wedi prynu llong ry-fel newydd gan lywodraeth Brazil, yr hon a elwir Independencia, yr hon sydd long gadarn iawn. Adeiladwyd hi yn Llundain, yn 1872, ac y mae yn mron cymaint o faint a'r Devastation a'r Thunderer. 0 St. Petersburg, dydd Sadwrn, hysbyswyd fod caclarnhad cytundeb heddwch wedi ei gyfnewid rhwng Rwsia a Thwrci y dydd hwnw, a bydd i'r amodau gael eu cyhoeddi can gynted ag y danfonir hwy i'r Galluoedd Mawrion. Yr oedd Reouf Pasha i ymadael yn uniongyrchol. YMGAIS I FFURFIO CYNGRAIR RHWNG AUSTRIA A PHRYDAIN. Dywedir fod Llysgeliadydd Prydain yn Vienna yn nghyd a'r Count Andrassy, wrthi yn ddiwyd yn ceisio ffurfio cyngrair rhwng y ddwy wlad uchod. Os llwydda yr ymgais; ystyrir y bydd sefyllfa y Count wedi ei chadarnhau, ond os i'r llawr y syrth, mwy na thebyg y rhydd efe ei swydd i fyny. Y mae rhyw wrthwynebiad gan Rwsia, mae'n debyg, i Groeg fyned i'r Gynadledd ar yr un safle a'r Galluoedd Mawrion. Felly yn ol yr arwyddion presenol nid oes ond gobaith gwan am heddwch.
Y- Glowyr a Mesur Mr. Macdonald.I
Y- Glowyr a Mesur Mr. Macdonald. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf cynaliwyd cyfarfod o lowyr o flaen y Bridgend Inn, Pentre Ystrad i ystyried Mesur Mr. Macdonald yn ei gysylltiad a thalu iawn i lowyr a niweidid tra •wrth eu gorcliwylion.- Siaradwyd yn effeithiol gan Mabon, Mr. James Rogers, ac ereill; a 1. phenodwyd pwyllgor i ddewis pcrsonau addas i geisio pleidleisiau i ddeisebau o blaid y mudiad drwy y Cwm.
Tanchwa Ddychrynllyd Eto.
Tanchwa Ddychrynllyd Eto. Y mae y danchwa ofnadwy, yn nglofa Kearsley, wedi sylweddoli ofnau, y rhai a gylchynent enau y pwll dydd Mawrth, wyth- nos i'r diweddaf. Cafodd dros 40 o fywydau eu hyrddio yn ddirybudd i'r eilfyd mawr, trwy daniad sydyn y gelyn tanddaearol. Y mae llawer o'r cyrff, os nid yr oil, wedi eu codi erbyn hyn-rhai a golwg ddychrynllyd arnynt, ac un a rhan uchaf ei ben wedi ei chwythu ymaith. Y mae amryw o'r cyrff wedi eu dryllio a'u llosgi i'r fath raddau fel nas gellir eii hadnabod. Bydd teuluoedd y lladdedigion yn hollol ddibynol ar olusen am ddefnydd cynaliaeth. Ychydig amser yn ol, darfu i ryw gant o weithwyr y pwll hwn ffurfio trysorfa ar gyfer damwain, ond nid yw ond beclian. Y mae managers y glofeydd cylchynol yn gweini pob cynorthwy i gael y cyrff i fyny. Y mae achos y tahiad yn an- wybyddus hyd yn hyn, ac nid yw y fan y cymerodd Ie wedi ei ddarganfod eto. Treidd- iodd ei effeithiau trwy yr holl bwll. Gresyn meddwl fod cynifer o fywydau yn barhaus yn syrthio yn ebyrth, fel y mae lie i ofni, i an- ochelgarwch neu anwyHadwriaeth rhywrai neu gilydd.
•LLYTHYR LLUNDAIN.
• LLYTHYR LLUNDAIN. Nid oes dim o bwys yn y byd gwleidyddol i'w gofnodi yr wythnos hon. Y mae wedi bod yn hynod farwaidd yn y Senedd trwy'r wythnos. Y mae'r aelodau fel pe wedi laru ar wleidyddiaeth, wedi llwyr luddedu, ac fel pe yn edrych yn mlaen yn bryderus am ddyfodiad gwyliau'r Pasc. Nid yw y Gynad- ledd yn ymddangos yn nesach yn awr nag ydoedd wythnos yn ol. Cenfydd rhai pobi achos o bryder yn y ffaith hwn. Ofnant fod anhawsderau anorcbfygadwy ar ffordd y Gy- nadledd i gymeryd lie. Y mae yn naturiol meddwl fod amryw bethau pwysig i'w hystyr- ied gan y Galluoedd Mawrion, a bod yn rhaid iddynt ddyfod i ddealltwriaeth yn eu cylch cyn y gallant benderfynu y pryd y mae y Gynadledd i gyfarfod. Y mae yn rhaid cael amser at hyn, oblegyd nid cyfarfod .Y plwyfol neu Fwrdd Ysgol ydyw. Nid ydym yn credu fod achos bod yn orbryderus yn nghylch y mater. Odid fawr na chawn glywed, mewn diwrnod neu ddau, fod y ffordd wedi ei chlirio, a bod dyddiad cynaliad y Gynadledd wedi ei benodi. Y mae llythyr Mr. Gladstone at etholwyr Greenwich yn datgan na fydd iddo fod yn ymgeisydd dros y fwrdeisdref hono yn yr etholiad nesaf, wedi achosi tipyn o dwrw yn mhlith rhai pobl. Y maent wedi cymeryd yn ganiataol, trwy nad yw yr aelod Gwir Anrhydeddus yn bwriadu sefyll eto dros Greenwich, ei fod yn myned i ymneillduo yn gyfan gwbl o'r maes gwleidyddol. Y maent wedi bod yn rhy fyrbwyll o lawer. Nid oes dim yn y llythyr sydd yn rhoddi ar ddeall hyny mewn un modd. Mwy na thebyg mai eisieu rhyw le dros ba un y geill gael ei ddychwelyd yn ddidrafferth sydd ar Mr. Gladstone-rhyw le dibwys a thawel, fel na fyddo iddo gael fel yn awr ei boeni fyth a hefyd a materion Ileol. Pwy a wyr nad yw ei lygad ar un o fwrdeisdren neu siroedd Cymru ? Nos Ferclier diweddaf, cawsom yr hyfryd- wch o wrando Pencerdd Gwalia yn traddodi darlith ar "Gerddoriaeth genedlaethol Cymru" o flaen Oymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion, yn y Royal Academy of Music. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan W. Cornwallis West, Ysw. Olrheiniodd y Pencerdd hanes y delyn, a cherddoriaeth Gymreig o'r amser boreuaf hyd yn bresenol mewn modd dyddorol iawn, a gwrthddadleu- odd yn effeithiol, ac i foddlonrwydd, dywed- iadau rhai ysgrifenwyr Seisnig mai Gwyddelig o ddechreuad yw yr alawon Cymreig. Dat- ganodd Madame Edith Wynne, Mr. Lucas Williams, a'r Cor Undebol Cymreig amryw ddarnau fel engreirftiau o'r ddarlith. Pwy yw Mr. Lucas Williams 1 Rhoddwn wybod rywbryd etc. Gwelwn fod ein cyfaill o Primrose Hill, Mountain Ash, mewn llythyr ysgythrog yn y GWLADGARWR diweddaf, yn traethu ei len yn ddifloesgni mewn perthynas i ryw berson di- ras sydd wedi bod yn ceisio afionyddu ar ei heddwch. Bydd cystal i'r Philistiad di- enwaededig hwnw ochel anturio i'r maes yn erbyn mab Jesse.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. Nid oos terfyn ar ddyfeisgarwch dyn. Darllen- asom yn y Times yn ddiweddar am berson, yr hwn ocdd ar farw yn lierwydd rhyw ddiffyg yn ei GOltN GWCDF. Nid oedd dim un ymwared i'w ddysgwyl, ond i. angeu roi terfyn ar ei hoedl. Yr oedd y claf hwn yn byw ya Gffennani, a chaed yno feddyg medrus, yr hwn a ymgymerodd a'r case. Beth -4cl ? fu y canlyniad ? Wei, darfu i'r meddyg galluog hwn dori corn gwynt y claf, a gosod i mewn bibell gelfyddydol. Tra yr oedd hyn yn cael ci ddwyii oddiamgylch, defnyddid megiu i chwythu gwynt i'r ysgyfaint. Llwyddwyd i roddi y bibell gelfyddydol yn ngwddf y claf, ac y mae yn un o'r saith rhyfeddod ei fod yn awr yn fyw, ac yn gwella bob dydd Dyma. un o orchestion penaf llaw-foddygaeth yn y ganrif bresenol, ïe, a holl ganrifoedd y byd. Ni fu y fath ddyrnu ar un newyddiadur yn Senedd Prydain erioed, feddyliem, ag a fu ar y DAILY TELEGRAPH dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf. Agorwyd y ball gan Mr. Ashley, a gwnaeth sylwadau diraddiol ofnadwy ar y y papyr uchod. Daeth y Dttily Telegraph, allan dranoeth mewn hunan- amddiffyniad, a dywedai eiriau caledion am yr ymoaodwyr yn ei ffordd ei hun. Nid oes ddadl nad yw y Daily Telegraph wedi bod yn bechad- ur mawr er declireu helynt y rhyfel yn y Dwyrain. Rhyddfrydwr mawr oedd y Te'e- r/raph yn arfer bod, a Thori rhonc oedd y Times; ond erbyn heddyw y maent wedi newid dillad, iaith, a- theimlad, ac y mae yr hen Darariwr yn dal yn ffyddlon trwy y tew a'r teneu i'r blaid Ryddfi-ydol. Yr oedd ganddo ysgrif gampus yr wythnos ddiweddaf yn ganmoliaethus i'r hen arwr Gladstonaidd. Y mae yn dda genym fod y gallu newyddiadurol penaf yn Mhrydain, a'r byd, o'r diwedd wedi d'od drosodd i bleidio egwyddorion Rhyddfrydiaeth. Codwyd gobeithion yr ardaloedd yr wythnos ddiweddaf gan y newydd a ymddangosodd yn y South- Wales Daily News, fod GWEITHFEYDD ABERNANT A PLYMOUTH wedi pasio i ddwylaw newyddion, ac fod pob lie i gredu y cychwynid y cyfryw yn dra buan ond y trydydd dydd dyma air yn yr un papyr nad oedd fawr gobaith y cymerai hyn Ie. Nis gwyddom ni pa ryw amcan sydd gan ohebwyr newyddiadurol i daenu chwedlau disail fel hyn. Codwyd gobeithion, y rhai a ymddyrchent fel ffiamau i'r awyr ond wele hwynt ar unwaithr yn cael eu diffodd yn nos anobaith. Y mae genym, er hyny, Ie cryf i gasglu fod masnach y glo, gan nad beth am yr haiarn, a'i gwyneb tuag i fyny, a chyn canol haf y mae yn bur debygol y bydd genym rywbeth mwy cysurlawn i'w groniclo. Dyma ni yn tynu yn gyflym at bum' mlynedd o newyn neu galedi tebyg i'r saith mlynedd yn yr Aifft; ond yr ydym yn hyderus obeithio fod tymor yr adfyd yn mron ar ben. Wel, boed felly yw gwaadd a gweddi, nid yn unig holl weithwyr Cymru, ond hefyd holl fasnachwyr y wlad. Gwelaom yr wythnos ddiweddaf fod eistedd- fod wedi ei chynal. yn MAESTEG, lie yr oedd chwech o gorau yn ymgodymu ond y buddugol oedd Cor Saron. Digon tebyg fod y bragawthwyr fu yn Eisteddfod Cwmgarw, ,,a pan enillodd yr un cur, erbyn heddyw yn dechreu cosi eu cernau, ac wedi gweled eu cain- synied. Dyna ddwy wera iddynt, a gobeithiwn y gwnant les i'w peiiau a'u calonau.
Cor Undebol Ystrad Rhondda…
Cor Undebol Ystrad Rhondda ac Eisteddfod Birkenhead. MEWN* cyfarfod neillduol o hwyllgor sylfaellol y mudiad hwn, a gynaliwyd yn y Temperance House, Ystrad, o dan lywyddiaeth y brawd John lleea, Ton, nos Fawrth, y ISfed cyfisol, penderfynwyd fod y cOr, yn fwyaf neillduol oblegyd-manteiaion i'r cor ymarfer a'r darnau eystadleuol, i fod yn gyfansoddedig o'r cantor- ion a drigent o Dreherbert i'r Heolfach. ond fod y gwahoddiad mwyaf cynes yn cael ei roddi i bawb yn Nghwm Rhondda, Pontypridd, a'r cylchoedd, a deimlant aiddgarwcli i ymuno a'r cõr, ac a ddelo i fyny a safon gymedrol o arhol- iad a deimlir yn angenrheidiol er enill aeloJiaeth yn y cor. Hefyd, fod y bonecldigion canlynol yn cael eu penodi a'u gwahodd i fod yn arhol- wyr trwyddedawl Mri. 1). Davies (Dewi Alaw), M. 0. Jones, Treherbert; J. Williams, Ystrad ac Alaw Buallt. Bydd yr arholiad yn cymeryd lie yn Ysgol Frytanaidd y Pentre, dydd lau, yr 28ain cyfisol, i ddechreu am ddau o'r gloch. Yn gymaint a'i bod yn amser i brysuro gyda'r gwaith, taer ddymunir ar bawb a ddymunant ymuno a'r c6r i gynyg eu hunain i arholiad ar yr amser penodol, fel y gellir dechreu cynal practices mor fuan ag y by'ddo molld.- IIm. Abraham (Mabon).
ABERDAR.
ABERDAR. COR Mit. REES EVANS.—Y mae y C6r uchod, yrhwn sydd wedi ei sefydlu er cystadlu yn Birkenhead, yn glynu yn ddiwyd gyda'r gorchwyl o ddysgu y darnau. Cynelir re- hearsal o sections Mountain Ash, Blaen- llechau; ac Aberdar, yn mhen pythefnos yn Nghwmaman. Derbynied y cantorion yr awgrym hwn hysbysir yr amser peuodedig i arweinwyr y sections eto.—D. Rhus, Ysjr. DAMWAIN MEWN GLOFA.-Dydd Gwener diwedchf cyfarfu glowr o'r enw Morgan A Richards", a breswylia yn Oxford-street, a damwain enbyd yn Hen Bwll y Gadlys, pan wrth ei orchwyl yn tori glo, trwy i gareg anferth syrthio, o'r top arno, a thori dwy o'i asenau, niweidio ei gefn, ac archolli ei ben a'i glun. Cludwyd ef i'w anedd, ac y mae yn dda genym hysbysu ei fod ar y ffordci i ad- feriad.—IV. M. TALP ANFERTH o Lo. Y mae Cwmni y Gadlys wedi llwyddo i gael allan o'u drift yn y Dullas, dalp ardderchog o lo gwythien y naw, yu pwyso chwech tunell a naw caripwys. Y mae y talp yn naw troedfedd o hyd, ac yn cynrychioli tfwch yr wythien. Cafwyd gryn anhawsder i'w gnel aHan, oherwydd. ei faint- ioli. Gyrir ef. i ffwrdd i'w arddangos yn y Paris Exhibition sydd yn agor yn mis Mai. Dyma y talp mwyaf godwyd erioed yn yr ardal hon, ydym ya tybio. Y mae yn awr yn y Crystal Palace ddar'n o lo a godwyd flynyddau yn ol o un o byllau y Gadlys ond nid yw hwmr yn pwyso ond ychydig dros ddwy "dunell.—Glowr. CW:.IBACH. —Nos Lun diweddaf, traddod- wyd darlith gan y Parch. P. Phillips, Aber- tawe, yn Ebenezsr (Capel T.C.), ar "Fardd- oniaeth y Beibl." Llyuyddwyd gan T. Llewellyn, Ysw., arolvgydd Lletyshenkin. Yr oedd y capel yn orlavvn.—-loan Cynon.
MARWOLA E VIITTL
MARWOLA E VIITTL Mawrth 9ted, yn ddeg mis oed, Richard Edgar, mab ie:in:igaf Robert: a Ruth Jones, 5, Whitcombe Sr.met, Aberdar. Dyoddefodd gystudd trwm i:Li wrth y convulsions.—A. G. Chwef. 19eg, wedi hir gystudd, Mrs. Catherine Jones, gweddw Mr. Morgan Jones. Llwyn-y- Coedwr, ger M 'lincwrt, Cwm Nedd, yn 80 mlwydd oed. li t yn ,elod. gyda'r Annibynwyr oddiar boreu ei hoes, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Dvdd Sadwrn canlynol, daetli ty.rfa luosog i liebrwhg ei gweddillionmarwoli orpliwvs yn dawel "o gyrliaeddy byw yn nghwr y bedd," wrth hen gapel yr AnnibynWyr yn Melincwrt. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. Morgans, gweinidog y lie.—-M. L. Dydd Sadwrn, Mawrth 16eg, 1878; yn liliy ei brawd-yn-g" yfraith, Mr. Wm. Jones, Mountain Ash, yn 21 mlwydd oed, Miss Margaret Rees, chwaer Dyfedfab a Nathan ';Vyn. Bu yn cadw tS- gyda ei brawd Dyfedfab yn Nghaerdydd am gryn amser, ond gafaelwyd ynddi gan yr hen elyn y darfodedigaeth. Un o'r merchedmwyn- af a chrefyddolaf, ac yr oeddem yn teimlo yn ddwys pan welsom hi yn ein ty y Nadolig ac arwyddion dadfeiliad ar ei chyfansoddiad glan- wedd. Claddwyd hi dydd Mawrth yn Ceme- tery Aberdar, pan ddaeth yn nghyd dorf luosog i'w hebrwng i'r gftveryd. Y fam a flaenodel-ta.d sydd wedi myned, A Margaret hithau bellaeh sydd yn gweled Jtieirdd fryniau'r net. a'i heang wastadeddau Gorseddle Nef, a dinaw fawr y Seintiau Dim peswch mwy, ond rhydd-anadlu'n nwyfus, A'i gwedd wyryfol yn drn.g''wyddol iachus. Chwi sydd.M' ol, ailtudiweh iasau hiraeth, A brysiwch ati i'r deg etifeddiaeth. } —Hrythonfryn.
Darllenwch, Ystjrriwch, a…
Darllenwch, Ystjrriwch, a Chredwcb yr hyn sydd Wir. GWILYM EVANS' QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIC. Y Feddyginiaeth or en a ddychymygivyd fM a ddyfeidwyd er cryfhau y cyfansoddiad a phuro y gwaed. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuoi, ac yn cynwys chwerw-lysiau a melus- lysiau wedi en haddas gymysgu, sef Quinine, Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, Liver- wort, Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae bron bob llysieuvn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyginiaeth ryfeddol hon, ac y inaent wedi <&el eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreii er eu perffeithio i fod yu welihad difethiant at y doluriau canlynol:— (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos fel urn neu r agor o'r anhwylderau canlynol-iselder ysoryd, nervousness, curiad y galon, chMrysu, teimlad blinedig a. chysglyd, y gwaed yn rhuthro yn ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwng yr ysgwyddau, difl'yg anadl, phlegm, y gwaed y a tori, pesweh, a thueddiad at y darfodedigaeth (decline).. (2). Diifyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd. diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog yi chwyddo trwy wynt, yr anadi yn drwm:, genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disym wth yn yr ochr, y jueMrisy, yr afu yn afiach, thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdoc ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod effeithiol at y blast neu'r awelon, gwynegoB ystyffdra y cynialau, y croen yn bigog ac anes- mwyth, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyti yn barhaus. Cyhoeddir pump yn unig o'r lluawa. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywun yn ainheu gwirionedd y can. ynol, dymunir arno ysgrifenu at yr enwau a roddir yma. December 14th, 1576. DEAR OIR,^—I nave been suffering severely for a long time with indigestion and nervous debility and their attendant inconveniences. After trying numerous remedies (to no purpose) I tried your Quinine Bitters, and the result is I am now a healthy man. Had I tried it sooner. I believe I should have escaped many restless rights and many pounds in money. Publish this for the benefit of others.—Address—THOMAS REES, De- corator and Valuer, Forester's Anns Hotel, Llan- elly, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llanelhj, May 24th, 1876. ANWYL SVK,— Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi cael fy llwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Y v ooddwn wedi myned bron yn rhy wan i gerdded, ac yr oedd y chvyf ar fy mraich yn myned yn waeth boh dydd. Yr oedd meddyg- on Llanelli a r ardaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywy^ ond trwy gymeryd y Quinine Litters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bob dydd. RL-nldaf fy ellW yn lla^vn, fel y gallo ereiU gael ni ■ <iylion pellach oddhvrthyf 03 mynant.—Yr eiddoci., yn barchus, (TRIFFITH WlLtl^VJtS. • Dylaswn ddwi-yd fy mod wedi bod dair blynedil heb weit.hio ond ychydig. 7 Cambrian-street, Llanelli. SYK,—Mewn geiriau byr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael llebild PAKHAUP trwy gymeryd eich Quinine Bitters." Rhyfedd yw eu heifaith. Bhnwyd fi beunydd ganT,oen anferthol yn fy" mlwn, weithiau ,uwehbe» y llygaid, w ithiaiiyn yr odirau. a phryd nr-Ul yn cui-o iel nsiifrthwyl. fel ag yr oedd ofn arna.f d lilyn fy ngalwedigaeth-ay ben y tt- Poen yu fy hips a rhwng fv ysgwvdilau, a gw'endid mawr. Dhu awydd na bias at fwyd, ond ar brydiau anamserol. O'r tKvvedd cymerais eieii Quinine Bitters," ac yr ydWj'f wedi fy llwyr wcll;1.u. Cyfrinr eich Bltteis yn ddrud, ond gallaf yn nwr. ddweyd yn ddiofn mai dyna v modclJOl1 l'hatHt a l' goreu a gefais erioed. ba,1. neh yn gydwyiodol ddvoddef poen heb dreio hwn. —ROBERT GUY, Builder. The Grand llotd, Brighton, July 28th, 1376. ■ DEAR Stu,—I feel it is my duty to the public aad yourself to inform you that I have de:ived immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable Tonk. I have beet, for some months victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement of the liver. I am happy to say I now feel we;l, but take a dose of your •'Bitters" occasionally when my appetite fails.— Yours faithfully, ROBERT FOSTER. Ruthin, Avjst 15fed, 187ö, SYR,—Yr wyf wedi derbyn lies mawr oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- nesgririadwy >n fy mhen a'm danedd, yn cael ei aclu si (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy ngofidio, bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu. fel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn y gwel) trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysliryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion. ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.- Yr eiddoch. Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriau sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, os oymerir i ystyriaeth brinder y Quinine a'r Sar- saparilla. (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb un annghyfleusdra, ac nid oes perygi anwyd, ond yn hytrach y mae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhau neu'r aelod o'r confsydd yn wanach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac atiechyd nac arferol, a dylid colio fod bron bob math o KILLS yn gwaniiau y cyfansoddiad ac yn aiionyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine, nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist eihun, ond "Evans' Quinine Bitters" mewn potclau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw ",G wilym Evans, Ph.C., INI. It. P. S., wedi ei ysgnfean. Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffu"- iad ydynt. Ar werth yn mhob trcf, neu yn direct bob man o'r wlad oddiwrth y perchenog- MR. GWILYM EVAKS, Pharmaceutist, Llaneily. D.S.—Os r.a ellir cael y "Bitters" heb dra- fferth, ysgrifener at y Perchenog, 163L