Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CABLEDD NEW Y DDI AD UROL.

News
Cite
Share

CABLEDD NEW Y DDI AD UROL. Mr. GOL. Y mae dynion weithiau yn anturio ysgrifenu i'r meusydd newyddiadurol er mwyn ysgrifenu a. dadleu ond gallaf eich sicrhau fod arncan uwch genyf fi mewn golwg yn yr ysgrif hon, set urddas a choethder y wasg, ac yn benaf oil ogoniant enw Gwared- wr y byd. Ni feddyliais y gallai Mari o'r Cap (os yn Fari hefyd), na neb arall mewn cymydogaeth Gristiono;ol, fod yn euog o'r cabledd gwaradwyddus a Lucifferaidd sydd yn ei hysgrif yn y Darian ddiweddaf. Penawd yr ysgrif yw "Cap Coch," ac wedi gair xueu ddau yn arweiniol ceir y frawddeg aganlyn Yn Nazareth y dechreuodd y Gwaredwr ddyfod i sylw. Yn y Cap y dech- reuodd y creadur rhyfedd hwnw, y Llwynog, i ddyfod i sylw." Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd," medd Solomon, a minau a roddaf wialenod i'r Mari" hon a wna les i'w phen a'i chalon, gobeithio. Syned Morganwg, i'e, a'r byd cyfan, at ynfydes fel y "Mari" uchod yh lincio neu yn cyplysu person dwyfol Gwared- wr dynoliaeth a, -ffau ffiaidd ac afiach "Llwynog" y Darian!! Efe, yr'hwn sydd yn tywys Arcturus a'i feibion, yn byddino y ser, ac yn eu galw wrth eu henwau. Efe, yr hwn sydd yn derbyn teyrngedau molianus miliynau o fodau per- fieitliiedig, yr hwn roddodd nerth yn edyn engyl; ie, wele efe, gan rywun gwaeth na Phagan, o'r Cap, yn cael ei osod yn yr un bwndel a "Llwynog" y Darictn I Efe, yr <{ liwn ni wnaeth gam, ac ni chaed twyll yn ..ei eiriau," yn nghwmni y "Llwynog" .sydd. a'i frycl ar daenu ystraeon a chwedlau yn y uiwl am bersonau diniwed Wel, yn wir, Mr. Gol, gallwn ysgrifenu colofn neu ddwy am yr uchod, ond gwasanaethed hyn. Gallaf eich sicrhau mat eiddigedd dros ogon- iant y gwirionedd a'm ejmhellodd i ysgrifenu hyn, ac nid malais na dig at berson na pher- sonau. Yn sicr ni ddylai un, golygydd ollwng y fath gabledd i'w golofnau. Cap Coch.

CYFARFOD LLENYDDOL Y DYFFRYN…

GAIR 0 L'ERPWL.

Oyfarfod y Beirdd yn Mhontypridd.

Adolygiad y Wasg.

Advertising

" JOHN JONES" A BWRDD YSGOr…