Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
GRUFFYDD LLEWELYN:
GRUFFYDD LLEWELYN: N OF EL. PENOD YI. Nid a da yn ddidal."—Duiv. Y mae rhinwedd yn wastad yn sier o gael ei wobrwyo yn rhyw fodd neu gilydd. Nid oes yr un weithred, bydded hi ddra neu ddrwg, yn myned heibio heb dderbyn ei gwobr. Ewch am dro i'r carchar a sylwch ar agwedd ddigalon a newynllyd y preswyl- wyr, derbyn eu gwobr y maent am droseddu cyfreithiau eu gwlad. Dyna yr adyn sydd ar y grogbren yn cael ei barotoi i'w symud i fyd arall, derbyn ei wobr y mae am lof- ruddio un o'i gydgreaduriaid. O'r ochr arall, dyna ddyn wedi ymddyrehafu i binael enwogrwydd ac anrhydedd, a phawb yn datgan ei glod, derbyn ei wobr y mae am ei ymdrech. Fel hyny y bu gyda ein harwr. Rhyw ddiwrnod pan oedd efe wedi myned ar neges i rywle, dygwyddodd i ddau o'i gyd-wasanaethddynion ffraeo a'u gilydd, ae yn ystod y ffrwgwd daeth allan y 8ecret yn nghyleh y nodyn y nos Nadolig cyn hyny. Nid oeddynt yn gwybod fod Fox yno, gan ei fod yn ei swyddfa, ac felly nid oeddynt yn ei weled,: a chredeot ei fod alIa. yn rhywle. Wedi i Gruffydd ddy- chwelyd, galwodd Mr. Fox arno i ddyfod ato ef i'r swyddfa, gan fod eisieu siarad ag efarno. Ufuddhaodd i'r cais, agofynoid Mr. Fox iddo os mai gwir oedd fod rhai o'i ddynion ef wedi ceisio ei ddenii i dori ei ddirwest y nos Nadolig cyn hyny. U Pa beth sydd genych mewn golwg wrth ofyn y fath gwestiwn?" gofynai yntau. "Dim ond fy mod wedi elywed rhyw si; yn awr, dywed y gwir, os do." Gwydn iawn y bu Gruffydd i roddi ateb iddo, ond wrth iddo hir wasgu arno, cyf- addefodd y ewbl y modd y darfu iddynt ffugio ei enw ef. Yr wyf wedi elywed y cwbl," atebai Fox, ac adroddodd iddo hanes y ffrae. Wedi i Mr. Fox gael allan pwy ydoedd wedi ysgrifenu y nodyn, cafodd ymaiael a'r swyddfa yn uniongyrchol, ac mor gynted ag y daeth y mis rhybudd i ben, cafodd y gweddill o'r cyngreirwyr ymadael; ac ychwaoegodd wrthynt pan oeddynt yn ymadael "Fod eymeriadau o'u bath hwy yn rhy beryglus i fod yn mhlith dynion, am nad oedd y bachgen yn dewis ymuno a hwy yn eu cyfeddach, iddynt gymeryd ei enw ef i geisio ei ddenu oddiar lwybr sobr- wydd." Wedi hyny, trodd at ein haTwr a dywedodd fod ganddo fwy o olwg arno a mwy o ymddiried ynddo yn awr nag o'r blaen, am mai efe oedd yr unig un ag oedd yn llanw yr enw anrhydeddus o ddyn yn ei swyddfa ef, ae fel prawf ei fod yn ei brisio yn ol ei werth, y buasai yn cael ei godi i fyny i fod yn nesaf ato ef yn ei fasnach, a'i foi vn ymddiried y cwbl o dan ei ofal ef. Pryd hyn cafodd ein harwr fyned i wneyd ei artref gyda Mr. Fox, yn ei dy ei hun. Yn mhen ychydig o ddyddiau wedi iddo fyned i'w gartref newydd, daeth yno nith i Mr. Fox ar ymweliad ag ef, o'r enw Angelina Bayles. Yr oedd tua chymydog- aeth ugain oed, ac mor ysgafndroed a'r ewig, ac o harddwch annghyffredin. Y tro cyntaf y gwelodd Gruffydd hi teiml- odd rywbeth dyeithr yn cyffwrdd a llin- ynau tyneraf ei galon. Rhywbeth na tbeimlodd ddim yn debyg iddo o'r blaen. Y gwir am dano, yr oedd Cupid a'i artillery ar waith yn saethd ei belau trwy Ei llygaid duon hardd, nes yr oeddynt yn disgyn yn roeth yn nghalon ein harwr. Ni allai gysgu y nos, bwyta bwyd, na dim fel arfer. Yr oedd Angelina a'i phrydferthwch wedi llyncu ei holl feddwl. Pan yn ymollwng i freichiau ewsg y nos meddwl am Angelina yr oedd; am dani hi y breuddwydiai eilwaith; a'r peth cyntaf a ddelai i'w feddwl y boreu ydoedd Angelina. Bob tro y gwelai hi, credai ei bod yn cynyddu yn ei harddwch. Nid oedd gorphwysfa y nos, na llonydd y dydd iddo, a theimlai ei hun yn "Wr claf o gariad." O'r diwedd, daeth i'r pender- fyniad o roddi hysbysrwydd o'i deimladau iddi y tro cyntaf y caifai gyfle, a'r boreu nesaf,, pan yn ymadael a'r ty, estynodd nodyn Iddi; crynai pan yn ei estyn iddi. Yr oedd yr olwg arno yn profi fod ei feddwl yn gythryblus, mor gythryblus nes y codai ei waed yn donau cochion dros ei wyneb, nes yr edrychai hwnw fel pe wedi ei or- chuddio a ilen o borphor. Ffwrdd yr aeth gynted ag y gallasai wedi iddo estyn y nodyn, ac nid oes eisieu i ni braidd hysbysu mai Angelina, a pha effaith oedd y nodyn wedi gael arni, oedd yn llanw ei feddwl trwy y dydd. Feallai ei bod wedi digio, ac wedi hysbysu hyny idd ei hewythr, ac y byddai iddo, mewn canlyniad, orfod ym- adael a'i Ie. Fel hyna y meddyliai pryd y daeth amser myned tuag adref, a pha fodd ydoedd gwynebu y ty? Beth bynag, i mewn i'r ty ag ef, a phwy a welai gyntaf ond ei angyles brydfeitb. Ymddangosai hi fel pe na buasai dim wedi dygwydd. Bwytaodd Gruflydd rywbeth tebyg i bryd o fwyd, ond ni chafodd fawr bias arno. "Wedi iddo orphen bwyta aeth i fyny i'w Wedi iddo orphen bwyta aeth i fyny i'w ystafell, a phan yn agor y drws gwelai lythyr seliedig/yn gyferiedig iddo ef, yn gorwedd ar y bwrdd, ac 0! 'r pryder yr oedd ynddo wrth ei agor—crynai, gwelwai, a gwridai bob yn ail pan yn edrych ar y llawysgrif oedd ar y gauadlen. Wedi hir syllu arno, torodd y sel, ac mor lleied o beth ydoedd, dim ond yehydig o linellau tebyg i hyn At Mr. G. Llewelyn, SYR,-Mewn atebiad i'ch nodyn a dderbyn. iais y boreu hwn, caniatewch i mi ychydig o ddiwrhodau i benderfynu ac hefyd i ymgynghori â fy ewythr ar y pwnc, gan ei fod yn fater o bwys. Hyd hyny byddwch wych, yr eiddoch, A. BAYLES. Diolch," Ilefai Gruffydd, y mae gobaitb. Gwn y gwna fy meistr ei oreu drosof." Beth bynag, nid hir y bu cyn derbyn y nodyn oaolyool:- SYR,—Wedi i mi ysgrifenu y llythyr diweddaf atoch, cefais gyfle i roddi y mater o flaen fy ewythr, yr hwn a ddywedodd eich bod, trwy eich hymddygiad ffyddlawn a chywir, wedi enill ei holl ymddiried a'i serch, ac na fuasai dim yn fwy boddhaus ganddo na'ch cael yn fab-yn- nghyfraith, oherwydd ystyria fi fel ei blentyn ei hun. O'm rhan i fy hun, nid oes genyf yr un gwrthwynebiad; a chan obeithio fod eich apeliad wedi dyfod o galon bur.—Yr eiddoch, ANGELINA BAYLES. Nid oedd eisieu rhagor ar Gruffydd teimlai ei hun yn berffaith ddedwydd. O'r braidd pasiai y dydd ddigon rhwydd wrth ei fodd, gan mor awyddus oedd am weled ei anwyl Angelina; ac O! mor felus iddo ydoedd cael treulio awr neu ddwy yn ei chwmni. Ni ymddangosai dim o'i flaen yn awr ond dyfodol dysglaer, ac haul llwyddiant yn tywynu nes goreuro ei holl lwybraii trwy y byd, heb gymaiut a chledr Haw o gwmwl yn ei orchuddio. Cymerai ei feddwl ambell i hynt i'r dyfodol, a gwelai ei hun yn briod ag Angelina, ac yn cael ei amgylchynu gan ddau neu dri o'i blant; ond bwriadau lawer sydd yn meddwl dyn, ond "cynghor yr Arglwydd hwnw a saif." (I'w larhauj.
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. Yr ydym wedi clywed llawer yn y blynyddoedd diweddar mewn perthynas a'r cydymgais Belgiaifid yn masnach yr haiarn, ond credwyf fod trymbwysedd y cydymgais wedi cael ei osod mewn golwg rhy ddu o flaen gweithwyr ein gwlad. Modd bynag, y mae amgylchiad wedi cymeryd He sydd yn adroddedig ar dudalenau y newyddiad- uron sydd yn darogan yn obeithiol am y dyfodol. Mae cydymgais diweddar wedi bod rhwng Mri. Bolckow, Vaughan, a'u Cwmni, ag amryw o'r cydfasnachaethau Belgiaidd, am contract am 9,000 o dunelli o reiliau dur oedd eu heisieu ar y Reilffordd Rufeinig, ao y mae yn hyfrydwch genyf ddweyd ac adrodd y ffaith fod yr archeb wedi ei meddianu gan y firm fawr Seisnig, yr hon a gynygiai y reiliau am 6p. 10s. y dunell; yr oedd yn ddealledig, feddyliwyf, fod y reiliau i gael eu rhoddi yn Leghorn. Nid yn unig cafwyd y fargen gan y Mri. Bolckow a'u Cwmni, ond hefyd oedd eu pris 12s. 9e. yn llai na'r un a roddwyd gan Gwmni John Cockerill, o Seraing, Belgium Rhoddodd Cwmni Gweithfeydd Dur Angleur, eydfasnachaeth arall yn Belgium, eu pris i mewn, ond yr oedd y rhai hyn mewn gwaeth sefyllfa na'r Cockerilliaid. Yr ydym yn gobeithio fod y llwyddiant hwn o eiddoy Cwmai Prydeinig yn arwydd gobeithlawn am y dyfodol. Mae credit Prydeinig, dyfais Brydeinig, anturiaeth Brydeinig, adnoddau Prydeinig, a gweith- garwch a diwydrwyckl Prydeinig wedi dangos eu honeidrwydd cyntefig; ac yn lie ein bod yn cael ein ysbeilio gan gydfasnach- faodd haiarn gwledydd ereill, y mae yo ymddangos fod yn ddichonadwy i ni un- waith eto gael gafael mewn bargenion Cyfandirol. Yr wyf yn teimlo awydd i bregetha pregeth gymdeithasol fyr oddiar y testyn 6p. 10s. y dunell o bris am reiliau dur a roddwyd gan y firm, lwyddianus hon. Mae yn amlwg nad allasent gael hyn oni fuasai bod ei rheolaeth a'i threfnidiaeth yn cael eu hynodi gan y trefniadau manyl- af. Gwybodaeth fanwl o weithgarweh a diwydrwydd Cyfandirol, defnyddiaeth ofal- us o ddefnyddiau iselaf eu pris, a dygiad i weithrediad yr offerynau peirianyddol goreu, yn Mhyd a phenderfyniad didroi yn ol i wynefln anhawsderau o bob math- hyn, a hyn yn unig, a'u galluogodd i ym- gymeryd a gosod reiliau dur yn Leghorn am 6p. 10s. y dunell. Er galluogi gweith- garwch Prydain 1 awr, 'ie, pob math ohono, i fywhau ac adenill ei uwchaflaeth cynt- efig, rhaid yn gyntaf gynyrchu y nwyddau am bris isel; a rhaid i hyny gael ei ddwyn oddiamgylch dewy gynorthwy cyflogau isel, neu o leiaf cyflogau rhesymol o isel. Yr ydym, oddiar y flwyddyn 1873, wedi cael ein bygylu gan y ddrychiolaeth o gyd- ymgais Belgiaidd; ond paham y gwnaeth y ddrychiolaeth hon ei hymddangosiad? Dywedwn, mai y codiad rhyfeddol mewn eyflogau yn 1873 a 1874 yn Mhrydain a achosodd hyny. a'r rhai hynv heb un olioo o nemawr o'u llesiant ar neb ond cribddeil- wyr m«snachol a diotdai. Boed i'r meistri a'r gweithwyr uno mewn cydweithrediad, ac yna ciliai y eydymgais dramor, am yr hyn ydym wedi clywed cymaint, fel adeil- adaeth freuddwydiol ddisail, a daw ein gwlad am unwaith rhagor i ddangos, dim ond iddi fod yn ffyddlawn iddi eu hun, nad oes achos iddi ofni neb, mewn gweithio haiarn na dim arall, oddiwrth wrthwyneb- wyr allanol, a chydymgais estronol. Wrth daflu golwg dros LLOEGR yr wythnos ddiweddaf, mae masnach haiarn gogledd Lloegr yehydig yn fwy gsbeithiol, er, feallai, nad yw y gwaith yn weithredol fywiog. Mae y prisoedd yn aios yr un ac yn yr wythnosau blaenorol. Masnach glo Gorllewinbarth Cumberland mewn sefyllfa isel a marwaidd. Cais am lo i'w allforio yr un modd. Y prisoedd a'r cyflogau wedi cael eu gostwng. Dim cyfnewidiad er gwell mewn mwn haiarn nac mewn haiarn bwrw. Masnach y reiliau dur yn fywiog; ond yr haiarn gorphen-wneuthurol yn farwaidd. Masnach weddol wedi cael ei gwneyd mewn Bessemer iron yn ddiweddar yn ngogleddbarth Sir Gaerwerydd a Cum- berland, ond golwg wanaidd sydd ar haiarn forge a mathau ereill. Prisoedd yn gost- wng—63s. 6c. am Rhif. 1, Bessemer; a 61s. am Rhif. 3, forge. Y gweithfeydd dur yn gweithio yn weddol dda. Marwaidd rhyfeddol yw masnach drwy holl Sir Gaer- werydd, bychan yw y cais am lo a haiarn, a thueddiad y prisoedd i ostwng. Ychydig a roddasant eu presenoldeb, a llai nac arferol oedd ar y 'Change yn Middles- borough dydd Mawrth, ac arwyddion gost- yngiad yn y prisoedd. Nid oes yr un arwyddion gwelliant drwy holl weithfeydd Lloegr. Marwaidd oedd marchnad yr haiarn yn GLASGOW drwy yr wythnos ddiweddaf, a'r prisoedd a'u tueddiad i ostwng; a'r un modd yr oedd masnach y glo, y prisoedd yn hynod isel. Rhaid gadael gwlad y Sais a dyfod i'r Dywysogaeth Gymreig. Mae golyglen y glo a allforiwyd yn NGHAERDYDD am y mis diweddaf yn dangos cynydd boddhaol, a'r un modd yn y porthladdoedd ereill perthynol i'r Dywysogaeth, wrth eu eydmaru a'r un mis yn y flwyddyn 1877, ac fel prawf o'r modd y mae y cais yn cael ei gadw i fyoy, y mae yn y ffaith fod dros 11,000 o wageni o lo wedi cael eu cludo gan Reilffordd y Taff mewn un wythnos i Gaerdydd. Y ngwyneb hyn y mae yn ofidus i feddwl fod y prisoedd mor isel. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddiweddaf i wledydd tramor 77,213 o dunelli o lo, 1,800 o dunelli o haiarn a dur, a 1,290 o dunelli o patent fuel. Y dywediad eyffred- inol yw fod mwy o waith yn cael ei wneyd yn mhyllau glo y rhanbarth. Lied ddialw am dano yw glo at wasanaeth tai, a'r un peth ellir ddyweyd am y patent fuel. Yr oedd yr allforiadau o haiarn a dur yr wyth- nos ddiweddaf yn benaf i Awstralia a Sweden. Lied anfoddhaus yw prisoedd yr alcan, am eu bod yn parhau yn hynod o isel. Yn rhanbarth ABERTAWE, er mai marweidd dra sydd yn parhau i nodweddoli yr oil o'r fasnach gyffredinol, rhoddodd rhywbeth ysbardyniad i fasnach y glo o ryw natur rhyfeddol. Mae y doc- iau yn orlawn o longau; a'r ffith oedd y cais am lwythi, fel y cedwid yr oil o'r drops yn y South Docks ar waith ddydd a nos i lwytho llongau eto, ni chyffrodd y pris- oedd, er yr holl fywiogrwydd hyn; ac y mae mwy o lo nag sydd yn eisieu yn barod i'w gael. Daeth llwytho patent fuel hefyd yn well. Allforiwyd oddiyma, yr wyth- nos ddtweddaf, 10,824 o dunelli o lo, a l,4o0 o dunelli o patent fuel. Er y cais am lo i'w allforio (agerlo yn benaf), a'r bywiogrwydd yn y porthladd, nid oes ond cryn ychydig o guis am lo at y gweith- feydd, na glo at wasanaeth tai. 0 ganlyn- iad, trwy farweidd-dra masnach yr haiarn, mae y rhan fwyaf o'r gweithfeydd haiarn trwy y rhanbarth, a dyffrynoedd Nedd a Thawe, dim ond o'r braidd yn fyw, ac heb yr un arwydd am adfywiad a chynydd yn y cais na'r prisoedd. Dygir gwaith gweddol o reolaidd yn mlaen yn ngweithfeydd dur Glandwr, tra y mae mwyafrif y gweith- feydd alcan yn vigorously employed, working at full speed, gydag ychydig gwell cais, a dichon radd yn well yn y pris. Yn rhan- barth MERTHTR TYDFIL, gweithiodd y gweithfeydd glo yn rheolaidd trwy yr wythnos, a gwageni fuont am amser maith yn gweithio eu ffordd trwy ddyffryn Rhondda a ddeuant yn awr yn niferi lluosog i Gyfarthfn. Cyfeiriwyf at y rhai hyny o eiddo Cory a'i Gwmni. Mae gwtithfeydd Dowlais mewn 11awn ffrwst yn awr mewn gweithio rheiliau a bariau, ac y mae rhyw sibrwd am adgychwyn y rhai Plymouth. Dywedir fod y cwmui newydd yn awr wedi ei ffurfio, a dim, ond yn d ysgwyl rhyw drefniadau bychain. Cyflogwyd nifer fawr o'r puddlers gan oruchwyliwr o gymydogaeth L'erpwl, a chychwynodd rhai o weithwyr goreu Ply- mouth a Chyfarthfa tuag yno dydd Gwener diweddaf. Mae masnach gyffredinol rhan- barth RHYMNI yn edrych "ychydig yn oleuach nag y buodd yn ddiweddar. Tra yr adfywia pethau yn Nglyn Ebwy, trwy i nifer o ffwrnesi pydio gael eu hadgyneu yn Victoria, ni waethyg- odd Tredegar yn ei sefyllfa mewn gwneyd haiarn, er nad yw yr archebion sydd ar law yn y lie olaf yn alluog i gadw y gweithfeydd i weithio am amser i ddyfod. Amcana Cwmni Tredegar adeiladu gweith- feydd mawrion newydd i weithio dur. Yn y lleoedd hyn yn awr, gwisga masnach y glo arddrych adfywiol; ac achosa yr hyn a losgir yn y gweithfeydd gynydd mawr yn y defnydd ohono yn gystal a gweithio golosglo, yr hyn sydd yn myned yn mlaen yn Nhredegar. Yn Rhymni, mae pethau yn agos yr un fath. Ar ol ychydig seib- iant yn niwedd yr wythnos, adgyneuwyd un melin rheiliau eto i wneyd archeb fechan o reiliau; ac ar ol gwneyd hono, bydd ychydig ganoedd o dunelli o reiliau dur ysgafn i gael eu gweithio, yn yr hyn os llwyddir, bydd y felin i gael ei chadw yn mlaen am rai wythnosau i ddyfod. Nid oes yr un cyfnewiad yn 'masnach leol y glo, ond dengys arwyddion fod cais gweddol yn masnach y glo at wasanaeth tai. M A SNA CHDEIT ttlWR.
Eisteddfbd Treherbert, Nadolig,…
Eisteddfbd Treherbert, Nadolig, 1877. BEIRNIADAETH AR AWDLAU Y NEFOEDD." GAN HWFA MÔN. Derbyniwyd tair o Awdlau ar y Nef- oedd, sef eiddo Pererin Llesg, Nefgarwr, a Pererin pur ei hiraeth. Yr oedd eiddo Pererin LIesg yn rhy ddiweddar i law, ac oherwydd hyny y mae allan o'r gy- stadleuaeth. Ond po buasai mewn llaw yn brydlon ni buasai yn enill y gamp, oblegyd tra ragora y ddwy Awdl arall ar yr eiddo ef. Nefgarwr.-Awdl lafurfawr yw hon. Dechreua yr awdwr gyda darnodiad o'r Nefoedd yn ei harddwch a'i heddwch. Wedi hyny, crybwylla am ei henafiaeth —creadigaeth angylion—y Nefoedd fel gwlad a dinas—yr afon bur-y. meini gwerthfawr-ysblander y fangre—cread- igaeth dyn-ei ogoniant cyntefig-ei 0 zn 1-13 gwymp—ei adferiad drwy y Cyfryngwr -y saint yn y N efoedd--cerdd Abel- Enoch —Elias—Noah—Abraham—Job— Moses — Daniel — Esaiah — Jeremiah — Dafydd-yr Apostolion-y doethion o'r Dwyrain—cydfawl yr holl Nefoedd— Calfaria yn brif bwnc y mawl—y Nef- oedd yn dragywyddol ddydd-Duw a'r Oen yn oleuni iddi-ei gogoniant yn an- niflanedig, &c. Arddengys Nefgarwr lawer o allu; ond buasai ei Awdl yn dryloewach pe rhoddasai lai o ansodd- eiriau ynddi, megys y dengys y llinellau canlynol:— Trwy hon try hedd, Nwyf lon, Nef wledd, Union anedd, wen hoenus Lle hardd, llu hoff, Oror eitrlboff; A man glyd, heb ddim yn gloff, Haddef orhoff ddifyrus. Heblaw hyn buasai iaithwedd yr Awdl yn llawer dillynach pe ymataliasai y bardd rhag mynychu yr un ansoddeiriau drosodd a throsodd drachefn. Megys y tra mynychiad canlynol o'r gair hardd:— Lie hardd—hardda'n Ion—wedd lwrdd- hardd fod—Uwyv hardd — dull hardd hardcl oleuni—pyrth lidrrld-hwylus hardrl- mae'n hardd—heirdd furiau—gwlad hardd —heb harddwch,— ynad hardd—hardd eu trem-heîrdd eu liurddas-bywioc, heirdd -glod hardd-effro herrdd—gwyn hardda -byw heirdd—oil yn heirdd, &c. Y mae tra mynychiad fel hyn, hyd yn nod o'r ansoddair hardd, yn anharddu gwaith yn hytrach na'i harddu. Gyda mwy o ofal buasai yn hawdd i Nefgarwr gael gwell dyfaliad na'r hwn sydd ganddo am yr angylion yn gwneyd oy cywyddau, englynion, awdlau, aphrydd- estau i Dduw. Y mae syniadau fel yna yn ddigon a pheri i ambell un feddwl eu bod yn cynal eisteddfod yn y lie gogon- eddus a hyfryd! Peth arall sydd yn tynu oddiwrth gyfunffurf y cyfansoddiad hwn yw ail fynegiad o'r un syniadau. Yn nechreu y gwaith cawn y llinellau hyn am yr angylion yn canu am eu creu — Dygant am greadigaeth Fawl per y gwiw Ner a'u gwnaeth Gan hoff rai, mawl genau ffraeth, Yn deilwng am fodolaeth Gan eilio am gynaliaeth, Erddygan o gyngan gaeth Bywiocau clod yn mhob cwr, I'w cynaliwr cain helaeth. Cyn diwedd yr Awdl, cawn yr un syn- iadau drachefn fel y profa y llinellau dilynol:— Dyg engyl i'w Duw gyngan,—am eu creu, Mwynlia croth y gydgan, Yn ddigoll, chwydda y gan, > I Grewr eu gorhoian. Gyda y pethau hyn, gollyngocld Nefgar- wr lawer o hen gynghaneddion a hen liliellau cyfeuon i'w Awdl; megys :— Fel y mellt yn cyflym wau. Prif addurn pob rhyfeddod. Trwy ogoniant ar gynydd. Drwy y Nef a'n daear ni. Agoryd drws trugaredd. I gynal ei ogoniant. Egyr ddrws trugaredd rad. Try agoriad trugaredd. Daw henaint i'n dihoeni. Ni bydd un, na bedd yno, Ac. Dylai Nefgarwr fod yn fwy gofalus hefyd am gysondeb ei ddywediadau, canys y mae yn gwrthddweyd ei hun, fel y gwelir, pan y mae yn dweyd am henafiaeth y nefoedd yn y llinellau hyn :— Y Nefoedd yw henafiaeth, Hardda'n Ion, mewn urdd a wnaeth. Ac wedi dywedyd hynyna, dyweda dra- chefn Yn ei rhwysg mae hon erioed, Yr un oed a'r I6n ei hun. Onid yw y gweithiwr yn hynach na'r waith ? Onid yw y Creawdwr yn hynach na'r creadur? Gresyn i awdwr mor- alluog fod mor ddiofal, canys andwyodd ddefnydd Awdl odidog drwy hyny. Os gofala Nefgarwr y tro nesaf am gynllun priodol, iaith ddillyn, gweithiad allan, rheolaidd, eysondeb ymadroddiad, gochel- garweh rhag ail-adroddiadau, &c., bydd! yn llawer tebyeach o gyrhaedd y nod. Pererin pur ei hiraeth.—Y mae yr Awdl hon yn gynyrch meddwl gwir- farddonol. Mae yr iaith yn ddillyn a llawn; y cynghaneddion yn newydd ac esmwyth; y dychymygiad yn naturiol ac aruchel; ac y mae y gweithiad allam yn bob peth a ddymunasem ei gael. Dechreua y bardd mewn gorsynder uwch- ben mawredd ei destyn, a dywed:— Y Nefoedd Mae'n ofer-i eiddilyn Ddal y gorddysgleirder Marwol wyf mOr o leufer Sydd ormod i'm nychdod, Ner Wedi hyn rhydd deyrnged o ddiolchgar- wch mai yn araf y mae y lien yn cael ei symud oddiar y mawr ragorol ogoniant. A mynega — Hyd yn hyn, da yw i ni- fod y Nef 0 dan niwl,-fod lleni Yn dyner iawn am dani, Gwal uwch haul o'i hamgylch hi. 0 radd i radd fe roddid y Prawf ar brawf, am y fro brid; Graddol olynol enwau, Yn ol y nerth i'w mwynhau. Yna cerdda y bardd rhagddo i ddesgrifio. y Nefoedd o dan wahanol enwau. De- chreua trwy roddi darluniad ohoni fel Ail Baradwys, trwy yr hwn deitl y sugnai Adda ac Efa eu dedwyddwch ar ol eu cwymp. Wedi hyn portrea Wlad Canaan fel cysgod o'r Nefoedd i Abraham, a holl deulu y ffydd. A deuai y wlad dawel A'i ffrydiol laeth, maeth. a inel, I Abram, wrth ymlwybro, Yn rhag arwydd hylwydd o Wlad Well: o Nef y Nefoedd, Yr ail gysgod hynod oedd. Ac fel cysgod o ddyfodol—y Nef Mwynhai y fro hudol; Yn swynion y presenol Llawenhai fod gwell yn ol. Y foddus etifeddiaeth, Yn ei ddydd i'w ran ni ddaeth Ond fel drych dihafal draw Ar ymyl Nef i dremiaw 'Roedel siriol erddi Saron,-i'w feddwl Fel rhodfeydd angylion A swn tawel awel Ion Canaan fel can nefolion. Ar ol hyn ymddyrchafa i ddarlunio y Gaersale,Il ddaearol, fel drych i osod. allan y Gaersalem fry. A thraetha :— Os enwog oedd Sion gu, Eiddil oedd i ddelweddu Caeisalem Nef y Nefoedd,—lle'r erys Allor lor y bydoedd A'u Hior gwir ei Hun ar g'oedd Ei faith Lys, fythol oesoedd Wedi cael darluniad ardderchog o'r Nef- oedd fel Caersalem, cawn drachefn ddar- luniad ohoni fel Yr Orphwysfa Lonydd, ac fel Ty y Tad. Y mae yr holl ddarlun- iadau hyn yn odidog a barddonol. Ac i gwblhau yr Awdl, cawn bortread ar- uchel o'r Nefoedd fel Lie yr Wyf Fi. Diwedda gan ddywedyd na bydd Yno ddig, nac eiddigedd, Ond cydfyd o hyfryd hedd Ni faga Ephraim geiifigen—wed'yn At Juda, nac absen Ni ddaw un Ilid prudd na lien Dros nwyfre y lie llawen. Ar ei dawel wehelyth Juda ni chyfynga fyth. Ac yno yn eu canol,—yr lesu Arosarn dragwyddol; Heb gwyn, heb swyn absenol, Na neb, nac ewin yn ol. Ystyriwn fod yr Awdl hon yn EM ddys- glaer yn mysg trysorau ein hiaith; ac y mae yn fri i Eisteddfod Carmel, Treher- bert. Ni phetruswn ddweyd mai hi yw yr oreu, a bod ei hawdwr athrylithgar yn gwir deilyngu y Gadair,—Yr eiddoch, yn bur. Llundain. HWFA MuN. SYLWER.—Bydd yr Awdl fuddugol hon a'r- Traethawd buddugol ar "Briodas," allan o'r Wasg yn mhen ychydig ddyddiau. Pris y ddau yn un llyfr, 6c. trwy y Post, G.lc. Gwel ein hysbysiad mewn colofn arall.— R. T. WILLIAMS, Ysgrifenydd.
[No title]
Fe ddywedir nad yw y glowyr aethant o'r De i Bettisfield, sir Fflint, wedi cael pobpeth I yn unol a'r addewidion roddwyd iddynt.