Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GRUFFYDI) LLEWELYN:

News
Cite
Share

GRUFFYDI) LLEWELYN: NOP EL. PENOD III. Druan o Gruffydd! dvna ef yn amddifad o dad a mam cyn ei fod yn dair blwydd a haner oed, ac wedi ei adael yn gyfangwbl ar drugaredd tonau mor bywyd. Y mae efe yn rhy ieuaac i deimlo ei sefyllfa. Wel, ddarllenydd, y man yr ydym yn cael Gruffydd ydyw yn Nhlotiy yr Undeb yn Ughaerdaf, yn mhlith lluaws o blant am- ddifad ereill, at ba rai y gellir cymhwyso geiriau y bardd gyda phriodoldeb :— Yn mlia Ie, aneb yu sylwi, Mae'r amddifad bach dinam, Serch i'w feitlirin wedi oeri Draw yn meddrod tad a mam Estron caled iddo yn gweini, Yntau'n methu codi ei law Fach i atal nn camwri Yn Nhlotdy'r Undeb draw. Pe buasai rhywun yn dweyd wrth Wil ac Elizabeth, ei rieni, boreu eu priodas mai marw o dorcalon wnelsai hi, ae mai marw ar y grogbren a wnelsai ef, ae mai Tiotdy yr Undeb fuasai lie eu mab, ni fuasai yn debygol y buasent yn credu, ond fel y -dywed yr hen ddiareb "Ni wyr dyn ei dynged," felly y bu gyda hwy. Cafodd ei ddwyn tua'r tiotdy yehydig wedi crogi k Z3. ei dad, ac nid oes neb a wyr ond yr Hwn sydd yn gwybod pob peth pa faint o an- mharch a chaledi a ddyoddefodd yma. -f Y mae deuddeg mlynedd wedi pasio oddiar pan y dygwyddodd yr amgylchiadau blaen- orol. Y mae llawer o hen drigolion y plwyf, ag oeddynt yn fyw y pryd hwnw, erbyn hyn yn tawel orphwys oddiwrth lafur ac helbulon y bywyd presenol yn mynwent henafol Eglwys y Plwyf. Y mae llawer o'r rhianod ag oeddent yn ysgafndroed y pryd hwnw erbyn hyn yn famau. Y mae y Ilanciau bywiog, heinyf, ac ysgafn a difeddwl yn awr wedi dyfod yn benauteuluoedd; ond pa le mae ein harwr ? *Wel, yn mhen deuddeg mlynedd wedi iddo gael ei gymeryd i'r tiotdy, prentisiwyd ef gan y plwyf gyda chrydd, i ddysgu y grefft, yn Llanfabon. Dechreuodd arni a'i holl egni, ond tegyw add6f y gwir, yr oedd yn hollol anfedrus gyda phob peth perthynol i'w alwad, ae nid anfynych y byddai yr ystrapen ledr yn talu ymweliad a chymy. dogaeth ei gefn. Hefyd, pe buasai aw- durdodau y plwyf yn chwilio holl siroedd Cymru ni allasent gael cythreulddyn mwy diegwyddor wrth fachgen amddifad na'r hwn y gosodwyd Gruffydd gydag ef. Haner newynwyd ef, ni chelai ei ymborth yn ei bryd, a phan y celai ef nid oedd yn cael haner digon; ac nid oedd y dillad oedd o amgylch ei gorif yn agos digon i gadw ymaith yr oerni. Effeithiodd hyn gymaint arno nes iddo gael anwyd trwm, yn gymaint fel yr aeth mor isel nes methu codi o'i wely, a phan y gorweddai yn y cyflwr hwnw esgenlusid ef yn hollol-ni chelai ddim braidd ag oedd yn angenrheidiol arno* yn ei glefyd. Mynych yr ymholai ag ef ei hun A yd oedd y caethiwfcd hwnw i bar- hau byth." Wedi yehydig wythnosau o glefyd daeth yn well, a gwellhaodd yn raddol nes cyn hir yr oedd yn alluog i ym- ymgymeryd a'i orchwylion. Os oedd yn ddrwg cynt yr oedd yn fil gwaeth yn awr. Annghofiasom ddweyd pan y bu yn y tlotdy iddo gael ysgol dda, ac iddo ddyfod yn ysgolhaig rhagorol, a phan ddechreuodd a gwella aeth am dro tua'r Ty Draw, lie y cafodd fenthyg amryw lyfrau, a mawr oedd ei hoffder ohonynt, a dysgu tipyn ar Edward, mab y tS-, yn mhellach yn ngwa- hanol ganghenau gwybodaeth, gan nad oedd Edward wedi cael dim ond ysgol i ddysgu ditrllen. 0 dan gyfarwyddyd daeth i ysgrifenu yn dda. Deallodd ei feistr eu bod yn rhoddi benthyg llyfrau iddo yn y Ty Draw, a gorchymynodd yn gaeth .iddynt i beidio; ond ni thyciai ei orchymyn arnynt, oblegyd rhoddi benthyg oeddynt o hyd, a pharai eu hymddygiad i'w feistr dysgedig (?) fyned i'r nwydau mwyaf ofnadwy. Yn fynych byddai Gru- ffydd, os caffai gyfleusdra, yn darllen wrth weithio, a mynych yr oedd wedi cael ei lyneu gymaint gan yr hyn fyddai yn ei ddarllen nes' y byddai golwg chwithig ar ei waith, ar hyny, eyhuddai ei feistr ef o csgeulusdra, ac hwyraeh y celai y dalu ymweliad a'i benglog. Er ei holl wrthwynebiadau, yr oedd awydd Gruffydd am ddarllen yn cynyddu bob dydd, ac ar ol gorphen ei ddiwrnod gwaith, ymneill- duai, os byddai yn deg, i goedwig gyfagos i ddarllen, neu os buasai yn wlaw elai i dy Modryb Nani Vr Eglwys. Wedi i'w feistr ddeall hyn, gwnaeth gyfraith ag oedd yn gorfodi Gruffydd i fod yn y ty am naw o'r gloch bob nos, neu fod y drws i gael ei gloi yn ei erbyn; ac nid yn, unig hyny, ond caffai aros hyd nes y byddent hwy wedi gorphen, ac yna, bwyta ar eu hoi. Nid rhyfedd yw i'r llano i ymollwng o dan y fath dtiniaethan. Tin noswaitb, pan oedd wedi bod a phar o esgidiau dros ei feistr i rai o1 gwsmeriaid, dygwyddodd alw yn y Ty Draw, gyda'i gyfaill Edward, ac wrth ei fod yn siarad a hwnw, llithrodd ,yr amser ymaith yn ddiarwybod iddo, hyd nes oedd yn haner awr wedi naw o'r gloch arno yn cyrhaedd y ty; yr oedd v drws wedi ei gloi. Gwelai oleuni yn tywynu nwch ei ben yn y ffenestr, ond er iddo erfyn trwy ddagrau am gael myned i mewn, pallodd ei feistr. Nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond naill ai gorwedd i tawr ar y ddaear oer neu fyned i mewn i rywle. Meddyliodd am fyned yn ol i'r Ty Draw, ond yr oedd ofn gwraig y ty arno. vVrth fyfyrio pa beth oedd i'w wneyd, meddyl- iodd feallai nad oedd Modryb Nani o'r Eglwys wedi myned i'r gwely, gan nad oedd hi a'i phriod yn myned i'r gwely yn gynar iawn, ac y cawsai efe orwedd ar lawr wrth y tan drwy y nos. Brysiodd tuag yno, ac yr oeddynt heb fyned i'r gwely. Ar ei waith yn curo y drws, cawsant dipyn o ofa, nes peri i Newyrth Dai i ofyn yn awdurdodol: — "Pwy sydd yna yr amser hyn o'r nos?" Y fi," atebai Gruffydd. Pwy wyt ti, o ba le yr wyt ti yn d'od, a beth wyt ya ei ymofyn ?" gofynai Dai. Gruffydd Lle welyn, ac y mae fy meistr wedi fy nghloi allan, a gofynwyf am gael dyfod i mewn i gysgu o flaen y tan." Gyda hyn^agorodd Dai y drws gyda'r parodrwydd mwyaf, ac wedi iddo adrodd pa fodd y bu arno, ymneillduodd Newyrth Dai a Modryb Nani i orphwys dros y nos, a chysgodd ein harwr o flaen v tan, a chafodd hun felus. Boreu dranoeth, cyfod- odd, a phrysurodd tua thy ei feistr. Yr oeddynt wedi cyfodi; crynai pan yn agor y llidiart, yr hwn oedd o flaen y ty. Yr holiad cyntaf a wnaed oedd pa Ie yr oedd wedi bod y noson cyn hyny. Atebodd I mai yn nhy Modryb Nani o'r Eglwys. Ai nid wyt yn barnu fod hyd naw o'r glOch y nos yn ddigoa i ti fod allan." We1, yr wyf yn ymdreebu cadw y gyfraith gymaint ag a allaf, ond methais y neithiwr, nid oedd ond noswaith o ddy- gwyddiad," ebai Gruffydd. Wel, caiff fod felly," atebai ei feistr, ond er mwyn argraffu y gyfraith yn fwy dwfn ar dy gof, cei fod heb dy foreufwyd heddyw." "O! yr wyf bron yn rhy wan i sefyll ar fy nhraed, gan nad wyf wedi profi un tamaid wedi prydnawnbryd y ddoe. 0! gadewch i mi gael tamaid o fara," llefai Gruffydd. "Dylasit ddyfod mewn pryd i gael dy swper neithiwr, ac yn awr, heb ragor o siarad, at dy waith yn ddiaros," oedd ateb- iad y meistr creulon. Nid ymddangosai Gruffydd un awydd na brys neillduol am fyned at ei waith, ac yn fuan rhoddodd ei feistr hergwd iddo, ond dim yn tycio; o'r diwedd, rhoddodd ei ffordd i'w nwydau, gan ei gicio yn ddi- drugaredd, ac ar yr un pryd ei alw yn fab i'r llofrudd, a .phob budr enwau ereill. Yn ystod, y dydd penderfynodd i ymadael a'rlle y nos hono, ao i fyned ffwrdd o'r wlad. Cafodd dipyn o gyfleusdra i gludo yr yeh- ydig ddillad ag oedd ganddo i allt gyfagos, fel y byddent barod erbyn y nos. Wedi iddo adael ei waith, aeth i dalu ymweliad a mynwent Eglwys y Plwyf, a mwydodd y glaswellt a orchuddiau bedd ei anwyl fam a'i ddagrau. Wedi hyny, cychwynodd tua'r Ty Draw, ac adroddodd helynt y nos- waith flaenorol a'r boreu hwnw wrthynt. Daeth Edward i'w ddanfon am dipyn pan oedd yn myned tua thref, ac hysbysodd ei fwriad iddo. Dywedai Edward ei fod yn rhyfeddu pa fodd yr oedd wedi gallu aros eyhyd yn y fath gaethiwed, a dymunodd lwe dda, gan ddweyd os byth y deuai i blwyf Llanfabon am iddo gofio galw gydag ef, ac ymadawsant—Edward tua threfc a Gruffydd tua thy ei feistr. Cyn hir wedi iddo gyrhaedd ty ei feistr, daeth swper i'r bwrdd, ac wedi eyfranogi ohoni ymwahan- odd y teulu idd eu gwahanol orphwysfaoedd, a phan ddeallodd Gruffydd eu bod wedi cael eu goddiweddyd gan meistr cwsg, dechreuodd barotoi i'w daith. Cyn pen nemawr o amser yr oedd pob peth yn barod, ac yntau yn codi diced y drws ac ar ei waith yn agor y drws, elywodd ei feistres yn gofyn Beth sydd ar y llawr?" "Dim ond y cathau," oedd yr ateb gafodd. Daliodd ein harwr ei hanadl, a phan oedd tyn meddwl fod pob peth yn ddiogel, cychwynodd. (I'w larhauj.

Beirmadaeth Oyfarfod Cystadleuol…

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

ORIEL Y BEIRDD.'