Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

O'r Gorllewin!

[No title]

Advertising

LLANGENNECH.

GOGLEDD LLOEGR.

News
Cite
Share

GOGLEDD LLOEGR. Ychydig o hanes o'r lie hwn sydd i'w gan- fod yn y GWLADGARWR, sef organ y gweith- iwr. Y mae yn dda genym ddeall ei fod wedi cyrhaedd ei ugain oed mewn perffaith iechyd, heb un argoel o'r darfodedigaeth arno. Y peth sydd wedi creu awydd ynom i anfon llith i'r GWLADGARWR ydyw ein sefyll fa ni,-fel gweithwyr, ar adeg helbulus fel y bresenol. Wrth ddarllen yn y gwahanol new- yddiatluron am y tlodi mawr sydd yn ffynu yn ein Hen Wlad lien ganwyd a'n magwyd, teimlwn yn ddwys am y dyoddefwyr, ac yn ofidus, braidd, am nad allem anfon cynorthwy iddynt. Tlawd ydyw mewn Ilawer o fanau yma—ein gweithfeydd mawrion a'u holwyn- ion wedi eu hatal er's tro, heb un gobaith am ail gychwyniad. Yn ychwanegol at hyn y mae rhybuddion wedi eu gosod i fyny i 03twng ein cyflogau. Y mae yma lawer iawn allan o waith, ac yn ymddibynu argaredig- rwydd ac ewyllysgarwch ereill. Gwelsom adeg digon helbulus ar ein gweithfeydd o'r blaen, ond dim cyhyd a'r adeg bresenol, a'r gofyniad gan bawb ydyw "Beth ddaw ohonom fel gweithwyr?" Pa beth ydyw ateb ein cyfaill o L'erpwl ? A oes gwlad i ni i ymfudo iddi 1 A oes gwlad heb ormes a-thrais o fewn ei chyffiniau 1 Ofnwyf nad oes. Y mae glo- wyr Northumberland wedi cychwyn i ail weithio ar y 12t y cant o ostyngiad, ar ol bod allan am dymor. Pa le mae cyflafaredd- iad y meistri yn awr ? O nid oes angen am dano, meddent, pan ar adegau ereill yr oedd- ent yn foddlawn i gyflafareddiad fod y mae pethau wedi cyfnewid yn awr, y gwanaf i ymostwng dan iau y gormeswyr. Y mae yn dda genym feddwl fod ein Bwrdd ni, sef Bwrdd Cyflafareddol Gweithwyr Tan Gogledd Lloegr, yn para yn ei berffeithrwydd, ac yn debyg o wneyd hyny, gan fod y fath deimlad hapus yn bodoli rhwng y meistri a'r gweith- wyr. Gydweithwyr, gofalwch am y dynion mwyaf cymhwys at eich cynrychioli, rhai ag y gellwch hyderu yn eu gonestrwydd pan yn eich cynrychioli. Gwyddom ein sefyllfa fel gweithwyr, rhai allan o waith, a lluaws mewn angen bara. Gwawried yr adeg na welir neb a fyddo yn dewis gweithio mewn eisieu bara.-Dewi Glan Tees.

ABERDAR.

CWMBACH.

TAIBACH, MORGANWG.

CWMAFON.

DAFEN.

MERTHYR.

GLANTWRCH.

NEILLDU OLION.

Advertising