Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

O'r Gorllewin!

News
Cite
Share

O'r Gorllewin! (Allan o'r Wa-y, am Chwefror 9fed). Y FASNACH HAIARN. Bydd i felin haiarn Wellsville gychwyn mewn Ilawn hwyliau yn mhen ychydig ddyddiau. Dywed newyddiaduron Sharon nad oes gobaith am waith y gauaf hwn yn melin Middlesex. Mae gweithiau dur newyddion Joseph H. Brown, yn Chicago, agos yn barod i ddechreu gweithio. Yn ngwaith hoelion yr Etna, New Castle, Pennsylvania, gwnaed 102,000 kegs o hoelion y flwyddyn diweddaf. Mae mwyafrif melinau Pittsburgh yn rhedeg yn hynod gyson, er fod rhai ohonynt dipyn yn arafaidd. Wrth gymharu y fasnach haiarn mewn gwahanol fanau yn y wlad, cawn fod y ddinas hon yn derbyn rhan dda o'r archebion sydd yn cael eu cyflenwi. Mae'n wir nad ydym yn cael digon i gadw olwynion pob melin i redeg twrn dwbl, ond dylem ymfoddloni ar ein sefyllfa, gan fod cynifer o fanau yn methu cael dim i'w wneyd. Mae pob melin yn orlawn o weithwyr. Y FASNACH LO. Coshocton, Ohio.-Mae y gwaith yn y lie hwn yn rhedeg yn araf iawn ar hyn o bryd, oherwydd llawnder y farchnad lo ac y mae amryw o'r mwnwyr yn ymadael—rhai tua Church Hill, ac ereill ni wyddis i ba Ie. Irwin Station, Pennsylwnia.Mae cant o lowyr wedi cael eu suspendio yma gan gwmni y Penn Gas, ac wedi hyny ataliwyd Shaft No. 2. Warrior Run, P ennsyl ran ia.. A I' fer a i rhai canoedd o bobl gael gwaith yma, ond yn awr y maent yn cae: dyoddef yn drwm oher- wydd arafwch masnach y glo. Nid ydym yn cael gweithio ond haner amser, a dywedir fod rhai teuluoedd yn dyoddef cisieu bwyd. (O'r Drych Americanaidd). FEUG-DEITLAU.—Ymddangosodd y llythyr canlynol oddiwrth T. D. Jones, Brazil, Indiana, yn y Drych am Ionawr Slain :— Gwelwn oddiwrth y Drych a newyddiaduron Cymreig yr Hen Wlad, fod cyfeillion Myfyr Morganwg wedi cyflwyno iddo yn ddiweddar diploma o Brifysgol Philadelphia, gyda'r teitl o D. C. L., (Doctor of Civil Laws). Yn awr, a fedr rhai o ddarllenwyr y Drych ein hys- bysu yn mha le yn Philadelphia y mae'r Brif- ysgol hon, a phwy yw ei llywydd 1 Gwyddis fod lluawr o deitlau wedi cael ei gwerthu yn Philadelphia, á'u prynu gan ffyliaid uchel- geisiol yn Mhrydain. Drosodd a throsodd drachefn, mae gwasg y ddwy wlad wedi rhoi pobl ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn y budr- waith hwn. Mae haid o ladron yn Philadel- phia yn gwneyd masnach er ys blynyddau mewn teitlau athrofaol o bob math. Weith- iau galwant yr urddysgol ar yr enw yma, dro arall ar yr enw acw—ond yr un giwaid sydd wrth wraidd yr holl dwyll. Ofnwn mai twyll o'r duaf yw y teitl a gyflwynwyd i Myfyr Morganwg, ac nad yw yn werth y memrwn ar ba un yr ysgrifenwyd ef. Byddai tipyn o oleuni drwy y Drych ar y drafodaeth yna yn hynod werthfawr. MAR WOLAETHA U. Rhagfyr 13eg, yu nhy ei hanwyl ferch, Mrs. W; Steel, Rhif 2019, Oxford-st., Philadelphia, Mrs. O. J. Griffiths, yn71 mlwydd oed, gweddw y Parch. Thomas Griffiths. Daeth y tenlu dros. odd o Alltyplaca, sir Aberteifi, yn 1841. Bu iddynt wyth o blant, chwech o feibion a dwy o ferched. Bu Griffith a Nugent farw pan yn ieuainc yma. Ganwyd y rhan fwyaf ohonynt yn yr Hen wlad. Tua phum mlynedd yn ol bu Mr. Griffiths farw yno hefyd. Arosodd hi yma gyda'r plant, a buont yn ofalus iawn ohoni. Daeth y bechgyn i anrhydedd—Thomas J. sydd yn feddyg yr U. S. Marine Hospital, Louisville, Kentucky; George W. yn Major, U. S. Vol., yn awr yn yr un lie John J. oedd Taliedydd (Paymaster) y Llynges Americanaidd yn ystod y rhyfel, yn awr yn amaethwr cyfrifol yn Towanda, Bradford Co., Pennsylvania. llhagfyr lOfed, 1877, yn Danville, Pennsyl- vania, °yn 58 mlwydd oed, ar ol puin mis o gystydd dan y dropsy Mrs. Ann Thomas, priod Mr. Thomas Thomas, Rough & Ready. Merch ydoedd i William Williams, o'r Drain, Pont- morlais, Merthyr Tydfil. Gadawodd briod a thri o blant i alaru eu colled ar ei ol. lonawr lOfed, 1878, yn Tresckow, ger Jeans- ville, Pennsylvania, yn agos i 60 mlwydd oed. John B. Jenkins. Yr achos o'i farwolaeth oedd iddo gael niwed yn y gwaith glo—syrthiodd careg fawr arno, ac anafwyd ef mor dost fel na fu fyw ond ychydig o oriau. Ganwyd yr ymad- awedig mewn lie o'r enw Llechryd, yn swydd Fryeheiniog. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o New Tredegar, swydd Fynwy, yn 1S69, ac ymsefydlasant yn Minersville. Ionawr lleg, yn Wiconisco, Pennsylvania, Mrs. Leah George, yn 68 mlwydd oed, gweddw i'r diweddar Heary George. Mae un ferch iddi yn Nghymru yn Bentwrmawr, ger Crumlin, Mynwy, priod David Richard, diacon yn eglwys Fedyddiedig Beulah. Ganwyd hi yn Pontypool, Chwefror 4ydd, 1810, ac enwau ei rhieni oeddynt Daniel a Mary Morgan. Priododd a Henry George yn Panteg.

[No title]

Advertising

LLANGENNECH.

GOGLEDD LLOEGR.

ABERDAR.

CWMBACH.

TAIBACH, MORGANWG.

CWMAFON.

DAFEN.

MERTHYR.

GLANTWRCH.

NEILLDU OLION.

Advertising