Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

"Wynne (Llew Cyfarfcti^ brawd Madame Edith Wynne. Y elmtarnOllt-Miss Hattie Davies, a Mr. Thomas EVans, o Brifysgol Aberystwyth-; Miss L. MonlsdaSe, Mri. William Owen, D. Hughes, a 'fom Plowdens L'erpwl. Perdonydd, Mr. William Lewis, o'r Brifysgol Gymreig. Fel cyngherdd yr oedd yn llwyddiant perffaitli, mewn ystyr gerddorol ac arianol, y neuadd fawr a^gs a bod yn llawn, a chystal liwyl ar yr eB- gyfilawr a welwyd yn y cyngherddau goreu yn y dref; y cantorion yn cael hwyl arbenig, a'r gynulleidfa yn llawn tan cynesol yn ail alw ar bob un ol. Tin peth teilwng i'w nodi fod y cantorion, un ac oil, yn gwasanaethu am ddim, er mwyn gwneyd rhywbeth dros ein cyfeillion sydd yn dyoddef caledi a newyn yn y De. Na fydded i chwi annghofio y triawd hyn o'r Brif- ysgol pan fydd genych gyfle i wneyd rhywbeth erddynt, oblegyd mae yn gyfiawn talu da am dda, sut bynag. Prif arwr y cyngherdd ydoedd Tom Plowden, gyda'i ddigrifwch doniol yn adrodd anturiaethau Pat i'r Brifddinas, a chanu cerddi digrif ereill yn Ilawn arabedd. Mewn gair mae Plowden yn un o brif ddigrifwyr y dref, ac unrhyw dref arall deued o'r lie y delo. Wrth adael son am y cantorion rhaid i mi ddweyd eto fod y cyngherdd yn anrhydedd i'r pwyllgor gweithio!, a bydded iddynt lwyddo i gael cyngherdd mwy at yr un achos, fel y fcwriedir gwneyd. Tybiodd y cadeirydd gan fod cymaint galw ar y cantorion i ail ganu mai teg ydoedd i'r gynulleidfa dalu, a danfonwyd y phiol o amgylch a chafwyd ynddi agos i naw punt, a dysgwylir y bydd y cynyrch yn rhywle tua deugain punt, yn gymaint nad yw y treuliau yn fawr. Mae ymweliad Mr. Simpson a'r De wedi agor llygaid y. Iluaws i weled fod y gweith- wyr yn cael cam oddiar ddwylaw rhai o'r Upper Ten, a chawn weled y profir hyny mewn dull sylweddol trwy gyfraniadau oddiwrth ddynion oedd wedi coleddu rhagfarn tuag at y bobl trwy ddarllen yn y papyrau Seisnig adroddiadau celwyddog a thwyllodrus oddiwrth ddynion a ddylasai fod yn gwybod gwell. Gwelaf yn rhai newyddiaduron yr wythnos aeth hefeio fod rhai pobl yn dechreu gweled a theimlo eu sefyllfa wedi canfod fod masnach ein gwlad mewn ystyr wedi ei difctha, gresyn na fuasai hyn wedi ei weled yn amser llwyddiant, pan allasai y bobl weithgar wneyd rhywbeth gwerth son am dano i'r dyben o ddyrchafu y dosbarth gweithiol. Pan oedd y crogbris mawr yn cael ei ofyn yn ein marchnadoedd fe agorwyd "llygaid y byd, ac aeth pawb ati i chwilio am adnoddau cartrefol, a'r canlyniad o hyny oedd cael gafael ar feusydd newyddion i gael glo, fel na raid iddynt mwyach ddibynu ar ein march- nadoedd ni am lo er nad yw yn gystal glo at ager a phethau ereill, eto mae yn gwneyd y tro, a cheir ef yn llawer rhatach na glo Cymru a Lloegr. Rhedodd pobpeth gyda'r fath gyflym- der eithafol hyd nes aetk y peiriant yn deilchion, ac weithian mae y tlawd yn gorfod dyoddef arteithiau newyn a chaledi. Lied ychydig ydyw nifer y bobl sydd wedi elwa dim ar gorn yr amser da, oblegyd pan godai cyflog y gweithiwr fe godai y bwydydd ac ardreth tai; ond pan ostyngodd y cyflogau, nid oedd cymaint a son am ostwng pris yr ymborth nag ychwaith ardreth y tai. Aeth pobpeth ar garlam i fyny, ond nid oes dim wedi dyfod i lawr, ond pris y glo yn y farelmacl a chyftog y gweithiwr. Os wJ!- yn camsynied, maddeuer i mi am fy an- wybodaeth o helyntion y byd masnachol. Gwelaf fod rbywun yn cylioeddi fod tir i'w gael yn America am chwech swllt yr erw; ddarllenydd, mae yno filoedd o filltiroedd i'w gael am ddim, o dan nawdd Cyfraith y Cartref Rhad, a cheir amser i dalu am ei fesur gan y Llywodraeth. Myned yno ydyw y pwnc pwysig, a chael cynaliaeth am y flwyddyn gyntaf, hyd nes byddo'r tir yn bwrw allan ei gynyrch, yna fe fydd gobaith am fwyd a dillad. Gadawaf y mater i arall ymdrin ag ef, rhag i, neb feddwl fy mod i am godi y wlad neu y bobl i adael eu cartrefi yn Nghymru, er y dichon y buasai yn well i filoedd erbyn heddyw pe buasent wedi mudaw pan oedd cyfleusderau a buddianau at wneyd hyny wrth law. Nid yw yn debyg y bydd i'r Llywodraeth gymeryd un cam neillduol yn y cyfeiriad hwn.- Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

UN DEB CORA W,L ABE RB All…

Y Caledi yn y Deheudir.

CRONFA GYNORTHWYOL RHYMNI…

Beth ddaw o'r Gweithwyr?

LLYTHYR LLUNDAIN.I

[No title]

Y RHYFEL.

Marwolaeth y Parch. J. Griffiths,…

[No title]

Advertising

Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…