Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

INDEX A PHRYDFERTHWGH.

News
Cite
Share

INDEX A PHRYDFERTHWGH. MR. GOL.Dylem ddiolch i'r Index am ei lythyrau nerthol. Mae ei sylwadau ar -Fairdd a Barddoniaeth yn dda iawn. Ysgrif- ened lawer eto. Yr ydym yn foddlon iddo fod yn arweinydd diwygiad barddoniaeth Gymreig. Pa bryd y daw barddoniaeth i gael ei hystyried yn rhywbeth uwchlaw tine. :a awn geiriau, yn rhywbeth heblaw gogleisiad dust ? Pe hyn fyddai barddoniaeth, gwarth fyddai ei meithrin, a gwaeth na gwendid fyddai rhoddi amser ac arian tuag ati. Ond nid hyn ydyw barddoniaeth yn wir pobl yr englynion a'r caethder sydd yn dal ac yn ceisio taenu yr athrawiaeth gyfeiliornus hon; a chyhyd ag y byddo dynion yn esgyn y sedd feirniadol heb reswm dros hyny ond eu bod yn alluog i osod geiriau i glecian, diau bydd gwybodaeth y Cymry am farddoniaeth yn -debyg i wybodaeth yr Esquimaux am lysieu- draeth y trofanau. Yn ol barn rhai nid yw llyfr ond llipa os na fydd ynddo farddoniaeth wedi ei darostwng i ffurf pedair llinell -englyn ac nid ydyw yr awdwr'yn deilwng i'w resu yn mhlith beirdd, os na fydd yn dewis seinio shibboleth Uwyth y swn. Modd bynag, mae yn gysur fod ysgolheigion y genedl yn prysur ymwadu a'r hen ddaliadau yn nghylch "swn, swn, dim ond swn sy\" Rid oes odid un ysgolhaig yn mhlith y blaid hon. Mae yn gyfyngedig i'r rhai sydd yn /byw yn mhlith y brwyn, ac yn dilyn yr alwedigaeth iachus a gonest, ond anfanteis- iol i addysg a dadblygiad meddwl, o fugeilio defaid yn anialweh y bryniau. Dechreuodd cynghanedd gyda mynachaeth yr Oesoedd Tywyll, a yw i derfynu gyda bugeiliaid yr oes oleu hon ? Aed Index yn ei flaen i ddangos gwendid a ffolineb dosbarth y swn, gan gofio fod yn rhaid i'r amser hwnw ddyfod pan fo geiriau y bardd gwych a'r ysgolor campus o Glynog Fawr gael eu cyf- lawni —" Alltudio y pedwar ar ugain." Ond rhaid galw Index ei hun i gyfrif ar 1>en neu ddau. Difynodd unwaith bedair llinell ar "Brydferthwch." Difynaf finau ei esboniad ef arnynt:—" Nid oes dim gwir- ionedd yn yr un o'r llinellau. Nid piyd- ferthwch sydd yn meithrin gwladgarwch, nid prydferthwch sydd yn cysegru yr ardal a'r twyn, ac nid prydferthweh sydd yn fywyd eu awyn." Ymddengys nad oes gan Index ddirnadaeth athronyddol, ond cwbl arwyn- ebol am Brydferthwch. Yr oedd y bardd yn -ea.Q.u i Brydferthweh yn yr abstract; ac y mae Index yn meddwl am brydferthweh yn fwyfel mÚnegiant-fel darn o rywbeth lleol, gwledig, yn gwthio ei hun yn ddiwahodd- iad i sylw pob edrychydd. Ai peth felly yw Prydferthwch ? Dyma ddywed un o'r athron- wyr mwyaf :—" There is beauty everywhere, but it req lires to be sought, and the seeker after it is sure to find it it may be seen in some out-of-the-way place where no one would think to look for it." Nid yw Natur <371$llyfr agored, a'i golygfeydd ond llythyr- enau a phan dSaw calon yn hiraethu am gyf&deithas a'r pur a'r barddonol i gydio yn y llythyrenau hyn a'u gosod yn nghyd, eu aiUebiaeth yw prydferthwch. 4' Nature does jIittle more than furnish us with materials of happiness and beauty, leaving us to work f-hem out for ourselves stars, flowers, hills, woods, and streams are letters and words, but they need be interpreted by the right spirit." Eto, yr ydym yn dal fod pryd- ferthwch yn dadmaeth gwladgarwch. Gwirir Tiyn hyd y nod gan y ddwy linell a ddifyn- odd I'd rather live in Lapland Than that Swabian land of thine." IV Laplander y mae golygfeydd oerllyd, «iraol y gogledd yn cyfleu syniadau hapnsach iddo nag a fedrai awyr las Itali a golygfeydd <soed\vigoedd blodeuog y De wneyd, oherwydd fod mwy o gydymdeimlad rhyngddo a'r lleoedd. Prydferthwch iddo ef oedd y cy- anhesuredd rhwng ei feddwl a golygfeydd ei "wlad, y cyfartaledd oedd rhwng ei alluoedd t manau neu y pethau hyny ag oedd yn cynyrchu serch yn ei fynwes. Dyna ydyw prydferthwch gweithredol (actual beauty) -cymhesuredd-effaith cyfuniad gwahanol el- -fenau, gwahanol sefyllfaoedd, neu wahanol Beauty is the joint force and :fuU result of all." Trown at haeriad anathronyddol arall o eiddo Index. I- Ychydig sydd gan brydferth- wch i wneyd a serch. Serch sydd yn gwneyd y galonilynu wrth ardal neu fan." Mae -Index yn y fan hon yn methu gwahaniaethu rhwng yr ideal a'r actual. Mae yr hwn sydd yn rhodio trwy gymoedd hyllaf Morganwg .yn. fynych yn cael ei gyffroi gan deimladau newyddion, o dan ddylanwad pa rai y mae yn gwisgo yr holl dwyni a gogoniant, yn pob bryn ag urddasolrwydd, yn ^troi y bwthyn llwyd yn gartref swyn, a'r flrwd fas, ond gvvyllt, yn ffrwd Helicon nyfryd. Paham 'I Y mae ar y pryd yn ysbrydoledig (inspired), mae ei ysbryd wedi <lod i rodio llwybrau anweledig prydferth- wch (ideal beauty). Dyna fel, a dyna paham y canodd beirdd Groegaidd i' w bryniau, tebyg ^fyniau Cymru, gyda mwy o hyawdledd a 5 chynesach gwladgarwch nag y canodd j Italia i'w gwlad hardd a pharadwys- aidd. Dyna paham y portreiadodd y bardd oegaidd ysbryd ar ben pob twyn, a duvv yn mhob ogof. Yr oedd ei deimladau yn •cael eu coethi, a'i Awen yn cael ei phuro oet ^Y1 sylweddoli yr hyn a eilw y Sais athron- yddol the all pervading presenco of beauty." >*eilw Index gymoedd Morganwg y ddi- brydferthwch." Pa le y maent ? Pa Ie y ceir ysmotyn ar greadigaeth Duw yn ddibryd- efthwch? Os rrad oes gan Index allu i Pfydferthwell, nid oes ganddo hawl i roddi libel ar greadigaeth Duw trwy ddweyd eu 0< yn ddibrydferthwch? Y mwyaf coethedig sydd yn sylweddoli fwyaf o ideal veauty, a'r hwn sydd yn ei sylweddoli fwyaf I sydd yn hoffi ei wlad fwyaf, pa un bynag fyddo ai Lapland oer ai Italia gynes. Mae prydferthwch yn hofran uwchben domenau glo Morganwg sydd yn deffroi o fewn calon ei brodor deimladau o swyn, o hiraeth, o ofid, o bryder, neu o lawenydd llawn mor gryfed ag y gall prydferthwch gweithredol Rhufain adeffroi yn meddwl a chalon Rhuf- einwr. Y mae ideal beauty fel angel anwel- edig, eto yn rhoddi arwyddion boddhaol o'i bresenoldeb, yn arwain y meddwl ar ei hoi trwy lwybrau a ystyria rhai yn ddiffaethwch. Ond nid yw ei Ilwybrau ond llwybrau an- wyldeb, na'i thaen ond taen bywyd, na'i phresenoldeb ond presenoldeb gogoniant, na'r sylweddoliad ohoni ond buddugoliaeth yr ysbrydol ar y materol.—Yr eiddoch, gyda chofion, GLANFFRWD.

ALEOGRAPHIA VERSUS PHONOGRAPHIA.

" CEINION GLAN G WENLAIS."

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD Y PENTRE,…

YMOSOD AR GYMERIADAU.

IBLAENAFON.

"LIENOR TRWYADL" A CUNLLO…

GAIR 0 L'ERPWL.