Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

GRUFFYDD LLEWELYN:

News
Cite
Share

GRUFFYDD LLEWELYN: N OF EL. PENOD II. Oadawsom Wil a'i briod yn y benod ddi- weddaf wedi cyrhaedd ty ei dad. Pan y deffrodd, teimlai rhywfodd yn rhyfedd iawn. Yr oedd rhyw selai anarferol yn ei ben, ac nid rhyw iach iawn y teimlai ei hun trwyddo oil. Nid gwiw ydoedd siarad am weithio y diwrnod hwnw, teimlai ei hun yn rhy anhwylus, so hefyd yr oedd dranoeth o'i briodas; o ganlyniad, pender- fynodd aros gartref. Tua deg o'r gloch, daeth Bili o'r Aber tuag yno, ae wrth iddvnt siarad, achwynodd Wil rhyw boen dirfawr yn ei ben Deallodd Bili yn fuan yr achss o'i glefyd, a chynghorodd ef i ddyfod gydag ef i gael "peint er mwyn gwella," lie yr oedd lluaws wedi crynhoi ar y un neges; a gellid meddwl wrth weled y colofnau mwg a esgynai yn barhaus o'r pibau" fod yno waith haiarn mawr yn mvued yn mlaen. \n mhen yehydig gotynwyd i Wil i roddi can, so wedi hir gymhell. cydsyniodd. Nis gwn pa beth oedd testyn na Ilatur y gan a ganodd, ond yr oedd yn boddhau y-ewmni gymaint fel y syhvod un lied ffraeth ar ei dafod fod Wil yn gwella ar.ol cael gwraig. Yfwyd trwy y dydd a liawer o'r nos hefyd, nes oedd Wilyn "feddw tan." Nis gwyddom pa f dd na pha ddull y cyrhaeddodd gartref, rhagor nag idd ei ymddygiad dynu dagrau lawer o ly gaid- yr hen wr ei dad. 1* Er mwyn i ni gael prysuro yn mlaen, fel ag y bydd yr awdwyr mawr yn dweyd, ymadawodd Wil a thy ei dad er mwyn myned i fyw i dy ei hunan. Yn mhen tua blwyddyn, anrhegwyd ef ag etifeddes. Ym- ddaugosai fel pe byddai gofalon teuluaidd wedi enill ei holl feddwl yn awr, ac yr oedd ei hen gyfeillion yn dweyd ei fod wedi myned yn rhy gybyddlyd i ddim wedi priodi. Gwir ei fod yn yfed ambell i beint, ac yn treulio llawer awr gyda hwynt, ond yr oedd ad-dyniad at ei gartref mor fawr fel yr elai yn gynar tua thref; ond y mae dylanwad hen gyfeillion mor fawr ar eu gilydd nes y maent yn tynu eu gilydd yn fynych i ddilyn yr un llwybrau, felly y bu gyda Wil, ac o'r diwedd, llwyddasant i'w ddenu i dreulio llawer noswaith gyda hwynt i ymbleseru ac i yfed hvd nes y byddai yn hwyr iawn. Er nad oedd Wil wedi ym- ollwng i yfed yn drwm iawn, eto, yr oedd ad-dyniad at y dafarn yn myned yn gryf- ach, gryfaeh o hyd ar Wil. Yn mhen tua dwy flynedd wedi eu priodas, ganwyd eu hail blentyn, pa un ydoedd fachgen, ac a enwyd Gruffydd. Waeth', waeth yr oedd Wil yn myned o hyd; yr oedd yn llithro megys yn ddiarwybod iddo ei hun gyda'r 1lifeiriant-annghymedroldeb. Yr oedd yn awr wedi myned cynddrwg fel yr esgeulusai ei waith yn hollol, ac o'r diwedd blinodd amynedd ei feistr a throdd ef ymaith o'i wasanaeth. Gofidiai Elizabeth yn fawr am ymddygiad Wil; yr oedd yn awr yn ddychryn i'w weled yn dyfod i'r ty, a mynych iawn y caffai hi brofi pwysau ei diwrn a'i droed. Y fath gyfnewidiad y mae y ddiod yn ei wneyd yn ymddygiad y dyn. Bu amser ar Wil pan mai prin y gallai oddef i'r awel gyffwrdd a gwisg ei wraig, oblegyd haner addolai hi; ond yn awr, y mae yn nod i'w ddialedd am bob peth. Trwy eu cynilrwydd yr oedd rhieni Wil wedi sefyll ychydig ngeiniau o bunau, pa rai, ar eu marwolaetb, a ddaeth i fedd- iant Wil, fel eu hetifedd. Ni orphwysodd ef nes gwario y rhai hyn bob ceiniog yn y dafarn am bethaa gwaeth na phe na fuasai yn cael dim am danynt. Pwy all ddar- lunio teimladau ei wraig ofidus wrth ei ddysgwyl adref trwy y nosweithiau hir- feithion o'r dafarn. Yn nyfnder y nos gellid gweled ar yr heol gerllaw yr eglwys ddynes ieuanc, deneu, welw, synedig a thlawd, yr hon nad yw yn neb llai nag Elizabeth, gwraig Wil. Y mae newydd redeg oli thy, yn yr hwn yr oedd wedi bod yn eistedd am oriau mewn unigedd, yn swn tic yr awrlais, tra y cysgai ei dau- blentyn bychan yn dawel mewn cryd ger- llaw, yn dysgwyl dyfodiad ei phriod afrad- Ion o'r dafarn ac o'r diwedd, tua'r boreu, gwelai ef yn dyfod a'i olwg yn sarug, a'i eiriau fel brath eleddyf, ac ond odid na ddilynid ei eiriau wrth ei briod gan ambell hergwd cas, neu darawiad brwnt. O'r diwedd, y mae arwyddion fod nerth ac iechyd ei briod yn dadfeilio, ac wrth bob ymddangosiad tori ei chalon y mae. Dyna hi unwaith yn wrthddrych hoffder a sylw pawb o ddynion ieuainc y plwyf, a phawb yn.edrych gyda gwen siriol arni; gobeith- ion fyrdd yn ty wynu o'i blaen, a'i hundeb priodasol yn addaw yn dda iddi; ond och! y mae eyfeillion yn lleihau ac yn cilio pan y mae sefyllfa pethau yn syrthio i iselder. O'r diwedd, daeth angeu i roddi terfyn ar ei holl ofidiau. Dyna hi-un o brydferth- ion y lie, golwg yr hon a swynai bawb i'w charu, wedi marw-wedi marw o doriad calon. Ocheneidiau tor ei chalon Sydd yn mrig yr yw hiraethlon, 1 Uwchben ei bedd. Cyn hir dilynwyd hi i'w gwely oer a llaith gan ei hunig ferch. Nid oedd bellach ar ol ond Gruffydd, yr hwn. nid oedd uwchlaw dwy flwydd oed. Ni effeithiodd colli ei wraig ar Wil, ni ddaeth ddim yn well, ond gwaethygai bob dydd. Er nad yw y gadair nesaf ir tan yn cael ei rhoddi iddo yn awr yn y dafarn, fel cynt, ac er nad yw gwenau gwraig y dafarn mor serchog ag oedd iddo, eto, yn y dafarn y mynai fod. Un noswaith, pan oedd yn Iled feddw, dygwyddodd iddo gweryla ag un o'i gyd- ddiotwyr, nes aeth y ffrae yn ymladdfa; ond yn fuan, rhwystrwyd yr ymladdfa, a throwyd ef allan o'r dafarn gan wr y ty, fel aflonyddwr ar heddwch y cwmni. Teimlodd Wil ei fod wedi cael ei sarhau, a phenderfynodd ymddial ei gam, ac yn llawn o lid a malais cychwynodd ymaith oddiwrth y ty. Yn mhen rai oriad ar ei ol, gellid canfod gwr yn dyfod i lawr i'r heol, pa un oedd yn dwyn prawf amlwg ei fod ormod yn nghwmpeini merch Syr John. Pan yn cyrhaedd lie unig a thywyll a elwir Castell y Nos, dyna ddyn yn neidio allan o'i loches yn yr hea Gastell, lie yr oedd wedi bod yn cynllwyn am oriau, ac yn cerdded ar ol y meddwyn ao yn codi ei fraich i fyny gan ei daro a rhywbeth, ac mewn eiliad cwympodd y meddwyn i lawr fel marw, a dyna y cwbl drosodd Rhed- odd y dyn a'i tarawodd ymaith mor gynted ag y caniatiiai ei draed iddo i fyned. Cyffrowyd plwyf Llanfabon dranoeth drwy- ddo gan y newydd eu bod wedi cael dyn wedi ei ladd ar Heol yr Eglwys, yn ymyl Castell y Nos. Nid yn hir y bu yr holl blwyf cyn crynhoi yno, a deallwyd mai Daniel, y teiliwr, oedd y llofruddiedig, gyda pha un y bu Wil yn cweryla ac yn ymladd ag ef y noson cyn hyny. Wrth droi y corff, gwelwyd mai achos ei farw- olaeth ydeedd effeithiau ergyd a gafodd gan rywbeth yn ei wegil. Wrth edrych o amgylch canfyddwyd cadach llogell yn y berth yn ymyl y corff, ac wrth ei chodi i fyny cafwyd fod careg fawr wedi cael ei chylymu ynddi, ac o ba un, wrth bob tebyg, y cyflawnodd 'y llofradd y weithred ofnadwy. AdDabyddwyd y cadach yn union gan rywrai fel eiddo Wil o'r Felin Fach. Disgynodd drwgdybiaeth ar Wil, a chyn haner dydd y diwrnod hwnw, yr oedd yn ddyogel o fewn i lwydfuriau carchard^ y sir, yn nhref Caerdaf. Ar y trengholiad ar y corff daeth y rheithwyr i'r penderfyn- iad fod Daniel Williams, wedi cael ei lof- ruddio gan William Llewelyn, o'r Felin Fach, ac am ba weithred y traddododd y trengholydd ef i sefyll ei brawf yn mrawd- lys y sir. Ni fyddai yn un budd na dyben i ni i adrodd yr holl amgylchiadau o'r pryd y trosglwyddwyd Wil i sefyll ei brawf hyd y brawdlys, nac hefyd i adrodd hanes ei brawf. Digon yw dweyd i'r rheithwyr ei gael yn euog, ac o ganlyniad, cyhoedd- odd y barnwr ddedfryd lymaf y gyfraith arno, sef y byddai iddo gael ei grogi, ac ni addawodd un gobaith am estyniad ein- ioes. Cariwyd y ddedfryd allan i weith- rediad yn mhen oddeutu mis. Ymddangosai Wil ei fod yn ystyried ei sefyllfa dorcalonus, ond pa fodd yr ymdarawodd, Duw yn unig a wyr, ni pherthyn i ni fyned i'r dyfodol a'r tragywyddol, y tuhwnt i gauadleni amser. (l'w barhau).

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

NEWYDDION CYMREIG.I

GLYN EBWY.

LLANFABON.'

EISTEDDFOD BIRKENHEAD.

ABERYSTWYTH.

DOWLAIS. '

Y Pab Newydd.

[No title]