Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
GOFYNIADAU AR EFENGYL MATTHEW, yn rhifo dros i cyth mil, gan W. Edwards. Treherbert I. Jones. Dyma gystal gwerth Is. 6c. ag sydd yn bosibl ei gael at wasanaeth yr Ysgol Saboth- ol, ac efrydwyr y rhan hon o'r ysgrythyr yn gyffredinol. "Galwn ei gynwysiad," medd yr awdwr, "yn Ofyniadau Cyntaf, gan y bwriadwn ddwyn rhai allan yn y dyfodol yn fwy pwysig, os bywyd ac iechyd a gawn." Hyderwn yr estynir y bendithion hyn i'r awdwr llafurus, fel y gallo gwblhau eiamcan, ac fel y gallo hefyd ddwyn allan gyfres o gyffelyb gweithiau ar ranau ereill o'r -Ys- grythyr Lan. Fe welir ansawdd y gwaith trwy y difyniad canlynol:— 1 Pwy oedd Matthew! 2 Iuddew ynte cenedl- ddyn? 3 Beth oedd ei swydd cyn ei droedigaeth ? 4 Gan bwy y galwyd ef i'r ffydd Gristionogol ? 5 A oedd efe yn un o'r cyineriadau goreu yn flaen- orol? 6 A alwyd ef i'r swydd apostolaidd ? 7 Pa fodd y cafodd gymhwysiad i'r fath swydd? 8 Pwy ysgrifenodd yr Efengyl hon? 9 Pwy roddasai gy- mhwysder iddo at y fath waith pwysig? 10 At bwy yr ysgrifeiiai ei Efengyl ? 11 Pa amcan oedd ganddo mewn golwg wrth ei ysgrifenu? 12 Pa brofion sydd genych o'i phurdeb? 13 Enwch gynifer ag a ellwch o'r awdwyr a ysgrifenasant yn erbyn ac o'i phiaid yn y ddw.v ganrif a haner gyntaf o'r cyfnod Cristionogol ? 14 Paham y gelwir yr Efeng- yl hon yn ol enw Matthew? 15 Pa hryd yr ysgrif- enodd hi? Hi Beth ydyw prif nodwedd ei Efengyl? 17 Dosranwch hi? ;r-
MAR WOLA ETHA U.
Deallwn fod Proffeswr. Apmadoc wedi cy- hoeddi balad newydd sydd yn debyg o ddyfod yn hynod boblogaidd. Ilysbysai eyfaill ni ei bod yn llawer rhagorach na'r caneuon Seisnig sy'n awr ar y maes. DAMWAIN YN HYDE PARK, PENNSYLVANIA. —Dydd Llun, Ionawr 21ain, cyfarfyddodd dyn o'r enw John Jeffreys, a da»mwain angeu- ol yn y Sloan Shaft, perthynol i'r D. L. & 'W., trwy i gasgen o bylor losgi. Twymnai y trancedig ei wellten yn y lamp, ac wrth hyny cymerodd dan, aeth yn nnionsyth i'r gasgen bylor. Llosgwyd ef yn druenus fel y bu farw y no3on hono. Claddwvd ef y dydd Mercher canlynol yn mynwent Hyde Park. Gadaw- odd wraig a da.u o blant i alaru ar ei ol. Brodor oedd o Nantyglo. MAR WOLA ETHA U. Ionawr 7fed, yn Houtzville, Pennsylvania, ar ol byr ond trwm gystudd. David D. Davies, gynt o Sir Aberteifi, yn 68 mlwydd oed. Ionawr 3ydd, yn Carbondale, Pennsylvania, David Jones, yr hwn ^gladdwyd ar y oed. Mab ydoedd i Daniel Jones, yr hwn oedd yn byw ar ffarm o'r enw Llethr, ger Ysbyty Ystwyth, Sir Aberteifi. Rhagfyr 31ain, 1877, yn St. Luke's Hospital, Bethlehem, Pennsylvania, Charles Jones, neu Charley Jones, fel y gelwid ef, yn 45 mlwydd oed, oddiwrth niwed a dderbyniodd yn nglofa Ackley yn mis Tachwedd diweddaf, o'r hwn le y cafodd ei symud i'r hospital. Brodor o Glyn Ebwy, Sir Fynwy, oedd, ac ymfudodd i'r wlad hon o Mountain Ash 15 mlynedd yn ol. Ionawr 7fed, yn Vienna, Ohio, James C. Brown. Ganwyd ef yn Sir Dinbych, yn 1814. Symudodd yn fuan ar ol hyn i ardaloedd Tredegar, Mynwy, ac yna tyfcvld yn ddyn. 0 Drodegar yr ymtudasant i'r America. Bn farw ar ol dyoddef poenau dirfawr yn amyneddgar, gan adael'weddw oedranus yn nghyd a mab a merch mawysiedig i alaru ar ei ol. Tachwedd 16eg, yn Providence, Pennsylvania, John Alexander, Cwmgiedd, ger Ystradgynlais. Cafodd ei anafu yn y gwaith, trwy i ddarn o'r top syrthio ar ei ben Hydref 30ain. Meddyliwyd unwaith ei fod yn gwella, ond gwnaebh angeu fel ail ymaflyd ynddo. Gadawodd wraig a phlentyn i alaru ar ei ol. Claddwyd ef y Sul canlynol yn -inynwent y Cymry yn Hyde Park. Canodd y ddau gor (o ba rai yr oedd ef yn aelod), dan lywyddiaeth Edward Thomas, Ysw., wrth y ty a3 yn y capel, ac ar yr lieol trwy y dref, yn ol dull yr ilea Wlad, yr hwn oedd yn naturiol iawn i'r Cymry. Cafodd gynhebrwng Iluosog a pharchus.
RESOLVEN.
RESOLVEN. CODIAD I GY.MRO.—Y mae yn dda genym hysbysu fod Mr. John Morgan, ysgolfeistr yn y lie uchod, wedi ei benodi, allan o nifer fawr o ymgeiswyr, i fod yn school attendance officer dros ddosbarth Castellnedd. Llwydd iddo. CYFREITHIOL.- Y mae yn dda genym hefyd allu hysbysu fod Mr. W. Sims wedi pasio ei ail arholiad yn liwyddianus er myned yn gyfreithiwr. Y mae Mr. Sims yn efrydu gyda Mr. H. P. Charles, cyfreithiwr, Castellnedd. Y CALEDI MAWS.—Yehydig amser yn ol dywedasom air am y tlodi sydd yn bodoli yma, ag y dylasai rhai o foneddigion y lie gvmeryd y peth iV hystyriaeth ond cyn i'r nodyn hwnw ymddangos tfnrfiwyd pwyllgor, a gwnawd apeliad at Mr. H. Richard, A.S., a danfonodd y boneddwr hwnw ddau swni o 25p. yr un. Y mae Arglwydd Aberdar, hefyd, wedi danfon 25p., a Mr. H. H. Vivian, A.S., lp. Cyfarfydda y pwyllgor oddentu tair gwaith yr wythnos, yn yr Ysgoidy Cenedlaethol, er rhanu yr arian, a rhoddant bapyr i bob un, yn gwahaniaethu o swllt i dri a chwech, i fyned i.un o facnach- dai y lie i gael gwerth y swm o fwyd. Y mae yn deilwng hysbysu mai trwy gyfrwng y Parch. Dr. Rees, Abertawe. y cafwyd y swm gyntaf oddiwrth Mr. Richard.—Lieiv Nedd.
[No title]
Yr oedd nifer y valentines daflwyd i'r llythyr-fiwch yn Nghaerdydd, nos Fercher, Chwefror 13eg, yn iO.OOO. Dydd Iau gorfu i'r awdurdodau ddyblu nifer y swyddogion yn y llythyr-dy ac ychwaaegu deg o ddyn- ion at nifer llythyr gludwyr rheolaidd yn y dref
ADSAIN 0 DWYN Y GLOG.
ADSAIN 0 DWYN Y GLOG. 0 dan gesail y twyn penfoel uchod yr ym- lochesa amaethdy hanafol ac adnabyddus y Glog, Llanwonno, preswylfa Thos. Williams, Ysw., a'i anwyl ferch. Y mae y Glog er's dros driugain mlynedd wedi bod yn head-quarters helgwn enwog Gwyno Sant. Nid ychydig ydynt y cyf- newidiadau a gymerasant le yn y plwyf a'r amgylchiadau yn y cyfnod a enwyd, sef oddiar yr amser y symudodd byddin Nimrod ei chartref o'r Gelli i'r Glog ac ychydig sydd yn fyw ar hyn o bryd sydd yn cofio llawer am y cwn cyn eu symudiadi'w cartref newydd. Mae chwyldroadau cymdeithasol a masnuchol wedi cymeryd lie dyffrynoedd Taf, Cynon, a Rhondda wedi ymddadblygu, a thrysorau gwerthfawr eu llechweddau cyfoethog wedi d'od yn adnabyddus i'r holl fyd. Mae canol- barth yr hen blwyf, er hyny, yn aros braidd yr un ond y mae yma rhai cyfnewidiadau. Rhoddodd corn pren fy nhadcu y ffordd i gorn pres yr heliwr mwy diweddar; a hen amaethdy y Glog hefyd, lie y cyfranwyd llawer elusen, a orfuwyd i gydymffurfio a symudiadau gwelliantol yr oes, ac wele balasdy, teilwng o'r enw, yn mwy na llanw ei Ie. Yn ystod yr amser maith yma symud- wyd llawer o veterans a gwroniaid yr helwrfa, fel pob galwedigaeth arall, o dir y byw ac yn benaf oil, cludwyd yr anwyl Williams o'r Glog i hen fynwent Llanwonno. Bydd coffa da am ei enw tra bo twyn y Glog yn sefyll, ac afon Cynin yn ymddolenu heibio, gan olchi ei draed ar ei ffordd tua Chlydach. Wyr i'r hen Williams uchod yw y trigianydd presenol, ac olynydd teilwng i'r hen fonedd- wr. Yehydig amser yn ol, teimlodd rhai o gyfeiilion Mr. Williams awydd i ddangos eu parch tuag ato, a'u hedmygedd ohono fel sportsman, a rhoddi iddo ryw gydnabydd- Z, iaeth am ei ymdraah drwy y blynyddoedd i ga,dw hslwriaeth i fyny, a hyny ar ei draul ei hun. Ffurfiwyd pwyllgor, a G. Williams, Ysw., Miskin, yn gadeirydd. Dylifodd y tanysgrifiadu i fewn, a phenderfynwyd an- rhegu y boneddwr a'i ddarliin mewn olew, yn nghyd a phedwar o'i gwn hoffusaf. Rhoddwyd y gorchwyl i Mr. Marks, R.A., Llundain, brodor o Gaerdydd, yr hwn a gyf- lawnodd ei ran o'r gwaith i foddlonrwydd. Daetli y darlun i law, a chyhoeddwyd ef gan bawb yn gelfyddydwaith ardderchog. Y mae yn life size, a chostiodd tua 150 gini. Nos Iau, Ionawr Slain, oedd yr adeg i gyflwyno yr anrheg, a gwahoddwyd Mr. Williams gan y tanysgrifwyr i'r Butchers' Arms, Ponty- pridd, y noson hono, a rhoddwyd ciniaidd ardderchog, pan yr oedd dros 80 yn bresenol. Wedi symud y llieiniau, aed yn mlaen a gwaith y cyfarfod, Ab Alaw Goch yn llywyddu yn ei ddull deheuig arferol. Tra- ddododd araeth faith, gan ddangos teilyngdod uchel y gwr o'r Glog ac wrth gyflwyno yr anrheg ar ran y tanysgrifwyr amlygai ei ddymuniad ar fod i'r darlun gael ei gario i lawr o genedlaeth i genedlaeth. Ond eto teimlii an anhawsder mawr i hyny, sef fod Miss Williams hyd yn hyn heb gymeryd trueni ar un o feib Adda, a hyderai y byddai iddi fod yn drugarog ar rywun, pe ond er mwyn darlun ei thad. Rhoddwyd y llwnc- destynau arferol, ac atebwyd hwynt gan wahanol foneddigion yn ddoniol i'r pen. Yr oedd prif foneddigion y dref yn bresenol, neu wedi anfon llythyrau yn hysbysu eu han- alluogrwydd i fod yn bresenol. Darllenwyd llythyrau felly oddiwrth Arglwydd Aberdar, y Parch. D. W. Williams, Fairfield, ac ereill. Yn bresenol yr oedd Mathew W. Morgan, Ysw., Dr. L. Morgan, a Mr. Thos. Morgan, Hafod Mr. Tudor Crawshay, Mr. Williams, Bank; Dr. Davies, Cymmer; Mr. Josiah Lewis, Ty'n y Cymmer; &c. Traddododd Mr. Mathew W. Morgan araeth yn ]lawn digrifwch a gwres Cymroaidd. Wrth dderbyn yr anrheg o law y llywydd, cafodd y derbynydd ddigon o waith gan ei deimladau i ddyweyd yr hyn a ddywedodd, ond diolchai yn gynes, gan ddatgan na fedd- yliodd erioed fod ganddo gynifer o gyfeillion. Yr oedd y ddau ddeigryn tryloew a lifasant dros ei rudd yn diolch yn well na geiriau, a rhoddwyd banllefau o gymeradwyaeth iddo, cymysgedig ag ambell i Whow" gan addolwyr Nimrod, nes diaspadain trwy'r holl adeilad. Canodd Mr. Tom Williams gan gampus o waith Dewi Haran, cyfansoddedig ar yr ach- lysur hyderwn y cyhoeddir hi yn fuan gan yr hybarch fardd. Nid oes dim yn fwy der- byniol yn mhlith lielwyr er hyny na "chan cwn hcla." Pan oedd Mr. Robert Thomas yn nghanol ei gan yn gwaeddi cloch ei angeu oedd tanau Tuner," methodd y boys a dal aeth Etwart yr Heliwr dros y llestri, a gwaeddodd whow" yn ddigon cryf i grynu sylfaeni yr Hen Bont Fawr. Ni fuom erioed mewn cyfarfod llonach na difyrach ac yr oedd yn amlwg fod yr holl frawdoliaeth Nim- -rodaidd wedi "dwIi" ar lun eu harweinydd a'r pedwar ci. Yr oedd yr hen batriarch o Hendre Rhys yno, dros 80 oed, mor ysgafn- droed ag oedd ddeng mlynedd yn ol. Dar- llenodd linellau barddonol oedd wedi ysgrif- enu ar gyfer yr achlysur. Dymunir arnom hefyd osod i fewn yr englynion canlynol o waith Hywel Ddu (Pantygerdinen gynt), a •ddarllenwyd gan y llywydd Ei roddi yn fawreddog-.i gyfaill I'w gofion galonog, DJyn anwyl. ddoniau enwog A glan, sef William y Glog. A dybid inai dyn dibarch,—a'i enw Yn hynod mewn anmharoh ? Ht gwnawn ei gyfiawn gyfarck A rodd berfc, arwydd o barch. Pan £1,'n hen, hen ac unig-gan lesgedd, Gan lusgo'n fethedig; Gwel'cl ei gixn ddarlun a ddSrg Ei hyfwyn wedd gyntefig. Ef hen hil a anwylir.—a'i eirian Ferch enwog fawrygir; Tra colofnau tyrau'n tir < I A chofion y'i dyrchefir. j Felly hefyd y dywed yr eiddoch- W.R. M.
LLANDEBIE.
LLANDEBIE. Cynaliwyd darllenfa geiniog yn club room y Prince of Wales nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, pryd y cawsom y fraint a'r rnrhyd- edd o glywed y brawd llafurus, Eos Myddfe, yn ei hwyliau goreu. Yr oedd y cynulliad yn dra Iluosog, a'r darllen a'r canu yn gan- moladwy. Ar y terfyn, cafwyd araeth ddi- fyfyr. Y cystadleuwyr oeddynt Eos Wernos, Tom o'r Pant, loan Arfon, a Choch o'r Lie. Yr olaf oedd y goreu, a chafodd y wobr. Hai lwc am gael gwledd Yma yn fuan eto, medd —Eich Gohebydd.
LLANTRISANT.
LLANTRISANT. Yn y GWLADGARWR diweddaf, cododd rhyw ohebydd i sylw y tlodi mawr sydd yn bod yn y dref uchod. Gallasai yn hawdd ddweyd y dref a'r ardal, oblegyd y mae tlodi mawr yn bodoli trwy yr ardal yn gyffredinol. Nid yw hyny ond y canlyniadau naturiol, pan yr ystyrir fod prif weithfeydd y gymydogaeth wedi sefyll er's rhai misoedd, a llawer o gan- oedd o ddynion wedi cael eu taflu allan o waith ac yn sefyllfa pethau yn bresenol, nid oes siawns cael diwrnod o waith mewn un man arall. Ond diolch i'r Bod Mawr, yr Hwn sydd yn llywyddu'r cwbl, wele ef yn agor drws o waredigaeth, i ryw raddau, beth bvnag, a hyny trwy wir haelioni Gwilym Williams, Ysw., Miskin Manor, yn ol ei arfer, pan wel y tlawd mewn angen canys beth fyddo ei liw na'i Inn, bycld ei galon fawr yn agored ar unwaith i estyn cymhorth iddo. Gweithred ganmoladwy o'i eiddo ef a'i wraig serchog ydoedd ymweled o dy i dy a'r tlodion, gan roddi elusen yn mhob am- gylchiad lie y gwelai angen. Clvwais ei fod wedi rhanu, yn y modd hwn, tua 200p. Rhoddodd i amryw denluoedd gymaint a gwerth 2p. y teulu. yn ddillad gwelyau, esgidiau, bwydydd, &c. Hefyd, rhoddodd waith i tua dwsin o ddynion, pa rai oeddynt yn segur o gylch y dref. Eu gwaith yw glanhau y coedydd, yr heolydd, &c., o am- gylch ei balas. Y mae yn eu tall] yn ol haner coron y dydd, a chiniaw ardderchog. Y mae rhai o'r dynion, os nid yr oil ohonynt, yn dymuno i'r gwaith barhau am hir amser. Y mae boneddwr arall yn y gymydogaeth, sef Collwyn Cozens, Ynysyplwm, yn teilyngu canmoliaeth uchel am y dull trugarog y mae yn ymddwyn at y tlawd. Ni fydd efe na'i wraig byth yn troi y tlawd i ffwrdd heb 'ei gynorthwyo. Colled fawr na fyddai rhagor o fath'y boneddwyr uchod yn ein gwlad. Trueni mawr fod rhai dynion mor ddigyd- I wybod a chymeryd rhoddion pan, mewn gwirionedd, nad oeddynt mewn angen o'u cael. Clywais am un dyn yn neillduol wedi cymeryd elusen, a chanddo ar yr un pryd ugeiniau o bunau yn dwyn Hog yn yr arian- dy os gwir, ffei ohono.—Gardotyn.
HELYNTION OLANAU Y RHONDDA
HELYNTION OLANAU Y RHONDDA Araf iawn yw masnach ar lanau'r Rhondda y dyddiau hyn, yn neillduol gweithfeydd Blaenycwm, Fernhill, Tynewydd, y Bute, ac Ynysfeio. Tynwyd allan, yn y lie olaf, tua haner cant yr wythnos ddiweddaf, o'r wythien bedair ond y mae rhyw obaith y deuant i ddealltwriaeth eto, os gwir a glyw- som neithiwr. Hyderwn y ceir pethau i'w lie yn fuan, oblegyd os yn segur fydd yr haner cant glowyr hyn, i ba le y troant eu gwynebau am waith? Nid gwyw iddynt fyned i fynu i'r cwm, oblegyd y mae pwll y Bute yn segur er's wythnosau, oherwydd an- nealltwriaeth rhwng y meistri a'r peirianwyr ac yn ngweithfeydd y Rhondda Merthyr, nid ydynt yn gweithio digon i enill bara i dori angen newynllyd eu teuluoedd, nac yn fawr gwell yn Fernhill a Blaenrhondda. Ac am Flaenycwm, y mae yma ryw raib Belze- bebaidd yn trigo er's tro. Ni chlywsom, er dyddiau Gabintwr, y fath ddolefau achwynol ar Flaenycwm. Gwell tewi, feallai, rhag tynu'r gethern i flflamychu am ein pen, pe hidiem am hyny. Un o'r bendithion mwyaf ddaetli i Dre- herbert y dyddiau hyn yw y soup hitchens bendigedig yma. Oni b'ai y rhai hyn, byddai o angenrheidrwydd lawer teulu yn dyoddef yn galed o eisieu bwyd a dillad. Gallem ddwyn llawer engraifft galonrwygol gerbron y darllenydd o wir dlodi teuluoedd angen us a haner newynllyd sydd yn britho glanau'r Rhondda y dyddiau hyn ac os cawn ham- dden a hwyl, gwnawn hyny yn rhai o'n llythyrau nesaf. Mae Y11 llawen gsnym allu dwyn tystiolaeth dros weithgarwch egniol gweinidogion a lleygwyr y Rhondda y dydd- iau a'r wythnosau hyn. Gallem enwi llawer ereill sydd yn gweithio yr un mor egniol dros y mudiad daionus hwn, ac y maent yn deilwng o ganmoliaeth uchel am hyny. Hyderwn yr egyr y wlad ei chalon i dosturio eto, fel y gwnaeth yn ganmoladwy yr wyth- nosau a basiodd, ac y daw yn fuan ryw ym- wared i'n gwlad sydd yn ochain dan ergydion cystuddiol y newyn du. Mae hefyd un peth arall gwir deilwng o sylw wedi ei gychwyn yn Nhreorci yr wyth- nos ddiweddaf, sef reading room newydd, ar y brif heol, o flaen siop yr Allwedd Aur, ychydig islaw siop y cyfaill, Mr. Phillips. Dyma beth oedd gwir angen ei gael yn Nhreorci, a gobeithiwn y cawn glywed fod yr amean da yn cael ei gyrhaedd trwy weled yno lawer iawn yn dyfod i dalu ymweliadau cyson. Yn mhlith ereill o newyddiaduron, gobeithiwn weled y GWLADGARWR yno, beth bynag. Bydd genym sylw pellach ar hyn eto.—Shon o'i- IVerti.
BRYNIVY.
BRYNIVY. Y mae y flwyddyn hon eto yn carlamu yn mlaen, ond er fod masnach mor farwaidd cynaliwyd yma, fel arfer, yr eisteddfod flyn- yddol dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, pryd rhoddwyd amryw wobrwyon am fardd- oniaeth, cerddoriaeth, traethodau, ac adrodd- iadau, o dan llywyddiaeth R. Davies, Ysw., Brynivy. Beirniad y gerddoriaeth oedd Mr. Rees Rosser, Blaenafon arweinydd y dydd, y Parch. R. Williams. Wedi cael anerchiad byr a phwrpasol gan y cadeirydd, aethpwyd yn mlaen feI y canlyn :-Datgann, Gyda'r Wawr," tri yn cystadlu; goreu, Miss S. Davies. Adrodd, Ty ar dan goreu, Mr. Watkin Williams, Maesteg. Beirniadaeth y farwnad i Mrs. Davies, gwraig R. Davies, Ysw. daeth saith "0 gyfansoddiadau i law dyfarnwyd y wobr i Mr. B. Williams, Merthyr, a chafodd ganmoliaeth uchel gyda'r beirniad. Canu, "Clyw, 0 Dduw, fy llefain," dau gor yn cystadlu goreu, cor Bethania. Beirniadaeth ar y llinellau Seis- nig ar "Dragywyddoldeb," pump yn cys- tadlu goreu, Gowerian, sef Mr. D. H. Evans, Crwys, ond nid oedd yn bresenol i dderbyn y wobr. Cafodd y llinellau hyn ganmoliaeth uchel gan y beirniad, ac y mae y wobr i'w chael gan yr ysgrifenydd. Canu, "Bradwriaeth y Don," naw yn cystadlu; goreu, Mr. Dan Thomas. Beirniadaeth y traethawd ar hanes Brynivy buddugol, Mr. H. Thomas, Brynivy. Canu, Myfanwy," tri pharti yn cynyg^; goreu, parti o'r Bryn. Yn nesaf daeth y brif gystadleuaeth, sef canu Gwalia Wen," pump cor yn cystadlu; goreu, cor y He, dan arweiniad y cerddor talentog, Mr. J. D. James. Araeth ddifyfyr; goreu, Mr. Watkin Williams, Maesteg. Yn yr hwyr cyna.liwyd cyngherdd ardderchog, pryd y gwasanaethwyd gan y beirniad, y cor buddugol, ac amryw o gerddorion y 11e. Trodd y cwbl allan yn hynod Iwyddianus, a chafwyd eisteddfod a chyngherdd ardderchog. —Misteddfodivr.
EISTEDDFODD LLANELLI.
EISTEDDFODD LLANELLI. Y FEIRNIADAETH. Yr Hydref. Morgru/jun —Cyfansoddiad annghelfyddfac anorphenedig sydd gan hwn, heb fawr trefn arno. Tounr/ster. —Cyffredin y w y cyfansoddiad hwn. Os ieuanc yw yr awdwr, ymdreched eto. lIen hen Amaetkwr.—Penillion gwcddol ar y cyfan. Nis gwyddom beth mae yn ei feddwl wrth yr Hydref yn dyfod a'i fynwes yn felyn.- Os mai yr Sod ar y maes mae yn feddwl, pa fodd y gall hyny fod, ac yntau yn y llinell nesaf yn dweyd fod yr ysgubor yn llawn; Nai ei Ew!¡tlu'Penillion Hed. dda ar y cyfan, ond y mae eu gwell yn y gystadleuaeth hon. Luther.—Tri phenill da iawn. Naturiol.—Nis gwn beth feddylia wrth ddweyd— Ar ol haf a'i filfyrdd o ludded a gwae." Ni chlywais o'r blaen fod rhyw sancteiddrwydd yn perthyn i'r llwydrew. Uredwyf fi nad oes neb yn hoffi. lleddfdonau'r llifogydd. Y mae rhai llinellau swynol, er hyny, yn y gan hon. Gwilym Rheged.—Can weddol. Geiriau llanw, megys yn siwr. Cyfuewidia y gair them i Horn er mwyn yr odl. loan Medi.—Syniadau da ond y mae yr awdwr yn euog o dor mesur a thor geirian hefyd. Er mwyn yr odl defnyddia ma' am maes, ac oys J am oes. Yr wyf yn methu gweled y priodoldeb o gymharu yr Hydref i Sabbath ardd^rcrtrngr"J Gwas.—Cyffredin iawn yw y gan hon. Gesid y geiriau ynddo a dadfeUio i gydodli. A wel. Tl ws a barddonol. Cynddylan.—Penillion naturiol a barddonol. Rhaner y wobr rhwng Awel, a Cynddylan, a Luther. "Rhwyfo dy gwch dy hun."—Dyn ar ben ei hunan. —Cyffredin iawn yw y gan hon. Llinell- au cloffion, ac arddull glogyrnaidd. Defnyddia y geiriau Iwmp a crwmp—dau air anfarddonol. Dylid cofio fod y bardd i ddewis geiriau priodol gystal a syniadau teilwng. Y mae yn y gan ambell linell dda. Rhwyfwr.—Can dda yw hon. Absolom.-Y mae hon hefyd yn gan dda. Rhaner y wobr rhwng Rhwyfwr ac Absolom. "Englyn i'r Gr^g.Adsaino'rGiijii.Englyn rheolaidd, ond nid wyf yn ei ddeall. Nis gwn beth mae yr awdwr yn ei feddwl neu yn geisio ei ddweyd. lest'yn.—Englyn yn amcanu at bethau mawr- ion, ond yn methu cyrhaedd y nod. Edyar. —Englyn pur dda, ac o gyfansoddiad pur naturiol. Calchtvr.—Englyn gwanaidd a rhy eiddil ifod yn "Degan Creadigaeth." Barcud.—Englyn lied dda ond y mae gormod o niwl o'i gylch. loan Bryslog.—Dim yn neillduolmcwll syniad a chynghanedd. Ad wel.—Hollol afreolaidd. Taronwy.—Dim yn debyg i englyn. Y Gwan Bach.-Nicl englyn sydd gan y Gwan. Llwydfab.—Englyn rheolaidd, ond nid wyf yn deall ei ddwy linell olaf. Eryr.Y llinell olaf yw yr unig un yn rheol- aidd yn yr englyn hwn, a hono yw y wanaf. Morwr.—Dim yn neillduol. Byron.—Y ddwy linell olaf yn afreolaidd. Arthur Cadtoaladr.—Afrywiog yw ei englyn, eto y mae ynddo ragoriaethau. Rhanir y wobr rhwng Edgar ac Arthur Cadwaladr. "Ffordd oreu i gael plant i'r ysgol Sabothol." Athraior Plant. — Y mac y brawcl hwn wedi dan- fon i fewn draethawd oedd ganddo yn bared. i'w anfon i'r Grrnl, ar destyn arall, sef y "cyn- llun mwyaf eifeithiol i gael gan blant Vsgol Sal i deimlo dyddordeb wiewn gwybodaeth ysgryth- yrol." Y mae yn draethawd cla, ar y cyfryw destyn, pnd nid hwnw yw testyn y gystadleu- aeth. Lies ap Coel.—Traethawd gweddol ar y cyfan, ond y mae ei well yn y gystacllenaetlf. Hen hen Ffarmwr.—Y mae traethawd yeyfaill hwn yn fwy cyllawn nag eiddo ';Lles ap Coel." Y mae yn ysgrifenydd Cymraeg lied dda, ac y mae y ffordd y mace wedi ei nodi allan yn ei draethawd yn Heel sicr o gyrhaedd yr amcan. Rhoddir y wobr i Hen hen Ffarmwr. — Yr eidd- och yn gywir yn rhwymau yr awen. 1. DHIIEUFARDD. I
BARDDONIAETH A BEIRDD.
BARDDONIAETH A BEIRDD. RHIF XI. Os yw dawn yn golygu rhediad rhwydd geiriau, y mae awen yn meddwl rhyw gy- nhyrfiad o fewn, rhyw lifiad esmwyth a sefydlog, a phryd arall fywiogrwydd ac angherddoldeb meddwl a theimlad dan lyw- odraeth rhyw wrthddrych neu wrthddrychau allanol neu fewnol. Y mae y galon farddonol yn dynerach i dderbyn argraffiadau oddiallan nag un galon arall, a gellir beirniadu y bardd oddiwrth y bywiogrwydd teimlad sydd i'w ganfod yn ei weithiau. Os ydym yn edmygu y bardd am rywbeth, am ei ddawn yn ein denu i deimlo pethau natur y gwnawn hyny. Pan fyddo yn mhresenoldeb gwrthddrychau, teimla yn ddyfnach a gwel yn mhellach nag ereill ac yn ei ddesgrifiad a'i driniaeth o'r unrhyw, eneinia hwy a'i angherddoldeb ei hun, yr hyn a deimlir gan y darllenydd neu'r gwrandawyr. Os yw awen yn rhywbeth, y cynhwrf hwnw yw a gynyrchir gan wrth- ddrychau yn y galon y mae hefyd y gwrth- ddrychau yn cynyrchu dyddordeb sydd yn dwyn ymaith yr holl serch mewn mwynhad llwyr ohonynt. Y mae natur yn llywodraethu ar y bardd yr un modd ag y gwna charms yr eneth ar ei charwr. Nid yw glendid a rhag- oriaethau yr epeth yn weledig i lygaid cib- ddall y cyllredin ansylwgar ac annghariadus Dywediad annghywir, i'n tyb ni, yw fod serch yn ddall, oblegyd ymddengys i ni fod llygaid serch yn graffus annghyffredin, a meddant y ddawn o wneyd annheilyngdod yn wir deil- wng Bydd gogonianau yn y pethau mwyaf distadl Am a wyddom ni, y mae serch a Haw fawr mewn gwneyd pethau yn brydferth. Ai nid serch yw hanfod prydferthweh 1 Things basa and vile holding no quantity, Love can transpose to form and dignity": Y mae natur yn ei hamrywiol agweddau yn cyffroi gwahanol feddyliau ac folly cawn feirdd, fel arferiad, yn cyfyngu eu hunain i destynau arbenig. Sercha un yn ngweledig- aethau allanol natur cynhyrfir y naill gan ddosbarth o agweddau pethau tuallan, arall ga.n sylweddau meddyliol ac ysbrydol—cre- adigaeth y tufewn. Swyna golygfeydd gwledig ac arferion amaethyddol y naill, rhai trefol y llall; toriad gwawr a huda un, machludiad haul a gogoniant y nos y llall. Credwn mai unig achos annheilyngdod cyfansoddiadau barddonol yw fod eu hawdwyr heb eu hurddo a'u heneinio yn feirdd gan natur; neu eu bod, er yn feirdd, yn ymhel A thestynau nad yw eu hawen yn dwyn y dyddordeb angen- rheidiol ynddynt. Y mae yn arwydd o wendid yn mhlith ein beirdd ymgymeryd ohonynt a chyfansoddi ar bob testyn eistedd- fodol o fewn y wlad, o'r mwyaf tomlyd hyd y mwyaf awyrol. Nis gall un awen gymeryd dyddordeb yn mhob peth gyhoeddir i gystadlu arno gan bwyllgorau ac unrhyw awen allo wneyd hyny, nid yw awen. Y mae yr arfer- iad yn buteindra barddonol. "Deuryw awen y sydd," meddai yr hpn Gymry, "sef un o Dduw ac un araHoddi- awl a hon yr awen a wed gelwydd, trwy arfer a gwrthwir ac a gwrthfarn o bydd awen i/elwyddog^ nid x>dtTw y mae, ond o gythraul. 0 Dduw ai o ddiafol y deillia yr awen Gymreig ? Credwn fod yr awen yn Nghymru yn fwy cyffredin nag awen un genedl arall, oddiar dri o ystyriaethau :—Ei hariangarweh, annheilyngdod y testynau drinir, a'u nodwedd ddychymygol. Nid oes engreifftiau mynych o gyfansoddiadau Cymreig wedi eu hysgrifenu ond dan gynhyrfiad gwobrwy arianol. Nid mawredd a phrydferthwch y testyn, fel rheol, sydd yn cyffroi y meddwl, ond maintioli y gwobrwy ac y mae yn wirionedd hysbys fod y cystadleuwyr yn fwy awyddus am y wobr nag am gyfansoddiad gwir werthfawr. Rheoleiddir gwerth y cyfansoddiad gan faint y daledigaeth Dognir ffrwyth yr awen fel wrth bwysau a mesur. Dyledswydd cyntaf y bardd yw dysgu "Troy welght" yn dda. Clywsom fardd o gryn safon yn achwyn ar ymgeisydd buddugol am fod ei gyfansoddiad yn rhy dda a dywedai y deuai yn ddoethach o hyny allan Yr ydym ni wedi arfer credu fod barddoni fel anadlu ac anliawdd iawn yw i'r gwir fardd gael llonyddwch ac esmwyth- yd heblaw iddo gael outlet i'w feddyliau a'i deimladau. Os tery rhyw wrthddrych ei feddwl i gynyrchu brwdfrydedd, dylai roddi vent, ar y pryd hwnw, i'w feddyliau oblegyd ar yr adeg hono yn unig y medr ysgrifenu llinellau gwir dda. Y mae yr awen Gymreig wedi ac yn isel- hau ei hun drwy ganu ar destynau annheil- wng. Nis gellir braidd enwi un darn o farddoniaeth yn y iaith yn seiliedig ar ffaith a phrofiad. Y mae y mwyafswm yn hollol delychymygol-rhyw ehediadau awyrol ydynt ar draws, lawer pryd, rheswm a gwirionedd. A daw o'r cymylau duon,— o fellt r i Pil myrdd yn derwynion Tyrfau, taranau yr Ion,—o'r nef lys A gyrhaedd icrcgys a flivi-ctidd yr eigion. Y mae yr ansylwgarwch mwyaf rhyfedd yn ein beirniaid, nodant allan wallau cynghan- eddol ac odlyddol gyda chywirdeb digymhar ond gadawant y gwallau mwyaf direswm mewn meddyliaeth i ddianc heb gymaint a chyfeirio atynt. Y mae un o'n beirdd emv- ocaf wedi ysgrifenu dernyn maith ar Ad- gyfodiad ac os cyfriiir yr holl linellau svdd yn tnn pynciau anmherthynasol, y mae" yn ddiameu, wytli (rhan) o bob deg ohonynt allan o r flordd y mae ynddo dudalenau cyfam hob berthynas o gwbl a'r testyn Uellid rhanu y cyfansoddiad i ugain o wahan- y c -i -a kyddenfc yn rhagorach dipyn fei Amrywion," gyda phenawdau cyfaddas. Byddai tiefmant or fath yn drugaredd fawr a, r dernyn; y mae yr awdwr yn rhoi y desgrif- ladau mwyaf erchyll o'rffurfafen yn syrthio i annrhefn a thryblith. Pan fyddo yr haul a'r lleuad wedi dianc mewn dychryn mawr a myrdd o fellt yn gwibio i'r ddaear, a'r nef wedi duo i fyny yn nos ddilewyrch, dywed yr awdwr