Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

.DARPARIADAU RWSIA.

News
Cite
Share

DARPARIADAU RWSIA. Diclion nad anfuddiol yn ngwyneb y croes- <ldywediadau am amcanion Rwsia y dyddiau hyn fuasai ychydig nodiadau ar ei darpariad- au presenol. Rwsia a gweithrediadau Rwsia sydd yn awr yn destyn yn mron yr holl siarad a'r dadlu yn mherthynas i'w dylanwad ar y byd gwleidiadol, gan hyny nid peth di- bwys i ni yn y llinellau canlynol yw dangos darpariadau ac ymdrafodaethau Rwsia yn mherthynas a rhanau neillduol o'r byd llaw- weithyddol a masnachol. Mae Rwsia yn prynu mewn modd helaeth o'r cynyrchion sydd yn gofyn haiarn a dur er eu llaw- weithio. Trwy y pryniadau hyny y mae. ei gwlad ei hun, Germani, ac America yn cael manteision, a'n teyrnas ninau hefyd yn cael bendith. Nid yw bywiogrwydd Rwsia yn y farchnad yn cael ei gynhyrfu yn unig a holl- ol at amcanion milwraidd. Dios fod ganddi -()hvg ar y defnydd cynyddol o For y Baltic a'r Mor Du, er, ar yr un pryd, nad yw hi yn annghofio y bydd yn ofynol i gynyddu y cyweithasau drwy y rhai y buasai yn alluog i symud ei chatrotau milwraidd mewn cyfeir- iadau yn cylchynu ar y canol-fanau hyny. Ond y mae gan Rwsia hefyd lygad ar y moddion drwy y rhai, yn benaf, ar ol hyn, y rhaid iddi gyfarfod y ceisiadau cynyddol ar ei chyllidiau achlysurol i gyfarfod a'i threul- ion mawrion presenol. Rhaid iddi fforddio rhwyddinebau er trosglwyddo yd o'i rhanau mewnol, ac ar yr un pryd beidio lleihau y moddion neu y cyfryngau y byddo ei chatrodau, ar unrhyw amser, gael eu symud i fanau manteisiol, a'r moddion iddi osod ei hun mewn sefyllfa well fel gallu morwrol. Yn mherthynas i'w hymdrechion i wella ei sefyllfa fel gallu morwrol, y mae arwyddion masnachol yn dangos fod Rwsia newydd osod archebion am ddim llai na chant o agerlong- au buan. O'r rhai hyn y mae haner cant wedi eu cymeryd gan firms Seisnig, y rhai sydd yn meddianu sefydliadau ar y Baltic, tra y mae yr haner cant arall o'i llynges gynygiedig yn cael eu cyflenwi gan adeilad- wyr llongau ydynt yn gweithio yn Lloegr, Belgium, Germani, &c. Y mysg yr Anglo- Russia.n firms sydd wedi cymeryd cytundebau dywedir fod y Baltic Iron-ship Building and I Engineering Co's. Limited a'r Mri. Baird a'i Fab. Dywedir fod gweithlan Mr. Baird yn beth hollol newydd. Mae yfii-iits sydd wedi cytuno gwneyd y pethau hyn wedi ymgy- meryd a gwneyd y llongau hyn mewn chwe' mis o amser, neu dalu dirwy drom ac nid yn unig hyny, ond y maent wedi cytuno i wneyd tair launches neu cutters o fwy o faintioli, y rhai a fyddant ddeuddeg mis ar waith. Mae yr holl longau hyn i fod yn orchuddiedig a llafnau dur, a'u gosod yn fedd- ianol ar beirianau galluog ac o gyflymder mawr rhyfeddol. Mae yn ddigon hysbys tod Rwsia am ryw gvmaint o amsar sydd wedi myned heibio, ac yn u,r» yn gwsmeriaid rhagorol o dda i'r wlad hon am reiliau dur. O hyn y mae cyflawnder o brofion yn dyfod i ni yn sefyllfa melinau reiliau dur, neillduol yn Sheffield, ac yn yr archebion amlwg diweddar a dderbyn- iwyd yno am y nwyddau hyn oddiwrth yr Ymerodraeth Ogleddol. Ar yr un amser ag y mae hyn yn myned yn mlaen, mae archebion Rwsia am beirianau symudol a rolling stock, y rhai ydynt i'w trosglwyddo [ yno fel y reiliau yn mis Mai nesaf, ydynt dan weithrediad i helaethder mwy nag arferol. Er engraifft, mae firms perianyddol Rwsia -mewn meddiant o archebion am 130 o beir- ianau symudol, a 3,400 o druciau, ac y mae gwneuthurwyr Germanaidd aa Americanaidd o'r un dosbarth o nwyddau yn troi allan i'r un archebion- 140 o beirianau symudol, a 2,000 o druciau. I ba wasanaeth y caiff badau y gwefrbysg (torpedo boats) eu rhoi, a phwy by nag yw y bobl ag y bwriedir i'w cor- ^ougau gael eu dinystrio ganddynt 1 Mae yn ddios heb i ni feddwl am hyn fel parotoadau at ddybenion milwraidd, fod angen am y cyfleusderau hyn, a'u bod yn cael eu bwriadu felly er bod yn gyfleusder i'r tyddynwyr Rwsiaidd er cyrhaedd y marchnadoedd mawr- ion. Mae yn arswydus meddwl fod, am fis- oedd sydd wedi myned heibio, ystorfeydd mawrion 0 yd yn pydru yn ei therfynau pellenig, yn dysgwyl y cyfnod na bydd eu heisieu ar y Llywodraech i ddybenion rhyfel- £ &?> a rhaid i'r rhai hyn ddyfod ar hyd y reilffyrdd a fyddont wedi myned yn ddi- ddefnydd i'r Llywodraeth, a chyrhaedd y Porthladdoedd. Ni chaiff y tyddynwyr Rws- iaidd, modd bynag, ryddhad hyd nes y byddo y flwyddyn hon wedi cyrhaedd ei chanol- gylch. Mae yn hynod, yn gymaint a- bod y- Llywodraeth Rwsiaidd yn rhagweled yr an- hawsder hwn yn ngwanwyn y flwyddyn 1877, a° yna benderfynu i helaethu i raddau mawr- ion y rolling stock, mai dim ond rhyw ddeg wythnos yn ol y cafodd yr archebion am y "Cyflenwad angenrheidiol eu dosranu. Mae gan yr holl ddarpariadau hyn o eiddo Rwsia lesiantau a buddianau i'r wlad hon-y Deyrnas Gyfunol, y rhai sydd yn deilwng o'n sylw. Mae gwneyd 100 o fadau gwefrbysg, yn benaf o ddur, yn sicr o symbylu y mudiad trawsfudol drwy yr hwn y mae dur yn cy- meryd He haiarn. Rhaid i'r gwaith peirian- .yddol, i raddau helaeth, gael ei lesoli gan y nifer fawr 100 o beirianau morwrol. Nid yw y firms Prydeinig wedi gafaelyd mewn cymaint ac a ddymunid o'r gwaith reilftyrdd a nodwyd, ond bydd y rhai a'u meddianasant heb fod eto mor gyfieus i ym- ^>'d mewn archebion dyfodol a gynygir. Yr ydym yn cael ein tueddu i gredu mai yr achos o fod can lleied o archebion y peirian- lanau symudol a'r truciau wedi glynu wrthom 111 yw fod cymaint o annghydwelediad rhwng cyfalaf a llafur ein gwlad. Nid ffaith ddi- bwys yn nghysylltiad a hyn yw fod niter fawr ■° adeiladwyr llongau wedi gadael y Tyne y dydd. Sadwrn diweddaf yn Ionawr er ^nyned i Rwsia o dan chwe' .jnis o gytundeb am 13p. y mis, gyda y dewisiad o adamodi am chwe' mis arall. Mae yn amlwg fod yn mwriad Rwsia i feddiatiu llynges deilwng o'r enw. Mae ein trafodaeth allforol a, Rwsia, yr hyn yn 1875 oedd yn dyfod i fyny yn agos i 18,000,000 o bunau, ac nid yw yn debygol yr a yn llai yn y dyfodol ac os gwna. hi gymeryd ymaith oddiwrthym mewn ffordd o weithwyr cywrain, mae y mwy na'r cyffcedin o ddarpariadau y mae yn eu gwneyd er all- o, forio ei hyd yn sicr o'n galluogi i borthi y rhai fydd yn aros yma ar lai o draul. CAP HAIARN.

G YSTABLE UA ETH GOB AWL EIS…

YSGRIFAU BRITHYLL OGWY, GWMOGWY.

EISTEDDFOD LLANELLI, BKAGFYB,…

TEXAS.

BWBDD YSGOL LLANGIWG.I

[No title]

PATAGONIA.f

BLAENAFON.

Advertising

, FF AIR TBEOBCI.

Yr hyn a Welais ac a -Glywais…