Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

EISTEDDFOD LLANELLI.I

News
Cite
Share

EISTEDDFOD LLANELLI. Y FKIRNIADAETH. Galarel) i Jenkin Williams. -Daeth deg galar- eb i law ar y testyn teilwng hwn, ac yn eu plith rai cyfansoddiadau gwir dda. Wrth gyfansoddi Galareb dyiai y bardd gadw neillduolion y gwrthddrych o tlaen ci feddwl. Y mae rhai o'r Galarebau y fath fel y cyfatebeut i unrliyw Gristion, mewn unrhyw oes, ond cyfiiewid yr enw y mae yn y gystadleuaeth hon rai Galar- ebau teilwng o unrhyw Eisteddfod, ac yn anrhydedd i arwr y gystadleuaeth. Yr ydym wedi rhanu y 10 Galareb i dri dosbarth, gweddol, (/well, a da iaion. Yn y qweddol y mae genym dair Galareb, sef eiddo Premier, Flavius, a loan Bro Hiraeth. Cawn yn gyntaf sylwi ar eiddo- 1. Premier.—Cyfansoddiad gwael yw hwn. Dylai pob llinell fod yn gytlawn ynddi ei hUll heb ei gyru am air neu ddau i gwblhau ei synwyr i'r llinell ganlynol. Cymerwn y degfed penill fel engraitft- Trigolion yr ardal lie gynt y preswyliai Sy'n teimlo unigedd diail ar ei ol, Rhyw lu o gyfeillion y sydd a'u mynwesau Yn orlawn o dristwch—diangodd i gol Ei Geidwad er dagrau ei anwyl gyfeillion Anwylaf a feddai at wyneb y llawr, Mae heddyw mewn ardal sydd ganmil rhagorach. Yn c'anu, &c. Mae gyru y bedwaredd linell i'r burned i gwblhau y synwyr yn anfaddeuol mewn Galareb fel hou. Y mae y bai hwn bron yn mhob penill o'r Alareb. Svniadau cySredin—hen arddull. Flavius. —Cyfansoddiad cyffredin. Rhai syn- iadau da, ac am bell ddrychfeddwl barddonol. Lluaws o linellau gweinion. Gormodiaeth mewn llawer o'r penillion. Y mae amrywiol feirdd yn y gystadlellaeth hon yn syrthio i'r bai liwn. loan Bra Hiraeth.—Gormodiaeth anfaddeuol. Penill engraifft- Dros anian oil rhyw bruddaidd len 0 dristwcli yn daenedig sy' 'N grogedig mae ar furiau'r nen Ddarluniau o fy ngofid I." Geilw hefyd ar yr adar i "ymguddio mewn mudanrwydd prudd." Y mae ganddo ambeil benill tiws, ond y mae yn mhell ar ol yn y gystadleuaeth hon. Yn y dosbarth gwell saf Hen Ddiacon, Calon drom, Canor mewn cyni, Pruddglwyfus, ac Un mewn galar. 1. Hen Ddiacon. — Yr hyn sydd yn hynodi y cyfansoddiad hwn yw anystwythder. Mae ynddo ami dor-mesur, megys yn y 6fed linell o'r tlldalen- olaf. Y mae ynddo hefyd amryw ym. adroddion sydd yn ymylu ar fod yn ddisynwyr, megys y gwynt ysgythrog, pangog ffol," "oeclfa wlithog ddrud," &c. Nid yw y bardd yn gywir yn y llinell ganlyn- ol :— Cyflawni'r dyledswyddau (diacon) wnaeth am einioes faith." Ni fu am flynyddau lawer yn ddiacon, dim ond rhyw chwech neu saith mlynedd. Nis gwyddom beth feddylia y bardd yn y ddwy linell ganlynol:— Swydd ddiacon oedd, ond uch a llawer gwell, Nag un allasai'r byd ei rhoi yn mhell. Calon drom.-Galareb dyner a theimladwy yw hon ond y mae ol brys ar yr holl gyfansodd- iad, ac y mae hon yn ferach nag un o'r Galareb- au ereill. Ychydig iawn. o neillduolion Jenkin Williams a nodii gan y bardd hwn. Nis gallasai efe gael adnabyddiaeth helaeth o'r cyfaill J-enkin. Geilw yr ymadawedig yn "Gomed yn wybren eglwys Dduw," a dywed fod ei fedd yn Emflwch i'r Duw Anfeidrol." Canor mewn cyni.—Galafcb dlos a barddonol, ond ni nodir y nesaf i ddim o neilldnolion y gwrthddrych y cenir iddo. Gallasai wneyd y tro ar ol unrbyw ddyn da arall ond cyfnewid yr enw. Pruddglwyfus.—Y mae hon yn Alareb weddol iawn ar y cyfan, er fod yr awdwr yn defnyddio rhai geiriau llanw, megys syw. Dylai fod gwaith gan bob gair yn mhob llinell o farddoniaeth. Y mae defnyddio gair er mwyn yr odl yn anurddo y cyfansoddiad goreu. Defnyddia yr awdwr y ddwy linell ganlynol yn yr un tudalen o fewn i naw llinell i'w gilydd :— Mae deigryn hiraeth ar bob gwedd." Mae deigryn hiraeth ar fy ngwedd." Rhy debyg. Y mae Pruddglwyfus hefyd yn euog o ormodiaeth. Un mewn galar.-Dyma Alareb dda eto, yn cynwys cryn lawer o farddoniaeth. Y mae Un mewn galar yn cynyg yn ddewr am y dosbarth da iawn. Yn y dosbarth blaenaf, sef y da iawn, y mae dwy Alareb, sef eiddo Blaclcwell a Hen Gyd- nabod cyduddiol. Dyma ddwy Alareb i Jenkin Williams, ac nid i neb arall. Y mae y ddau awdwr yn nodi neillduolion y gwrthddrych, ac yn cyffwrdd a phrif linellau ei fywyd. Y maent yn farddonol ac yn ddesgrifiadol iawn, ac yn rhydd oddiwrth ormodiaeth. Gwelir darlun o Jenkin Williams ynddynt. Er cymharu, pwyso, ac ail bwyso, yr wyf yn meth npender- fynu pa un sydd oreu gan hyny rhaner y wobr rhwnc Blaclcwell a Hen Gydnabod cystuddiol; a chan °fod cyfaill i wrthddrych yr Alareb wedi cynyg ail wobr rhoclder hono i Un mewn galar. DEHEUKARDD.

MARWOLAETH IORWERTH GLAN N…

ABERDAR.

LLANTRISANT.

Advertising

SARON, CER LLANDYBIE.

DOLGELLAU.

MERTHYR.

FFORESTFACH.

COFFORIAETH MERTHYR.

Advertising

LLANELLI.

SOUTH STOCKTON.

YSTALYFERA.

GLYN EBWY.

ABERAMAN.

RHYMNI.