Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GWLADGARWR YN UGAIN OED.

News
Cite
Share

Y GWLADGARWR YN UGAIN OED. HYNAWS OLYGYDD,-Caniatewch i mi ofod -fechaii i wneyd sylw neu ddau ar y GWLAD- .GARWR pan yn agos mewn cyflawn oed. Pan ygwelflwydd eto, bydd yn rhydd oddiwrth .e1 ymddiriedolwyr-oddiwrth ei ymgeledd- wyr. Yn mhen yr amser yna, caiff fedydd .esgob, fel y byddo yn rhydd oddiwrth ei rieni. Wel, fel y ddoe y mae yn gofus genym ei eni, a llawenydd i'n calon yw ei weled wedi tyfu a magu cnawd a giau, fel y mae yn ym- ddangos yn wr o gyhyrau cryfion a gwydn. Diau fod y gwr wedi bod yn gyfrwng i dynu allan lawer o dalent meibion dewrion y Cymry. Heb gyfryngau, ni fyddai yn bosibl gwneyd fawr ohoni. Buasai llawer un sydd heddyw yn dderwen gauadfrig, ie, yn frenin- bren yn ein bro heb ddyfod i'r golwg o gwbl -oni b'ai am ryw gyfrwng neu gilydd i'w ddad- blygu-i'w ddwyn i'r golwg, a'i wneyd yn gyhoeddus gerbron y byd. Pa sawl gwr yr ymaflodd y GWLADGARWR yn eu llaw ugain mlynedd i yn awr, ac a'u tywysodd gerfydd eu deheulaw, ac a'u hymgeleddodd, fel o dipyn i beth y daethant i wneyd son am eu pen. Pa le y mae Dafydd Morgan wg sydd heddyw yn wr o fri ac addurn yn mysg ein cenedl 1 Da gan fy nghalon weled y gwr parchus yn gwneyd ei flordd yn mysgllwyth- au Israel; ond ugain mlynedd yn ol, nid ydoedd efe ond hogyn bychan mewn cyd- mariaeth i'r hyn ydyw yn awr. Gwir fod ynddo elfenau gwr mawr pan yn blentyn, ,ond trwy gyfryngdod y GWLADGARWR a'i gyfFelyb y daeth allan yn fawr yn mysg ei frodyr. Bydded Dafydd fyw byth, a bydded ei hiliogaeth yn arwyr am fil o genedlaethau. Pa le y mae Rhvdderch ab Morgan-gwr a welais cyn yma yn cario ei fasged ?" ond daeth ef o dipyn i beth i roddi y fasged heibio, a daeth i gadw maelfa lawn o'r nwydd- au goreu eu rhyw Da genyf ei weled y tu cefn i'r counter yn cymhell ei nwyddau ar rai a'u gwir angen. Y mae ei gwsmeriaid yn "rhai gwir dlawd. ac yn wir angenus, ond y mae ei nwyddau ef yn abl i wneyd y tlawd yn gyfoethog, a'r newynog uwchben ei dra- gywyddol ddigon Pa le y mae'r Hen Bac- mau doniol a ffraeth ? Os nad wyf yn cam- ;synied, y mae ef a'i bac wedi croesi'r Werydd i fyd arall, ac yno yn cymhell ei nwyddau ar y brodorion. Nid wyf yn gwybod nemawr am fhelynt yr "hen staff" a welais yn yr amser gynt ar faes y GWLADGARWR gwrol a gonest. Hwyrach nad yw amryw ohonynt yn y rhych, ac amryw wedi ymgodi i sylw ac urddas heblaw yr ychydig a nodasom. Difyr yw yr adgof am lawer ffrwgwd ddiniwed a ,gafwyd, a llawer ymgom felus a fwynhawyd pan oeddym yn nyddiau ein mebyd llenyddol. Dymunwn i ti, 0 WLADGARWR! hir oes -eto i wasanaethu dy genedl; a bydded Llwyd a'i briod hoff fyw yn hir, a byw yn ddedwydd tra yma, a byw yn wqH wedi gadael. Na ddeued yr un corwynt i chwythu arnynt, na'r un ddalen sur i'w cwpbwrdd, na'r un helbul i'w cyfarfod. Boed i lenorion y GWLADGARWR dywydd teg, a bywyd ham- ddenol a hapus i lanw colofnau eu hoft gyf- rwng lien a boed ei dderbynwyr yn lluosogi yw dymuniad HEN WR.

ADD YSG PLANT TLODION.

NODION 0 LANAU'R OGWY.

DYFAIS C YFAN SO DDIV YR I…

AT GERDDORION LLANSAMLET.

BLAENAFON. —EIOH GOHEBYDD,…

---...........oy-",T"'Y""-"""".......".........-.......…

CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR - !…

GAIR 0 L'ERPWL.