Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
BARDDONIAETH A BEIRDD.
BARDDONIAETH A BEIRDD. RHIF X. Pe gofynid i lawer pa beth yw barddon- iaeth, atebent mai "dawn" neu "awen." Pa beth yw dawn neu awen, byddai yn dreth ar eu galluoedd i draethu dim yn mhellach. Clywir yn fynych son am farddoniaeth megys dawn, a gelwir hi yn ami yn awen." Ond y mae y geiriau "dawn" ac "awen" mor anmhenderfynol yn eu hystyr fel ag i roddi ond syniad annghwbledig iawn am yr hyn feddyliant. Defnyddir y gair daiivii, yn gyffredin, yn Nghymru, i olygu dylihad rhwydd a diatal geiriau, ac y mae yn awgrymu rhwyddineb ymadroddol yn hytrach na llifiad meddyliau. Y mae rhediad geiriau yn rhwydd ac yn rhigl yn meddu rhyw swyn neillduol i'r glust Gymreig ac os ceir geiriau i yru megys taranau, neu rut h. r w 111 o e d Ci, neu ffyrnig lifogydd, yn naill ar ol y Ilall, gan adael ond ychydig amser a hamdaen 1 r dar- llenydd neu'r gwrandawyr i feddwl, bydd yn sicr o fod yn ddawn" yn ngolwg lluaws. Araf ddaliant ar feddyliau Me<*ys &g v mae dawn mewn pregethwr yn don'neugan ar wahan oddiwrth deilyngdod ei sylwadau meddyliol, yr un modd hefyd y mae dawn barddonol yn ddyiifiad geiriau heb ond ychydig bwys a gwerth yn cael ei roddi ar yr hyn olygant. Clywsom ganmoliaeth uchel i'r llinellau a ganlyn Nid yw y geiriau gogoneddus hyn,— Hollalluogrwydd, Hollwybodaeth, a Hollbresenoldeb Duw, yn ngeirlyfr coeth Angelion, ond cyfystyr enwau ar Brydferthwch Uawn ei anfeidroldeb IU! Y mae y ownc drinir gan y bardd yn un sycld yn gofyn sylwadaeth a dychymyg rheol- eiddiedig iawn. Y mae ganddo, yn ddiau, ynyruchod, "a kind of marvellous gift to make things absurder thsfn they are Pe byddai actor yn adrodd y geiriau uchod gyda mawrfrydigrwydd teilwng o'u hyd, caent ddylanwad eang a dwfn ar j(ludiau y gwran- dawyr Y mae ynddynt ddigon o eiriau hirion i gludo cyfandiroedd o feddwlond nid oes °ynddynt feddwl o gwbl, neu, yn hytrach, nid oes ynddynt ddim gwirionedd. Feallai fod canoedd wedi darllen yr uchod heb erioed gael ar ddeall fod y bardd ynddynt "yn ymarfer a gwrthwir," fel y dywedai yr hen feirdd Cymreig. Y mae ynddynt honiad bollol an&thronyddol; ac ni wnaethai neb gamddefnyddio "geiriau mor ogoneddus" oddieithr ei fod yn cymeryd mai barddon- iaeth yw cruglwyth o eiriau.' Nis gellir, yn un modd, ganiatau fod y geiriau gogonedd- us "Hollalluogrwydd," "Hollwybodaeth," a "Hollbresenoldeb," yn gyfystyr a "phryd- ferthwch Yr ydym yn cymeryd fod y darllenydd yn deall y gwahaniaeth sydd rhwng y gair "prydferthweh" a'r tri ereill. Nis gallwn gyfenwi gallu yn brydferth, am fod y gair prydferthwch yn golygu gwedd deg; ond pa wedd sydd ar allu ? Yr un modd a gwybodaeth a phresenoldeb ynddynt eu hunain. Y mae presenoldeb fel gofod (space), yn bethau nas gellir dwyn y syniad o brydferthweh yn gysylltiedig a hwy. Ac hefyd, os yw y tri gair yn gyfystyr a phryd- ferthwch, y maent yn gyfystyr a'u gilydd. Hollalluogrwydd yn gyfystyr a Hollwybod- aeth Beth yw geiriau da, os y camdrinir hwy fel hyn 1 Dywedodd Talleyrand mai amcan iaith yw cuddio y meddwl, ac y mae yn sicr mai amcan y Gymraeg, mewn Ilawer o gyfansoddiadau barddonol, yw boddhau y glust, ac ebargofi y deall. Yr ydym yn fynych yn cael, dan faich mawr o ymadrodd- ion, ond ychydig o feddwl; y mae yn sicr, yn ein plith fod hwyl ar eiriau yn rhagori ar hwyl ar feddyliau a darllenir penillion a -llinellau barddonol gan lawer heb gymaint a sylwi ar yr hyn feddyliant, ac ymfoddlonir ar y tine ar dympan y glust, neu gogleisiad ar nerve y clyw Y mae eisieu gwirioneddol am gael beirniadaeth farddonol a wna i freniniaeth y geiriau i ddiflanu, a dwyn meddwl yn unig a gwerthfawr safon teilyng- dod cyfansoddiadau. Daeth geiriau i wasan- aethu, nid i'w gwasanaethu. Os na fyddant yn gwneyd rhywbeth heblaw tincian a seinio, goreu po gyntaf y rhoddir terfyn ar ddodi llinellau wrth eu gilydd. Sylwer ar y llinellau canlynol eto o'r un bryddest ar "Brydferthweh." Ai nid efe hefyd yw tadmaeth gwladgarwch ? Pa beth sy'n cysegru yr ardal a'r twyn ? Pa beth a'u gwnaeth gyntaf yn fanau hyfrydwch ? Pa beth ond prydferthwch oedd bywyd eu swyn ? Carem; ddweyd a gwrthdystio yn erbyn yr oil o'r penill. Nid oes dim gwirionedd yn un o'r llinellau. Nid prydferthwch sydd yn meithrin gwladgarwch; nid prydferthwch sydd yn cysegru yr ardal a'r twyn; nid prydferthwch sydd yn gwneyd manau yn hyfrydwch ac nid prydferthweh sydd yn fywyd eu swyn Digon yw dweyd mai ychydig sydd gan brydferthweh i wneyd a serch. Seich sydd yn meithrin gwladgarwch, ac sydd yn gwneyd y galon i lynu wrth ardal neu fan. Y mae cymaint o hiraeth ar ddyn ieuane i adael cylchoedd glofeydd dibryd- ferthwch cymoedd Morganwg ag sydd ar arall i adael Rhufain fawreddog, neu Venice bryd- ferth. A ydyw gwladgarwch yr Italiad yn gryfach nag eiddo y Cymro ? Y mae'r Eidal yn brydferthach na Chymru. Y mae cymaint o hiraeth ar y Cymro alltudiedig ar ol y bwthyn diogoniant ag sydd yn nghalon y boneddwr ar ol ei balas ysblenydd; y mae. y ty clai ,mor anwyl i'r Arab ag v \v y palas breiniol i'w Mawrhydi Dyma farn y Laplander am ei wlad oer, ddiymgeledd, ddi- swyn i bawb ond efe ei hun :— I would rather live in Lapland Than that Swabian land of thine Ond i'r darllenydd droi i "Traveller" Goldsmith, caiff linellau croes iawn i'r llinell- au dyfynedig uchod, ond llawn o wirionedd a theimlad. Cymered, hefyd, at y gwaith o feirniadu drosto ei hun weithiau barddonol, gyda'r amcan yn unig o gael allan eu meddwl, a chaiff deimlo y gwirionedd mai rhediad hwylus geiriau yw barddoniaeth yn ein plith, ac nid trysorfa o feddyliau gwerth i'w meddu, a daionus i'w darllen. Gofynodd Polonius i Hamlet pa beth oedd yn ddarllen, atebodd yr olaf: "Words, words, words!" Y mae yr atebiad yn awgrymiadol i'w ryfeddu. INDEX.
ORIEL Y BEIRDD.
ORIEL Y BEIRDD. DARLUN RHIF XVIII. Mae y bardd hwn o daldra canolog, a'i am- gylchedd yn ymylu ar y Dichbornaidd. Mae iddo wyneb llawn a gwridgoch, a chwareua gwen serchog arno bob amser. Ei farf sydd o liw cochlyd, a cheidw hi yn daclus ar haner cylch. Un olwg arno sydd yn ddigon i brofi ei fod yn gyfaill didwyll a dihoced. Er ei fod wedi teithio dros haner milldir einioes, y mae ei gymeriad moesol a llcnyddol yn ddifrychau. Nid rhyw lawer y mae yn ymdroi yn mhlith ei frodyr barddol; ond pan ddygwydda fwrw ei goelbren yn eu plith, nid oes neb a fedr fwyn- hau y gyfeillach yn well. Nid oes fawr o'r elfen ddigrifol ynddo, ond ceir ganddo sylwadau blasus ac adeiladol. Medr ysmygu yn Gristion- ogol ddigon, yn enwedig pan fyddo "tybaco'r achos ar y bwrdd. Nid oes nemawr un yn mhlith yr urdd farddol sydd mor, anwyl gan ei frodyr a'r bardd hwn. Mae ei ymddygiad gwylaidd a dirodres yn gwneyd i bawb ei edmygu. "Nid oes i broffwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun sydd ddywediad a brofir yn rhy ami yn wirionedd. Ond mae y bardd hwn yn eithriad i reol; mae wedi treulio yr hyn sydd wedi myned heibio o'i einioes i wasanaethu a chael ei wasanaethu yn mhlith y rhai y bu yn cydchwareu â hwy ar lanerchau swynol mebyd, a hyny mewn tangnefedd a pharch. Ond yn ddiweddar, mae wedi gadael bryn yr awen am un o ddyffrynoedd poblog y glo a'r haiarn. Ond er ei fod wedi gadael ei hen nyth, ei enw ber- arogla yno byth. Fel bardd, saif yn uchel yn mhlith beirdd y De; ac yn wir, y mae wedi curo prif feirdd y De ar droion, ond nid yw hyn yn safon i farnu ei deilyngdod barddonol. Nid oes nemawr wedi cystadlu cymaint ag ef, ac yn y blynyddau a aethant heibio, ychydig oedd yn enill cymaint; ac mewn cysylltiad ag ef, dywedir mai gwobr- wyon eisteddfodol ydyw defnyddiau bryn awen. Ni fedda ei awen adenydd yr eryr, na bywiog- rwydd yr ehedydd; ond yn nghwmni yr eos gall chwareu ei hedyn yn hyfryd. Yn y swynol a'r tyner y medr ei awen ef gyffwrdd llinynau y galon. Pe gorfodid hi i ymwneyd a'r mawredd- og a'r ofnadwy, elai mor syn a gafr ar daranau. Yn y minor key y mae awen y bardd hwn yn gartrefol, a medr nofio yn ganmoladwy iawn yn nyfroedd Marah. Nodweddir ei gyfansoddiad- au gan gelfyddyd dda, mewn ystwythder ac odlau. Cana yn llithrig yn y mesurau caethion, ac nid rhyfedd hyny, gan ei fod yn feistr arnynt. Mae wedi anfon allan i'r cyhoedd flodau ei awen ac er eu bod yn nwylaw y werin er's blynyddau bellach, y maent yn parhau yn eu lliwiau cynhenid—yn brydferth a defnyddiol. Fel beirniad, saif yn y rhes flaenaf o feirdd y Deheudir. Ei feirniadaeth sydd bob amser yn fanwl ac addysgiadol; ac nid pethau anmrwd ac ysgafn a dry ei glorian. Mae y prif feirdd a'r cocosyddion y naill mor barod a'r Hall i daflu eu cynyrchion i'w dafol, a phob un yn meddu llawn ymddiried y cant chwareuteg, cyn belled ag y medro deall a chydwybod y bardd hwn wneyd hyny. Yr unig achwyniad sydd yn ei erbyn ydyw ei fod yn fanwl gyda gofynion y caethfesurau—yn rhy "felldigedig o fanwl" felly. Condemnia linellau sydd yn pasio gan ein prif feirdd fel rhai perffaith gymeradwy. Yn hyny, mae yn waeth na Robin Ddu Eryri. Llygad am lygad, a dant am ddant" ydyw hi gydag ef, er fod llawer deddf yn yr hen oruch- wyliaeth farddol bron wedi ei dileu er's llawer dydd. Ond nid oes neb heb ei fai, os bai hefyd. Huw MORIs.
HENFAES, ABERDULAIS.
HENFAES, ABERDULAIS. Nos Fawrth, Ionawr 29ain, cynaliwyd cyf- arfod llenyddol yn y lie uchod gan y Methodistiaid Calfinaidd. Dysgwylid i'r hen frawd anwyl, Mr. N. Jones, i gymeryd y gadair, ond yn ei absenoldeb ymgymerodd Mr. W. Morgan, leu., a'r gorchwyl o lywyddu y cyfarfod. Yr adroddwyr oeddynt" Mri. G. Phillips, D. Rosser, W. Matthews, C. Evans, W. Morgan, a Miss M. J. Herbert. Y-canwyr oeddynt Mri. J. Rosser (loan Dulais), E. Gething, D. Rees, a Miss M. J. Simon. Canodd geneth fechan pum' mlwydd oed o'r enw Catherine Davies ddwy gan nes synu'r gynulJeidfa.. Y mae, clod mawr yn ddyledus i'r brodyr uchod am y drafferth a gymerant i ddysgu y rhai bach., Cafwyd cyf- arfod ardderchog. Yr oedd* pawb yn eu hwyliau goreu, yn enwedig y canwyr, a dy- muniad pawb yw cael un yirfuan eto. -I(li-is.
TOXGWYNLAIS.
TOXGWYNLAIS. AINON.-Nos Sul diweddaf yn y O&pel uchod o dan arweiniad medrus Mr. John Howells, cafwyd perfformiad cyflawn o Y Messiah i Blant, sef cantata gysegredig ar hanes bywyd yr Arglwydd lesu Grist. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. James Israel. Cymerwyd y darnau adroddiadol i fyny gah y rhai eanlynol :-H. Edwards, T. Llewellyn, Maria A. Howells, W. Llewellyn, W. James, G. Stevens, J.- Griffiths, T. Edwards, W. Morgan, E. Richard, Eva J. Morgan, a S. Griffiths. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a chafwyd perfformiad rhagorol. -loan Araul.
LLANTRISANT. I
LLANTRISANT. I Rhyfedd fel y mae masnach wedi arafu trwy'r byd yn gyffredinol; ac y mae pethau t,Y yn neillduol felly yn y lie uchod, yn gwbl fel pe b'ai wedi sefyll. Bu unwaith yn lie hynod lewyrchus, ac olwynion masnach yn troi yn gysurus *a chyflym, yr oedd mwy o waith nag o ddynion i lanw y gofyniadau am danynt ond nid felly yn awr. Y mae yma yn awr degau o ddynion iachus a diddiog yn segur, ac yn cerdded bob dydd i ymofyn am waith, a methu ei gael, ond dychwelyd yn yr hwyr i'w cartrefleoedd at eu gwragedd a'u plant, i fynegu eu helynt a mynwes lawn o ofid a'u cyllau yn wag o fwyd. Crefftwyr rhagorol, sobr, adiwyd, megys seiri a maswn- iaid allan o waith er's rnisoedd ac er hyn oil nid ydynt yn cwyno llawer am dlodi, rhagor na dweyd, mewn llais isel a phruddaidd, Mae yr amser yn araf rhyfeddol; gobeithio na pharha fel hyn yr hir, onide nis gwyddom beth ddaw ohonom." Ond gwyddis yn dda mai nid y rhai sydd yn dyoddef mwyaf sydd yn siarad amlaf, ond yn hollol i'r gwrth- wyneb. Gobeithio y try pethau yn fuan, onide bydd rhaid apelio 8at y cyhoedd am gydymdeimlad. Mae dosbarth arall yma o ddynion na ellir eu cyfrif yn mlith y tlodion ag sydd yn dyoddef gwasgfeion yr amserau yn druenus, sef y masnachwyr, y rhai sydd yn ymboeni y dydd a methu cysgu y nos, ofni gweled y commercial man yn dyfod yn ei frys a'i ffwdan i ymofyn ei gyfrifon. Nos Sadwrn y pay wedi troi allan yn hollol siom- edig i'w ddysgwyliad gwragedd y gweith- wyr wedi dyfod yno dan grynu, gan ddweyd fod y gwyr a'r bechgyn heb weithio ond llai na haner eu hamser, a'r cyflog mor fach pan y byddant yn gweithio ac hefyd, i berchen- ogion y tai fynu eu rent yn llawn. Yn ami, pan y mae y siopwr yn dysgwyl rhyw swm o arian, y mae yn cael ei siomi ac mewn gyd- mariaeth, pan y mae yn erfyn deg punt nid yw yn cael ond un. Dyma/r fath drafferth ac helbul y mae y masnachwyr ynddynt o ddydd i ddydd yn bresenol. Pan y byddoch yn dyweyd y pethau hyn wrth y traveller, y mae yn eich ateb mor sarug, gan ddyweyd This ivill never do for me; I rnmt consult my solicitor on the matter." Dyma'r gofid y mae yr masnachwyr o gyfalaf (capital) bach, ac heb arian mewn reserve y tucefn y dyddiau hyn yn dyoddef yn barhaus. Y mae llawer ohonynt wedi eu dwyn i dlodi oherwydd eu tynerwch a'u hewyllys da tuag at y dosbarth gweithiol, ac o ganlyniad y maent yn deilwng o sylw a chydymdeimlad.
PENDOYLAN, GER PONTFAEN.
PENDOYLAN, GER PONTFAEN. Prydnawn dydd Mercher, Ionawr 30ain, cynaliodd cor capel y lie uchod oyfarfod te, pryd y daeth amryw o gyfeillion y cor atynt i gydwledda ar ddanteithion bras a blasus Bro Morganwg. Yr oedd ger ein bron haner dwsin o fathau o deisen yn arddurno'r bwrdd, o'r deisen hufen dew, ffurf y Fro, i lawr at y bara brith cyffredin. Wedi i dros dri ugain gael ar ddeall mai nid da yw gormod o ddim, cliriwyd y byrddau, a neilldu- wyd Mr. William Evans, Ty Fry, i'r gadair. Wedi cael araeth gan Mr. H. Edwards, caed ar ddeall gan y cadeirydd mai prif amcan y te a'r cyfarfod oedd cyflwyno tysteb o oriawr a chadwen aur ardderchog i Mr. Jacob Davies, Canton, yn arwydd o'u dyled, a'u parch, a'u serch tuag ato am ei lafur a'i ffyddlondeb mawr fel dysgawdwr cerddorol ac arweinydd y cor am flynyddau. Cafwyd anerchiad brwdfrydig gan Mr. John, Ffosy Crydd, a Mr. William Lewis; ac adroddiadau bywiog gan Mr. J. Spencer a Mr. Thomas Thomas. Parotowyd cwdyn hynod o bert gan Miss M. Edwards, un o brif gantoresau y cor a chwyflwynwyd yr oriawr a'r gadwen gan Mr. W. Lewis, un o'r aelodau hynaf yn yr eglwys, ac un sydd yn ffyddlon gyda'r dynion ieuainc, a. bob amser yn bresenol yn yr ysgal gan. Gwnaeth Mr. Davies amryw sylwadau wedi i Mr. Lewis osod y cwdyn a'r oriawr am ei wddf ac yr oedd sylwi ar y cor yn gwrando ar gynghorion Mr. Davies, a'i ddifrifoldeb yntau wrth eu rhoddi, yn olygfa ddorus iawn gobeithio nad â yr cynghorion yn annghof. Canodd y cor amryw ddarnau. Ymadawyd wedi cael cyfarfod sydd yn sier o adael argraff dda ar feddyliau ieuenctyd y He.—Pererin.
.RHYMNI.
RHYMNI. Bu Alaw Ddu yn traddodi ei ddarlith ar Gerddoriaeth yn Zion nos Fercher, Ionawr 30ain, i gynulleidfa luosog. Tybiwn fod gan yr Alaw intellect box lied dda, ond nid yw yn siaradwr da.; ond dyna, tipyn o bwnc yw boddloni pawb,-Un oedd yno.
"CYNFAEN."
"CYNFAEN." Yr oedd rhywun a alwai ei hun wrth yr enw uchod yn reportio cyfarfod a gynaliwyd yn Glandwr, Abertawe, yn y GWLADGARWR yr wythnos diweddaf, ac yr ydym am roi gair o gynghor iddo. Y Parch. John Hugh Evans, gweinidog gyda'r Wesleyaid Cymreig yn L'erpwl a adnabyddir wrth yr enw "Cynfaen," felly cynghorem y brawd o Glandwr i beidio ei ddefnyddio yn y dyfodol, rhag iddo dynu y fleet fu yn cadeirio John Hugh yn Eisteddfod y Gordofigion am ei ben, a gwae fo os gwna hyny, onide Mr. Gol. ?—Wesleyad.
JOHN HEATH'S EXTRA STRONG…
JOHN HEATH'S EXTRA STRONG STEEL PENS, with oblique, turned up, and rounded points, Golden Coated, bronzed and carbonized. Suit all hands, all styles, all ages, and all kinds of work. Over 200 patterns. Sold by Stationers everywhere, in 6d., Is., and gross boxes. The public aie respectfully requested to BEWARE OF WORTHLESS IMITATIONS, and to see that they really get John Heath's Pens. Should any difficulty arise, an assorted sample box will be sent per post on receipt of 7 or 13 stamps. Address John Heath, 70, George Street, Birmingham. 1775.
YSTRAD, CWM RHONDDA.
YSTRAD, CWM RHONDDA. Cynaliwyd y gyntaf o gyfres o rehearsals a fwriedir gynal yn nosbarth yr Ystrad, er parotoi ar gyfer Cymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg, yn y Pentre, nos Lun wythnos i'r diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. W. Jones, Jerusalem, ac arweiniad Mr. D. T. Prosser (Eos Oynlais). Ar ol dechreu y cyf- arfod gan Mr. Phillip Evans, Ton, canwyd y tonau Gloucester, Pererin (trefniant newydd Alaw Ddu), Caerlleon, Bethesda, Lledrod, a'r anthem, O'r dyfnder y llefais arnat a diweddwyd trwy weddi gan Mr. M. John. Cafwyd cyfarfod llewyrchus iawn ac er.mai cyfarfod dechreuol ydoedd, ac hefyd fod cantorion dau o'r capelau yn y gymydogaetli wedi cael eu rhwystro i fod yn bresenol gan amgylchiadau neillduol, eto, cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf lluosog o'r fath hyn a gafwyd hyd yma yn y dosbarth hwn. Yr oedd yn llawen genym weled cynifer o gant- orion Cwmparc yn bresenol: nid ydym yn cofio gweled cynifer ohonynt hwy, nac ych- waith gynifer o gantorion y Pentre a Jeru- salem, yn bresenol mewn .unrhyw rehearsal o'r blaen. Y mae hyn i'w briodoli, i fesur helaeth, i weithgarwch a ffyddlondeb y brodyr sydd ar y blaen yn y lleoedd hyny, Mri. T. Miles, Pentre J. Williams a D. Treharne, Ton a J. Davies a W. Jones, Cwmparc. Hyderwn y bydd iddynt barhau yn ffyddrawn hyd y diwedd, ac y cawn weled hefyd yn y cyfarfod nesaf ffrwyth ffyddlondeb cyffelyb o Dreorci, Treherbert, a'r Heolfach. Nid ydym yn amheu na chawsid gweled hyny yn y diweddaf, oni buasai ei fod wedi ei drefnu ar adeg mor annghyfieus iddynt ac i wneyd i fyny am hyny, trefnwyd fod rehearsal arall i gael ei chynal eto yn Nhreherbert nos Lun nesaf. Penderfynwyd rhanu y dosbarth yn ddwy ran am y tymor dyfodol, ac fod pob rhan i gynal ei rehearsals ei hun ar gylch yn y gwahanol gapelau, ond fod yr holl ddos- barth i gydgyfarfod pan ddygwydda rehearsals y rhan uchaf gael eu cynal yn Nhreorci, a rehearsals y rhan isaf yn y Pentre. Bydd y rhan uchaf i gynwys Treorci, Cwmparc, Tre- herbert, a Blaenrhondda; a'r rhan isaf, Pentre, Ton, a'r Heolfach. Dewiswyd Mr. D. J. Davies, Park Colliery Office, yn gyd- ysgrifenydd a. Mr. E. R. Wood yn y rhan isaf, a Mr. T. J. Davies, argraffydd, yn ysgrifenydd y rhan uchaf. Cynelir y rehear- sals nesaf yn Jerusalem, Toij, nos Fawrth, Chwefror y 12fed, ac yn Nhreorci nos Iau, Chwefror yr 21ain.—Cadwgan.
DOSBARTH DEML MYNWY..
DOSBARTH DEML MYNWY.. Cynaliwyd yr uchod dydd Llun, Ionawr 21ain, yn Ebenezer, Sirhowy, o dan lywydd- iaeth y dosbarth ddirprwywr, y Brawd Wm. Bebb. Dechreuwyd am ddau o'r gloch. Pasiwyd amryw benderfyniadau yn nglyn a'r temlau yn y dosbarth. Yr oedd [.adroddiadau y cynrychiolwyr o Rymni, Brynmawr, a Llanelli yn ffafriol iawn ond yr oedd ad- roddiadau cynrychiolwyr Tredegar a Sirhowy dipyn yn anffafriol. Dichon fod hyn i'w briodoli i sefyllfa isel masnach, pobl yn methu cael arian i dalu am eu trwyddeiriau, &c. ond da genym hysbysu fod y Ddosbarth Deml wedi gwneyd trefniadau i gyfarfod ly amgylchiadau o'r fath. Cafwyd adroddiad lied dda gan y Brawd Richards, Daranfelen, Dosbarth A. T. Plant. Penderfynwyd llon- gyfarch y Parch J. Morris, Llangollen, ar ei ddyfodiad i'n plith, sef i gymeryd gofal eglwys Libanus, Penycae. Ar ol cael rhyw bedair awr i ymdrin a phethau perthynol i'r dosbarth (ac nad ydynt o bwys, feallai, i'r cyhoedd), a chael cwpanaid o de blasus efo'n gilydd, cawsom gyfarfod o adrodd, areithio, a chanu, yn yr un capel, dan lywyddiaeth y Brawd George Jones, Sirhowy. Trefnwyd y gweithrediadau fel y canlyn :—Anerchiad gan y llywydd can, Ar hyd y nos," gan Owen Jones; adroddiad, "Yr annuwiol yn marw," gan Evan Owen, Rhymni deuawd, "Lar- board Watch," gan J. L. Thomas a J. Mor- gan, dau frawd o Rymni; araeth gan y Brawd Richards, o'r Daranfelen; can, There's nothing like a refreshing breeze," gan John Lewis, Rhymni; adroddodd Teml Plant Sirhowy benod b Holiedydd y Parch. J. Rogers, Penbre, yn rhagorol adroddiad, Pren y Bywyd," gan Jacob Williams, Tre- degar deuawd, "Y ddau Fforwr," gan Thomas a Morgan eto anerchiad rhagorol gan loan Gwent, Rhymni; can, Yn iach i ti, Gymru," gan John Jones, Rhymni; darlleniad gan Daniel J ones; deuawd, "Albion, on thy fertile plains," gan James a William Jones, Sirhowy; adroddiad, Beth sy'n drwm i edrych arno," gan Mary Jones, Rhymni; can, Y Bardd a'i delyn," gan John Thomas, Rhymni dadl, "Mair a Elen (o'r Winllan), gan M. Thomas a E. Morgan, Rhymni; araeth ar Demlyddiaeth gan y Brawd Price, Sirhowy; adroddiad, Y dafarnwraig a'r meddwyn," gan G. D. Griffiths, Rhymni dadl, Y mor a'r myn- ydd," gan Jacob Williams a John Evans. Ar hyn gorfu i ni ymadael, ond fe wel y dar- llenydd ein bod wedi cael cyfarfod rhagorol, a dymunwn glywed fod lies dirfawr yn deill- iaw ar ol y cyfarfod hwn. Bydd y Dosbarth Deml nesaf yn Rhymni, yn mis Mai.- Gohebydd.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. CO-OPERATIVE STORE Y LLWYNOG.—Dyma daflen o gyfrifon y chwarter diweddaf yn barod. Talwyd y sylw manylaf i holl gyfrif- on a gweithrediadau y gymdeithas y tro hwn, ac y mae yn dda genym hysbysu i ni gael y pob cywirdeb yn yr oil o'r swyddogion yn eu hymdrafodaeth fasnachol. Da genym hefyd fod sefyllfa y gymdeithas yr hyn ydyw, yn gymaint a bod ein gelynion wedi taenu cy- maint o ystoriau celwyddog ar hyd a lied y gymydogaeth o berthynas i sefyllfa y gym- deithas, sef ein bod yn methu cael nwyddau, yn methu talu am danynt, ac heb un "os," yn myned i dori. Wedi edrych dros y daflen ganlynol, credwn y dywedwch fel ninau Celwydd, 0 gelwydd, celwydd yw y cwbl" ddywedwyd ganddynt. Y mae y gym- deithas mewn sefyllfa ardderchog :—Y mae y dividend yn ddau swllt y bunt ar ol talu pob treuliau, a rhoddi gwerth 18p. 15s. Oc. o currants ai-aisiiti am ddim yn amser y gwyl- iau, ac y mae yn weddill lOp. 13s. 7c. i'w gosod yn y Reserved Fund. Y mae ein dyled i'r merchants y tro hwn yn 202p. Ds. 5c. yn llai nag ydoedd y tro o'r blaen, ac y mae dyled y cwsmeriaid yn llai o 50p. 19s. 5tc. nag ydoedd y chwarter o'r blaen. Swm y gwerthiadau am y chwarter diweddaf ydpedd 290Gp. 19s. 5c., a'r elw ar ol talu pob treul- ian yn 240p. Ie. Telir i'r aelodau ddau swllt yn y bunt, a'r gweddill, lOp. 13s. Tc., i'w gosod at y Reserved Fund. Chwi wel- wch, er cynddrwg yw sefyllfa masnach, ein bod ni yn parhau i werthu eymaint ag erioed. Anwyl gydweithwyr, byddweh a'ch llygaid yn agored, a dywedwch fel Dai o'r Betting, mai melus yw chwech yn y boced, ond mai melusach yw dau swllt yn y bunt. Peidiwch cymeryd eich dallu gan Lwynog Llygad-y- ffynon, a Chyw Bach Craig-y-fforest. Er gwrthwynebiad mawr a Hid, Rhag ei blaen yr aiff o hyd. -Ela,it Gan.
PONTNEWYNYDD.
PONTNEWYNYDD. Crefaf yr anrhydedd i Bontnewynydd gael argraffu ei enw ar dudalenau y GWLADGARWE. Yr wyf yn ddarIlenwr cyson ohono er's blyn- yddau, eithr nid wyf yn cofio i mi erioed ddarllen y penawduchod ar ei wyneb. Cymylau dudew sydd yn hongian uwchben y lie hwn, ac Abersychan, a'r cylchoedd. Ugeiniau o deuluoedd fuont unwaith yn byw yn nghanol lluniaetli a llawenydd yn awr yn dyoddef eisieu bara, heb son am enllyn a dillad. Mae tua 600p. wedi eu casglu yn Abersychan, a swm go fawr yn Mhontypool. Mae ceginau soup wedi eu hagor yn y ddau le ac y mae llawer wedi gallu teimlo diolch- garweh diragrith yn y dyddiau diweddaf yma am bryd o fwyd cynes a danteithiol, pan oedd cypbyrddau eu hunain yn wag hollol. Mae rhai o'r swyddogion wedi gwneyd amcan- gyfrif fod o leiaf chivartei miliivn o bunau (I jhajddyn yn llai o huriau yn cael eu talu i weithwyr y cymydogaethau hyn er pan mae melinau haiarn Abersychan a Phontnewyn- ydd yn sefyll. Dywedai Mr. Bircham, y Local Government Boaid Inspector, nad oedd efe wedi gweled cymaint o ddyoddefaint ag yn Abersychan, hyd y cod yn Merthyr ae Aberdar. Gwyddom am deuluoedd o saith, wyth, a naw o blant a chystudd a newyn yn llygadrythu yn eu gwynebau. Teulu arall o bedwar yn gorfod byw ar d -Iwy erfinen dros y Sul. Nid yw hyn ond engreifftiau gwein- ion o luaws cyffelyb, os nad gwaeth. Bydded i ragluniaeth y DllW doeth a da ddadlaetli calonau canoedd o bevchettoglon cyfoeth i daflu eu haur a'u harian i drysorfeydd tlodion Deheudir Cymru, o'r rhai, nid y lleiaf angenrheidiol yw eiddo Pontypool ac Abersychan. Mae Byrddau LIeol Abersychan a Phonty- pool wedi cytuno i adeiladu prif.ffordd newydd rhwng Pontnewynydd a'r lie olaf eithr drwg genym ddeall y rhoddir y gorch- wyl yn un crynswth i Henry Lovatt, Ysw., v contractor adnabyddus o Birmingham. Gall- em ni feddwl mai i weithwyr tlodion y cyIth- oedd sydd yn methu enill eu bara oherwydd prinder gwaith y dylasid rhoddi y gorchwyl. Y rheswm a ddygir dros ei roddi i Mr. Lovatt, y gellir wneyd yn rhatach felly ond pa wahaniaeth talu ychydig yn rhagor i'ch cymydogion angenus am wneyd heol, na thalu llai i estron, a gwario arian lawer ar elusenau. Mae y Parch. John Evans(M.C.), Bethany, Pontnewynydd, newydd symud i cymeryd gofal eglwys Gymreig Tanycastell, Crug- hywel, hen eglwys y Parch. Thomas Rees, Pontmorlais, Merthyr, yn bresenol. Mae i Mr. Evans a'i briod air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.-Gohebydd.
STOCTON-ON-TEES.
STOCTON-ON-TEES. Nos Fercher, Ionawr 23ain, cynaliodd cantorion perthynol i'r Methodistiaid Calfin- aidd Cymreig y lie uchod yr hyn a eilw plant Hengist "Coffee Supper," yn nhy Mr. Mor- gan Jenkins, groccr.. Nid rhy hoff ydwyf 0 ganmol cyfarfodydd a phersonau, gan y cred- wyf fod hyn braidd yn bla ar gymdeithas yn y dyddiau presenol; eto, rhwyma dyled- swydd ni i onestrwydd a gwirionedd. Yr oedd y trefniadau yn hynod orphenol, a chyflead trugareddau y wledd yn wir dden- iadol. C, Ni gawsom de tra blasus, Llawn llaeth a siwgr gwyn; Ni gawsom gofii, hefyd, A theisen gyda hyn. 'Roedd yno fara 'menyn, Coes mochyn ar y bwrdd A'r ystlen deg yn gwenu Wrth weini yn ddidwrdd. Wedi gwneuthur cyfiawnder a'r trugareddau uchod, cawsom gyfarfod adloniadol, syrnl, a naturiol, dan lywyddiaeth Mr. John Griffiths yr hwn a gyflawnodd ei ran yn ddeheuio-. Canwyd amryw ddarnau tlysion gan y côr, dan arweiniad Mr. T. R. Evans; a dat^an- wyd, darllenwyd, ac adroddwyd amryw ddarnau pwrpasol gan y personau canlynol -— Mr. T. R. Evans, Mr. W. Havard, Mr. a Mrs. Daniel, Mr. Evan Thomas, a Mr. N. Thomas. Ni gawsom ein boddloni, 'Rwy'n credu, bob yr un- Os dywed neb yn amgen, 'Rwy'n dweyd nad ywyn ddyn. Wrth derfynu, yr wyf yncyflwyno diolchgar- wch gwresocaf y cor, a'r eiddo fy hun, i Mrs. Jenkins a'r teulu caredig, yn nghyd a'r gwragedd fu yn eu chynorthwyo er hyrwyddo hapusrwydd y cantorion'; ac o'm calon yn dymuno gwledd o'r un natur eto.—Llvuni Hogyn.