Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Etholiad Bwrdd jYsgol Llangiwc.
Etholiad Bwrdd jYsgol Llangiwc. AT Y TRETHDALWYR. FONEDDIGION,-Mae yn wybyddus i'r rhan J' fwyaf ohonoch fod y ReturniNg Officer wedi gosod hysbysletii allan i'r dyben o'n rhybuddio mewn perthynas i'r etholiad uchod unwaith yn ychwaneg, yr hyn a gymer le ddydd GWENER, y 15fed cyfisol; ac os bydd yr ymgeiswyr uwohlaw saith mewn rhif, bydd yn anmhosibl osgoi ethol- iad. Dymunwyf ei wneyd yn liysby.- i'r treth- dalwyr, yn gyffredirjol, fy mVi wedi derbyn lluaws o argymhellion taer oddiwrth drethdalwyr y plwyf o'r gwahanol ardaloedd i ymgeisio am aelodaeth o'r Bwrdd y tro hwn eto, er i mi fethu yn yr etholiad diweddaf. o fewn ychydig, i fod yn gadw- edtg. Ac ei cyflwyno y warogaetli ddyladwy i'r syniadau a gynwysa'r arg> mhellion uchod am danaf, a pharelm'r anogaetliau g^vresog a chalon- ogol a dderbyniais yr wythnos ddiweddaf o wahan- 01 gyfeiriadau, daethum i'r penderfyniad o gyd., synio a, dymuniadau fy argymhellwyr i sefyll fel ymgeisydd am sedd ar Fwrdd Ysgol Llangiwc unwaith eto. Dymunwyf llysbysu yn liyglyw a difioesgni, wrth bob trethdalwr ystyriol, y byddaf yn YIll- geisio am yr aelodaeth fel YMGEISYDD ANNIBYNOL ac os ethoiir fi, ni cliaiff na ac .tyddiaeth, na chlic- yddiavth, na'r un 'ac!¡ waradwyddus arall, byth lywodraethu fy ngweithredoedd. Mewn perthynas i addysg elfenol y plwyf, ni chaiff dim ond eywydd- orion Rhyddfrydiy, le, a rhywbeth cstrortol, hefyd, cynildcj) ar.Iot/ell y plwyf, reoleiddio fy hollsyfnud- iadau aT y Bwrdd. Ac os bydd i fy ngweithred- oedd lofruddM fy mhroffes, byddaf gyda'r pleser mwyaf yn barod. i loddi fy rhesymau drostynt, a fy ngalw i gyfrif am danynt, heb ddifrio, cablu, L, Y gwawdio, na sarnu teimladau neb o'r trethdalwyr. Deuaf heibio i'r gwahanol ardaloedd yn bersonol o hyn i ddydd yr etholiad, gan hyderu y caf eich sirioldeb a'cli cefnogaeth imfrydol, Ydwyf, eich ufudd Was, JOHN BEYNON. Old London Housf, Ystalyfe:a. 1831
H WLLuD Y GOLYGYDD.
H WLLuD Y GOLYGYDD. BnN o'n CwJi.-Nid oes gall y mater ddim i'w wneyd a'r cyhoedd. D E R B Y N i \v YD. — Gv/ilym Llwyd, Beirniadaeth Delieufardd, Boglyn Aur o'r IJety, Afonydd, Htockfab, Tinman, M. G. Elyrch, Cap Haiarn, Ammanwr, Carwr Addysg, Cynfaeu, Ifor ap Ifor, Hanesydd. Ytf ErN NESAF—Yr Arsyllfa, John Jones, Ieuan Ddu, Selffawr, Crwydryn o'r Côr, Tinman Arall.
Advertising
EIN TELERAU. Danfonwu y GWLADGAKWR gyda'r post ar y telerau canlynol:— s. c. Un GWLADGARWK, y clncarter 1 8 Ðcm « 2 f). Taliadau i'w gwneyd bob aimer yn mlaenllaw. Danfoner stamps at-WALTER LLOYD, Gwlad- garwr" Office, Aberdare.
RHAGAMODAU YR HEDDWCH.
RHAGAMODAU YR HEDD- WCH. Y MAE Y ddacll fawr ar y war vote yn parhau yn y Tv, ac y mae yn ansicr pa bryd y terfvna: gWYll fyd nad allem ddweyd hefyd ei fod yn ansier pa fodil y terfyna. Y mae gan y Prifweinidog- fwyafrif mawr yn y Ty, a mwyafrif ag y mae efe, hyd yn hyn, wedi ei weithio lei, peirianydd yn gweithio peirianfc. Ond bydd yn beth SYll os na wna llawer o'r mwyafrif hyn nowid eu hochr yn y ddadl enbyd hon: bydd yn beth syn rhyfeddol, pan ystyrioill fod prif ddynion y deyrnas yn hollol yn erbyn rhyfel, I fod y bobl yn sier bron i gyd yn ei erbyn. Y inae y. wlad bron mor isel yn ei ham- g-ylcliiadau ag y dichon iddi fod yn barod, y mae miloedd ar filoedd allan o waith, a gwragedd a pklant wrth y mil- oedd mewn eisieu bara, ac yn nychu ymaith i'r bedd: os cawn ni ryfel at hyn oil. ac am ben hyn oil, fe fydd miloedd rhagor allan o waith, a bydd bron cynddrwg ar y rhai fydd yn aros gartref ag y b) dd ar y rhai fydd ar faes y gvvaed. Os caiff y Llywodraeth y chwe mil- iwtl punan y maent yn gofyn am danynt, fe fydd yn rhaid troi at y wlad am yr arian, oblegyd o boeedi y genedl y mae'r cvrbl yn dyfod. Bydd hyn yn sicr o ye'hwanegu pedair ceiniog yn y bunt at yr income tax, Ell) amser braf yw hi i ychwanegu y tretlioodd pan y mae haner tai y deyrnas yn wag, a'r haner arall ar haner y rhentoedd Ac ni iydd hyn ond dechreuad trallodau; os awn ni i ryfel, fe gyrhaedda y dreth inewiii ond odtd y ffigwr cysuvus a gyrhaeddodd yn amser rhyfel y Crimea, s-of un geimog ar bymtheg yn y bunt! Ac os awn ni i ryfel, fe aiff y teyrnasoedd ereill i ryfel gyda ni-rhai ffordd hyn, a rhai ffordd arall,-nes y bydd y byd fel un fynwent fawr, a phawb yn cael eu clrygu, heb neb yn derbyn lleshad Ac i ba beth y gwneir hyn? I amcanu g'wneyd yr hjn fydd anmhosibl, sef tori y cysylltiad rhwng achos ac effaith, rhwng pren yn crino a .phren i farw, rhwng dadfeiliad Ymerodraeth a'i thrancedigaetli anochel- adwy. Y mae y ffaith noeth fod Twrci. wedi gorfod llawnodi amodau heddwch o'r fath bwys a'r fath eangder, pa ddydd yma yn Adrianople, yn pron ei bod hi ar ben, ac yn trengu gyda phob cyflymdra. Y mae y rhagamodau hyn yn chwech mewn nifer, ac fel y canlyn :— 1. Sefydliad Tywysogaeth yn Bulgaria. 2. Twrci i dalu iawn dros y rhyfel mewn arian non diriogaethau. 3. Annibyniaeth Roumania, Servia, a Montenegro, yn ngydag ychwanegiad at eu tiriogaethau. 4. Dyvygiadau yn Bosnia a Herzegovina. 5. Dealltwriaeth ddyfodol rhwng y Sultan a'r Czar yn nghylch cwestiwn y Straits. G. Y Tyrciaid i roi i fyny amddiffynfeydd penodol. Dyma ddiwedd rhinweddol—diwedd gweithredol bron—-ar "Twrei yn Ewrop." Nid oes oud un cae o'r ffarm fawr yn aros iddi, sef Roumelia, ac y mae hono mor sicr o fyned a bod yr unrhyw achos yn arwain i'r unrhyw gaulyniad. Fe fydd i bob dyngarwr lawenychu yn yr amodau hyn, os nad oes rhyw ddrwg o'r golwg yn aros i'w ddatguddio. Ond pa t, 9 effaith a gant ar ein Llywodraeth ni ? Y mae yn anmhosibl dyfalu. Feallai y cawn oleu ar y mater pwysig ddiwedd yr wythnos hon. Yn y cyfamser y mae yn gysur ineddwl fo d tywallt gwaed a difrodi eiddo a meddianau wedi ei atal yn mhob cwr o faes eangfaith y rhyfel. 'Does bosibl fod Lloegr Gristionogol, zn etholedig Wlad y Beibi —'does bosibl ei bod hi yn myned i ailagor y Gehenna sy'n awr yn cau i fyny, a hyny oil ei mwyn rhyw bethau tywyll a elwir yn British interests—pethau nas gall dau Geidwadwr yn y Deyrnas gydolygu beth yw en hystyr.
BRWYDR FAWR ' BERAFON.
BRWYDR FAWR BERAFON. Yn ein rhifyn prescaol gwelir hanes cyfarfod o weithwyr gynaliwyd yn Aberafon, nos Lun, Ion. 28ain, i gondemnio yr ymgais wneir gan ryw ychydig o ddynion pwysig y fwrdois- dref i rwystro MR. REE8 THOMAS, Pantdu, i gymeryd ci le yny Cynghor trefol, i'r hwn y danfonwyd cf gan bleidleisian unol y gweithwyr. "Money makes the man" yw yr egwyddor y mae rhyw ddosbarth o ddynion erioed wedi goleddu. Ni fynant gredu y gall dyn sydd yn enill ei fara drwy chwys ei wyneb fod yn berson addas i lanw swydd gyhoeddus a phan y byddo mwyafrif mawr o'r etholwyr yn barnu y ffordd arall, gwelir hwynt y ceisio symud nefoedd a daear i luddias yr experiment. Nis gall MR. REPS THOMAS lai nag edrych ar yr ymgais bresenol i'w droi allan fel compliment union- gyrchol iddo ef ei hun oblegyd rhaid eu bod yn ei ystyried yn wr dylanwadol iawn, ac yn debyg o symud ymaith ryw lygredigaethau sydd yn anwyl gan ei wrthwynebwyr, neu ynte ni fuasent byth yn teimlo mor anfoddlon iddo fyned i'r Cynghor Trefol. Mae yn dda genym weled fod gweithwyr Aberafon yn penderfynu amddiffyn eu hetholedig ddyn. Os llwydda gwrthwyneb- wyr MR. THOMAS i'w rwystro i gymeryd ei le- yr hyn sydd yn bur amheus-ni wna hyny ond enyn sel mwy yn ei edmygwyr yr hyn fydd yn foddion i chwyddo ei fwyafrif pryd bynag y daw allan rhag llaw i geisio nawdd a phleidleis- iau gweithwyr Aberafon.
Y Oaledi yn y Deheudir.
Y Oaledi yn y Deheudir. Derbyniasom yr adroddiad canlynol oddi- wrth Mr. Rees, swyddog y Mountain Ash Relief Fund :— Fel y mae yn wybyddus i ganoedd o'ch darllenwyr fod Mountain Ash, fel lleoedd ereill yn Neheudir Cymru yn bresenol, yn dyoddef yn drwm oddiwrth y tlodi sydd yn gordoi ein gwJad, a'n bwriad yn bresenol ydyw rhoddi crynodeb, mor gyflawn ag y gallwn, 9 sefyllfa pethau fel y maent ya y lie uchod. Ionawr 25ain, y swm a dderbyniwyd mewn arian i fyny hyd y dyddiad hwn oedd 2,685p., o'r hyn yr oedd 1,42Gp. wedi eu rhoddi ar gyfer tlodi Mountain Ash yn unig, yr hwn le sydd tua 9,000 o boblogaeth, a rhoddwyd 1,252p. i ofal yr Anrhydedd-us Ar- glwydd ac Arglwyddes Aberdar i'w dosbarthu yn y lleoedd cylchynol. O'r swm uchod y mae ei argiwyddiaeth wedi trosglwyddo i'r lleoedd canlynol 713p. 16a. fel y canlyn :— Aberdar, 143p. 16s.; Treherbert, 75p.; Cwm Rhondda, 175p. Pontypridd, 50p.; Brynmawr a Nantyglo, 120p.; Abersychan, 85p. Central Committee Sir Fynwy, 90p. Merthyr, 25p. Diau y bydd llawer yn barod i ofyn paham y mae Merthyr yn cael ei gadael ar 25p. yn unig, ac atebiad Arglwydd Aberd&r ydyw ei wybodaeth o'r cyfraniadau haelionus sydd wedi eu hanfon i'r lie uchod, ac wedi iddo ef a Rector Merthyr gydymgynghori a'u gilydd iddynt ddyfod i'r penderfyniad o ddan- fon symiau niawrion i'r lleoedd hyny nad oeddent wedi derbyn ond ychydig gyfraniad- au. Yn y fan hon, y mae yn dda genym hysbysu am y cydymdeimlad a ddangoswyd gan Chwarelwyr dyngarol a thosturiol Pen- rhyn tuag at ddyoddefwyr Mountain Ash, pa rai sydd wedi tanysgrifio 175p, ac yn foddlon cyfranu ychwaneg. Er's rhai wythnosau bellach y mae soup kitchen mewn llawn waith yma, o ba un y mae 1,400 yn cyfranogi dair gwaith yr wythnos, neu mewn geiriau ereill 700 bob dydd, pa rai sydd yn cael peint o soup a chwarter pwys o fara bob dydd, a dyddiau Gwener a Sadwrn haner pwys o fara. Y mae llawer iawn o gleifion yn derbyn private soup a nourishments o'r Dyffryn, preswylfa Arglwydd Aberdar, a theimla y boneddig- esau ddyddordeb neillduol mewn ymweled a phawb cleifion. Mae dros 80 o blant ysgol ddyddiol Mountain Ash yn cael soup yn ddyddiol, pa rai sydd yn dyfod o Gap Coch, Cwmpennar, Miskin, a Newtown. Gan fod yr angen am soiip yn cynyddu, yr ydys wedi gosod boiler arall i fyny yn Mountain Ash, fel y gellir darbod ar gyfer tua 1,200 y dydd o hyn allan y mae un hefyd yn Nghap Coch, lie y mae tua 150 yn derbyn soup a bara bob yn ail ddydd. Y mae tua 100 o fenywod yn cael gwaith bob wythnos i wnio y dillad sydd yn cael eu rhanu rhwng y tlodion. Y mae gwerth dros 500p. o ddillad wedi eu dos barthu yn ystod y chwech wythnos ddiweddaf, yr hyn sydd yn dangos yn eglur fod y tlodi yn wir fawr. Er mwyn i'r darllenydd farnu drosto ei hun, gosodwn yn y fan hon ychydig engreifftiau, allan o ganoedd, o enillion glo- wyr ain y mis diweddaf :-T. W., saith o deulu, 2s. 8e. yr wythnos ar ol talu am dy a than W. H., wyth o deulu, 10s. 11C. yr wythnos ar ol talu am dy a than J. C., chwech o deulu, 3s. 8c. yr wythnos ar ol talu am dy a than; J. J., pump o deulu, 4s. 3c. yr wythnos ar ol talu am dý a than T. D., pedwar o deulu, 3s. 9c. yr wythnos ar ol talu am dy a than W. F., pump o deulu, 5s. 2ic. yr wythnos ar ol talu am dy a than. Y mae y dynion hynyn gweithio bob diwrnod ag y byddo gwaith i\v gael. Y mae nifer luosog iawn o weithwyr hefyd allan o waith, ac yn methu cael dim er chwilio yn ddyfal, pa rai sydd yn ymddibynu yn gyfaugwbl ar y soup. Y rheol sydd wedi ei gwneyd er cynorthwyo y dyoddefwyr ydyw fod pob un i ddyfod a thocyn o swyddfa y gwaith lie y bydd yn gweithio, er dangos pa faint fydd wedi enill yn ystod y mis, ac os dengys y toeyn hwnw fod dros Is. 6c. y pen wedi ei enill ar gyfer y teulu ar ol talu am dy a than, nid ydynt i gael rhan o'r smtp, ond gallant gael dillad, os na fyddant yn enill dros 23. y pen yr wythnos. Yr wythnos ddiweddaf, symudodd ugain o deuluoedd i Bagillt, swydd Fflint, lie yr oedd gwaith yn eu haros yn Nglofa Bettisfield, traul pa rai a dalwyd gan Y. Arglwyddes Aberdar, yn nghydag arian i gael ymborth am bythefnos ar ol iddynt gyr- haedd eu cartref newydd, ar y telerau eu bod i dalu yn ol i Arglwyddes Aberdar haner y railway fare a phris eu hymborthynllawn, yn ol haner coron yr wythnoa cawsant bob peth oedd yn angenrheidiol arnynt mewn dillad, er eu gwneyd yn gysurus, yn rhad cyn cychwyn. Wel, dyna grynodeb, mor fyr ag y gallwn ei roddi, o wir ansawdd pethau fel ag y maent. Torcalonus iawn ydyw gweled llawer teulu, wedi bod unwaith mewn sefyllfa gysurus, ond yn awr wedi gwerthu Ilawer o'u meddianau er ceisio cuddio eu tlodi, yn gorfod troi i ofyn am elusen. Y mae yn anmhosibl i iaith ddesgrifio y teimlad a grair wrth ymweled a llawer o dai —rhai heb un math o ddodrefn, ereill heb ddillad priodol i osod am danynt, ac ereill heb un math o wely i osod eu pwys i lawr. Y mae llawer plentyn bychan wedi gorfod, fel y mac gwaethaf y modd, dysgu dweyd soup," pan yn analluog bron i ddweyd dim arall. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r Anrhydeddus Arglwydd Aberdar a'i briod am eu gweithgarwch a'u diwydrwydd gyda'r achos teilwng hwn iddynt hwy, yn banaf, y mae diolch, am mai hwy gychwynodd. y gwaith, ac am eu bod yn cario y gwaith allan i foddlonrwydd pawb yn gyffredinol. r
LLYTSYR LLUNDAIN.
LLYTSYR LLUNDAIN. Y mae yma. deimlad pur gynhyrfus yn y Brifddinas mewn perthynas i'r Pwnc Dwyrein- iol, ac yn neillduol mown perthynas i'r ddadl fawr a phwysis sydd yn awr yn myned yn mlaen ya Nhy y Gyffrediu. Can balled ag y gallwn farnu wrth yr hyn a welwn ac a glywn, y mae teimlad pobl y Brifddinas gan fwyaf nid yn unig yn mhlith y Ceidwadvryr, eithr hefyd yn mhlith lluaws o Ryddfrydwyr, yn gryf yn erbyn ymddygiad Rv/sia, ac o blaid 'policy y Weinyddiaeth ar yr adeg enbydus bresenol. Y mae y dwymyn ryfelgar a dorodd allan ychydig ddyddiau yn ol yn Sheffield, Wolverhampton, a manau ereill, wedi tori allan hefyd yn gynddeir- iog yn Llundain. Yn y chwareuchi ac yn y Music Halls y mae yr awgrymiad lle:af mewn perthynas i'r Pwnc Dwyreiniol, neu ddatgauirtd can wladgarol, yn enyn ar unwaith y teimladau nnvyaf brwdfrydig o blaid y Wemyddlaeth. Wrth wrando hefyd ar y bobl yn siarad yn y tren, yn y 'bus, ac yn y gwestdai, y mac yn hawdd canfod fod ton y mwyafrif yn yr un cywair. Y mae prif fasnachwyr y Ddinas wedi mynegu eu syniadau mewn modd eglur, ac y mae y bobl ar y Gyfnewidfa, ac ) n Lloyd's wedi dilyn eu hesiampl. Y gwir am dani yw hyn, y mae ymddygiad aneabonfadwy Rwsia yn ystod yr wythnosau diweddaf wedi creu drwg- dybiaeth cryf a dwfa yn meddyliau y bobl. Y mae y Twrc er ys ohwecli wythnos neu ragor wedi cyfaddef ei hun wedi ei guro, ac y mae wedi ymbilio yn daer am heddwch, ac osydym i gredu yr hyn a ddywedir, y mae y Twrc yn foddlawn derbyn unrhyw (ielerau er mwyn ter- fynu y rhyfeL Y mae Rwsia hefyd wedi dat- gan ei bod yn foddlawn i heddwch gymeryd lie, ond, hyd yn hyn, y mae wedi parhau i gigyddio y Tyreiaid, ac i fyned yn y blaen tua (Jhaercystenyn. Beia rhai Twrci am nad yw y rhyfel wedi darfod, ond creda ereill, ac ni fynant gredu yn wahanol, ac y maent yn lle<l debyg o fod yn y mwyafrif, mai ar Rwsia y mae y bai, a bod ganddi amcaa hananol ac uchelgeLsiol mewn golwg wrth barhan y rhyfeL Pa nn o'r ddwy blaid sydd yn iawn nis gwyddom, ac ni cliymer- wn arnorn i farnu. Hwyraoh y ceir esboniad ar hyn heb fod yn hir. Y mae dosbarth arall o bobI, ao y mae yn Iluosog, yn edrych ar y mater o gyfeiriad arall. Gwnaeth Rwsia ymosodiad ar Twrci, ac er nad oedd Twrci mewn cydmar- iaeth i Rwsia ond megys crwt yn ymrafaelio a gwr mewn oed, eto daliodd ei thir yn wroy dangosodd ddewrder a pluck, a enillod edmyg- edd yr holl fyd, a gorchfygodd ei gelyn mawr mewn amryw frwydrau. Daeth Roumania, ac wedi hyny Servia, ac yn awr eto y mae Groeg wedi dyfod allan o blaid Rwsia ac yn erbyn y Twrc. Y mae y Twrc er ys tro, nid o ddiffyg dewrder, ond o ddiffyg gallu i ymladd a chynifer o genedloedd, wedi cyfaddef ei Lun wedi ei orchfygu ond er ei fod ar lawr yn deg ac yn deisyf am heddwch, y maent yn parhau o hyd i'w guro yn ddidrugaredd ar y llawr. Y mae y cyfryw ymddygiad yn hollol groes i hoffder di- arebol y Prydeinwr am chwareu teg; ac felly nid yw yn ayndod fod teimlad y bobl yn troi yn erbyn Rwsia a'i chyngreiriaid. Y mae son yn awr fod telerau heddwch wedi en harwydd-nodi. Nyni a obeithiwn y try y newydd allan y waith hon yn wirionedd, ac y daw y Galluoedd Mawr- ion i gytundeb boddhaol ary Pwnc Dwyreiniol heb achos tywallt rhagor o waed o'i blegyd. Bernir yn gyffredin yma y bydd i'r Weinydd- iaeth gael mwyafrif mawr yn yr ymraniad ar y ddadl, ac y bydd lluaws o Ryddfrydwyr yn lllhlith y mwyafrif. Wei, cawn weled pan ddygir y ddadl i ben tua boreu y dydd Mercher hwn. Y mae y Myddelton Hall, Upper-street, Is- lington, yn dyfod yn enwog am gyngherddau Cymreig o ddosbarth uchel. Nos Fawrth di- weddaf, Ionawr y 29ain, cymerodd budd- gyngherdd y cerddor addawol, a'r cyfaill hynaws a diymhongar, Mr. J. L. Williams, R. A.M., le yno. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan yr enwogion cerddorol a ganlyn :—Madame Edith Wynne, Miss Marian Williams, Mdlle. Rossa, Mri. Lewis Thomas, Eos Morlais, Jas. Sauvage, R.A.M.; D. Jenkins, M. B.; J. L. William3, R. A. M.; Pencerdd Gwalia, Ilerr Polonaski, Mri. Puddicombe a R. S. Hughes, R.A.M. Yr oedd enw Mr. Brinley Richards ar y programme, end methodd a bod yn bresenol 'oherwydd an hwyldeb. Yr oedd y neuadd yn or] awn yr artiste*, un a,, oil, yn eu hwyliau goreu ac y mae yn hyfrydwch mawr genym i allu ych- wanegu i'r cyngherdd, yn inhob ystyr, drt i allan yn dra llwyddianus. Aethpwyd trwy y programme o'r dechreu i'r diwedd yn rliagorol, ac heb gyirtaint a hitch o fath yn y hyd. Mewn gwirionedd, ni chlywfom yr artistes yn datganu ac yn chwareu yn well eriocd; pur deilyngai "hob un ohonynt y cymeradwyaethau tra brwd- frydig a gawsant, ac nid oe:3 amheuacth yn y byd na roddodd y cyngherdd y boddlotmvydd Ilwyraf i bawb oedd yn bresenol. Tra yn ciniawa mewn restaurant yn Islington dranoeth, goglywsom ddau Sais yn siarad yn uchel iawn am y cyngherdd, a gogleisiwyd ni yn fawr wrth glywed un ohonynt yn talu y compliment, can- lynol i'n cyfaill, Eos Morlais :—" That jolly- looking. short, and square-built cove, with the unpronounceable name, is the finest singer I have heard for a very long time." Cafodd yr Eos dderbyniad gwresog iawn gan y Lltindein- wyr. Yr oedd yn dda genym glywed fod cynyrch y cyngherdd wedi cyrhaedd y swm anrhydeddus o 33p. wedi talu yr holl drenliau. Y mae hynyna yn swm go dda ag ystyried ei bod yn amser mor dlawd. Buasem yn falch pe buaaai y cynyrch yn gymaint arall, oblegyd y mae ein cyfaill, J. L., yn dra theilwng o gefnog- aeth. Ydym yn ei longyfarch am lwyddiant ei gyngherdd. Y mae y darllenydd, liwyrach, yn hysbya fod cor, yn dwyn yr enw, "The London Welsh Choir," wedi ei ffurfio er ys tro yn Llundain i'r dyben o gael perfformiad yn St. James's Hall, o hyn i'r liif nesaf, o Arch y Cyfamod—cantata arobryn Eisteddfod Genedlacthol Caernarfon. Y mae y c.ûr yn rhifo ycliydig dros ddau cant. Cynelir rehearsals bob nos Fercher yn nghapel Fetter Lane o dan arweiniad yr awdwr, Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Nos Fercher diweddaf aetliom can belled a Fetter Lane er cael gweled sut yr oedd y cdr yn dyfod yn mlaen. Y mae yn dda genym allu hysbysu ei fod wedi gwneyd cynydd mawr er pan glywsom ef ddiweddaf. Yr oedd aelodau y cor oedd yn bresenol nos Fercher yn rhifo 19.5, a <lywe«lwyd wrthym fod tua'r un nifer yn bresenol bob nos Fercher. Wrth ystyried fod aelodau y cOr yn byw mor wasgaredig y mae hynyna yn gynuiiiad rhagor- 01, ac yn dangos fod y cor wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o ddifrif, a bod yr aelodau yn teimlo dyddordeb mawr yn y mudiad. Yr oedd Eos Morlais yn dygwydil bod yn bresenol yn y rehearsal, ac ar y diwúdd gwnaeth yehydig nsylwadau pwrpasol a synwyrlawn. Dywedai ei fod yn teimlo yn eiddigeddus wrth Gymry LIun- dain am mai hwynthwy oedd i gael y fraint o berffortnio Arch y Cyfamod am y tro cyntaf. Credai mai cor o Gymrll a ddylasai gael hyny. Yr oedd y cantata wedi enill gwobr o ugain gini a medal yn yr eisteddfod fwyaf a gynaliwyd erioed, ac yr oedd y cyfansoddiad wedi cael y ganmoliaeth uwchaf, a hyny gall feirniaid o'r gradd uwchaf yn y byd cerddorol. Pan glyw- odd fod y cantawd i gael ei berffnrmio yn mhlith y Saeson, a hyny san goro Gymry LlundaiD, nis gallasai lai na theimlo yn hynod bryderus, oblegyd mai barn wael iawn oedd ganddo am ganu 110rawl Cymry y Brifddinas. Ond yr oedd efe yn rhwym o gyfaddef fod yr hyn a glywodd y noson hono wedi ei siomi i'r ochr oraf. Yr oedd wedi cael prawf ei bod yn ddichonadwy i gael cor Cymreig da hyd yn nod yn Llundain. Dymunai argraffu ar feddyliau aelodau y cor eu bod wedi ymgymeryd a chyfrifoldeb mawr. Yr oedd cymeriad y cantawd a i hawdwr yn ym- ddibynn arnynt yr oeddynt hefyi wedi ym- gymeryd a chynddrychioli corau Cymru, o'r hyn leiaf, byddai y Saeson yn sicr o edrych ar eu perfformiad o'r cantawd fel esiartipl o ganu corawl Cymreig. Yr oedd Cymru wedi enill cymer ad uchel yn mhlith y Saeson am ei chanu corawl, so yr oedd efe yn barnu fod gan gerdd- orion vr Hen Wlad hawl i ddysgwyl na fuasai oiijcyd dadwyr Llundeinig yn iselhau y cymer- iad bw; yn y meaur lleiaf. Creilai y buaaai y cdr oedd o'i flaen yn alluog i wneyd cyfiawnder a'r oyfa;is<xldiad, ond iddyat ddyfod yn gyaon i'r reJitarsa, ac ymroddi o ddifrif at y gwaith. Wrth ddiweddn aaogai hwynt i bcidio a thori y cdr i fyny ar ol perffortuio y cautawd, ond ei gadw YR nghyd, ac i gyfarfod yn gyson er efryda darn.au clasurol. Heblaw eu llesoli mewn ystyr gerddorol. gullai hyny fod yn fen- dith fawr i'r bobl ienainc 'drwy eu cadw oddi- wrth aaoirif brofedigii«tha y Brifddinas. Der- byniwyd sylwadau yr L.r>3 gyda chymeradwy- aeth mawr. Nyni a hyderwn y ceidw y cdr y sylwadau mewn cof, ac y gweithredir yn unol a hwynt. Y mae yr Irish Sunday Closing Bill" wedi ei ddarllen yr ail waith heb wrthwynebiad o du y Llywodraeth. Methwn yn un wedd a gweled "yr angenrheidrwydd am y ddeddf hon. Y mae y rhai sydd yn pleidio yr ysgrif yn dweyd fod trigolion Iwerddon yn unfrydol o blaid y mudiad; ei fod yn cael ei gefnogi gan yr ynadon, y trethdalwyr, y meddygon, ac hyd yn nod gan y mwyafrif mawr o'r tafarnwyr eu hunain. Os ydytv hyn yn wir, os ydyw pawb o'r trigolion mor awyddus am gau y tafarndaiar y Sabothau, yn enw dyn anwyl, pa eisieu deddf sydd i wneyd, hyny yn orfodol ? Nid oes deddf mewn grym i orfodi pobl -i fyned i'r tafarndai yn erbyn ex hewyllys. Y mae y mater yn ym- ddangos i ni yn wrthun i'r eithaf.
IDarllenwch, Ystyriwch, a…
I Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch yr hyn syddWir. GWILYM E VANS' QUININE BITTEKS. NEU VEGETABLE TONIC. Y Feddyginiaeth oreu a ddychyi.iyqwyd ac a ddyfeisiivyd er cnjfhau y cvfatlsodduid a phuro y gwaed. Y" MAIS y Bitters hyn yn hollol Jysieuol, ac yn cynwys chwerw-Jvsiau a melus- lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Quinine, Sarsapanlla, Saffron, Lavender, Burdock Liver- wort Gentian Root, &c. Mown gair, y mae bron bob Ilysieuyn a gwrciddyn gwerthfawr yn v teddyginiaeth ryfeddol hon, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu or eu perffeithio i foci yn wellhad diLethiaat at y doluriau canlynol: (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos fel UH neu ragor or anhwylderau canlynol—iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, chwysu, teimlad blinedig a chysglyd, y gwaed yn rhuthro 11 y yn ddiaymwth lrgwyneb, ilewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y client, poen rhwng yr ysgwydrlau, diffyg anadl, ph'e./m, y gwaed ya tori, peswob, a thueddiad at y darfodedigaeth (decline). ° (2). Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd, diffj'g archwaeth at fwyd, yr ystumog yi» chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwm, genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disym wth yn yr ochr, y phurisy, yr afu yn afiach, thnvy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen gropes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdoo aL»T ^rediacl y S'vaed> y maent yn hynod eneithiol at y blast neu'r awelon, gAvj^newois, ystyffdra y cymalan, y err, on yn bigog ac anes. inwyth, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethim pwysig yn cael eu derbyn yn barnaus. Cyhoeddir pump yn uriig o'r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywnn yn amheu gwirionedd y can. ynal, dymunir arno ysgrifenu at yr enwau a roddir yma. r, a T, December 14th, 187G. UEAR bin,— I have been suffering severely for a fi.i • 6 WI indigestion and nervous debility and tlieir attendant inconveniences. After trvin« numerous remedies (to no purpose) I tried yotS- Quimne Bitters and the result is I am now a healthy man. Had I tried 'it sooner. I believe I should have escaped many restless lights and many pounds m money. Publish this for the benefit of others.— Address—'THOMAS REES, De- corator and Valuer, Forester's Aims Hotel, Llan- clly, late of Iishguard. Old Globe, New Dock, Llanclhj, May 24th, 1876. ANWYL SVR,—Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi ca.el fy jlwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Litters. Yr oeddwll wedi myned bronyn rlly wan i gerddea, ac-yr oedd y clwyf ar fy mraich yn injned yn waeth bob dydd. irr oedd meddyg- on Llanelli a r ardaloedd am dori fy mraich ymaith eracnub fy mywyd ond trwy gymeryd y Quinine Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bo.) dycld. llhoddaf fy enw yn llawn, fel y galla ov 1.1 gael manylion pellach oddiwrthyf os mynaut. I-r eiddoch, yn bar eh us, ■P. GRIFFITH WILLIAMS. JJylaswn ddvveyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio ond ychydig. o u .7 Ca'<d>?i<in-Htrctt, Llanelli. bYK,—Mewn geiriau byr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael lle,;1d PAPHADS trwy gymeryd eich Quinine Bitters." lihjjfedd yw eu heffaith. Jilmwyd h beunydd gan boen anferthol yn fy mhen, weithiau uwchben y llygaid, w ithiau yn yr o .-hrau. n. piiryd arall yn euro fel morthwyl, fel ag yr "Odd ola arnaf ddiiyn fy ngalwedigaeth ar ben yty. Poen yn ly-_hiprf a.rhwng fy ys^vyddau, a gwendid mawr. Dim awydd na bias at fwvd, ond ar brydiau auanjserol. O'r divredd cymerais eich Quinine Bitters, ac yr ydwyf wedi fy llwyr wellau. Cyfrifir eich "Bitters" yn ddrud, ond gallaf yn awr udweyd yn ddiofn mai dyna y moddion rhataf a r goreu a gefais erioed. Gafi neb yn gydwybodol ddyoddef poen heb dreio hwn. —KOBEKT GUY, Builder. The Grund Hotel, Brighton, July SSth, 1876. DEAR SIR —I feel it is my duty to the public and yourself to inform you that I have derived immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable Ionic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement- of the liver. I am happy f?y 1 „now f?el we!], but take a dose of your Litters occasionally when my appetite fails — Yours faithfully, ROBERT FOSTER. „ „ f It "thin, Awst lofed, 1876. • L • .r wy wedi derbyn lies mawr oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- nesgrihadwy > n fy mhen a'm danedd, yn cael ei achosi (meddai r Doctor) gan fy vstumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fef yr oedd arnaf ofn bwyt-t dim. Yr oedd y gwynt yn fy ngofidio, Was cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu. tel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn Y vwoy trivy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion, ac yr ydwjf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.— X r eiddot u Mr. Gwilym Evans., JANE S. THOMAS. DYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriau sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILI.S. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, os oymenr i ystyriaeth bricder y Quinine a'r Sar. saparilla. (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb uo annghyfleusdra, ac aid oes psryg, anwyd, ond yn hytrach y raae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan neu'r aelod or corff sydd yn wanach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac afiechyd nac arferol, a dylid colio fod bron bob math o BILLS yn gwannau y cyfansoddiad ac yn ailonyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine, nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond "Evans' Quinine Bitters" mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilym Evans, Ph. C., M. R.P. S., wedi ei ysgrifeau, Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffug. iad ydynt. Ar werth yn mhob tref, neu yn direct i bob man o'r wlad oddiwrth y perchenog— MR. GV/ILYM EVANS, Pharmaceutist, Llanelly. D.S.—Os na ellir cael y "Bitters" heb dra. [ fferth, ysgrifener at y Perchenog. 163J,