Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Adolygiad y Wasg.

BWRDD YSGOL LLANGIWC.

News
Cite
Share

BWRDD YSGOL LLANGIWC. LLYTHYR VIII. MR. GOL. Er fod y Parch. John Jones, -Carmel— gwelaf, yn y Darian sydd newydd ddyfod i'm Haw, fod y Parch. John Jones, Carmel, yn cydnabod mai efe yw awdwr yr ys<mf a ymddangosodd yn y Tyst a'r Dydd, yiTdwyn y ffugenw Un o'r Plwyfolion ") wedi profi, yn ei lith esgymunol, nad ydyw yn deall arwyddocad pob gair yn iaith ei fam, «to, y mae ef wedi amlygu ynddo ei fod yn feistr ar y gelfyddyd o gelu gwirionedd, a gorliwio gweithredoedd, er mwyn llychwmo -cymeriad ei gaseuon, a llanw meddwl eu cyd- blwyfolion a rhagfarn yn eu herbyn hwynt. Yn sicr i chwi, syr, yr wyf yn methu dyfalu sut y gallodd gweinidog yr Efengyl feddu ar ddioon o ddichell ac ystryw i ddweyd mai dim ond dau barti oedd yn cynyg am y gwaith o adgyweirio, &c., ysgoldy Gwaun- -caegurwen, er mwyn cael cyfle i wneyd ym- y osodiad ar gynieriad gweinidog arail yn yr un plwyf ag ef, a finau heb ddweyd na gwneyd dim yn ei erbyn erioed, trwy wybod i mi, tra y gwyddai ar yr un pryd fod chwech wedi .anfon cynygiadau i mewn am dano, a safent fel y canlyn Mri. Morgans a Jones, Aber- tawe, 938p. 15s.; D. Rees, Ystalyfera, 897p. Jenkins, Cwmygors, 850p.; Howells a Jones, Ystradgynlais, 787p.; Evans a Griffiths, Pont- -ardawe, 765p. 10s. a Davies, Jenkins, a Williams, Pontardawe, 684p. 10s. l|c. Felly, ohwychwi a welwch, Mr. Gol., mai nid dau oedd yn cynyg, fel y dywed y gwr parchedig o Gwmygors, ond chwech, ac yr oedd y tri cyntaf yn gofyn yn mhell uwchlaw y pedwar- ydd, sef y rhai gafodd y gwaith genym yr oedd y cyntaf yn gofyn 151p. 15s. yn fwy yr ail, HOp. a'r trydydd, 113p. Tebyg genyf eich bod chwi a'ch darllenwyrynbarod i ofyn Paham y darfu i chwi roddi y gwaith i Howells a Jones, tra yr oedd y cynygwyr iselaf yn cynyg ei wneyd i chwi dros gan' punt vn rhatach na hwy, a hwythau, fel y dywed Mr. Jones, Carmel, mor uchel eu cymeriad a'r uchaf, ac mor deilwng o ym- ddiriedaeth a hwythau 1" Yr wyf ar unwaith yn cydnabod hawl y cyhoedd i ofyn y ewes" tiwn uchod, y mae yn eithaf teg, a theilwng .0 atebiad agored a diymgadw. Pe buasai ICr. Jones wedi ymddwyn ataf yn unol a chyfarwyddyd yr Athraw dwyfol i'w ganlyn- wyr, sef "Am hyny, pa bethau bynag oil a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy," &c., trwy ofyn i mi yn frawdol, yn newyddiadur -ei enwad, neu ryw newyddiadur arall, o dan ,ei enw priodol, fy rhesymau dros weithredu fel .y gwnes mewn undeb ac ereill, fel y gweddai .1 i'r naill weinidog wneyd tuag at y Hall, yn lie ymosod arnaf yn llechwraidd, o dan gochl ffugenw, or ceisio duo fy nghymeriad trwy fy narlunio fel dyn diegwyddor, anwireddus, a diymddiried, buaswn wedi rhoddi eglurhad syml a gonest iddo yn yr un ysbryd. Ym- ddengys i mi y dylai wrido am y fath ym- .Y ddygfad, os y gwyr ef beth yw gwrido am droion gwallus. Ond gan nad oedd, fel y dengys ei ysgrif, yn unol ag anianawd ei ysbryd cenfigenllyd, trahaus, ac enllibgftr, i ymddwyn ataf mewn dull caredig a Christ- ionogol, dylasai gadw mewn eof y geiriau ,canlynol o eiddo yr hwn y proffesa fod ganddo ,barch mor ddwfn a diffuant i'w eglwys ef Na fernwch fel na'ch bernir, canys a pha farn y barnoch y'ch bernir, ac a pha farn y mesuroch yr adfesurir i chwithau." Wel, mewn atebiad i'rcwestiwn "Paham," ■&c., yr wyf ar unwaith yn ardystio i'm cyd- blwyfolion nad wyf, trwy wybod i mi, wedi gweled un o'r cynygwyr iselaf, nac ychwaith wedi clywed am eu henwau cyn eu clywed yn cael eu darllen gan ein hysgrifenydd; felly, nis gallai fod genyf un teimlad an- ngharedig at un ohonynt yn bersonol, nac un rhagfarn yn erbyn eu cymeriadau fel ■contractors. O'r tu arall, yr wyf yn meiddio -dweyd mai nid un lies personol oedd genyf mewn golwg wrth uno i roddi y gwaith i Howells a Jones, ac nad ydwyf ychwaith o .dan un rwymedigaeth neu ddyled personol i'r naill na'r llall ohonynt; a chan nad oes un ohonynt yn Fedyddiwr, nis gall neb fy nghyhuddo o ymddwyn yn sectarol yn y mater, ond gweithredais fel y gwnaethum d wyf yn ystyried fy hunvyn gyfrifol am aieb arall), am fy mod yn credu yn gydwy- Ibodol fod y cynygwyr iselaf, oherwydd cam gyfrif o wir werth y gwaith, yn gofyn Hawer rhy fach am ei wneyd, a gwneyd gwaith da arno,- a'i orphen yn anrhydeddus, heb fod yn golledwyr iddynt eu hunain, neu eu meich- nion, neu ynte i'r Bwrdd drugarhau wrthynt, -a thalu mwy iddynt nag ydym yn roddi i'r contractors presenol. Wel, meddir, os oedd- -ent yn gofyn rhy fach, eu busnes hwy oedd oedrych i mewn i hyny, a'ch lie chwithau oedd derbyn eu cynyg. a gwneyd iddynt ei orplien yn ol y specification, a'u gadael hwy a'u tteichnion i fod yn y golled. Caniateir i minau ofyn a fyddai yn Gristionogol gwneyd Jiyny 1 Ymddengys i mi y byddai yn an- aighyfiawn ac annghristionogol ynom i gynyg Ilai o swm i neb am wneyd y gwaith nar hyn 'gredem fod ei wir werth.' Gwyddem 011, pan yn rhoddi y gwaith i Howells, sef un •o'r contractors, ei fod yn un o'r crefftwyr ac ..yn un o'r contractors uchaf ei gymeriad yn yr holl wlad, fel dyn gonest yn ei holl dra- iodacth ac nid ydym wedi cael ein siomi yn y gwaith y mae yn ei wneyd ar ysgoldy Owauncaegurwen na, y mae ei waith yn rhao-ori ar y specifications, fel y dywedodd Un wrthyf sydd yn deall y gwaith o adeiladu ^ystal a neb yn y wlad. Dywedodd Mr. Binns, arholyddyr ysgolion yn y rhan orllew- inol o Forganwg, y dydd arall. pan fu yno yn -arholi y plant, fod yr adeilad newydd yn an. thydedd i'r contractors a'r architect, heblaw yr hyn a nodais. Nid wyf heb wybod ychydig tl:wy brofiad, mewn cysylltiad a'r eglwys w, f J'n wasanaethu, beth yw cael gofid a cholled o ugeiniau o bunau oherwydd ymddiried y gwaith o helaethu ein capel i un a. broffesai y gallai ei wneyd yn rhatach nag y gallem gael gan ereill ei wneyd, a gorfu i ni gael crefftwyr ereill i'w orphen. Gwn hefyd lawer trwy hanes am y gofid a'r golled mae eglwysi ereill wedi gael, oherwydd ymddiried y gwaith o adeiladu neu helaethu eu capeli i ddynion oedd yn gofyn rhy fach o brie am eu gwaith, ac mewn canlyniad yn myned yn fethdalwyr, &c. Cyn y byddai i mi grybwyll un rheswm arall dros roddi y gwaith i Howells a Jones, caniatewch i mi, Mr. Gol., ofyn cwestiwn neu ddau i'r Parch. John Jones, Carmel Yn awr, Mr. Jones, os nad oedd y cynygwyr iselaf, naill ai oherwydd cam-gyfrifiad o wir werth y gwaith, neu rywbeth arall, yn gofyn Ilawer rhy fach o bris am wneyd gwaith da arno, beth debygech chwi, syr, am Meistri Morgans a Jones, y contractors adeiladodd eich capel newydd a hardd chwi, y rhai a ofynent 151p. 15s. yn fwy nag ydym yn roddi, neu 253p. 5s. yn uwch na'r cynygwyr iselaf ? A ydych chwi ddim yn tybied eu bod naill ai yn ddynion anifybodus iawn o wir werth y gwaith oedd i'w wneyd ar yr ysgoldy dan sylw, neu ynte eu bod yn grib- ddeilwyr i'r pen, cyn y gallent feddu ar yr haerllugrwydd i ofyn 253p. yn ormod am orchwyl cymharol fychan yn ymyl eich teml newydd chwi a'ch pobi ? A beth debygech chwi am Mr. Samuel Jenkins, eich cymydog agos, ac un o'ch haelodau chwi ? rhaid i chwi dybied ei fod yntau yn hynod analluog i weitliio allan werth yr adeilad newydd, &c., neu ynte yn hollol ddigywilydd, cyn y gallai efe ofyn 165p. 10s. yn ormod am dano, tra y gallai efe, sydd yn byw yn y gymydogaeth, ei wneyd mor rhated, os nid yn rhatach na neb arall Sut, yn enw yr anwyl, na fuasai efe wedi dyfod atoch chwi, i ymgynghori a'ch mawrhydi, cyn danfon ei gynygiad i mewn, oblegyd y mae eich gwybodaeth chwi o werth y gwaith o adeiladu ysgoldai, &c., mor fanwl a chywir, debygem, fel y gallech ddweyd wrtho i'r ffyrling beth ddylasai efe ofyn am ei wneyd pe amgen, ni allech gy- huddo y Brawd Troehydclql" o bleidleisio can' punt yn ormod i Howells a Jones. Cy-- nghoraf chwi, syr, er mwyn lies y cyhoedd, i advertiso eich hun ar unwaith yn mhrif bapyrau y deyrnas, fel un a fedr ddweyd i'r ddimai beth ddylai Byrddau Ysgol, Cynghor- ion Trefol, &c., roddi am y gwaith o adeil- adu. Ymddengys i mi, hefyd, y dylech alw t,Y eich brodyr Annibynol i gyfrif yn ddioed, a'u hesgymuno allan o diriogaeth Annibyn- iaeth, yn yr un ysbryd Cristionogol (?) ag ydych wedi eyhoeddi eich dedfryd esgymunol yn erbyn y Brawd Trochyddol," oherwydd eu beiddgarwch hocedus yn gofyn y fath uchelbris dychrynllyd am eu gwaith; ond dyna, efallai pe y dywedech rywbeth wrth- ynt am hyny; mai eu hateb i chwi fyddai "Meindiwch eich busnes eich hunan, syr, nid ydych chwi yn gwybod mwy am werth y gwaith nag a wyr twrch daear am yr haul," Yn mhellach, Mr. Jones, os ydych mor ad- nabyddus o'r cynygwyr iselaf fel contractors ag y cymerwch arnoch fod, a'u bod mor uchel eu cymeriad a'r cynygwyr uchaf, sut yn enw eich parchedigaeth na fuaseeh wedi eu dar- bwyllo i anfon cynygiad i mewn am y gwaith o adeilad^ eich teml chwi, os na ddarfu iddynt wneyd hyny; ac os do, sut na fuasech wedi dylanwadu ar eich pobl 1 roddi y gwaith iddynt hwy, ac nid i bersonau fel Meistri Morgans a Jones, y rhai ydynt yn gofyil y fath uchelbris afresymol am eu gwaith, fel ag yr ydwyf wedi dangos yn barod, yn neill- duol os ydyw eu cynyg i'r Bwrdd yn engraifft deg o'r hyn fyddont yn arfer godi. Bydded rhyngoch a'ch gilydd, Independiaid, fel gwyr Pentyrch gynt.—Yr eiddoch, Y BRAWD TROCHYDDOL.

LLITH YR HEN LOWR.

LLITH O'R BWTHYN BARDDOL.

LLAW-FER GYMREIG.— PHONOGRAPHIA…