Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
[No title]
eyfansoddi y mwyafrif o'r aelodau. A oedd daionus ddylanwad ei ddynion gwynion ef yn alluog, tybed, i wrthbwyso dylanwad drwg y Brawd Trochyddol a'r caethweision? Ac nid yn unig y mae y rhai a geblir gan ein hathrodwr yn lluosocach na'r model men, ond anaml iawn y caem eu presenoldeb hwy gyda'u gilydd, tra yn anfynych y byddai un ohonom m yn absenol. Gsn hyny, y mae y syndod yn fwy eu bod wedi gallu llwyddo i wneyd ychydig o ddaioni, "W onde?"s icill never cease." Y BRAWD TROCHYDDOL.
GAIR 0 CLYDACH VALE.
GAIR 0 CLYDACH VALE. MR. GOL.Crefwn eich amynedd am ychydig o ofod yn eich newyddiadvtr clodwiw i roddf gair o eglurhad i'r cyhoedd, er am- ddiffyn, cymeriadau ein hatal-bwyswyr, y rhai a ddrwgliwir ac y gyhuddir gan rai per- sonau o fod yn gwisgo eu cotiau o chwith- hyny yw, yn turncoats. Trwy eich caniatad, Mr. Gol., rhoddwn fyr hanes o'r cyfnewidiad gymerodd le mewn cysylltiad a n hatal-bwys- wyr yn Nglofa Clydach Vale. Arferem ni, fel glowyr y lofa a nodwyd, dalu cyflogau ein hatal bwyswyr yn llawn, heb eu colledu o ddiwrnod un amser. Fel y gVVyr pawb (fel mae'r gwaethaf) am y marw- eidd-dra yr aeth masnach iddo yn bresenol trwy y wlad yn gyflredinol, fel yr effeithiodd ar bob gradd a dosbarth—yr uchel a'r isel, y boneddwr a'r cardotyn-a chyfalaf a llafur wedi derbyn effeithiau niweidiol iawn trwy y marweidd-dra masnachol yn y gorphenol a'r presenol. Felly dyoddefa glowyr y lofa dan aylw yn galed oherwydd arafwch masnach, fel na weithiasom, ar y cyfartaledd, bymtheg diwrnod yn y mis er's naw mis neu flwyddyn, a'r gweithwyr mor liuusog nes i'r enill fyned yn ychydig rhwng cynifer ac felly yr aeth cyflogau ein hatal-bwyswyr yn drymion jirnom, fel ag i'n gorfodi i wneyd ychydig iddvnt mewn cysylltiad a'r amser y byddai y pwll yn segur. Gan fod ein glofa yn leuanc, a glofeydd profiadol a liawer henach yn y Cwm, penderfynasotn anfon un o'r glowyr, ac un o'n hatal-bwyswyr, i edrych a chwilio pa fesurau a fabwysiadent tuag at eu hatal, bwyswyr ar yr amser y byddai y pyllau yn segur, a chawsom hwynt yn eithrio llawer yn eu mesurau. Yn Nglofa Llwynypia, os bydd i'r pwil weithio pedw:tr diwrnod mewn wyth- nos, telir hwynt yn llawn am yr wythnos ond os tri weithia pwll, colli tri diwrnod yr wythnos os dau weithia pwll, colli pedwar mewn wythnos a'r un fel hyd chweoh, colli y chwech, sef yr wythnos. Cafwyd Glofa Bodringallt mewn ychydig ymryson ar yr un achlysur. Yn Nglofa y Ton, telir am bob diwrnod a weithia pwll, a chollir pob diwrnod y byddo yn segun. Yn Nglofa y Pentre, yr un rheol a'r Ton, sef talu am bob dydd a weithiant. Yn Nglofeydd Cwmdar a Chwm- parc, telir eu cyflogau yn Ilawn bob amser, ond fod dysgwyliad iddynt drosglwyddo ychydig yn ol fel y byddo yr amser segur. Yn Nglofa Abergorci, yr un rheol a'r diweddaf a nodasom, sef talu eu cyflogau yn llawn bob -amser. Felly, ti weli, ddarllenydd, eu bod yn mabwysiadu gwahanol fesurau tuag at eu hatal-bwyswyr. Darfu i ninau, wedi ystyr- iaeth manwl, osod safon fod ein hatal bwys- wyr ni i gael haner diwrnod am bob diwrnod y byddo y pwll yn segur; felly, os bydd i'r pwll fod yn segur am wythnos, bydd iddynt gael tri am yr wythnos segur os yn segur am bythefnos, bydd iddynt gael wythnos o dal; ac yn y blaen. Y canlyniad fu i un o'n hatal bwyswyr wrthod y telerau ac ymadael, ond gwnaeth y Hall ei derbyn ac ymfoddloni, a chydymddwyn a'r glowyr, druain, yn yr zmser marwaidd presenol. Yn awr, taenir ensyniadau brwnt ac annheilwng am dano gan rai personau ond barnwn y bydd i'r ychydig a nodasom am delerau glowyr Cwm Rhondda tuag at eu hatal- bwyswyr yn fodd- ion i ladd dylanwad y rhai a geisiant bardduo ei gymeriad, ac y bydd i'r ystyriol a'r myfyr- gar ei gymeradvvyo am ei gydymdeimladtuag -at ei /'yd weithwyr ar adeg mor dywell a chaled ag ydyw ar weithwyr yn gyffredinol trwy y wlad a'r gwledydd. Arwycfdwyd dros y gweithwyr, a swydd- ogion y Pwyllgor Gweithiol, gan JOHN THOMAS, Llywydd JAMES JAMES, Trysorydd; WILLIAM EDWARDS, Ysgrifenydd. Rhagfyr y 29ain, 1877. O.Y.—Bydd gair yn dderbyniol iawn oddi- wrth unrhjav bwyllgor neu atal bwyswr yn y Cwm i gymeradwyo neu annghymeradwyo ein hatal-bwyswyr ni.
EISTEDDFOD CASLLWCHWR.
EISTEDDFOD CASLLWCHWR. MR* GOL.,—Teg yw hysbysu y cyhoedd fy mod, drwy ymchwiliad manwl, wedi cael allan nad oedd gwirionedd yn y si oedd ar led yn nghylch y pwyllgor yr eisteddfod uchod felly, iawn yw galw yn ol y cyhudd- iadau a ymddangosodd yn eu herbyn yn y GWLADGARWR, a'u rhyddhau o'r cyfrifoldeb ac y mae yn flin genyf eu bod wedi ym- ddangos o gwbl.—Yr eiddoch, RHYWUN, sef W. Williams, Bryn.
GAIR 0 L'ERPWL.
GAIR 0 L'ERPWL. ♦ GWYLIAR Y NADOLIG. Ni fyddai ond oferedd i mi feddwl am ddech- rea cofnodi helyntion y dref ar yr adeg yma o'r cl flwyddyn, am fod pawb yn gwneyd eu goreu i gael pob mwyniant ellid gael o fewn cyr- haedd plant dynioti. I ddechreu yn ddeheuig, rhaid i mi fyned i gymydogaeth y Neuadd Gerddorol, Heol y Llyngesydd Nelson. Nos Nadolig y gwelid Cymry. yn cyfeirio tua'r fangre, a <*ellid yn hawdd tynu y casgliad fod yno ryw- beth Cymreig i ddyfod ar y bwrdd. Cyngherdd i ddechreu y noson grybwylledig, a'r doniolgamp Llew Llwyfo yn arweinydd. Canu rhagorol gan y Llew, James Sauvage, T. J. Hughes, Miss Marian Williams, Mrs. Maggie Jones-Williams, a J. Skeaf yn chwareu ar y perdoneg. Gwnaeth yr holl ohonynt ea gwaith yn gampus a rhagor. ol Gallesid yn hawdd cael gwell canu curawl, heb fyned yn mhell i'w geisio, a gall fod nad oedd arweinydd y cur a'i fintai yn gwbl gydnab- yddus a'u gilydd. Bid a fyno, llipa a diafael oedd eu canu. Yr eisteddfod, prydnawn dydd Mercher, am ddau o'r gloch, Mr. Rathbone, A.S., yn y gadair, a'r Llew yn arweinydd. Enillwyd y gwobrwyon ar y gwahanol destynau gan y per- sonau canlynol Can, "Y gwrtbeisteddfodwr;" goreu, Hed- ydd Cynon, Trecynon, Aberdar. Englyn beddargraff, loan Pedr;" 39 yn cystadlu, a'r goreu o ddigon oedd Carnelian, Pontypridd. Cywydd, Y baban;" goreu, Cyfeiliog, Aber- hosan, swydd Drefaldwyn. Rhamant, "Madoc ap Owain Gwynedd tri ymgeisydd. a'r goreu oedd rhyw ysgolfeistr, Bodfordd, Mon. Testyn y gadair oedd Y temptiacl;" gwobr, 10 gini a chadair, ond nid un o dderwen Gym- reig fel y dylasai fod. Bu y testyn yn ago red am ddwy nynedd a'r tro cyntaf, yr oedd wyth ymgeisydd; ond y tro hwn, daeth un-ar-ddeg i'r Olympia farddol, a chyhoeddwyd y Parch. John Huw Evans yn fuddugol. Cadeiriwyd ef gan yr Alltwen a Iolo Trefaldwyn. Cafwyd beirniadaeth faith a galluog ar y gwahanol destynau barddol oddiwrth Ap Fychan a Dafydd Morganwg, yr hon a gyhoeddir yn rhai o'r newyddiaduron Cymreig. Heb fanylu, tebyg fod yr eisteddfod a'r ddau gyngherdd yn llwyddiant mewn ystyr arianol—o'r hyn lleiaf, gellid meddwl hyny wrth nifer y cynulliadau. Hyd yma, ni welais cymaint o hwyl Gymreig ag a welir yn Nghymru mewn cynulliadau eistedd- fodol. Gwnaeth y Llew ei waith yn deilwng ohono ei hun fel Cymro Cymreig. Prif atdyniad y cyngherddwyr Seisnig oedd myned i wrando Carl Rosa a'i gwmpeini, a dywed y rhai fu yno iddynt gael gwledd an- arferol o dda. Gan nad oes dim llawer o hwyl at ysgrifenu, mi ddygaf hwn i'r terfyn, gan ddymuno blwydd- yn newydd dda i bawb a ddarlleno hyn o sylw- adau.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. Yr amser hyn y llynedd yr oedd awyrgylch gwleidyddol Ewrop yn hynod gymylog, ac yn feichiog gan swn rhyfel, yn herwydd yr aneall- twriaeth a fodolai mewn perthynas i'r Pwnc Dwyreiniol. Yr oedd y gwledydd yn llawn berw a phryder, a masnach yn agos wedi ei pharlysio, oblegyd edrychai yr argoelion am gytundeb boddbaol ar y pwnc dyrys yn dra amheus. Yr oedd cynddrychiolwyr y Galluoedd Mawrion yn eistedd mewn Cynadledd yn Nghaercystenyn, ac yn ceisio eu goreu i ddar- bwyllo y Twrc i ddyfod i ryw fath o delerau, fel ag i arbed echryslonrwydd rhyfel; ond fel y mae yn hysbys trodd yn ystyfnig, gwrthod' dd bob telerau, diystyrodd gynghorion ei gyfeillion goreu, a hy^fbygiodd y cynrychiolwyr am amryw wythnosau. Eithr yn y diwedd fe aeth ei ystyfnigrwydd a'i hyfder yn aunyoddefol, torwyd y Gynadledd i fyny heb effeitliio dim, a gadawyd y Twrc gwrthnysig a chyfrwysgall i'w dynged. Yn fuau ar ol hyn cyhoeddodd Rwsia ryfel yn erbyn Twrci, a rhuthrodd y ddau elyn annghymodlawn i'r maes, yn enw yr Hollalluog, i dori gyddfau eu gilydd, i dynu ymysgaroedd y naill a'r llall allan, ac i anrheithio eu tiriogaeth- au. Y maent wedi bod yn dra llwyddianus gyda'u gwaith grasol. Nid oes eto ond saith mis er pan ddechreuodd y rhyfel ac y mae eisoes mwy o bobl wedi eu lladd, nag a laddwyd, mewn cyn lleied amser, yn unrhyw ryfel ag sydd genym hanes am dano. Hwyrach fod hyn i'w briodoli i'r ffaith fod y ceiiedloedd yn cy- nyddu mewu gwybodaeth celfyddydol a gwydd- onol, a thrwy hyny wedi dyfod i wneuthur offerynau rhyfel mwy effeithiol a dinystriol. Gresyn nad allem ddweyd fod cynydd y cenedl- oedd mewn gwareiddiad yn gyfartal i'r cynydd a wneir ganddynt mewn gwellhau a pherffeithio offerynau i ddinystrio eu gilydd ond y mae ffeithiau yn ein hatal i ddweyd hyny. Ni chof- nodir ar dudalenau hanesiaeth ryfel mwy bar- baraidd a chreulawn na'r hyn sydd yn bresenol yn myned yn mlaen rhwng Twrci a Rwsia. Heblaw fod afonydd o waed wedi ei dywallt, ugeiniau o filoedd o bobl wedi eu lladd, lluaws o drefydd a. phentrefydd wedi eu llwyr dinystrio, miloedd o deuluoedd heddychol a diniwaid wedi eu gwneyd yn ddigartref, rhai o'r gwledydd tecaf a ffrwytlilonaf ar wyneb y ddaear wedi eu hanrheithio, a thrueni annrhaethadwy wedi ei achosi, y mae yr ysgelerderau ofnadwy sydd wedi, ac yn cymeryd lie mewn cysylltiad a'r rhyfel, yn warth i ddynoliaeth ac yn sarhad ar wareiddiad y ddaunawfed ganrif. Ac wedi'r cwbl pa gynydd sydd wedi ei wneyd tuag at benderfynu y Pwnc Dwyreiniol ? Dim. Y mae cyn belled oddiwrth hyny yn awr ag ydoedd cyn i'r rhyfel ddechreu. Y mae pryder Ewrop mewn perthynas iddo yn gymaint, os nad yn fwy. y fynud hon nag ydoedd yr amser hyn y llynedd, y mae y farchnad arian yn is, a mas- nach o bob math yn fwy marwaidd o'i herwydd. Y jiiae yn wir fod arwyddion fod y rhyfel yn tythi;yn gyfiym tua'r terfyn, fod y Twrc ar ei drSe^volaf, ac y bydd iddo yn fuan o angen- rheidrwydd orfod roddi fyny yr ymdrech, oddi- eithr i ryw genedl arall gymeryd y maes er ei gynorthwyo ond, ysywaith, fel ag y mae yn ymddangos fod y rhyfel yn tynu tua'r terfyn, y mae pryder Ewrop, ac yn fwy neillduol y wlad hon, yn cynyddu. Y mae y Pwnc Dwyreiniol yn myned yn fwy dyrus bob dydd, ei ragolygon yn myned i edrych yn dywyllach, a mwy per- yglus nag erioed ac y mae y grediniaeth yn enill tir yn gyflym na fydd y rhyfel sydd yn awr ar derfynu ond prelude i un o'r rhyfeloedd mwy- af ofnadwy a gymerodd le erioed. Ac y mae y pryder sydd yn bodoli ar hyn o bryd wedi ei fwynhau drwy fod ein Llywodraeth wedi barnu yn ddoeth i alw y Senedd yn nghyd fis yn gynar- ach nag arferol. V mae rhai pobl a gymerant arnynt eu bod yn ddoethach, ac yn gallu gweled yn mhellach na neb arall, yn beio ein Llywodr. aeth yn fawr am hyn, a chyhoeddant yn bendant fod y wlad yn bwriadu rhuthro i ryfel yn ddi- ymaros, ac mai dyna ydyw yr amcan mewn golwg wrth alw y Senedd yn nghyd yn ngynt nag arferol. Pa sail sydd ganddynt dros gyhoeddi hynyna nis gwyddom. Y mae gan ein Gweini- dogion well mantais na'r cyhoedd i wybod beth sydd yn myned yn mlaen ar y Cyfandir, a pha ystryw a chynllunio dirgelaidd sydd ar waith yno. Gallem ni feddwl mai hwy sydd yn gwybod am busnes eu hunain oreu. Y mae yn anhawdd genym gredu y buasai ein Llywodraeth yn cymeryd y cam pwysig ac anarferol hwn ar yr adeg bresenol oddiethr fod ganddynt reswm digonol dros hyny. Os ydynt yn canfod peryglon yn mlaen, ac y mae yn lied debyg eu bod, methwn a gweled ar ba dir y gellir eu beio. Gallwn benderfynu fod dygwyddiadau pwysig yn nghroth y dyfodol ag sydd i gymeryd lie maes o law. Aroser hyd nes yr agorir y Senedd, yna cawn weled yn fwy eglur sut y mae pethau yn bod. Yn y cyfamser nid oes genym ond gobeithio na thry pethau allan fel ag i orfodi y deyrnas hon i ddadweinio'r cledd.
Cynghor Trefol Aberafon.
Cynghor Trefol Aberafon. Rhag. 28ain, cymerodd etholiad aelod (yn lie y diweddar Henadur Jones) le yn Aber- afon. Yr oedd dau ymgeisydd, sef Mr. R. Thomas, Pant-du, a Mr. Young. Yr oedd y pleidleisiau fel y canlyn R. Thomas. 346 W. Young. 234 Mwyafrif dros y gweithiwr 112 [Daeth hanes yr etholiad i law yn rhy ddiweddar i'w gyhoeddi yn gyflawn yn y rhifyn hwn. Ymddengys yn ein nesaf. -Gor,.)
Eisteddfod Flynyddol Llwynypia.
Eisteddfod Flynyddol Llwynypia. Cynaliwyd hon ar ddydd Nadolig, o dan lywyddiaeth y Cymro twym-galon a'r bon- eddwr haelfrydig, W. Williams, Ysw., Peny- graig. Arweinydd yr eisteddfod oedd y Parch. J. R. Jones, Jerusalem. Beirniaid y gerddoriaeth, y traethodau, y farddoniaeth, a'r adroddiadau oeddynt Hywel Cernyw, R. 0. Jenkins, E. Lewis, D. Jones, J. Price, a T. John. A ganlyn sydd rhestr o enwau y buddug- wyr ar y gwahanol destynau :—Traethawd ar Ystyron enwau hen anedd-dai plwyf Ystradyfodwg,"E. Lewis, Tonypandy. Traeth- awd ar "Joseph," B. Williams, Heolfach. "Marwnad J. Llewelyn," Dyfedfab. "Marw- nad J. Evans," D. Onllwyn Brace. "Can y godinebwr," Dyfedfab. "Poem upon God," Dewi Wyn o Essyllt. Canu, "We never will bow down," cor Jerusalem. Canu, Molwch yr Arglwydd," cor Cap Coch neu Abercwmboy. Canu, "Holl breswylwyr daear dewch," Band of Hope Jerusalem. Solo tenor, "In native worth," William James, Aberaman. Canu, "Death of Nelson," cydfuddugol, E. Alexander, Cwmgiedd; a William James. William James hefyd oedd y buddugol ar "Ddewrder Livingstone." Canu, Deryn Pur S. Richards, Llwyn- ypia; a Lizzie Evans, Tonyrefail. Canu, He was despised J. A. Hague, Gilfach Goch. Canu, Y fenyw fach a'r Beibl mawr S. Powell, Penygraig. Chwareu ton ar yr harmonium Alawydd Rhondda, Treorci. Darllen cerddoriaeth ar y pryd W. Watkins, Treorci. Chwareu Merch Megan Fife Band Llantrisant. Gwilym Gwent oedd y buddugol ar y ganig. Adrodd, Creulon- derau Bulgaria cydfuddugol, Cynfelyn, Penygraig a William Hughes, Trecynon. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd mawr- eddog, pryd y gwasanaethwyd gan R. C. Jenkins, Llanelli; W. T. Hopkins, Mountain Aph E. A. Leah, Llantrisant G. Lewis, a J. Lewis, Caerdydd. Cafwyd eisteddfod ddyddorol, a thra llnosog, a chredwn ei bod yn llwyddiant perffaith i'r pwyllgor antur- iaethus ac hyderwn fod lleayddiaeth Gym- reig wedi cael ychwanegiad gwerthfawr drwy ei chynyrchion godidog. -Gadfan.
Eisteddfod Gwauncaegurwen.
Eisteddfod Gwauncaegurwen. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod dydd Nadolig, 1877, dan lywyddiaeth y Parch. J. Jones, Carmel, yn absenoldeb D. Thomas, Ysw., Tamworth. Arweinydd, Mr. G. Edmunds, Ysgolfeistr. Beirniaid-y canu, Hywel Cynon, Aberaman y cyfansoddiadau, Dewi Iago, Gwauncaegurwen. Dygwyd y gweithrediadau yn mlaen fel y canlyn :-Anerchiad gan y llywydd. Anerch- iad barddonol gan Mr. T. Howells. Ton ar y perdoneg gan Mr. H. LI. Edmunds, cyfeillydd y dydd un o brif chwareu wyr y genedl. Canu, Arm, arm ye brave goreu, Mr. Joshua Thomas. Adrodd, Y chwalwr ceryg Mr. W. Hicks. Canu, Bad-gan y Thames," gan 8 goreu, parti o Ystalyfera. Beirniadaeth y ddau englyn i Carmel newydd goreu, o ddeuddeg, oedd Gwydderig, Brynaman. Wele hwynt Adeilad parod, helaeth,—a'i harddwch Yn urddas cym'dogaeth Rhyw wyn n6d, celf arno wnaeth, Seren yw mewn saerniaeth. Porth i'r nef, allor crefydd,—ty mawl yw, Teml lOr, Carmel newydd Sibryda i dlws barwydydd, Duw'r hen fan yn dwr hwn fydd. Canu, "Round about the Starry Throne dau gor yn cynyg, sef Gibea, Brynaman a Phanteg, Ystalyfera enillwyd gan yr olaf. Araeth ar Drynaniaeth goreu, Mr. William Hokpin, Brynaman. Canu," Y ddau awen- ydd goreu, dau o Ystalyfera. Beirniad- aeth y traethawd ar "Y modd goreu i ddyn ieuanc i ddyrchafu ei hun. Daeth 13 o drafcthodau i law. Rhanwyd y wobr rhwng Gwilym Curwen a Mr. Morgans, Rhos, Ystalyfera; a chawsant ganmoliaeth uchel. Canu y prif ddarn, Requiem i'r diweddar J. Roberts (Ieuan Gwyllt)." Cystadleuodd corau Brynaman ac Ystalyfera goreu, cor Brynaman. Beirniadaeth y 60 llinell ar y "Darn Llaw pumpifewn goreu, Gwalch Ebrill, Brynaman. Cynrychiolwyd ef gan y bydenwog Gwilym Meudwy (1). Cofied Gwalch fod ei gynrychiolydd anrhydeddus wedi slipo i fewn i'r eisteddfod heb dalu am ei docyn Canu, "Glyndwr;" Mr. J. Thomas. Canu, "Cheer up companions," gan barti o 20ain dau barti yn cynyg am y dorch, sef Ystalyfera a Brynaman a chipiwyd y wobr gan yr olaf. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderch- og, dan lywyddiaeth W. W. Williams, Ysw., Brynaman; a than arweiniad arweinydd yr eisteddfod. Gwasanaethwyd gan Mr. H. LI. I Edmunds, cyfeillydd, Mr. J. Evans (Cynfab Dai o'r Coed), Eos Curwen, Miss Jones, a Mrs. Williams, Rhydyfro; yn cael eu cynorthwyo gan feirniad yr eisteddfod, Hywel Cynon. Rhoddwyd testyn englyn i'r. beirdd yn y cyngherdd, sef diolchgarwch i gor Panteg, Ystalyfera, am ymweled a'r eisteddfod. Rhanwyd rhwng Gwydderig a Gwilym Curwen. Wele yr englynion :— I gor Ystal'fera rhown ged-awen Mewn diolch diarbed Y Waun a'i thrigolion dd'wed Ni a dalwn ein dyled.—Gwyddervj. Hyf arwyr Ystalyfera,—le, 'r cOr Caed ein diolch uwcha' Hen Gaegurwen gu gara, Eu gWen a'u dull bigion da.-G. Curtven. Ychydig o hanes y lie y tro nesaf gan-Simon y Bilwg.
Nadolig yn Llanover
Nadolig yn Llanover Treuliwyd Nadolig yn Llanover yn ol yr hen arfer, trwy gael o gant i ddau gant o ddeiliaid a gweithwyr ar yr etifeddiaeth i fwynhau ciniaw danteithiol yn y Neuadd Fawr, yr hon oedd wedi cael ei haddurno yn orwych gyda baneri, yn arddangos pais arfau Cymru, sef y ddraig goch, y pedwar Hew, a'r geninen, pa rai sydd mor gysylltiedig a'r hen draddodiadau Cymreig ac yn ol Shakes- peare, a thref henafol Mynwy, gallwn nodi nad oedd y delyn yn fM ar yr achlysur mwy na'r areithwyr, y prydyddion, a'r cantorion. Ar ol ciniaw, yfwyd iechyd da y bendifiges oedd yn eu croesawi mewn dwfr pur, yr hyn a dderbyniwyd gyda uchel gymeradwyaeth. Dilynwyd trwy yfed iechyd da Cadben Ivor Herbert, o Lanarth, a'i frawd, Mr. Arthur Herbert, pa rai oeddynt yn cydginiawa gyda'r deiliaid ac hefyd iechyd da i holl deulu Llanarth. Atebwyd gan Cadben Herbert mewn araeth Gymreig, hynod atebol i'r ach- lysur, ac hefyd gan ei frawd, Mr. Arthur Herbert, a Mr. Phineas James, goruchwyliwr parchus yr etifeddiaeth. Wedi hyny, cafwyd areithiau difyrus gan y Parch. E. Bevan, Periglor Llanelen y Parch. D. Jones, Aber- carn; y Parch. D. Jones, Blaenavon; a'r Parch. J. Richards, Saron. Wedi mwynhau te a bara brith, treuliwyd y prydnawn mewn canu penillion Cymreig gyda'r delyn, a dawnsio yn ol yr hen ddull Cymreig. Yr oedd Gruffydd, telynor Llanover, yn ei hwyl oreu, yr un modd hefyd y beirdd ia'r cantor- ion. Am ddeg o'r gloch aeth pawb idd eu cartrefi, wedi eu llwyr foddloni a'u dyddanu, heb un diferyn o'r ddiod feddwol sydd yn achosi y fath felldith yn ein gwlad sydd wedi ei breintio mor uchel. Bydded i ni oil wneyd ein goreu i'w rhyddhau oddiwrth orthrwm sydd yn difa cysur ei thrigolion yn deuluol ac yn gymdeithasol.
Art Union y Bwllfa
Art Union y Bwllfa Dan drefniant a chyfarwyddyd gweithwyr y Bwllfa, Cwmdar, Aberdar. RIIIFYNAU BUDDUGOL (WINNING NUMBERS):- 145 163 387 571 620 683 1050 1302 1637 1927 Dymunwn gyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i berchenog y GWLADGARWR am ei hynawsedd yn rhoddi ei bapyr yn rhad at ein gwasanaeth i gyhoeddi y list uchod.—Yr eiddoch, ar ran I gweithwyr y Bwllfa. E. MATHEWS, Trysorydd. J. EVANS, Ysgrifenydd.
* Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Rhag. 26ain, darfu i'r Czar arolygu e fyddinoedd yn St. Petersburg o flaen y Palas Ymerodrol. Yr oeddynt yn gynwysedig o 26 o gorffluoedd o draedfilwyr, 25 o feirchfilwyr, a 42 o fagnelau. Yr oedd ei Fawrhydi mewn iechyd rhagorol, a chan fod yr hin yn deg ar y dyddiad uchod, pasiodd yr amgylchiad gyda .Y rhwysgfawredd. Dywedir i Count Andrassy yn ei atebiad i gylchlythyr y Porte nodi allan fod y diffyg parch a ddangoswyd gan y Llywodraeth Dyrc- aidd tuag at Ewrop, bron yn cau allan bob gobaith am gynygion heddychol. Cyhoeddwyd anerchiad o ymlyniad wrth y Czar gan bendefigion St. Petersburgh ar ei ddychweliad i'r ddinas hono. Ynddi datgen- ir dymuniad am i Dduw fendithio yr Ymer- awdwr, er ei alluogi i derfynu y rhyfel pre- senol yn ogoneddus. Wrth dderbyn yr anerchiad darfu i'r Ymerawdwr ddatgan ei ddiolchgarwch gwir- ioneddol am eu dymuniadau da. Cyfanrif y carcharorion Tyrcaidd a gymer- wyd yn Plevna ydoedd 44,000 o wyr, heblaw y clwyfedigion a'r rhai a fuont feirw wedi hyny. Y mae 3,600 yn aros yn Plevna. Y RHYFEL YN ASIA. Anfonodd y Porte y pellebryn a ganlyn i'w gynrychiolwyr mewn gwledydd tramor:- "Bryslythyr oddiwrth Mukhtar Pasha, dydd- iedig y 24ain, a'n hysbysa fod y rhagdybiaeth- au pruddaidd gyda golwg ar dynged ein mil- wyr afiach a chlwyfedig, y rhai a syrthiasant i ddwylaw y Rwsiaid yn Kars yn anffodus wedi eu sylweddoli. Anfonwyd dwy fil ohonynt yn mlaen o Kars i Erzeroum. Allan o'r nifer hwn bu eu haner feirw ar y ffordd o oerfel a blinder, a chyrhaeddodd yr haner arall i Erzeroum yn y cyflwr mwyaf truenus. Y mae y ffaith ar unwaith yn cyfansoddi sathr- iad deddfau dynoliaeth, ac yn doriad ffurfiol a chreulawn o ddarbodion Cynadledd Geneva, y rhai a rwyment y gorchfygydd i ofalu am gleifion a chlwyfedigion y gelyn yn yr un dull a'u milwyr eu hunain. Lloegr a Rwsia Y mae Twrci wedi ceisio gan Loegr i gyfryngu yn y rhyfel, fel i osod terfyn ar yr ymrysonfa. Cydsyniodd Lloegr a'r cais, a danfonodd i hysbysu Rwsia o ddymuniad Twrci. Dywedai newyddiaduron y ddoe (dydd Llun) fod Rwsia wedi gwrthod cyf- ryngiad Lloegr, gan ychwanegu fod yn rhaid i swyddogion milwrol Twrci ar y maes i wneyd cais am heddwch at swyddogion Rwsia ar y maes.
Advertising
Mr. Abraham N. James, From the Royal Academy of Music, London, RESPECTFULLY intimates that he receives JM Pupils for PIANOFORTE, SINGING, AND HAR- MONY, at his own or Pupil's residence. Terms and further information on application. Address-38, Bute Street, Aberdare. UNITY HOUSE SCHOOL, (Commercial and Classical), HIGHLAND PLACE, ABERDARE. QONDUCTED by the Rev. J. J. GEORGE. A new and healthy School-room. Education based on sound principles. Duties will be resumed on Tuesday, January 8th, 1878. 1810 University College of Wales. SCHOLARSHIPS FOR MUSIC. SINGING. ke competed for by ladies. j 1 comPeted for by gentlemen. The candidates are to sing any of the following songs ° Soprano :-Recitative and Aria, No. 9 (Opera Fidelo). Beethoven. Leonora. Insatiate thy teeming brain. —Booseij Edition Contralto :-Solo, No. 19. Slumber, beloved." Christmas Oratorio: Bach .-Novella Edition. Tenor =-bolo No. 9. Let us not kill him." Oratorio Joseph Macfarren. —Lucas Edition Bass :-Scene No. 2, Act 3. Wolfram alone." Opera Tannhauser Wagner -Novello Edition. To sing at first sight any piece given at the time. COMPOSITION. £10 to be competed for. In harmony; candidates will be expected to. the bass26 & SiV6n subj'ecfc into four parts, figuring (b) In counterpoint; to write counterpoints in all species in three and four parts, according to rules of counterpoint. ° (c) In fugue to answer given fugal subjects, also to write a short fugue in two parts to a given subject. ° PIANOFORTE. £10 to be competed for by ladies and gentlemen. Candidates will be called upon to (а) Play at first sight any piece given at the time. (б) Play Invention and Symphony No. 8 in F major, from Bach's 15 Inventions and Symphonies Litolf Edition. Beethoven. »• to E Novello Edition. The examination will begin at 9 a.m. on Friday, January 11th, 1878. 1808 Bargoed. I "DYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn y lle uchod DYDD LLUN PASG, Ebrill 22ain, 1°'o* Pnf Ddarn Gorawl. r "6*/r an mewn nifer a gano yn oreu "Mai (J. Th, mas); gwobr, 5p. 7 Bydd y programmc. yn cynwys y manylion, yn barod yn fuan, ac IW gael am y pris arferol.- Dros y pwyllgor, 1809 T. MYDDFAI JONES. DALIER SYLW. Y GWAED YW BYWYD Y DYN. GWAED DRWG VVV'R acll0S ,°'r rhan fwyaf o'r clefydau gwaethaf X ac y mae r corff dynol yn dioddef oddiwrth- ynt. Y gwaed sydd yn derbyn y gwenwyn, ac yn ei gano l r gwahanol ranau o'r corff, nes dwyn yn yn mlaen y Biast, Scirvy, Cornwydon. Penddyri»d, Clwyfau, Croen Garw, Ysfa y Cnawd, &c. GWAED DEWG Yw'r achos o'r Piles, Inflammation y Llycraid. Gwynegon, Gout, Danodd, Spleen yn y Danedd. y PeD, &c., Stitches yn yr Ochrau, &c. GWAED DRWG Yw'r achos o'r Manwynion neu Glefyd y Brenin, Chwydd yn y Glands, Clefydau Benywaidd, megys Ataliadau Natur. Heintiau, Chwys Oer Nerves Egwan, Cryd, Gloesiadau, Darfouedigaeth &c. Felly, mae o'r pwys mwyaf i Euro, Glanhau, a Chryfnau y gwaed, a tlirwy hj-ny Dadwreiddio pob Afiechyd, trwy gymeryd y fediivginiaeth fawr at y Gwaed, sef h PATENT H ■ Er prawf o'r effaith nei Iduol tydd ynddynt, gosod- er yma rai o'r tystiolaethau sydd yn fy meddiant •- SIB,—Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu o'r lies mawr a wnaeth eich Pills rhyfeddol o'r enw "Hughes Patent Blood Pills," i mi. Yr oeddym am ddwy flynedd mewn blinder mawr gan Ysfa a Phoethder y Cnawd, wedi eu hachosi gan Ddis- temper y gwaed, ac wedi cymeryd ond yehydig or Pills hyn, mi a gefais lwyr rhyddhad, ac yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd.- B. THOMAS, Dolau, Llanelli. Gwellhad hynod o'r Distemper a'r Piles (Talfyriad). SYB,-Drwy gymeryd eich Pills h7nod at Y gwaed, sef Blood Pills," cafodd fy merch well- had neillduol oddiwrth Darddiant ar y Cnawd, Poen yn y Pen ac yn y Cluniau, dim Archwaeth, Gwrthwyneb y Cylla, a mawr flinder gan Ataliad- au Natur. Hefyd, trwy gymeryd yr un Pills, cefais lwyr iachad oddiwrth y Piles. Fe ddylai pawb wybod am danynt.-D. DAVIES, William Street, Lianelly. Gwellhad oddiwrth y Piles. SyK:—Yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd arnaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'cb Pills gwerthfawr, sef "Hughes' Patent Blood Pills." Yr oeddwn yn methu cerdded cam braidd, ac yn methu eistedd oherwydd y Piles a phoen yn y rhan iselaf o'r cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn teimlo yn bur wan. Yn awr yr wyf yn hollol iach, ac yn teimlo yn bur ddi- olchgar.—MARY JAMES, Cwmbran, Awst 20,1876. Y mae'r Pills hyn yn Patent. Cosbir pob ffug- iad. Registered Trade Mark-" Blood Pills." Ar werth mewn Blyehau gan holl Chemists y deyrnas am Is. Ihe.* 2s, Dc., a 4s. Ge. Gyda'r post Is. 2e., 2s. lle., a 4s. 9c. oddiwrth y Patentee- Jacob Hughes, Apothecaries' JIall, Lianelly. London Agents—Barclay, Sutton, Newbury Sanger, Hovendon. Bristol—Pearce, Warren! cc Liverpool-Evans & Son, Eaimes. Cardiff-Kernick! Manchester—Mather. ^435