Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
Darllen cerddoriaeth ar y pryd dau barti yn cystadlu. Rhanwyd y wobr. Canu deuawd, Awelon.yr Eryripedwar parti ya yr ymdrech. Goreu, Dau Gymro, -set Lance Lot a John Jones, Glandwr. Yn nesaf daetti brif gystadleuaeth y dydd. I'r cor, o'r un gynulleidfa, a gano yn oreu He is risen;" gwobr, 20p. Daeth dau gor i'r maes, sef cor Siloh, Glandwr, dan arweiniad Jlihn Jones; a chor Troedyrhiw, dan arweiniad J. B. John (Asaph Dar). Cafwyd canu ardderchog gan y ddau gor, ond y goreu y tro hwn oedd cor Glandwr. Canu glee, A little church gwobr, 3p. Dau barti gyst&dleuoedd, sef Clydach a Glandwr, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. I'r cor, o'r un gynulleidfa, a gano yn oreu "Canys bachgen a anwyd i ni gwobr, 8p. Pedwar cor yn yr ymdrech, sef corau Troed- yrhiw, Waunarlwydd, Calfaria (Clydach), a "Hebron (Clydach). Goreu, yr olaf, dan arweiniad Thomas Jones. Wedi i'r Parch. W. E. Jones gyhoeddi y bydd eisteddfod yn cael ei chynal yma y Nadolig nesaf eto, gwasgarodd y dorf er cael ychydig luniaeth. Yn yr hwyr cafwyd cyngherdd ardderchog, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan Miss L. 'Williams, R.A.M., Mr. J. D. Thomas, Eos Morlais, Llew Tawe, Master Willie Evans ar y crwth, a Mr. W. Samuel ar y piaizo a'r ■ organ. Digon yw dweyd i'r oil ohonynt roddi boddlonrwydd yn mhell tuhwnt i ddysgwyliad y dorf fawr oedd yn bresenol, ac yn dymuno cael gwledd o'r un natur yn fuan eto. B. Jones..
Eisteddfod Nantymoel.
Eisteddfod Nantymoel. Cynaliwyd eisteddfod lewyrchus yn nghapel Dinam yn y lie uchod, dydd Mawrth (Nad- olig). Y beirniaid oeddynt Gwrhyd Lewis .ac Alawfryn Davies. Dygwyd y gystadleu- aeth yn mlaen fel y canlyn Canu "Ymadawiad y Bremn; goreu, J. Davies (Cerddor Ebwy). Adrodd Y fodrwy briodasol;" goreu, W. Griffiths. < „ Canu We are all roving minstrels goreu, parti Dinam. Englyn i "Afon Ogwy goreu, Cynffig- wyson. Canu Y fenyw fach a'r Beibl mawr; goreu, Llinos Ogwy. Adrodd "Pruddgan" (Telynog) goreu, Miss Williams, Nantymoel. Canu "Gogoniant i Gymru;" goreu, J. Lewis, Maesteg. Darllen ar y pryd goreu, H. Lee. Canu "Flow gentle Deva goreu, H. Lee a'i gyfaill. Traethawd ar Daniel, fel esiampl 1 w efelychu goreu, Alaw Dulais. Adrodd Y lloer (Telynog); goreu, Miss John, Llantrisant. Canu Y gwlithyn goreu, cor Dinam. Chwech penill er cof am "Mynyddog rhamvyd y wobr rhwng Cynfelyn a Gwent- ■fryn, Cwmogwy. Areithio ar y pryd, testyn "Nadolig;" 18 yn cynyg, goreu, Ap Rhydderch. Canu Dewrder y Milwr; goreu, Cerddor Ebwy. Caiau "Mae gorphwysfa;" tri chor yn cynyg, goreu, cor Bethlehem, Tynewydd, dau arweiniad Mr. Jenkin Davies. Oafwyd cyngherdd ardderchog yn yr hwyr, pryd y gwasanaethwyd gan y personau can- lynol :—Misses A. Anthony a M. A. Davies, a Mri. J. Davies a D. Williams, yr oil o Lantrisant. Cyfeilliwyd yn ganmoladwy gan Mr. Mills, Pontypridd. Dyma y cyngherdd ^oreu a gafwyd erioed yn Ngliwmogwy.— Eriji y Foel.
Eisteddfod Gadeiriol Abertawe.
Eisteddfod Gadeiriol Abertawe. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod yn y Music Hall, dydd Nadolig. Yr oedd y gwobrwyon gan m wyaf yn uchel, a'r gystadleuaeth o'r dechreu i'r diwedd yn fywiog, ac yn neillduol o dda, felly derbyniodd y rhan fwyaf o'r cys- tadleuwyr enw da oddiwrth y ddau feirniad, Mri John Thomas (Llanwrtyd) a E. Law- rance (Merthyr). Hefyd, cafwyd llawer iawn o ddiorifwch oddiwrth y llywydd enwog, sef y Parch E. Edmunds, Abertawe. Trodd y tywydd allan yn ffafriol, a chyn amser dech- reu ar waith y dydd yr oedd torf fawr wedi ymgynull o flaen y nevadd, yn aros am agor- iad y drysau. Erbyn deuddeg o r gloch yr _1 oedd y neuadcl yn bur lawn, a aecnreuwyd drwy araeth agoriadol gan y llywydd. Yna dechreuwyd cystadlu yn y drefn a ganlyn Canodd chwech parti y deuawd Awelon Eryri;" goreu, Thos. Richards a R. bamuel. Myfanwy, allan o saith, ganoddyn oreu "He was despised," a chafodd y wobr. Ir cor o blant dan 13 oed, heb fod dan 30 o rif, a gallo yn oreu Mae llef o Macedonia," goreu Parti Libanus. I'r un a ysgrifeno oreu ar y pryd ddarn a genir gan y beirniad goreu, Mary Anthony, Cwmbwrla. 1'r brass band chwa- reuo yn oreu Lift up your heads," gwobr ■op. a medal i'r arweinydd. Pedwar yn by- «tadlu goreu, 1st G. V. R. Band, dan ar- weiniad Mr. G. Hannay. Terfynwyd gweith- rediadau yr eisteddfod drwy ganu y prif ddarn, sef "0 great is the depth," gwobr 35p. a chadair i'r arweinydd. Tri chor yn cystadlu, sef Ccr Undebol Castellnedd, Cor Undebol Tawe, a Chor Undebol Landwr. Canodd y tri chor yn rhagorol, a chawsant ganmoliaeth y beirniaid ond yr oedd rhyw Symaint o ragoriaeth yn perthyn i Gor Cas- tellnedd, i'r hwn y dyfarnwyd y wobr. Dyg- wyd gwaith y dydd i derfyniad drwy gynaliad cyngherdd rhagorol.—Gohebydd.
[No title]
EISTEDDFOD TREHERBEIIT. Y Parchi T. P. Edwards, Abergele, ydoedd awdwr yr englyn goreu i'r "Gwenithyu." Prif destyn barddonol y flwyddyn nesaf fydd "Samson." Gwilym Curwen, Cwmaman, enillodd am yr hir a thoddaid i Lusem y glowr."
BARDDONIAETH A BEIRDD.
BARDDONIAETH A BEIRDD. RHIF VII. Y mae cyffelybiaethau, yn y iawn ddefnydd o honynt, yn dwyn i fewn lawer o eglurder, o brydferthwch, a gogoniant i gyfansoddiadau barddonol; ond y mae yn gofyn sylwadaeth fanwl a gofalus i'r difeddwl a'r dilygad ac y mae camddefnyddio cyffelybiaethau yn eglur ddangos diffyg awen ac athrylith yn y rhai wnant hyny. Y mae bywiogrwydd teimlad a meddwl, sef brwdfrydedd barddonol, yn sicr- hau, fel rheol, gywirdeb cyffelybiaethol. Os bydd yr awen yn oeraidd a digynhyrfiad yn ngwydd gweledigaethau, y mae y ffigyrau yn annghywir ac annhebyg i'r hyn ddarlunir. Y mwyaf eu hawen yw'r naturiolaf yn eu cyffelybiaethau. Dyna yw y rheswm fod yr henafiaid yn dosbarthu yr annghywir a'r an- naturiol yn mhlithyr oeraidd (frigidum). Y mae hynyna yn amlwg yn ngweithiau beirdd pob gwlad. Y mae Homer yn meddu ar wresocach awen nag un o'r Groegiaid, y mae hefyd yn gywirach a ffyddlonach i natur. Y mae awen Shakespeare yn fywiocach na'i gydoesolion, hefyd yn gwirach Wordsworth yn gywirach na Pope Byron na Thomson. Y mae canfyddiad llygaid gwir awenydd mor graffus fel nas medr ganfod pethau oddi allan iddo ond fel y maent; ac y mae y parcel blind ar y tu arall mor niwliog yn ei weledig- aethau, fel y mae yr hyn welir ganddo naill ai yn ormod neu yn wyrgam. Cyn y gellir barddoni yn naturiol y mae yn rhaid gweled yr hyn ddesgrifir yn eglur a dysglaer o flaen 11 13 llygaid y meddwl, ac y mae yn rhaid teimlo yn mhresenoldeb yr unrhyw. Os collir yr idea o'r meddwl, neu os yr a yn aneglur ac annysglaer, i'r graddau hyny y sudda y bardd i chwareu tt geiriau," a chreu a dychymygu monsters barddonol! Pe caffai y bardd yr idea yn fyw, ac i barhau yn ei bywiogrwydd, byddai yn ei gyffelybiaethau yn naturiol a gweddus. Nid ydym ni yn ystyried neb yn fardd po ddeheuig bynag y medro drin odlau a chy- nghanedd, os na fydd yn medru ar feddyl- ddrychau terfynedig, a'u rhoi mewn iaith ddealladwy, cymhwys i'w hawgrymu yn medd- yliau eu darllenwyr. Rhoddwn nifer o'r monsters cyffelybiaethol nodwyd uchod, er mwyn i'r darllenydd wybod beth feddylir a chofier gyda llaw fod annaturioldeb a gioyllt- er mewn barddoniaeth yn dangos diffyg awen yn hytrach na'r cyferbyniol :— Trysorau natur Beraff Oedd had cr6th ei ddeall craff. Y Gwirionedd agorai ei enau I fewn i goluddion ei fwngloddiau. Ymwylltiai, taflai pob ton,-hyd y ser, Yn eu gorwyllter, eu dagrau hcilltion. Yr haul a gwyd y tro ola'ei liw A'i lewyrch glafeiddia O'i Iliw a'i dull y lletiad a—dan drymlwyth Y n y m..wr adwyth hon a ymwrida. Eu llwyr annedwydd erchyll oernadau A d/reiddient ac a rwygent y creigiau. Ond awn y drycliin erwin am oriau Och yno weithian oedd uwch na hwythau. Ter awenydd, tarana-ei chlodydd, Ferch liwdeg, yn Ngwalia. Mae aur, holl aur y byd mawr lion,—ac aur Holl ser cu Cae>-gwydioii Cawn hefyd aur Gwynfa dirion Yn goron hardd ar goryn hon. Geirionydd goronog Seiniai gan eos neu gogo Fe wel y darllenydd wrth y dyfyniadau uchod eu bod oil yn gynghaneddedig ac y mae hyny yn rheswm am eu bod mor annyoddefol (rhai o honynt, o leiaf) am eu hannaturioldeb; y mae y seiniau, yn ebargofi y meddwl, ac yn ei gadw rhag sylwi ar briodoldeb y drych- feddyliau. Hawdd yw canfod fod y drydedd engraifft yn nodedig am ei hannghywirdeb. Nid yw ffyrnigrwydd yn tywallt dagrau," fel rheol; ond gallai dyfroedd yn hawdd gynrychioli "dagrau" ond gofalu gweithio y mor neu'r afon, neu yr hyn gynwysa y dyfr- oedd i deimlad addas i wylo cyn hyny. Felly Pope yn ei linellau ar ryw foneddiges The silver flood, so lately calm, appeai s Swell'd with new passion, and d'evjlows with tears. Yn y bedwaredd y mae yr haul yn clafeiddio yn herwydd y dychryn sy'n ffynu ond y mae y bardd yn gallu fforddio i gael y lleuad i ymtvrido. Dylasai hithau "welwi" pan yn gweled ei brawd yn "clafeiddio," debygwn. Y mae Merch y Melinydd" yn son am wrido yn goch a gwyn feallai fod y bardd yn gol- ygu y gellir "gwelwi" yn goch a gwyn. Y mae y burned yn wyrth, a dim llai. Rhaid fod ar v mor, y diwrnod a'r adeg ddesgrifir, r, oernadau byddarol i dreiddio a rhwygo creig- iau, heb gymeryd i mewn swn y drychin Beth am glustiau, pan oedd creigiau yn methu gwrthsefyll 1 Nis gall dim 'ddarlunio ein teimladau y fynud hon yn well na dyfyniad o'r linell olaf—Och Beth debygem ni hef- yd am damnuclodydd" i ddynes egvvan 1 Y mae yr olaf ond un yn ddesgrifiad o bentyru ofnadwy ar ben dynes, onid yw ? Meddylied y darllenydd am aur y Bank of England ar ben rhyw ddynes y mae efe yn gyfarwydd a hi. Mae yr'olaf yn cynwys dewisiad eos neu gog." Y mae canu fel eos yn ganmol- iaeth, ac fel cog yn mhell o fod. Amcan y bardd oedd enwi dau aderyn cydradd yn eu doniau cerddorol, ac nis gallasai fod yn fwy ff-odus-i foddio y gynghanedd Y mae un o'n beirdd penaf wedi gweled cyqgod y lloer mewn mynwent.
[No title]
ENAINT HOLLOWAY.—Y Freeh Goch a'r Scar- latina.Dyma y ddau ymosodydd peryglus sydd yn dyfod ar draws eiu plant gyntaf ar ol eu gem. Mae y ddau glefyd yn heintus. ac yn galw am driniaeth ddoeth. Yn yr anhwylder blaenaf ceir fod y chest yn dyoddef; ac yn olaf dyoddefa y gwddf. Bydd y fam, neu yr hon fyddo yn gweini, yn sicr o gael fod Enaint Holloway yn feddvgm- iaeth anmhrisiadwy yn yr acliosion peryglus hyn. Ond ei gymhwyso at y gwddf, y ddwyfron, a'r cefn, rhydd esmwyth-had ditfael; hyrwydda yr anadliant, lleddfa y pesweh, dwg y lliw priodol yn oi i'r gwefusau, a chyll y gwynebpryd yr ym- ddangosiad gwelw sydd yn rhagwyddo sefyllfa beryglus y cyfansoddiad. Nid ynunig y mae yr Enaint gwerthfawr hwn yn iachau y clefy d ei bun, ond symuda yr achos o bob ol-effaith.
Nodiadau o'r Llan.
Nodiadau o'r Llan. Nos Fawrth, Rhagfyr y 18fed, cynaliwyd cyngherdd o nodwedd ardderchog yn Llanelli yn Nghapel Newydd (M.C.), prydy perfform- iwyd y gantata newydd, gan Mrs. Watts Hughes, "Pcwl yr A os oi. Yn ddidadl dyma y canu mwyaf refined a glywsom erioed yn y Llan. Arweiniwyd y cor gan Mr. Evan Samuel (Alawydd y De). Y mae clod yr Alawydd, bellach, yn hysbys drwy Walia benbaladr fel arweinydd galluog. Dymunem lawer blwydd eto i'r Alawydd i ddyrchafu caniadaeth y cysegr. Cynorthwywyd y cor gan yr artistes canlynol :—Eos Morlais, Mr. W. H. Radcliffe, Mr. J. E. Samuel, Mr. E. Edwards, Mr. Dimpath Griffiths, a Miss M. Bowen. Methodd Mrs. Watts Hughes a bod yn bresenol, er siomedigaeth i laweroedd. Y mae yn debyg ei bod hi a'i phriod yn glaf yn y scarlet fever. Daeth tyrfa oddeutu pymtheg cant yn nghyd i'r capel eang ac yr oedd yn amlwg eu bod wrth eu bodd pan yn gwrando y cantata. Yr oedd yr ail ran o'r programme o amrywiol fathau o ganu. Cy- merwyd rhan ynddo gan Mri. Lloyd, Hughes, Davies, a Miss Rogers, ac ereill. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r cor am arlwyo y fath wledd ger ein bron, ac i'r rhai a enwasom am wneuthur eu rhan mor gampus. Deallwn fod yn mryd Alawydd y De i berfformio y gantata newydd, "Bngeiliaid Bethlehem" (o waith ei nai, Mr. R. S. Hughes, R. A.M.). Gobeithio y gwena ffawd arno, fel y gallo arlwyo y wledd hono eto ger ein bron mor felus ag a wnaeth a'r wledd ydym newydd ei mwynhau. —Adolygydd.
GW AENCAEGURWEN.
GW AENCAEGURWEN. Yr wythnos ddiweddaf, hysbyswyd glowyr y lie uchod y ceisid ganddynt 2s. 6c. yn y bunt o ostyngiad pellach ar derfyn eu pedwar mis cytundeb, yr hyn a gymer le ddiwedd Ionawr. Yn wir, y mae pethau yn edrych yn ddifrifol iawn ar bethau yn y ffordd hon, gan fod y gweithfeydd eisioes mor araf. Y mae yn anhawdd dweyd eto pa fodd y try pethau allan. Gobeithiwn, er hyny, y try pethau allan yn well na'n dysgwyliad. Y mae un peth, fodd bynag, genym i'w ddweyd ar hynyna. Bydded fod doethineb yn eich llywodraethu pan yn cytundebu a chedwch allan, cyhyd ag y byddo yn ymarferol, y Judasiaid hyny a'ch bradychodd yn ngtyn a strike 1876. Tipyn o ryfyg, onite, ydoedd i'r pedwar hyny gymeryd arnynt eu hunain enwy gymydogaeth, pan y gwyddent ar yr un pryd na wyddai y gymydogaeth ddim am eu bwriadau ] Ond dyna, yr oedd y deml hono i Syr Sion Heiddyn yn wacach ar y pryd oherwydd effeithiau y strike, ac felly yr oedd yn rhaid cael yr hen weithwyr yn ol drwy ryw ffordd neu gilydd Y mae yn dygwydd hefyd fod llawer o gytundebau hynod, cyn yr un yma, wedi cael eu gwneyd lie y bnasai tafarnwr a diacon eglwysig yn 0 cydweithredu. Y mae un peth i'w deimlo yn ddiffyg pwysig yn yr ardal hon yn bresenol. Gynt, yr oedd yr ysgoldy at wasanaeth cyffredinol yr ardal. Dyna lie y cynelid cyngherddau, darlithiau, &c.; ond yn awr, nid oes lie i ddim heb fyned i saloons Syr John. Yr oedd yr hen ysgoldy wedi ei gyfodi gan drigolion y gymydogaeth ac o ganlyniad, yr oedd yr adeilad felly at wasanaeth y gymydogaeth. Yn ddiwedd.ar, pa fodd bynag, sefydlwyd Bwrdd Ysgol Llangiwc; ac yn rhyw ddull neu gilydd, gwerthwyd ysgoldy y gymydog- aeth i'r Bwrdd Ysgol. Mor bell, yr oedd pobpeth yn dda; a gallesid, o'r arian hyny, gyfodi adeilad cyfleus i'r gymydogaeth o'r arian a dderbyniwyd am yr hen. Modd bynag, nid felly y bu. Trosglwyddwyd yr arian yn un swm at glirio dyled Carmel Newydd. Nid cyfiawn ydoedd ymddygiad felly gydag arian y gymydogaeth, gan fod y gymydogaeth, megys cymydogaethau ereill, yn cael ei gwneyd i fyny o enwadau gwahanol i'r Annibynwyr. Y mae Bwrdd Ysgol Llan- giwc i'w esgusodi am wrthod gwasanaeth yr ysgoldy presenol at ofynion y gymydogaeth. Os yw y gymydogaeth wedi ei gwerthu fel hyn, nid teg beio y Bwrdd Yagol, ac nid iawn hefyd llysenwi neb o aelodau y cyfryw gyda'r enwau iselwael, Y Brawd Trochydd- ol," &c. Gobeitjiiwn, er hyny, na fydd y gymydogaeth yn hir cyn ymyagwyd am gael eto adeilad cyfleus at ei gwasanaeth.-Orotyn Crito.
Y FASNACII LO.
Y FASNACII LO. HYSBYSIR ni nad oes ond clwy lofa, o tua phedair ar ddeg. yn nghylchoedd Mahanoy, yn gwerthu nemawr o lo. OFNIR fod argoelion am strike i'w canfod yn mhlith mwnwyr dylfrynoedd y Shenango, Mahoning a'r Tuscarawas, Ohio. DYWED ein gohebydd o Hyde Park fod y glo weithian yno yn myned yn dda yr wythnosau hyn, gyda gwell argoelion am auaf prysur nag a feddylid ychydig amser yn ol. NEW STRAITSVILLE, Ohio,—Yn hynod araf mae'r gweithfeydd yn rhedeg yma yn awr-tna haner amser. Y mae yma fwy o Gymry nag a fu yma oddiar y strike ddiweddaf. STREATOR, Illinois.—Mae Gweithiau y C. W. & V. Coal Co. i gyd yn rhedeg amser llawn. Y Streator Coal Co. tua thri chwarter amser. CEDAR MINES, Iowa.- Yr ydym yn gorfod dyoddefllawer ymaoherwydd gormod o ddynion; nid ydym yn cael gweithio ond tua haner amser, ac nid oes argoel gwella. HAPPY HOLLOW, Illinois.—Mae perchenogion y gweithfeydd yma yn gwneyd ymgais i dynu cyilog y gweithwyr i lawr; mae arnynt eisieu i'r glowr dori en glo am 90c. y dunell yn lie doler CASEWiLLE, Kentucky.—Ychydig sydd wedi ei wneyd yn y pyllau yma or ys llawer o fisoedd, am fod yr afon mor isel. Maent newydd gy. J chwyn amser llawn. Y FASXACH HAIARN. DRWG genym orfod cofnodi atalfa. gwaith pibellau Evans, Dalzell, a'u Cwm., o'r ddinas hon, yr hyn a daflodd 400 o weithwyr yn segur. Ni welwyd erioed lawer mwy o brysurdeb yn melin fawr Jones a Laughlin, Pittsburgh, nag sydd yn bresenol. Mae ganddynt lawer iawn o archebion ar law o Dalaethau Lloegr Newydd. Mae y felin yn gweithio ddydd a nos. BELLEVILLE, Illinois. -Digon o waith, ond y cyflogau yn fychain. Mae adran yr hoelion yn gweithio tair awr dros ben amser. WHEELING, West Virginia.—Gweithir yn gyson yn yr holl felinau, oddieithr melin hoelion y Labelle. BYDD melin haiarn Middlesex, Swydd Mercer, Pennsylvania, yr hon sydd yn cael ei hadgyw- eirio, yn barod i weithio cyn hir. Y MAE chwech o ffwmesi y Bethlehem Iron Co., wedi eu cyneu yr wythnos hon, ar ol bod allan am chwe mis. Bu ffwrnes blast y Gap & Hollidaysburg Iron Company heb dan ynddi am ddwy flynedd hyd yr wythnos ddiweddaf, pryd y chwythwyd hi i mewn. ROME, New York.—Ar ol seibiant am dros flwyddyn o amser, y mae y felin rolio yma wedi dechreu gweithio er y 26ain o Dachwedd ond gweithio y dydd yn unig y maent eto. Eithr hyderir am lawn amser cyn hir, gan fod masnach yr haiarn yn adfywio ychydig trwy y wlad.
ALEOGRAPHIA, ATF, U LA PV…
ALEOGRAPHIA, ATF, U LA PV F-El., GYMBEIG. MR. GOL.Y mae yn eglur fod llwydd- iant annghydmarol Aleographia wedi cy- nhyrfu Ilid neu, o leiaf, anfoddlonrwydd rhywrai o deulu yr hen gyfundraethau o law fer, ond yn enwedig dysgyblion Pitman. Y mae yn eglur i bawb mai eu hamcan ydyw ceisio 11 add y gyfundrefn tra yn ei mabandod ond gallant henderfynu mai ofer ydyw eu gwaith. Y mae y gyfundrefn newydd hon wedi gafaelyd mor fuan, ac eto mor ddwfn yn Hen WIad y Gan, fel nas gall amddiffynwyr Mab Hengist, gyda'u holl fagnelau, ddistryw- io yr effeithiau da a grewyd yn mynwesau ieuenctyd yr oes. Dywedwyd ar y cyntaf, gan ddysgyblion Pitman, nas gellid byth ohebu yn ol trefn Aleographia ond y mae y llu llythyrau sydd erbyn hyn yn myned trwy y post bob dydd wedi chwilfriwio eu gobaith yn y cyfeiriad hwn. Ymddengys, hefyd, fod .Y Byrysgrifenwr yn teimlo i'r bywÏod newydd- iaduron Cymreig wedi datgan clod y gyfun- draeth. Onid oedd hawl ganddynt i wneyd hyn ? A oedd Byrysgrifenwr yn dysgwyl y buasent hwy yn ymgynghori ag ef yn gyntaf ? Ond pwy yw y Byrysgrifenwr hwn ? Paham na ddaw allan fel dyn gonest, a gosod ei enw priodol wrth ymdrin a. mater mor bwysig, yn lie dirgelu ei hun dan glogyn ffugenw ? Y mae wedi crybwyll enwau rhai ereill; paham na osodai ei enw ei hun 1 A oes ofn arno, fod yn rhaid iddo ddirgelu ei hun fel hyn ? Y mae safle uchel y boneddigion gymeradwy- asant Aleographia, yn nghyd a gallu diamheu- ol golygyddion Cymreig, yn nghyd a llwydd- iant yr efrydwyr, yn llawn ddigon i warantu defnyddioldeb Aleographia fel cyfhndraeth o law fer i'r Cymry. Fe fuasai y golygyddion Cymreig uwchlaw cymeradwyo peth gwael i'r genedl. Ymddengys i'r cymeradwyaethau hyn glwyfo Byrysgrifenwr yn chwerw iawn ond nid oes help i hyny. Af yn awr at y gofyniadau rhyfedd sydd yn y GWLADGARWR am yr 21ain o Ragfyr. Y laf a'r 2i1:- A ellwch chwi neu rywun arall yn Nghymru reportio pregeth neu araeth yn awr air yn air yn ol y gyfundrefn hon, &c 1" Os ydyw Byrysgrifenwr yn deilwng o'r enw y mae yn wisgo,° synwyf iddo feiddio gofyn gofyniad mor blentynaidd a hwn mewn papyr cyhoedd- us, "A ellwch chwi reportio!" Syned y byd, a rhyfedded merched sir Aberteifi, ac ystyried y gwr a r teitlau ar ol ei enw y gofyniad hyna eto Nid oes eto ond tua taith mis er pan ddanfonwyd y copi cyntaf allan i'r cyhoedd ac eto, dysgwylia Byr- ysgrifenwr i'r llyfr gael ei werthu a'i ddysgu yn° berffaith—i efrydwyr fod yn professional reporters mewn ychydig fisoedd Rhaid cael amser i bobpeth. Nis gellir gwneyd gwyrthiau trwy Aleographia; aeth oes y gwyrthiau heibio. Y mae cyrhaedd y safle o verbatim reporter, yn ol tystiolaeth Mr. Pitman ei hun, yn waith a gymer flynyddau o ymarferiad ac y mae canoedd na chyr- haeddant byth o'r safle hyna. Bai pwy ydyw, barnweh chwi. Bu Phonographia Mr. Mor- gans o. flaen y byd Cymreig am dros ddwy flynedd o amser ond pwy all reportio yn hono ar ol ei hastudio am saith mis ? Neu, yn wir, a oes rhywun o gwbl, heblaw profes- sionals, gyrhaeddodd y safle uchel yma I neu a oes professionals i'w cael ynddi ? Y mae yn syndod fod neb yn ceisio gan ddysgyblion Aleographia i wneyd, mewn ychydig o yr hyn nis gall y mwyafrif wneyd mewn cynifer o fijinyddau? Beth feddylid am ddyn 30 oed yn gofyn i blentyn ychydig fisoedd, A elli di, fy mhlentyn i, wneyd yr hyn a allaf n ?" Yn sicr, ystyrid y dyn allan o'i iawn bwyll. Eto, dysgwylia Byrysgrifen- wr i efrydwyr ieuainc Aleographia fod yn ysgrifenwyr perffaith yn mhen saith mis Er cystal yw y gyfundrefn newydd hon, eto, rhaid cael amser rhesymol i'w dysgu fel ag 0 gyrhaedd y safle o reportio. Y 3ydd :-I- Pa nifer o eiriau a ellir eu hysgrifenu mewn mynud yn ol Aleographia!" Y mae hyn, eto, yn ymddibynu ar allu a medr y dysgybl fel mewn cyfundrefn Pitman. Yr wyf yn sicr y gellir ysgrifenu yn fwy cyflym nag y gellir yn Phonographia. Profir hyn wrfch gydmaru nifer symudiadau y pin i wneyd yr un gair yn Aleographia a Phonographia. Y mae egwyddor y cyntaf yn llawn mor syml. Nid oes diagraphs i'w cael ynddi fel ag sydd yn Pitman'; y mae yn rhaid, gau hyny, ei bod yn gofyn llai o ysgogiadau y pin i ys- grifenu. Y 4ydd:—Nid wyf yn deall llawer o'r iaith Roeg; ond dywed yr awdwr yn ei grifenu. Y 4ydd:—Nid wyf yn deall llawer o'r iaith Roeg; ond dywed yr awdwr yn ei ragymadrodd i'r llyfr ei fod yn gyfansoddedigr o ddau air Groeg. Ond beth sydd a fyno Mr. Short Handwriter a hyn 1 Oni allasai yr awdwr ei alw yn beth a fynai ? Hyderwyf y gwna Mr. Byrysgrifenwr feddwl ddwywaith. cyn ysgrifenu unwaith i bapyr mor gyhoeddua- a'r GWLADGARWR mewn materion o barthed Aleographia. Cofied fod yr awdwr yn fyw, yr hwn, fel yr wyf yn cael ar ddeall, fu yn yn dysgu efrydwyr yn Phonography Mr. Pitman, ac yn ei deall yn drwyadl gyda'r un o'r rhai cyntaf yn Nghymru ac yn sicr, y mae yn alluog i amddiffyn ei system ei hun, os bydd eisieu. Hyderwyf na roddir y trafferth hwn iddo, gan fod ganddo ddigon a waith eisoes.—Yr eiddoch, &c., y tro hwn, Bridgend. D. DAVIES.
BWRDD YSGOL LLANGIWC.
BWRDD YSGOL LLANGIWC. LLYTHYR III. MR. GOL. Y mae yn eithaf eglur oddi- wrth eiriau Pio ei hun ei fed am i olygydd & darllenwyr y Tyst a'r Dydd ddeall ei fod ef ar y dechreu yn wrthwynebol i etholiad y "Brawd Trochyddol" a'r caethweision, a blegyd dywed "Nid oeddem ar y dechreu yn meddwl eu bod yr iawn ddynion i'r gwaith." Trueni, onide, fod gwr mor bwysig yn ei fam ei hun mor lleied ei ddylanwad ar ei gyd- blwyfolion. Sut, yn enw yr anwyl, y meidd- ias&nt arfer y fath hyfdra ac annibyniaeth ewyllys, a'n dewis ni yn groes i deimlad ac ewyllys ei arglwyddiaeth trahausfalch. Yn awr, fel na fyddo eich darllenwyr yn an- wybodus o'r hyn sydd yn ein hannghymwyso yn ei farn ef, digon i mi yw dweyd fod dau. ohonom yn Fedyddwyr, ac y mae hyny ar unwaith yn ddigon o reswm dros i Annibyn- wr mor ragfarnllyd a Pio X beidio meddwl ein bod ni yr iawn ddynion i'r gwaith. Y mae mor groes i'w deimlad ef i addef y dichoa dini da fod yn perthyn i Fedyddiwr ag oedd i Nathanael gynt i dybied y gallai dim da ddyfod o Nazareth. Yr oeddwn yn gwybod ychydig yn flaenorol i adeg etholiad y Bwrdd am ragfarn fy enllibwr tuag atom fel cyf- enwad. Nid wyf wedi annghofio y cic asyn- aidd roddodd ef i fi oherwydd fy nghredo Drochyddol, yr unig dro y bum yn ei dy ef. A'i ddull cyffredin, mae'n debyg, o gyfarch ei gymydogion Bedyddiedig yw Wel, yr hen Faptist, &c." Ac er prawf pellach mai y ffaith fy mod yn Fedyddiwr yw yr acbos ei fod wedi fy nrwgiiwio fel y gwnaeth, fe ddywedwyd wrthyf ar adeg etholiad y Bwrdd, a hyny gan frawd o Annibynwr, nad oedd ei fawrhydi yn foddlon fy mod wedi cael fy nghynyg yn aelod ohono a phan ofynais pa beth oedd ganddo yn fy erbyn, yr ateb gefais "Nis gwn, Williams, os nad am mai Bedydd- iwr ydych." Ymddengys i mi y dylem, fel cyfenwad o grefyddwyr, ddiolch llawer i Dduw nad yw pob Taenellwr mor elynol i ni a Pio X, pe amgen, byddai yn ddrwg iawn arnom. A diolch, hefyd, nad yn ei law ef y I mae llywodraeth y gwledydd, onide ni chelem godi ein penau mewn un gymydogaeth na [ gwlad ac y mae yn gysur i ni i feddwl fod 1 ei allu a'i ddylanwad mor gyfyngedig a di- | bwys, fel nad oes eisieu i ni arswydo dim oherwydd ei bull esgymunol yn ei wythnosol- .Y yn sectarol. 0! na anfoned ddwsin eto ohonynt, os gwnaiff hyny roddi ychydig o foddhad i'w ysbryd gwenwynllyd ac athrod- gar. Dywed hefyd Dewisasom rai o'r rhai goreu," eithaf Ja, gwnaeth ei fawrhydi yn llygad ei Ie; ond aroswch, nid wyf wedi gorphen y frawddeg, o na, canys dywedd a rhai o'r rhai gwaethaf." Dyma hi yn awr, hawyr anwyl, sut y darfu i Pio & Co. ddewis "rhai o'r rhai gwaethaf," ac yntau ar y dechreu ddim yn meddwl eu bod yr iawn ddynion i'r gwaith ond bydded i chwi, Mr. Gol., a'ch miloedd darllenwyr ddeall mai nid y Co., eithr y plwyfolion ynfyd a gwrth- nysig fu yn euog o'r fath anfadwaith O ie. yn siwr, efe i ddewis "rhai o'r rhai gwaethaf," na, nis gallaf goelio y fath beth. Trueni hefyd na fuasai y plwyfolion yn meddu ar gymaint o barch i farn a theimlad ei fawr- hydi Pionaidd, fel ag i beidio rhoddi en pleidleisiau dros wrthddrychau atgas ei ysbryd trahausfalch. Ond druan ohono, mae y parch sydd iddo gan y rhai a adwaenant oreu ei ysbryd sarug, cynenllyd, a thrawsarglwydd- aidd, yn hynod o fychan, pe yn amgen, celai well enw ganddynt na'r Hen Northman, a Sion Chwareuteg. Dywedodd beth gwirion- edd pan yn dweyd "Dewisasom rai o'r rhai gwaethaf," oblegyd ni ddewiswyd erioed aelod llawer mwy diwerth i eistedd ar Fwrcld Ysgol neu unrhyw fwrdd arall na dyn dewisedier Pio & Co., fel y profir gan lyfr y Bwrdd. Ac oni buasai fod rhai o'r aelodau yn fwy ffyddlon i bresenoli eu hunain yn y Bwrdd na'r gwr o'r Llwyn, ac yn fwy cymhwys nag ef i drefnu a chynllunio mesurau wedi dyfod yno, anaml y buasai cyfarfodydd y Bwrdd wedi cael eu cynal, a buasai y daioni a wnaed yn llawer llai. Ni fuaswn yn ysgrifenu fel hyn am dano oni buasai fod ei edmygwr yn ei ddyrchafu fel model man, o'r liyn°ddylai aelodau y Bwrdd nesaf, ao i osod y plwyfolion ar eu gocheliad rhag cymeryd eu harwain gan lith unochrog Pio X, i ddewis aelodau di- waith ac anngliyrnwys. Pwy, mewn gwir- ionedd, wrth ddarllen brawddeg fel hon :— Nid oeddem, ar y dechren, yn meddwl eu bod yr iawn ddynion i'r gwa^i" fuasai yn dysgwyl y gwnelai ei oruchafiSth ymostwng i ddatgan ar gyhoedd ei newyddiadur sectarol. "Ac y mae yn dda geir::m dystiolaethu eu bod wedi gwneyd ychydig o ddaioni, cawscmi- ynddynt ac oddiwrthynt beth daioni i addysg ae Ymneillduaeth." Wel, Mr. Gol., f8 gaw'd "peth daioni tuag at Arglwydd, Dduw Israel yn nhv Jereboam ac y mae'n debyg fod Pio & Co. wedi cael peth daioni yn ac oddi- wrth Fwrdd Ysgol Llangiwc i addysg ac Ym- neillduaeth Sut, yn el1w'r anwyl, y cafwyd peth daioni oddiwrth y Bwrdd uchod mewn I un ystyr, tra y mae dynion mor ddiegwyddor a'r Brawd Trochyddol, yr hwn sydd wedi tori I ei holl addewidion teg a'r caethweision, ya.