Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
ABERDAR. i
ABERDAR. i EBENBZER.—Cynaliwyd cyfarfod trimisol yr ysgol uchod,* nos Lun, Rhagfyr ISfed. Awd yn mken a'r cyfarfod yn y drefn ] craiilyriolTon gan y cor, "Y gwerthfawr i waed adroddiad gan Rachel Rees a Lienor ] Evaits ton gan y c6r, Mae d'eisieu di bob ( awr adroddiad gan Amy Richards a Margaret Thomas; ton gan y cor, Halle- i luiah fe'i gwnaed; adroddiad gan Margaret Howells a James Parsons; ton gan y parti, dan arweiniad Daniel J. Lewis: adroddiad gan John L. Davies a ft wen Williams; deuawd a chydgan, Mair Magdalen; adroddiad gan Amy Evans; ton gan y cor, "Wrth y Groes mae lie adroddiad gan James R. Pritchard; ton gan y cor, "Dis- srlaer wlad yr hedd;" adroddiad gan Mary Howells;" ton gan y cor, "Rhai anwyl aeth o'r blaen;" adroddiad gan Sarah Richards;" ton gan y cor, Rlio heibio r cwpan;" adroddiad gan James John; ton gan y parti eto; adroddiad gan Hugh Thomas; dadl, "Rhann'r deisien," gan Daniel Evans a'i gyfeillesau; ton gan y cor, "Tyn am y lan." Llywyddid y cyfarfod gan y parchus weinidog, ac arweiniwyd y Gobe'thlu gan Morgan Rowlands. Yr oedd y cyfarfod ar y cyfan yn un dyddorol a theimladol iawn. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cor a pliawb oedd yn gwasanaethu. Ter- fynwyd y cyfarfod wedi boddloni pawb, gyda dyumaiad am gael un arall yn fuan.- Gohebydd. MAWOLAETH,-Boreu dydd Gwener, yr 22ain, cyiisol, yn 69 mlwydd oed, bu farw Mr. Morris Saunders, tad y Parch. D. Saunders, Abertawe. Cafodd gystudd trwm am ddeg diwrnod, a dyoddefodd y cwbl yn amynedd- gar. Er ei fod yn ymwybodol fod y diwedd wedi dyfod, yr oedd yn berffaith dawel, a thystiolaethai fod ei enaid yn gorphwys ar "Yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Efe." Oladdwyd ef y dydd Mercher canlynol yn meddrod y tenlu, yn y cemetery, Aberdar. Yr oedd yn adnabyddus iawn trwy y dref a'r gymydogaeth, ac yn un a berchid yn fawr ean bawb a'i hadwaenai. Disymwth y daw siomiant! Ddoe'n y porth, heddyw'n y pant Ddoe yn fyw, heddyw'n ei fedd I Gwr anwyl, mewn gwirionedd. Trwy wybr deg tre' A-berdar,—traidd syndod 'Roedd Saunders mor hawddgar,— Neb mwy lTyddlawn, gyiiawn gar,—nag yntau, Ni rodiai, diau, ar hyd ei daiar. Yn y bedd y gorwedda,—hyd fore Adferiad plant Adda,— Cwyd yn llanc ieuanc, a Diludded i wiw wledda. I'r cyfiawn, da gwneir cofio,-—wedi bedd, Gyda'u bod yn huno, Daw enyd y dihuno, I wynfyd o gryd y gr6. Bore'r codi, BwreaiCv Ceidwad, egyr Ei dyogel gauad,— Iesu mwyn ga'i dlysau mad, Yn hwylus ar ei alwad. Ein 16a cyfiawn wna'n cofio,-yn y bedd Ni byddwn yn anngho';— Gwnaeth Iw i'n cadw mewn co' Yn y dyffryn—a'n deffro. WILLIAM.
YSGOLDY SILOH, GLANDWR.
YSGOLDY SILOH, GLANDWR. Nos Sadwrn. Rhagfyr yr 16eg, cynaliwyd cyfarfod Uenyddol yn yi- ysgoldy nchod gan Demi y Plant. Cymerwyd y gadair gan Mr. H. Davies, Plasmarl, a llanwodd hi yn rhag- orol. Trefn y cyfarfod oedd fel y canlyn Anerchiad gan y cadeirydd; ton gan y plant, "Angelion y N efoedd wen;" adrodd, "lesu Grist yn ei ing," gan W. Hopkin; solo, "Ni raid ymado," gan M. Treharne; adroddiad, "Christmas Cheer," gan D. C. Jones; solo, "Dros y gareg," gan T. Harries; adroddiad, "Robyn Goch," gan D. Davies; deuawd, "Ive wander'd in dreams," gan T. Harries ac R. Davies; adroddiad, "Bod yn rhyw- beth," gan W. Richards; deuawd, "Where do the Fairies dwell," gan J. Rees a H. Rees; solo, "0 anfon un llythyr i mi," gan J. Rees; trio, "Gwyn ei fyd," gan J. Rees, A. Howell, aT. Harries; adrodd, "Helynt yMeddwyn," gan R. A. Knoyle; solo, "Fe oeiodd fy nghariad," gan L. Lot; adroddiad, Cel- wyddwyr," gan D. Davies; solo, Cwymp Llywelyn," gan L. Treharne; adroddiad, "Ffarwel i'r clafarn," gan J. Bonham; pedr- awd, "Rhwydcl hynt i'r Temiwyr Da," gan J. Treharne, M. Treharne, T. Edwards, aM. Treharne; 4'Dadl ar Demlyddiaeth Dda? gan D. Rees, J. Davies, a W. Jones; anerch- fadau gan T. Rees, W. Williams, ac ereill. Terfynwyd y cyfarfod drwy i'r brawd R. Davies tranu solo. Er i'r tywydd droi yn wlyb, daeth cvnulleidfa luosog yn nghyd, a chafwyd cyfarfod rhagorol. Hyderwn y ceir gweled ei ffrwyth yn fuan, drwy fod llawer yn ymuno a Themlyddiaeth Dda.-Good Templar.
Advertising
BREAKFAST — Epps's COCOA. — GRATEFUL AND COMFORTING.—" By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of diges- tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr. Eppe has provided oui breakfast tables with, a deli- cately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be gradually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hundreds of suotle maladies are nonting around us ready to attack wherever there is a weak point. We may escape many a, fatal shaft by keeping ourselves well forti- fied with pure blood and a properly nourished frame.Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Sold only in packets labelled James Epps and Co., Homoeopathic Chemists. LBot°eddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glonfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn vchydig anliawddach ei wneyd na Starches ereill, ond pan y deuir dros yr anhawsdra. dywedir -fel Golchwraig y Frenhines, mai y Starch goreu a ddefnyddiwvd erioed ydyw. L92
YMADAWIAD GWEINIDOG Y GROES-…
YMADAWIAD GWEINIDOG Y GROES- WEN. Nos Lun, Rhagfyr 18fed, daeth tyrfa luosog yn nghyd i'r capel uchod, i roi ffarwel i'r pregethwr poblogaidd, y Parch. W. Nicholson. Gwyr pawb am Mr. Nicholson, ei fod yn ddyn da, yn bregethwr enwog, ac yn bregethwr pob enwad; a diamheu ei fod yn ddyn ag oedd ei eglwys a'i gynulleidfa yn edrych i fyny tuag ato, a tliebyg iawn y bydd yn anhawdd i Eglwys y Groeswen gael un yn fuan i lanw ei le. Yr oedd pawb yn arfer rneddwl fod yr iawn ddyn yn yr iawn le. Ond er y cyfan, yr oedd yn rliaid i'r L'erpwliaid ei gael, beth bynag a gostiai, er mwyn treio llanw y bwlcli niawr oedd yn aros yno ar ol y Dr. Rees. Llywyddwvd y cyfarfod yn fedrus gan Mr. Thomas, Llwyn- celyn, Yr oedd yn bresenol tua 30 o weinid- ogion, a siaradwyd yn dda iawn gan amryw ohonynt; yr oeddynt oil bron yn cydnabod mae colled fawr iawn oedd colli Mr. Nichol- son o'n plith. Tua chanol y cyfarfod, cyf- lwynodd Mrs. Phillips, Garth, (yr aelod hynaf yn yr eglwys) bwrs iddo, yn cynwys y swm o E46 5s., fel arwydd o barch diffuant yr eglwys a'r gynulleidfa tuag ato ef a'i deulu° ar eu hymadawiad. Am hyn y diolch- odd Mr. Nicholson mewn teimlad hiraethus. Wedi i ychwaneg o bregethwyr siarad a hyny 11 L-1 yn foddhaol ac i'r i'r perwyl, dygwyd y cyf- arfod i derfyn,-Blackwell, Peth newydd ar y ddaear,"—daear y Groes- wen wyf yn feddwl, ddarllenydd. Mor belled ag wyf yn cofio pump gweinidog sydd wedi bod yn y Groeswen, er pan adeiladwyd y capel, sef y Parch. William Edwards, Bryn- tail Hughes, Rees, a Chaledfryn. Bu Mr. Nicholson yma am bedair blynedd, ond efe a ymadawodd. Bu y pedwar blaenaf fyw a meirw yn y Groeswen, yn ddynion ymwybod- ol o'u sefyllfa uwchraddol, canys nid gweini i anwybodusion yw bugeilio eglwys y Groes- wen—eglwys sydd wedi ei maethu a'i dysg- yblu gan rai o brif ddynion y genedl. Mae rhyw urddas yn perthyn i eglwys y Groeswen. Er mwyn y darllenydd annghyfarwydd a hanes y gweinidog cyntaf-y Parch. William Edwards—crybwyllwn mai orwyr iddo yw Dr. Edwards, Caerdydd. Mae miloedd yn awr yn fyw a glywsant Mr. Hughes yn pre- gethu, a phregethwr gwych ydoedd—un o etholedigion yr esgynlawr. Cyfrifid ef a Dafis, Abertawe a Williams, Troedrhiw- dalar, yn dri chedyrn yr areithfa Annibynol. Hwyrach nad oedd ei ganlyniedydd, Mr. Rees, Pencader, ddim mor boblogaidd pre- gethwr a Mr. Hughes, ond yn mhell o'i flaen mewn dysgeidiaeth. Yr oedd Mr. Rees yn glasurol felly. Am y pedwerydd—Caledfryn —yr hwn oedd yr uwchaf o'r pedwar, fel dyn crwn, heb un hollt ynddo—pregethwr, bardd, a hanesydd. Gwyr holl Gymru am dano a pharchant ei enw fel un o golofnau cadarnaf y genedl. Bu farw yn y Groeswen, a chafodd angladd tywysog, a chofgolofn genedlaethol i nodi ei orweddfan yn mynwent ei eglwys, lie hefyd yr hnna yr anfarwol Ieuan Gwynedd, y plentyn athrylith hwnw weithiodd ei ffordd i goleg Dr. Pye Smith, pan oedd dylanwad yr enwad o blaid mab i weinidog, yr hwn oedd yn ceisio derbyniad ond plentyn ath- rylith yn troi y fantol gyda'r hen Dcloctcr Pye, heb ddylanwad enwau dwsin o weini- dogion wrth gwt ei application. Mor daraw- iadol y dywedodd yr anfarwol Emrys am leuan Gwynedd Gorphenodd eilafur, darfyddodd ei drallod; Diflanodd o'n golwg, disgynodd y lien Yn mysgyr enwogion mae dinas ei feddrod,- Marwolion anfarwol sy'n mynwent Groeswen. Bu y gweinidog ymadawedig yn y ty lie bu farw Caledfryn, o fewn ychydig i'r gladdfa lie gorwedd yr enwogion uchod. Yr oedd Mr. Nicholson yn weinidog ar eglwys ag y buasai yn dda gan rai o'n pregethwyr goreu ei bugeilio a gallasai deimlo yn sicr y bu- asai yr eglwys yn gofalu yn dda am ei angen- ion ef a'i deulu ac ar ol ei ymddatodiad cawsai angladd tywysog, a rhywbeth i nodi man ei fedd. Ond dewisodd Mr. Nicholson hen dref fyglyd Llynlleifiad, sydd yn llawn o ysbwrial y dinasoedd, o flaen hen dwyn iach- us y Groeswen, lie ceir adloniant i natur na cheir yn y ddinas fyglyd, sef awel iachus y bryniau, caniad yr adar, dwfr o'r graig (nid o bibellau heiyrn), llaeth o gadair y fuwch, heb un dyferyn o ddwfr afiach y ddinas ynddo. Hefyd, cawsai ambell gostrelaid o hufen llaeth gan Richard, Tyhen ag ambell hwy- aden fras, fel y cafodd H wfa Mon, pan ar ym- weliad cyntaf a'r Groeswen. Pan oedd Hwfa yn pregethu yn y Groes y tro cyntaf, fe aeth y brawd o'r Tyhen a hwyaden fras i dy Caled- fryn i wneyd ciniaw iddo ef a Hwfa. Yr ail waith pan ddaeth Hwfa yno cymerodd yr hen frawd gostrelaid o hufen llaeth yno i wneyd teisen iddynt, pan y cyfansoddodd Caledfryn yr ehglyn canlynol mewn tarawiad II wfa sy'n cael yr hufeM-- i'w faethu, Gycla'r foethus deisen Ond gynt, ar hynt, o'r Tyhen, Ehed odd bras chwyaden. Pan sefydlir Mr. Nicholson yn Lerpwl, fe glywir dweyd, "Dyma, weinidog i chwi o an- foniad yr Arglwydcl gwnewch yn fawr e hono. Pe byddai yr ysgrifenydd yno ar y pryd fe waeddai allan, Yn araf deg, weini- dogion, oblegyd fe ddywedwyd yr un peth pan sefycllwyd ef yn y Groeswen ac yr oedd pob arwyddion ei fod wedi ei anfon gan yr Arglwydd, oblegyd yr oedd wedi bod yn llwyddianus iawn am y pedair blynedd y bu yn y lie, a phawb yn ei barchu a'i garu, ac nis gallaf fi yn fy myw gredu fod yr Arglwydd mor anwadal a'i anfon o'r Groeswen." Eg- lwys y Groeswen, paid cymeryd dy hudo eto cymer Ty'nywern yn weinidog, a Evan Jenkins bach yn assistant. Y peth rhyfeddaf -fel yn dynodi eu haelf'-ydigrwydd—oedd i eglwys y Groeswen roddi tysteb i'w gweini- dog wrth ymadael. "Bydd ffyddlawn hyd angeu. a mi a roddaf i ti goron y bywyd," ydyw iaith y Beibl, ond rhoddedd gwyr y Groeswen dysteb am bedair blynedd o was- anaeth. Yr oedd genyf was amod unwaith wedi bod gyda mi dair blynedd, ac yn mhen mis wedi y tair blynedd gofynodd i mi, Meistr, a ydych yn cocli fy nghyilog eleni?" Atebais y gwnawn, a chynygiais iddo swm, prycl y gwrthododd, gan ddweyd fod arall yn cynyg rliagor iddo. Pan yn talu iddo ddydd yr ymadawiad dywedodd y dylaswn roddi iddo anrheg o benadur. Pe buaset," ebe fi, yn derbyn fy nghynyg mi a'th garaswn, ond gan dy fod "yn nenderfynu ymadael, ac yn ei wneyd yn bwnc arian, dos, rhoddaf air da i ti, a thyna i gyd." Onid felly y dylaaai ymadawiad y Groeswen fod ?—Iselfrgn.
NAVIGATION.
NAVIGATION. Cynaliodd yr Ysgol Sabothol pertliynol i'r Bedyddwyr yn y lie uchod, ei chyfarfodydd adroddiadol prydnawn a hwyr Sul, y lOfed o Rhagfyr. Cymerwyd y gadair yn y ddau gyfarfod gan y Parch. W. Jones, gynt o Tondu, yn awr yn Nelson Village, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. D. Jones, llywydd yr ysgol. Yr oedd y programme yn cynwys tua deg-ar ugain o wahanol ddarnau, pa rai oedd yn dal cysylltiad agos iawn a'r Ysgol Sul; ac yn y perfformiad ohonynt, gwnaeth y plant bychain yn ogystal a'r plant mawr, eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Cafwyd amrywdojiau hefyd gan y cor, dan arweiniad Mr. E. E. Thomas, Post Office. Dechreuwyd y ddau gyfarfod trwy weddi gan y llywydd, ac adroddiad o'r 15fed benod o Luc a'r laf o Job, gan aelodau yr ysgol. Ni welwyd y fath gynulliad yn y lie erioed o'r blaen, a thystiolaeth pawb oedd eu bod wedi mwyn- hau cyfarfodydd gwir dda. Llwyddiant mawr fyddo ar yr Ysgol Sabothol yn mhob man.-Aelod o'i- Ysgol,
TRELALES.
TRELALES. LLENYDDIAETH.—Nos Lnn, yr llegcyfisol, cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn ysgoldy y lie uchod. Beirniad y farddoniaeth a'r ad- roddiadau oedd y Parch. J. David, M.A. Beirniad y canu, Mr. J. Jenkins, Abercyn- ffig. AVedi cael anerchiad byr a phwrpasol ar yr achlysur gan y llywydd ac un o'r beirdd, awd yn mlaen yn y drefn ganlynolCanu "Merxtra Owen," C. Stenner; canu deuawd "Hywel a Gwen," B. Davies a'i gyfeilles; beirniadaeth y traethawd ar "Hunanymwad- iad," Anthony Powell; araeth ar y pryd (Saesnegi, Gomer Bach; adrodd "Englynion i'r iaith Gymraeg," (Ceinion Essyllt), R. Morgan, Cefn; beirniadaeth ar "Triban Mor- ganwg," Lales; adrodd DylanwadLLi-i'r Nos," ( Ceinion Essyllt), R. Morgan; canu'r unawd o "Deyrnasoedd y Ddaear," B. Davies; dar- llen Saesneg ar y pryd, M. Powell; araeth ar y pryd, Gwilym Cynffig; canu triawd, C. Stenner a'i gyfeillion; beirniadaeth y gan Seisneg i'r "Mynydd," rhanwyd y wobr rliwi\g Lales a Gomer Bach darllen Cymraeg ar y pryd, Gwilym Cynffig; adrodd "Merry Homes of England," M. Powell; beirniad- aeth y bryddest ar "Ufudd dod," Rhedynog; canu corawl "Jerusalem," un cor yn cystadlu, ac yn deilwng o'r wobr, sef cor Bethel, dan arweiniad B. Davies. Terfynodd hyn waith y cyfarfod. DAMWAIN.—Cyfarfyddodd un o'r enw J. Powell a damwain olidus yn Slip y Park, dranoeth i'r wyl uchod, trwy i ddarn o'r gluden syrthio arno. Y mae yn dda genym gofnodi fod gobaith am ei adferiad, er ei fod yn dyoddef poenau dirdynol oddiwrth yr iL effaith. —Lales.
PONARDULAIS.
PONARDULAIS. Yr ydym yn deall fod ein cyfaill Creidiol a'r ymadael a Phontardulais, er cymeryd gofal Llanfihangel, Cwtndu, Brycheiniog. Cynaliwyd cyfarfod yn ysgoldy yr Hendy, nos lau wythnos i ddoe. or cyflwyno Beibl hardd a phwrs o aur iddo. Da genym fod Oreidiol yn dringo i fyny, a deailwn fod hiraeth mawr yn M'nontardulais ar ei ol, canys yr oedd yn mlaenllaw gyda phob mud- iad daionus.
[No title]
DAMWAIN" YN MHENDARHEN.—Mewn ty yn High Street, yn y lie uchod, syrthiodd y llawr yr wythnos diweddaf, a disgynodd gweddw a'i plant i ddyfnder o 12 troedfedd yn nghyd a'r holl ddodrefn a feddent. Ni thorwyd dim esgyrn, ond ymddengys i rai o'r plant gael niweidiau lied drymion. Par- odd yr amgylehiad gryn gyffro yn yr ardal.
Advertising
PELENI HOLLOWAY-Iechyd a Hoenusrwydd- Mae yr afu mwyaf iach ar btydiau yn ddarostyng- edig i afreoleiddiad y peiriant treuliol, ond gellir ar unwaith ddychwelyd trefn trwy gymeryd y Pelenau byd-enwog hyn, y rhai nis gellir eu can- mol yn rhy uchel. Byddai dogn ynawr ac eil- waitli yn llesiol i bawb, ond dylai dyn claf gymeryd cwrs o honynt yn rheolaidd. Alae yn rhyfeddol canfod fel y cryfheir yr archwaith a'r treuliad gan y Pelenau hyn; a'r gallu a feddianant i ddwyn y trefniant corfforol i weithrediad iaclius. Ychwan- egant at gryfder gewynol a nerth meddyliol y rhai a'u defnyddiant. Mae Pelenau Holloway yn ami 3 n gwellhau clefydau y peiriant treuliol ar ol i bob moddion arall fetliu, ac y maent yn neillduol wasanaethgar mewn achosion o anhwylderau yr afu a'r arenau. 36o. THROAT IRRITATION.—The throat and windpipe are especially liabl" to inflammation, causing sore- ness and dryness. tickling and irritation, inducing cough and affecting the voice. For these symptoms use glycerine in the form of jujubes. Glycerine, in these agreeable confections, being in proximity to the glands at the moment they are excited by the act of sucking, becomes actively healing Sold only in 6d. and Is. boxes (by post for 14 stamps), labelled "JAMES EPPS & Co., Homoeopathic Chemists, 48, Threadneedie Street, and 170, Pic- cadily. London. 332 RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny olierwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow. dvvr; ond eto. y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn maihau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. I'. Gofaler, gan hyny. am gael y Paris Blue pedair- oiiglog, yn dwyn enwau I. RECKITT A'I FEIB- ION yn nghyda'r arwyddnod masnachoL 1441.
O'R GORLLEWIN.
O'R GORLLEWIN. (Allan o newyddiadwron Cymreig America). Hysbyswyd fod y furnace yn Warren, Ohio, i gael eu gwerthu y Sadwrn, Rhagfyr 2il, ar public sale. Cyfrifid hi yn werth §>11,000. Y mae Dicbold Safe Company, Ohio, yn bresenol yn cytlogi 97 o ddwylaw, sef un ran o dair o'r hyn arferant wneyd. Gwerthwyd meddianau v Girard Rolling Mill, Swydd Trumbull, Ohio, ar y 9fed cyfisol ar arwerthiant cyhoeddus. Y mae Dayton Car Works, yn bresenol yn cyflogi mil o ddwylaw. Y mae eu hadeilad- au a'u yards yn cuddio 14 anv o dir. Y mae Gavit Machine Works yn Philadel- phia wedi derbyn archeb yn ddiweddar am 160 o chilled rolls i gwmni yn Lloegr. Y mae y Powell Coal Company yn Cleve- land, Ohio, yn cyflogi 60 o ddynion, ac yn troi allan tua 100 o arfau miniog y dydd. Y mae en masnach yn fywiog. Yn Irontown, Ohio, y mae yr iron a'r steel f urnace yn aros o eisiau coke; y mae y Bel- fonte a'r Etna mewn blast; mae'r Lawrence yn ssgur. Y mae gwythien o banytes newydd gael ei ddarganfod yn agos i Fort Littleton, Swycld Fulton, Pennsylvania. Dywedir fod miloedd o dynelli o'r mwn gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio yn flynyddol yn America mewn paint, &c. Yn flaenorol, yr oedd yn cael ei allforio yrna o Germany. Gwnaeth Joseph R. Urham, foreman y Paxton Rolling Mills, Harrisburg, plate o ddur yn ol cynllun Dr. William Fields, yr hwn a ddaliodd tensile strain o 83,640 pwys y fodfedd betryal. Bydd y process hwn, pan ddygir ef i adnabyddiaeth fwy cyfiawn, i gymeryd lie y Bessemer T. rail a'r boiler plate. Da genym roddi ar ddeall i'n darllenwyr fod arwyddion calonogol a fiafriol i'w glywed am weithfeydd Pennsylvania ac Ohio. Y mae arwyddion gwelliant yn masnach yr haiarn er's mis neu ddau, ac yn awr y mae y cyfryw yn dechreu dwyn ffrwythau. Y mae gan y Thomas Iron Company chwech o ffwrnesi yn llawn blast yn bresenol, ac yn parotoi a'u holl egni er chwythu un arall i fewn. Y mae ymddiried fel wedi ei ail sefydlu yn y wlad. Dywed y Reading Eagle, fod cyfnod dy- munol- ar wawrio ar fasnach yr haiarn, ac felly, wrth gwrs, ar bob masnach arall. Dy- wed fod mwy o fywyd yn mhlith pobl yr haiarn yn Nwyreinbarth Pensylfania, ac fod ffwrnesi sydd mewn blast yn ymddangos i fod yn troi allan fwy o stock, ac yn cyflenwi y marchnadoedd yn fwy bywiog. Y mae gwaith cyson i'r ffwrnesi sydd mewn blast yn bre- senol, ond nid oes digon o argoel llwyddiant hyd yn hyn fel y gellir chwythu y lleill i fewn. Y mae masnachwyr yn y Lehigh Valley yn dal eu dwylaw i beidio gwertiiu yr hyn sydd ganddynt mewn Haw, gan credant y cant ychwaneg o bris eyn hir am dano. Y mae cwmpeini glo afhaiarn Philla- delphia a Reading hefyd yn cynyddu eu stock erbyn y dav/ y farehnad yn fwy bywiog. Y mae galw am y pig iron goreu yn barhaus, ond nid yw haiarn ail raddol mor fywiog yn y farchnad. Y mae fel pe bai awel iachus yn chwythu unwaith eto dros y gweithiau hyn, ac y mae yn ymddangos fod y cawr mawr haiarnaidd o Pennsylvania fel yn cryf- hau ei nerth.
MAR WOLAMTUA IT.
MAR WOLAMTUA IT. Medi 24, yn Somersville, yn Contra Costa County, California, yn 52 mlwydd oed. Mrs. Mary Prosser, gwraig Mr. William Prosser. Cafodd ei chystuddio yn drwm am dros flwydd- yn o amser. Ganwyd hi yn Troedyrhyw, Merthyr. Y mfudodd i America o Brynmawr, Sir Frycheiniog, yn 1848, a daeth i'r Dalaeth hon o Tamaqua, Pa., yn 1857. Yr oedd brawd iddi yn ddiweddar—gall ei fod yno yn awr—yn Reading, Pa. Ei enw ydyw Thomas Roberts, a dymuna Mr. Prosser gaelllybyr oddiwrtho. Tachwedd 12eg, yn Audenried, Pa., America, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Mary Williams, gweddw Mr. Llewellyn Williams, yr hwn afu farw chwe' blynedd o'i blaen hi. Ymfudasant i'r America o Mountain Ash dair olynedd ar ddeg yn ol. Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw. Yr oedd ein chwaer yn gre- fyddol er yn ieuanc. Ymunodd a'r eglwys Gynulleidfaol yn Glynnedd, dan weinidogaeth yr hybarch Morgan Lewis, a glynodd yn ei phroifes hyd y diwedd. Yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Cafodd gystudd trwm am wythnosau cyn i angeu roddi terfyn ar ei hoedl, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel. Dywedodd lawer gwaith nad oedd ofn marw ami, am y credai fod y (j-wr yr oedd wedi rhoddi ei hunan iddo yn abl i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw. Ar y 14eg cyfisol, daeth torf luosog yn nghyd i dalu y gyniwynas olaf iddi, a daearwyd ei gweddillion marwol yn nghladdfa Jeansville, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenj^dd.—John jIJ. Jones.
[No title]
Y mae llawer o'n rhianod ieuanc yn tybied eu bod yn swells tip-top yn en gwisgoedd newydd priodasol; ond beth ddywedent pe y gwelent wisg las briodas yn werth ugain mil o ddoleri. Wel, y mae boneddiges ieuanc o'r enw Miss May, yr hon sydd wedi ei di- weddio yn briodasferch i James Gordon Bennett, perchenog v New York Herald, newydd gael un yn werth y swm uchod o Ewrop. Dywedir na chafodd boneddiges erioed yn America wisg mor werthfawr.
Advertising
ENAINT HOLLOWAY,- Yn awr pan y mae y flwyddyn yn troi, doethineb fyddai ceisio gwella uurhyw glefyd a all fod yn y corff, yn enwedig y sawl sydd yn dj oddef oddiwrth glwyfau a chle- fydau cyffelyb, ac os esgeulusir pwy a wyr y can- lyniadau all ddilyn. Bydd yr Enaint hwn yn sicr o'u gwella yn drwyadl. Ymae yn glanhau y clwyfau, ac yn tynu y drwg allan o'i wraidd, ac yn adnewyddu iechyd perffaith. Drwy rinwedd di- gymar yr Enaint hwn, iacheir y coesau clwyfus, hyny yn hollol. Yr oedd y tath obaith i'r claf yn annghymeradwy yn yr amser gynt.
Trychineb ar y Mor.
Trychineb ar y Mor. Hanesion o North Shields a hysbysant fod. yr agerlong Claremont, Cadben North, o Lundain i Shields, wedi ei gyru ar y traeth, ond achubwyd y d wylaw. Tua saith o'r gloch, turawodd yr agerlong Tyne yn erbyn y pier, gan dori darn ohono ymaiih. Yna, gyrwyd hi yn erbyn y creigiau, a boddodd amryw o'r dwylaw. Diangodd y gweddill ohonynt i'r rhafiau, ond golchwyd hwynt i lawr yn fuan gan y tonau, a boddasant oIL Ymddengys fod eu nifer tua 16.
Yr ymgais at lofruddiaetli…
Yr ymgais at lofruddiaetli yn 4L') N^iiasnewydd Dygwyd Phillip Henry John Rosser, o flaen yr ynadon, dyddG.wner, ar y cyhudd- iad o gynyg llofruddio Mr. John Miles, arolygydd y trethi. Y mne Mr. Miles yn gwella, a gohiriwyd y prawf am wythnos. 1!1
[No title]
Bu gorlifiadau mawrion yn Portugal yn ddiweddar, trwy yr hyn yr achoswyd niweid- iau trymion i barthau amaethyddol y wlad. YMGAIS AT HUNANLADDJAD.—Dydd Gwener, darfu i ddyn o'r enw Henry James Morris, yn Bryste, wneyd ymgais benderfyn- ol i ladd ei hun. Dywed yr hanes ei fod mewn cyflwr tra isel o ran ei feddwl er ys tro, ac yn ofni y darfyddai ei waith. Yr oedd ei wraig ac yntau yn bwriadu myned i Gaerfyrddin, lie yr oedd ganddo ef amryw berthynasau. Pan oedd ef a'r plant yn y parlwr, torodd ei wddf a chyllell nes gwahanu y corn gwynt, ac ymdrechodd wneyd y rhwyg yn fwy trwy wthio ei fysedd iddo. Y mae yn awr yn yr yspytty, ac mewn eyflwr hollol anobeithiol. Disgynodd sypyn o gig o awyr gymylog yn Swydd Gasgon, North Carolina, yr 28ain o i. Hydref diweddaf. Trwy ei archwilio a microscope, bernir ei fod yn debyg i gig buwch, ac un dyn a'i archwaethodd a ddywed ei fod yn gywir yr un daste a chig eidion. Y mae y Cadfridog John O'Neill, yr hwn a arweiniodd yGwyddelod Ffeniaidd tua Canada er's ychydig flynyddau yn ol, yn bresenol yn Philadelphia yn pregethu i'w frodyr, nid am fyned i Canada; 0, na ond yn awr am iddynt sefydlu yn y Far West-iechyd. Gwna ymdrech, Jack. Y FERCH A'I CHARIAD. -Un tro dywedodd merch ieuanc yn Chicago wrth ei ehariad a fu yn cyfeillachu a hi am hir amser :—" Yr wyf yn credu fod ofn arnat i ofyn i mi dy briodi, oherwydd gwyddost yn dda y rhodd- wn i fy nghydsyniad mewn mynud," a chan guddio ei wyneb yn ei ffedog, dechreuodd wylo yn dost. WEDI COLLI.-Aeth bachgen a phiser tua phydew dwfn i godi ei lonaid o ddwfr; ond rywfodd, syrthiodd y piser o'i afael i waeiod y pydew. Aeth yn oi at ei fam, a chyda gwyneb siriol, gofynodd I t Alan), a ydyw peth wedi ei golli, os bydd well yn gwybod lie y mae? Nac ydyw, siwr," ebe y fam. Sut yr wyt yn gofyn peth fel ynal" "W el," ebe'r bachgen, "y mae y piser wedi syrthio i waelod y pydew COL. FRED. GRANT.—Cymerwyd y dyn. ieuanc Col. Fred. Grant, i'r ddalfa yr wyth- nos ddiweddaf yn Chicago, am beidio ateb rhyw reporter a ofynai iddo gwestiynau neill- duol. Vstyrir y weithred yn drosedd ar reolau synwyr cyffredin, ac yn erledigaeth ar hawliau personol. Tybia reporters, gellid meddwl, fod gyda hwy hawl i atal dyn ar yr heol, tebyg fel y gwna ysbeilwyr pen-ffordd, a pheri iddo roddi fynv iddynt hwy holl gynwysiad ei feddwl yn ddiseremoni. Pa le y mae y wlad yn gogwyddo, tybed? FFRWYDRIAD YN MHENYCAE,-Dydd Mercher, yn Mliwll Rhif 6, Penycae, cymer- odd ffrwydriad Ie, trwy yr hon y niweidiwyd David Jones, o 12 i 13 oed, mor drwm fel yr ofnir y terfyna yn angeuol iddo. z, METHIANT ARIANDY YN NGOGLEDD CYMRU. —Yr ydym yn deall fod y Bala Banking Co., Bala, .Corwen, a Dolgellau, wedi atal eu tal- iadau dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf. Achoswyd hyn, meddir, trwy iddynt roddi allan lawer o arian i gwmni sydd wedi methu. yn ddiweddar. Da genym hysbysu fod y North and South Wales Bank, yr hwn sydd wedi agor cangen yn y Bala, wedi datgan eu parodrwydd i roi arian i'r personau sydd a'u laarian yn gloedig yn y bane a nodwyd. Nid oes sicrwydd wedi dyfod o'r Unol Dalaethau, hyd yn hyn, pwy sydd wedi ei ethol i'r gadair Arlywyddol. COEFFORIAETH MEUTHYR.—Y mae yr ym- chwiliad i helynt y gorfiforiaeth yn Merthyr, wedi ei ddwyn i derfyniad, a dirprwywyr y Llywodraeth wedi dychwelyd i'r brif-ddinas. Y mae pleidwyr y mudiad hwn yn dra ffydd- iog y cant eu dymuniad, ac y bydd Merthyr yn fuan, yn dref gorfforedig. Ymddengys ddarfod i ystorm erwin o eira ymweled a pharthau o'r Alban yr wythnos ddiweddaf, a chwythwyd yr holl wifrau pell- ebrol i lawr, odcligerth un, nos Fercher wyth- nos i'r diweddaf. Crogwyd William Flanagan yn Manchester dydd lau, wythnos i'r diweddaf, am lofrudd- io Margaret Doberty. Cerddodd i'r dienydd- le yn hollol hunan-feddianol a didaro a btt farw yn uniongyrcliol wedi i'r drop gael ei 1 cly symud. Anfonwyd gorsaf-feistr or enw Wing, i garchar am fis i Coleford, dydd Sadwrn, am adael ei orsaf a thrwy hyny beryglu bywyd- au y teithwyr. YNYSOEDD JAPAN.—Yr ynysoedd hyn ydynt gyda'r ffrwythlonaf a mwyaf paradwysaidd ar wyneb y ddaear; ond ymddengys nad yw pob peth yn ddymunol yno, canys torodd gwrth- ryfel allan yno yn ddiweddar, pryd y cododd rhyw 2,000 o arfogion yn erbyn y llywodraeth. Lladdasant 500 o filwyr y llywodraeth, ond daliwyd yprit flaenoriaid ar y 6ed o Dachwedd, ac y mae wyth o honynt i gael tori eu ponau.