Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
Christmas Presents! j New Year's Gifts!! Ohurch Services in Aluminum and Gold Bindings, At the Gwladgarwr Office, Aberdare DYMUNA Mr. T. D. Williams (Eos Dyffryn), Royal Academy of Music, Llundain. HYSBYSU ei fod yn agorecl i dderbyn engage- jLl ments fel Beirniad mewn Eisteddfodau, neu fel Tenor mewn Cyngherddau. Am delerau, dyddiad, &c.. cyfeirer— T. D. WILLIAMS, K.A.M., 28, Ilheidiol Terrace, Packington Street, 1450 Islington, N.
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. E. J. LLEWELYN.- Rhy bersonol o lawer. Yr ydym yn terfynu v ddadl yn y rhifyn hwn. RoBYN.—Ysgrifenwch at bwyllgor'y cyfarfod y cyfeiriwcli ato. J. FRANCIS.—Yr ydym yn methu deall at ba beth y cyfeiriwch. COMMON SENSE.—Ni wnae cylioeddiad eich llythyr ond, agor y drws i ddadi annyddorol. Yr ydym wediderbyn llawer iawn o oJoebiaethan yr wythnos hon, pa r<Hi a gant ein sylw I manylaf. Gobeithitm y cyd- ddygir a ni am beidio sylwi arnynt bob yn nit 'ae mi am yr wythnos lion.
[No title]
Ni wnavm sylw o imrhyw ohcbiaeihan, etc., fwriedir i'w cyhoeddi, os na thyfeirir hWlJnt fel y canlyn ilr'tv:g H'(t, ■" To the mw-t 'C" t £ !V- vf:«v :H. <> 11 mimdW'office,: ■ lAherdare. fob wekebwn, taliadan, a Mythyrau masnachol i'w daiifon i J, O Walter Lloyd, 1of\) Gwladgaru-r" Office, Aberdare. -1:
Ol-drem ar rai o Brif Helyntion…
Ol-drem ar rai o Brif Helyntion 1876. AR d^rfyn un blwyddyn arall, yr hon sydd ar gael ei chladdu yn mynwent fawr blynyddau yr oesau, yr ydym yn dal ar I y cyfleusdra hwn i gyfeirio gair o anerch- iad at ddosbarthwyr a darllenwyr y CrWLAaoAiiwit. Yn gyntaf oil, erfyniwn amoch, un ae oil, dderbyn ein diolchgar- wch cynesaf a mwyaf diledryw am eicli ffyddlondeb i ni, ac y mae yn ddyled- swydd arnom gofio ein gohebwyr gallu- og, y rhai yclylit wedi cynal ein breich- iau mor ffyddlon yn ystod y il wyddyn sydd yn awr ar derfynu. Grwimethom ein goreu yn ystod y flwyddyn hon eto i lanw ein colofnau a phethau dy- ddorol a darllenadwy, a phrawf y tyst- iolaethau a dderbyniasom yn gvmerad- wyol o'n gwasanaeth na fu ein llafur yn ofer ac aflwyddianus. Pan yn dechreu ar flwyddyn arall, ni arbedwn draul na thilafferth er gwneyd y GWXADGAU wn yn deilwng o'ch cefnogaeth yn y dyfodol, ac ymddiriedwn eto yn eich ffyddlondeb fel dosbarthwyr a gohebwyr. Wrth ddethol materion i'n colofnau ni adwaenwn neb yn ol y cnawd, eithr rhoddwn le i bob achos teilwng. Cadwn ddrws agored i wyntyllu pob gorthrwm a thrais, ac ym- drechwn o&od gerbron ein darllenwyr • fraslun o bob peth pwysig gwerth ei wybod. Gyda chymaint a hyna o ragarweiniad taflwn gipdrem frysiog ar rai o brif hel- yntion y flwyddyn sydd yn awr ar ein gadjiel. Gan nad beth fu manteision a bendith- ion '76. rhaid i bawb gydnabod iddi fod o'r dechreu i'r diwedd yn un o'r blyn- yddau mwyafmarwaidd a difywyd mewn ystyr fasnachol. Achwyniadau a glywid a bob cyfeiriad—pob cangen o drafnid- aeth yn gruddfan dan faich gorlethawl o anweithgarwch-ein glowyr yn enill ond prin ddigon, a rhy brin yn ami, at eu cynaliaeth. Gweithfeydd haiarn Mor- ganwg a manau ereill, oddigerth rhai eithriadau, a'u melinau a'u ffwrnesi wedi sefyll, a'r gweithwyr tan yn gorfod ym- aflyd mewn rhywbeth nesaf at law, er cadw newyn o'u teulvioedd. Darogenir gan lawer, ac yr ydym ninau yn uno mewn gobeithion yn y cyfeiriad hwnw fod '77 i dori tirnewydd mewn masnach, ac y cawn weled adfywiad yn ein holl weithfeydd yn y gwanwyn dyfodol. Hyderwn yn wir y ca ein rhagobeithion eu gwireddu, ac ymweithia bywyd ne- wydd yn holl gylchoedd masnachaeth Prfdain a'r byd. Wrth adolygu ein helyntion seneddol, y mae yn ddigon eglur nad oes genym ryw lawer o Ie i ymffrostio. Policy y Toriaid y flwyddyn hon, fel cynt, fu gwneyd mor lleied byth ag a fedrent. Dim ond braidd cadw Ilestr y Llyw- odraeth i nofio a'u boddlona hwy, a hyny er sicrhau iddynt eu swyddi a'u cyflogau. Yn fuan wedi agoriad y senedd, dygodd y Prif Weinidog ei ysgrif ffol gerbron er. ycl^aij&gu y teitl o (<ymerodres" at deitlau blaenorol ein Brenines. Pasiwyd hyn yn ddeddf er holl wrthdystiadau GLADSTONE a'r blaicl Ryddirydig. Gwell genym ni, a chan filiynau o ddeiliaid teyrngarol eiMawrhydi fuasai iddi gadw yr hen deitl urddasol "brenines/' ond gan y meddai DISRAELI fwyafrif mawr yn y Ty llwyddodd i gario ei fesur yn fudd- ugoliaethus ac fel cydnabyddiaeth am hyny, feddyliem, codwydyn^auiesmwyth- feinciau Ty yr Arglwyddi dan y teitl o Iarll BEACONSFI1!HJD. Nid ydym ni yn grwgnach am iddo gael yr anrhydedd hwn, canys o ba-,vb byw bedyddioi efe o ddigon sydd wedi gwneyd mwyaf o was- anaeth i'w blaid ac wedi glynu wrthi drwy glod ac annsrhlod. v 0 Ni phroffeswn osod gerbron ein dar- llenwyr yr holl fan fesurau fuont dan sylw y Ty, a'r rhai a basiwyd yn ddeddf- au yn y wlad. Y cwestiwn mawr fu yn cynhyrfu, nid yn unig Prydain Fawr, ond hefyd Ewrop a'r byd, fu cyflwr an- esmwyth a therfysglyd y Talaethau Tyrcaidd. Diorseddwyd, a lladdwyd un Sultan, a dyrchafwyd arall yn ei Ie. Trowyd hwnw o'r neilldu, ac y mae ol- ynydd iddo yntau heddyw yn eistedd wrth y llyw yn Nghaercystenyn. Yn ystod yr haf diweddaf, merwinwyd olust- iau gwledydd cred gan hanesion am gyflafanau yn Bulgaria a manau ereill, na fu eu hail .na'ü duacli yn pardcluo dalenau cofnodol un oes na gwlad er dyddiau Cain, y llofrudd cyntaf. Y mae yr adroddiad o honynt yn ddigon i beri i ddynoliaeth dywallt dagrau o waed. Cynhyrfasant Ewrop fel crochan berw- edig, a mynodd y farn gyhoedd y Mhry- dain lefaru yn gryf ac yn groew yn eu herbyn. Cynaliwyd cyfarfodydd con- demniadol o honynt drwy yr holl wlad. Daeth GLADSTONE, BRIGHT, Dug o ARGYL, ieirll, a barwniaid allan yn anerth eu hyawdledd i gondemnio yr anfadwaith ae yr oedd cyfarfodydd yn cael eu cynal yn mhob tref a phentref bron trwy y wlad. Siaradodd y werin nior daranllvd nes gwneyd i fyddar-glustiau DIZZY and Co. i glywed, ac yn mhen ychydig dyma lythyr yn cael ei ddanfon oddiwrth Iarll DERBY, yr Ysgrifenydd Tramor, at gyn- rychiolydd Prydain yn Nghaercystenyn, zn y yn gorchymyn i hwnw wasgu ar Lyw- odraeth y Sultan am gosbi y fileiniaid fuont yn ymhyllu ar faesydd Bulgaria, Yr oedd ton ac ysbryd y llythyr hwnw yn gymeradwyol gan y wlad ond methai y craffus ymatal rhag gofyn pa le y buont cyhyd cyn cychwyn yn y mater. Beidd- iodd rhai aelodau Rhyddfrydol ofyn cwestiynau i'r Weinyddiaeth cyn toriad i fyny y senedd, o barthed i gigyddwaith n y Bulgaria, ond taflai DISKAELI y cyfan o'r neilldu, gan ddweyd nad oeddynt wedi i derbyn hysbysiaeth oddiwrth y Oenudwr Prydeinig. Ond o'r diwedd, trwy ddy- falneli ac egni Gohebydd y Daily JVews, cafwyd y creulenwaith i oleu dydd; a bu Mr. Schuyler, cynrychiolydd America, ar faes y gyilafan ac yr oedd ei adroddiad ef yn cadarnhan bron yr oil a ysgrifenodd Gohebydd y Daily JYe-iffs. Gorfu i weini- dogion Prydain or diwedd agor eu llygaid a'u clustiau, ac o'r diwedd danfonasant allan genad yn mherson Mr. Baring, er chwilio i mewn i'r helynt. Y mae y Cwestiwn Dwyreiniol eto heb ei bendor- fynu, ac y mae cynrychiolwyr prif allu- oedd Ewrop ar hyn o bryd wedi cyfarfod mewn cynadledd yn Nghaercystenyn er eeisio gwastadhau yr ymrafael. Nid oes genym ond gobeithio y llwyddant yn eu hymdrechion canmoladwy. Yn Hydref, y flwyddyn hon, dychwel- odd Cadben NARES a'i ddwy long-yr Alert a'r Discovery—ar ol gwneyd ym- chwiliad i For y Gogledd. Bwriadai ef a'i wyr, wrth gychwyn o Loegr yn Mai, 1875, i gyrhaedd hyd at y Pegwn Grogleddol, ond methasant fyned yn agos- ach na 400 milldir i'r lie anhygyrch hwnw. Yr oedd yr ia tragwyddol, a'r oerni ofnadwy, yn atalfeydd etfeithiol ar eu ffordd, a gorfu iddynt ddychwelyd, wedi gadael pedwar o'u gwroniaid i huno yn eira y Gf-ogledd. Tebyg y caiff y cwestiwn Gogleddol lonydd mwyach am rai blynyddau. Bythefnos yn ol, cynaliwyd cynadledd fawr yn Neuadd St. James, Llundain, yn mha un y cyfarfu prif fawrion a dysged igion y deyrnas, er gwrthdystio yn erbyn i Bryclain gydymdeimlo a, a myned i ryfel eramdcliffyn Twrci. Nid yw yn debyg i'r fath gynadledd erioed gael ei chynal yn Mhrydain, a diau fod yr areithiau a draddodwyd yno wedi glynu yn ystumog y "I y prif-weinidog a'i wyr. Gan nad beth fydcl ffrwyth y gynadledd yn Nghaer- cystenyn, yr ydym bron yn sicr na cha Prydain byth fyned i ryfel mwyach er ategu hen orsedd bydredig a gwaedlyd y Twrc. Palla ein gofod i ni gael sylwi arragov o helyntion 1876 ac yr ydym yn sychu ein hysgrifell trwy ddymuno, o galon, i'n holl ddosbarthwyr, ein darllenwyr, a'n gohebwyr, FLWYDDYNNEWYDD DDÀ.
I YR ARSYLLF A.
I YR ARSYLLF A. I Dyma flwyddyn arall ar gael ei threiglo i fynwent y blynyddau, a'i helyntion ar gael eu hysgrifenu ar dudalenau hanesyddiaeth. Blwyddyn fu '76 a vvasgodd yn galed a di- dosturi ar gefn y gweithiwr, ac y mae miloedd yn Morganwg a Deheudir Cymru wedi gorfod teimlo yn herwydd y marweidd-dra masnachol sydd yn gorwedd fel hunllef ar y wlad. Y mae yn dda genym ddeall, fodd bynag, fod arwyddion am ryw gyffro yn y gwersyll. Yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd fod Syr George Elliot, A.S., wedi gwneyd contract a'r Llywodraeth i anfon cyflenwadau o lo i'r llynges, a darogenir hefyd nad yw yr haiarn- frenin o Gyfarthfa ond yn dysgwyl am wastad- had y Cwestiwn Dwyreiniol cyn cychwyn ei weithiau. Barn a syniad pobl mwyaf hirben yn y cysylltiad masnachol yw y bydd rhyw gyffro er gwell yn y Gwanwyn hwn, ac yr ydym yn mawr obeithio mai felly y bydd. Y mae yn dra sicr mai Nadolig pruddaidd fu yr olaf i lu mawr o'n gweithwyr—dim rhyw lawer o luxeries ar eu byrddau. Nid oes genym ond datgan gobaith y tyr y wawr cyn haf '77, ac y gwelir ein gweithwyr yn fwy siriolbryd, a mwy o ffyniant a llawnder ar eu haelwydydd. Gwelir mewn colofn arall fod ein cyd-drefwr a'h cymodog, MR. MORRIS SAUNDERS, y dyn mwyaf o gorff yn Aberdar a'r cylchoedd, wedi huno yn yr angeu yr wythnos ddiweddaf, yn 69 mlwydd oed. Mab iddo ef yw y Parch. David Saunders, Abertawe. Yr oedd Mr. Saunders yn gymydug tawel ac yn ddyn un- plyg iawn yn ei gymeriad. Ni wnai efe gam a gwr yn ei fater, ac yr ydym yn gwybod hefyd ei fod yn un ag oedd yn of ni Duw, ac yn parchu dyn lie bynag y cyfarfyddai ag ef. Rhodded rhagluniaeth yfnef nawdd a chy- northwy i Mrs. Saunders yn ei hadfyd. CYNADLEDD CAERCYSTENYN sydd yn tynu cryn sylw y dyddiau presenol, ae y mae gobaith cryf y gwna y bechgyn pen- faith sydd yno lwyddo i dd'od i gytundeb heddychol ar y mater sydd dan sylw, fel na bydd achos tywallt rhagor o waed. Dyma dymhor hyfryd iddynt astudio mesurau hedd- wch yw y Nadolig, sef yr adeg pan fernir i Dywysog Tangnefedd wneyd ei ymddangosiad yn Methlehem Ephrata, a phan adseiniai y floedd yn awyrgylch Palestina,—" Gogoniant t,Y z-, yn y goruchafion i Dduw, ar y ddaear tang- nefedd, i ddynion ewyllys da." Yr ydym yn disgwyl gydag awyddfryd mawram AGORIAD Y SENEDD, ar yr 8fed o Chwefror nesaf, canys yr ydym yn dra sicr y bydd yno ryfel echrys mewn geiriau, ac fe ga yr hen veteran croendew Disraeli ambell fwled a fydd yn sicr o beri iddo dasgu peth. Y mao yr hen frawd Gladstone, yn ddiau, a llawer gydag ef, yn prysur lanw eu cawell-saethau ar gyfer y frwydr, a bydd gan My Lord Beaconsfield & Co. gyfrif trwm i'w roddi am lawer hum- bug o'u lieiddio. Er ein bod wedi digio yn arw wrth Gladstone am rai pethau pan oedd mewn swydd, eto, yr ydym yn rhwym o ddwyn tystiolaeth dros integrity y dyn, a chredwn y caiff efe fyw eto i sefyll wrth lyw llestr y Llywodraeth. Eisieu chwarter o ysgol sydd arno yn athrofa y dadgysylltiad, fel y gellir galw arno i ddwyn barn i fuddug- oliaeth, a dryllio y cysylltiad anachaidd sydd rhwng yr Eglwys a'r Llywodraeth.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Mae y pythefnos a basiodd wedi bod yn gyfnod tra phwysig ar For y Werydd, a llawer i long a morwr wedi myned i'r dyfnder yn nghanol yr ystorm odan ddylanwad rhyferth- wy y corwynt. Agerlongau mawrion yn chwilio am gilfach a glan er dyogelwch i fywyd a meddianau. Elfenau y cread fel yn ymgypris a'u gilydd pwy oedd i fod yn ben, a Dftfydd Jones, chwedl y morwyr, yn brochi gan gynddaredd a phoeri i ddanedd y creig- iau, ao yn lluGhio castelli nofiadwy, fel nad oeddent yn amgenach na nifer o blyf ar ei gefn yn nofio gydag hoenusrwydd. Byddai yn orchwyl lied anhawdd i'w gyflawni pe ceisiwn wneyd crynodeb o'r dygwyddiadau ag sydd wedi eu croniclo yn ddiweddar. Helyntion calon-rhwygol sydd wedi achosi llawer o ddagrau gweddwon ac amddifaid ag sydd heddyw yn gwbl ddiamdaiffyn yn gwynebu ar y byd heb ond ychydig neu ddim o ymgeledd. Nid oes neb a wyr y nawfed ran o beryglon y mor, oddigerth y cyfryw hyny sydd yn gorfod ymladd am gynaliaeth o flaen danedd yr ystorm, neu gipio ei fara o ganol corwynt, ac wrth wneyd yr ymdrech yn suddo megys ar amrantiad i gelloedd y dyfrllyd fedd. Prawf mordeithiau yr ager- longau adawodd y porthladd bythefnos yn ol, fod y tywydd mawr wedi dal llawer ohonynt ar For o Werydd, pan ystyriom fod rhai ohonynt wedi cymeryd pedwar diwrnod ar ddeg i groesi, pan y cawn fod yr un agerlongau wedi croesi mewn naw diwrnod, a llai na hyny, ar adegau. Dyua y Wyoming yn cymeryd pedwar-ar-ddeg o ddyddiau i wneyd y for- daith, a'r City of Berlin rywbeth yn debyg, yr hyn a brawf fod Neifion yn ei lawn gyn- ddaredd yn brochi a chynhyrfu nes codi dychryn ar bawb o gylch y glanau. Trodd y City of Bristol yn ei hoi o'i mordaith i Phila- delphia, a phan gyrhaeddodd i Qneenstpwn, YF oedd wedi colli hwylbreni a nifer o gychod, gyda'r ail swyddog a phedwar or, inorw Odid na fydd eto lawer o newyddion ar gael, pan ddaw pob peth i'r amlwg, a manylion o'r gwahanol anffodion sydd wedi myned gyda llifeiriant mawr y gorphenol. Mae helyntion trychinebau ar y mor a ffrwydriadau yn y glofeydd yn debyg iawn y naill i'r llall. Y blaenaf yn pery cyffro, a'r olaf yn cynyrchu braw nas gall neb ond y profiadol ei ddy- chymygu. Mae dyn yr Arsyllfa yna yn myned dipyn yn eithafol, pan y myn efe ymyraeth a rhyddid gohebwyr ereill. C>md rhyddid barn a llafar ydyw arwyddair y wasg Gymreig. Credwyf fod gan bob dyn hawl i feddwl a barnu fel y myno, heb ofyn caniatad yr Arsyllydd yn ei Arsyllfa. Pawb ei botes hun, frawd, ynadeg y gwyliau yma, a dos dithau i fwynhau dy hun tua Phenderyn, i gael dy gyfran o'r gwyddau tewion sydd wedi ei rhagddarparu ar gyfer eich pobl chwi-y Reverendiaidd.— Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Y Danchwa yn Abertileri.
Y Danchwa yn Abertileri. Cymerodd angladd rhai o'r truenusion a gollasant eu bywydau yn y danchwa uchod le dydd hn canlynol. Claddwyd dau yn Cemetery Brynmawr, ac yr oedd llu mawr yn bresenol. Yr ydym yn deall fod un arall wedi marw o'r rhai a niweidiwyd yn y ddamwain uchod.
Damwain Angeuol yn Mhencae.
Damwain Angeuol yn Mhencae. Cynaliwyd trengholiad yn Mhencae, wyth- nos i ddoe, ar gorff VVilliai* Miles, 18 mlwydd oed, tanwr, yn ngwasanaeth Cwmni Ebbw Vale. Yr oedd yn symud trucks dydd Sadwrn, a gwasgwyd ef rhwng dau ohonynt, a derbyniodd niweidiau a brofasant yn angeuol. Bu trengholiad arall ar govff bachgenyn 15 mlwydd oed, o'r enw, Arthur Tamplin, yr hwn a giciwyd gan geffyI, yn ei dalcen nes tori corn ei wddf. Yn y ddau amgylchiad, dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddam- weiniol.
Y PWNC DWYREINIOL.
Y PWNC DWYREINIOL. Hysbysir ni fod y gynadledd rag arweiniol wedi ei dwyn i derfyniad a dywed newydd- ion o Berlin fod y papyrau ydynt yn elynol i Rwsia yn datgan boddhad mawr wrth yr adroddiad nad yw Lloegr wedi cydsynio i Rwsia feddianu Bulgaria. Y mae y newydd- iaduron ydynt yn bleidiol i Rwsia yn awgrymu fod Rwsia yn barod i dderbyn gwarantiadau o nodwedd fwy cymedrol. Nid ymddengys, fodd bynag, fod ond ychydig seiliau i'r sibrydion am gyd-feddianiad gan y Ily galluoedd canolog. Ymddengys fod cryn an- rly ymddiriedaeth yn ffynu y daw y gynadledd i derfyniad heddychol, a thybir nad yw Rwsia ond yn dysgwyl am adeg ffafriol i agor y rhyfel. Dywed un newyddiadur Germanaidd fod y Tywys-tg Bismarck yn gwneyd ymdrechion mawrion i gael Lloegr i ganiatau meddianiad Bulgaria gan Rwsia ac os felly, na fyddai gwrthwynebiad Twrci o un pwys. Hysbysa newyddiadur cyfandirol arall fod hyfiorddiadau newyddion wedi eu danfon i Arglwydd Salis- bury i wrthod pob cynygiad am feddianiad arfog Bulgaria. Dywedir fod y fyddin Dyrc aidd yn Bulgaria i gael ei chwyddo i 200,000 o wyr. Dywedir fod arfogiad y Tyrciaid yn cael ei wthio yn mlaen gydag yni mawr. Y mae yn eglur, fodd bynag, nad yw y newyddion a'n cyrhaeddant, ar y goreu, ond damcaniaethau ac y mae yn anmhosibl i broffwydi y newyddiaduron ddweyd, gydag un math o sicrwydd, pa fodd y try pethau allan yn y gynadledd. Y mae Midhat Pasha wedi ei ethol yn brif weinidog gan y Sultan, a datgana ei fod trwy hyny yn rhoddi prawf i'r byd o'i awydd i lywodraethu yn dda, ac i ategu hawliau cyf- reithlon yr ymerodraeth. Y mae y cenadon yn Nghaercystenyn wedi penderfynu, osestyn- ir y cadoediad, y bydd yn angenrheidiol nodi y llinell wahaniaethol yn Bosnia. I'r perwyl hwn bydd pob un o'r galluoedd yn anfon Consul a Ijlywydd milwrol. Dywedir fod rhai yn cynyg am i gatrodau o Belgium fedd- ianu Bulgaria, ond y mae papyrau Twrai yn wffto y fath syniad.
"Samson" yn Aberdar.
"Samson" yn Aberdar. Dydd Nadolig, am dri y prydnawn, rhodd- wydyperfformiad cyntaf o'r oratorio ardderch- og uchod. Yn fuan, llanwyd y neuadd, a gorfu ar ganoedd lawer ddychwelyd, wedi I gwneyd ymgais aflwyddianus i fyned i mewn. Aethpwyd drwy y gwaith yn dda iawn, ac ystyried nad oedd yr un rehearsal gyflawn wedi ei chynal yn mlaenllaw. Hefyd, caf- odd seindorf Cheltenham eu camarwain gan awdurdodau y rheilftyrdd, a methasant gyrhaedd i Aberdar ar gyfer,y perflbrmiad hwn. Felly, aethpwyd yn mlaen a'r cy- ngherdd gyda'r string instruments yn unig. Canwyd y solos yh gampus gan Miss Mary Davies, Miss Harries, Mr. J. Sauvage, Mr. T. Howells, Mr. Brandon, a Mri. T. S. a W. Thomas. Cawsant dderbyniad brwdfrydig, ac encoriwyd amryw ohonynt ar y prif unawdau. C6r Undebol Aberdar oedd yn canu y corawdau a'r oil dan arweiniad Mr. Rees Evans. Yn yr hwyr, cafwyd cyngherdd amrywiol, pryd y gweinyddwyd gan rai o'r artistes crybwylledig. Yr oedd y band yn gyflawn yma, ac encoriwyd hwy yn fyddarol, am ddetholiadau o "Masaniello" a "Barber of Seville." Dydd Mawrth, yn y prydnawn a'r hwyr, cafwyd "Samson" drachefn. Yr oeddtyrfa- oedd mawrion wedi ymgyirull eto, a'r per- fformiadau yn tra rhagori ar eiddo y dydd o'r blaen, i raddau, yn ddiau, am fod y band, yn gyflawn,, a gwell dealltwriaeth yn bodoli rhwng y lleiswyr a'r offerynwyr. y Yr oedd y cyfan yn llwydcUant mawr.
Advertising
NEWYDD PWYSIG pAHAM y dyoddefir oddlwrth glefydau c bob math ] Am y rheswm nad j'w'i JJODI ^n cymervd y Feddyginif.,eth bwrpasol at 3 lu h £ ,ny a= y mae y C01'ff yn dyoddef oddi- wrthynt;. J eJy. dalier sylw,—Pawb sydd yn dy- oddef oddiwrth y Dropsy, yr hyn sydd yn arwyddo crynodeb o ddwfr a gwynt \ai ngwahanol bibellau y c*rn dynol, yr hyn sydd yn gweuwyno y gwaed, a thrwy hyny yn effeithio ar yr Ymenydd, yr Afu, yr Ysgyfaint, y C-ylla, v Galon, vr Arenau. a'r Nerves, i'r fath ra-ldau fel ag i achosi Foen yn y Cefn, yn yr Arenau a'r Perfedd. Diffvg Dwfr, yr hwn sydd yn dew a chymysglyd, (iwynt yn y cylla^a r j^erfedd, cramp, cwsg a phoen yn y clun- lau a r traed, chwydd yn v traed, y cluniau, yr ymysgaroedd, a'r eylla, curiad y galon, diffyg anadl, peswch, syched, corff-rwymedd, poen yn y pen, oloesiadau, penysgafnder, gwendid, diffyg archwaeth, oerfel, traed oer, asthma, nerves egwaiij at yr anhvvylderau hyn y mae A PATENT Rhag y Gwynt, y Dwfr, a'r Grafel, yn anflfaeledig, Ac os cymenr nwynt mewn pryd, fe gynyrch- ant wellhad uniongyrchol. Pan fydd y clefyd ^hir barhacl dilyner arnynt am beth am^er. Oanoecld ailant dystiolaethu i effaith neilldu- ol'y Peleni rhyfedd hyn. Rhai ohonynt a ddodir yma :— « rvaf ° ^'I-a,es. Pontardawe, a ddywed Deibyniais tijrchaid o'ch Pills hynod, 'Hughes's Patent Dropsy Pills' dydd Llun diweddaf, ac yr wyf yn eu cymeryd oddiar hynyhyd yn awr (dydd Sadwrn) ac ymaeht 711 gwneuthur lies maw i mi me%ra cyn lleied o amser.-Rhoddes haner dwsin i fy nhad, ac y mae ar yr ychydig hyny yn teimlo llawer o les. r oeddwnyn achwyn oddiwrth boen yii pen ac yn y cefu, gwynt yn y cylla, dim ar- chwaeth, ac yn ami ddiffyg dwfr." — M-1.' Phillips, (xianmor, Llanelli, wedi bod rhwne peclair a phum mlynedd yn methu cerdded oble-vd y dropsy, chwydd mawr iawn dros yr holl gorff dniyg mawr ar y dwfr ac ar yr anadl, y galon yn euro yn en byd, yn awr, wedi cymeryd tua thri blychaid o Hughes s Patent Dropsy Pills" tuaa* at y gwynt, y dwfr. a'r gravel, yn gallu myned oddi amgylch y dref -y chwydd vn llawer llai, yr anadi yn Hawer gwell, ac wedi teimlo mwy o les oddiwrth yr ychydig hYll na holl foddion y doctor- iaid a gymerais am yr amser maith yr wyf wedi bod yn glaf. \r wyf yn gobeithio y caiff v byd wybod am danynt. GwelUmd hynod ^R,r.r. yn awyddus eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr lachad wrth gymeryd eich Pills rhagorolchwior enw "Hughes's Patent Dropsy I-oeddem er s amser bellach yn cael fv iviv10gr^ ?fawydd yn y Cluniau a'r Ymysgaroedd Diffyg Dwfr ac ar yr Anadl, Poen yn y Cefn ac yr|fa yn Curo y1'- enbyd rhai gweith- lau Diffyg 1 reuliad. a r gwynt yn fy mlino yn ami, ac er mawr syndod y maent hyd yn hyn wedi symud ymaith Fits neu Heintiau, y rhai sydd wedi fy mhno er's blynyddau. Yr 'oeddym yn eu cael weithiau yn bur aml.-Yn dra diochgar ydwyf, A. E. J ONES, William St., Llanelli. ° lie/;i.itcred Trade lIfark-" Dropsy Pills." Y mae'r Pelenau hyn wedi eu Registro ac vn Patent. Cospir pob dynwarediad. Gofaler cael enw JACOB HUGHES" ar Stamp, y Llywodraeth. Ar werth rnnim Blychau gan holl Chemists y deyrnas am Is. Uc 2S 9c. a 4s 6c., gydaW Pol ■Ls. Zc., .v6. il(,M a 4s. 9c., gan y Patentee- Jacob Hughes, Apothecaries' Hall, Llanelly. London Agents-Barclay & Sons. Sutton, & Co banger, Hovendon, Newbury, Herron, Squire, and Francis; Bristol; Pearce & Co., Warren & Co Liverpool: Evans & Co., Ptaimes & Co. and John Thompson. 1461 EisteddfQd y Crwys. IONAWR 25AIN, 1877. Prif Destynau. r heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu Rhyfelgan Gwalia," o'r Gerddorfa ■ 8p Thoiuas, If™ £ h?4"Mai'" a Jones* ^fanoynoreu Deoni," o lyfr Stephen8 Traethawd ar "Hanes y Crwys am y Can' mlynedd diweddaf; Ip. ET^STS i>P diweddar "Mr- T°M Wedrog Bchrrtiaid:— Y Canu—MR. D. PRANCIS, Treforris. r Farddomaeth—WATCYX WYN Prwjramniex i'w «ael gan Mr. F\REBERICK hJ?' 66 Crosses' I3enolawdd, Swansea. 1442 Philadelphia, Hafod, ger Abertawe. CYNELIH EISTEDDFOD yn y capel uchod prydnawn dydd SADWRN, CHWEEROR 17 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn canu, adrodd, cyfansoddi, &c. Prif Ddarnau Cerddorol. 1. I'r cer, heb fod dan 30 mewn nifer a ddari Myaydd"«" l rii^r ,unYnifer a ddadg,no yn oreu T i 0 Lyfr Canu Cynulltidfaol Harries. Jone.s, a Jflcnoell; g"\vobr, lp. • Bydd y gweddill or testynau ac enwau y beirn- laicl, &c l w cawl yn y programme, vr hwn a fvdd yn barod Ionawr laf, 1877, ac i'w gael am y prS arferol gan yr ysgrifenydd,— 1 Near Pentre G-ate, Swansea/AMIN Just published, post free 3|cL and HOW TG CirRf? II, WITHOUT EXPENSIVE CONSTTT MTI°NS EXOitBITANT ME1«Sl FEES. Showing the nefarious system of terrorism ana extortion practised on real or imaginary suffer ers from nervous and other disorders by a certain cla^s of medical practitioners. This pamphletS not an advertisement or preface to expensive co" sultations and high medical fees, but is designed as a warning and a caution to those who suffer from nervous debility, at the same time pointing ouf; the means of self-treatment (which can be followed without reference to the author), and containing the necessary prescriptions and dietetic rules to hi observed during the treatment; by one who haa suffered from misplaced confidence in medical im- position and quackery. London: H. BROMLEY, 15, Edith Villas, North End, S.W. 1293