Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. Y mae llofruddiaeth a phob math o greulon- deb yn myned ar gynydd yn y wlad. Nid oes diwrnod, braidd, yn myned heibio na chlywir am ryw weithred ysgeler wedi ei chyflawni yn rhyw barth neu gilydd o'r deyrnas. Gan nad pa faint o farweidd-dra sydd vn ffynu mewn galwedigaeth ereill yn ein gwlad, nid oes gan Marwood le i achwyn, oblegyd y mae efe wedi bod yn dra phrysur drwy gydol y flwyddyn, ac y mae ei rag- olygon am y dyfodol yn edrych yn llewyrchus iawn. Ychydig ddyddiau yn ol, synasom yr holl fyd gwareiddiedig gan ein bloeddiadau digofus am greulonderau y Twrc yn Bulgaria. Ond gyda'r priodoldeb mwyaf, galiasai y Twrc ddweyd wrthym am edrych yn nes gartref. Y mae cyn bened Bashi-Bazouks i'w cael yn y deyrnas hon a anadlodd erioed, a chyflawnwyd ynddi, yn ystod y flwyddyn hon, luaws o greulonderau a ddalient gyd- mariaeth mewn ysgelerder a'r gwaethaf a gyflawnwyd yn Bulgaria. Y mae Cymru erioed wedi bod yn dra rhydd oddiwrth lofruddiaethau a throseddau mawrion, a byddwn fel cenedl yn dra hoff o ymffrostio yn hyny ond y mae hithau, ysywaith, wedi diwyno ei chymeriacl yn resynus y flwyddyn hon. Rhaid iddi droi dalen newydd, onite rhaid i ni fod yn fwy cymedrol o hyn allan yn ein hymffrost parth ei phurdeb cymdeith- asol. Ymddengys fod "Nosweithiau gyda Mabonwyson" yn dyfod yn boblogaidd iawn gyda chwi yn Neheudir Oymrn. Y mae yn dda genym weled fod. gobaith y cedwir y bardd yn 'ein plith eto am dymor maith, beth bynag. Pa bryd y bwriada anrhydeddu y brif-ddinas a "noswaith?" Bydd yma bawb, o Dywysog Cymru hyd at y shoe-black, yn falch i'w weled, ac yn barod i'w roesawi. Y MAE y flwyddyn 1876 yn agos a dirwyn i ben, tra y mae y Pwnc Dwyreiniol eto yn aros heb ei benderfynu. Cyn pen llawer o oriau eto, bydd y flwyddyn ddwys ganlyniad- ol hon wedi tynu ei hanadl olaf, ac wedi ym- lithio i dragwyddoldeb gan adael penderfyn- iad y pwnc pwysig a dyrys hwn yn gyrnun- rodd i'w holynydd. Y Gynadledd sydd yn awr yn eistedd yn Nghaercystenyn, yn nghyd .a'r canlyniad a ddeillia ohoni fyddant ond -odid, yn ffurfio rhai o'r, os nad yr helyntion pwysicaf yn hanes Ewrop yn y flwyddyn 1877. Ond y pwnc mawr yw, "beth fydd ,canlyniad y Gynadledd-pa un ai heddwch ynte rhyfel ? Y mae y newyddion a ddaw i ni o ddydd i ddydd o'r Cyfandir i ryw radd- au yn obeithiol, a cheir gwleidyddwyr o safle a phrofiad yn datgan nad oes i ni eto achos i •ofni na phenderfynir y pwnc yn heddychol; ond gan ei bod o fewn cylch galledigaeth y dichon rhywbeth eto ddygwydd a wna'r -Gynadledd yn ofer, y mae y pwnc o hyd yn parhau i gadw tyrnasoedd Ewrop yn llawn pryder, a'r byd masnachol yn ansefydlog. Barnwn y buasai yn well o lawer pe buasai JVrglwydd Beaconsfield heb draddodi yr ar- eithiau hyny yn Aylesbury, ac yn y Quild- ihall a chredwn hefyd na chyrhaeddwyd un daioni, eithr yn hytrach y gwrthwyneb, drwy y Gynadledd ddiweddar yn Neuadd iago Sant. Nid yw areithiau nac ysgrifen- iadau y naill blaid mwy na'r Hall wedi cyfranu dim tuag at gynorthwyo y Cynrychiolwyr i ddyfod i benderfyniad baddhaol ar y pynciau dyrys sydd o dan eu hystyriaeth, eithr yn hytrach y maent yn sicr o fod wedi ychwanegu yr anhawsderau sydd ar eu ffordd i gyrhaedd yr amcan hyny. Yn y cyfwng pwysig hwn y mae rhyw gymaint o foddlonrwydd i wybod fod y deyrnas hon yn cael ei chynrychioli gan wleidyddwr sydd yn deilwng o ymddiried y genedl. Y mae cyfrifoldeb Ardalydd Salis ;J. 1_1 bury yn aruthrol o fawr, ond nid oes achos ofni na fydd iddo gynawni' ei ddyledswyddau pwysig er anrhydedd iddo ei hun, ac i'w wlad. Gwelwn fod ein cyfaill hoff o'r Arsyllfa yn camsynied tipyn ar y sylwadau a. wnaeth- om yn ein ilythyr cyn y diweddaf mewn perthynas i'r Gynadledd ddiweddar yn Neuadd Iago Sant. Yn y llythyr hwnw awgrymasom y dylasai y Gynadledd fod wedi ei chynal yn gynt, ac y dyhsai fod cyfarfod- ydd wedi cael eu cynal drwy hyd a lied y deyrnas er galw yn groew ac awdurdodol ar ein gweinidogion i roddi i fyny awenau y Llywodraeth yn ddiymaros, os oeddynt yn dilyn policy annghyfiawn ac un niweidiol i lesiant ein teyrnas. Y mae ein eyfaill yn gofyn beth oeddynt y cyfarfodydd cyhoeddus a gynaliwyd yn y deyrnas hon yn Awst, Medi, a Hydref ? Wel, cyfarfodydd oeddynt er dangos digllonedd y wlad hon yn herwydd y creulonderau a gyflawnwyd gan y Tyrciaid mileinig yn Bulgaria, ac hefyd er condemnio ein Gweinyddiaeth am y tybid fod eu policy yn groes i hynyna. Yr ydym ninau yn dal, gan yr amcenid i benderfyniadau ac areithiau y Gynadledd yn Neuadd Iago Sant ddylan- wadu ar ein Gweinyddiaeth mewn perthynas i'r policy oeddynt i'w ddilyn yn y Gynadledd yn Nghaercystenyn, y dylasai y Gynadledd hono fod wedi ei chynal yn nghynt, oblegyd yr oedd ein Gweinyddiaeth wedi trefnu eu policy mewn perthynas i'r Gynadledd yn Nghaercystenyn, wedi rhoddi eu cyfarwydd- iadau i Ardalydd Salisbury, ac yntau wedi ymadael, a gwneyd y cyfarwyddiadau hyny yn hysbys i'r Galluoedd Mawrion ar y Cyfan- dir, yn hir cyn bod son am gynal y cyfarfod yn Neuadd Iago Sant. Ni a obeithiwn y bydd yr eglurhad uchod yn foddhaol i'n cyfaill. Y mae efe yn gwybod beth yw ein golygiadau gwleidyddol er's blynyddoedd. Gallwn ei sicrhau ein bod wrth wneyd y sylwadau ar bynciau gwleidyddol yn ceisio sangu mor ofalus byth ag y gallom. Os y bydd i ni gymaint a rhyfygu gosod hyd y nod blaen ein troed ar y tir gwaharddedig, byddwn yn ddiolchgar iddo am ein galw i gyfrif, ac i ddweyd tipyn ar ein profiad. Blwyddyn newydd dda iddo ef, ac i bawb o ddarllenwyr y GWLADGARWR.
Y STRIKE YN LLANELLI.
Y STRIKE YN LLANELLI. MR. GoL., --Mae'r strike yma yn para yn ei pherffeithrwydd hyd yn hyn, ac yn bur debyg o bara os na w ia y gweithwyr gyfnewid cryn dipyn yn eu barn i'r hyn ydynt yn bresenol. Y farn gyffredin yw, y bydd yn rhaid i'r cig moch a'r tatws ddarfod cyn y darfydda'r strike. Wrth ddweyd hyn, carwn i'ch darilenwyr ddeall nad oes gan bawb y pethau hyn, ond yn ymddibynu yn unig ar drugaredd rhywrai ereill. Mewn cyfarfod a gynali wj'd gan y glowyr dydd Llun wythnos i'r diweddaf, yn yr Union Tavern, Felinfoel, penderfynasant nad oeddent i roddi un math gynvgiad i'w meistri hyd nes y byddai i'r meistri alw am danynt. Y mae yma rai, mae'n wir, eisieu rhanu dylai y eyfryw gofio inai nid bloeddio strike hyd farw ar y dechreu, a gwaeddi gwell yw rhanu yn mhen rhyw ddeg wythnos o amser, a wna'r tro i ddynion fod ag ymddiriedaeth ynddynt mwy, a cholied ereill hefyd nad ydyw rhaff hunanles mor gryfed a rhaff cloch eglwys y plwyf. Y mae y glowyr wedi dechreu cael tipyn o gynorth- wy gan eu cydweithwyr yn Morganwg a Mynwy, a thrwy hyny credir y parha y strike dipyn eto. Ond y gwir am dani, pe buasai deddf ad-daliad wedi eymeryd lie yn y ddwy sir uchod, buasai strike Llanelli ar bfcner's wythnosau hefyd. Gobeithio mai felly y bydd hi o hyn allan, iddynt gael euro hon i'r clawdd, beth bynag.—Yr eiddoch, CYMRO.
GOHEBYDD YB "EXPRESS" YN Gwimo.
GOHEBYDD YB "EXPRESS" YN Gwimo. M-R. GoL.—Rhaid i mi grefu arnoch am ofod fechan i wneuthur sylw neu ddau ar lythyr gwyntog gohebydd y Merthyr Express yn y GWLADGABWR diweddaf. Mae yn.flin genyf fod y gohebydd uchod wedi llusgo enwau Mathetes a Mr. Davies i'r ddadL gecryddol hon. Ni fu impudence f wy noethlymyn erioed. Gofyna gohebydd geirwir yr Express i mi pa beth sydd wedi dyfod o'r ffaith fod dosbarth wedi ei gychwyn gan weinidog i ddysgu'r ieithoedd, &c. Mae y ffaith hono yn debyg i lawer o bethau ereill a eilw ef yn ffeithiau, yr hyn a bronr cyn terfynu yr ysgrif hon. Gyda, golwg ar yr ieithoedd dysgedig ac an- nysgedig, neu ieithoedd heb fod yn ddysgedig nac annysgedig, os ydynt i'w cael, y mae yn ddichonadwy dysgÜ adnabod llythyrenau iaith, i sillebu iaith, ac i wneuthur rhywfath o ddar- lleniad ar iaith, heb wybod mwy am y cyfryw iaith nag a wyr parchell per am conic sections. Y mae y werin wledig Gymreig yn meddwl mai gorchwyl caban un-nos ydyw dysgu iaith, a hyny oblegyd bod dynion hunanol a ffrost- gar yn brolio wrth ffyliaid eu bod yn gwybod tair, pedair, neu ychwaneg o ieithoedd, ac eto heb fod yn gwybpd dim yn yr ieithoedd hyny, na gwybod mwy am eu helfenau, nag I. a wyddant am ieithoedd y blaned Sadwrn. Yn nesaf, gadawer i ni gael gair am y degwm cildwrn. Onid y chwi oeid y goheb- ydd hwnw a anfonodd i'r South Wales Daily News fod tysteb wedi cael ei chyflwyno mewn capel perthynol i'r Bedyddwyr yn Rhymni? a bod yr Ysgoi Sabofchol wedi casglu i gael gold al'xirt chain, &c. ? pan na fu y fath beth <) gwbt, ac na fa drysau y capel yn adored y diwrnod hW:3W o gwbi; o i l yn unig fod rhyw- fafcu o gyrarfoi wedi cymeryd lie yn nhy erydd yn y gymydogaeth, a ciiawsooh ohwitiiau eich gwahodd i'r wi-sdd, a,c yno fe iuniwyd ,pwt i'r South Wales. Ai nid y chwi oedd y gohebydd anfonodd i'r Express fod darlith wedi cael ei thraddodi yn Soar gan y gwein- idog parchus y soniwyd am dano o'r blaen mewn perthynas a'r ieithoedd dysgedig. a bod cynulleidfa fawr wedi dyfod ye nghyd, a bod y ddarlith yn grand, success, pryd na fu yno yr un ddarlith o gwbU Fe argraffwyd hand- bills, ac fe aefch y darlithydd tuag yno, ond ni ddaeth ond rhyw ddau ddwsin o bobl yn nghyd, yn ol tystiolaeth y pwyllgi r eu hunain, ac felly fe farnwyd yn ddoeth roddi y ddarlith heibio, ac ni ddariithiwyd cymaint a gair. Facts are stubborn things, syr. Onid yw pethau fel yna yn sawru yn gryf, ac yn debyg i weinidogaeth y degwm cildwrn. Ac yn y diwedd, dyma y fath bethau a eilw "cynrych- iolydd y rhan barchusaf o'r wasg Seisnig" yn "ffeithiau." Dywed gohebydd yr Express ei fod yn gwneyd mwy tuag at gadw yr iiiier- aeg y" fyw, a'i llenyddiaeth yn bur, mewn 11 un wythnos nag a fedraf fi wneyd mewn blwyddyn. Well done" cynrychiolydd y rhan barchusaf o'r Wasg Seisnig." Cynygia hefyd werthu beichiau o lenyddiaeth Gymreig i mi ar ol i mi dalu am danynt. Pa beth ydyw cynwysiad eich llyfrgell? A yw Almanac y Cymro genych, a hanes Twm Shon Catti? Atolwg, syr, mynegwch beth yw cynwysiad y beichiau o lenyddiaeth Gymreig sydd genych, ac yna gwnaf fargen a chwi. Boed hysbys i'r Gohebydd gwyntog, a'i gynorthwyr o bob oedran, fy mod yn barod unrhyw amser i'w cyfarfod, ac i gystadlu a hwynt mewn anrhyw gangen o ddysgeidiaeth, er nad wyf ond aelod o'r pwll glo. Nis gwn pa beth a feddylia wrth gyfeirio ataf ei ddanodiaeth mewn perth- ynas i anerch ysgymunbethau yn yr awyr agored. Ni fum i erioed yn anerch neb yn yr awyr agored, gyda'r eithriad ddarfod i mi, yn amser y lock out, anerch cyfarfod o lowyr. Ai ysgymunbethau y geilw efe y glowyr? Os felly, gallaf ei sierhau fod yr ysgarthion sydd wedi ei gyflogi ef yn y drafodaeth hon yn llawer tebycach i ysgymunbethau. Nis gwn beth a feddylia wrth son am "siarad iaith ei farn gyda fresh cockles yn ei gynorthwyo." Rhoddwch figures, syr, ac yna deuaf i'ch cyfarfod. Ceisia ddanod i mi mai gohebydd papyr ceiniog ydwyf. Onid papyr ceiniog yw yr Expressl ac onid papyr ceiniog yw y South Wales? Atolwg, syr, pa beth ydych chwi? A fuoch chwi erioed yn article writer, neu yn olygydd, neu a gawsoch erioed eich cyfrif yn lienor, neu pwy sydd wedi eich "apwyntio" yn gynrychiolydd y "rhan barchusaf o'r wasg Seisnig?" Y mae genyf fi gymaint o olwg ar fy mhapyr ceiniog (sef y GWLADGARWR), ag sydd genych chwithau ar eich corn ceiniog Saesonaidd. Dywed yr athraw cecryddol hwn, wrth derfynu ei lythyr hir-wyntog, ei fod wedi penderfynu peidio sychu ei ysgrif bin nes gorphen ei waith. Hit my legs and save my pegs ydyw arwyddair y boneddigion hyny sydd gyda y fusnes gingerbreadiaeth ar hyd y ffeiriau. Bwrw y pegs a'r gingerbread i lawr ydyw y fusnes broflidiol i'r taflwr; felly y gwna gohebydd mawreddog yr Express, y mae yn meddwl bwrw darn da o gingerbread oddiar y peg wrth amddiftyn Pabyddiaeth, ac ymosod ar aelodau Rhyddfrydig Bwrdd Ysgol Bedwellty. Ond gwybydd, frawd, fod yma lawn cystal dyn am hit my legs a thithau, a chai brofi hyny cyn diwedd y drafodaeth hon. O'i fol hyll e dafla hwn G-eulonau huddygl anwn; Ac o'i wefl daw dieflig Had, a hyll eiriau dig. Rhymni. GOHEBYDD. [Credwn fod yn hen bryd rhoddi terfyn ar yr ym- drafodaeth bersonol ac annyddorol hon. -GoL.]
TYMHER DDRWG.
TYMHER DDRWG. MR. GoL.—Yn mhlith yr amryfal ddrygau ag y mae hil Adda yn ddarostyngedig iddynt, gellir enwi yr uchod fel un niweidiol a pheryglus iawn. Gwnaeth ei yrnddangosiad yn ein byd yn foreu iawn,—agos ryw saitli mil o flynyddau yn ol; ac y mae, oddiar hyny hyd yn awr, yn andwyo byd ac eglwys mewn modd annesgrifiadwy. Tymher ddrwg sydd wedi dwyn y cadfarch erchyll rhyfel i'n byd, yr hwn sydd yn gorchuddio ei lwybrau a chelaneddau, ac yn eu lliwio a gwaed pob cenedl (agos) is y wybren. Y mefoedd gadwo Brydain rhag clywed swn ei garlam. 0 dan ddylanwad tymher ddrwg y mae llaweroedd wedi cyflawni gweithredoedd na fuasent byth yn meddwl am danynt pe yn eu iawn bwyll, ag sydd wedi eu dwyn i drueni a gwarth oesoi, ie, hyd yn nod i ddwylaw tyner, a gorchwyliaethau trugarog (?) Calcraft, Mar- wood, ac ereill o'r urdd dienyddol. Byddai cofnodi yr oil o'r trueni dygn, y difrod ar- swydus ar fywydau a meddianau, yn nghyd a'r trychinebau echryslon y mae yr ellyll uffernol hon wedi dwyn i'n byd, yn ormod gorchwyl i bin ysgrifenydd buan, pe c'ai oes Methusalem at hyny. Y mae ol ei ddwylaw duon i'w ganfod ar bob gradd mewn cym- deithas, o'r llys ymherodrol i wared hyd at y bwthyn dystadlaf. Nid yw cyfoeth nac addysg yn ddigon cryf i wrthweithio y rwyd ddieflig hon; dim ond gras y nef ei hun a beri iddi gilio. Ond rhag eich blino a meithder, deuaf at yr hyn a'm cymhellodd i wneuthur yr ychydig sylwadau annrhefnus yma, sef y cwynion ami sydd i'w clywed y dyddiau diweddaf hyn gan rieni plant yn erbyn ysgolfeistriaid, pa rai mewn tymher ddrwg, sydd yn ymddwyn yn greulawn at eu hanwyliaid bychain diniwed. Mae "Marien" yn y Mail, wrth adolygu ysbrycl, cwyn Charles Evans, Bargoed, a ymddangosodd yn eich colofnau yn ddiwedd- | ar, yn dweyd fod rhywbeth ag oedd ag angen talu sylw ato yn mhenglog y rabbi hwnw. Ond er hyny, meiddiaf ddweyd fod ami i ysgolfeistr a'i upper story mor ddiwall a chyf- lawn o synwyr a gwybodaeth ag eiddo Morien," yn euog o ymddwyn yn greulawn at eu ddysgybiion ar adegau o dymher ddrwg. Y mae rhieni plant, •gaii-mwyuf, yn ai'gyhoeddedig mai gorch wyl ag sydd yn gofyn amynedd mawr a llawer o ras ataliol ydyw addysgu plant, ac nad ydyw y bosibl ei gyiiawni yn briodol heb weinyddu ryw gy maint o flas y fedwen. Ond y mae rhai rhieni mahlodus yn credu nad oes gan ysgol- feistr hawl i gyffwrdd l'u plant hwy, nac angen am hyny ychwaith. Felly gwelir ei bod yn gyfyng arnynt o'r ddau tu, a'u bod yn wrthddrychau cydymdeimlad yn ogystal a cherydd. Cofus gan yr ysgrifenydd, pa.n yn hogyn, iddo fod dan oral ysgolfeistr ag oedd yn iioff iawn o redeg i'r ty o r ysgol, ac ymyraeth yno a'i "ystlen deg" yn ei gwahanol fan orchwyl- ion, yr hyn yn dra buan a ddygai gymylau duon i hofran yn yr awyrgylch deuluaidd, a'r corwyntoedd i ruo a'u lleisiau aflafar (arwydd sicr fod ystorm gerllaw) ac wele genllysg ofn- adwy o heiyrn tan, esgidiau, cyllill a flyrch. a llawer o bethau ereill yn ymarllwys ar gefn y Rabbi druan, nes ei orfodi i gyflawni ei exodus yn dra buan, ac i redeg yn ol i'r ysgol am gysgod. Yna, byddai yr olwg arno yn druenus; cerddai yn ol ac yn mlaen felgwall- gofddyn. Yr oedd ei dymher ddrwg yn ei gymhell i ymddial, ond ei rym corfforol yn tystio ei anallu i wneyd hyny; ond er porthi ei nwydau a'i deimladau, tywalltai ei lid ar yr eiddil ddysgyblion oedd dan ei ofal mewn .Y modd enbyd a gerwin. Cafodd yr ysgrifen- ydd "fonclust yn ochr ei gem" ganddo un tro pan newydd fod o dan operation "ei haner oreu," yr hyn a'i trawsymffurfiodd i land sur- veyor heb ganddo yr un Gunter's chain, amgen na'i gorff bychan pedair troedfedd. Ysgolfeistri Cwmtawe, a phob cwm arall, da chwi cymerwch yr addysg sydd yn deilliaw oddiwrth yr hanesyn uchod, sef peidiwch ag ymyraeth a dim ag sydd yn anmherthynasol a'ch dyledswyddau yn yr ychydig amser a ofynir genych i'w dreulio er addysgu y rhai sydd dan eich gofal. Caffed "amynedd ei pherffaith waith arnoch." Ceryddwch bob amser y gwyddoch fod gwir angenrheidrwydd am hyny, ac mewn tymher dda; yna, ni bydd i chwi gael achos i edifarhau am greulondeb, na rhoddi achos i ni, rhieni plant i gwyno.— Yr eiddoch, mewn tymher dda, PATER FAMILIAS.
"GILBERT" AR VOLUNTARY SYSTEM…
"GILBERT" AR VOLUNTARY SYSTEM YN LLANSAMLET. MR. GOL.Beth, yn enw pob rheswm, sydd ar y gwalch gwyllt a diegwyddor Gilbert pan y mae yn taenu byth a hefyd, fel hen wrach, bethau nad oes rhithyn o sail iddynt. Pa eisieu cael Mr. A. H. Thomas allan sydd? I hel crachach, bawach byd." Oni ddanfonais i y balance sheet am y ddwy flynedd a basiodd i chwi, Mr. Gol.? ac oni ellwch chwi brofi ar unwaith pa un ohonorn sydd yn ysgrifenu y gwirionedd 1 Yn wir nid yw yn son am ddau fath o sheets, ond dangos ar unwaith blentyneiddiwch a phen- chwibandod Gilbert. Dau fath o sheets, yn wir Dyna i ti nonsense, ddarllenydd Beth, tybed, fuasai y pwyllgor yn ei "enill wrth gyhoeddi dau fath o sheets ? Dim yn y rriesur lleiaf ac fe brawf y fath frawddeo- flbl fod ei hawdwr yn dechreu euro ei bell yn erbyn y mur. Ond i gael brysio yn mlaen, beth pe baem yn ceisio swmpo ychydig ar ei ysmotyn diweddaf, fel y gwnaethom a'i lith cyntaf. Yr ydym yn credu i ni chwalu hwnw, fel nad oes modd i'w gyfanu byth ie "yn fanach na llwch diddymdra." Wedi darllen ei ysmotyn diweddaf drosodd a throsodd, daethom ar draws un frawddeg chwyddedig i'w ryfeddu. Yr oeddem yn ei gweled yn lied chwyddedig y tro cyntaf y I darllenasom hi ond po fwyaf yr oeddem yn sylwi ami, mwyaf chwyddedig oeddem yn ei gweled, a dyma hi Yr wyf fi yn medru darllen a deall pethau yn cida!" Yn wir, ddarllenydd, wedi i mi iawn ystyried y frawddeg uchod, mi a wridais wrth feddwl fy mod wedi syrthio i afaelion y fath ysgolor penigamp ac yn wir, synwn i ddim i glywed fod y fath Horace Greeley o ddyn a hwn yn cael ei ddewis gan y Weinyddiaeth nesaf i fod yn Chancellor of the Exchequer. Mr. Gol., hen arferiad y corgi, bob amser, yw cyfarth a chnoi pawb ond os dygwydd iddo gyfarfod a'i drech, yna try i gyfarth a chnoi rliywun arall. Felly yn union Gilbert, y mae wedi bod yn cyfarth aruaf fi, a eheisio fy nghnoi yn mhob dull a modd. Ond y mae wedi cyfarfod a'i drech ac y mae, erbyn diwedd ei lith diweddaf, wedi troi fel y corgi i gyfarth rhywun arall, sef Mr. A. H. Thomas (ysgrifenydd y "Voluntary Com- mittee), trwy alw y balance sheets yn paltry. distadl, gwael, a gorwael. Beth, yn y byd mawr, a'th gymhellodd i arfer y fath term brwnt ? ai tybed fod gwallau ar y sheets ? neu a oes rhywbeth heb fod arnynt ag a ddylasai fod. Yr wyf yn dy herio di, Gilbert, er dy dy fod "yn medru darllen a deall pethau yn dda," i osod dy fys ar un gair neu ffigwr heb fod yn gywir arnynt. Carwn gael gwybod genyt, Gilbert, beth yw ystyr "gweithrediadau y Voluntary System." r wyt "yn medru darllen a deall pethau yn yn dda;" ac o ganlyniad, yr wyt yn sier o fod yn deall y frawddeg uchod, onide ni fuaset yn ei hysgrifenu o gwbl. Wrth derfynu y llith hwn, yr wyf am roddi un cynghor bach i ti eto, Gilbert, os nad wyt wedi pengaledi gormod, a dyma fe-er dy fod yn medru darllen a deall pethau yn dda," y mae genyt un wers bwysig i'w dysgu eto, a hono yw boneddigeiddrwydd, a da tithau, Gilbert, c/mer ati a dysg hi yn drwyadl cyn danfon yr un gair i'r wasg etc, bydd yn sicr o fod o 480 les mawr i ti. 0 ie, cyn gosod fy ysgrifel1 yw 3 y to, er yr annghydfod a'r cwbl, yr wyf yn dymuno gwvliau llawen a blwyddyn newydd dda i ti ac i bawb trwy'r j IWJf. SYLWEDYDD.
LLITIf YR HEN BYDLER.
LLITIf YR HEN BYDLER. MR. GOL.,—Mae bechgyn Merthyr wedi tyfu yn adynion mawr, ac yn medru deall a, siarad i drwch i blewyn ffurdd y dylai pethau gael eu cario allan y dyddiau vma. yn neill- duoUm f.d y fasnach haiarn mor ddiufael a tnloaaiad. Mae nhw am roi share o'r beich- iau trymion sydd ar weithwyr a masnachwyr ar ein swyddogion trefol, welwch chï: rhoi nai o "rian iddynt,—tri chant i'r swydaog pmn' cant, dau gant i'r un pedwar cant, ac yn y blaen ff, rdd yna, Mae achwyn eu bod yn codi eu penau i'r lan, yn lie edrych Ia.wr rhai ohonynt yn eu cerbydau ac ar eu meirch ar hyd a lied Merthyr y dyddiau tlodaidd yma ar weitiiwyr a masuachwyr. Mae nhw yn disgwyl i r bechgyn foivio a thynu eu het- iau lddyjit, digon tebyg. Too bad wir, i blygu i'w gweision eu hunain, onide 1 Mae nhw yn myn'd yn rhy debyg i hen wr eu tad, diafol, y ho? dd yna, ys dywed y bechgyn. Mae nItw am i mi hala eu cwyn i'r GWLAD- (rydd)GARWE, ys dywedant. Digon tebyg Mr. Lloyd, y bydd raid i chwi arrangio a engine heol Merthyr i gario y sypynau yr wythnos y bydd y llith hon yn ymddangos, am fod y bechgyn yn awyddus am weled en motto yn cael cyhoeddusrwydd, gan obeithio y gwneir sylw priodol o'u dymuniadau. Mr. Lloyd, dyma deitl newydd i'ch enwoe bapyr gan fonedd-weithwyr Merthyr, sef Gwlad- ryddgarwr." Traddodwyd yr araeth ganlynol yn llys y barbwr pwy nos yma, a dodwn hi i lawr air yn air fel ei llefarwyd Wel wir, syr, wn i faint ddylai swyddogion gael, am nad nacl ydwyf byth o blaid arian bach i neb. Dyna'r gost aeth arnom ni i'r Tywysog pwy ddydd yma i fyned i'r India. Mae'r bechgyn yn dweyd iddo gael dros dunell o arian, ac na ddaeth a thunell o orders yn ol ganddo i Gymry na Lloegr, sposo, nag un rhith o anrheg i un Boanerges gor-Gymreig o Haul Cwm-y-byd. Mae'r bechgyn yn dweyd iddo dd od a rhyw degan o deitl i'w fam, rhyngddo a'r Jew Disraeli yna, sydd a chymaint o son am ei gyfrwysdra gyda phob peth y dyddiau yma. Digon tebyg yr aiff haner tunell o arian eto i'r dyn halwyd i Twrci i setlo er cael rhyw drefn yno, yn lie ymladd a lladd. Sposo mai Disraeli ag yntau wyr pa genad- wn roddwyd iddo, a neb arall, medd y papyrau Saesonaeg yna roddodd e' ddim gwybod i'w gyd-seneddwyr, chwaethach i ni buddlers a cholliers. Wel, yn siwr, mae yn hen bryd i edrych i mewn ar ol llawer o bethau seneddol, gwladol, a gweithfaol, a. bum bron a dweyd crefyddol. Teimlwyf yn ddiolchgar i'r boneddwyr da a duwiol yna yn Llundain yn ddiweddar am eu liymddangos- iad cyhoeddus o blaid uniondeb a chyfiawnder i wyn a du yn gref.yddol a gwladol. Gobeith- IWII nad y cwrdd yna fydd y cyntaf a'r olaf, ond y bydd ei debyg eto." Caraswn wybod ai byw yr enwogon parchus canlynol, sef Hen Felinydd y Fellien, gynt, a l deulu, yn neillduol Boxer a Hugh Gadarn -tollau y fel in, debygwn, yw y rhai yna; gobeithiwyf fod yr Hen Golier hefyd yn ei iechyd-Yll parhau yn fachgen smart-ac y cawn ei weled ar faes y GW^ADGARWR eto gyda'i lithiau doniol-gampus aiferol yn y Fellten, gyut, cofla parhaus am dani. Gwa y dywed y Gol. a'i enwog ohebwyr, croesaw. Gwelais ar y GWLADGARWR cyn y diweddaf ryw foneddwr o Ton, Ystrad, yn fy nghyngori i droi yn golier, am nad oedd ffwrnesi pudlo- yno, ond y carai i mi gael cadw yr enw an- rhydeddus Hen Budler Dyna chwi, 'nawr Diolch iddo am ei deimlad gwresog at hen ddyn, welwch chwi ond nid wyf fi wedi bod ma's o waith. Yr ydwyf yn Penydarran heddyw yn roundio o arngylch ogylch, ac yn ,,y derbyn cyflog yn return am hyny. Ond ond y mae yma yn Merthyr ganoedd a budlers ma's o waith Pe byddech yn gosod yn y GWLADGARWR bod yna le i gwpwl o gan- oedd yna i weithio, deuai digon ohonynt yna cyn y noswaith hono. Os felty, byddaf finau yn debyg o weled Ton, Ystrad, ar visit budieraidd gydn nhw. Os i Benydarran. y de'wch ryw dro, Galwch gyda'r Pudler, -cewch share o'r byd a fo. Rhag. 21. HEN BUDLER.
CYMRY AMERICA.
CYMRY AMERICA. Mr. GOL. Yr wyf yn dderbyniwr cyson o'r GWLADGARWR yn Nghymru ac America ond dyma y waith gyntaf i mi i ysgrifio gair iddo. Yr hyn sydd wedi fy nghymhell y tro hwn ydyw ceisio dangos y teimiad cynes sydd yn bodoli rhwng cyfeillion Cymreig yn yr America. Mae pob Cymro yno yn teimlo yn gynes at ei gydgenedl y fath deimlad a,, sydd yn cylymu calon wrth galon, megys brodyr anwyl. =- SJ Derbyniais lythyr yn ddiweddar oddiwrth gyfaill o'r Amerig, ac y mae yr ychydig lin- eilau canlynol ynddo. Maddened Gol. y farddoniaeth i mi am eu gosod yn y fan yma gan y bydd yn llawen gan filoedd o Gymry America eu gweled yn argraliedig. Wele y penillion: Mi af ar ymdaith, megys cynt, I edrych hynt cyfeillion Er cael mwynhau ryw getyn lion O'u doniol ymddyddanion; Ac 0 mor horf yw cael eu cwrdd A gwrando dadwrdd geiriau Ond Och er hyny gwelaf groes— Mae un o'r boys yn eisiau. Pan wyf yn rhodio'n hwyr y dydd, Yn rhydd oddiwrth fy ngorchwyl; Br .syllu ar brydf erthweh h trdd r Y dre' sy'r bardd mor anwyl; Wynebau serchog welaf draw Ac im' daw cyfarchiadau us
Cyfarfod Llenyddol Ysgol Sabothol…
ymofyn ei gopi gall weled fy mod wedi nodi amrai o honynt allan na ddigalon- ed, hawdd fydd iddo ddiwygio yn y peth- au a nodwyd, y mae wedi ymgeisio yn lew. Dys^ybl (yr ail).—Mae hwn wedi ys- grifenu llythyr, er yn fvracli, eto yn fwy diwall o ran llytliyraetk. Gesyd hwn fod ei athraw yn glaf; nis gwn a ydyw hyny yn yeliwanegu at ei ddyddordeb ai peidio, barned a'i darlleno ond y mae wedi cadw at ei destyn yn barhaus, ac y mae yn ysbryd a geirweddiad y Bibl wedi cyfaiisoddi Ilythyr bach da iawn. Y ncsaf ar diweddafydyw Ifor. Dyma lythyr iiynod dda. Y mae yn ngafael a'i destyn o'r dechreu i'r diwedd. Y mae wedi ysgrifenu yn dra rheolaidd mewn geirio, sillebu, ac atalnodi; yn fyr a ehynwysfawr ar y prif wrthddrychau, neu destynau, a ddylent gael eu hymdrinio rhwng athraw a dysgybl; y mae braidd yn myned yn athraw ei athraw tua diw- edd ei lytliyr. Hwn y goreu yn ddi- amheu, caffed y wobr.-Ar air a chyd- wybod, Ap LLEWELYN. Alltwen.