Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
HYNODION Y LLAN.
HYNODION Y LLAN. Pe byddai rhyw ymwelydd dveithr yn dyfod am dro i'r Llan dydd Mawrth diwedd&t, ac yn myned am walk tua chyfeiriad Pare y bobl, eawsai ei synu yn ddirfawr wrth ganfod tyrfaoedd o amryw filoedd o bobl, yn mwyn- hau ei hunain wrth syliu ar ryw dri neu bed war o ianciau yn tuchan fel agerbeiriant, •wrth geisio chwyrneiiu yn mlaen am y cyntaf tua'r nod, er gweled pwy fyddai bicycle champ- ion siroedd Morganwg a Chaerfyrddin; dyna y iturf newydd ar gystadlu sydd mewn bri yn y Llan y dyddiau hyn. Er na ddywedem ddim yn erbyn ymarferiad&u corfforol o'r natur hyn, ond yn hytrach cefnogem hwynt ond ei iawn arfer; eto, pan eir i'r fath eithaf- ion gyda hwvnt, credwn fod v drwg a ddeillia oddiwrthynt yn gorbwyso y da. Yn sicr, fechgyn, nid ydyw yr eisteddfod fiasiwn newydd yma fawr gweith, y mae gormod lawer o arogl y Derby Races ami. Beth yw y challenges a ymddangoseut bob wythnos yn ein papyrau lleol, yn nghyd a'r lOp. bet yna ond rhyw ail argraffiad o gampiau drygionus ein tadau, pan y teyrnasai tywyllwch dros ein gwlad. cyn i oleuni llachar yr Ysgol Sul dywynu yn ei belydrau ysblenydd drwy ororau Cymru fad. Dywenydd genym hys- bysu ein bod wedi cael gwledd nos Fawrth i'r dyn oddifewn gan y PARCH. DR. REES, Abertawe. Diau fod darllenwyr y GWLAD- GARWR yn gwybod fod yr hen batriarch duw- iol a doniol wedi bod yn ymweled ag America, a ehawsom ddarlith ragorol ganddo ar yr byn a welodd ac a glywodd yno. Nid oes achos i ni ddweyd dim mewn ffordd o ganmoliaeth am y ddarlith hon, y mae fod enw ein cyfaill wedi ei chyplysu wrthi yn ddigon o guarantee ei bod yn dda. Cawsorn ddarlun campus o'n cefnder Jonathan ganddo. Nos Lun a nos Fawrth diweddaf bu yr arodydd enwog HENRY VINCENT yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mawrion a'i hyawdledd yn nghapel Annibynol y Pare. Sais yw ein cyfaill, ond y mae yn llawn o'r hen dan Cymreig. Y mae ei watwareg lem yn fflangell drom ar y rhai hyny nad ydynt c;1 y cyflawni eu dyledswyddau. Ei destyn nos Lun oedd "The Eastern Struggle," a nos Fawrth "The English speaking race." Yn y flaenaf condemniai y Weinyddiaeth bresenol yn ddiarbed; buasai yn dda genym pe buasai holl gefnogwyr Iarll Beaconsfield yn cael y L'- fraint o'i chlywed. Am y Hall yr oedd yn ddifyrus ac adeiladol. Dydd Gwener y 15fed cyfisol, cynaliwyd ail ARDDARGOSIAD AMAETHYDDOL flynyddol Llanelli. Yr oedd ynddi gyflawn- der o dda corniog, cA-n, ceffylau, &c. Gan fod y gvmydogaeth ocldiamgylch y dref yn wledig, ni allesid cael lie mwy pwrpasol a manteisiol i'w chynal na'r Llan. Da genym fod holl amaethwyr y cymydogaethau yn cymeryd cymaint o ddyddordeb ynddi. Trodd allan yn ilwyddiant perffaith. Parhau o hyd y mae STRIKE Y GLOWYR, beb ddim gobaith am iddi ddyfod i derfyniad. Yn ein llith diweddaf, gwnaethom dipyn o gamsynied drwy ddweyd fod Mr. Nevill wedi cynyg rhanu y gwahaniaeth. G an na chawsem fod yn y cyfarfod ein hunain, nid oedd genym ond derbyn tystiolaeth dynion ag y tybiem eu bod yn eirwir. Blim genym gael ar ddeall nad ydyw Mr. Nevill yn. foddlawn symud cam o'r fan lie mae. Y mae y Nadolig yn yr ymyl, a dvmunem wyliau llaweAi i a darllen- wyr y GWLADGARWK un ac oil.—Ap Elli. Drwg iawn genyf orfod dweyd mai marw- aidd a digyffro ydyw masnach yn parhau yn y llehwn a'r cylchoedd er's amryw fisoedd bellach, ac nid oes rhith goleuni yn ym- ddangos yn mhelydrau y ffurfafen gan ddweyd fod Ilwyddiant yn agosau ond er yr holl anhebygolrwydd, gobeithiwn y try y fantol cyn hir, ac y dychwel y fasnach i'n gwlad eto yn fwy brysg a bywiog nag y bu erioed. Nos Fercher, y 13eg cyfisol, cawsom y pleser mawr o glywed yr areithiwr medrus, y bardd gwych, a'r pregethwr galluog, J. Ossian Davies, yn areithio ar "Ddirwest a Sobrwydd," mewn ysgoldy perthynol i Capel Als. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, ond dymunem weled ychwaneg, a gallaf ddywedyd yn hyawdl wrth y rhai oedd yn absenol eu bod WEAE cael coiled annhraethol, oherwydd cawsom araeth foddhaol ac egwyddorol ganddo. Rhwydd hynt i Mr. Davies i fyned rhagddo yn y dyfodol gyda yr achos dir- westol, a beiddiaf ddweyd pe byddai ychwaneg o fath y gwr hyawdl hwn yn myned oddi- amgylch y wlad, y byddai lies mawr yn deill- iaw trwy hyny. Cadeiriwyd yn fedrus gan yr hen ddirwestwr selog, Mr. John Jones. Dymunwn hysbysu miloedd darllenwyr y GWLADGARWR y bydd yma wleddoedd o'r iawn ryw Dydd Nadolig a'r dydd canlynol, trwy fod eisteddfodau mawreddog i fod yma. Gair eto, os yn dderbyniol, yn olynol iddynt. Llanellicm.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. CYFARFOD LLENYDDOL.—Cynaliwyd cyfar- fod llenyddol yn nghapel y Graig nos Fawrth wythnos i'r diweddaf. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. Leyshon. Beirniadwyd y farddon- iaeth a'r traethawd gan Dewi Wyn o Essyllt; yr areithiau gan Mr. Francis; a'r canu gan Mr. T. Lewis, Tonyrefail. Er fod yr hin yn anffafriol, daeth cryn nifer yn nghyd. Enillwyd ar y rhan fwyaf o'r darnau canyddol gfin James Chick a'i barti, ac efe hefyd aeth a'r solo "Thou shalt break them." Mabon- wyson aeth a'r pres am y traethawd ar "Pedr," yr hwn, yn ol y feirniadaeth, oedd yn fwy na gwerth y wobr bum gwaith. Mabonwyson hefyd aeth a'r wobr am ateb chwech o ofyn- iadau ar adnod yn llyfr Pregethwr. Ab lyTjfyr 9, wobrwywyd ata y pountiou ar j I. w"'rBaiiygd;l" onadc ebfe,l y ac dyawm edyar i eCnaglelydn fryin 'r p"aGn leypn- golygu y farddoni aeth i'r GWLADGARWR, "nad oedd un englyn gwir dda os na byddai colyn yn ei gynffon o," acryr oedd colyn gwenwynig i'r "Glecwraig" yn nghynfon yr un buddugol, "Chvc ar y gwir, clecwraig yw." Ni wyddom pwy a wobrwywyd am amryw o'r pethau ere ill. Cawsom ddwy gan ragorol gan Tom Williams, a chan ac encore gan Mabonwyson. Cafwyd y cydau gwobrwyol gan Miss Davies, merch Dewi YVyn. Mwyn- hawyd y cyfarfod yn. wych gan bawb oedd yn bresenol. — Un oedd yno.
MIDDLESBRO'-ON-TEES.
MIDDLESBRO'-ON-TEES. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH. ISAAC J .BIEs.-Diamheu y bydd yn chwith gan lawer yn Morganwg i glywed am far- wolaeth yr hynaws ar ffyddlon weinidog, Mr. James, un a gair da iddo gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansamlet, yn y fiwyddyn 1819. Cafodd ddygiad da i fyny, ac fel Timotheua, gwr- eiddiwyd ef yn yr Ysgrythyr Lan er yn fachgen. Tueddwyd ef i gofleidio crefydd yn moreu ei oes, a glynodd wrthi hyd y di- wedd heb yr un ysmotyn du ar ei gymeriad. Ya y flwyddyn 1840, ymunodd mewn glan briodas a Miss Maybery, Clydach, ac ym- sefydlodd yno. Nid hir y bu eglwys barchus Hebron cyn gweled fod ynddo gymhwysder- au i lairw cylch pwysicach nag aelod cyffredin, ac anogasant ef i ddechreu pregethu, yr hyn, wedi hir a dwys ystyriaeth, a wnaeth Bu am flynyddoadd yn waaaaaetligar a derbyniol iawn yn, a thu allaa i Gwm Tawe. Yn y flwyddyn 1861, cafodd alwad gan Eglwys Gymreig Walker, ger Newcastle-on-Tyne, a llafuriodd yno gyda Ilwyddiant a phoblog- rwydd hyd y flwyddyn 1870, pryd y gwas- garwyd y Cymry mewn canlyniad i fethiant y gwaith haiarn. Bu wedi hyny yn weinidog ar Eglwys Gymreig Workington, Cumber- land. Ni fu ei arosiad yno ond byr, gan iddo er mwyn ei deulu symud i Middlesbro' O'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth, ni fu gofal eglwysig arno, er hyny, pregethai bob Saboth gan amlaf, a bu sefydliadau Cymreig glanau y Tees a'r cylchoedd yn enillwyr ar ei ddyfod- iad yma. Yn Mehefin diweddaf, talodd ym- weliad a rhanau o'r deheudir, ond gan iddo gael ei ddal gan afiechyd ar y ffordd, gorfu iddo siomi rhai lleoedd a dychwelyd cyn yr amser penodedig. Lied ddibwys yr ym- ddangosal ei glefyd ar y cyntaf—araf a llad- radaidd y gweithiod ei ffordd, ond wedi cael misoedd i sicrhau ei afael a chasglu nerth, daeth yn mlaen fel gwr arfog, a hawdd oedd gweled nad oedd bwrw arfau i fod yn rhyfel hwnw. Cafodd gystudd caled a phoenus ar derfyn ei yrfa, ond dyoddefodd y cwbl gydag amynedd teilwng o'i feistr. Cafodd bob chwareuteg ag a allasai ei feddygon meclrus, Dr. Williams a Dr. Ketchen, wneyd iddo, ond bu yr organic disease yn drech na hwynt. Hunodd nos Sul, Rhagfyr 3ydd, a'i bwys ar yr Iesu, yn 57 ,mlwydd oed. Gadawodcl weddw, dau fab, a thair merch i alaru ar ,Bi ol. Dydd Mercher, ymgasglodd tyrfa o Saeson yn gystal a Chymry i'w hebrwng i dy ei hir gartref, ac yr oedd yn amI wg yn ngwynebau'r lluaws fod un a fawr gerid yn Israel wedi syrthio. Yr oedd yn bresenol y Parchn. E. Price, Branch End; J Side- bottom J. Williams, (B.), Stockton; J. Parnaby; R. Llystyn Jones, (M.); R. J. Roberts, (M.); W. H. Pater, (B.); a R. Evans, (B.), Middlesbro'. Yr oedd y Parch. John Davies, Shrewsbury, a Mr. Thomas James, Clydach, neiaid yr ymadawedig yno hefyd. Gwnaed y trefniadau angenrheidiol gan Mr. John Clarke, deacon, Marton Road. Cyn cychwyn o'r ty, darllenwyd a gweddi- wyd gan Mr. Price, ac wedi canu hen emyn Cymreig awd tua'r gladdfa. Yn nghapel y gladdfa, darllenwyd a gweddiwyd gan Mr. Sidebottom yn Seisnig; wedi hyny, can- wyd- "Babel's waters are so bitter," &c. Cafwyd anerchiad toddedig ac effeithiol lawn gan Mr. Parnaby yn Seisneg, ac amlygodd ei fwriad i draddodi pregeth angladdol y Saboth cyntaf yn y flwyddyn. Dibenwyd trwy ganu "Abide with me, fast falls the eventide," &c. Wrth y bedd, cafwyd anerchiad byr ac i bwrpas gan Mr. Jones, a thalodd deyrnged uchel i gymeriad ei gyfaill ymadawedig. Dywedai y gallesid dyweyd gyda phriodoldeb am dano yr hyn a ddywedwyd am ei rag- flaenor, Yr hwn yr oedd yn rhaid i'r nef ei dderbyn." Wedi gweddio gan Mr. Williams, a chanu yr hen benill hwnw :— "Ffarwel gyfeillion anwyl iawn," &c., dychwelodd pob un i'w dy yn hiraethlon yn ngwyneb colli pregethwr da, cyfaill mynwes- ol, a Christion o'r fath oreu. Amddiffyn y Pen Mawr fyddo dros y weddw a'r plant yn eu profedigaeth chwerw. Traddodir pregeth angladdol idddo gan y Parch. R. Llystyn Jones, nos Saboth nesaf. Ni wnawn ym- helaethu, gan yr ymddengys cofiant iddo yn rhai o'n misolion yu fuan.—Hiraethus.
CLWYD-Y-FAGWYR.
CLWYD-Y-FAGWYR. Nos Lliln, yr lleg cyfisol, cynaliwyd eyfar- fod o adrodd a chanu yn y lie uchod. Nid dyma y cyfarfod cyntaf o'r natur yn y lie hwn, ond nid oes neb yn rhoddi eu hanes. Llywyddwyd y cyfarfod yn fedrus gan J. Massy; ac nid llywyddu yn unig, ond ad- roddodd ddernyn campus ei hun o waith Mynyddog, set Gwr Hafod-y-gad. Cymerwyd rhan yn y -cyfarfod gan Samuel Abraham, James Meirig, David Thomas, Pon-heol- ferig William Edwards, R&es Lewis, David Ivans, Daniel Jones, John Lewis, John Davies, ac amryw ereill. Cawøøm gyfarfod da iawn, a pliawb yn dyaano, wrth ymatIveL am gael oyiarfM .'r fath .t.Un peJd
I PENCOED.I
PENCOED. I HIRNOS Y GAUAF.—I fyrhau ychydig ar rai o nosweithiau hirion y gauaf, golygir cynal cyfres o wahanol fathau o .gyfarfodydd yn y lie uchod, a dechreuwyd y gyfres nos Sadwrn, y 9fed cyfisol, a chyfarfod cystadleu- ol; ac yn canlyn, ceir rhestr o'r testynau a'r buddugwyr. (Is nad yw yr olaf yn gyflawn, nid arnaf fi mae'r bai :—1. Unrhyw alaw, &c., J. E. Lacey, Gilfach. 2. Adrodd y "Tren," Gomer bach, Penybont, a John Jenkins, Gilfach. 3. Llvthyr caru Seisnig, Rhedynog, Gilfach. 4. Can, "Merch Megan," pedvvar o'r Coity. 5. Adrodd cyf- ieithiad o "Resignation," Chatterton a John Jenkins, Gilfach. 6. Areithio ar "Y drwg o ymarfer decs," Gomer bach. 7. Canu "I Bias Gogerddan," J. E. Lacey. 8. Penill- ion ar "Enllib," Rhedynog. 9. Canu "Merch y Melinydd," Miss David, Llan- grallo. 10. Llythyr caru Cymreig, Rhedyn- og. 11. Canu "Cydgan y moywyr" gan barti o wyth, wyth o'r Coity. Gwelais gynulleidfaoedd yn yinddwyn yn well, a rhai yn waeth. Gobeithir y teiir sylw i sylwadau un o'r beirnaid, ac y diwygir erbyn y cyfarfod nesaf. Beirniadwyd y canu gan Mr. Lewis Pearce, a'r gwedclill gan Dafydd o Went, o'r Gilfach Goch ac ni chlywais i neb yn grwg- nach arnynt, er yn ddigon tebyg na foddlon- asant y sawl na chawsant eu gwobrwyo i gyd. Peth newydd, os do. Ni chynygiodd neb vote of censure ar y cadeirydd ychwaeth, sef Mr. William Jones, Tondu.-O.
LLANHIDDEL, MYNWY.
LLANHIDDEL, MYNWY. Mae yn amlwg, bellach, fod y cyfarfod llenyddol sydd i'w gynal yny lie uchod, dydd Nadolig, wedi bod yn foddion i dynu amryw o fechgyn lien i'r maes i ymgibrio am y .Y gwobrwyon ac er mwyn y rhai hyny sydd wedi anfon i mi eu cyfansoddiadau, hyderwyf y byddweh mor garedig a gadael i'w henwau ymddangos ar dudalenau y GWLADGARWR. "Dyledswydd crefyddwyr i bleidio yr Ysgol Sabothol," Erastus, Penrith, Un o blant yr Ysgol Sul, Dyledwr i'r Ysgol Sabothol, Dewi ab loan, Pendir, Plentyn iddi, Buddug, a Phlentyn gobaith. Y deuddeg Apostol," loan y Bedyddiwr, Llanc, a Jessie. "Hanes Moses," Newton, Joshua, Ephraim, Hanes- ydd. Pamphlet," Amen, bedyddiwr llythyr- au," Lewis Thomas, Thomas Williams, Dan Owen, Tudur, Goronwy Williams, Tichborne, ac Ifor Jones. Psalm, Dafydd bach, Scribulius, Twm Shon Catti, Iago, ac Eos bach. Yr emyn, School-boy. The Robin, Welsh boy, Win or lose, loan bach, Hopeful, Eliot, a Chochin bach o'r eglwys.-—J. Rich- ards, Ysg.
RHIWFAWR.
RHIWFAWR. DARLLENIADAU CBINIOG.-Nos Sadwrn, y 9fed cyfisol, cynaliwyd darlleniadau ceiniog yn ysgoldy y lie uchod, dan nawdd carwyr llenyddiaeth yr ardal. Cymerwyd y gadair lywyddol gan Mr. Thomas a Mr. Watkins ac ymddiriedwyd yr arweinyddiaeih i ofal Dr. John H. Jones, a chawsom ein har- gyhoeddi fod ynddynt raddau heiaeth o gy- mhwysder at ei gorchwylion. Gwasanaeth- wyd yn y eyfarfod gan y brodyr canlynol Hezekiah Jones, Joseph Llewelyn, David Evans, Richard Davies, W. Griffiths (Gwyn- fab), W. Jones (G. Wyn), D. Price (Ap lonawr), a John Williams. Pwyswyd yr areithwyr difyfyr gan y lienor, Mr. Evan Walters a'r trymaf ohonynt oedd W. Davies (Dolfach). Canodd glee party y lie amryw ddarnau chwaethus dan arweiniad Mr. John D. Williams a chawsom gyfarfod pur adeiliadol, a'n dymuniad yw cael ei gyffelyb yn fuan eto.—Q'wrhydfab.
FERNDALE.
FERNDALE. Nos Lun, Rhagfyr lleg, cynaliwyd cy- ngherdd mawreddog yn Assembly Rooms y lie uchod, a hyny dan lywyddiaeth Mr. M. Thomas, Bristol House. Y prif ganwr a gawsom i'n gwasanaethu y tro hwn ydoedd y byd-enwog Eos Morlais. Cynorthwywyd ef gan amryw o gantorion y lie hwn, sef Mri. T. Jones a'i barti, Eos Wenallt, B. Griffiths, D. Davies, H. Lewis, T. Jones, J. H. Lewis, Idris Thomas, Taliesin Cynon, M. Thomas (ieu.), J. P. Powell, ac Eos Taf a'i barti; Misses M. Pritchard a'i pharti, ac A. Thomas a'i pharti. Fe gafwyd cyngherdd da. Yr oedd Eos Morlais, yn ol ei arfer, yn canu yn dda odiaeth. Y perdonydd a wasanaethodd ar yr achlysur hwn ydoedd Mr. J. R. Lewis, bachgen ieuanc o'r lie hwn. Ymddengys mai dyma y tro cyntaf i'r dyn ieuanc hwn ym- ddangos yn y cyhoedd fel perdonydd. Ond sut bynag, fe ddaeth allan fel y dewr, a ohaf- odd ganmoliaeth neillduol ar derfyn y cyfarfod am chwareu yr offeryn mor hynod o fedrus, gan Eos Morlais a Mr. Jenkin Meredith, manager a chafwyd arwydd gan y gynulleid- fa eu bod yn cymeradwyo gwaith y perdon- ydd yn fawr. Amcan mawr y cyngherdd oedd i gasglu arian er cynorthwyo dyn tlawd ag sydd wedi bod yn glaf am hir amser bell- ach, ac yn awr ar golli ei olygon. Achos teilwng iawn, debygwn i, hefyd. "Yn gwneuthur daioni, na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medrwn, oni ddiffygiwn." Nos Fawrth, Rhagfyr 12fed, traddodwyd darlith benigamp yn nghapel y Bedyddwyr, Ferndale, gan Lleurwg. Ei destyn ydoedd "Awr gyda'r beirdd Cymreig;" ond er hyny, fe fu Lleurwg gyda nhw ddwy awr helaeth, ac fe gafodd hwyl anarferol gyda'r hen chaps hefyd. Y mae hi yn ddarlith adeiliadol iawn. Cymerwyd y gadair gan Mr. Jenkin Meredith, irumagtr. Ni raid i Lleurwg fel darlithydd, na Mr. Meredith fel cadeirydd, wrth lythyr canmoliaeth oddiwrthyf fi, oblegyd y maent yn ddynion enwog, bellach, yn y gwahanol gylchoedd y maent yn troi ynddynt. Aeth y liedyddwyr i gryn dipyn o gostau, yn ddi- wedd-ar, i gael front newydd i'w capel, a'i addurno oddi mewn, &c. Ymddengys mai i leihau y ddyled hono yr aiff yr elw a gafwyd •ddiwrtk y ddarlith. ■—Robertus.
PENYGRAIG. II
PENYGRAIG. DIWYGIAD.—Er pan y bu y ddau ddyn enwog Mri. Moody a Sankey ar ymweliad a'r wlad hon, y ma,0 crefydd wedi ac yn llwyddo mewn amryw o fanau yn Nghymru i raddau helaeth iawn. Y mae'r dylanwad a gynyrch- odd y gwyr uchod ar y wlad yn ddiderfyn. Heblaw eu bod wedi bod yn foddion i droi miloedd "0 gyfeiliorni eu ffyrdd" y maent hefyd wedi bod yn foddion i ddeffro yr eglwys fit ei gwaith, ac i roddi mwy 0 ysbryd yn ngweinidogion yr Efengyl, ac nid'oes neb ond Duw a wyr yn mha le y terfyna y dylanwad gynyrchwyd ganddyrit. Y mae yn hysbys i amryw o'ch darllenwyr fod y Parchn. J. R. Hughes ac R. Owen, sir Fon, wedi ymweled ag amryw o fanau yn Nghymru, i'r dyben o gynal cyfarfodydd diwygiadol, ac wedi bod yn hynod o Iwyddianus yn eu hym- drechion canmoladwy. Y maent w.di bod eisoes yn Rhymni, brynmawr, Nantyglo, ac yn sir Fon, ac a ddaethant i'r lIe hwn y 4ydd cynsol, a buont yn cynal cyfarfodydd yma am bythefnos. Ei dull o gario eu cyfarfodydd yn mlaen oedd fel y canlyn :—Am bedwar o'r gloch bob prydnawn, yr oedd cyfarfod gweddi, ac am saith yr oedd un ohonynt yn pregethu. Cynelid y cyfarfodydd yn y gwahanol gapelau, sef yn Trealaw, Penygraig, a Threwiiliam. Yr oedd y pregethau yn rynius ac effeithiol iawn, ac yr oedd yn amlwg eu bod wedi eu bendithio a'r eneiniad dwyfol. Yr oedd y capel yn orlawn bob nos yn mhell cyn amser dechreu, fel yr oedd amryw yn gorfod troi yn ol yil methu cael lie. Yr oedd dylanwad y pregethau ar y gynulleidfa. yn anwrthwyn- ebol, a buont yn foddion, dan fendith y nef- oedd, i argyhoeddi o 90 i 100 yn yr amser byr hyna. Y r oedd y ddau wr parchus wedi eu 1 meddianu ag ysbryd difrifol i achub eu cyd- greaduriaid "rhag y Ilid a fydd," a hyny oddiar brofiad amlwg eu bod wedi cael eu hachub eu hunain, ac ar yr ystyriaethhyny yn dyheu am gael eu cyd-ddynion i'r noddfa hefyd. Bu yr eglwysi yn cynal cyfarfodydd gweddio am bythefnos cyn iddynt ddyfod, i ofyn bendith y nef ar eu hymweliad, ac y mae yr Arglwydd wedi rhoddi testyn llawen- ydd i Seion.-Gohebydd.
HIRWAIN.
HIRWAIN. C'ynaliwyd cyngherdd rhagorol nos Lun, yr lleg cyfisol, yn nghapel y Bedyddwyr. Gwasanaethwyd gan Mri. Evans, T. J. Evans, B. Lewis, R. Jones, a J. Bryant (EosBrych- an), yn cael eu cjmortliwyo gan yr Hirwain United Glee Society, dan arweiniad Mr. R. H. Morris. Rhanwyd yr elw rhwng dau hen wr, sef Mri. D. John a B. Thomas. Mawr dda i'r cantorion am eu gwasanaeth rhydd a gwerthfawr. Yr oedd y canu yn rhagorol. Yr un dynodd ein sylw fwyaf ydoedd Eos Brychan a gofynwn yn y fan. hon am eich caniatad i ddweyd ychydig eirian a.m. dano. Yr oedd ei ddatganiad o "Dyna'r dyn a aiff a hi" yn werth ei glywed—canodd mor dda, fel y gorfu arno ganu yr ail waith. Y mae yn drueni mawr na chai y dyn ieuane hwn ei osod yn Mhrif Ysgol Cymru, y mae yn meddu ar y llais goreu a glywais erioed mewn gwirionedd, y mae yn un o'r baritones goreu yn Neheudir Cymru. Clywsom iddo gauu y bass solo y trio "On Thee, each living soul awaits" yn fendigedig y nos o'r blaen, mewn cyngherdd yn Merthyr-nes oedd y gynull- eidfa yn synedig. Drwg genyf nad ym- ddangosodd hysbysiad am y cyngherdd hono yn eich colofnau. Beth bynag, cymerais yr hyfdra o hysbysu yr uchod, am ei fod yn teilyngu. Wedi terfynu y pyugmrnme, aeth pawb i'w cartrefleoedd wedi en liwyr foddloni. -W.
EISTEDDFOD TABERNACL, MAESTEG,…
EISTEDDFOD TABERNACL, MAESTEG, NADOLIG, 1876. Derbyniwyd cyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau a ganlun:— Y Pwnc Ysgol.—Ymgeisydd brysiog. Can Goffadioriaethol, Rhif 1.—CarwrRhin- wedd, Pruddlais, Cymydog, Deigryn hallt. Cdn Goffadwriaethol, Rhif —Galarwr, Mara, Corsen egwah. Y Pei billiolt. -Yiiideithyclcl yn mro galar, Mara, Llwchyn tra llachar, Gwylaidd. Beddargraff, Rhif 1.—Eirwllathr (neu ryw- beth tebyg), Pruddfab, Bugail, Un a'i ad- waenai, Gomerydd, Hiraethus, Canwr lleddf, Gwynfab, Dafydd, Iorwerth. Beddargraff, Rhif 3.—Ap Shon, Dienw, Cyfaili, Captn. Jones, Brynfab, Caradog, A. B.C., Arthur, Hiraethus, Ymdeithydd, Aneurin, Brysiog, Un gwylaidd mewn galar, Hiraethlon, Llwydfryn, Edmygydd,Llwydfab. jEnglyn Vr Cadeirydd.—Tirionfab, Cymro, Canmolwr teilyngdod, Glan Llyfnwy, Iota, Abrec, Brodor o Brydain, Llwynog, Dr. John, Llanc o'r lie, Arthur, Gwilym Brychan. Y Cyfieithad.—Cyfieithydd, Gomer, Llew o'r Llwyni, Clogyrnog, Mab Fanny, Gutto'r ,,y Colliar, Celynfryn, Cymro, Carwr Rhinwedd, Welshman, Ymgeisydd, A-i-ab, Estron o'r Dwyrain, Ynysfardd coch.—Yr eiddoch, IEUAN DYFED.
PLASMARL.
PLASMARL. Saif y lie cyflym-gynyddol hwn rhwng Glan- dwr a Treforris, a gellir priodoli ei gynydd cyflym mewn poblogrwydd i raddau helaeth i'r gwaith dur sydd y tudraw i'r afon. Er's ychydig flynyddoedd yn ol sefydlwyd yma ddwy Ysgol Sabothol, y naill gan yr Anni- bynwyr a'r Hall gan y Methodistiaid ond erbyn heddyw y mae y "fechan wedi myned yn fil," gan fod y ddwy Ysgol Sabothol wedi myned yn ddwy eglwys flodeuog ac addawol. Y mae y Methodistiaid wedi adeiladu capel bychan tlws a chyfleus wrth ochr yr ysgoldy lie y cynalient eu gwasanaeth o'r blaen. Mesura 43 troedfedd o hyd wrth 38 o led, a 21 o uchder, ac i eistedd tua 500 o bersonau, a chostia tua £ 1,200. Ond gan eu bod yn bwriadu cael tJ anedd yn ei ymyl eto, a rail- ings o flaen y capel ac yntau, bydd ya debyg o gostio tua £1,600. Dyma y capel cyntaf i Mr. John Richard i gymeryd yn y cymeriact. o architect, ac y mae wedi profi ei hutt yr hyn a dybiem am dano—yn gwbl alluog 3- chwaethus yn y gelfyddyd. Yn sicr, pan fydd pobpeth wedi ei gwblhau, bydd yn an. rhydedd, yn enw da, ac yn arddangoaiad o ailu a medrusrwydd yr adeiladydd hefyd, sef lvIr. Richard Roger, Treforris. Er nad yw wedi cael manteision neillduol, y mae wedi wedi ymestyn yn egniol at .berffeithrwydd, fel y dengys yr adeitad pryd fart h hwn sydd yn goron ar ei ymdrechion parhaus. Y Sa- both cyn y diweddaf a'r nosLun canlynol, Riiagfyr y lOfed a'r cynaliwyd cyfarfod agoriadol, pryd y ca,fwyd pregethau da gan y Parchn. D. Saunders, Trinity, Abertawe; W. S. Davies, Crug-glas; W. Jones, gvnt Cwm- aman; a W. Williams, Argyle Chapel. Godderwch i mi cyn diweddi y llith byr hwn, i ddweyd gair am EISTEDDEOD LIB ANUS, TR EFORRIS, yr hon a gynelir y Nadolig. Y mae yr eglwys uchod wedi rhoddi bait braf o flaen eorau cynulleidfaol ein cymydogaethau, ac yr ydym wedi clywed, ar sail dda, fod lluaws o honynt yn ymbarotoi ar gyfer y gystadleuaeth, gan benderfynu, os collir ar y prif ddarn, wneyd cynyg am yr ail drachefn, gan ei bod yn werth ymdrechu am dani. Y mae yma barotoi mawr ar gyfer rhoi derbymad teilwng a. chroesawus i blant y gan yn gyffredinol, gan mai hwy fydd heroes y dydd. De'wch chwi, gyfeillion, a chroesaw, y mae yma ddysgwyliad hiraethus am danoch, ac am fwynhau eich doniau perseiniol, yn unigol a lluosog. Mae yma barotoi ar gyfer diwallu eich hallgenion. corfforol hefyd, fel na fydd raid i chwi glndø- Uawer yn eich wallet. EZRA.
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. GiBBAH.—Dydd Sul, yr 17og cyfisol, caws- om y fraint o wrando Ysgol Sabothol y capel uchod yn myned trwy ei programme cliwart- erol fel arfer. Er fod y gwlaw yn disgyn fel rhaiadrau ar adeg y cyfarfodydd, yr oedd y ty yn orlawn, ar gweithrediadau yn fywiog ac effeithiol. Yr oedd y darnau a draddod- wyd yn wir dda, a'r traddodwyr yn eu tra- ddodi fel rhai yn teimlo nerth y gwirionedd- au oeddynt yn eu traddodi. Gallasem feddwl fod y cantorion ar eu goreu, oherwydd yr oedd yr emynau a'r anthemau a ganwyd yn gwefreiddio calonau y gwrandawyr- Cynorthwyid y gerddoriaeth gan offerynau cerdd ac yr oedd gwrando arnynt yn myned dros yr anthemau, megys "Gloria" a'r cyffelyb, tuhwnt i ddim a glywsom yma o'r blaen, ac yn adlewyrchu yn ogoneddus ar dalent gerddorol Brynaman.—Gohebydd.
LLANDILO.
LLANDILO. TAN.-Dydd Sadwrn, yr 16eg cyfisol, yr oedd yr offeiriad ar gauol cVirllen y gwas- anaeth claddu yn yr eglwys yn y dref "lion, darganfyddwyd tan yn llawr yr adeilad, wedi ei achosi trwy orboethi y stove. Llwyddwyd i'w ddiffodd trwy gryn ymdrech cyn iddo wneuthur llawer o niwed. Clywsom un dyhiryn yn rhegu yn y lie cysegredig. Yn nghanol y cynhwrf, aethpwyd a'r corff allan i'w gladdu.—Dewi Glan Cenen.
!CWMAFON.
CWMAFON. PENUEL. NOS Lun, yr lleg o'r mis hwn, bu y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg), Llan- elli, yn darlithio yn y capel hwn ar "Awr gyda'r beirdd." Cymerwyd y gadair gan y .Y Parch. E. Roberts, (A.) Cwmafon. Olrhein- odd Lleurwg hanes barddoniaeth v pedwar cyfnod y rhenir y rhan yma o ienyddiaeth, ac anrhegodd y gwyddfodolion ag amryw engreifftiau o farddoniaeth y gwahanol gyf- nodau. Y cynulliad yn lluesog, a barnwyf y trosglwyddir swm dda o elw i Mr. D. Walters, fel cydnabyddiaeth iddo am arwain canu cynulleidfaol Penuel. Pasiwyd diolehgarwcb cynes i'r darlithydd a'r cadeirydd. Yr oedd y Parchn. T. Richards, (B.) Aberafon, a W. Thomas (A.) Cwmafon, yn bresenol, y rhai a gymerasant ran yn y cyfarfod.—Gohebydd.
YSTRAD RHONDDA. f
YSTRAD RHONDDA. f Dywedir mai o Bont ar Rhondda i fyny* hyd at eglwys y plwyf y mae y rhanbarfcft sydd a hawl i'r enw Ystrad; ond beth bynag am hyny, digon araf yw hi yma yn rhai o'r gweithfeydd, a llawer un yn cael gwaith i ddyfod a dau ben i'r llinyn i gyfarfod a'u gilydd. Ond gellir meddwl ar ambell i iiost Sadwrn fod y flwyddyn '73 wedi gwawrio yr ail waith wrth weled y meddwdod a'r ymladd sydd yma. Yr oeddem yn dysgwyl ychydig ddiwygiad tuag ardal y Pentre, oherwydd y mae efengyl hedd yn cael ei phregethu yn Siloh bob Saboth, a dynion yn cael eu hanog i ffoi rhag y llid a fydd; ac ar y Llun, y mae cyfiawnder v gyfraith yn cael ei gyflawni yn y Llys Gwladol yn yr un lie; ond er y cyfan,. para i wneyd drygioni mae dynion. Y mae capel y Bedyddwyr, yn yr Heol Fach, yn cael ei ail-adeiladu, ac y mae gerllaw a dyfod o dan do; bydd hwn yn addurn i'r gymydog- aeth; yr adeiladydd yw Mr. Morgan, Treorci. Capel hardd a thlws wedi cael ei agor gan y Wesleyaid Seianig. Mission Room bron » bod yn barod i'w agor gan yr Eglwys Wladol. Yr Annibynwyr yn bwriadu ail-adeiladu en haddoldy heb fod yn faith; felly, fe welfr fod gweithio yn yr Heol Fach gyda y gwahanol enwadau. Sonir llawer yn y gymydogaetb am Fwrdd lechyd, rhai drosto a rhai yn ei erbyn. Ymddangosodd Ilythyr yn y GWLAD- GARWR er's ychydig amser yn ol yn nghyleb- y Bwrdd; ond hyn am dani, os na wneir rhyw ddarpariaeth er glanhau y lie mewn rhai manau, ofnwyf y daw bwrdd afiechyd yma nid oes eisieu ond i rywun rhoddi cipdren* tucefn i'r tai yma mewn llawer man, ea olyg- feydd yn ddigon i godi cyfog ar gi. Gobeith- io y gwneir rhywbeth iddynt cyn y daw y tywvdd gwresog, onide ofnwii y caalyiiiadau. —GrxtmweL