Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
(• Christmas Presents! New Year's Gifts!! Church Services in Aluminum and Gold Bindings, At the Gwladgarwr Office, Aberdare DYMUNA Mr. T. D. Williams (Eos Dyffryn), Royal Academy of Music, Llundain. HYSBYSTT ei fod yn agored i dderbyn engage- ments fel Beirniad mewn Eisteddfodau, neu fel Tenor mewn Cyngherddau. Am delerau, dyddiad. &c., cyfe;.I-er- T. D. WILLIAMS. B.A.M., 28, Rheidiol Terrace, Packington Street, 1450 Islington, N. MR. & MRS. J. W. PARSON PRICE (OF AMERICA), For Concerts, Eisteddfodau, Sc.—Address, GVVLADUAIIWR Ojfice, Aberdare. 1448 TEMPERANCE HALL, Aberdar. w DAN NAWDD YTeilwng Anrhydeddus ARDALYDD BUTE, M.Y.; ARGLWYDD ABERDAR; AKGLWYDD TREDEGAR;" H. H. Vivian, Ysw., A.S.; H. Richard, Ysw. I A.S. B. Fothergill, Ysw., A. S.; T. Cordes, Ysw., A. S.; Gwilym Williams, Ysw., D. Davis, Ysw., J. Lewis, Ysw., &c., &c. Dyddiau Llun a Mawrth nesaf, Rhoddir rfRI PEBITORMIAD cyflawn o'r Oratorio "SAMSON" Gyda Cherddorfa nerthol, pryd gweinyddir gan Miss Mary Davies, 0 Gyngherddau yr Albert Hall a St. James's Hall, Miss Martha Harries, O'r Covent Garden Promenade Concerts Mr James Sauvage, 0 Gyngherddau St. James's a Covent Garden Mr. T. Brandon, Y Basso enwog, o gyngherddau Exeter Hall; Mr. Thomas Howells, Mr. T. S. Thomas, a Mr. Wm. Thomas. A Chor Undebol Aberdar. Cyfeilwyr—Mri. D. BOWEN a J. PERKINS ORCHESTRA GLOUCESTER STRING BAND, CHELTENHAM PROMENADE BAND, (Yn cael eu cynorthwyo gan offerynwyr o'r lie,) Dan arweiniad Mr. E. G. WOODWARD. Arweinydd—Mr. Rees Evans. Cynelir Cyngherdd Amrywiog Nos Nadolig. Dydd Nadolig.-Cyngherdd cyntaf (Samson) am 3, yr ail gyngherdd (Amrywiog) am 8. bydd, fflawrth, ft hag. 26.—Cyngherdd cyntaf (Sam- son) am 2 yr ail gyngherdd (Samson) am 7. Toeynau, 3s., 2s. 6c., 2s., Is. (Sc., Is., i'w cael yn holl westai a masnachdai Aberdar, a chan aelodau y 'Cor. Manylion ar y programmes a'r hysbysleni, tteu drwy ymofyn a'r Ysgrifenydd— 1458 D. RHYS, Glo'ster-htreet, Aberdar. RWRDD Y GOLYGYDD. DEWI GLAXNEDD.—Gohebydd arall wedi danfon yr hanes o'ch blaen. Diolch i chwi, er hyny. PENTRE YSTRAD.—Yn lie "Mr. a Mrs. Thomas Williams (yn hanes cyfarfod llenyddol y lie uchod) darllener "Mr. a Mrs. Thomas Miles." 1>EKBYNIWYD-Sylwedydd, E. J. Llewelyn, Cymro, (ydym yn rhoddi crynodeb o'ch llythyr yn y rhifyn hwn), S. T, (danfonwch trwy law ein dosbarthwr), Robyn, Gohebydd Rhymni, Twmi Tubal, Rhyddfeddyliwr, Pater Familias, Aelod o'r ysgol, Lales, Cymro, J. T., Brodor, Knux, Yr Hen Bydler.
NADOLIG.
NADOLIG. Unwaeth eto y mae penytymor hapusai y flwyddyn wedi gwawrio arnom, ae yn galw arnom, am dro, annghofio ein gofid- iau ac i fwynhau hyny o lawenfyd sydd o fewn ein cyrhaedd. Rhyfedd yr ymdrech a wneir gan bawb preswylwyr cred i gadw y Kadolig; os rhaid gadael i'r cyfoethogion y pren Nadolig addurnol, ac arddangosiad- ,4u drufawr, v mae yr eiddiorwg glas a'r gelynen fythwyrdd o fewn cyrhaedd y tylotaf o'r tylawd, fel na raid i'r bwthyn iseldo fod heb ei Ion arwyddlun. Golyg- feydd y Nadolig yw y rhai mwyaf swynol i ni, a'r mwyaf per-gyffrous, o holl olyg- feydd y flwyddyn:—gwel'd y cerbydresi Virion wedi eu llwytho a theithwyr o bob l'hyw, oed, a gradd-teithwyr y trydydd dosbarth bron yn ysgafnach eu calonau, os yn brinach eu moethau ac yn Ilai eu iesmwythyd, nag eiddo y dosbarth cyntaf -oll yn cyftirio eu hynt tua'r hen gartref lie y gwelsant gyntaf oleuni bod, a lie y treuliasant foreuddydd eu bywyd mor ddedwydd ag angylion newydd eu creu. Itath o adgyfodiad ieuenctyd ydyw yr wyl kadolig, a dwg i lygad yr oedranus a'r 9 -ethedig ddeigryn gloew wrth gofio am ^ynebau nad oes modd ond eu cofio mwy. mae yn taflu enfys-boLt yn ol tros y Wuol oed, a breuddwydiwn am enyd ein bod yn ail fyw hapusaf gyfnod bywyd. Y fath rinwedd swyndynol, y fath allu attvn i-uiol y sydd yn ei eaw Et, wedi ehedeg heibio o agos ugain canrifl Y mae hyd yn nod yr adgof am ei enedigaeth yn gwneyd yr hollfyd yn un: y mae Efe yn parhau yn ddymuniant yr holl genedloedd; ac y mae dynolryw, yn eu perthynas ag Ef, yn sylweddoli eu perthynasau tyneraf a'u gilydd gan ymdoddi yn eu gilydd yn ngwres cariad eyffredinol. Ac yn 118 gwanhau gyda threigliad oesoedd, y mae y dylanwad attyniadol a byd-unol hwn yn cryfbau fwyfwy yn barhaus: ac y mae pob Nadolig yn olynol yn ychwsmegu profion newyddion o Dduwdod y Mab a rodd- wyd i ni." Ar y ddaear tangnefedd." Dyma efengyk yr ymgnawdoliad, a chaiff ei theimlo a,'i mwynhau ddydd Llun nesaf, o ogledd i ddehau, o ddwyrain i or lie win— yn mhob man ond un-Bulgaria dylawd! Heb son am fodd llawenhau, heb son am fodd cadw gwvl, bydd yno filoedd o deulu- oedd Cristionogol yn wylo am eu cattrefle- oedd clyd, ae yn dyoddef eisieu bara. Yr ydym yn gobeithio, ie, yn gweddio ar y Nefoedd, ar i'r Nadolig presenol hwn fod y Nadolig diweddaf byth i'r Twrc yn Bulgaria. Pan ddel Nadolig eto, gobeith- iwn y'i cynelir yn Bulgaria mor rydd, mor ddiofo, ac mor llawen, ag y'i cynelir yn Nghymru eleni. Ac Did llawenydd i gyd sydd yn Nghymru y dydd Nadolig hwn. Dylai y rhai y mae Rhagluniaeth yn dirion ohonynt gofio am y lluoedd yn ein mysg sydd yn wael eu byd arnynt. Bydd llawer ty yn ein gwlad ddydd Llun yn btin ei fwrdd, ac yu oer ei aelwyd, heb i rai ohonoch gyfranu ychydig o'ch llawnder. Cofiwch fod y gwaith yn brin, a'r ymborth yn ddrud. Rhwng elusengarwch cyffredinol yn dangoa "i ddynion ewyllys da," bydd i'n holl ddarlleawyr, eleni eto, er caleted yr amser- oedd, NADOLIG LAWEN
LLYTHYR LLUNDAIN
LLYTHYR LLUNDAIN LLUNDAIN, Nos FAWRTH. Nos Fercher diweddaf, y 13eg eyfisol, cawsom yr hyfrydweh o fod yn bresenol yn un o'r cyngherddau mwyaf llwyddianus, yn mhob ystyr, a gynaliwyd, hwyrach, erioed gan y Cymry yn Llundain. Cymerodd y gyngherdd honleyn'y Myddleton Hall, Upper-street, Islington. Yr oedd y neuadd eang yn orlawn o bobl-braidd yn annghysurus felly ac ymddengys i luaws o bobl fethu a chael mynediad i fewn, gan mor llawn oedd y lie. Cyhgherdd ydoedd er budd i Mr. T. Parry, arweinydd y iftorth London Choir ac y mae yn ddywenydd mawr genym allu dweyd mai budd-gyngherdd gwerth ei galw yn gyfryw 11 Y ydoedd. Brodor ydyw Mr. Parry o gymyd- ogaeth Castellnewydd-Emlyn. Daeth i fyny i'r Brifddinas, y mae yn debyg, tua phum' mlynedd yn ol; ac yn ystod yr amser hyn y mae wedi enwogi ei linn yn mhlith ei gyd- wladwyr Llundeinig fel cerddor galluog ac addawol iawn. Oddiar y daeth i Lundain, y mae wedi bod yn hynod ymdrechgar o blaid pob aclios da, ac wedi enill parch ac edmyg- iant pob gradd o'i gydwladwyr yn y Brif- ddinas. Yr oedd y dorf anrhydeddus a ym- gynullodd o bob cwr o'r ddinas i Myddelton Hall, nos Fercher diweddaf, yn tystiolaethu yn eglur ac yn uchel am ei deilyngdod a diau y bydd y ffaithhon yn fwy gwerthfawr o lawer yn ngolwg Mr. Parry na'r swm anrydeddus a gyflwynwyd iddo fel cynyrch y gyngherdd. Blin genym hysbysu fod y bon- eddwr ieuanc teilwng hwn, nid yn unig wedi gorfod rhoddi i fyny ei alwedigaeth oherwydd afiechyd, ond wedf gorfod myned, ar gais meddygol, i dreulio y gauaf yn Ventnor, Isle of Wight. Cynaliwyd y gyngherdd nos Fercher er ei gynorthwyo yn ei amgylchiadau presenol, ac yn gymaint a dim hefyd er dangos cydymdeimlad ag ef yn ei gystudd blin. Cymerwyd rhan yn y gyngherdd gan y bo- neddigesau a'r boneddigion canlynol:—Mis. Watts Hughes, Misses Mary Davies, Marian Williams, Lizzie Evans, a Martha Harries; Mri. Brinley Richards, J. Thomas (Pencerdd Gwalia), James Sauvage, R. C. Jenkins, D. James, Hooper, See. Yr oedd y rhaglen yn un dra chwaethus, ond yn anarferol o faith; er hyny, aethpwyd drwyddo heb gymaint a hitch o fath yn y byd. Nid ydym yn cofio i ui glywed y cantorion yn canu yn well erioed, a sicr yw na chlywsom Brinley Richards aPhencerdd Hwalia ynchwareu mewn gwell hwyl yn ein byw. Cawsant un ac oil gymeradwyaeth tra brwdfrydig gan y gynull- eidfa. Y mae yn ddywenydd mawr genym hys- bysu i bawb roddi eu gwasanaeth yn rhad ar yr achlysur, ac nid yn unig hyny, ond iddynt gynyg eu gwasanaeth fydag ewyllys calon, ac fel pe yn awycldus am ddangos eu parch a'u cydymdeimlad à Mr. Parry. Yr oedd pawb o honynt wrth ganu a clvvvareu fel pe yn ymwybodol eu bod yn gwasanaethu o blaid achos teilwng, ac yr oedd- ynt un ac oil yn ddyledus i ryw fesur i'r ffaith hen am iddynt fyned drwy eu gwaith mor fendi- gedig. Da genym hysbysu i gynyrch y gyng- herdd, wedi talu pob treuliau, gyrhaedd y swm anrhydeddus o gan punt. Y mae diolchgarwch mawr yn ddyledus i'T bobl dda hyny fu mor ddiwyd a gweithgar yn trefnu materipn y gyngherdd aCYll gwerthu toeynau. Rhaid priodoli llwyddiant mawr y gyngherdd hon, i fesur helaeth, iddynt hwy. Y mae clod arbenig yn ddyledus hefyd i'n cydwladwr haelfrydig a gwladgarol, Stephen Evans, Ysw., a'i deulu parchus, am y rhan flaenllaw a gymerasant yn y mudiad. Gwerfchasant, cydrhyngddynt, dros werth 70p. o docynau. Y mae y Nadolig yn yr ymyl, ac wrth derfynu y llythyr byr a brysiog hwn, yr yclym o eigion calon yn dymuno gwyliau llawen i bawb o ddar- lenwyr a staff y GWLADCARWR.
IFFEWYDEI AD BY GEE YNLLYD…
FFEWYDEI AD BY GEE YNLLYD MEWN GLOFA GER ABSETILSSI. Er pob gofal a, rhag wyliadwriaeth, ac er fod y Llywodraeth wedi pasio "Cyfraith Rheoleiddiad y Glofeydd," y mae yn ofidus meddwl fod damweiniau trychinebus yn eymeryd lie yn awr ac eilwaitli yn ein glo byllau, gan ysgubo minteioedd o'n glowyr i draethau arall fyd megys ar darawiad. Penod ddu iawn yn hanes damweiniau y ddaear ydyw lianes y trychinebau a gymer- asant le yn mhyllau glo Deheudir Cymru er y flwyddyn 1800 a dyma un arall wedi cymeryd lie foreu Llun diweddaf yn Nglofa South Wales, rhwng y Blaina ac Abertileri, trwy yr hon y collodd 19 eu bywydau, ac y niweidiwyd arnryw. Ffurfiwyd y cwmni er gweithio y lofa hon yn 1864, a'r ddau brif bwll ydyw y South Wales a Rhos y-gwaith, yr hwn sydd yn segur er ys cryn amser. Y mae y South Wales yn cael ei gario yn mlaen yn fywiog, ac y mae ynddo tua 400 o lowyr yn gweithio. Y mae tua chwarter milldir o hyd, a 240 llath o ddyfnder. Rhwng 9 a 9" o'r gloch foreu Llun, clywyd swn byddarol y gelyn tanddaearol yn ffrwydro, a rhedai y dynion yn wyllt o bob cyfeiriad at enau y i wll. Aeth nifer o ddynion i lawr trwy bwll Rhos-y-gwaith ac wedi disgyn, gwelsant olygfa druedus-llawer o'u cyd-ddynion yn gorwedd yn feirwon, ac ereill yn ocheneidio yn mreichiau tranc. Wele yn canlyn restr o'r rhai a godwyd trwy bwll Rhos-y-gvvaith. LLADDEDIGION. Seth Freeguard, 15 oed. Alfred More, 42 oed, priod. James Taylor, 14 oed. Henry Purnell, 42 oed, priod, William Goodwin, ieuengaf, 15 oed. William Goodwin, hynaf (tad y diweddaf), 46 oed, priod. Thomas Hunt, 26 oed, priod. Thomas Moore, 30 oed, priod (?) genedigol o Gwm Rhondda. Henry Hare. 22 oed, dibriod. George Stephens, 35 oed, priod. Jones Pike, 50 oed, priod. Thomas Miles, 37 oed, priod. NIWEIDEDIGION. Richard Jones, 17 oed. John Griffiths. John Henry Wales, 25 oed. Robert Wellington. John Jones, 22 oed, dibriod. John Jones, 30 oed, priod. Daniel Samuel, 35 oed. John Dando, 15 oed. William Lewis. Tom Roach, 18 oed. Jones Dacey, 17 oed, priod. Charles Swain. John Bethel, 22 oed, dibriod. George Wakeley, bachgenyn. John Llewellyn. Gyda'r eithriad o Wakeley, yr hwn oedd yn byw yn y Blaina, yr oedd y Ueill yn perthyn i Abertileri, Cwmtileri, a'r ardal. Rhoddodd Dr. Brewer a Dr. Ryan bob cynorthwy yn eu gallu i'r trueiniaid. RHESTR O'R RHAI A GODWYD TRWY BWLL Y SOUTH WALES. Stephen Stephens, priod. Samuel Pritchard (llysfab y diweddaf), Club- row, Cwmtileri. John Jeffreys, henafgwr. William Mason, dibriod, Blaina Gwent. Thomas Ashman, dibriod, Blaina Gwent. Ni wyddis, ar hyn o bryd, pa fodd y cymer- odd y taniad dinystriol Ie. Dichon y daw rhywbeth i'r goleu ar y trengholiad.
Strike Llanelli.
Strike Llanelli. Cynaliwyd cyfarfod o'r glowyr yn yr Union Tavern, Felinfoel, dydd Llun diweddaf, a'r pen- derfyniad unfrydol oedd, na fycldai i'r gweith- wyr roddi un math o gynyg i'r meistri, hyd nes y deuai yr olaf i'w hymofyn hwynt. Taer ddymunir ar holl lowyr y Deheudir, a phawb ydynt yn teimlo dros gyfiawnder, i wneyd a allont i gynorthwyo glowyr anffodus Llanelli.— Cymro.
Urdd yr Hen Frytaniaid.
Urdd yr Hen Frytaniaid. Gwyr y rhan fwyaf o aelodau yr urdd hon, yn nosbarth Aberdar, fod Mr. William James, Is-lywydd yr undeb a chyn-lywydd y dosbarth, wedi bod yn ffyddlon iawn dros ledaeniad yr urdd uchod yn ystod y blynydd- au aethant heibio. Fel cydnabyddiaeth fechan am ei weithgarwch, penderfynodd aelodau y dosbarth gyflwyno tysteb iddo, yr hon fydd yn gynwysedig o anerchiad, tlws, a phwrs o aur. Cynelir cyfarfod y cyflwyn- iad yn y Crown Hotel, Aberdar, nos Fercher, Ionawr 3ydd, 1877. Llywydd, T. R. James, Ysw., manager, Nantmelyn; is-lywydd, Dr. Walters. Disgwylir presenoldeb llu mawr o frodyr yr urdd, a gwahoddir yn garedig frodyr o urddau ereill a phawb yn gyffredin- ol. Da genym ddeall fod urdd yr Hen Frytaniaid yn cyflym gynyddu—y mae swydd- ogion y dosbarth yr wythnos hon yn agor cyfrinfa newydd arall yr yn sir Benfro. Llwydd iddi iiiedcl- HEN FRYTANIAD.
Y Llofruddiaeth yn Eglwysnewydd
Y Llofruddiaeth yn Eglwysnewydd Deallwn fod ymdrechion egniol ar gael eu gwneyd er arbed bywyd y ferch anffodus, Mary Mahoney, yr hon a gafwyd yn euog o lofruddio ei baban newydd eni, ac ar yr hon y pasiwyd dedfryd marwolaeth yn Abertawe, yr wythnos ddiweddaf. Arwyddwyd deiseb am ei harbediad eisoes gan yr Uchel-Sirydd, yr Anrhydeddus F. C. Morgan, A. S., Maer Caerdydd, ac amryw o ynadon heddwch y sir. Ar gyfrif ei hieuenctyd (18 oed), y mae yn dra thebyg y llwyddir i gael gan yr Ysgrifenydd Cartrefol i arbed bywyd y ferch druenus yn enwedig pan y mae personau o ddylanwad fel y rhai a nodwyd yn cyfryngu ar ei rhan. Pan ar fyned i'r wasg clywsom fod yr Ys- grifenydd Cartrefol wedi caniatai arbediad bywyd Mahoney.
Eisteddfod Castellnedd.
Eisteddfod Castellnedd. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod yn Neuadd y dref, Rhagfvr yr 16eg. Beirniad, Eos Morlais, yn cael ei gynorMiwvo ar yr adrodd- iadau gan Crymlun. Canu, "Gogoniant i Gymrii," goreu, D. W. Jenkins, Llansamlet; canu, "Y ddau forwr," goreu, J. Davies, Castellnedd, a'i gyfaill; adrodd, "Uehenaid am Gymru," goreu, Absalom Phillips, Melin- crythan; adrodd, "Y Morgrugyn a Sioncyn y gwair," goreu, David Evans, Resolven; canu, "Marsellaise," gwobr Ip. 10s., tri chor yn cystadlu, sef Resolven, Birchgrove, a Chastellnedd, goreu, cor Birchgrove, dan arweiniad Howell Prosser. Prif gystadleuaeth y dydd oedd datganiad "Cymra anwylaf," (John Thomas,) gwobr Sp., y tri chor uchod yn cystadlu, goreu, cor Castellnedd, yr hwn oedd yn trarhagorimewn melodedd, tynerweh, a chydgordiad lleisiau. Cor ieuanc yw hwn, yn cael ei wneyd i fyny gan ieuenctyd heb dderbyn unrhyw fanteision addysgol, gydag ychydig eithriadau, ac y mae yn glod i'w har- weinydd, Mr. John Arnold, ei fod wedi enill llawryf buddugoliaeth dan y fath amgylch- iadau. Eisteddfod ystwrllyd ac annhrefnus a gawson, drwy ymyriad annoeth a dialw y llywydd a'r ysgrifenydd. Cawsom brawf o allu Eos Morlais fel adroddwr, drwy iddo adrodd "Sioncyn y gwair" yn rhagorol, mewn canlyniad i rwgnachrwydd rhai o'r cystadleu- wyr.—Hwiitw.
Cyfarfod o Lowyr yn Bargoed.
Cyfarfod o Lowyr yn Bargoed. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cyfar- fyddodd pwyllgor gweithiol unedig (joint committee) gloftydd y Darran, Tirphil, a Chefn Brithdir, yn Ngwesty y Bargoed Junction Inn, Bargoed. Un o brif ddybenion y cyfarfod oedd cymeryd i ystyriaeth y rhy- budd sydd wedi ei osod i fyny yn y gwahanol lofeydd mewn perthynas i'r Rheolau Cytun- debol {Contract Rales). Wedi ethol llywydd, aed yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Cafwyd ar ddeall gan gynrychiolwyr y ddwy lofa olaf a enwyd fod y pwnc wedi bod o dan sylw yn y gweithfeydd hyny yn flaenorol, ond nid felly yn nglofa y Darran (Deri). Ond yn gymaint a bod llais y mwyafrif yno yn Ull- frydol yn eu penderfyniad i wrthwynebu y rheolau awgrymedig, pasiwyd y penderfyniad aganlyn:—"Fod y cyfarfod hwn yn gwrth- wynebu y Rheolau Cytundebol hyd y man eithaf, ac yn dymuno ar ein cydweithwyr yn nglofa y Darran i gydymftnrfio a ni i gadarn- hau y penderfyniad." Yna siaradwyd ar y priodoldeb o anfon cynrychiolydd neu gyn- rychiolwyr i gyfarfod Merthyr, y 26ain cyfisol, a.llais y cyfarfod..Wedi ymdrin a'r pwnc am ychydig, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn:— "Fod y cyfarfod hwn yn credu fod cynrych- iolydd yn angenrheidiol; felly, yn penderfynu fod un yn unig i gael ei ethol o'r cyfarfod hwn, a hwnw i gynrychioli y tair glofa, un unfryd yn eu penderfyniadau." Yna etholwyd y y brawd John Lewis, o lofa y Darran (Deri), i fyned i gyfarfod Merthyr yn gynrychiolydd dros y cyfarfod. Wedi hyn cymerwyd i ys- tyriaeth y pwnc o etholiad aelodau y Bwrdd Cymodol. Nid oedd hyn wedi bod dan sylw cyfangorffy gweithwyr, ond yn unig yn nglofa Tirphil, yr hon lofa oedd wedi pasio pender- fyniad yn cymeradwyo ac yn cefnogi y brawd David Powell, Old Tredegar, fel aelod addas i fod ar y Bwrdd Cymodol. Gan fod y cwestiwn hwn yn un gwir bwysig, penderfyn- wyd, "Fod i'r gwahanol lofeydd i gyfarfod yn ystod yr wythnos ddyfodol i ymdrin a'r cwestiwn, ac anfon eu penderfyniad wedi hyny i'r cynrychiolydd apwyntiedig; ond mor bell ag y mae ein dylanwad ni fel pwyllgor yn cyraedd, bydd i ni gefnogi yn unig y brawd D. Powell, a cheisio gan ein cydweith- wyr roddi eu cefnogaeth yn yr un cyfeiriad. Pasiwyd hefyd, "Fod y cwestiwn pa fodd i ddwyn a thalu treuliau y Bwrdd i'w osod gyda'r penderfyniad arall o flaen ein cyd- weithwyr yn y cyfarfodydd crybwylledig." Siaradwyd ar y camwri oeddym wedi ei gael oddiar ddwylaw y Bwrdd Cymodol a phasiwyd penderfyniad i roddi pob cefnogaeth yn ein gallu i'r brawd John Lewis, Deri, i gario barn i fuddugoliaeth mewn perthynas i'r ymdra- fodaeth lechwraidd, gyda'r amcan o gael y camwri wedi ei gymhwyso. Cymeradwywyd fod cofnodion y cyfarfod i gael eu eyhoeddi yn y GWUDGARALR. Talwyd diolchgarwch i'r llywydd a'r ysgrifenydd, a therfynwyd y gw eithrediadau. — Fr Ysgrifenydd.
DOWLAIS.
DOWLAIS. Y mae yma brysurdeb nid bychan ar yr adeg bresenol. if mae y c6rau yn canu yn fendigedig gogyfer a'r Eisteddfod Gymrodovol, ac wmbredd o gyfansoddiadau. Cofied pawb ymholi a mi ar fyr o berthynas y gystadleuaetli, bwydydd, llety y am y nos, &c. Deuwch iddi yn llu. CONTRACT RULES.—Nos Sadwrn diweddaf cynaliwyd cyfarfod lluosog iawn yn ngwesty y Brittannia, i'r dyben o ystyried y contract rules. Daethpwyd i'r penderfyniad o'u gwrthod yn grynswth; rheolau ydynt o eiddo y meistri, ac y mae yn well gan y gweithwyr y Mines Regula- tion Act. Penderfynwyd hefyd ffurfio Undeb Cymreig, nid er mwyn ymrafaelio a'r meistri, ond yn vmig i ddal y Bwrdd Cyfiafareddol i fyny, er cael cyfiawnder rhwng meistr a gweithiwr. Bydd cyfarfod i'r un perwyl nos Sadwrn nesaf eto yn yr un tSr. Cofied pawb am ddyfod yno. —Menevius.
GENEDIGAETH.
GENEDIGAETH. Rhagfyr 10> priod Mr. John W. John, Yard- row, Llansamlet, ar fab, a gelwir ef John Arthur.—D.W.J.
Advertising
Gohiriad Eisteddfod. BYDDED hysbys y gohirir EISTEDDFOD MELINIFANDDU hyd dydd LLUN, CHWEFROR 19eg, 1877. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw y gwahanol feirniaid Chwefror lOfed; y ffugenwau i fod yn llaw yr ysgrifenydd Chwefror 15fed. Y manylion ar y progi-ammes am y pris arferol. JAMES GRIFFITHS, Y sg. Factory, Blackmill, Brigend. 11 1470 Eistedcifod y Gobsithlu. /^lYXET/li; yr EISTEDDFOD ucluod Ionaw vy laf. 1.^77, yn yr Y^GOLPY jBRITANAIDD, 1 caEnNiaTdUaEe. tpn, ryrd liyv d.igiaweoth^r. v&yci.r y buddugwyr mewn Beirviaid Ms. M. O. JONES, Treherbert, a'r PARCH. J GWRYD LEV/IS, Cwmparc. Y PUIF DESTYNAU. 1. I'rGobeithluheb f d dros 15eg oed na than 40" mewn rhif (8 mewn oed) a gano yn oreu I ti 0 Arghvydd," (J. Curwen), Antl.emau, Cynv.lleidfaol,' gwobr. 5p. 2. I'r Gobeithlu heb fod dros 15eg oed na than 40 mewn rhif (8 mewn oed) a gano yn oreu ilwy'n. caru dweyd yr hanes," (Sankey); gwobr. 2p. 10s. 3. I'r Gobeithlu heb fod dros loeg oed na than. 30 o rit (t; mewn oed) a gano yn oieu "Mate in the' arms of Jesus," (Sankey); gwobr, 2p. Y cyfansoddiadau a'r ffugemrau i fod mewn llaw erbyn Rhagfyr yr 20fed. Programmes yn cynwys yr oil o'r testvnau am y pris arferol oddiwrth JACOB REJES, Hill Side Cottages. 11:10 Pontre, near Pontypridd.
Purwch eich Gwaed a Ohryfliewch…
Purwch eich Gwaed a Ohryfliewch eich Cyfanscddiad! I I' ,wy EYAjSTB' QCiyiXE BITTERS, NEU VE GE TABLE TO NI C. ^^E y Bitters hyn yn Iiollol lysieuoL •n ac~7^ °ynwys y canlyn :—Quinine, Sars- parilla, baffron, Lavender, Burdock, Livei-wort. Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae bron pob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y leddvs- imaethryfeddol hon, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol liawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellliad difeth- iant at y doluriau canlyuol (1). Gwendidau o bob math jm ymddangos fel un neu r agor o r anhwylderau canlynol—iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, y gwaed yn rhnthro yn ddisymwth i'rgwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwng yr ysgwyddau, diffyg anadl, pesweb a thueddiad at y darfodedigaeth (decline (l). Difryg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd, i ,arc vae^ f ^yd, yr vstumo^ yn chwyddo trwy wynt, yr afu yn afiach, a thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen yn groe& i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparella a'r Burdock i y gwaed, y maent yn hynod o eifexthiol at y blast neu'r awelon, gw^ne^on. ystyffdra y cymalau, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyn yn barhaus. Cyhoeddir tri yn unig o r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Old Globe, New Dock, LlaneUtj, May 24th. 1876. ANWYL SYB,— Dj^munaf hj^sbysu i chwi fy mod wedi cae 1 fy llwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bron yn rhy wan i gerdded, ac yr oedd y clwvf ar fy mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on Llaxielli a r arrtaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywyd; ond trwy gymeryd y Quinine- Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn LTe, ?i j-M7 3ihocldaf fy enw vn llawn, J eaii() ereiii gael manylion pelJanh oddiwrthyf os mynant. Yr eiddoch, yn barchus, ■N i GRIFFITH WILLIAMS. Djiaswn ddvveyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio oud ychydig. The Grand Hotel, Brbjhton, July 28th, 1S76. DEAH SIR —I feel it is my duty to the publie- Md yourself to inform you that I have derived immense benefit from your Quinine Bitters or Vegetable Tonic. I have beet, for some months a victim to headaches, pain in the back, and I believe- a general derangement of the liver. I am haprrv 1 "ow fe?] weU> but take a dose of yornr "Bitters" occassionally when my appetite fails.- Yours faithful I3-, ROBEEX FOSTER. a Ruthin, Awst 15fed, 1876. • wyf. wedl derbyn lies maiiT oddiwrtb eich Quinine Litters. Bu m yn cael poenau an- nesgrifiad^T \n fy mhen a'm danedd, yn cael ei ach'. si (meddai r Doctor) gan fy vstumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fef yr oedd arnaf ofn bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy nthofidio bla." cas yn fy nghenau, yn enwedig Yll y boreu, fel bwystl. r oeddwn yn hala haner fy amser v» y gweh trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion. ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.— Yr eiddoch. Mr Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. U.fe.T-Os bydd y corff yn wan, y mae ya agored i bob math o anhwyldcrau, a dylid cofio bod bron pob math o beleni yn gwanhau y cyf- ansoddiad. J RHYBUDD — Gofalwch fynu gweled "Gwilym Evans, Ph.C., M.R.P.S. wedi ei ysgrifenu ar stamp y llywodraeth heb hyn, twyll ydynt. Ar werth gan bob Chemist cyfrifol mewn botel- au 2s. 9c. yn unig, nen gan Mr. GWILYM EVANS. rharmaceutical Chemist, Stepney-street, Phar- mai(X', Llanelly: Llundain, Barclay & Sons, &c» 1461.
Advertising
AT TO EMIGRANTS. General Agent to all American and A ^dralum Sailing Ships and Steamers. N M" JONES (CYMRO GWYLLI-), Passenge* Broker, 28, Urion-street.. Liverpool. Gor. wyliwr i'r Llinellau canlynol :—Inman Line Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, Stat* Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a'. liriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cj'farwyddiadau gofynol drwy anfon liythyr i> cyfeiriad hwn. Cailf pawb a ymddiriedo eu gofal- ddo y sylw nianylaf. W-vi Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. BEES, brodor o Merthyr Tydfil. Dymnnol gan y Cymro allu hysbysu y, Cyhoedd fod ganddo y TY CYMREIG1 eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr ac Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landino Stage. Cofier y Cyfeiriad,— • ■- iv N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool D.S — Gellir ymholi yn Aberdar & John Crown Hotel,