Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

Miss Mary Davies.

JPARUAD O'M BEBDAITR YN NGIIYM-I-OEDD…

GOREBIAETH 0 L'ERPWL.

Y Marchnadoedd.

News
Cite
Share

Y Marchnadoedd. LLUNDAIN. Yr oedd marchnad yr yd yno yn sefydlog, ddiwedd yr wythnos, yn y gwenith Prydeinig yn ogystal a thramor, ac yn cael ei werthu .Y yr un bris a dechreu yr wythnos. Blawd gwenith yn sefydlog am y prisoedd blaenorol, ond yehydig o fasnach a wnaed. Dim yn newydd yn yr haidd. Ceirch yn dawel am y prisoedd blaenorol. Y siwgr yn aros yr un. Ffa a phys yn sefydlog. L'ERPWL. Agorodd y farchnad yn sefydlog a thawel am y gwenith, ond cyn y diwedd, gostyngodd y y pris 1c. y cental, a dim ond ychydig o fas- nach a wnaed. Blawd gwenith yn farwaidd, heb yr un newidiad yn y pris. Ffa 3c. y chwarter o ostyngiad, a'r pys hefyd yn ffafr y prynwyr. Yr oedd marchnad y siwgr dydd Gwener yn sefydlog ar y prisoedd blaenorol. Rice yn sefydlog. Galw rhesymol am yd India, a'r pris yn gyffelyb i'r marchnadoedd .Y blaenorol. CAERLOEW. Yr oedd marchnad yr yd yma dydd Sad- wrn a mwy o gyflawnder o wenith ynddi l\a'r marchnadoedd blaenorol, a'r fasnach yn far- waidd am lai o bris. Gwenith tramor yr un modd. Haidd at falu yn sefydlog. Gwenith India 6c. y chwarter yn llai o bris. CAERDYDD. Yr oedd y fasnach mewn yd dydd Sadwrn yn farwedd, yr ychydig werthiad a gymer- odd le wedi cael ei wneyd ar ostyngiad ar y pris yn y farchnad flaenorol. Blawd gwenith, y plain tie,, sef y peth a elwir household flour, 39s. 6c. y sach. Ceirch du; 23s. i 24s. y chwarter. CARFYRDDIN. Dydd Sadwrn, gwerthid y gwenith am 5s. 10c. i 6s. y bwsiel. Haidd, 4s,. 6c. i 4s. 9c. y bwsiel. Yr oedd yno gyflawnder o ymenyn am o Is. 3c. i Is. 4c. y pwys, sef yr ymenyn hallt mewn fircins. Cig eidion o 7c. i 7|c. y pwys. Cig defaid, 7ic. i 8e. y pwys. Cig 116 yn brin am 9c. i 9|c. y pwys. Caws, 27s. i 28s. y cant, sef 112 pwys. .d TREFYNWY. Yr oedd y farchnad yma ddiwedd yr wythnos yn fychan oherwydd ansawdd yrhin, ac agos- rwydd marehnadoedd y Nadolig, y rhai a gynelir ar y Mercher a'r Sadwrn nesaf. Yr oedd y prisiau fel y caulyn :—Ymenyn fres, Is. 7c. y pwys; lard, 9c. y pwys; chwiaid, 5s. 6c. i 63. y cwpl; gwyddau, 6s. i 7s. yr un, neu 10c. y pwys; turkeys, Is. y pwys; ieir, 9ic. y pwys; wyau, 10 am Is. Cread- uriaid pluog byw :—Ieir, 2s. 6c. i 5s. y cwpl; gwyddau, 5s. 6c. 1 6s. yr un chwiaid, 5s. 6c. i 6a. 6e. y cwpl. FxrwythauAfal- au, 8c. i 9c. y galwyn; wynwyn, Is. y galwyn; tatws, 8c. i 9c. y cwart. Ci, moch —Spareribs, &c., 8e. i 8^c. y pwys.

Advertising