Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

I CSofnodion o'm Dydd-lyfr…

News
Cite
Share

CSofnodion o'm Dydd-lyfr Ameri- canaidd. GAl" J. J. DAVIES (ITXAS DDU). (Parhad.) Medi y 23ain (Gwener).-Yn y cyfnos, neith- iwr, daeth llong hwyliau o fewn ychydig ganoedd o latheni i'r Wyoming, yn dychwelyd o vVJad y Corllewin. Yr oedd y m6r yn 11 awn gwreichion. yn ymddysgleirio fel scr tanbaid. Barnwyf 111ai pysgod bychain oedd yn peri y fath ymddangos- cl iad rhyfedd. Heddyw yn forfeu ysblenydd, y gwynt yn dag a'r mÔr yn llyfn. Canoedd o wenoliaid yn dilyn y llestr, wedi bod ar ymwel- iad hafol a'r Ynysoedd Prydeinig. Onid yw yn -rhyfelldfod yr adar hyn yn gallu parhau ar yr aden ddydd a nos am gymaint o amser? Go- "baith am weled tir yn fua,n, a glanio yfory. Dail a rliedyn yn nofio ar wyneb y dyfnder, yr llyn a brawf eill hod yn agosan at dir. Y wybren yn ddigwmwl, a theyrn y dydd yn ymddysgleirio -yn ei ogoniant nefolaidd. Dechreuwyd tanys- grifiad tuag at chwech plentyn amddifad James 'Dunbar, y peirianydd trengedig. Am ddau o'r gloch, wele y pilot No. 4, o New York, yn nesu at y Wyoming ac yn dyfod i'r bwrdd, gan gy- merycl llywyddiaeth y llestr tua thraethell y %rawd Jonathan. Dyn tal, gwridgoch, a go]ygus yw y swyddog hwn, a gall yr ymdeithwyr fod yn hyderus y medr efe lywio y Wyoming yn ddyogel i ben y daith. Yr ydym yn awr o fewn -tri chant o filldiroedd i New York. Medi 23ain.—Nos waith dawel neithiwr, a'r, "éatr yn morio gyda bwandra. Y mordeithwyr1 yn codi gyda'r wawr ya awyddus i weled tir. Wedi cael boreufwyd aethum i'r bwrdd, a chefais .()lwg ar drum o fvnyddoedd Long Island, Amer- ica. Myfi oedd un o'r rhai cyntaf i weled tir a myned a'r newydd i lawr i'r trydydd deck. Dyma y newydd fel tin gwyllt trwy y lie, a'r bobl yn ■dylifo allan am y cyntaf i gael golwg ar y Byd :N ewydd-y Cyfandir Americanaidd, gorsaf y Werinlywodraeth fwyaf mawreddog o fewn y byd. Goleudy Long Island yn y golwg. Y dwfr yn newid ei liw i Ms tywyll. Yr ydym yn awr, xhwng naw a deg o'r gloch y boreu, ryw ddeng milldir i draeth gorllewinol Long Island; gallwn weled tywocl melyn y draethell yn ymestyn am filltiroedd lawer. Gweled y ty cyntaf yn America, yr hwn.a ymddangosai yn debyg i gastell. Y mynydda,u wedi diflanu o'r golwg, ac arfordir isel y gorllewin-ogledd yn ganfyddadwy. Dim tir yn ganfyddadwy mewn un cyfeiria.d arall. Dyfod i olwg New Jersey tua chanol dydd. 'Dyma ynys ardderchog, a plialasau prydferth, gerddi, maesyid, a choedwigoedd ysblenydd. Dyfod gyferbyn a Fort Hamilton oddeutn tri o'r gloch. Y mae yr amddiffynfa hon wedi ei hadeiladu o feini mawrion, ac yn cynwys canoedd ofagnela.u. Gorfod aros amy tug-boat. Y bâd ,,n ,a'r medclyg yn dyfod, a'r ymdeithwyr yn myned dan arholiad meddygol o'i flaen ar fwrdd y Wy- oming. Long Island ar ein deheu, Stratton Island ar ein haswy, New York ar ein cyfer, a ithref Brooklyn hefyd yn y golwg. Glanio yn mhorthladd New York ychydig wedi pedwar ar gloch, a myned allan o'r Wyoming a sangu ar dir yr America yn y cyfnos. Teimlad rhyfedd yn fy meddianu wrth droedio cartrefle meibion rhyddid am y tro cyntaf erioed. Tybiwn weled -duwies Rhyddid yn cysgodi y llanerch a'i haden- ydd noddawl, a bod ysbrydoedd y tadau pererinol yn cyfodi i'm croesawi i'w gwlad fabwysiedig. Medi 24ain.—Cysgu neithiwr yn y Castle Gardens, wedi yn gyntaf roddi ein henwau, nodi lie ein genedigaeth, a'r ardal y bwriadem wneyd -ein trigfa. Y mae yr hen gastell mawreddog ,gan mwyaf yn bentwr llosgedig, gan y tan mawr fu yma tua dau fis yn ol. Y mae gerddi, neu yn hytrach meusydd, ardderchog oddiamgylch y He, a'r rhodfeydd mwyaf gorphenedig. Y mae New York yn dref ardderchog, yn dra thebyg i Liverpool. Gwelais yma luoedd o fechgyn duon Ham. Gwisgai rhai o honyntfel boneddigion. Yn y prydnawn yr oedd un o longau rhyfel yr Unol Daleithau yn taranu yr awyrgylch gan ,drwst eu magnelau, tra yr oedd Hong ryfel arall ,,n :gyffelyb yn ymyl, megys yn barod i gyduno yn y ffug-frwydr. Cefais ddyddordeb mawr yn yr helynt. Bechgyn braf yw y mor-filwyr Ameri- canaidd. Gwelais luaws o honynt yn myned a dych welyd oddiar fyrddau y rhyfel-lestri. Cysg- -.ais i a'r teulu nos Sul yn 8, West-street, New York, mewn Neuadd Ddirwestol. Tybiwn, -wedi bod ar fwrdd y llong cyhyd, fod yr heolydd, y tai, ac hyd y nod y gwely, oil yn ymsymud Medi 25ain (Llun).— Myned oddi amgylch y Acliitas i weled ei rhyfeddodau, a phrynu ymborth ..gyferbyn a'r daith yn y train. Cofied yr ymfud- wyr nad yw cwmpeini y rheilffyrdd yn eu cyf- leawi a dim ond dwfr a than. Dyfod y prydnawn d reilffordd Pennsylvania, er cychwyn am y far WtSt. Myned drwy dclinas New York gyda'r ■■train, a galw yn Philadelphia oddeutu haner ;nas. Methu cael hamdden i fyned i lawr er gwele(I adeiItMlau y Centennial, ac i ymddifyru aiewn gweled y rhyfeddodau cylfyddydol. Medi 26ain (Mawrth).-Cysgu neithiwr ar agedd y cerbyd yn fy nillad. Teimlad rhyfedd i ,nit gydd wedi arfer a gwely clyd yw deffro gyda'r ya.wr, a thraed & phen clwyfus. Galw heddyw yt Coalville a Harrisburgh, Pennsylvania, a aaayned yn mlaen trwy Cumberland Valley. Ym- weled ag Altoonah, a chyrhaedd i dref Pittsburgh <erlJ,.n deg y nos. Tref weithfaol yw hon, tebyg ,i Mor Tydfil. Tebyg fod yma filoedd lawer o Gymry. Cyhoeddir yn y dref hon newyddiadur Cymreig o'r enw Y Wasg. Y mae talaeth Penn- sylvania yn enwog am ei hen sefydliadau o Gymry. Medi 27a.in (Mercher).—Galw yn nhref Colum- bus, Ohio, yn y boreu, yna cyrhaedd i Pickwick. Gwlad amaethyddol, doldir o wastadedd ffrwyth- lawn, gyda thai coed a phriddfeini yw talaeth Ohio. Myned trwy Dalaeth Indiana. Dyma wlad yr Indian Corn. Llawer 0 diroedd coediog newydd ei glirio. Dyfod i Logan's Port, Indiana. Tref fawr, yn yr hon yr ymgyfarfydda amryw reiltTyrdd pwysig. Teithio vn y prydnawn trwy dalaeth Illinois. Modi 26ain (Iau ).-Oclcleutu pedwar ar gloch y boreu wele y waedd am newid y cars. Rhyfedd y fath dwrw-pawb yn codi o'u cwsg, yn tafiu ymdlith eu blancedi, ac yn pacio i fyny yr hand luggage. Wrth ddyfod allan, yn ofni .myned yn sathrfa i'r llu peirianau symudol a wybient yn yr orsaf. Credwyf, onibai fod cloch fawr yn chwareu ar ben pob peiriant, y byddai rhai o honom wedi cyfarfod ag angeu. Digwydd injni'd i mewn i gerbyd wedi ei haner lanw a Swediaid, y rhai ni fedrent air o Seisneg. Dylai pawb a fwriadant ymfudo i Ogledd America fyned i'r drafferth i ddysgu ychydig o Seisneg yn gyntaf, neu gwael fydd eu tynged heb iddynt gadw cyf- ieithydd wrth law. Teithio trwy Illinois heddyw. Gwlad o wastadedd heb un bryn yn y golwg. Heidiau o adar a brain yn ehedeg o gwmpas; gweled ajnryw lynoedd ac afonydd yn wasgar- .dig drwy y wlad. Amlwg yw fod y parth hwn yn cynwys sefydliadau newyddkm. Croesi afon fawr y Mississipi yn y prydnawn, un o brif afon- ydd yr America, yr hon sydd yn y parth canol- dirol hwn dros chwarter milldir o led. Y tu gorllewinol i'r afon y mae tref Burlington.

Y WLADFA GYMliEIG.

NODIADAU AR GYFARFODYDD LLENYDDOL…

LLAWLYFR Y GLOWR.

" BLÃCKJVELL" A FFYNON TAF.

OGOF ORLANDO.

- MR. WILLIAM ABRAHAM (MABON)…

DEWCH I'R WYL.