Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

FICER VV/AKEFIELD.

[No title]

Arlywyddiaeth yr Unol Dalaethau.

Ffrwgwd Angeuol yn Llantwit…

YR ARSYLLFA.

News
Cite
Share

YR ARSYLLFA. Nid peth hyfryd a dymunol yn y byd ydyw gwahaaiaethu oddiwrth eia cyfeill- ion, ac y mae eich GOHEBYDD LLUNDAINIG a minau yn gyfeillion mynwesol er's hir flynyddau bellach. Fodd bynag; pan y mae yn sangu ar diroedd peryglus ae anam- ddiffyoadwy mewn gwleidiadaeth neu ryw aeth arall, yr ydym o dan yr angenrheid- rwydd i roi y filangell yn ysgafn i ido—y mae yn rhy dda genym am dano i'w fesur yn drwm iawn. Wel, yn eich rhifyn di- weddaf, ceir y sylw a ganlyn ganddo:— Os ydoedd y bobl a alwodd yn nghyd y gynadledd dydd Gwener diweddaf yn llwyr argyhoeddedig fod ein Llywodraeth yn dilyn policy annghynawn, ac un niweidiol i lesiant ein teyrnas, ac yr oedd y siarad- wyr yn y gynadledd, un ac oil, yn awgrymu hyny yn bendant, hwy a ddylas- ent, debygem ni, fod wedi galw y gynad- edd yn nghyd yn nghynt o lawer, ac fod wedi cynal cyfarfodydd cyhoeddus drwy hyd a lied y deyrnas er galw yn groew ac awdurdodol ar ein Gweinidogioa i roddi i fyny awenau y Llywodraeth yn ddiym- aros." Yn awr, dymunwn ofyn i'ch Gohebydd o Lundain, pa beth oeddynt y cyfarfodydd a gynaliwyd yn y deyrnas hon yn Awst, Medi, a Hydref? Onid oeddynt yn gyfarfodydd condemuiol o weithrediadau y Weinyddiaeth? Rhodd- wyd gwynt i syniadau yn amryw o'r cyf- arfodydd hyny irr perwyl fod policy Llyw- odraeth Prydain wedi bod yn fath o glogyn gen y Twrc i gyflawni ei uffernwaith yn Bulgaria. Holwyd Gweinidogion ei Mawr- hydi yn nghylch y mater cyn toriad i fyny y Senedd, ond beth well? Nid oedd cyn- adledd fawr Llundain pythefnos i he Idyw ond arddadganiad ae arddangosiad cy- hoeddus fod yr un teimladau ag a drydan- ferwent ein cyfarfodydd diweddar, eto yn fyw. Gwyr ein Gohebydd yn gystal a minau, fod y cyfarfodydd hyny wedi newid cryn dipyn ar policy y Llywodraeth, ac ni ryfeddem os bydd i'r gynadledd fawr ddy- lanwadol ddiweddar newid ychwaneg eto arno. Yn yr ysbryd hynawsaf yr ydym yn cynyg y sylw uchod i ystyriaeth ein cyfaill o Lundain. Yr ydym yn deall fod dydd Nadolig, a'r dydd canlynol, i fod yn ddyddiau uchelwyl yn Aberdar, gan fod y Cor Undebol, dan arweiniad Mr. Rees Evans, i roddi perfform- iadau o "SAMSON," un o dreithganau godidocaf yr hen gerub- gerddor Handel. Nid oes ddadl na fydd yma fechgyn a merched o bell ao agos yn gwrando y darn ardderchog hwn; ac yr ydym yn deall fod y cor wedi ymberffeithio yn rhyfeddol yn eu datganiad ohono. Bydd yma, hefyd, artistes o fri yn eu cynorthwyo yn yr adrodd-ganau, yr unawd- au, &c. Gallwn sicrhau ein holl ddarllen- wyr y bydd yn dreat i wrando Samson yn Aberdar. Wel, dyma ni yn cael y fraint o gyfarch ein darllenwyr bron ar derfyn un FLWYDDYN ARALL. Y mae "Arsyllydd" a chwithau, bellach, yn hen gyfeillion, ac yn cyfarfod a'u gilydd fynychaf bob wythnos ar dudalenau y GWLADGABWB. Gobeithio na fu '76 yn flwyddyn mor ddu i chwi ag i ni. Yn ei gwanwyn hi y daeth saeth oidiar fwa angeu i wneyd bwlch anadferadwy yn ein teulu, trwy gipio un o'n hanwyliaid i Ardal lonydcl yr arr-delynau." Tebyg nad ydych chwithau oil wedi dianc heb rai rhwygiadau. Rhaid tynu tua'r terfyn y tro hwn, gyda dymuno i chwi feirdd a cherddorion lawer o wobrau a thlysau y Nadolig; ac i'n holl gyfeillion a'n darllenwyr, dymunwn HABOLTQ LLAWEU a BLWYDDYN NEWTDD DDA.

Advertising

Byoddefladau erchyll morwyr…

Helyntion y Cwmbach.

ABERAFON.