Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
AT Y GLOWYR.- CONTRACT RULES.I
AT Y GLOWYR.- CONTRACT RULES. I MR. GOL.Ar gais amryw or pyllaii yn y cwm, dymnnaf hysbysu y cynelir cyfarfod « gynrychiolwyr, o Mountain Ash i Resolven, yn y Bute Arms, Aberdar, dydd Llun nesaf, Rhagfyr 18fed, am 4 o'r gloch. er cymeryd i ystyriaeth a chael cyd-ddealldwriaeth yn nghylch y Contract Rules. Dymunir ar bob .glofa yn y cwrn i ddanfon cynrychiolydd i'r -eyfarfod. Y r eiddoch, Aberdar. SAMUEL DAVIES.
ERYR MORGANWG.
ERYR MORGANWG. MR. GOL. ,—Ymhyfrvda y Weekly Mail, am dydd Sadwrn, y 9fed cyfi-sol, yn y gor- chwyl o draethu anwiredd fod Eryr Morgan- -wg wedi myned i'r Amerig, a chydag ef ferch neu foneddiges ieuanc. Gwir iddo fyned yn yr agerlong Wyoming, ond Did oedd yr un fenyw yn ei ganlyn. Gresyn nad allai ten In y Mail ddyfod ambell i dro i ardal y gwirion- edd. Os mai Morien ydyw awdwr yr anwir- edd hwn, dylai gael ei ysgymnno drwy gynffon y sarff, a byth mwyach i gael oi adnabod fel bardd na lienor yn mhlitlx y frawdoliaeth yn JVIhontypridd.—Yr eiddoch, JOHN.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. "FRA yn llafurio o dan ddylanwad anhwyldeb corfforol, o'r braidd y teimlwyf nnrhyw awydd i gychwyn yr wythnos hon. Bu cryn gynhwrf ar y Gyfnewidfa dydd Sadwrn trwy dderbyniad brys-genad twyll- "odras o Gaercystenyn fod y Cenadwr Pryd- einig, Arglwydd Salisbury, wedi ei frad- lofruddio, nos Wener, yn ei ystafell wely. Bu agos a myned yn chwyldroad cyffredinol, am fod newyddion o'r fath yn dylanwadu yn niweidiol ar fuddsoddion masnachol. Y farn erbyn heddyw ydyw, fod y direidwaith wedi ei gyflawni gan ryw walch hirben, er mwyn elw yn rhywffordd neu gilydd. Mae yn Uawn bryd i'r gwahanol Lywodraethau i ym- yraeth, a gosod terfyn ar feiddgarwch y Twrc a chanibaliaid ereill sydd yn heidio y Cyfan- dir. Gan nad wyf yn proffesu deall cyfrinion y gwledydd, rhaid gadael y mater i arall sydd yn deall yn well. Nid dymunol genyf fyned yn eithafol ar y pwnc hwn, mwy naphynciau ereill, fel y gwna rhai oraclau sydd yn ystyr- ied eu hunain yn anffaeledig. Mae digon i'w ddweyd ar wahanol bynciau, ond rhaid i mi ymfoddloni ar ychydig yr wythnos hon, gan y tybiwyf fod genych ddigon ar y bwrdd am y tair wythnos ddyfodol. Y mae Elldeyrn wedi ei gael yn llenleidr yn y drafodaeth ar y Farwnad fnddugol i'r Parch. John James, B. A. Mae yr un gerdd wedi bod yn fuddugol o'r blaen o dan feirn- iadaeth loan Arfon, yn Cerygydruidion, ryw- bryd yn y gorphenol. Amser a ddengys pwy ydyw y gwir awdwr. Os yr Elldeyrn yw perchen y ddwy, mae efe wedi troseddu rheolau cystadleuaeth drwy anfon eiddo y pwyllgor cyntaf, a chael gwobr am dani yr ail waith yn Le'rpwl. Nid oes dim arall i -ddweyd ar y pwnc am yr wythnos hon, ond tebyg y bydd genyf air yn mhellach yr wyth- nos nesaf, os caf oleuni gwell ar y pwnc. Bydd yr eisteddfod nesaf i'w chynal yn y Philharmonic Hall, dydd Nadolig. Llywydd, A. B. Walker, Ysw., maer y dref,-y bon- eddwr a bardduwyd yn waeth nallofrudd er's ychydig yn ol gan aelod o bwyllgor y Gordof- igion. Cymaint a hynyna yn awr, hyd dro arall. Arweinydd yr wyl fydd fy hen gyfaill tnynwesol, y Parch. Evan Gurnos Jones. W, rth wneyd y sylw yma, mae adgof am y dyddiau gynt yn dyfod i'r meddwl yn newydd, pan oedd Evan yn hogyn ar y Gtirnos gyda y Parch. B. Thomas, enw yr hwn sydd yn ddigon adnabyddus yn Nghymyu yn mhlith y foobl gyhoeddus. Un o'r cantorion cyflog- edig fydd William Hopkin, y tenor, o Mount- ainash. Disgwyliwn iddo ddyfod allan yn deilwng o gantorion y De, ac nid i dynu gwaradwydd m-Ilom fel Hwntws. Dywedaf hyn er rnwyn i'r cyfaill fod yn barod i'r gwaith, a'i wneyd yn deilwng o glod a chy- meradwyaeth y Cymry o Dde a Gogledd. Rhaid i chwi fod yn foddlon ar hyn am y tro presenol.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Advertising
WANTED. BIRMINGHAM Goods, Jewellery, Watches, Harmoniums, &c. Agents wanted. New Specialities. New illustrated book free. Apply —Henry May. Birmingham. 1443 "Mor o gan yw Cymru 'gyd." Pantteg, Ystalyfera. CYNELIR EISTEDDFOD fawreddog yn y lie C uchod DYDD GWENER Y GROGLITH, 1877. Cerddoriaeth. "L, I'r C6r, heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu Anrhydedda.'r Arglwydd," Rhif 121 o'r Gerddor Cymreia, gan W. H. Owen; gwobr, lOp. 10s. 2. I'r C6r, heb fod o dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu Rhyl," o'r Ychwanegiad (Ieuan Gwyllt); gwobr, 2p. 2s. Bydd yr oil o'r manylion i'w cael ar y programme iSim y pris arferoi gan yr ysgrifenydd,— Mr. Joiiii HARRIES, Shearer. Pantteg, Ystalyfera. 1461
NODI AD AU AR GYFARFODYDDI…
NODI AD AU AR GYFARFODYDDI LLENYDDOL TONYREFAIL. SYR.—Fel y gwel eich darllenwyr oddi- wrth adroddiad o eiddo eich gohebydd mewn colofn arall, cynaliwyd cyfarfod llenyddol cofiwch, yn y lie uchod, nos Wener yr 8fed cyfisol. Gan fod y cyfarfodydd i'w cynal bob pythefnos drwy y gauaf, danfonasom lythyr i'r pwyllgor ychydig wythnosau yn ol, yn gweuthur nodiadau ar y cyfarfod blaenor- ol. Bu yr ysgrifenydd yn ddigon caredig i'w ddarllen yn y cwrdd canlynol, am hyny danfonasom ail lythyr o'r un natur a'r cyntaf. Ond, a ddarllenwyd ef ? Naddo ddim, am fod hysbyslen y cyfarfod hwnw yn rhy faith yn barod. Gwnawd penderfyniad unfrydol bron, ei fod i'w ddarllen yn y cyfarfod nesaf. Y cyfarfod nesaf a ddaeth, ond och ddar- llenwyd mo'r llythyr. Erbyn hyny, yr oedd wedi ei fesur wrth ffon lathen ein brodyr parchus, a chafwyd ei fod ddim up to the mark. Na, nid felly, ond wele y rheswm— yr oedd yn rhy sarcastic. Yn awr yr ydym yn gofyn i Olygydd a darllenwyr parchus y GWLADGARWR, a oes modd bod yn rhy sarcastic wrth draethu ar 1) gomic songs, fel "That fellow, Jim," a than- euon maswedd ereill? Nid ydym yn dweyd gair pan yn clywed caneuon o'r fath, neu yn hytrach y caneuon hyny yn cael eu canu mewn tafarndai, am eu bod yno yn right thing in the right place. Ond pan y mae y comic songs hyn yn cael eu llusgo i lwyfanau cyfarfodydd sydd yn myned dan y ffugenw cyfarfodydd llenyddol, y mae yn bryd i bob carwr llenyddiaeth bur i agor ei lygaid a phrotestio yn eu herbyn. Y mae pump o'r cyfarfodydd hyn wedi eu cynal yn Tonyrefail y gauaf hwn, ond yr ydym yn beiddio dweyd yn ngwyneb haul a 5llygad goleuni nad oes neb wedi cael ynddynt fwy na gwerth pum' hatling o lenyddiaeth bur. Gofynasom i un o'r Temlwyr Da, beth oedd y rheswm nad oeddym yn cael gwaith dynion fel Macaulay, Byron, Eben Fardd, Caledfryn, ac ereill? Dyma'r atebiad—" Pw, mae mwy o fyn'd mewn comic songs." Y I' eiddoch, OENIN.
Y PWNC DWYREINIOL.
Y PWNC DWYREINIOL. YSGRIFENA Gohebydd y Daily Neivs o Gaercystenyn fod y gred gyffredinol yn mysg y Tyrciaid y bydd rhyfel yn anocheladwy, a bod Lloegr yn golygu cynorthwyo Twrci. Cadarnhawyd y grecliniaeth hon yn fawr gan araeth Iarll Beaconsfield, a chan frys- newyddion a gyrhaeddant yno bron yn ddyddiol am ddarpariadau rhyfelgar yn Lloegr. Paham y bydd rhyfel rhwng Lloegr a Rwsia, nid oes neb yno yn alluog i ddweyd. Gwyddid yn dda yn Nghaercystenyn, hyd yn nod cyn brys-lythyr Arglwydd Derby i lys. genadwr Prydain yn St. Petersburgh, fod Rwsia yn foddlon cydweithredu a Lloegr, neu os gwnai Lloegr ei hun weithredu, i ddilyn yn ei hoi, os byddai iddi ategu ei chynygion ei hun am ddiwygiad. Gwyddid hefyd fod Rwsia wedi derbyn cynygion Lloegr am hunan-lywodraeth leol, er iddi ganiatau neu fyntumio y byddai yn well ganddi gael gwarantiaclau cryfach. Honir na ddarfu i Rwsia roi un cam, neu wneyd un cynyg, ond mewn cydweithrediad a Lloegr. Ond yn ngwyneb absenoldeb hollol o unrhyw gynyg gan Rwsia i weithredu wrthi ei hun, neu hel- aethu ei gofynion ar y Porte tuhwnt i der- fynau y rhai a wnaed gan Loegr, y mae Caercystenyn wedi tynu y casgliad fod Lloegr yn ymofyn ymladd a hi. NEWYDDION o Vienna, dyddiedig nos Wener, a'n hysbysant nad yw ymarfogiad y Rwsiaid yn cael ei wthio yn mlaen yn awr gyda chyflymder, a bod y golygiadau a fIYn- ant yn nghylchoedd uchaf St. Petersburgh yn fwy cymedrol na chyn araeth hynod Bismarck. NEWYDDION o Berlin yr un dyddiad a ) ddywedant fod y cadlywyddion Tyrcaidd wedi derbyn eirchion i ystorio digon o ym- borth yn amddiffynfeydd y Danube am wyth mis. Y mae gal wad wedi ei wneyd ar drigol- Rutschnk i dderbyn 30,000 o gatrodau Asiaidd. YR ydym yn deall fod Arglwydd Salisbury wedi cyrhaedd Caercystenyn, a golygai ei arglwyddiaeth gael ymddyddan a'r Sultan dydd Sadwrn diweddaf. WEDI ysgrifenu yr uchod, gwelsom y newydd fod Arglwydd Salisbury wedi cael ymddyddan a'r Sultan dydd Sadwrn. Yr oedd Syr Henry Elliot gydag ef, a Mr. Northcote, ei brif ysgrifenydd. Ei Fawr- hydi, yr hwn a gylchynid gan brif swyddogion ei ymerodraeth, a dderbyniodd gynrycholi wyr Prydain yn y dull mwyaf caredig. Golygid i'r cynadleddau rhagarweiniol ddechreu dydd Llun diweddaf yn mhalasllys-genadwr Rwsia. Deallid fod perffaith gydgordiad o ran golyg- iadau yn ffynu hyd yn bresenol rhwng Ar- glwydd Salisbury a'r Cadfridog Ignatieff, ac y mae y gwahanol ymddyddanion rhwng y llysgenadau hyd yma wedi bod yn ffafriol i ddealldwriaeth da. MEWN brys-lythyr a anfonwyd gan Safvet Pasha, Gweinidog Tramor Twrci, i gynrych- iolwyr Tramor y Porte mewn atebiad i nodyn y Tywysog Gortschakoff am y 13eg o'r mis diweddaf, tystia nad yw y Porte yn gyfrifol am gyflwr truenus rhai o'r Talaethau. Dat- gana hefyd fod y Porte yn golygu dwyn i mewn ddiwygiadau yn y Talaethau, heb wneyd gwahaniaeth rhwng crefyddau na llwythau. Dyna yn fyr ansawdd y Cwestiwn Dwyrein- iol ar hyn o bryd. Ofer fyddai ceisio dyfalu dim gyda golwg ar ganlyniad a ffrwyth y Gynadledd; ond diau na fyddwn yn hir bellach cyn cael rhyw fanylion pendant gyda golwg ar y dyfodol.
Cyfarfod y Dirprwywyr yn Merthyr.!
Cyfarfod y Dirprwywyr yn Merthyr. Dydd Llun, cyfarfu dros 50 o ddirprwy- wyr yn cynrychioli 25,000 o lowyr yn y Cross Keys, Merthyr, er ystyried y trefniadau rhagarweiniol i sefydliad yr undeb newydd Mr. Evan Thomas, Aberdar, yn y gadair, a Mri. David Thomas a Enoch Morris yn ys- grifenyddion. Parhaodd y cyfarfod trwy y dydd, ac yr oedd Mr. W. Abraham (Mabon), H. Mitchard, P. Jones, Abertileri; a S. Davies, Aberdar, yn bresenol. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— 1. Bod y gwahanol ddosbarthiadau i ddal yr un safleoedd ag oedd ganddynt dan yr Amalgamated (yn awr wedi darfod) gydag awdurdod ganolog o raniad cyffelyb o'r drysorfa. 2. Fod pob dosbarth i ddewis ei oruch- wyliwr ei hun, a'i dalu yn ol cytundeb dir- gelaidd. 3. Fod y personau canlynol i fod yn swydd- ogion yr Undeb newydd am y tri mis cyntaf: —Llywydd, Mr. W. Abraham; trysorydd, Mr. E. Williams, Aberdar; ysgrifenydd, Mr. David Thomas. 4. Fod y "tanysgrifiad cyntaf yn ol y swm a sefydlwyd eisoes i gael ei dalu i'r ganolfan erbyn Ion. 9fed, 1877. 5. Fod y pwyllgor a weithredai dan Undeb Cenedlaethol y Mwnwyr yn y parth hwn, i gadw eu safleoedd dan yr Undeb newydd am y tri mis cyntaf. 6. Fod y cyfarfod yn ymwystlo i wneyd yr oil yn ei allu i gynorthwyo y glowyr ydynt yn awr ar strike yn Llanelli. 7. Fod cyfarfod dirprwyol i gael ei gynal yn y Cross Keys, Merthyr, Rhag. 26ain, i ystyried cynygiad y meistri o barthed i'r amod-reolau. Ymddengys fod unfrydedd mawr yn ffynu yn y cyfarfod.
Cyfarfod y Glowyr yn Mountainash.
Cyfarfod y Glowyr yn Mountainash. Prydnawn dydd Gwener diweddaf, cynal- iwyd cyfarfod o'r glowyr yn yr Allen's Arms, dan lywyddiaeth Mr. John Thomas. Y mater cyntaf ddaeth dan sylw ydoedd yr undeb cynygiedig i sir Fynwy a Deheuclir Cymru. Bu y cwestiwn o ffurfio Undeb Cymreig dan sylw y cyfarfod dirprwyol a gynaliwyd yn Merthyr yn ddiweddar. Pas- iwyd penderfyniad yn y cyfarfod hwnw fod Undeb i gael ei ffurfio, a chadarnhawyd ef yn y cyfarfod hwn. Penderfynwyd hefyd fod trysorfa gyffredinol barhaol o 500p. i gael ei .Y chodi, a'r rhelyw o'r cyfraniadau i gael eu cadw yn y cyfrinfaoedd. Cytunwyd yn mhellach mai cadeirydd ac ysgrifenydd cy- ffredinol oedd yr unig swyddogion i fod yn gysylltiedig a'r Undeb newydd. Yna aed yn mlaen i sylwi ar y rhybuddion a osodasid i fyny yn y gwahanol lofeydd, a gwahoddir y gweithwyr i apwyntio pwyllgor i benderfynu 11 11 y gyda phwyllgor y meistri ar gyfres newydd 0 amod-reolau (contract rales). Oddiwrth don amryw o'r siaradwyr, ymddengys fod y gweithwyr yn edrych ar y cynyg hwn gyda chryn lawer o ddrwgdybiaeth. Penderfyn- wyd fod y cyfarfod dirprwyol oedd i'w gynal yn Merthyr dydd Llun i ohebu a'r meistri, er cael allan pa ryw fath bwyllgor ddymunent gael;-pa un a oeddynt yn ymofyn rhyw bersonau ereill i gynrychioli y gweithwyr heblaw y rhai oeddynt ar y Bwrdd Cymodol. Dewiswyd y cadeirydd i gynrychioli Mountain Ash yn y cyfarfod dirprwyol dydd Llun yn Merthyr.
Cyfarfod y Glowyr yn Rhymni.
Cyfarfod y Glowyr yn Rhymni. Dydd Sadwrn, cyfarfu glowyr Pwll y Mardy yn y Farmer's Arms, er arwyddo deiseb at Mr. C. Smith, cadeirydd y cwmni, i ddyfod i setlo yr ymrafael presenol a'r gweithwyr. Arwyddwyd ef gan tua 300 o'r glowyr.
Y Marchnadoedd.
Y Marchnadoedd. Yn marcllliad yr vd, yr oedd mwy yn cael ei ofyn am wenith Prydeinig a Thramor yn Llun- dain, ond dim ond y prisoedd blaenorol a geid am danynt pan y gwethid dim o honynt. Yr oedd y peilliaid yn agor gyda gofyniad am godiad yn y pris, ond ni werthid ond am y pris blaen. orol. Yr haidd at fragu a malu yn sefydlog. Y siwgr yn parhau yn yr un sefyllfa, a braidd y gwnaed un math o fasnach oddigerth ychydig yn y crystalised. Coffi yn sefydlog. Ymenyu yn Is. 8c. y pwys. CAERFYHDDIN.- Yn ,y farchnad dydd Sadwrn diweddaf yr oedd cryn gyflenwad o ymenyn, yr hwn a werthid am o Is. 3c. i Is. 3hc. y pwys. 2 Caws o 26s. i 27s. y cant, sef 112 pwys. Cig eidion, 8e. y pwys. Cig dafad, 8Jc. y pwys. Cig llo, 81c. y pwys. CORK.—Yr oedd masnach yr wythnos ddi- wecldaf fed y canlynYmenyn hallt cyffredin, mewn twbaau, 141js,; ail, 130s.; trydydd, 120s.; pedwerydd, 112s. Yr oedd yn y farchnad 1,298 o ffircynau.
[No title]
PONTYBEREM.—Cawsom ein breintio yr wythnos ddiweddaf a dwy o'r darlithiau mwyaf godidog a glywsom erioed yn y lie. Y cyntaf gan Mr. Rogers, Penbre, ar "Ddirwest a Thernlyddiaeth Dda;" yr oeddem yn ami yn teimlo ein bod yn nghanol y meddwon gan fel yr oedd yn eu gosod o'n blaen. Y mae clod yn ddyledus i amryw o'r brodyr dirwestol am eu hymdrech o blaid yr achos. Yr ail ddarlith gafwyd gan Mr. Jones, Felin- foel, ar "Bunyan a'i Amserau." Digon yw. dweyd fod Mr. Jones yn ei hwyliau goreu. Yr oedd elw y ddarlith hon yn myned i adeiladu tý at gynal Ysgol Sabothol yn agos i Brynbanal, a chadw cyfarfodydd ar nos Sul.-Abednego.
Advertising
"Tra m6r tra. Brython." "Oes y byd i'r iaith I Gymraeg." c'. Eisteddfod Iforaidd Treherbert. BYDDED hysbys i bawb drwy Gymru ben- JD baladr y cynelir yr Eisteddfod uchod yn y PUBLIC HALL, TREHERBERT, ar DDYDD GWYL DEWI SANT, 1877, o dan nawdd Adran Ystrad Rhondda. Beirnictd y Gerddoriaeth: MR. J. W. PARSON PRICE. Beirniad y Farddoniaefh—IaivrxN. Beirniad yr Adroddi"dau—Mr. T. LODWICK, Treherbert. OANIADAETH. 1'1' cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu y Chorus blaenaf o "Weddi Habacuc," gan J. A. Lloyd; gwobr, 18p., a 2p. i'r Arweinydd. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu "Pebyll yr Arglwydd," gan Pencerdd America; gwobr, 10p., a lp. i'r Arweinydd. Ni chaniateir i gor a enillodd dros 15p. o'r blaen i gystadlu. I'r cor o blant, heb fod dan 30 mewn nifer, na thros 15 oed, a gano yn oreu "Cymru Fad;" gwobr, 5 p. Caniateir i wyth mewn oed eu cy- northwyo. BARDOONIAETII. Am y Bryddest Fywgralfyddol oreu i'r di- weddar wladgarwr Canon Jenkins, heb fod dan 400 llinell; gwobr, 5p. Am y gan o glod oreu i Gwilym Williams, Ysw., Miskin, fel noddwr cymdeithasau. Ton "Toriad y Dydd;" gwobr, Ip. 10s. CERDDORIAETH. Am yr Anthem oreu ar y ddwy adnod—gwel Esaiah Iv. penod, a'r 11 a 12 adnodau; gwobr, 4p. 4s. Bydd yr holl fanylion i'w cael ar y 2>rogramme, yr hwn ellir gael am y pris arferol gan yr Ys- grifenydd,— THOMAS WILLIAMS, Oak Cottage, Penyrenglyn, Treherbert, 1459 Pontypridd. Libanus, Trefforest. PYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod C DYDD SADWRN, IONAWR 13EG, 1877. Beirniad y Gerddoriaeth, &c., MR. H. MILLS (TAEONWY), PONTYPRIDD. Beirniad y Traethodau, y Farddoniaeth, Adrodd- iadau, (be., MR. C. COSSLETT (CARNELIAN), No. 2, Zion-street, Pontypridd. RHESTR O'R PRIF DESTYNAU.—Gerddoriaeth. 1. I gur, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu y Chorus "Hail, Judea," &c., (Judas). Gwobr, 5p. 2. I gor, o'nun rhif, a gano yn oreu "Groes- wen," Emyn, "Wele, cawsom y Messia," &c. Gwobr, lp. 3. IgOr o blant, heb fod dan 20 mewn rhif, na dros 16eg oed, a gano yn oreu "Fy nghartref SY'll awl' yn ynef, &c., (Sum!J Jiwbifi). Caniateir i chwech o rai mewn oed i ganu gyda'r plant. Gwobr, 15s. 4. I'r tri a ganont yn oreu "Mae tri yn well na dau," &c., ( C'einciau'r Gerdd). Gwobr, 6s. 5. I'r ddau a ganont yn oreu "Flow gently, Deva," &c. Gwobr, 10s. 6. i'r lion a gano yn oreu "Gyda'r Wawr," (Pencerdd Givalia). Gwobr, 5s. 7. I'r hwn a chwareuo oreu ar yr harmonium y "March," (Judas). Gwobr, 7s. 6c. Barddaniaeth. 8. Am y 60 llinell goreu ar "Frawdgarwch." Gwobr, lp. 9. Am y 6 englyn unodl union goreu ar "Ifor- iaeth." Gwobr, 10s. Traathaivd. 10. "Y budd deilliedig o fod yn aelod o Gymdeithas." Gwobr, 10s. Programmes yn barod, pris ceiniog; trwy y post, ceiniog a dimai. Am bob manylion pellach ymofyner a'r ysgrifenyddion, Mr. JOHN DAVIES, Maltsters' Row, Rhydfelen, Nr. Pontypridd. Mr. E. JONES (Ieuan Glyn Cothi), 1452 Berw-road, Pontypridd. Siloh, Pentre, Rhondda. BYDDED hysbys i bawb y cynelir EIS- TEDDFOD yn y lie uchod DYDD LLUN Y PASG, EBRILL laf, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Caniadaeth, Bardd- oniaeth, &c. 1. I'r Cor o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn or-m, And the glory of the Lord," o'r Messiah gwobr, 12p. 2. I'r Cor o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 30 mewn rhif, ac na enillodd dros lOp. o'r blaen, a gano yn oreu "Pebyll yr Arglwydd" (Pencerdd America); gwobr, 5p. Bydd y gweddill o'r prif destynau yn barod yr wythnos nesaf, yn nghyd ag enw y beimiad. —Dros y Pwyllgor, 1468 D. THOMAS, Grocer, Pentre. i., Philadelphia, Hafod, ger Abertawe. CYNELIR EISTEDDFOD yn y capel uchod prydnawn dydd SADWRN, CHWEEROR 17, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn canu, adrodd, cyfansoddi, &c. Prif Ddarnau Cerddorol. 1. I'r cer, heb fod dan 30 mewn nifer, a ddad- gano yn oreu "N ant y Mynydd," gan John Thomas; gwobr, 3p. 2. I'r cor o'r un nifer a ddadgano yn oreu "Darwell," o Lyfr Canu Cynutteidfaol Harries, Jones, a Howell; gwobr, lp. Bydd y gweddill o'r testynau ac enwau y beirn- iaid, &c i w cael yn y programme, yr hwn a fydd yn barod Ionawr laf, 1877, ac i'w gael am y pris arferol gan yr ysgrifenydd, — BENJAMIN MORGAN. Near Pentre Gate, Swansea. 1467 Yn y wasg, i'w gyhoeddi can gynted ag y Ceir 1000 0 enwau, melOn pedàir neu bump 0 llanau Gc. yr un gydalr Post, 6hc. 2 "Llawlyfr y Glowr," YN dangos ei beryglon, a'r moddion goreu i'w hysgoi. Gan D. WEEKS (Honddu), Tre- herbert. Bwriedir cyhoeddi Rhan bob chwech wythnos. Gan na argreffir ond y nifer gofynol, byddwn yn ddiolchgar i bawb am/anion eu henwau yn ddioed at y Cyhoeddwr,—D. DAVIES, Printer, Treorky, Rhondda. Gellir cael Taflen o'r Cynwysiad drwy anfon stamp at y Cyhoeddwr.. 1466 J NEWYDD PWYSIG pAHAM y dyoddefir oddiwrth glefydau im bob ma^h 1 Am y rheswm nad yw'a Bobl yn cymeryd y Feddyginis.eth bwrpasol at ? Dolunau hyny ag y mae y corff yn dyoddef oddf W^ 7n n' i • 1- dalier sylw,—Pawb sydd yn dy- oddef oddiwrth y Dropsy, yr hyn sydd yn arwyddo crynodeb o ddwfr a, gwynt yn ngwahanol bibellaw y cortf dynol, yr hvn sydd yn gwenwyno y gwaed. a thrwv hyny yn effeithio ar yr Ymenydd, yr Afu, yr Ysgyfamt, y Cylla, y Galon, yr Arenau, a'r rserves, lr fa oh raddau fel ag i achosi Poen yn y Cefn, yn yr Arenau a'r Perfedd, Diffyg Dwfr. yr hwn sydd yn dew a chymysglyd, Gwynt yn y cylla^a r perfedd, cramp, cwsg a plioen yn y clun- lau a r traed, chwydd yn y traed, y cluniau, yy ymysgaroedd, a'r cylla, curiad y galon, diffyg anadl, peswch, syched, corif-rwymedd, poen yn y peii, gioesiaclan, peuysgufiider, g"\venclicl, cliffy^: axchwaeth, oerfel, traed oer, asthma, nerves eQ'way* at yr iinhwylderau hyn y mae G PATENT Rhag y Gwynt, y Dwfr, a'r Grafel, yn anifaeledig-, Ac os cymerir hwynt mewn pryd, fe gynyrch- ant wellhad uniongyrchol. Pan fydd y clefycl, o hir barhad dilyner arnynt am beth amser. Canoedd allant dystiolaethu i effaith neilldu- ol-y Peleni rhyfedd hyn. Rhai ohonynt a ddodir yma :— Glaf o Maes lago, Pontardawe, a ddywed — Derbymais flychaid o'ch Pills hynod, 'Hughes's Patent Dropsy Pills' dydd Llun diweddaf? ac wyf yn eu cymeryd oddiar hyny hyd yn awr (dydd Sadwrn) ac y maent yn gwneuthur lies mawr i mi, mewn cyn lleied o amser. Rhoddes haner dwsin L fy nhad, ac y mae ar yr ychydig hyny vn teimlo- llawer oles. Yr oeddwnyn aclnvyn oddiwrth boeo w yn pen ac yn y cefn, gwynt yn y cylla, dim ar- chwaeth, ac yn ami ddiffyg dwfr." Ali-, Phillips, Glanmor, Llanelli, wedi bod rhwngr pedair a phum mlyneddyn methu cerdded oblegyd. y dropsy, chwydd mawr iawn dros yr holl gorff diffyg mawr ar y dwfr ac ar yr anadl, y galon YD- curo yn enbycl, yn awr, wedi cymeryd tua thri blychaid o Hughes s Patent Dropsy Pills" tuag. at y gwynt, y dwfr. a'r gravel, yn gallu mynecil oddi amgylch y dref -y chwydd yn llawer llai, yr- anadl yn llawer gwell, ac wedi teimlo mwy .0 le» oddiwrth yr ychydig Hyn na holl foddion y doctor- laid a gymerais am yr amser maith yr wyf wedi; bod yn glaf. Yr wyf yn gobeithio y caiff y byd wybod am danynt. Gwellhad hynod Yr wyf yn awyddus eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iachad wrth gymeryd eich Pills* riiagorol chwi o'r enw "Hughes's Patent Dropsy Pills." Yr oeddem er's amser bellach yn cael fy mlino gan Chwydd yn y Cluniau a'r Ymysgaroedd. Diffyg Dwfr, ac ar yr Anadl, Poen yn y Cefn yn y Peil, y Galon yn Curo yn enbyd rhat gweith- iau, Diffyg Ireuliad, a'r gwynt yn fy mlino via. ami, ac er mawr syndod y maent hyd yn hyn wedi symud yinaith Tits neu Heintiau, y rhai svdtT wedi fy mlino ers blynyddau. Yr.oeddym vu, eu cael weithiau yn bur aml.- Yn dra diochgar, ydwyf, A. E. JONES, William St., Llanelli. ° Registered Trade Mark—"Dropsy Pills." Y mae'r Pelenau hyn wedi eu Rerli.iti-o ac yn Patent. Cospir pob dynwarediad. Gofaler cael' enw "JACOB HUGHES" ar Stamps y Llywodraeth. Ar werth mewn Blychau gan holl Chemists y* deyrnas am Is. lhc., 2s. 9c.. a 4s. 6c., gydsi'r Post ls. 2c., 2s. lie" a 4s. 9c., gan yPatentec- Jacob Hughes, Apothecaries' fJall, Llanelly. London Agents—Barclay & Sons. Sutton, & Co." Sanger, Hovendon, Newbury, Hereon. Squire and Francis; Bristol: Pearce & Co., Warren & Co.; Liverpool: Evans & Co., Kaimes & Co., ancf John ihompson. 1461 Eisteddfod y Crwys. IONAWR 25AIX, 1877. Prif Destynau. I'r Cor, heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn* oreu "Rhyfelgan Gwalia," o'r Gerddorfa; 8p. Ir 30 a gano yn oreu "Mai," gah Mr. John- Thomas, Blaenanerch; 2p. I'r Cdr a gano ynoreu "Leoni," o lyfr Stephens- a J ones; ] p. Traethawd ar "Hanes y Crwys am y Can" mlynedd diweddaf; lp. Marwnad i'r diweddar "Mr. Tom Wedrow. Evans; 10s. Beirniaid:- Y Canu MR. D. FRANCIS, Treforris. Y Farddoniaeth—WATOYN WVN. Programmes i'w cael gan Mr. FREBERIGK EVANS, Three Crosses, Penclawdd, Swansea. 1442 Y Gwir yn erbyn y Byd." Siloam, Gyfeillon. CYNELIR Seithfed Gylchwyl Lenyddol y lie- uchod DYDD GWENER Y GROGLTTH, 1877. RHESTR O'R PRIE DESTYNAU. Cerddoriaeth 1. I'r cor, heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu, Clyw, 0 Ddnw, fy llefain," o'r Gerddorfa; gwobr, 7p. 2. I'r Cor o Blant, heb fod dan 20 mewn nifer, na thros 16 oed, a gano yn oreu, "Dim ond clud- ydd arfau," o Swn y Jiwbili, Rhif 2. Caniateir i chwech mewn oed i ganu gyda'r plant: gwobr 1p. 10s.. Barddoniaeth. 1. Am y Bryddest oreu ar Aelwyd Bethania, heb fod dros 150 o lineliau gwobr, Ip. Is. Traethodau. 1. Am y traethawd goreu ar Ddylanwad borett oes gwobr, Ip. Is. 2. Am y traethawd goreu ar "Pa fodd i dreulio oriau hamddenol ? gwobr, 15s. Bydd yr ho 1 fanylion i'w cael ar y programme, yr hwn ellir gael am y pris arferoi gan yr y^rifen- yddion.— MR. J ff, Price | MR. THOMAS JENKINS, i Hafod, nr. Pontypridd. 1465. Rhybudd. BOED hysbys i bawb y GOHIRIR Eisteddfod 1 ONYRE KAIL hyd ddydd LLUN, Ionawr 22, 1877; a derbynir Enwau ar Adrodd, Canu, &c. hyd Ionawr 15, 1877. 1460 LEMUEL EVANS, Yag.